Ymchwil ynghylch y posibilrwydd o sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru - Gwybodaeth gefndir
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r opsiynau ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sut y gallai weithrdu. Roeddem am brofi sut oeddem yn cyd greu ymchwil i gefnogi pobl anabl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau cydgynhyrchu
Cynhyrchodd y Tîm Cydgynhyrchu Ymchwil weledigaeth gyffredinol ar gyfer y prosiect ymchwil, y dull cydgynhyrchu a'r gwerthusiad. Cytunwyd ar gydgynhyrchu fel 'dull o weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth gyfartal er budd cyfartal' a chytunwyd ar ystod o egwyddorion i helpu cydweithio ymhlith aelodau'r tîm. Yr uchelgeisiau a rennid oedd dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gymdeithasol gyda'i gilydd, a fyddai’n gwella ansawdd a defnydd tystiolaeth i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl anabl. Roedd yn arbrawf oedd yn creu prototeip i brofi'r terfynau wrth gydgynhyrchu adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Bydd y graddau y cyflawnwyd yr uchelgeisiau yn destun adroddiad gwerthuso ar wahân ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn.
Y tîm cydgynhyrchu ymchwil
Cyfunodd y tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o anabledd ag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol (academaidd a Llywodraeth) a daeth â Chadeiryddion Gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a swyddogion Llywodraeth Cymru at ei gilydd:
- Roedd y Cadeiryddion yn cynrychioli cyfoeth o brofiad bywyd o anabledd, gwybodaeth ac arbenigedd (gan gynnwys arbenigedd academaidd mewn hawliau anabledd) ac roeddent wedi cadeirio Gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn ymdrin â phynciau Cyflogaeth ac Incwm, Byw'n Annibynnol ac Iechyd, Byw'n Annibynnol a Gofal Cymdeithasol, Tai, Mynediad at Wasanaethau, Mynediad at Gyfiawnder a Theithio.
- Arweinydd Polisi’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl.
- Roedd o leiaf dri o ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gael i'r tîm cydgynhyrchu trwy’r prosiect, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd o fod yn anabl.
- Bu Prif Ymchwilydd yn cefnogi’r cydgynhyrchu trwy’r cyfnod ac yn gyfrifol am y gwerthusiad terfynol.
- Roedd gan Bennaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd oruchwyliaeth ers cychwyn y prosiect ac roedd yn rhan lawn o'r cydgynhyrchu o'r adeg y cytunwyd ar ffocws yr ymchwil.
Nodau ymchwil
Nod yr ymchwil oedd cydgynhyrchu tystiolaeth sylfaenol yn ailadroddol a'i defnyddio i archwilio argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, trwy gynnwys:
- y tîm cydgynhyrchu a'i drafodaethau cwmpasu cychwynnol
- cynrychiolwyr pobl anabl (gan gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad)
- cynrychiolwyr sefydliadau'r trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl anabl
- cynrychiolwyr darparwyr gofal cymdeithasol
- cynrychiolwyr Awdurdodau Lleol Cymru sy’n cefnogi pobl anabl
- academyddion sy'n gweithio ar ymchwil sy'n ymwneud â hawliau anabledd
- swyddogion polisi Llywodraeth Cymru dethol
- cynrychiolwyr undebau llafur
Sut y cynhyrchwyd yr ymchwil
Aeth y tîm cydgynhyrchu ati i weithio mor gydgynhyrchiol â phosibl i gwmpasu, cyd-ddylunio a chyd-gynllunio'r ymchwil, datblygu offer ymchwil, cyd-hwyluso'r gweithdy trafod ac adolygu a chytuno ar y canfyddiadau yn seiliedig ar y data fel y'i dadansoddwyd gan ddau ymchwilydd Llywodraeth Cymru o fewn y tîm. Bu ymchwilwyr Llywodraeth Cymru yn drafftio’r adroddiadau ac yn sicrhau ansawdd y rhain i safonau ymchwil gymdeithasol y llywodraeth cyn eu cynnig i'w hadolygu gan y tîm cydgynhyrchu.
Roedd y graddau y cydgynhyrchwyd penderfyniadau yn amrywio yn ystod gwahanol gamau'r prosiect. Cafodd rhai penderfyniadau eu cadw gan Lywodraeth Cymru lle roedd ganddi gyfrifoldebau i'w cynnal. Er enghraifft, cyfrifoldebau diogelu data statudol neu safonau proffesiynol ymchwil gymdeithasol y llywodraeth fel cyfrifoldebau moesegol sy'n ymwneud â chyfrinachedd canfyddiadau cyn eu cyhoeddi.
Mae cydgynhyrchu yn broses ailadroddol. Roedd y cydgynhyrchu’n cynnwys dau ddarn o ymchwil ac roedd penderfyniadau a wnaed ynglŷn â dyluniad y gwaith maes yn effeithio ar yr adnoddau a oedd ar gael i gyflawni amcanion ymchwil eraill yn ddigonol. Eglurir hyn yn fanylach yn yr adran Fethodoleg a bydd yn cael ei archwilio ymhellach trwy werthusiad y prosiect. Bydd y gwerthusiad yn ystyried i ba raddau y cydgynhyrchwyd yr ymchwil ar draws gwahanol gamau'r ddau brosiect o greu prototeip ymchwil.
Roedd cydweithio fel tîm o arbenigwyr trwy brofiad ac ymchwilwyr cymdeithasol academaidd neu ymchwilwyr y Llywodraeth (rhai’n perthyn i’r ddau gategori) yn ychwanegu at ansawdd yr ymchwil, er enghraifft:
- cyfunwyd gwybodaeth am y pwnc ymchwil ac roedd yr ymchwil yn adeiladu ar wybodaeth a gronnwyd yng Ngweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl.
- cymhwyswyd lens profiad bywyd wrth ddatblygu'r adnoddau ymchwil, cyd-hwyluso’r gweithdy a dadansoddi’r data
- heriwyd rhagdybiaethau am bobl anabl a thynnwyd sylw at gyfleoedd i wneud pethau'n wahanol
- cydgynlluniwyd ymchwil ac adroddiadau yn unol ag egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd
- gwnaed ymdrechion ar y cyd i ddewis a recriwtio cyfranogwyr ar gyfer y gweithdy
