Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r grant hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer creu arwynebeddau mwy o goetir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r grant hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer creu arwynebeddau mwy o goetir, neu ardaloedd llai nad ydynt yn addas ar gyfer y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.

Mae dyddiadau y cyfnodau nesaf ar gyfer ymgeisio ar Cynlluniau gwledig: dyddiadau ymgeisio.

Pwy sy'n cael gwneud cais

Caiff ffermwyr, rheolwyr tir a pherchnogion tir eraill wneud cais i'r cynllun. Rhaid i ymgeiswyr fod â Chynllun Creu Coetir wedi'i ddilysu ar waith cyn gwneud cais.  Mae cyllid ar gael i greu cynllun drwy'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Isafswm arwynebedd y tir y gellir gwneud cais ar ei gyfer yw 0.25 hectar. Nid oes uchafswm arwynebedd.

Yr hyn mae'r cynllun yn ei gynnig

Mae'r cynllun yn darparu cyllid ar gyfer plannu coed a gosod ffensys a gatiau.

Mae hefyd yn cynnig taliadau cynnal a chadw a thaliadau premiwm am 12 mlynedd (digolledu am golli incwm amaethyddol)

Ni fydd plannu coed o dan y cynllun yn effeithio ar Gynllun y Taliad Sylfaenol neu gymhwysedd tir.

Cyfraddau’r taliadau

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu am bob hectar o goed maent yn ei blannu. Bydd swm y taliadau'n dibynnu ar y math o blannu coed a nifer y coed a blannir ar bob hectar o dir: 

Cyfraddau'r talu
CategoriCoed fesul hectarTâl fesul Hectar
Bioamrywiaeth frodorol1,100£3,302
Bioamrywiaeth frodorol1,600£4,550
Cymysgedd gwell2,500£5,146
Carbon brodorol2,500£6,170

Amaeth-goedwigaeth ar dir isel (coed gwasgaredig)

 

50£2,000
Amaeth-goedwigaeth ar dir uchel (coed gwasgaredig)80  £2,500
Ffrwythau a chnau800 £4,000

Mae'r cynllun hefyd yn talu i ffensys a gatiau gael eu gosod o amgylch yr ardaloedd plannu. Y cyfraddau talu yw:

  • ffensys – £8.32 fesul metr
  • ffensys ceirw (o Gyfnod 3) – £11.93 fesul hectar
  • gât safonol (metel) – £221 yr un
  • gât safonol (pren meddal) – £291.75 yr un
  • gât safonol (pren caled) – £669.41 yr un
  • cilbyst a giât ceffyl o bren – £220.83 yr un
  • cilbyst a gât mochyn o bren  – £237.80 yr un

Mae'r cynllun yn darparu taliadau cynnal a chadw fesul hectar i ofalu am y coed am gyfnod o 12 mlynedd, fel isod. Y gyfradd cynnal a chadw fesul hectar ar gyfer blwyddyn 1 yw £400, £300 ar gyfer blwyddyn 2 a £250 ar gyfer blwyddyn 3. Y gyfradd fesul blwyddyn o flwyddyn 4 i flwyddyn 12 yw £70. 

I ddigolledu am golli incwm amaethyddol o'r tir y mae coed yn cael eu plannu arno, mae'r cynllun hefyd yn darparu taliadau premiwm blynyddol o £350 fesul hectar (nid yw hyn ar gael ar gyfer cynlluniau amaeth-goedwigaeth).

Mae taliad cynnal a chadw ar gyfer y categorïau amaeth-goedwigaeth ar dir uchel a thir isel (coed gwasgaredig) am 12 mlynedd (£70/hectar/blwyddyn) ond nid yw ar gael ar dir cyhoeddus. Nid oes taliadau premiwm ar gael ar gyfer y ddau opsiwn hyn gan y byddant yn parhau i gael eu defnyddio at ddibenion cynhyrchu amaethyddol. 

Sut i wneud cais

Bydd nifer o gyfnodau ymgeisio yn ystod y flwyddyn. Cyn gwneud cais mae angen i ymgeiswyr fod â chynllun creu coetir ar waith drwy'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

I wneud cais i'r cynllun, cyflwynwch ddatganiad o ddiddordeb ar Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.  Mae cyngor technegol ar gael gan Cyswllt Ffermio a Hyb Creu Coetir CNC

Mae rhagor o wybodaeth am:

  • sut i wneud cais,
  • canllawiau technegol
  • rheolau cynlluniau
  • amodau a thelerau
  • canllawiau sut i lenwi

ar gael yn Grant Creu Coetir

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o gyngor ar bolisïau a grantiau ffoniwch y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm – Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm.