Bydd cyfraddau uwch yn daladwy ar y rhan fwyaf o bryniannau anheddau a wneir rai nad ydynt yn unigolion.
Dylid defnyddio'r diffiniadau canlynol i benderfynu pa reswm sy'n disgrifio orau pam fod y pryniant yn cael ei wneud.
A: Ar gyfer unigolion
Pontio neu ddim wedi gwerthu prif breswylfa flaenorol
Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r prynwr yn bwriadu i'r annedd a brynwyd fod yn brif breswylfa iddynt ond eu bod yn dal i fod yn berchen ar eu prif breswylfa gyfredol.
Byddant yn gallu gwneud cais am ad-daliad y dreth cyfradd uwch os:
- ydynt yn gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd, ac
- mae'r holl amodau perthnasol yn cael eu bodloni yn unol â’r canllawiau o dan DTTT/8120
B Ar gyfer rhai nad ydynt yn unigolion
Defnydd masnach neu fusnes (heb gynnwys prynu-i-osod neu lety gwyliau)
Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r prynwr yn bwriadu defnyddio'r annedd mewn perthynas â busnes neu fasnach. Nid yw hyn yn cynnwys:
- annedd prynu-i-osod, y dylid ei gofnodi o dan 'Landlord Prynu-i-Osod'
- llety gwyliau, y dylid ei gofnodi o dan 'Prynu llety gwyliau'
C Ar gyfer pob prynwr
Landlord prynu-i-osod
Dewiswch yr opsiwn hwn os:
- yw'r prynwr yn bwriadu gosod yr annedd hon ar sail cyfnod penodol neu gontract cyfnodol, a/neu
- mae ganddynt forgais prynu-i-osod
Prynu ail gartref neu gartref gwyliau
Dewiswch yr opsiwn hwn os nad yw'r prynwr yn bwriadu defnyddio'r annedd hon fel ei brif breswylfa.
Gall:
- y perchennog neu westeion, gan gynnwys teulu a ffrindiau, fod yn aros yno ar sail anfasnachol, a/neu
- ei fod yn cael ei osod yn achlysurol am gydnabyddiaeth neu’n rhad ac am ddim
Prynu llety gwyliau
Dewiswch yr opsiwn hwn:
- os yw'r prynwr yn bwriadu gosod yr annedd yn fasnachol fel llety gwyliau neu dymor byr, gan gynnwys fel llety gwyliau wedi'i ddodrefnu, a/neu
- pan fo rhywun yn aros yno am gyfnodau cyfyngedig
Prynu ar gyfer rhywun arall (gan gynnwys plant dan oed)
Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r prynwr yn prynu ar ran rhywun arall, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- blentyn dan oed, a
- bod y prynwr eisoes yn berchen ar fuddiant mawr mewn annedd arall
Prynu mewn perthynas ag ymddiriedolaeth
Dewiswch yr opsiwn hwn os:
- byddai buddiolwr ymddiriedolaeth noeth neu ymddiriedolaeth setliad yn cael ei drin fel prynwr ar gyfer TTT ac yn atebol am y gyfradd uwch pe byddent yn caffael yr annedd yn uniongyrchol, neu
- fod y prynwr (neu un ohonynt) yn ymddiriedolwr ar gyfer ymddiriedolaeth setliad lle nad oes gan y buddiolwr hawl i:
- fyw yn yr annedd(anheddau) am oes
- yr incwm a enillir o'r annedd(anheddau)
Canllawiau pellach o DTTT/8180 ymlaen Aneddiadau ac Ymddiriedolaethau Noeth
Trosglwyddo ecwiti (gan gynnwys morgais)
Dewiswch yr opsiwn hwn os oes trosglwyddiad ecwiti i'r prynwr a'u bod yn berchen ar fuddiant mawr mewn annedd arall.
Arall
Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r trafodiad yn denu cyfradd uwch ond nad yw o dan unrhyw un o'r opsiynau a ddiffiniwyd uchod.
Rydym wedi darparu blwch testun er mwyn deall unrhyw resymau nad ydynt wedi'u rhestru.