Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu’r cynnwys ar ffurf ‘Cynnwys Dogfen HTML’ ar LLYW. CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Mae angen  i chi greu Dogfennau HTML ar gyfer pob tudalen cyn creu’r dudalen Cynnwys Dogfen HTML

Defnyddiwch hyn ar gyfer: 

Sut i'w greu

Creu tudalen Cynnwys Dogfen HTML newydd

  1. Mewngofnodwch i i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch HTML Document Contents.
  5. Llenwch y maes Teitl.
  6. Llenwch y maes Crynodeb (pan nad oes ond un ddogfen wedi’i hatodi i’r cyhoeddiad dylai'r crynodeb hwn fod yr un fath â chrynodeb y cyhoeddiad).
  7. Dechreuwch deipio enw'r ddogfen HTML yr ydych am ei chynnwys yn y maes HTML DOCUMENTS.
  8. Dewiswch y ddogfen HTML gywir o’r rhestr.
  9. Os ydych am i’r Cynnwys Dogfen HTML arddangos teitl gwahanol ar gyfer y ddogfen HTML, teipiwch hyn yn y maes testun Custom text.
  10. Dewiswch Add another item ac ailadrodd camau 7 i 9 i ychwanegu dogfennau HTML eraill.
  11. Dad-ddewiswch Generate automatic URL alias.
  12. Rhowch alias URL addas, yn seiliedig ar deitl dogfen, ac ychwanegwch 'contents' i'r alias URL. Darllenwch enwi ffeiliau a dogfennau HTML i gael cyngor ar greu alias URL.
  13. Gwiriwch y dyddiadau First Published a LAST UPDATED.
  14. Dewiswch Save and Create New Draft.
  15. I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  16. Dewiswch Add o'r rhes â’r label Welsh.
  17. Diweddarwch bob maes gan ddefnyddio’r testun Cymraeg.
  18. Dad-ddewiswch Generate automatic URL alias.
  19. Nodwch alias URL addas, gan ddilyn yr un dull â'r fersiwn Saesneg, ac ychwanegwch '-cynnwys' at yr alias URL. Dilynwch y cyngor yn enwi ffeiliau a dogfennau HTML ar greu alias URL.
  20. I gadw newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I gadw newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  21. Cyhoeddwch y Gymraeg a'r Saesneg a gwiriwch y ddwy iaith, er enghraifft i sicrhau bod y gosodiad yn gywir a bod y dolenni’n gweithio.

Golygu tudalen Cynnwys Dogfen HTML sy’n bodoli’n barod

  1. Mewngofnodwchi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewch o hyd i'r Cynnwys Dogfen HTML presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  3. Agorwch HTML Document Contents
  4. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT
  5. Golygwch HTML Document Contents neu Add another item i ychwanegu tudalennau (gweler camau 7 i 9 yn Sut i greu).
  6. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  7. Newidiwch y dyddiad LAST UPDATED. Mae camau 6 a 7 ar gyfer newidiadau cynnwys yn unig. Peidiwch â’u defnyddio ar gyfer gwallau teipio a newidiadau fformat.
  8. I gadw newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I gadw newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  9. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r Cynnwys Dogfen HTML.

Yr elfennau sydd ar gael

Nid oes elfennau ar gael i’w defnyddio gyda’r math hwn o gynnwys.