Neidio i'r prif gynnwy

Daeth Deddf Caffael 2023 a rheoliadau cysylltiedig Cymru i rym ar 24 Chwefror. Mae'r Ddeddf hon yn atgyfnerthu rheolau caffael blaenorol i greu un gyfundrefn caffael gyhoeddus ar draws y DU. Bydd hyn yn symleiddio'r system, yn gwneud caffael cyhoeddus yn fwy hygyrch i newydd-ddyfodiaid ac yn ymgorffori tryloywder.

Daeth Uned Adolygu Caffael Cymru (WPRU) a'r drefn gaffael newydd i rym ar 24 Chwefror 2025. Mae Uned Adolygu Caffael Cymru:

  • yn gwella gallu ac arferion awdurdodau contractio Cymreig datganoledig er budd pawb sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus drwy sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau caffael newydd (a chytundebau masnach).
  • yn diogelu caffael cyhoeddus rhag cyflenwyr sy'n peri risg annerbyniol.

Mae hyn yn ymgorffori'r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023.

Mae Uned Adolygu Caffael Cymru yn cynnig tri gwasanaeth:

Mae tudalen Uned Adolygu Caffael Cymru, ynghyd â'i phrosesau manwl, yn dal i gael ei chwblhau gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a bydd ar gael yn llawn maes o law.