Ein cynlluniau i greu Senedd fwy effeithiol a chynrychiadol.
Cynnwys
Cyflwyniad
Ein bwriad yw cryfhau democratiaeth drwy greu Senedd Cymru fwy effeithiol a chynrychiadol. I helpu i gyflawni hyn, mae 2 Fil wedi'u cyflwyno i'r Senedd:
- Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
- Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sydd bellach yn aros am y Cydsyniad Brenhinol, yn nodi ein cynlluniau i greu Senedd Cymru sy’n gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well.
Mae’n adlewyrchu sut y mae rôl a chyfrifoldebau’r Senedd wedi newid ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru agor ei ddrysau am y tro cyntaf yn 1999.
Bellach, gall y Senedd wneud deddfau a gosod trethi Cymreig – dyma benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pawb yng Nghymru.
Ond er bod cyfrifoldebau’r Senedd wedi cynyddu, nid yw nifer ei haelodau wedi newid.
Mae’n parhau i fod yn llawer llai na Senedd yr Alban, sydd â 129 o aelodau, a Chynulliad Gogledd Iwerddon, sydd â 90 o aelodau.
Newidiadau arfaethedig
Ar 8 Mai 2024, pleidleisiodd yr Aelodau o'r Senedd o blaid y canlynol:
- Cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau.
- Newid y system etholiadol i un sydd wedi’i seilio’n llwyr ar egwyddor cynrychiolaeth gyfrannol, a chynnwys enwau'r holl ymgeiswyr ar y papur pleidleisio. O etholiad y Senedd yn 2026 ymlaen, bydd fformiwla D’Hondt yn cael ei defnyddio (y fformiwla hon sydd wedi bod yn cael ei defnyddio i benderfynu ar Aelodau rhestr ranbarthol y Senedd Diwygio'r Senedd: geirfa).
- Creu 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd, a fydd yn cael eu creu drwy baru’r 32 o etholaethau newydd Senedd y DU ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026.
- Bydd chwe Aelod yn cael eu hethol, o restrau caeedig, ym mhob un o’r 16 o etholaethau.
- Cynyddu’r terfyn o ran nifer Gweinidogion Cymru y gellir eu penodi o 12 i 17 (ynghyd â’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol), a chyflwyno’r gallu i gynyddu’r nifer ymhellach i 18 neu 19 gyda chymeradwyaeth y Senedd.
- Rhoi’r hyblygrwydd i’r Aelodau o’r Senedd ethol ail Ddirprwy Lywydd.
- Ei gwneud yn gyfraith bod pob ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd a phob Aelod o’r Senedd yn byw yng Nghymru.
- O 2026 ymlaen, cynnal etholiadau’r Senedd bob pedair blynedd.
Mae’r Bil yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru. Cafodd yr argymhellion hyn eu cefnogi gan y mwyafrif o’r Aelodau o’r Senedd ym mis Mehefin 2022.
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) ar 11 Mawrth 2024.
Ei nod yw gwneud ein Senedd yn fwy effeithiol drwy gynrychioli cyfansoddiad poblogaeth Cymru o ran rhywedd yn well.
Yn 2003, daeth Cymru y wlad gyntaf yn y byd i ethol menywod i 50% o seddi ei senedd. Yn ystod y 2 ddegawd ers etholiad nodedig 2003, mae'r gyfran honno wedi lleihau.
Mae menywod bellach yn fwyafrif sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru. Menywod yw 51% o'r boblogaeth, ond dim ond 43% o ASau sy'n fenywod a dim ond 31% o'r ymgeiswyr yn etholiad diwethaf y Senedd oedd yn fenywod.
Newidiadau arfaethedig
Byddai Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn gosod cyfrifoldebau newydd ar bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno mwy nag un ymgeisydd, a hynny i sicrhau:
- Mai menywod yw o leiaf hanner eu hymgeiswyr etholiadol ar gyfer pob etholaeth.
- Mai menyw sydd ar frig o leiaf hanner eu rhestrau ymgeiswyr etholaethol.
- Bod pob ymgeisydd ar restr nad yw'n fenyw yn cael ei ddilyn gan fenyw.
Mae diwygio'r Senedd yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae'r gwaith yn cael ei wneud ar y cyd â Phlaid Cymru ac mae'n rhan o'r Cytundeb Cydweithio.
Llinell amser
Roedd argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ynghylch sut y dylid diwygio’r Senedd, yn seiliedig ar bron i 20 mlynedd o waith manwl, gan gynnwys:
- 2004: Y Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn Richard)
- 2014: Datganoli yng Nghymru: Comisiwn Silk
- 2017: Creu Senedd sy’n gweithio i Gymru: Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
- 2018: Creu Senedd i Gymru: ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gomisiwn y Senedd
- 2020: Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf – Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd
Y camau nesaf
- Mae Aelodau o'r Senedd wrthi’n craffu ar y ddau Fil ar wahân.
- Ar ôl y gwaith craffu, bydd Aelodau o'r Senedd yn pleidleisio i benderfynu cefnogi'r ddau Fil ai peidio.
- Bydd angen i uwchfwyafrif o Aelodau o'r Senedd (40 o'r 60 o Aelodau o'r Senedd) gefnogi'r Biliau er mwyn eu pasio.
- Os caiff y ddau Fil eu pasio, rhagwelir y bydd y newidiadau'n dod i rym o etholiadau'r Senedd yn 2026 ymlaen.
Gwybodaeth bellach
- Datganiad Ysgrifenedig: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
- Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Ddiwygio’r Senedd (27 Gorffennaf 2023)
- Datganiad Ysgrifenedig: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
- Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Ddiwygio’r Senedd (4 Ebrill 2023)
- Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Ddiwygio’r Senedd (16 Rhagfyr 2022)
- Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): asesiadau effaith
- Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): asesiadau effaith
- Y Pwyllgor Biliau Diwygio (senedd.wales)