Ymchwil yn edrych ar ffyrdd o wella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru - Cefndir
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Roeddem am brofi sut oeddem yn cydgreu yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan arweinydd polisi'r Tasglu Hawliau Anabledd
Ym mis Gorffennaf 2021, amlygodd adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 yr anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas. Un o ymatebion Llywodraeth Cymru i'r adroddiad oedd sefydlu'r Tasglu Hawliau Anabledd, sef partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a phobl anabl. Roedd y Tasglu’n gweithredu ar egwyddor cydgynhyrchu, gyda mwy na 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a 350 o rhanddeiliaid allanol yn cydweithio i ddatblygu argymhellion, gyda'r nod o wella’r canlyniadau i bob person anabl yng Nghymru. Defnyddiwyd yr argymhellion hyn fel sail i ganlyniadau a chamau gweithredu’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Y rhesymeg ar gyfer cydgynhyrchu wrth wneud yr ymchwil
Ym mis Medi 2023, cytunodd y THA i gydweithio â'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd (ERDEU) gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) wedi'i llywio gan brofiad bywyd. Byddai'n profi i ba raddau y gellir cydgynhyrchu GSR, gan gydweithio i ymdopi â’r rhwystrau a chroesawu galluogwyr newid.
Nod yr ymchwil oedd profi ffordd amgen o gynnal ymchwil ar y cyd â chynrychiolwyr pobl anabl ac yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd. Nodir mai ‘cydgynhyrchydd’ yw aelod o'r tîm traws-sector a gydweithiodd i greu prototeip o adroddiad GSR sydd wedi’i gydgynhyrchu.
Nod yr ymchwil oedd galluogi cyflawni cenhadaeth ERDEU, sef 'gwella argaeledd, ansawdd, gronynnedd a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig fel ein bod yn deall lefel a mathau o anghydraddoldeb yng Nghymru yn llawn.'
Yr uchelgais, fel rhan o gyfrannu at Gymru fwy cyfartal, oedd galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar well gwybodaeth a sbarduno canlyniadau gwell i bobl.
Bwriad yr ymchwil oedd cryfhau gwaddol y THA trwy archwilio'r argymhellion ymhellach. Dewiswyd dau argymhelliad gan Gadeiryddion y THA i ymchwilio iddynt, gan gynnwys un gan y Grŵp Cyflogaeth ac Incwm sy'n ganolbwynt i’r adroddiad hwn..
Profiad bywyd pobl anabl: nodyn gan gadeirydd y Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm
Mae'r adran hon yn cynnwys crynodeb o'r prif bwyntiau trafod gan 'Weithgor Cyflogaeth ac Incwm' y THA a gyfarfu chwe gwaith rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2023. Roedd y gweithgor yn cynnwys pobl anabl a sefydliadau sy'n eu cynrychioli, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr undebau llafur, cyflogwyr ac academyddion. Cafodd argymhellion eu cyd-greu gan y gweithgor ac yna eu cyflwyno i'r THA llawn. Aeth y Gweinidog sy'n gyfrifol am gyflogaeth i’r cyfarfod olaf.
Roedd cyfarfodydd y gweithgor yn archwilio ystod o rwystrau sy'n wynebu pobl anabl mewn perthynas â chyflogaeth ac incwm. Rhannodd pobl anabl eu profiadau bywyd o geisio cael gwaith ac aros mewn gwaith. Ymhlith y themâu a ddaeth i'r amlwg o'r profiadau hyn oedd diffyg dealltwriaeth cyflogwyr o'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010), yn enwedig y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Trafodwyd hefyd brinder darpariaeth trefniadau gweithio hyblyg, diffyg cymorth a hyfforddiant wedi'u teilwra, dyluniad swyddi anhyblyg ac agweddau negyddol tuag at bobl anabl. Lleisiodd llawer o gyfranogwyr anabl eu bod yn amharod i nodi eu hunan fel pobl anabl oherwydd ofn, gwahaniaethu a diffyg dealltwriaeth o hawliau yn y gweithle.
Trafodwyd dwy o fentrau presennol y llywodraeth gan y gweithgor: Cynllun Mynediad at Waith Llywodraeth y DU a'i Chynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mewn perthynas â’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, roedd aelodau'r gweithgor yn teimlo nad oedd gan y cynllun hygrededd, ar ei ffurf bresennol, a bod angen ei ddiwygio.
Cytunodd aelodau'r gweithgor fod cynllun cyflogwr sy’n esgor ar well arferion cyflogaeth i bobl anabl yn syniad da mewn egwyddor. Fodd bynnag, nid oedd gan lawer o bobl anabl fawr o hyder bod cynllun presennol Hyderus o ran Anabledd yn cyflawni hyn.
Mae gan y cynllun dair lefel. Ystyrir nad yw lefelau 1 a 2 yn 'addas i'r diben' nac yn 'heriol'. Gellir cyflawni'r ddau hefyd trwy hunanasesiad gan y cyflogwr yn hytrach nag arolygiad ac achrediad allanol. Ystyrir bod Lefel 3 yn fwy cynhwysfawr a’i bod yn mynnu llawer mwy o waith i gyflogwyr. Mae gwerthuso ac arolygu yn elfen, er bod y rhain yn cael eu cynnal gan sefydliad Lefel 3 arall o fewn y cynllun, nid corff annibynnol a oedd â hyder pob person anabl. Roedd y diffyg ymdrech sy'n ofynnol gan gyflogwyr i gyflawni Lefel 1 y cynllun yn cael ei ystyried yn arbennig o nawddoglyd ac yn drech na diben y cynllun. Mewn cyferbyniad, mae Lefel 3 yn gofyn am fwy o ymrwymiad gan gyflogwyr, ond nodwyd mai dim ond 40 o gyflogwyr yng Nghymru sydd wedi cyflawni statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd Lefel 3 ar hyn o bryd, a dim ond 12 yn y sector preifat. Dylid nodi y gallai'r ffigurau hyn fod wedi cynyddu ers i'r argymhelliad gwreiddiol gael ei wneud.
Awgrymodd aelodau'r gweithgor fod angen i gynllun presennol Hyderus o ran Anabledd fod yn fwy trylwyr, cynnwys mwy o bobl anabl a sefydliadau sy'n eu cynrychioli mewn gwerthusiadau a dangos manteision go iawn i bobl anabl. Fe wnaethant gynnig syniadau newydd ar gyfer y cynllun, fel nod barcud cyflogwr penodol ar gyfer Cymru, cynllun gwell gydag elfen Gymreig neu geisio gwelliannau i'r cynllun presennol ledled y DU. Mynegwyd pryderon gan rai nad oedd unrhyw adnoddau pwrpasol ar lefel ranbarthol ar hyn o bryd i wella'r cynllun yn y modd hwn, ac er mwyn iddo fod yn gadarn, y byddai angen y rhain. Y posibiliadau a’r cyfyngiadau posibl o ddiwygio'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yw sail y prosiect ymchwil hwn. Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Gweithgor am eu cyfraniadau a’u syniadau a wnaeth ysbrydoli’r gwaith ymchwil hwn.
Y ffigurau diweddaraf ynghylch pobl anabl mewn cyflogaeth
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 yng Nghymru, roedd 50.9% o bobl anabl mewn cyflogaeth (16-64 oed) o'u cymharu ag 81.6% o bobl nad ydynt yn anabl. Roedd y bwlch cyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 yn 30.7 pwynt canran.
Yn ogystal â hyn, yn 2022-23, roedd pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirsefydlog yn fwy na dwywaith mor debygol o fyw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol na'r rhai nad ydynt yn anabl. Roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirsefydlog (25%) yn byw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol o'u cymharu ag 11% o bobl nad ydynt yn anabl.
Ar gyfer pobl anabl mewn cyflogaeth, y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru oedd £1.75 (12.2%) yn 2023. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill, ar gyfartaledd, £1.75 yn llai yr awr na phobl nad ydynt yn anabl.
Trosolwg o’r ymchwil
Nod yr ymchwil oedd archwilio ymhellach argymhellion Gweithgor y THA yn ymwneud â'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd fel y disgrifiwyd uchod gydag ystod o rhanddeiliaid. Cynhaliwyd tri grŵp ffocws gyda chyflogwyr, undebau llafur a chynrychiolwyr Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad.
Diffinnir SPA, Sefydliad Pobl Anabl, fel 'sefydliad sy'n cael ei arwain, ei gyfarwyddo a'i lywodraethu gan bobl anabl, gydag ymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd a hyrwyddo hawliau dynol i unigolion anabl'.
Gellir diffinio GA, Grŵp Amhariad, yn fras fel 'sefydliad sydd â’r diben o hyrwyddo buddiannau pobl ag amhariad penodol, nad yw'n cael ei redeg a'i lywodraethu yn llwyr, neu o gwbl, gan bobl anabl'. Sefydlwyd rhai o’r Grwpiau hyn i fynd i'r afael â'r problemau canfyddedig sy'n gysylltiedig â bod â chyflwr meddygol a defnyddio model meddygol o anabledd. Mae rhai Grwpiau Amhariad yn cydnabod manteision model cymdeithasol.
Cydgynlluniwyd themâu trafod y Grwpiau Ffocws gyda'r nod o archwilio sut y gellid gwella'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol a pha fodelau o’i gyflwyno a allai fod yn ddefnyddiol. Y cwestiynau ymchwil oedd:
- sut fyddai bob un o'r tri opsiwn canlynol yn gweithio?
- datblygu nod barcud cyflogwr penodol i Gymru?
- gwella'r cynllun presennol gydag elfen Gymreig iddo?
- dylanwadu ar Lywodraeth y DU sy’n dod i mewn i newid cynllun y DU gyfan?
Cytunodd y tîm ymchwil ei bod yn bwysig ystyried:
- o’i gymharu â'r cynllun presennol, beth yw manteision ac anfanteision cymharol pob un?
- beth yw'r costau a’r buddion economaidd posibl i bobl anabl, cyflogwyr a'r economi ehangach?
- beth yw'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu?
Cydhwyluswyd trafodaethau’r Grwpiau Ffocws a chaniatawyd iddynt lifo er mwyn clywed am y meysydd oedd o’r diddordeb mwyaf i’r cyfranogwyr ac oedd fwyaf o fewn eu profiad. Roedd y data a gasglwyd fesul thema ac fe’i cyflwynir fel gwybodaeth sy’n rhoi mewnwelediad ynghylch y cynllun presennol ac yn archwilio'r potensial ar gyfer modelau amgen sy'n fwy pwrpasol i ddiwallu anghenion pobl anabl a sefydliadau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:
- profiadau o'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol a barn rhanddeiliaid am sut i wella'r cynllun presennol
- rhwystrau posibl rhag diwygio'r cynllun presennol
- creu cynllun cyflogwr Cymreig annibynnol i Gymru neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun cenedlaethol y DU a manteision a heriau posibl hyn
- problemau cyflogaeth sy’n wynebu pobl anabl y byddai angen i gynllun fynd i'r afael â nhw yn y dyfodol
Daeth cyfranogwyr yr ymchwil â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ynglŷn â'r cynllun a'r materion sy’n wynebu pobl anabl mewn cyflogaeth. Fodd bynnag, dylid cydnabod mai darn cyfyngedig o ymchwil yw hwn nad oedd yn anelu at werthuso'r cynllun cyfredol yn llawn, ond yn hytrach archwilio'r opsiynau a drafodwyd gan weithgor y THA. Nid yw'r sampl yn gwbl gynrychioliadol o bob math o gyflogwyr, ac nid oedd yn cynnwys barn adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal y cynllun presennol. Mae adran fethodoleg yr adroddiad hwn yn amlinellu'r dulliau ymchwil yn fanylach ymhellach, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau methodolegol.
Cyd-destun polisi
Mae maes polisi cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru yn gymhleth. Mae deddfwriaeth cyflogaeth wedi'i gadw gan Lywodraeth y DU sy'n golygu bod pwerau Llywodraeth Cymru wedi'u cyfyngu i raddau helaeth i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda chyflogwyr ac undebau llafur i newid diwylliant ac ymddygiad, creu mwy o arfer da, a defnyddio eu perthynas â nhw i hyrwyddo'r model cymdeithasol o anabledd.
Fodd bynnag, gallai newidiadau diweddar ar lefel y DU a lefel ddatganoledig helpu i gyflawni newid pellach. Mae hyn yn cynnwys:
- Bil Hawliau Cyflogaeth a Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) arfaethedig a pherthynas gryfach â’r Adran Gwaith a Phensiynau, i weithio'n fwy cydweithredol i fanteisio ar safbwynt polisi sy’n cydredeg fwyfwy
- mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dull cydgynhyrchiol a defnyddio profiad bywyd i lywio datblygiad polisi, yn enwedig drwy'r THA a sefydlu'r DDEU, yn cyflwyno cyfleoedd gwerthfawr i gryfhau polisi cyflogaeth pobl anabl Llywodraeth Cymru
- mae sefydlu tîm parhaol o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn gwella gallu Llywodraeth Cymru i weithio'n strategol gyda phartneriaid a chyflogwyr i wella rhagolygon cyflogaeth pobl anabl
Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyflogi tîm o bum Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl.
Mae'r Hyrwyddwyr yn cynorthwyo i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl fel y nodir yn rhaglen Llywodraeth Cymru:
- Ymrwymiad ei Rhaglen Lywodraethu i ddefnyddio'r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau'r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy'n gweithio.
- Carreg Filltir Genedlaethol ar gyfer dileu'r bwlch cyflog ar gyfer rhyw, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050.
- Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau
- Agenda Gwaith Teg
Un o rolau’r Hyrwyddwyr yw ymgysylltu â chyflogwyr mawr, sefydliadau cynrychioli cyflogwyr ac undebau llafur, gyda'r nod o hyrwyddo recriwtio a chadw pobl anabl, hybu ymwybyddiaeth o'r model cymdeithasol o anabledd, hyrwyddo'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd a gwella profiad pobl anabl o waith a’u rhagolygon gyrfa.
Mae eu gwaith yn ategu gwaith Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru sy'n ymgymryd â rôl debyg gan ganolbwyntio ar fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig (BBaChau).
Mae dros 250,000 o fentrau gweithredol yng Nghymru, gyda’r Hyrwyddwyr yn canolbwyntio eu hamser a'u hymdrechion ar berthnasoedd 'un-i-lawer', yn hytrach na pherthnasoedd 'un-i-un' gyda chyflogwyr unigol. Cyflawnir hyn trwy weithio gyda chyrff cynrychioli cyflogwyr, sefydliadau'r sector cyhoeddus a phartneriaethau cymdeithasol.
Gwaith Teg
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o agenda gwaith teg Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ystod o weithgareddau yn y maes hwn a fydd yn cael effaith gadarnhaol dros y tymor hwy ar gyfleoedd a chanlyniadau cyflogaeth i bobl anabl ac eraill sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae hyn yn cynnwys:
- gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i gyflogwyr: gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i ysgogi newidiadau mewn diwylliant ac ymddygiad, ac i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith teg a manteision gweithlu amrywiol
- gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i weithwyr: hybu ymwybyddiaeth o hawliau yn y gweithle, gan adeiladu ar ymgyrchoedd blaenorol drwy ddatblygu adnoddau ar-lein sy'n rhoi cyngor ac arweiniad ac yn cyfeirio pobl at wasanaethau arbenigol
- ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch hawliau gweithwyr sydd wedi eu cadw ganddynt a galw am amddiffyniadau ychwanegol a gorfodi mwy effeithiol
- hyrwyddo pobl i gael cysylltiad ag undebau llafur ac ymaelodi â nhw fel modd o amddiffyn hawliau gweithwyr anabl
- uchelgais cynyddol i wella cyrhaeddiad ac effaith y Contract Economaidd a'n Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
Cyflogadwyedd a Sgiliau
Mae'r cymorth i unigolion gael gwaith a datblygu yn y gwaith, yn ogystal â chymorth wedi'i dargedu i bobl anabl, wedi'i nodi yn "Cymru gryfach, decach, wyrddach: cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau". Mae hyn yn cynnwys ystod o raglenni cyflogadwyedd.
Dros y misoedd diwethaf, mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd a fydd yn dod â rhaglenni cyflogadwyedd (ReAct+, Twf Swyddi Cymru + a Chymunedau am Waith) at ei gilydd. Dros y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid ar y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd a'i rhyngwyneb â rhaglenni cyflogadwyedd eraill sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru.
Ers i'r gwaith hwn ddechrau, mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bwriad i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw'n perthyn i’r Ganolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru fel y gall lunio cynnig gwaith, iechyd a sgiliau cydgysylltiedig i bobl leol, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig. Ar hyn o bryd mae Swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybodaeth ar gyfer yr hyn y dylid canolbwyntio arno wrth gyflwyno rhaglen arfaethedig yr adran honno sef Trailblazer, (sy'n canolbwyntio ar anweithgarwch economaidd). Bydd y cydweithio cadarnhaol hwn rhwng swyddogion yn sicrhau bod y rhaglen yn croesawu dulliau arloesol wrth gefnogi pobl i fynd yn ôl i'r gweithle.
Er bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddatganoli'r holl gymorth cyflogaeth nad yw’n perthyn i’r Ganolfan Byd Gwaith i Gymru, mae’n ddyddiau cynnar iawn ar drafodaethau swyddogion am yr hyn y gallai hynny ei olygu i Gymru.
