Ymchwil yn edrych ar ffyrdd o wella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru - Methodoleg
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Roeddem am brofi sut oeddem yn cydgreu yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'r bennod hon yn nodi'r dulliau a'r gweithgarwch ymchwil a gynhaliwyd.
Trosolwg
Cynhaliwyd tri grŵp ffocws ym mis Gorffennaf 2024 ac fe’u hwyluswyd gan y tîm cydgynhyrchu a oedd yn cynnwys pobl anabl a oedd yn aelodau o'r THA a Swyddogion Llywodraeth Cymru.
Roedd 25 o gyfranogwyr yn y grwpiau ffocws. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys cyflogwyr (9 cyfranogwr), cynrychiolwyr undebau llafur (5 cyfranogwr), cynrychiolwyr SPA a chynrychiolwyr GA (11 cyfranogwr gyda’i gilydd). Y bwriad gwreiddiol oedd gwahodd 10 i 12 cyfranogwr fesul grŵp ffocws. Yn ogystal, gweithredodd 5 o gadeiryddion gweithgorau’r THA a myfyriwr PhD fel hwyluswyr a chydhwyluswyr a bu rhai’n cyfrannu at drafodaethau’r grwpiau ffocws gan eu bod yn cynnig profiad bywyd ac arbenigedd.
Mabwysiadwyd dull samplu pwrpasol i fynd ati’n fwriadol i ddewis cyfranogwyr gyda nodweddion penodol a phrofiadau unigryw yn gysylltiedig â'r cwestiynau ymchwil. Roedd y cyfranogwyr a ddewiswyd yn cynrychioli cyfoeth o brofiad a gwybodaeth am y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a materion cyflogaeth sy'n effeithio ar bobl anabl a chyflogaeth.
Tynnwyd cysylltiadau ar gyfer cyflogwyr o Gymru o gronfa ddata’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd sydd ar gael i'r cyhoedd. Gweithiodd ymchwilwyr Llywodraeth Cymru gyda hyrwyddwr anabledd i samplu’n fwriadol gyflogwyr ag ystod o brofiadau a safbwyntiau yn seiliedig ar eu statws. Anfonwyd gwahoddiadau hefyd at aelodau Grŵp Cydraddoldeb Undebau Llafur Cymru (TUC) drwy ysgrifennydd y grŵp. Yn ogystal, bu aelodau o'r tîm cydgynhyrchu’n cysylltu â phobl oedd yn hysbys fel cynrychiolwyr undebau. Ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad, defnyddiwyd rhestr o gyfranogwyr o weithgorau’r THA i nodi pobl a allai fod yn gyfranogwyr. Gweithiodd hyn yn dda i gylchredeg y gwahoddiad i sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl ag ystod o amhariadau.
Cynhaliwyd y grwpiau ffocws yn rhithwir i alluogi pobl o bob cwr o Gymru i gymryd rhan. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr nodi unrhyw ofynion hygyrchedd ymlaen llaw. Rhoddwyd y canllaw i’r pwnc trafod y cytunwyd arno ymlaen llaw i'r cyfranogwyr hefyd. Hwyluswyd y grwpiau ffocws gan Gadeirydd Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm y THA sydd hefyd yn arbenigwr academaidd yn y pwnc hwn ac fe’u cydhwyluswyd gan gadeiryddion eraill y THA yn y tîm.
Cafodd y canllaw pwnc ei gydgynhyrchu gan y tîm cydgynhyrchu ac roedd y cwestiynau ymchwil fel a ganlyn:
- sut fyddai bob un o'r tri opsiwn canlynol yn gweithio?
- datblygu nod barcud cyflogwr penodol i Gymru?
- gwella'r cynllun presennol gydag elfen Gymreig iddo?
- dylanwadu ar Lywodraeth y DU sy’n dod i mewn i newid cynllun y DU gyfan?
- o’i gymharu â'r cynllun presennol, beth yw manteision ac anfanteision cymharol pob un?
- beth yw'r costau a’r buddion economaidd posibl i bobl anabl, cyflogwyr a'r economi ehangach?
- beth yw'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu?
Mabwysiadwyd dull digynllun a oedd yn caniatáu i drafodaethau’r grwpiau ffocws lifo er mwyn manteisio ar y meysydd o ddiddordeb mwyaf i’r cyfranogwyr a oedd fwyaf o fewn eu profiad. Mae grŵp ffocws yn ddull ymchwil a ddefnyddir yn gyffredin i gael data ansoddol a chaniatáu archwiliad manwl o bwnc y cytunwyd arno. Fel y nodir yn y Llyfr Magenta, mae'r dull ymchwil hwn yn caniatáu i'r hwylusydd rywfaint o hyblygrwydd i holi a mwy o amser i archwilio barn cyfranogwyr. Mae grŵp ffocws hefyd yn helpu i ddeall nid yn unig 'beth' sydd wedi gweithio ond 'pam' a 'sut' y cafwyd profiad penodol o ymyriad.
Gall fod risg o ragfarn gyda'r dull hwn, er enghraifft efallai y bydd rhai rhanddeiliaid yn fwy neu lai parod i gymryd rhan mewn grŵp ffocws nag eraill. Mae angen cymedroli gofalus ar grwpiau ffocws hefyd i sicrhau bod pob cyfranogwr yn cael cyfle cyfartal i gyfleu ei farn. Roedd rhai cyfranogwyr wedi bod yn rhan o weithgor y THA o’r blaen, felly byddant wedi cael rhywfaint o ran yn natblygiad yr argymhelliad gwreiddiol.
Roedd hwyluswyr y grwpiau ffocws yn bobl anabl a oedd yn aelodau o'r tîm cydgynhyrchu ac roedd ganddynt ddealltwriaeth glir o'r materion dan sylw. Sicrhaodd Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth ansawdd y canllaw pwnc i sicrhau bod safonau GSR yn cael eu dilyn drwyddi draw.
Mae cyfyngiad methodolegol ychwanegol i ddefnyddio grwpiau ffocws. Nid yw'r sampl yn sampl gynrychioladol. Fodd bynnag, yr hyn y mae'r dull ymchwil hwn yn ei gynnig yn aml yw mewnwelediadau cyfoethog ac amrywiol i bwnc penodol, er mwyn archwilio safbwyntiau cyfunol ac amrywiol yn fanwl. Cyflwynwyd y safbwyntiau hyn yn yr adroddiad hwn.
Dadansoddi'r data
Recordiwyd capsiynau fel y gellid cynhyrchu trawsgrifiad ar gyfer pob grŵp ffocws. Ar ôl casglu’r data fe dynnwyd manylion adnabod aelodau’r grŵp gan un o ymchwilwyr Llywodraeth Cymru ac yna cafodd ei rannu gydag aelod o'r tîm cydgynhyrchu a weithredodd fel 'cyd-ddadansoddwr' cyn rhannu’r canfyddiadau cychwynnol gyda'r tîm cydgynhyrchu ehangach.
Gwnaed dadansoddiad thematig, a dilynodd yr ymchwilydd y chwe cham dadansoddi thematig systematig fel y’i disgrifiwyd gan Naeem et al (2003) a ddatblygwyd gan dechneg Braun a Clarke (2008).
Y chwe cham
Cam 1
Cam cychwynnol lle mae ymchwilwyr yn cynnal archwiliad dwfn o’r data ac yn dewis dyfyniadau sy'n dod â'r data yn fyw ac yn adlewyrchu cwestiynau ac opsiynau’r ymchwil.
Cam 2
Yn cynnwys archwilio'r dyfyniadau a dewis geiriau allweddol sy'n eu hadlewyrchu.
Cam 3
Yna mae ymchwilwyr yn symleiddio'r geiriau allweddol trwy drosi data crai yn unedau sy’n rhoi craffter ac sy’n haws eu trin.
Cam 4
Yna trefnir codau yn grwpiau ystyrlon i nodi patrymau sy'n cysylltu â chwestiynau’r ymchwil.
Cam 5
Yyn cynnwys deall a diffinio cysyniadau sy'n dod i'r amlwg o'r data.
Cam 6
Mae’r ymchwilwyr yn creu cynrychioliad unigryw o'r data, wedi'i arwain yn aml gan ddamcaniaethau neu themâu presennol, sy’n ateb y cwestiynau ymchwil ac sy’n ddiweddglo i’r dadansoddiad
Ymgymerwyd â'r dull fesul cam hwn gan ymchwilydd o Lywodraeth Cymru ac fe'i hailadroddwyd gan ail ymchwilydd o Lywodraeth Cymru i gadarnhau bod y themâu oedd yn datblygu yn gwneud synnwyr cyn rhannu a chymharu themâu â'r cyd-ddadansoddwr.
Y broses o greu prototeip ar gyfer cydgynhyrchu
I ddechrau, disgwyliwyd y byddai'r ymchwil yn cael ei chyd-ddylunio gyda Chadeiryddion y THA a'i chyflwyno gan Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, roedd gan Gadeiryddion y THA ddyhead i chwarae mwy o ran ac arweiniodd hyn at ddull cydgynhyrchiol a ffurfiwyd tîm cydgynhyrchu.
Mae’r ymchwil wedi anelu at gael ei chyflwyno yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd a chymerwyd camau gweithredol i ddiwallu amrywiaeth o anghenion hygyrchedd y cydgynhyrchwyr. Aeth y tîm cydgynhyrchu ati i gydweithio i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn 'edau euraidd' trwy bob cam o'r ymchwil. Gwerthusir ar ddiwedd y prosiect i ba raddau y llwyddwyd i gydgynhyrchu. Mae cydgynhyrchu yn broses ailadroddus, a newidiodd dyluniad yr ymchwil yn ystod y prosiect. Roedd rhai elfennau o ddyluniad yr ymchwil na chafodd eu datblygu gan eu bod y tu hwnt i'r adnoddau oedd ar gael o fewn amserlen y prosiect ymchwil hwn. Roedd hyn yn cynnwys cynnal adolygiad llenyddiaeth ar raddfa lawn, gweithdy ymgynghorol gyda rhanddeiliaid a chasglu straeon gan bobl anabl o wahanol gymunedau yn ystod y gwaith maes. Roedd hyn hefyd yn cyfyngu ar y graddau y gellid triongli canfyddiadau’r ymchwil gyda ffynonellau tystiolaeth ychwanegol. Cydnabyddir fod hyn yn gyfyngiad methodolegol ar yr ymchwil hon.
Roedd y tîm cydgynhyrchu yn rhan o bob cam o'r ymchwil fel y nodir isod yn fwy manwl:
Cam cwmpasu: Roedd hyn yn cynnwys hwyluso gweithdai’r tîm cydgynhyrchu i ddeall yn well y rhesymeg dros argymhelliad Gweithgor y THA a datblygu cwestiynau ymchwil cychwynnol i ffurfio'r canllaw pwnc. Cynhaliwyd gweithdy cyd-destun polisi ac adolygu tystiolaeth gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn ystod y cam hwn.
Cam cydgynllunio: Roedd hyn yn cynnwys cytuno ar grŵp ffocws fel y prif ddull ymchwil, cyd-ddylunio canllawiau pwnc, cyfuno cysylltiadau ac ymdrechion i recriwtio cyfranogwyr. Cynhaliwyd sesiwn weithdy i gyd-ddylunio'r dull cydhwyluso ymlaen llaw.
Cam gwaith maes: Fel y nodwyd uchod, roedd hyn yn cynnwys tri grŵp ffocws wedi’u cydhwyluso gyda chyflogwyr, cynrychiolwyr undebau llafur a chynrychiolwyr SPA / GA.
Cam cyd-ddadansoddi: Cafodd y data crai ei drawsgrifio gan un o ymchwilwyr Llywodraeth Cymru a wnaeth dynnu manylion adnabod ohono hefyd cyn cynnal dadansoddiad thematig. Ymgymerwyd â'r broses canfod themâu hon hefyd yn annibynnol gan ymchwilydd cymdeithasol academaidd cyn cymharu a chytuno ar themâu.
Cam adrodd: Cafodd yr adroddiad ei ddrafftio gan ymchwilydd o Lywodraeth Cymru a sicrhawyd ei ansawdd yn erbyn safonau GSR. Rhannwyd yr adroddiad drafft gyda'r tîm cydgynhyrchu i gael ei sylwadau cyn y diwygiadau terfynol. Rhoddodd y tîm cydgynhyrchu gyngor ac arweiniad ynglŷn â fformatau hygyrch ac amlygodd yr angen i sicrhau ansawdd unrhyw allbynnau i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at iaith y model cymdeithasol o anabledd.
Cynigiwyd tâl fel cyfraniadau o fath arall sef hyfforddiant hwyluso a digwyddiadau dosbarth meistr gan ymgyrchwyr hawliau anabledd uchel eu parch.
