Canllawiau i awdurdodau lleol ac ysgolion ar feini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Cynnwys
Trosolwg
Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddysgwyr cymwys mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Yr awdurdod lleol lle mae'r dysgwr yn mynd i'r ysgol (nid lle mae'n byw) sy'n:
- darparu'r pryd ysgol am ddim
- asesu cymhwystra
Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru nawr yn gallu cael mynediad at Brydau ysgol am ddim i holl bant ysgolion cynradd. Mae'r canllawiau hyn felly'n cyfeirio at y dysgwyr hynny sy'n gymwys i gael pryd ysgol am ddim drwy'r meini prawf sy'n gysylltiedig â budd-daliadau.
At ddibenion y canllawiau hyn, mae 'rhiant' yn unrhyw berson sy'n gofalu am y plentyn, gan gynnwys rhieni maeth. Nid oes rhaid i'r plentyn fod yn byw gyda'r rhiant neu'r gofalwr sy'n ei wneud yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Pwy sy'n gymwys
Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynd i'r ysgol yn llawnamser. Maen nhw'n cynnwys:
- plant iau sy'n gwneud diwrnodau llawn yn y meithrin
- disgyblion ysgol chweched dosbarth
Mae'n bosibl y bydd disgybl yn gallu cael prydau ysgol am ddim os yw ei riant yn derbyn un neu fwy o'r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm.
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm.
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm.
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
- Elfen warantedig Credyd Pensiwn.
- Credyd Cynhwysol (cyhyd â bod incwm blynyddol net yr aelwyd yn llai na £7,400, heb gynnwys budd-daliadau).
Gall dysgwyr sy'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau hyn yn eu rhinwedd eu hunain (nid trwy riant) hefyd gael prydau ysgol am ddim.
Plant nad oes gan eu rhieni neu ofalwyr hawl i gyllid cyhoeddus
Rydym yn annog awdurdodau lleol i arfer eu disgresiwn i ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i unrhyw blentyn y mae statws mewnfudo’i rieni yn golygu nad oes ganddo hawl awtomatig iddynt. Gall awdurdodau lleol benderfynu peidio â defnyddio’u pŵer cyfreithiol i godi tâl am brydau ysgol ar blant o deuluoedd sydd 'Heb hawl i gyllid cyhoeddus'.
Dysgwyr mewn ysgol breifat
Nid oes rhaid i awdurdodau lleol ddarparu prydau ysgol am ddim i ddysgwyr mewn ysgol breifat neu annibynnol.
Fodd bynnag, pan fo'r awdurdod lleol yn gosod disgyblion mewn ysgol annibynnol i ddiwallu eu hanghenion o dan ddatganiad neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ceir darpariaethau:
- yn Neddf Addysg 1996
- yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
mewn perthynas â darparu ac ariannu bwyd a llety gan yr awdurdod lleol. Os na ellir diwallu anghenion dysgwr mewn ysgol a gynhelir, ni fyddem yn disgwyl iddynt fod yn waeth eu byd os cânt eu rhoi mewn ysgol annibynnol.
Os oes gan ddysgwr ysgoloriaeth neu fwrsariaeth, dylai'r rhieni edrych i weld a yw'r cyllid hwn yn cynnwys dyraniad ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Gwneud cais am brydau ysgol am ddim
Dylai fod ffurflen gais ar-lein a chanllawiau i rieni ar wefannau'r awdurdodau lleol. Dylai ysgolion ymgyfarwyddo â'r wybodaeth hon hefyd.
Amddiffyniad wrth bontio
Fe wnaeth yr hawl i amddiffyniad o dan y darpariaethau dros dro yn y Gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio ddod i ben naill ai:
- ar 31 Rhagfyr 2023, neu
- ar ddiwedd y cyfnod presennol o addysg y disgybl cymwys (cynradd neu uwchradd) os yn ddiweddarach
Mae'n bwysig nodi, er bod y polisi wedi dod i ben, na ddylai unrhyw amddiffyniadau fod wedi dod i ben ar unwaith ar 1 Ionawr 2024.
Dylai dysgwyr barhau i gael prydau ysgol am ddim tan ddiwedd eu cyfnod ysgol os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:
- bod y dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar dderbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau etifeddol ar 31 Mawrth 2019
- daeth y dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar dderbyn Credyd Cynhwysol neu fuddion etifeddol o 1 Ebrill 2019 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2023
Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw eu hamgylchiadau'n newid, ac nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwystra mwyach.
I ddysgwyr sy'n:
- dod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 1 Ionawr 2024, neu'n
- parhau i fodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim wrth iddynt symud i'r ysgol uwchradd
ni fydd eu hawl i brydau ysgol am ddim yn cael ei diogelu mwyach os yw eu hamgylchiadau'n newid.
Cofnodi dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
Y ffordd fwyaf cyffredin o nodi amddifadedd cymdeithasol mewn ysgolion yw drwy ddefnyddio cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim fel procsi. Statws cymhwystra yw'r data mwyaf dibynadwy o hyd ar lefel disgyblion i ddeall:
- pa ddysgwyr sydd wedi'u heffeithio fwyaf gan dlodi
- lle mae angen cefnogaeth
Felly, mae'n bwysig cofnodi pa ddysgwyr sy'n:
- gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM)
- destun amddiffyniad wrth bontio
- cael prydau am ddim drwy'r cynllun prydau ysgol an ddim i holl blant ysgolion cynradd
Defnyddir y data am gymhwystra i gael prydau ysgol am ddim mewn sawl ffordd ymarferol bwysig:
- Cwblhau'r dyraniadau cyllid i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw.
- Pennu lefel y cyllid grant a ddyrennir i gyflwyno'r cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru.
- Cyfrifo a dosbarthu dyraniadau cyllid ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion (cyllid ar gyfer ysgolion) a'r Grant Hanfodion Ysgol (cyllid ar gyfer teuluoedd).
Mae deunyddiau cyfathrebu wedi'u datblygu i'ch helpu i barhau i roi gwybod i deuluoedd am bwysigrwydd a gwerth cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Newidiadau i amgylchiadau teuluol
Gall newid mewn amgylchiadau effeithio ar daliadau budd-daliadau. Gallai hyn gynnwys newid yn y canlynol:
- statws perthynas
- costau gofal plant
- oriau gwaith
- lefelau incwm
- amgylchiadau’r plentyn neu’r person ifanc
- a yw rhiant yn gadael y DU am fwy na 4 wythnos
Dylai awdurdodau lleol annog rhieni i roi gwybod iddynt am unrhyw newid yn eu hamgylchiadau a allai effeithio ar eu hawl i brydau ysgol am ddim. Dylid eu hannog hefyd i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu eu Canolfan Byd Gwaith leol (yn dibynnu ar y budd-dal).
