Strydoedd Ysgol: canllawiau i awdurdodau lleol - 1. Cyflwyniad
Sut y gall cynghorau wella diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ysgolion ar adegau brig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y canllawiau hyn
Lluniwyd y canllawiau hyn ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn enwedig awdurdodau heb lawer o brofiad o weithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol.
Mae'n bosibl y byddant o ddiddordeb i staff a llywodraethwyr ysgolion hefyd.
Mae'r canllawiau yn rhoi trosolwg o beth yw Strydoedd Ysgol, y camau allweddol a'r ffactorau i'w hystyried wrth ddatblygu a gweithredu cynlluniau a sut mae Strydoedd Ysgol yn cyd-fynd â'r cyd-destun ehangach o alluogi disgyblion i gerdded a beicio i'r ysgol.
Nid yw i fod yn ganllaw cynhwysfawr ond mae'n darparu dolenni i wybodaeth a chefnogaeth fanylach.
Drwy gydol y canllawiau, mae cyfeiriadau at “cerdded” hefyd yn cyfeirio at bobl sy'n teithio gan ddefnyddio sgwteri (heb fodur), cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.
Y cyd-destun strategol
Ledled Cymru, mae tua 51% o'r holl blant cynradd a 30% o'r holl blant uwchradd yn cael eu gyrru i'r ysgol mewn car/fan (ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru).
Mae cludo plant i'r ysgol mewn cerbyd yn arwain at dagfeydd, llygredd a phroblemau diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ysgolion ac ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach. Gallai lefelau uwch o deithio llesol i'r ysgol ac o'r ysgol helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn a gwella iechyd meddwl a iechyd corfforol disgyblion a'u rhieni/gofalwyr ar yr un pryd.
Yn 2021, amlinellodd Llywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu lefelau teithio llesol yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys gweledigaeth y bydd 45% o'r holl deithiau yn cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy deithio llesol erbyn 2040. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 13 pwynt canrannol o gymharu â'r gyfran amcangyfrifedig bresennol ar gyfer y dull teithio, sef 32%.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi 7 nod llesiant ar waith, gan gynnwys gweithio tuag at ‘Gymru Iachach’. Mae Strydoedd Ysgol yn helpu i alluogi teithio i’r ysgol mewn modd llesol, gan gynyddu iechyd corfforol a meddyliol plant cymaint ag y bo modd.
Yn Rhaglen Lywodraethu Cymru, mae ymrwymiad i weithio gydag ysgolion er mwyn hyrwyddo teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd. Mae cynyddu nifer y cynlluniau Strydoedd Ysgol yn un o amrywiaeth o fesurau a all helpu i gynyddu lefelau teithio llesol a gwella diogelwch ar ein ffyrdd.
Bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd preswyl ac o amgylch ysgolion hefyd yn helpu mwy o bobl i gerdded a beicio yn yr ardaloedd ehangach o amgylch prosiectau Strydoedd Ysgol oherwydd bydd llai o berygl o gerbydau'n teithio'n rhy gyflym.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Sainweddau) (Cymru) 2024 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer mewn rhai ardaloedd. Gall cynlluniau Strydoedd Ysgol helpu awdurdodau lleol i wella ansawdd aer y tu allan i ysgolion.
