Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a chefndir

Rhesymeg ymchwil

Ym mis Medi 2023, cytunodd Cadeiryddion Gweithgorau'r Tasglu Hawliau Anabledd (THA) i gydweithio â'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd (DDEU) gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). Roedd y Tasglu wedi nodi cyfres o argymhellion yn flaenorol, ac un ohonynt yn ymwneud â'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Argymhellodd aelodau Gweithgor y Tasglu Hawliau Anabledd fod angen gwella'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a manteisio mwy ar y llwybrau cymorth a chyngor presennol gan bobl anabl sydd â phrofiad bywyd. Fe wnaethant gynnig syniadau newydd ar gyfer y cynllun, a oedd yn cynnwys nod barcud cyflogwr penodol ar gyfer Cymru, cynllun gwell gydag elfen Gymreig neu geisio gwelliannau i'r cynllun presennol ledled y DU. 

Nod yr ymchwil hon oedd archwilio ymhellach argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Anabledd ynghylch y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd gydag ystod o rhanddeiliaid a defnyddio dull o gynhyrchu ar y cyd. 

Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Mae'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn gynllun ledled y DU ac mae'n cael ei gyflwyno gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). 

Nod y cynllun yw 'cael mwy o bobl anabl i mewn i gyflogaeth a lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl'. 

Mae gan y cynllun dair lefel y mae cyflogwyr yn cael eu hannog i symud drwyddynt i'r lefel uchaf i gyflawni nod barcud statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. 

Yn ôl nodau'r cynllun, mae 'bod yn Hyderus o ran Anabledd yn gyfle i gyflogwyr arwain y ffordd yn eu cymuned a darganfod sgiliau a thalentau nad allant wneud hebddynt'. 

Y ffigurau diweddaraf ynghylch pobl anabl mewn cyflogaeth

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 yng Nghymru, roedd 50.9% o bobl anabl mewn cyflogaeth (16 i 64 oed) o'u cymharu ag 81.6% o bobl nad ydynt yn anabl. Roedd y bwlch cyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 yn 30.7 pwynt canran. 

Yn ogystal â hyn, yn 2022-23, roedd pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirsefydlog yn fwy na dwywaith mor debygol o fyw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol na'r rhai nad ydynt yn anabl. Roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirsefydlog (25%) yn byw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol o'u cymharu ag 11% o bobl nad ydynt yn anabl.                                                

Ar gyfer pobl anabl mewn cyflogaeth, y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru oedd £1.75 (12.2%) yn 2023. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill, ar gyfartaledd, £1.75 yn llai yr awr na phobl nad ydynt yn anabl. 

Dull cydgynhyrchiol 

Roedd yr ymchwil hon yn brototeip ar gyfer cydgynhyrchu GSR. Aeth ati i brofi a yw'n bosibl cydgynhyrchu'r math hwn o ymchwil, faint y gellir ei gydgynhyrchu ac i ddangos y gellid ei wneud yn y dyfodol. 

Cyfunodd y tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas gydag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol. Roedd y tîm yn cynnwys 7 Cadeirydd Gweithgorau’r THA, swyddogion ymchwil a pholisi Llywodraeth Cymru a myfyriwr PhD. 

Nod y tîm oedd dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'i gilydd. Byddai hyn yn gwella ansawdd y dystiolaeth a’r defnydd o’r dystiolaeth sy'n llywio penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl anabl. 

Methodoleg 

Cynhaliwyd tri grŵp ffocws ym mis Gorffennaf 2024 ac roeddent yn cynnwys cyflogwyr, undebau llafur a chynrychiolwyr o Sefydliadau Pobl Anabl (SPA) a grwpiau amhariad (GA). 

Diffinnir SPA fel 'sefydliad sy'n cael ei arwain, ei gyfarwyddo a'i lywodraethu gan bobl anabl, gydag ymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd a hyrwyddo hawliau dynol i unigolion anabl'.

Gellir diffinio GA yn fras fel 'sefydliad sydd â’r diben o hyrwyddo buddiannau pobl ag amhariad penodol, nad yw'n cael ei redeg a'i lywodraethu yn llwyr, neu o gwbl, gan bobl anabl'.

Cafodd y grwpiau ffocws eu hwyluso a'u cyd-ddadansoddi gan y tîm cydgynhyrchu. Roedd 25 o gyfranogwyr i gyd yn y grwpiau ffocws. Yn ogystal, gweithredodd 5 o gadeiryddion gweithgorau’r THA a myfyriwr PhD fel hwyluswyr a chydhwyluswyr a bu rhai’n cyfrannu at drafodaethau’r grwpiau ffocws gan eu bod yn cynnig profiad bywyd ac arbenigedd.

Dewiswyd cyfranogwyr i gynrychioli ystod o wahanol brofiadau a gwybodaeth am y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a materion cyflogaeth sy'n effeithio ar bobl anabl. 

Cynhaliwyd y grwpiau ffocws yn rhithwir i sicrhau bod yr ymchwil yn hygyrch. Cynigiwyd ffyrdd amgen i gyfranogwyr y grwpiau ffocws roi eu barn os oedd angen hyn. Darparwyd rhestr o awgrymiadau trafod i gyfranogwyr y grwpiau ffocws ymlaen llaw. 

Cyflwynir y data a gasglwyd fel mewnwelediadau am y cynllun presennol ac archwiliad o'r potensial ar gyfer modelau amgen sy'n fwy pwrpasol i ddiwallu anghenion pobl anabl a sefydliadau yng Nghymru. 

Dylid cydnabod nad oedd yr ymchwil hon yn anelu at werthuso'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yn llawn, ond yn hytrach archwilio'r opsiynau a drafodwyd gan weithgor y THA. Nid yw'r sampl yn gwbl gynrychioliadol o bob math o gyflogwyr, ac nid oedd yn cynnwys barn adran Llywodraeth y DU sy'n cynnal y cynllun presennol. 

Roedd y dull grŵp ffocws yn cynnig y cyfle i gael mewnwelediadau cyfoethog ac amrywiol i'r pwnc hwn. Daeth y cyfranogwyr â chyfoeth o brofiadau bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau ac ymgysylltu â'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd cyfredol.

Canfyddiadau’r ymchwil

Cyd-destun

Bu trafodaethau’r grwpiau ffocws yn ystyried y cyd-destun ehangach mae'r cynllun presennol yn gweithredu o’i fewn yn ogystal â rhai o'r rhwystrau cyflogaeth i bobl anabl. Roedd y cyfranogwyr yn meddwl bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth ansicr, â thâl isel, nad yw bob amser yn cynnig gweithio hyblyg. 

Ystyriwyd bod rhai pobl anabl dan anfantais bellach yn sgil y sector neu'r contract sy’n eu cyflogi. Ni all gweithwyr llawrydd a phobl anabl ar gontract dim oriau bob amser ymaelodi ag undeb llafur. 

Rhannodd y cyfranogwyr sylwadau am y ffaith nad yw rhai pobl yn dymuno cael eu hadnabod fel pobl anabl oherwydd stereoteipiau a rhagdybiaethau negyddol posibl gan eraill. Nododd y cyfranogwyr nad oedd rhai pobl anabl na chyflogwyr o bosibl yn gwbl ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Ystyriwyd bod y diffyg dealltwriaeth hwn yn enwedig ynghylch addasiadau rhesymol yn ei gwneud yn heriol i gyflogwyr ddeall eu gweithlu yn llawn a sicrhau bod yr addasiadau hyn ar gael os oes angen. 

Ystyriwyd bod amgylcheddau gwaith diogel lle mae pobl anabl yn teimlo eu bod yn gallu hunan-adnabod yn hanfodol. Mynegwyd bod cynigion i’w gwneud yn ofynnol i adrodd ar y bwlch cyflog anabledd, a oedd yn cael ei weld fel cam cadarnhaol ymlaen. Fodd bynnag, nodwyd y byddai hyn wedi'i anelu at gyflogwyr mawr yn unig ac y byddai'n dibynnu ar hunan-adrodd a allai achosi problemau. 

Barn y cyfranogwyr am y cynllun cyfredol

Mae tair lefel o fewn y cynllun presennol y gall cyflogwyr eu cyflawni. Cytunodd llawer o gyfranogwyr fod statws arweinydd Lefel 3 yn werthfawr oherwydd bod angen asesiad allanol gan sefydliad arall a oedd eisoes wedi ennill statws Lefel 3 yn y cynllun er mwyn ei gyflawni. 

Cododd llawer o gyfranogwyr eu bod wedi cael problemau gyda'r cynllun presennol, yn enwedig ar y lefelau is a drafodir isod.

Roedd y cysyniad o gael sicrwydd o gyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl wrth wneud cais am swyddi yn cael ei ystyried fel mantais. Er bod gan rai cyfranogwyr brofiad o sefyllfa lle nad oedd hyn wedi cael ei anrhydeddu. 

Roedd y cyfranogwyr o’r farn y gallai arddangos logo’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ar hysbysebion swyddi fod yn fanteisiol i bobl anabl pe bai'n dangos y byddai rhai disgwyliadau cyflogaeth sylfaenol yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, er bod rhywfaint o hyder ymhlith cyfranogwyr y gallai cyflogwyr Lefel 3 fodloni'r disgwyliad hwn, roedd llai o hyder yn y cyflogwyr lefel is. 

Roedd y cyfranogwyr ar draws y tri grŵp ffocws yn credu nad oedd lefelau is (lefelau 1 a 2) y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yn cael eu hystyried yn ddigon heriol a’u bod yn cynrychioli safon isafswm. Ystyriwyd nad oedd y lefelau is yn darparu digon o gefnogaeth ac arweiniad i gyflogwyr. Credwyd bod hyn yn golygu bod rhai cyflogwyr heb ddeall yn llawn beth maen nhw wedi cofrestru i'w gyflawni. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn y gweithle ac o'r cynllun ei hun. 

Roedd cyfranogwyr yr ymchwil yn credu bod y 'safon sylfaenol' hon o bosibl yn rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i gyflogwyr a phobl anabl sy'n chwilio am waith. 

Dywedodd cynrychiolwyr Sefydliadau Pobl Anabl nad yw rhai cyflogwyr bob amser yn deall yn glir beth yw’r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yn y farchnad lafur ac efallai y byddant yn meddwl bod eu harferion recriwtio yn gwbl hygyrch, ond nid yw hyn bob amser yn wir. 

Nid oedd lefelau is y cynllun yn cael eu hystyried yn ddigon cadarn gan fod gofyn i gyflogwyr hunanasesu ar y lefelau hyn ac nid oes unrhyw fonitro, gwerthuso nac achredu allanol.

Disgrifiwyd y cynllun presennol gan lawer o’r cyfranogwyr fel 'ymarferiad blwch ticio', 'ddim yn addas i'r diben' ac fe'i cymharwyd yn anffafriol â chynlluniau cyflogwyr eraill. Roedd cynlluniau tebyg eraill ar gyfer pobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig, er enghraifft cynlluniau penodol LHDTC+, yn cael eu hystyried yn rhai mwy effeithiol, heriol a chadarn. Bu trafod bod pobl â phrofiad bywyd fel arfer yn rhan o sefydlu, rheoli a gwerthuso'r cynlluniau hyn. 

Ystyriwyd bod diffyg pwyslais ar ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd i geisio cael adborth ganddynt ynghylch pa mor dda oedd y cynllun yn gweithio iddynt ar hyn o bryd. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn hanfodol gan mai pobl anabl yw'r rhai y tybir eu bod yn cael budd o’r cynllun.

Tynnodd y cyflogwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil sylw at eu dymuniad i ddysgu a gwella’n barhaus. Roedd rhai cyflogwyr yn credu bod canllawiau’r cynllun cyfredol yn canolbwyntio ar gamau yr oeddent eisoes wedi'u cymryd. 

Roedd y cyfranogwyr yn credu bod y cyllid a’r cymorth a roddir i gyflogwyr weithiau’n amrywio. Rhoddodd rhai cyflogwyr enghreifftiau o gymorth da gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn rhai ardaloedd daearyddol, tra bod eraill yn dweud iddynt gael trafferth cael y cymorth hwnnw.

Tynnodd rhai cyfranogwyr sylw at brofiadau 'ofnadwy' mewn cyflogaeth yr oedd pobl anabl wedi'u hwynebu yn hanesyddol. Mae'r diffyg dilyniant i gyflogwyr sy'n rhan o'r cynllun yn golygu nad yw rhai’n cael eu dwyn i gyfrif ar hyn o bryd, a all arwain at ailadrodd profiadau gwael i bobl anabl yn y gweithlu. 

Awgrymiadau rhanddeiliaid am sut i wella'r cynllun presennol

Rhannodd cyfranogwyr y grwpiau ffocws awgrymiadau am sut i wella'r cynllun presennol a oedd yn cynnwys: 

  • cynyddu adnoddau fel staff, cyllid a chapasiti ymhlith rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd gan yr ymchwil a sicrhau bod gwelliannau yn barhaus ac ystyrlon
  • un enghraifft a gynigiwyd oedd y gellid darparu adnoddau ychwanegol i Sefydliadau Pobl Anabl weithio'n fwy uniongyrchol gyda chyflogwyr i roi cyngor ac arweiniad
  • monitro cynnydd yn gadarn a rheolaidd yn erbyn meincnodau mesuradwy y cytunwyd arnynt ar draws pob lefel i gynyddu hyder ac i ddangos canlyniadau gwell i bobl anabl yn y gweithlu
  • gwerthusiad annibynnol ar bob lefel lle gallai pobl â phrofiad bywyd chwarae rôl efallai, o ystyried mai nhw yw’r rhai y tybir eu bod yn cael y budd o’r cynllun
  • awgrymwyd y gallai Sefydliadau Pobl Anabl o bosibl ffurfio bwrdd cynghori gyda Llywodraeth Cymru ac adeiladu ar waith yr Hyrwyddwyr Anabledd i ymgymryd â gweithgarwch gwerthuso
  • mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd ymhlith rhanddeiliaid
  • mwy o ymgysylltu ar lefel ranbarthol rhwng Sefydliadau Pobl Anabl, sefydliadau'r trydydd sector, cyflogwyr ac undebau llafur

Un o egwyddorion sylfaenol unrhyw welliant a nodwyd oedd ymgysylltu â phobl anabl oedd â phrofiad bywyd. Mae angen i gyflogwyr ddeall yn llawn beth yw'r rhwystrau i bobl anabl, a sut mae adnabod arfer da. Credwyd bod angen i'r cynllun presennol osod uchelgeisiau uwch ar gyfer newid ar draws pob lefel. 

Dywedodd cynrychiolwyr yr Undebau Llafur y byddent yn hoffi cael mwy o ran mewn unrhyw gynllun a weithredir yn y dyfodol. Ystyriwyd bod eu rhwydwaith o gynrychiolwyr undeb yn y gweithle yn ffynhonnell bosibl o gefnogaeth ac addysg i gyflogwyr a phobl anabl fel ei gilydd.

Ystyriwyd bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn rhwystr strwythurol. Gwnaeth cyfranogwyr yr undebau llafur y sylw bod y ddeddfwriaeth yn aml yn canolbwyntio mwy ar achosion unigol o wahaniaethu ar sail anabledd yn hytrach na mynd i'r afael â rhwystrau ar draws sectorau. Rhannodd y cyfranogwyr uchelgais i’r rhanddeiliaid fod yn gweithio mwy gyda'i gilydd yn y dyfodol i ganfod atebion ar y cyd. Dywedodd y cyfranogwyr ar draws y grwpiau ffocws fod angen gweithdrefn adrodd gryfach i sicrhau atebolrwydd a gonestrwydd cyflogwyr. 

Ystyriodd y cyfranogwyr rôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, o ystyried mai hwy yw perchennog presennol y cynllun. Credwyd y byddai angen gwella ymddiriedaeth a’r berthynas gyda nhw er mwyn i gydweithio greu gwelliannau. Fodd bynnag, soniodd y cyfranogwyr y gallai trefniadau amgen ar gyfer cynnal y cynllun fod yn opsiwn gwell os nad yw cydweithio effeithiol rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r rhanddeiliaid yn bosibl. 

Awgrymwyd y gallai Llywodraeth Cymru chwarae rôl fwy gweithredol efallai mewn cynllun yn y dyfodol neu gynllun diwygiedig. Byddai hyn o bosibl yn galluogi rhwydweithiau lleol o rhanddeiliaid i gydweithio. Arweiniodd hyn at ddadl bellach ynglŷn â manteision a heriau posibl cynllun cyflogwyr pwrpasol i Gymru fel y trafodir isod. 

Manteision a heriau posibl cynllun i Gymru neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun cenedlaethol

Mae’r dystiolaeth o'r ymchwil yn awgrymu cefnogaeth gymysg i gynllun newydd i Gymru neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun ledled y DU. Gallai hyn fod yn rhan o unrhyw gyfrifoldebau datganoledig i sicrhau bod y cynllun yn ystyried anghenion rhanbarthol ac yn caniatáu mwy o gyfranogiad cymunedol. Rhoddwyd ystyriaeth i’r manteision a’r heriau posibl sy'n gysylltiedig â hyn. 

Roedd un o fanteision posibl datganoli rhywfaint neu'r cyfan o gynllun Hyderus o ran Anabledd i Gymru, a godwyd gan gyfranogwyr y grwpiau ffocws, yn cynnwys sefydlu fforwm penodol o arweinwyr yng Nghymru. Ystyriwyd y gallai'r fforwm hwn gael y fantais o godi uchelgais a darparu rhwydwaith lleol i arweinwyr herio ei gilydd a rhannu arfer da.  Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys cydweithio â Sefydliadau Pobl Anabl, Grwpiau Amhariad ac undebau llafur.

Cydnabuwyd y gallai dimensiwn Cymreig i gynllun cyflogwr integreiddio siaradwyr Cymraeg yn well a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Gallai cynllun sy'n ystyried dimensiwn penodol Cymreig ddeall patrymau cyflogi rhanbarthol yn well efallai yn ogystal â’r rhwystrau economaidd sy'n wynebu pobl anabl. 

Amlygodd rhai cyfranogwyr bryder nad oedd llawer o gyflogwyr yng Nghymru wedi ennill statws arweinydd Lefel 3 hyd yn hyn. Felly, ystyriwyd bod cymorth lleol yn ffordd bosibl o gynyddu nifer y cyflogwyr yng Nghymru yn y sector preifat a chyhoeddus sy'n cyflawni statws arweinydd. 

Roedd rhai pobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl yn teimlo bod lefelau ymddiriedaeth gyda Llywodraeth Cymru yn uwch na'r lefelau gyda Llywodraeth y DU. Ystyriwyd hefyd y gallai cael elfen Gymreig bwrpasol roi cyfle newydd ar gyfer 'newid diwylliannol'. Dywedodd un cyfranogwr y byddai hyn yn cynnig y cyfle i ddiwygio o'r gwaelod i fyny a gweithio'n gydgynhyrchiol gyda phobl anabl. 

Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys ailfrandio'r cynllun yn llwyr heb iddo fod yn cyd-fynd â’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn sicrhau mwy o hyder ac ymddiriedaeth yn y cynllun. 

Awgrymwyd y gallai elfen Gymreig bwrpasol gydredeg efallai â'r broses gaffael gyhoeddus yng Nghymru a allai gael ei defnyddio fel ffordd i ennyn diddordeb mwy o gyflogwyr. Er enghraifft, gellid gosod safon ansawdd sylfaenol i sicrhau y byddai'n rhaid i unrhyw gyflogwyr sy'n cynnig am gontractau'r sector cyhoeddus ei arddangos yn ymarferol. 

Roedd yr heriau posibl a amlygwyd yn cynnwys materion ymarferol fel cyllid a chapasiti. Cododd y cyfranogwyr y byddai angen mwy o fuddsoddiad yng Nghymru i wella capasiti’r  rhanddeiliaid, yn enwedig ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad. 

Awgrymwyd hefyd y gallai cael cynllun Cymreig pwrpasol ochr yn ochr â chynllun cyflogwr cenedlaethol y DU achosi rhywfaint o ddryswch, yn enwedig i gyflogwyr sy'n gweithredu ledled y DU. 

Cwestiynodd rhai cyfranogwyr pa mor ymarferol oedd cyflawni hyn mewn termau real. Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo y gellid defnyddio’r ymdrech yn well yn ceisio gwella neu adeiladu ar y cynllun presennol yn hytrach na dargyfeirio adnoddau oddi wrtho o bosibl. 

Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod cyfleoedd clir a manteision posibl i gynllun Cymreig pwrpasol, ar y llaw arall roedd cefnogaeth gref hefyd i gynyddu'r adnoddau sydd ar gael a gwneud gwelliannau i'r cynllun presennol yn hytrach na datblygu rhywbeth newydd.