Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd sy'n effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru. Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn cael eu hadnabod fel dioddefwyr posibl. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae drwy ddysgu adnabod yr arwyddion ac adrodd am bryderon.

Adnoddau Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer busnesau.

Mae tudalen Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru ar gaethwasiaeth yn darparu gwybodaeth am arwyddion caethwasiaeth fodern a sut i adrodd am bryderon. Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth am gaethwasiaeth fodern a chamfanteisio.

Mae canllawiau i weithwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. I gyd-fynd â'r cod, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol.

Am ragor o wybodaeth ac i drafod anghenion hyfforddi ychwanegol, cysylltwch â GwaithTeg@llyw.cymru

Adnoddau eraill

Mae Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu canllawiau ar adnoddau hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys e-ddysgu, fideos ac adnoddau eraill. Mae adnoddau penodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn sectorau fel gorfodi'r gyfraith, iechyd ac awdurdodau lleol.

Gellir dod o hyd i adnoddau ychwanegol yng nghasgliad caethwasiaeth fodern Llywodraeth y DU, gan gynnwys adnoddau ar gaethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi.

Mae'r Awdurdod er Atal Cam-drin Gweithwyr gan Feistri Gangiau wedi cynhyrchu ystod eang o adnoddau, gan gynnwys fideos, taflenni a gweminarau.

Mae swyddfa'r Comisiynydd Gwrthgaethwasiaeth Annibynnol wedi datblygu a chomisiynu adnoddau amrywiol. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau a chanllawiau.

Mae'r Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu adroddiadau amrywiol a chyhoeddiadau eraill ar faterion caethwasiaeth fodern.