Neidio i'r prif gynnwy

Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r opsiynau ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sut y gallai weithrdu. Roeddem am brofi sut oeddem yn cyd greu ymchwil i gefnogi pobl anabl.

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Mehefin 2025

Cydnabyddiaethau

Roedd hwn yn brosiect ymchwil gymdeithasol cydweithredol. Cyflwynodd tîm o gydgynhyrchwyr yr ymchwil gan gynnwys Cadeiryddion gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru. Cyfunai’r tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o wynebu anabledd oherwydd rhwystrau gydag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol (academaidd a chan y Llywodraeth).

Ni fuasai'r prosiect ymchwil gymdeithasol hwn yn bosibl heb yr amser a neilltuwyd a'r cyfraniadau helaeth a chraff a wnaed gan y cydgynhyrchwyr yn ystod pob cam o'r ymchwil, o bennu cwmpas y prosiect i gyhoeddi'r adroddiad hwn.

Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch yn arbennig i aelodau'r tîm cydgynhyrchu o’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl am rannu eu hasedau personol a sefydliadol, gan gynnwys profiad bywyd o wynebu anabledd oherwydd rhwystrau, eu brwdfrydedd a'u huchelgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, eu sgiliau cyfathrebu a’u sgiliau rhyngbersonol, ac am ddefnyddio’u harbenigedd a'u dealltwriaeth o'r sefyllfa bresennol a hanesyddol ar gyfer pobl anabl, a defnyddio eu rhwydweithiau eu hunain.

Roedd aelodau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn cynnwys:

  • Rhian Davies, Cadeirydd Gweithgor Byw’n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
  • Damian Joseph Bridgeman – ymgyrchydd anabledd, entrepreneur cymdeithasol, Cynghorydd Cymuned Sain Tathan, a Chadeirydd Gweithgor Tai Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Debbie Foster, Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd. Cadeirydd y Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm a Chyd-Gadeirydd Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
  • Dr Natasha Hirst, Cadeirydd Gweithgor Mynediad at Wasanaethau Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
  • Willow C Holloway, Cadeirydd Gweithgor Byw’n Annibynnol: Iechyd Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
  • Joe Powell, Prif Weithredwr, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Chadeirydd Gweithgor Mynediad at Gyfiawnder Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru

Cefndir

Rhagair gan arweinydd polisi Tasglu Hawliau Pobl Anabl

Ym mis Gorffennaf 2021, amlygodd adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 yr anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas. Un o ymatebion Llywodraeth Cymru i'r adroddiad oedd sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl, sef partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a phobl anabl. Roedd y Tasglu’n gweithredu ar egwyddor cydgynhyrchu, gyda mwy na 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a 350 o randdeiliaid allanol yn cydweithio i ddatblygu argymhellion, gyda'r nod o wella’r canlyniadau i bob person anabl yng Nghymru. Defnyddiwyd yr argymhellion hyn fel sail i ganlyniadau a chamau gweithredu’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl. 

Y rhesymeg ar gyfer cydgynhyrchu wrth wneud yr ymchwil

Ym mis Medi 2023, cytunodd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gydweithio ag Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd (ERDEU) Llywodraeth Cymru gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth wedi'i llywio gan brofiad bywyd. Byddai'n profi i ba raddau y gellir cydgynhyrchu GSR, gan gydweithio i ymdopi â’r rhwystrau a chroesawu galluogwyr newid.

Nod yr ymchwil oedd profi ffordd amgen o gynnal ymchwil ar y cyd â chynrychiolwyr pobl anabl ac yn unol â’r model cymdeithasol o anabledd. Nodir mai ‘cydgynhyrchydd’ yw aelod o'r tîm traws-sector a gydweithiodd i greu prototeip o adroddiad GSR sydd wedi’i gydgynhyrchu.

Nod yr ymchwil oedd galluogi cyflawni cenhadaeth ERDEU, sef “gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni ddeall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a’r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru”.

Yr uchelgais, fel rhan o gyfrannu at Gymru sy’n Fwy Cyfartal, oedd galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar well gwybodaeth a sbarduno canlyniadau gwell i bobl.

Bwriad yr ymchwil oedd cryfhau gwaddol y Tasglu Hawliau Pobl Anabl trwy archwilio'r argymhellion ymhellach. Dewiswyd dau argymhelliad gan Gadeiryddion y Tasglu ar gyfer gwaith ymchwil. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar yr argymhelliad canlynol gan y Gweithgor Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol:

‘Sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol, sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, gyda'r nod o: 

  • gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth am yr hawl i Fyw'n Annibynnol
  • cynyddu gwybodaeth a sgiliau ynghylch arfer da wrth gefnogi a chyflawni Byw'n Annibynnol
  • dyfeisio strategaethau i ehangu mynediad i Daliadau Uniongyrchol ac i fanteisio arnynt, gan gynnwys datblygu'r farchnad ar gyfer Cynorthwywyr Personol
  • gwneud y mwyaf o rôl Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol trwy ddarparu cymorth a mynediad at adnoddau.’

Profiad bywyd pobl anabl: nodyn gan Gadeirydd y Gweithgor Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol

Cyfarfu Gweithgor Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol y Tasglu Hawliau Pobl Anabl 4 gwaith rhwng Medi 2022 a Mawrth 2023. Roedd aelodaeth y Gweithgor yn cynnwys pobl anabl â phrofiad bywyd o ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, cynrychiolaeth o Sefydliadau Pobl Anabl, sefydliadau'r trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus, academyddion, a swyddogion Llywodraeth Cymru o ystod o feysydd polisi a chyflenwi. 

Roedd y cyfarfodydd yn archwilio materion sy'n wynebu pobl anabl yn ymwneud â gofal cymdeithasol a Byw'n Annibynnol. Trafododd yr aelodau ystod eang o rwystrau y mae pobl anabl yn eu profi ynghylch gofal cymdeithasol gan gynnwys diffyg dealltwriaeth gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol am eu hanghenion; diffyg dealltwriaeth dinasyddion anabl o'u hawliau ynghylch mynediad at gymorth; rhwystrau i gael mynediad at Daliadau Uniongyrchol; agweddau problematig o fewn cymdeithas; a diffyg sgiliau arbenigol ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol. Roedd y trafodaethau yn ymdrin â ffyrdd o fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn, yn ogystal â materion cyd-destunol fel yr argyfwng Costau Byw, yr adferiad araf o ran y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn dilyn pandemig y coronafeirws (COVID-19), a phroblemau gyda gwasanaethau gofal iechyd. 

Trafododd y Gweithgor bwysigrwydd arfer ymagwedd hawliau dynol tuag at gefnogaeth i bobl anabl, ac edrychodd ar oblygiadau cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) gan y DU, yn enwedig Erthygl 19 ar yr Hawl i Fyw'n Annibynnol. Cododd y trafodaethau bryderon hefyd am ddiffyg atebolrwydd ynghylch gweithredu dyletswyddau statudol. Awgrymwyd bod angen canllawiau ar weithredu gofyniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i roi sylw dyledus i CCUHPA wrth ddarparu gwasanaethau o dan y Ddeddf. 

Cynigiodd aelodau'r Gweithgor y gallai sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol (NCFIL) yng Nghymru, yn cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, helpu i wreiddio Byw'n Annibynnol trwy gynnal ymchwil a goruchwylio gwasanaethau rhanbarthol. Fe wnaethant hefyd argymell bod Llywodraeth Cymru yn ailymrwymo'n weithredol i'r cysyniad o Fyw'n Annibynnol, a'i hyrwyddo ar draws meysydd polisi ac wrth ddarparu gwasanaethau. Roedd aelodau'n teimlo y dylid defnyddio hyn fel y safon aur wrth farnu beth sy'n cael ei gyflawni. Awgrymodd yr aelodau hefyd rai diwygiadau i'r diffiniad o Fyw'n Annibynnol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghynllun Gweithredu 2019

Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Gweithgor y mae eu cyfraniadau a’u syniadau wedi ysbrydoli’r ymchwil hon.

Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru

Cyd-destun polisi

Yr hawl i Fyw'n Annibynnol yng Nghymru

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith: Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol, a oedd yn nodi camau gweithredu i fynd i'r afael â'r prif faterion sy'n wynebu pobl anabl ar draws ystod o feysydd polisi. Tynnodd sylw at anghydraddoldebau i bobl anabl mewn nifer o feysydd sy'n gysylltiedig â Byw'n Annibynnol, gan gynnwys lefelau uwch o dlodi a mwy o allgáu cymdeithasol.

Mae Byw'n Annibynnol yn cael ei ddiffinio o fewn y Fframwaith fel:

‘Ystyr byw'n annibynnol yw bod gan bob person anabl yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill gartref, yn y gwaith, mewn addysg ac yn y gymuned. Nid yw'n golygu gorfod byw ar eich pen eich hun na gwneud popeth  
drosoch chi eich hun. Mae'n golygu hawliau i gymorth a chefnogaeth ymarferol er mwyn cymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar yr un sail ag eraill, a'r hawl i fynegi dewis a rheolaeth dros y ffordd y caiff y cymorth a'r gefnogaeth eu darparu. 

Mae'n ymwneud â sicrhau y gall pobl o bob oedran ac o bob cymuned barhau i fyw'n annibynnol, mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pan fydd ei angen arnynt ac yn y ffordd briodol.’ 

Bwriad y Fframwaith oedd helpu pobl anabl i gyflawni eu huchelgeisiau a gwella eu llesiant trwy gyflogaeth deg, gwell canlyniadau iechyd, cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes, a chymunedau mwy unedig. Ei nod oedd cael gwared ar y rhwystrau a wynebir wrth gael swydd a chreu'r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu.

Wrth wneud hynny, mae wedi dylanwadu ar nifer o bolisïau a chynlluniau strategol ar draws sawl maes polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: Mae Casineb yn Brifo Cymru, y Strategaeth ddigidol i Gymru, y Rhaglen tai arloesolCymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.

Yn fwy diweddar, mae gwaith datblygu wedi dechrau ar gynllun gweithredu traws-lywodraethol ar gyfer pobl anabl. Bydd hyn yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl ddisgwyl cael eu cynnwys a'u parchu. Bydd y cynllun yn dangos ymrwymiad parhaus i ddiogelu hawliau pobl anabl ac i wreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd trwy’r holl bolisïau yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau hefyd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA). Mae'r confensiwn, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2006 ac a gadarnhawyd gan y DU yn 2009, yn gweithredu fel cytundeb rhwng llywodraethau i amddiffyn hawliau pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys hawliau sy'n ymwneud â Byw'n Annibynnol o dan Erthygl 19, 'Byw'n annibynnol a chynhwysiant yn y gymuned', sy'n dweud:

  • bod gan bobl anabl hawl gyfartal i fyw yn y gymuned a chymryd rhan ynddi.
  • bod gan bobl anabl yr hawl i’r un dewis a rheolaeth â phobl nad ydynt yn anabl.
  • bod yn rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pobl anabl yn mwynhau’r hawliau hyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu’r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol annibynnol i ymchwilio i sut y gellid ymgorffori’r confensiwn hwn yng nghyfraith Cymru.

Cwmpas Byw'n Annibynnol

Mae'r hawl i Fyw'n Annibynnol yng Nghymru yn cyffwrdd â llawer o feysydd polisi a gellir gweld anghydraddoldebau mewn ystadegau swyddogol. Mae data cyfrifiad 2021 yn dangos bod 21% o bobl yng Nghymru (670,000 o bobl) yn anabl, wedi'u diffinio fel rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol neu feddyliol sy'n para neu y disgwylir iddo bara 12 mis neu fwy, gan alinio â Deddf Cydraddoldeb (2010), Cymru. 

Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022 i 2023) yn dangos bod oedolion anabl neu'r rhai sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig y rhan fwyaf o’r amser neu trwy'r amser ac yn fwy tebygol o fod â boddhad is â bywyd. Roedd pobl anabl neu’r rhai sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fyw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol na'r rhai nad ydynt yn anabl. 

Yn 2002 mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel rhai y mae eu hamhariad wedi’u gwneud yn anabl (h.y. y model meddygol o anabledd), ystyrir bod pobl ag amhariadau neu gyflyrau iechyd hirdymor wedi’u gwneud yn anabl gan rwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol a grëwyd gan gymdeithas. Mae llawer o'r ffynonellau data yn yr adran hon yn defnyddio diffiniadau’r model meddygol o anabledd yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y Ddeddf Cydraddoldeb ystyr "anabledd" yw cyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio iaith y model cymdeithasol yn yr adran hon lle bo hynny'n bosibl. 

Er gwaethaf rhywfaint o welliant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae tystiolaeth o adroddiad Llesiant Cymru 2024 yn awgrymu bod pobl anabl yn parhau i brofi canlyniadau gwaeth na phobl nad ydynt yn anabl ar draws nifer o feysydd sy'n gysylltiedig â Byw'n Annibynnol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfraddau cyflogaeth, incwm, a llesiant.

Mae data gweithgarwch economaidd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod y bwlch cyflogaeth anabledd yn 30.6 pwynt canran. Roedd 50.9% o bobl anabl 16 i 64 oed mewn cyflogaeth yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 o'i gymharu ag 81.5% o bobl nad ydynt yn anabl. Yn ôl data 2023, ar gyfer y rhai oedd mewn cyflogaeth, roedd pobl anabl yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn ennill £1.75 (12.2%) yn llai yr awr na phobl nad ydynt yn anabl. 

Roedd gan tua 48,500 o oedolion yng Nghymru gynllun gofal a chymorth yn ôl data gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol 2023 i 2024 ac o’r rheiny, roedd gan 13% gynllun gofal a chymorth a gefnogwyd gan ddefnyddio Taliad Uniongyrchol. Mae tua 200,000 o bobl yn gweithio ym maes Gwasanaethau Gofal ac Iechyd yng Nghymru. Mae'r gwasanaethau hynny wedi'u nodi fel un o wyth rhan yr Economi Sylfaenol, sydd hefyd yn cynnwys Bwyd, Tai, Trafnidiaeth a nwyddau a gwasanaethau hanfodol bob dydd eraill.

Rôl y Gwasanaethau Cymdeithasol 

Mae awdurdodau lleol yn darparu llawer o'r gwasanaethau gofal personol a ddefnyddir gan bobl anabl yng Nghymru. Roedd fframwaith Llywodraeth Cymru ar Fyw'n Annibynnol yn cydnabod gofal a chymorth personol fel un o ystod o elfennau sydd eu hangen i gael gwared ar rwystrau cymdeithasol neu eu lleihau. 

Mae gwasanaethau cymdeithasol wedi'u datganoli yng Nghymru ac mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi mewn cyfraith sut y dylai gofal cymdeithasol gael ei ddarparu. Gellir crynhoi’r egwyddorion sy’n sail i’r Ddeddf fel hyn:

  • Llais a rheolaeth. Rhoi’r unigolyn a’u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais iddyn nhw ynghylch cyrraedd y canlyniadau sy’n eu helpu i sicrhau llesiant, a rheolaeth dros hynny.
  • Atal ac ymyrryd yn gynnar. Cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn y gymuned er mwyn lleihau’r cynnydd o ran anghenion critigol.
  • Llesiant. Cefnogi pobl i sicrhau eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth.
  • Cydgynhyrchu. Annog unigolion i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

Mae'r Cod Ymarfer ar ran 2 o’r Ddeddf yn nodi sut y dylid cyflawni swyddogaethau cyffredinol o dan y Ddeddf. Un peth neilltuol yw ei fod yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl mewn perthynas â phobl anabl sydd angen gofal a chymorth ac i ofalwyr anabl wrth gyflawni’r swyddogaethau hyn. 

Fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), sefydlwyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Nod y rhain yw gwella llesiant y boblogaeth a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu. Rhaid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ddangos ymgysylltiad â dinasyddion a chydgynhyrchu. Gallant gynnwys aelodau o'r cyhoedd a gofalwyr yn ogystal â chynrychiolwyr o Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Sefydlwyd Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth Llywodraeth Cymru yn 2024 i roi arweiniad i'r sector gofal cymdeithasol wrth wneud gwelliannau i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n anelu at sicrhau cydweithio ar draws y sector gofal cymdeithasol. Hefyd, i wella mynediad at wasanaethau, i wella'r profiad o ddefnyddio gwasanaethau ac i gyflawni canlyniadau gwell a thecach. Un o'i swyddogaethau craidd yn ystod ei blwyddyn gyntaf oedd datblygu, gweithredu a pharhau i ddarparu’r Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru. Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, defnyddwyr gwasanaeth a'r gweithlu. Bydd yn parhau i gefnogi a galluogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol wrth i'r cynllun gweithredu fesul cam, 10 mlynedd symud ymlaen ar gyfer Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol, yn ychwanegol at swyddogaethau craidd eraill.

Mae gwaith pellach ar y gweill i gefnogi pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor i gael mwy o reolaeth dros sut, pryd a chan bwy y darperir eu gofal iechyd. Daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, sy'n galluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol i oedolion sy'n cael Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP), yn gyfraith yng Nghymru ym mis Mawrth 2025. Mae'n anelu at ddarparu trefn sy’n gydradd â gofal cymdeithasol, lle mae taliadau uniongyrchol a weinyddir gan Awdurdodau Lleol yn opsiwn gwerthfawr i bobl anabl, fel y dengys data Archwilio Cymru

Rôl y trydydd sector 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl bwysig sefydliadau'r trydydd sector wrth gyfrannu at Fyw'n Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n gydgynhyrchiol â phobl anabl a sefydliadau pobl anabl i nodi problemau sy'n effeithio ar bobl anabl ac i ddod o hyd i atebion. Maent hefyd yn darparu gwasanaethau i ddinasyddion fel eiriolaeth a chymorth arall. 

Cyhoeddwyd Cynllun y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn 2014. Mae'n nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda, yn cefnogi ac yn ariannu sefydliadau gwirfoddol. Mae'r Cynllun hwn yn cynnwys Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector sy'n nodi’r egwyddorion ar gyfer gwaith cyllido a chomisiynu Llywodraeth Cymru. Mae aelodau is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector a chyllidwyr sector cyhoeddus i gydgynhyrchu cod diwygiedig.

Pum egwyddor y cod sydd ar ei newydd wedd, ac yn symlach, yw: Tegwch Mynediad; Deialog gynnar a pharhaus; Gwerth a Chanlyniadau; Mecanwaith Cyllido Priodol; Hyblygrwydd. Ers iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r trydydd sector i hyrwyddo mabwysiadu’r cod.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Grŵp Arwain Traws-sector ar Wirfoddoli Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i gyd-ddylunio ffyrdd newydd o gefnogi a chynyddu gwirfoddoli yng Nghymru. Bydd y Dull Newydd hwn o ymwneud â Gwirfoddoli yn cael ei lansio yn Gofod3. 

Canolfannau Byw'n Annibynnol yn y DU

Fel yng Nghymru, mae canolfannau lleol ar gyfer byw'n annibynnol yn gweithredu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnig gwasanaethau amrywiol fel eiriolaeth, cymorth cyflogres, a recriwtio cynorthwywyr personol. Mae rhai hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu a hyfforddi.

Yn ogystal â chanolfannau lleol, tan 2011 roedd Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yn Lloegr. Fe'i ffurfiwyd o’r Cyngor Prydeinig Sefydliadau Pobl Anabl ac fe'i rheolwyd gan bobl anabl. Roedd yn ymgyrchu dros hawliau ar Fyw'n Annibynnol, gan gynnwys y defnydd o Daliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal cymdeithasol. Yn 2012 unodd â RADAR a’r Gynghrair Anabledd i ffurfio Disability Rights UK, sy'n Sefydliad Pobl Anabl. Mae'n anelu at ddylanwadu ar bolisi sy'n effeithio ar bobl anabl yn genedlaethol ac yn rhanbarthol. 

Gwybodaeth gefndir

Nodau cydgynhyrchu

Cynhyrchodd y Tîm Cydgynhyrchu Ymchwil weledigaeth gyffredinol ar gyfer y prosiect ymchwil, y dull cydgynhyrchu a'r gwerthusiad. Cytunwyd ar gydgynhyrchu fel 'dull o weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth gyfartal er budd cyfartal' a chytunwyd ar ystod o egwyddorion i helpu cydweithio ymhlith aelodau'r tîm. Yr uchelgeisiau a rennid oedd dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gymdeithasol gyda'i gilydd, a fyddai’n gwella ansawdd a defnydd tystiolaeth i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl anabl. Roedd yn arbrawf oedd yn creu prototeip i brofi'r terfynau wrth gydgynhyrchu adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Bydd y graddau y cyflawnwyd yr uchelgeisiau yn destun adroddiad gwerthuso ar wahân ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn.

Y tîm cydgynhyrchu ymchwil

Cyfunodd y tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o anabledd ag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol (academaidd a Llywodraeth) a daeth â Chadeiryddion Gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a swyddogion Llywodraeth Cymru at ei gilydd:

  • Roedd y Cadeiryddion yn cynrychioli cyfoeth o brofiad bywyd o anabledd, gwybodaeth ac arbenigedd (gan gynnwys arbenigedd academaidd mewn hawliau anabledd) ac roeddent wedi cadeirio Gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn ymdrin â phynciau Cyflogaeth ac Incwm, Byw'n Annibynnol ac Iechyd, Byw'n Annibynnol a Gofal Cymdeithasol, Tai, Mynediad at Wasanaethau, Mynediad at Gyfiawnder a Theithio.
  • Arweinydd Polisi’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl.
  • Roedd o leiaf dri o ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gael i'r tîm cydgynhyrchu trwy’r prosiect, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd o fod yn anabl.
  • Bu Prif Ymchwilydd yn cefnogi’r cydgynhyrchu trwy’r cyfnod ac yn gyfrifol am y gwerthusiad terfynol.
  • Roedd gan Bennaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd oruchwyliaeth ers cychwyn y prosiect ac roedd yn rhan lawn o'r cydgynhyrchu o'r adeg y cytunwyd ar ffocws yr ymchwil. 

Nodau ymchwil

Nod yr ymchwil oedd cydgynhyrchu tystiolaeth sylfaenol yn ailadroddol a'i defnyddio i archwilio argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, trwy gynnwys:

  • y tîm cydgynhyrchu a'i drafodaethau cwmpasu cychwynnol
  • cynrychiolwyr pobl anabl (gan gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad)
  • cynrychiolwyr sefydliadau'r trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl anabl
  • cynrychiolwyr darparwyr gofal cymdeithasol
  • cynrychiolwyr Awdurdodau Lleol Cymru sy’n cefnogi pobl anabl
  • academyddion sy'n gweithio ar ymchwil sy'n ymwneud â hawliau anabledd
  • swyddogion polisi Llywodraeth Cymru dethol
  • cynrychiolwyr undebau llafur

Sut y cynhyrchwyd yr ymchwil

Aeth y tîm cydgynhyrchu ati i weithio mor gydgynhyrchiol â phosibl i gwmpasu, cyd-ddylunio a chyd-gynllunio'r ymchwil, datblygu offer ymchwil, cyd-hwyluso'r gweithdy trafod ac adolygu a chytuno ar y canfyddiadau yn seiliedig ar y data fel y'i dadansoddwyd gan ddau ymchwilydd Llywodraeth Cymru o fewn y tîm. Bu ymchwilwyr Llywodraeth Cymru yn drafftio’r adroddiadau ac yn sicrhau ansawdd y rhain i safonau ymchwil gymdeithasol y llywodraeth cyn eu cynnig i'w hadolygu gan y tîm cydgynhyrchu. 

Roedd y graddau y cydgynhyrchwyd penderfyniadau yn amrywio yn ystod gwahanol gamau'r prosiect. Cafodd rhai penderfyniadau eu cadw gan Lywodraeth Cymru lle roedd ganddi gyfrifoldebau i'w cynnal. Er enghraifft, cyfrifoldebau diogelu data statudol neu safonau proffesiynol ymchwil gymdeithasol y llywodraeth fel cyfrifoldebau moesegol sy'n ymwneud â chyfrinachedd canfyddiadau cyn eu cyhoeddi. 

Mae cydgynhyrchu yn broses ailadroddol. Roedd y cydgynhyrchu’n cynnwys dau ddarn o ymchwil ac roedd penderfyniadau a wnaed ynglŷn â dyluniad y gwaith maes yn effeithio ar yr adnoddau a oedd ar gael i gyflawni amcanion ymchwil eraill yn ddigonol. Eglurir hyn yn fanylach yn yr adran Fethodoleg a bydd yn cael ei archwilio ymhellach trwy werthusiad y prosiect. Bydd y gwerthusiad yn ystyried i ba raddau y cydgynhyrchwyd yr ymchwil ar draws gwahanol gamau'r ddau brosiect o greu prototeip ymchwil. 

Roedd cydweithio fel tîm o arbenigwyr trwy brofiad ac ymchwilwyr cymdeithasol academaidd neu ymchwilwyr y Llywodraeth (rhai’n perthyn i’r ddau gategori) yn ychwanegu at ansawdd yr ymchwil, er enghraifft:

  • cyfunwyd gwybodaeth am y pwnc ymchwil ac roedd yr ymchwil yn adeiladu ar wybodaeth a gronnwyd yng Ngweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl.
  • cymhwyswyd lens profiad bywyd wrth ddatblygu'r adnoddau ymchwil, cyd-hwyluso’r gweithdy a dadansoddi’r data
  • heriwyd rhagdybiaethau am bobl anabl a thynnwyd sylw at gyfleoedd i wneud pethau'n wahanol
  • cydgynlluniwyd ymchwil ac adroddiadau yn unol ag egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd
  • gwnaed ymdrechion ar y cyd i ddewis a recriwtio cyfranogwyr ar gyfer y gweithdy

Methodoleg

Cyflwyniad

Mae'r adran hon yn nodi'r dulliau a'r gweithgarwch ymchwil a gynhaliwyd. Mae hyn yn cynnwys:

  • cynllunio a datblygu ymchwil;
  • casglu data;
  • dadansoddi;
  • a'r broses o greu prototeip o ddull cydgynhyrchu

Cynllunio a datblygu ymchwil

Nod yr ymchwil oedd archwilio ymhellach argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i 'sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru' gyda rhanddeiliaid. 

Sefydlwyd tîm cydgynhyrchu i ddylunio a chyflwyno'r ymchwil. Roedd y tîm yn cynnwys pobl anabl a oedd yn aelodau o'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a Swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y broses gydgynhyrchu wedi'i nodi yn yr Wybodaeth gefndir.

Mewn gwaith blaenorol gan Weithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, tynnwyd sylw at y ffaith bod pynciau sy'n ganolog i'r ymchwil hon yn gymhleth ac yn drawsbynciol, ac yn cwmpasu nifer o wahanol feysydd polisi. Felly, manteisiodd y tîm cydgynhyrchu ar arbenigedd a phrofiad bywyd ei aelodau i ddatblygu Gweledigaeth gychwynnol ar gyfer sut y gallai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol (NCFIL) weithio yn ymarferol, gan nodi'r elfennau canlynol er mwyn strwythuro'r ymchwil, yn cynnwys:

  • cwmpas cyffredinol NCFIL: syniad o gwmpas canolfan o’r fath
  • elfennau craidd Byw'n Annibynnol sy’n ‘dda': gwasanaethau hanfodol y mae angen i bobl gael mynediad atynt
  • 'galluogwyr' Byw'n Annibynnol: mathau o sefydliadau neu grwpiau sy'n cyflawni gweithgaredd penodol sy'n angenrheidiol i gefnogi Byw'n Annibynnol
  • gweithgareddau ar gyfer NCFIL: Awgrymiadau ar gyfer yr hyn y gallai NCFIL ei wneud i gefnogi ei nodau
  • ystyriaethau sefydliadol ar gyfer NCFIL: egwyddorion sylfaenol ac ystyriaethau ymarferol ar gyfer dyluniad posibl NCFIL

Yn sgil gwaith i fapio darpar randdeiliaid NCFIL, a deall y berthynas rhyngddynt, cafwyd syniad o gyfranogwyr tebygol i’r ymchwil. O ystyried yr ystod o randdeiliaid a nodwyd, dewisodd y tîm cydgynhyrchu ddull casglu data yn seiliedig ar drafod, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y cyd yn hytrach na thrwy drafodaethau unigol.

Nod dulliau o'r fath yw archwilio barn wybodus ac ystyrlon cyfranogwyr a galluogi cyd-ddealltwriaeth, gan alinio â chanllawiau y Llyfr Magenta ar ymdrin â chymhlethdod (Trysorlys EF) a phynciau lle ceir diffyg consensws rhwng rhanddeiliaid. 

Gwahoddwyd cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn gweithdy ar-lein i archwilio'r themâu a amlinellir uchod. Roedd Gweledigaeth y tîm cydgynhyrchu yn sail i’r trafodaethau trwy gydol y dydd. Cafodd y Weledigaeth ei rhannu gyda chyfranogwyr cyn y gweithdy ochr yn ochr â gwybodaeth arall.

Casglu data

Cyd-gynlluniwyd themâu ac amcanion ymchwil ar gyfer y gweithdy i archwilio sut y gallai sefydlu NCFIL gefnogi Byw'n Annibynnol i bobl anabl, a manteision neu gyfyngiadau modelau cyflwyno amrywiol. Yr amcanion ymchwil craidd oedd:

  • deall beth mae Byw'n Annibynnol yn ei olygu yn ymarferol
  • nodi pa weithgareddau y gallai NCFIL yng Nghymru eu gwneud i wella Byw'n Annibynnol i bobl anabl yng Nghymru
  • archwilio ystyriaethau ymarferol ar gyfer dylunio NCFIL

Cynhaliwyd gweithdy trafod ar-lein i gasglu data sylfaenol gan randdeiliaid, gyda rolau Cadeirio a hwyluso wedi'u rhannu rhwng aelodau'r tîm cydgynhyrchu. 

Defnyddiwyd dull samplu pwrpasol i nodi cyfranogwyr a allai gynrychioli profiad bywyd o anabledd a sefydliadau sy'n ymwneud â darparu a goruchwylio gwasanaethau cymdeithasol. Gwahoddwyd cyfranogwyr i gynrychioli cyfoeth o brofiad a gwybodaeth yn y meysydd sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol, y materion sy'n effeithio ar bobl anabl, a'r hawl i Fyw'n Annibynnol. 

Gwahoddwyd cynrychiolwyr o gyfanswm o 35 o wahanol sefydliadau i fod yn bresennol, gan gynnwys ystod o feysydd polisi Llywodraeth Cymru cysylltiedig fel trafnidiaeth a thai. Cyfrannodd 30 o gyfranogwyr at yr ymchwil, gan gynrychioli 19 sefydliad. Nid oedd pob cyfranogwr yn gallu bod yn bresennol ar gyfer y gweithdy pedair awr llawn, a chyfrannodd un cyfranogwr ar wahân yn ysgrifenedig yn unig. Roedd cyfranogwyr o'r grwpiau canlynol: 

  • cynrychiolwyr Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad (11 cyfranogwr)
  • cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a chyrff eraill y sector cyhoeddus (6 chyfranogwr)
  • cynrychiolwyr unigol o'r byd academaidd; undebau llafur a sefydliadau rhanddeiliaid eraill (5 cyfranogwr)
  • swyddogion polisi a chyflenwi Llywodraeth Cymru (8 cyfranogwr)

Diffinnir sefydliad pobl anabl (DPO) fel 'sefydliad sy'n cael ei arwain, ei gyfarwyddo a'i lywodraethu gan bobl anabl, gydag ymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd a hyrwyddo hawliau dynol i unigolion anabl'.

Gellir diffinio grŵp amhariad yn fras fel 'sefydliad sydd â’r diben o hyrwyddo buddiannau pobl ag amhariad penodol, nad yw'n cael ei redeg a'i lywodraethu yn llwyr, neu o gwbl, gan bobl anabl'.

Ceir rhestr o sefydliadau a oedd yn ymwneud â'r ymchwil yn Atodiad C

Gwahoddwyd cysylltiadau mewn sefydliadau rhanddeiliaid i gymryd rhan naill ai gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio cyfeiriadau e-bost sydd ar gael i'r cyhoedd neu cysylltwyd â nhw'n uniongyrchol gan aelodau'r tîm cydgynhyrchu. Ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad, defnyddiwyd rhestr o gyfranogwyr o weithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i nodi pobl a allai fod yn gyfranogwyr posibl. Roedd hyn yn golygu bod sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl ag ystod o amhariadau wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan.

Cynhaliwyd y gweithdy yn rhithwir i sicrhau bod yr ymchwil mor gynhwysol ac mor hygyrch â phosibl. Roedd hyn yn galluogi pobl o bob cwr o Gymru i gymryd rhan. Gofynnwyd i gyfranogwyr nodi unrhyw ofynion hygyrchedd ymlaen llaw. Gallent hefyd gymryd rhan yn yr ymchwil yn ysgrifenedig os nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y gweithdy. Darparwyd rhestr o gwestiynau trafod a chrynodeb byr o wybodaeth gefndir i’r cyfranogwyr, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol ynghylch ymuno â'r gweithdy. 

Mae gweithdy yn ddull ymchwil seiliedig ar drafod a ddefnyddir yn gyffredin i gasglu data ansoddol. Mae sesiynau trafod fel arfer yn hirach na thrafodaethau ymchwil arferol ac fe'u defnyddir i archwilio pynciau manwl. Dewisir cyfranogwyr i gynrychioli ystod o wahanol safbwyntiau ac fe'u hanogir i drafod y pwnc gyda gweddill y grŵp. Mae'r dull hwn yn anelu at ddeall safbwyntiau cyfranogwyr ar ôl cael y cyfle i glywed beth mae pobl eraill yn ei feddwl. Fel y nodir yng nghanllawiau Trysorlys EF, mae dulliau ymchwil seiliedig ar drafod yn briodol lle mae angen llawer iawn o wybodaeth ar gyfranogwyr i ffurfio barn a chymryd rhan ystyrlon mewn pwnc. Mae dulliau seiliedig ar drafod hefyd yn rhoi'r hyblygrwydd i hwyluswyr archwilio barn cyfranogwyr i helpu i ddeall nid yn unig 'beth' sy'n gweithio ond 'pam' a 'sut'. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i ddeall y mecanweithiau, dylanwadau a rhyngweithiadau perthnasol yn well. 

Roedd awr gyntaf y gweithdy yn cynnwys cyflwyniadau ar yr hawl i Fyw'n Annibynnol ac ar CCUHPA, argymhelliad y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a'r Weledigaeth ar gyfer NCFIL a ddatblygwyd gan y tîm cydgynhyrchu. Roedd y tair awr a oedd yn weddill yn cynnwys trafodaethau grŵp, gyda mathau amrywiol o randdeiliaid yn cael eu cynrychioli ym mhob grŵp, i archwilio'r cwestiynau ymchwil. 

Datblygwyd y canllaw pynciau gan y tîm cydgynhyrchu ac roedd yn cynnwys tri phrif faes cwestiynau a oedd yn cyd-fynd â'r amcanion ymchwil:

  • Sut olwg sydd ar ragoriaeth ar gyfer Byw'n Annibynnol, a beth yw nodweddion cyffredin profiadau da?
  • Beth y gallai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru ei wneud i gefnogi’r gwaith o oresgyn y bwlch gweithredu, gan gynnwys archwilio'r gweithgareddau awgrymedig a'r syniadau ar randdeiliaid cyflawni?
  • Beth sydd ei angen er mwyn i Ganolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru fod yn llwyddiannus, gan gynnwys trafodaeth ar y modelau sefydliadol awgrymedig ac unrhyw rwystrau posibl?

Ar gyfer pob cwestiwn, datblygodd y tîm awgrymiadau trafod, gweler Atodiad B, i’r hwyluswyr grwpiau trafod eu defnyddio i lywio trafodaethau. Roedd yr awgrymiadau hyn yn caniatáu i'r sgwrs lifo'n naturiol ac yn cwmpasu prif feysydd diddordeb a phrofiad y cyfranogwyr. Rhannwyd y cyfranogwyr yn bedwar grŵp rhithwir, i alluogi trafodaethau llawnach o fewn grwpiau llai. Yna cyflwynodd un cyfranogwr o bob grŵp trafod y prif bwyntiau yr oedd cytundeb arnynt o'u trafodaeth grŵp i'r grŵp llawn. Yn y modd hwn, gallai cyfranogwyr glywed prif safbwyntiau grwpiau trafod eraill yn ogystal â'u grŵp eu hunain. 

Roedd y data a gasglwyd yn cynnwys:

  • enghreifftiau o'r hyn y teimlai cyfranogwyr ei fod yn gyfystyr â rhagoriaeth o ran Byw'n Annibynnol, a'r hyn sydd ei angen er mwyn i hyn weithio yn ymarferol
  • archwiliadau o'r hyn y gallai NCFIL ei wneud i gefnogi Byw'n Annibynnol, a sut y gallai NCFIL weithio gyda'r hyn sydd eisoes yn cael ei ddarparu, a chyda'r prif randdeiliaid
  • syniadau am yr hyn y dylid ei ystyried wrth ddylunio NCFIL, a sut i gefnogi ymgysylltiad gwahanol grwpiau rhanddeiliaid
  • enghreifftiau o fodelau sefydliadol y gellid eu hystyried ar gyfer NCFIL, a syniadau ar fanteision a chyfyngiadau gwahanol opsiynau model

Mae rhai risgiau'n gysylltiedig â'r dull hwn. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod gwybodaeth a roddir i gyfranogwyr yn gytbwys ac nad yw'n gwyro tuag at un safbwynt. Gall hefyd arwain at duedd gan y gall gwahanol grwpiau o randdeiliaid fod yn fwy neu lai parod i gyfranogi mewn gweithdy nag eraill. Mae angen hwyluso gofalus ar drafodaethau gweithdy i sicrhau bod pob cyfranogwr yn cael cyfle cyfartal i gyfleu ei farn. Roedd rhai cyfranogwyr wedi bod yng ngweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl o’r blaen, felly roeddent yn rhan o ddatblygiad yr argymhelliad gwreiddiol. Roedd y cyd-Gadeiryddion yn bobl anabl a oedd yn aelodau o'r tîm cydgynhyrchu ac roedd ganddynt ddealltwriaeth glir o'r materion dan sylw. Swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd yn aelodau o'r tîm cydgynhyrchu oedd y cyd-hwyluswyr. Cafodd y cyd-Gadeiryddion a'r cyd-hwyluswyr hyfforddiant mewn hwyluso dulliau seiliedig ar drafod cyn y gweithdy. Sicrhaodd Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth ansawdd y cynllun ymchwil a’r deunyddiau i sicrhau bod pawb yn cadw at safonau ymchwil priodol drwyddi draw. 

Rhannodd cyfranogwyr y gweithdy ystod eang o wybodaeth a dealltwriaeth gan gynnwys profiad o weithio mewn rolau sy'n cefnogi pobl anabl a Byw'n Annibynnol yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn ogystal â phrofiad bywyd fel person anabl. Gan fod Byw'n Annibynnol yn sail i lawer o agweddau ar fywyd bob dydd, deellir bod yr ystod o feysydd polisi a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â darparu Byw'n Annibynnol yn ymestyn y tu hwnt i'r rhai a gynrychiolir yn yr ymchwil hon. Fodd bynnag, gwnaed pob ymdrech i ganfod ac ymgysylltu â’r prif grwpiau rhanddeiliaid. 

Nodir bod yr ymchwil hon yn defnyddio dull ansoddol, gyda nifer cyfyngedig o gyfranogwyr yn hytrach na sampl gynrychioliadol. Ei nod oedd deall rhagor ar elfennau o argymhelliad y Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Ni fwriedir i’r ymchwil gael ei dehongli fel archwiliad cynhwysfawr o bopeth sydd ei angen i gefnogi hawliau pobl anabl i Fyw'n Annibynnol. Ni fwriedir ychwaith i’r ymchwil fod yn astudiaeth ddichonoldeb lawn sy'n edrych ar sefydlu NCFIL. Fodd bynnag, gall y dull ymchwil hwn gynhyrchu gwybodaeth gyfoethog ac amrywiol am bwnc penodol, gan ganiatáu archwilio safbwyntiau cyfunol ac amrywiol yn fanwl.

Dadansoddi'r data

Cofnodwyd sgrindeitlau gyda chaniatâd yr holl gyfranogwyr, er mwyn gallu cynhyrchu trawsgrifiad o'r gweithdy gan gynnwys pob trafodaeth grŵp. Cafodd y data ei anonymeiddio gan ymchwilydd o Lywodraeth Cymru a ddadansoddodd y trawsgrifiad hefyd. Yna dadansoddodd ymchwilydd arall hanner y data yn annibynnol, ac fe gymharodd yr ymchwilwyr eu canlyniadau am gysondeb i wirio bod y dadansoddiad wedi'i wneud yn gywir. Adolygodd cyd-Gadeiryddion y gweithdy y canfyddiadau cychwynnol, a rhannwyd y prif themâu gyda gweddill y tîm cydgynhyrchu i'w trafod a'u hadolygu. 

Ymgymerodd yr ymchwilwyr â dadansoddiad thematig systematig, gan ddilyn y chwe cham fel y'u disgrifir gan Naeem et al (2003) (Sage Journals). Datblygwyd y dull hwn gyntaf gan dechneg Braun & Clarke (2008) (Taylor and Francis Online). Nodir y chwe cham isod.

Cam 1: Trawsgrifio, ymgyfarwyddo â'r data a dewis dyfyniadau

Cam cychwynnol lle mae ymchwilwyr yn cynnal archwiliad dwfn o’r data ac yn dewis dyfyniadau sy'n dod â'r data yn fyw ac yn adlewyrchu cwestiynau’r ymchwil a’r opsiynau. 

Cam 2: Dewis geiriau allweddol

Yn cynnwys archwilio'r dyfyniadau a dewis geiriau allweddol sy'n eu hadlewyrchu. 

Cam 3: Codio 

Mae hyn yn symleiddio'r geiriau allweddol trwy drosi data crai yn unedau sy’n rhoi craffter ac sy’n haws eu trin. 

Cam 4: Datblygu Themâu

Trefnu codau yn grwpiau ystyrlon i nodi patrymau sy'n cysylltu â chwestiynau’r ymchwil.

Cam 5: Cysyniadoli trwy ddehongli geiriau allweddol, codau a themâu

Yn cynnwys deall a diffinio cysyniadau sy'n dod i'r amlwg o'r data.

Cam 6: Datblygu model cysyniadol 

Creu cynrychioliad unigryw o'r data, wedi'i arwain yn aml gan ddamcaniaethau neu themâu presennol, sy’n ateb cwestiynau’r ymchwil ac sy’n ddiweddglo i’r dadansoddiad.

Y broses o greu prototeip ar gyfer cydgynhyrchu

Mae’r ymchwil wedi’i chynnal yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd a chymerwyd camau gweithredol i ddiwallu anghenion hygyrchedd amrywiol y cydgynhyrchwyr. Aeth y tîm cydgynhyrchu ati i gydweithio i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn 'edefyn euraidd' trwy bob cam o'r ymchwil. Adolygir ar ddiwedd y prosiect i ba raddau y llwyddwyd i gydgynhyrchu. Mae cydgynhyrchu yn broses ailadroddol, a newidiodd dyluniad yr ymchwil yn ystod y prosiect. Ni chwblhawyd rhai elfennau o ddyluniad yr ymchwil gan fod yn rhaid blaenoriaethu tasgau ac roedd rhai yn y pen draw y tu hwnt i adnoddau y prosiect ymchwil o ystyried yr amserlen oedd ar gael. Roedd hyn yn cynnwys cynnal adolygiad llenyddiaeth cyflawn, a chasglu straeon gan bobl anabl o wahanol gymunedau yn ystod y gwaith maes. 

Cafodd maint yr adnoddau effaith bellach ar allu'r tîm ymchwil i driongli'r data yn llawn gyda ffynonellau tystiolaeth ychwanegol. Cydnabyddir fod hyn yn gyfyngiad methodolegol ar yr ymchwil hon. 

Roedd y tîm cydgynhyrchu yn rhan o bob cam o'r ymchwil fel y nodir isod yn fwy manwl.

Cam cwmpasu

Roedd hyn yn cynnwys hwyluso gweithdai’r tîm cydgynhyrchu i ddeall yn well y rhesymeg dros argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl a datblygu cwestiynau ymchwil cychwynnol i ffurfio'r canllaw pwnc. Cynhaliwyd sesiynau adolygu tystiolaeth a sgyrsiau gyda Swyddogion Polisi Llywodraeth Cymru hefyd yn ystod y cam hwn. Cynhaliwyd gweithdy i'r tîm cydgynhyrchu i ddatblygu argymhelliad y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ymhellach i fod yn 'Weledigaeth' lawnach i'w harchwilio gyda rhanddeiliaid ehangach. 

Cam cyd-gynllunio

Roedd hyn yn cynnwys cytuno ar weithdy trafod fel y prif ddull ymchwil, cyd-ddylunio canllawiau pwnc, cyfuno cysylltiadau ac ymdrechion i recriwtio cyfranogwyr. Cynhaliwyd gweithdy i gyd-ddylunio'r dull cyd-hwyluso ymlaen llaw, a chymerodd cyd-Gadeiryddion a chyd-hwyluswyr y gweithdy ran mewn cwrs hyfforddi ar hwyluso dulliau seiliedig ar drafod. 

Cam gwaith maes

Fel y nodwyd uchod, roedd hyn yn cynnwys gweithdy trafod wedi'i gyd-hwyluso gydag ystod o randdeiliaid gan gynnwys cynrychiolwyr sefydliadau pobl anabl / grwpiau amhariad, swyddogion Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sy'n ymwneud â chefnogi gofal cymdeithasol a phobl anabl, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb fel academyddion ac ymgyrchwyr.

Cam cyd-ddadansoddi

Cafodd y data crai ei drawsgrifio a’i anonymeiddio gan un o ymchwilwyr Llywodraeth Cymru cyn cynnal dadansoddiad thematig. Ymgymerwyd â'r broses canfod themâu hon hefyd yn annibynnol gan ymchwilydd arall o Lywodraeth Cymru cyn cymharu a chytuno ar themâu. Cafodd y themâu eu gwirio i sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr gyda chyd-Gadeiryddion a chyd-hwyluswyr y gweithdy. 

Cam adrodd

Cafodd yr adroddiad ei ddrafftio gan ymchwilydd o Lywodraeth Cymru a sicrhawyd ei ansawdd yn erbyn safonau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). Rhannwyd yr adroddiad drafft gyda'r tîm cydgynhyrchu i gael eu sylwadau cyn y diwygiadau terfynol. Rhoddodd y tîm cydgynhyrchu gyngor ac arweiniad ynglŷn â fformatau hygyrch ac amlygu’r angen i sicrhau ansawdd unrhyw allbynnau i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at iaith y Model Cymdeithasol o Anabledd. 

Cynigiwyd cydnabyddiaeth ar ffurf cyfraniadau o fath arall sef hyfforddiant hwyluso a digwyddiadau dosbarth meistr gan ymgyrchwyr hawliau anabledd uchel eu parch. 

Canfyddiadau’r ymchwil

Mae'r bennod ganlynol yn nodi prif ganfyddiadau'r gweithdy trafod gyda rhanddeiliaid. Mae'n crynhoi'r materion a drafodwyd a'r awgrymiadau a wnaed gan gyfranogwyr y gweithdy, wedi'u hamlinellu mewn 3 adran fel a ganlyn.

Mae Adran 1 yn disgrifio sut olwg ddylai fod ar Fyw'n Annibynnol yn ymarferol. Mae hyn yn cynnwys barn ar sut y gellid datblygu a chyfathrebu dealltwriaeth gyffredin yn ehangach. Trafodir y rhwystrau i gyflawni Byw'n Annibynnol hefyd.

Mae adran 2 yn crynhoi gweithgareddau posibl NCFIL. Mae'n archwilio sut y gallai'r gweithgareddau hyn gefnogi Byw'n Annibynnol a sut y gallai weithio gyda'r hyn sy'n cael ei wneud eisoes.

Mae Adran 3 yn nodi materion ymarferol y dylid eu hystyried ar gyfer dylunio a chyflwyno NCFIL llwyddiannus.

Beth mae Byw'n Annibynnol yn ei olygu yn ymarferol?

Diffinio Byw'n Annibynnol

Bu cyfranogwyr yn trafod yr elfennau canlynol a nodwyd gan y tîm cydgynhyrchu yn eu gweledigaeth ar gyfer NCFIL fel rhai sy'n angenrheidiol ar gyfer Byw'n Annibynnol.

  • Cymorth personol a gofal cymdeithasol
  • Eiriolaeth a chymorth uniongyrchol
  • Cyfranogiad yn y gymuned
  • Addysg a sgiliau
  • Gofal iechyd
  • Trafnidiaeth
  • Hamdden

Ffigur 1: Elfennau Byw’n Annibynnol a galluogwyr o Weledigaeth y tîm cydgynhyrchu

Image

Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo mai diffinio Byw'n Annibynnol ddylai fod y cam cyntaf wrth archwilio beth allai NCFIL ei wneud i gefnogi pobl anabl. Nododd sawl cyfranogwr eu bod wedi clywed deongliadau o Fyw'n Annibynnol a oedd yn wahanol i'w dehongliad eu hunain. Roedd rhai wedi ei glywed yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at annibyniaeth ariannol a chyflogaeth. Soniodd eraill y gellir ei ddehongli fel byw’n annibynnol yn hytrach nag mewn tai â chymorth. Roedd un cyfranogwr yn teimlo bod rhai pobl o bosibl yn camddeall y term yn fwriadol i gyfiawnhau dileu cymorth. Roedd cytundeb cryf ymhlith y cyfranogwyr y dylai'r diffiniad fynd y tu hwnt i ofal personol, er mwyn cymryd golwg lawnach a chyffredinol ar fywydau pobl anabl. Ystyriwyd bod cefnogaeth yn y cartref yn ffactor galluogi hanfodol i lawer, ond roedd y cyfranogwyr yn awyddus i dynnu sylw at elfennau hanfodol eraill sydd eu hangen i alluogi Byw'n Annibynnol. Roedd yr enghreifftiau a rannwyd yn cynnwys teithio hygyrch, addysg, cyfranogiad mewn digwyddiadau diwylliannol, a gweithgareddau hamdden.

Nododd cyfranogwyr hefyd fod rhai deongliadau yn canolbwyntio'n unig ar Erthygl 19 CCUHPA. Roedd rhai yn meddwl y gallai hyn fod yn gyfyngol oherwydd eu bod yn teimlo bod cwmpas Byw'n Annibynnol a ddisgrifir yn yr Erthygl hon yn rhy gul. Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo, gan fod trafodaethau ar Fyw'n Annibynnol yn aml yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol neu wedi'u cyfyngu i ofal cymdeithasol, ei bod yn bosibl na fydd pobl anabl nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau gofal personol yn ymwybodol o'u hawliau.

"Dydw i ddim yn siŵr i ba raddau y byddai pawb yn deall hynny a’r hyn mae'n ei olygu. […] Tybed a yw'r term Byw'n Annibynnol yn atgyfnerthu barn neu ganfyddiad penodol o anabledd a sut olwg sydd ar bobl anabl a'u bywydau." – sefydliad pobl anabl

Wrth ystyried sut i ddiffinio beth ddylai Byw'n Annibynnol ei olygu, soniodd llawer y gellir dehongli 'annibyniaeth' mewn amrywiaeth o ffyrdd. Er mwyn trafod pa welliannau a chymorth sydd eu hangen, mae angen cytuno ar y nod cyffredinol. Fodd bynnag, roedd llawer yn teimlo, gan fod 'Byw'n Annibynnol' yn tarddu o’r mudiad pobl anabl, bod gwerth defnyddio'r term. Gwelwyd bod ganddo ddealltwriaeth ac arwyddocâd diwylliannol cryf. Ystyriwyd bod pobl yn ei chael hi'n anodd diffinio Byw'n Annibynnol. O ganlyniad, mae'n aml yn cael ei ddiffinio yn nhermau’r hyn nad yw'n ei olygu yn hytrach na'r hyn y mae’n ei olygu. Er enghraifft, gellid ei ddisgrifio fel 'golygu mwy na dim ond annibyniaeth ariannol'. Gall y diffyg eglurder hwn ei gwneud hi'n anodd trafod beth yw hawliau pobl ar gyfer Byw'n Annibynnol. Cytunwyd bod yr angen am ddealltwriaeth glir ymhlith rhanddeiliaid ynghylch beth ydyw, neu beth ddylai fod, yn bwysig i lwyddiant NCFIL.

Roedd cytundeb cryf y byddai diffiniad grymusol o Fyw'n Annibynnol yn canolbwyntio ar fynediad i'r un ansawdd bywyd â phobl nad ydynt yn anabl. Awgrymodd cyfranogwr unigol, a chytunodd eraill, y dylai fod wedi'i seilio ar 'fyw bywyd da o'ch dewis, yn eich cymuned'. Credwyd y gallai hyn ddod o gael cefnogaeth dda yn ymarferol, ond hefyd trwy gyflawniad personol. Crynhowyd hyn gan gyfranogwr unigol arall fel 'teimlo eich bod chi'n cael eich cefnogi, teimlo bod gennych rôl, pwrpas, bod eich doniau yn cael eu cydnabod'.

Archwiliodd rhai grwpiau y rôl y mae angen i'r gymuned ehangach ac ystod o randdeiliaid sydd â gwahanol safbwyntiau ei chwarae. Nodwyd bod cyfrifoldeb am sicrhau hygyrchedd yn cael ei rannu ar hyn o bryd gan ddarparwyr addysg, cyflogaeth a gwasanaethau eraill. Dylai'r rhai sydd â phrofiad bywyd allu nodi heriau a rhwystrau a chyfleu’r rhain i ddarparwyr gwasanaeth a llunwyr polisi. Fe wnaeth un grŵp grynhoi eu bod yn meddwl bod 'cyfrifoldeb am Fyw'n Annibynnol yn y fformat hwnnw yn gorwedd ar y gymuned gyfan. […] Rhanddeiliaid ymhell y tu hwnt i awdurdodau lleol ac asiantaethau'r wladwriaeth.'

Nodwyd bod dwy Ganolfan Byw'n Annibynnol ar hyn o bryd yn cynnig cymorth uniongyrchol ynghylch gofal cymdeithasol ac eiriolaeth i ddinasyddion yn eu hardaloedd lleol. Roedd un grŵp yn teimlo y gallai defnyddio'r term 'canolfan Byw'n Annibynnol' o fewn enw NCFIL gamarwain pobl am y gwasanaethau a gynigir ganddi. Roedden nhw'n teimlo y gallai rhai pobl gymryd yn ganiataol bod NCFIL yn darparu'r un gwasanaethau â chanolfannau byw’n annibynnol, ond ar sail genedlaethol.

Cytunodd cyfranogwyr y byddai angen cyfleu nodau a chwmpas NCFIL yn glir er mwyn hysbysebu beth y byddai'r sefydliad yn ei wneud. Ystyriwyd bod hyn yn bwysig waeth pa enw a ddewisir. Codwyd y ffaith y byddai cyfathrebu clir hefyd yn hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o'r hyn y mae Byw'n Annibynnol yn ei olygu a pham mae ei angen. Gwnaethpwyd sylw y gallai hyn 'helpu i lywio dealltwriaeth ddiwylliannol ehangach o'r termau hynny. […] Gall cael gweledigaeth neu genhadaeth glir helpu hynny' – cynrychiolydd gwasanaethau llywodraeth leol.

Byw'n Annibynnol yn ymarferol

Dangoswyd i’r cyfranogwyr y mathau canlynol o sefydliadau a gweithgareddau awgrymedig yr oedd y tîm cydgynhyrchu wedi'u nodi yn eu Gweledigaeth fel elfennau a fyddai’n helpu i alluogi a chefnogi Byw'n Annibynnol. Gweler Ffigur 1.

  • Y trydydd sector.
  • Darparu gwasanaethau.
  • Tystiolaeth a data.
  • Llunio polisïau.
  • Ymgysylltu â dinasyddion anabl a chydgynhyrchu.
  • Ymgyrchu ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.
  • Rheoleiddio a monitro.

Wrth ystyried 'rhagoriaeth' ar gyfer Byw'n Annibynnol, cytunwyd yn eang bod angen i bobl anabl gael eu cynrychioli o fewn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt a'r cymorth y maent yn ei gael. Dylent hefyd fod â rôl mewn gwerthuso a monitro polisïau.

Thema arwyddocaol a welwyd trwy gydol y trafodaethau oedd yr 'edefyn euraidd' o ymgorffori profiad bywyd ar bob lefel o NCFIL. Byddai hyn yn cynnwys swyddi arweinyddiaeth, rheoli a staffio. Trwy gydol y gweithdy, ystyriwyd bod cael dealltwriaeth o brofiad bywyd a'i fod wrth wraidd Byw'n Annibynnol yng Nghymru yn hanfodol.

Roedd llawer yn teimlo bod penderfyniadau yn cael eu gwneud heb gyfranogiad pobl anabl. Rhannodd sawl cyfranogwr enghreifftiau cadarnhaol o adegau pan mae profiad bywyd wedi'i ymgorffori yn y gwaith o ddylunio polisi a gwasanaethau. Roedd cyfranogwyr yn teimlo bod hyn yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n ychwanegu gwerth.

Lleisiodd eraill rwystredigaethau ynglŷn â rhannu eu profiad bywyd eu hunain gyda llunwyr polisi a methu â darganfod a oedd eu cyfraniadau wedi gwneud gwahaniaeth.

"Maen nhw i gyd yn bwydo llawer ond yn aros i glywed beth yw’r canlyniadau a gall hynny achosi llawer o rwystredigaeth ac apathi." – sefydliad pobl anabl

Siaradodd sawl cyfranogwr am effeithiau negyddol ar iechyd meddwl sy’n codi o deimlo eu bod yn methu dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo fel bod llawer o bethau allan o'u rheolaeth, ac yn poeni am newidiadau posibl yn y dyfodol a fyddai’n effeithio ar y cymorth maen nhw'n ei gael. Awgrymodd rhai na allai bod ‘ar drugaredd' penderfyniadau a wneir gan wleidyddion am wasanaethau a pholisïau sy'n effeithio arnynt fod yn gyfystyr â Byw’n Annibynnol go iawn.

"Rwy'n credu bod mwy o bryder ar hyn o bryd o ran llywodraethau newydd a chyllidebau a thaliadau anabledd, lwfans gofalwyr. Felly, mae llawer o bobl anabl yn arswydo rhag yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yn hynny o beth." - sefydliad pobl anabl

"Mae llawer o bobl anabl yn bryderus neu'n ymladd neu'n tynnu sylw at bethau ac maent wedi blino’n lân [...] ar godi lleisiau, ond yna [...] does gennych chi ddim rheolaeth pan mae'r cyfan yn dibynnu ar lywodraeth ganolog neu gyllidebau." - sefydliad pobl anabl

Y ffactor a grybwyllwyd amlaf o ran sicrhau Byw'n Annibynnol oedd cael dewisiadau hyfyw. Roedd hyn hefyd yn golygu cael yr wybodaeth a'r rheolaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau gwybodus am eich bywyd eich hun.

"Dylem fynd yn ôl i'r hanfodion o ran yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl fel safon ofynnol, a dylai'r gallu i wneud penderfyniadau am eich bywyd eich hun a'ch gofal eich hun fod yn allweddol i hynny." – Cyfranogwr unigol

Gan edrych yn ehangach na gofal cymdeithasol, cytunodd y cyfranogwyr y dylai Byw'n Annibynnol olygu cael mynediad at adnoddau priodol a dewisiadau ynghylch adnoddau priodol i alluogi mynediad cyfartal. Nododd llawer o gyfranogwyr y gallai pobl anabl wynebu rhwystrau ychwanegol i gael mynediad at agweddau sylfaenol ar fywyd fel gwaith ac astudio.

Fe wnaeth un grŵp grynhoi hyn fel 'cael holl ddarnau pos eich bywyd yn gweithio gyda'i gilydd, fel bod Byrddau Iechyd, gwasanaethau cymdeithasol [...] yn ffitio gyda’i gilydd yn dda i gyflawni canlyniadau'r hyn rydych chi ei eisiau, i fyw'n annibynnol'.

Roedd cyfranogwyr yn teimlo y dylai cymorth fod yn hyblyg, wedi'i deilwra i'r unigolyn, ac y dylai ddarparu ar gyfer anghenion croestoriadol. Fe wnaeth grŵp arall grynhoi’r angen i ddod o hyd i 'ffordd y gall systemau lluosog weithio i bawb'.

"Rwy'n credu mai'r allwedd yw ei fod yn 'canolbwyntio ar y person', lle mae'r person yn cael y sgiliau, yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt ac yn y ffurf sy'n gweddu iddynt, pryd neu ble mae eu hangen arnynt, heb orfod ymladd na chael trafferth i gael mynediad iddynt" – sefydliad pobl anabl

Nodwyd y gall cymorth effeithiol a systemau cysylltiedig olygu, pan fydd un elfen yn gweithio'n dda, ei bod yn effeithio'n gadarnhaol ar feysydd eraill o fywyd unigolyn. Ymhlith yr enghreifftiau a rannwyd roedd cymorth i sicrhau cyflogaeth yn lleihau dibyniaeth ar fudd-daliadau a gwella opsiynau tai, a gofal personol dyddiol dibynadwy yn galluogi rhywun i weithio.

Hyd yn oed lle mae dewisiadau am ofal personol neu elfennau eraill sy'n cefnogi Byw'n Annibynnol ar gael, nododd cyfranogwyr yr angen i opsiynau fod yn hyfyw, i gael eu cyfathrebu'n hygyrch, ac i gael eu cyflwyno'n effeithiol ac yn gyson gan bobl sydd â sgiliau a hyfforddiant priodol. Rhannodd cyfranogwyr brofiadau o ofal personol o ansawdd da, dibynadwy, sy'n cefnogi perthnasoedd unigolion anabl, sy’n osgoi’r angen i aelodau o'r teulu ddarparu gofal, ac sy’n galluogi rhieni anabl i ganolbwyntio ar fod yn rhieni i’w plant.

'Mae'n fater o ddewis, ac mae hefyd yn fater o drefn a chysondeb.' sefydliad llywodraeth leol

Roedd llawer o gyfranogwyr yn ystyried bod Taliadau Uniongyrchol yn hanfodol wrth helpu i roi mwy o reolaeth i unigolion anabl. Teimlwyd bod hyn yn galluogi Byw'n Annibynnol, gan ei gwneud hi'n haws i'r rhai sy'n dibynnu ar ofal personol fyw eu bywydau bob dydd.

"Heb daliadau uniongyrchol [...] sy’n gweithio'n dda, ni allaf wneud fy ngwaith." - sefydliad llywodraeth leol

Nodwyd hefyd y gallai unigolion ddewis peidio â defnyddio Taliadau Uniongyrchol, oherwydd y cyfrifoldebau ychwanegol a'r rheolaeth sy'n gysylltiedig.

"Efallai na fydd rhai pobl eisiau'r cyfrifoldeb o gyflogi cynorthwyydd personol yn uniongyrchol eu hunain. Efallai y byddan nhw eisiau i rywun arall wneud hynny ar eu rhan." - sefydliad pobl anabl

Nodwyd bod defnyddio Taliadau Uniongyrchol i dalu am ofal personol yn golygu bod yn rhaid i unigolion ddod yn gyflogwr, ac awgrymwyd y gall hyn droi llawer oddi wrth y syniad. Nodwyd y gall cael cefnogaeth gan un Cynorthwyydd Personol hefyd olygu bod angen i unigolion ddod o hyd i rywun i gymryd eu lle yn ystod eu gwyliau blynyddol. Tynnodd un cyfranogwr sylw at y ffaith nad yw'r gwerth ariannol a ddyrennir ar gyfer gofal personol yn ddigon i dalu cyfradd fesul awr cynorthwyydd personol mewn rhai achosion. Soniwyd hefyd bod nifer uchel o swyddi cynorthwywyr personol yn wag mewn rhai ardaloedd. Nododd cyfranogwr arall ei bod hi'n anodd dod o hyd i gynorthwywyr personol sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu cymorth ar gyfer amhariadau penodol neu i ddefnyddio technoleg gynorthwyol arbenigol.

Roedd cytundeb y dylai Byw'n Annibynnol olygu cynnig opsiynau cymorth priodol yn hytrach nag un dull sy’n addas i bawb. Byddai hyn yn anelu at rymuso unigolion i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

'Rhagoriaeth i mi yw bod gennych y cydbwysedd hwnnw o fynediad i'r cymorth cywir [...] ac yna hefyd mynediad at Daliadau Uniongyrchol i roi'r dewis hwnnw i chi ac i roi'r rheolaeth honno i chi.' - sefydliad pobl anabl

Nododd cyfranogwyr sawl enghraifft o beidio â chael digon o wybodaeth i wneud dewisiadau. Roedd rhwystrau cyffredin yn cynnwys gwybodaeth nad oedd ar gael mewn fformat hygyrch neu nad oedd yn cael ei rhannu ar yr adeg iawn. Nododd rhai, os nad yw opsiynau'n briodol ar gyfer y rhai sydd ag anghenion lluosog, mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl na fydd dewis hyfyw i rai unigolion. Rhannodd rhai cyfranogwyr y profiad o beidio â chael gwybodaeth briodol am opsiynau gan ddarparwyr yn cynnwys awdurdodau lleol i gefnogi dewisiadau gwybodus. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am opsiynau gofal sydd ar gael, ac am ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol i gael mynediad at ofal personol. Ar gyfer y rhai sy'n defnyddio Taliadau Uniongyrchol, nododd rhai cyfranogwyr enghreifftiau o gyfyngiadau ar ba wasanaethau cyflogres y gallai unigolion eu defnyddio.

Roedd yr enghreifftiau a rannwyd gan gyfranogwyr o wybodaeth wedi'i chyfathrebu'n dda yn cynnwys datganiadau hygyrchedd ar gyfer lleoliadau neu fannau ffisegol eraill, a gwneud gwefannau yn gydnaws â thechnoleg gynorthwyol.

Mewn cyferbyniad â hyn, nododd cyfranogwyr hefyd ddiffyg eglurder ynghylch sawl ffynhonnell o gymorth, megis Mynediad at Waith (Gov.UK) a’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) (Gov.UK). Roedden nhw'n teimlo y dylai fod gwybodaeth gliriach ynghylch a yw'r ffynonellau cymorth hyn yn gweithio gyda'i gilydd, a sut maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd. Rhannwyd profiadau pellach yn ymwneud â rhwystrau i gael gwybodaeth briodol trwy dechnoleg anghynhwysol, yn ogystal â gallu darllen. Rhannodd un ymatebydd enghraifft o'r cymorth a gafodd person anabl 18 oed wrth symud o wasanaethau cymdeithasol plant i wasanaethau oedolion, heb gael gwybod beth roedd hyn yn ei olygu a sut y byddai’r cymorth a roddwyd iddynt yn newid.

Rhwystrau i Fyw'n Annibynnol

Cytunwyd bod cydweithio yn hanfodol i sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn gweithio gyda'i gilydd i osgoi bylchau, dyblygu neu wrthdaro. Roedd llawer yn cytuno bod Byw'n Annibynnol yn golygu bod yn rhaid i wahanol randdeiliaid rannu gwybodaeth, a phrofiadau fel y gall eraill ddysgu o'u llwyddiannau. Roedd y cyfranogwyr yn cytuno y dylai cymunedau cyfan fod yn gyfrifol am Fyw'n Annibynnol.

"Gallwch gael pocedi unigol o bethau sy'n gweithio'n dda ac sy’n wych, ond mae angen iddo fod yn un peth cydlynol" - sefydliad llywodraeth leol

Roedd llawer o gyfranogwyr yn defnyddio’r gair ‘tameidiog’ i ddisgrifio gwasanaethau gofal cymdeithasol i bobl anabl. Rhoddwyd enghraifft o broblemau’n codi mewn ardal benodol lle darparwyd cymorth i unigolion sy'n defnyddio Taliadau Uniongyrchol gan sawl sefydliad gwahanol.

"Rwy'n dal i feddwl bod rhywfaint o wastraff yn y system lle nad yw'r systemau yn gweithio gyda'i gilydd yn iawn. [...] Rwy'n credu bod modd gwneud arbedion effeithlonrwydd y gellid wedyn eu dargyfeirio i feysydd eraill lle mae angen cymorth ar bobl" – sefydliad sector cyhoeddus

Nododd cynrychiolydd sefydliad pobl anabl bod delio â nifer o ddarparwyr gofal iechyd hefyd yn rhwystr cyffredin sy’n achosi straen:

"Mae cynifer o'n haelodau wedi blino’n lân yn sgil ceisio llywio llawer o apwyntiadau gofal iechyd ac arbenigeddau, pan nad oes yr un ohonynt yn 'siarad' â'i gilydd, neu driniaeth neu feddyginiaethau sy’n mynd yn groes i’w gilydd"

Roedd sawl cyfranogwr o'r farn bod y gwasanaethau sydd ar gael i bobl anabl yn anghyson ac weithiau'n amrywio ar draws gwahanol rannau o Gymru. Roedd y profiadau yn cynnwys enghraifft o roi cyllid i fynd i weithgaredd ymarfer corff i un unigolyn ond bod person arall wedi’i wrthod, yn yr un ardal awdurdod lleol. Rhannodd cyfranogwr arall y teimlad bod "Taliadau Uniongyrchol yn loteri cod post yng Nghymru" - sefydliad pobl anabl.

Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo mai elfen hanfodol o Fyw Annibynnol da oedd ymgysylltiad effeithiol rhwng pobl anabl a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Roedd cyfranogwyr o'r farn bod Sefydliadau Pobl Anabl yn rhan annatod o hyn. Teimlwyd bod sefydliadau pobl anabl yn darparu ffordd i bobl anabl sicrhau bod eu profiadau a'u barn yn cael eu clywed. Yn yr un modd, ystyriwyd eu bod yn darparu ffordd i lunwyr polisi a sefydliadau cyflenwi gyrraedd dinasyddion. Nodwyd y gall sefydliadau pobl anabl, Canolfannau Byw'n Annibynnol rhanbarthol a Grwpiau Mynediad hefyd ddarparu gwasanaethau i ddinasyddion, gan gynnwys eiriolaeth, a chymorth cyflogres yn ogystal â defnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd eu hunain i gefnogi pobl anabl yn uniongyrchol.

Nododd sawl cynrychiolydd sefydliadau pobl anabl a chanolfannau byw’n annibynnol y gall rhedeg y mathau hyn o sefydliadau fod yn anodd. Roedd yr heriau yn cynnwys ei chael hi'n anodd sicrhau cyllid hirdymor rheolaidd sy'n golygu mai dim ond gwasanaethau penodol y maent yn gallu eu darparu. Roedden nhw'n teimlo bod hyn yn cyfyngu ar eu gallu i ymgyrchu am faterion yr oeddent yn teimlo oedd yn bwysig ac yn golygu na allent fod yn arloesol iawn yn eu gwaith. Roedd y cyfranogwyr hyn yn teimlo y byddent wedi hoffi gwneud mwy i ymgysylltu â dinasyddion ac i gefnogi cynrychiolaeth o brofiad bywyd yn genedlaethol. Soniodd eraill am wynebu rhwystrau gyda chymhwysedd i gael cyllid gan y gellir eithrio sefydliadau llai rhag gwneud cais am grantiau penodol, ac mae rhai contractau'n cynnwys gofynion y byddent yn ei chael yn amhosibl eu bodloni.

Roedd rhai yn dweud bod y broses gynnig ei hun yn rhy gymhleth ac roedd rhai yn teimlo bod gwerth contractau’n rhy isel. Nododd un cyfranogwr nad oedd eu sefydliad wedi cael caniatâd i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth yn ogystal â gweithgareddau cyflogres, oherwydd gwrthdaro buddiannau. Roedden nhw'n teimlo bod hyn yn eu hatal rhag gallu cefnogi pobl anabl yn y ffordd yr hoffent wneud hynny.

"Os ydym wir yn mynd i oroesi [...] y realiti yw bod angen i ni gael ein rhyddhau oddi wrth hualau gwirioneddol dynn [...] contractau llywodraeth leol sy'n ein hatal rhag gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud orau."– sefydliad y trydydd sector

Rhannodd sefydliadau pobl anabl hefyd brofiadau o gael trafferth cael mynediad at wasanaethau hanfodol i redeg eu sefydliad fel gwasanaethau cyfreithiol, cyfrifyddiaeth neu TG. Soniwyd ei bod yn bosibl nad oes gan eu staff yr arbenigedd i gwmpasu'r mathau hyn o weithgareddau, ac mae llawer yn annhebygol o allu fforddio talu cyflenwyr allanol. Ystyriwyd ei bod yn anodd hefyd dod o hyd i gyflenwyr allanol a all ddarparu'r gwasanaethau hyn yn hygyrch. Tynnwyd sylw hefyd at anhawster darparu amgylchedd gwaith hygyrch i wirfoddolwyr. Nododd rhai cyfranogwyr nad yw cyllid i addasu gweithle ar gael i gefnogi swyddi gwirfoddol.

Nododd cyfranogwyr fod asesiadau effaith ar gyfer polisi yn ffordd bwysig o wreiddio egwyddorion Byw'n Annibynnol wrth wneud penderfyniadau. Teimlwyd, fodd bynnag, bod eu defnydd yn anghyson. Roedd cyfranogwyr yn teimlo eu bod wedi gweld penderfyniadau gwell yn cael eu gwneud lle roedd profiad bywyd yn cael ei ystyried. Un enghraifft oedd ystyried anghenion mynediad ar gyfer datblygiad adeilad newydd ar gam cynharach o’r broses. Roedd llawer yn cytuno y dylai'r math hwn o ymgysylltu fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.

Gweithgareddau

Gweithgareddau arfaethedig

Archwiliodd y cyfranogwyr pa weithgareddau y gallai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol (NCFIL) ymgymryd â nhw i gefnogi pobl anabl yng Nghymru. Roedd y drafodaeth yn seiliedig ar weithgareddau a gynigiwyd gan y tîm cydgynhyrchu, sydd wedi'u rhestru isod. Yn gyffredinol, roedd y gweithgareddau a awgrymwyd yn cyfateb i'r hyn yr oedd cyfranogwyr wedi disgwyl y gallai NCFIL ei wneud. Daeth un grŵp trafod i gasgliad yn gyflym wrth ateb y cwestiwn ynghylch a allai'r gweithgareddau helpu i fynd i'r afael â'r bwlch gweithredu trwy sicrhau bod polisïau sy'n anelu at gefnogi pobl anabl yn gweithio'n iawn yn ymarferol gan ddweud ‘Gallant, heb os’. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar sut y gallai'r gwahanol fathau o weithgareddau weithio i gefnogi Byw'n Annibynnol. Archwiliodd cyfranogwyr hefyd ystyriaethau ymarferol fel pa adnoddau fyddai eu hangen, pwy fyddai'n rhan o'r cyflenwi a sut y gellid ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Y saith categori o weithgareddau

  • Datblygu polisi: eirioli dros gyfranogiad pobl anabl yn y gwaith o lunio polisïau yng Nghymru i gefnogi Byw'n Annibynnol.
  • Cynhyrchu tystiolaeth a data: ar Fyw'n Annibynnol a lledaenu canfyddiadau i lywio polisi.
  • Ymwybyddiaeth y cyhoedd: ymgyrchu, gweithgareddau addysgol i newid agweddau cymdeithasol.
  • Meithrin Capasiti a Rhwydweithiau: cefnogi Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol a sefydliadau eraill sy'n cefnogi pobl anabl.
  • Arweinyddiaeth arfer gorau: datblygu canllawiau ac arfer gorau, cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio i gefnogi sefydliadau.
  • Potensial ar gyfer gweithgareddau cynhyrchu refeniw: gan gynnwys gwasanaethau ymgynghori, hyfforddiant a datblygu cynnyrch.
  • Gwerthuso i fonitro gweithgareddau'r Ganolfan yn erbyn meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt.*

*Trafodir gwerthusiad o weithgareddau NCFIL yn rhan olaf yr adran hon.

Ffigur 2: Gweithgareddau a awgrymwyd ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol a gymerwyd o Weledigaeth y tîm cydgynhyrchu

Image

Arwain arfer gorau trwy gyflogaeth ac ymgysylltiad

Mae "Dim byd amdanom ni, hebom ni" yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y mudiad ymgyrchu dros hawliau pobl anabl. Cyfeiriodd rhai cyfranogwyr at y term hwn yn ystod y gweithdy. Mae'n disgrifio'r angen i'r rhai sydd â phrofiad bywyd gael dweud eu dweud mewn polisïau sy'n effeithio arnynt. Nodwyd bod cael pobl anabl mewn swyddi arweinyddiaeth, lle gallant fod yn rhan o benderfyniadau polisi, dylunio gwasanaethau a gwerthuso, a dylanwadu ar hynny, yn sylfaenol i Fyw'n Annibynnol sy’n llwyddiannus a’i bod yn hanfodol ystyried hyn wrth greu NCFIL. 

"Mae'r rhain yn bethau y gallai [NCFIL] wir helpu gyda nhw. Casglu arfer gorau. […] Casglu profiad pobl anabl a chanolbwyntio go iawn ar brofiad bywyd, a sicrhau ei bod yn cael ei rhedeg a’i rheoli gan bobl anabl. Felly bod syniadau ac awgrymiadau polisi i gyd wedi'u gwreiddio yn y profiad priodol hwnnw." – cyfranogwr unigol

Roedd sawl cyfranogwr yn teimlo bod lleisiau pobl anabl yn cael eu tangynrychioli wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru, yn genedlaethol ac o fewn cymunedau. Archwiliodd llawer o gyfranogwyr y syniad y gallai NCFIL hwyluso ymgysylltiad ystyrlon rhwng pobl anabl a'r cyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar y gofal a'r cymorth y maent yn eu cael.

Roedd cyfranogwyr yn teimlo'n gryf y byddai NCFIL dan arweiniad pobl anabl yn dangos bod profiad bywyd yn cael ei werthfawrogi ac y byddai'n arddangos arfer gorau mewn gweithio hygyrch. 

"Dylai cynrychiolaeth fod ar bob lefel, dylid ei hannog ar lefel leol, lefel ranbarthol a chenedlaethol. A dylai'r cyfle hwnnw fod ar gael, ond hefyd sgiliau a datblygiad i'r bobl hynny sy'n manteisio ar y cyfleoedd hynny' - sefydliad pobl anabl

Awgrymodd un grŵp y byddai cael pobl anabl mewn arweinyddiaeth yn wahaniaeth pwysig rhwng y ganolfan a sefydliadau eraill, a byddai'n helpu i wneud NCFIL yn effeithiol wrth gefnogi Byw'n Annibynnol. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod yna bobl anabl yn gweithio mewn llywodraeth ganolog a lleol, a sefydliadau rhanddeiliaid eraill yn ogystal â sefydliadau pobl anabl a grwpiau amhariad. 

"Tybir na all pobl anabl wneud rolau arwain ond maen nhw'n gallu gwneud hynny, y broblem yw nad ydyn nhw byth yn cael y cyfle i wneud hynny. A dylent fod yn gwneud hynny pan mae'n ymwneud â'u bywydau eu hunain." - Cyfranogwr unigol

Nododd llawer o gyfranogwyr bod gwneud yn siŵr bod cyflogaeth yn gwbl hygyrch i unigolion anabl yn rhan annatod o gefnogi nodau NCFIL.

"Cynnig y cyfleoedd hynny ar gyfer cyflogaeth, ond hefyd defnyddio hynny fel ffordd o rannu arfer gorau trwy [...] ddylunio'r rolau hyn o amgylch pobl anabl a dweud, wrth gwrs y gellir gwneud hyn. Dylai pobl eraill fod yn ei wneud hefyd." – crynodeb o adborth grŵp trafod

Awgrymwyd y gallai dangos pobl anabl yn ffynnu mewn cyflogaeth hefyd helpu i fynd i'r afael â chamsyniadau ymhlith y cyhoedd am allu pobl anabl i weithio. Fe wnaeth un cyfranogwr grynhoi eu profiad eu hunain:

"Mae'n dangos i gyflogwyr eraill wedyn bod pobl anabl yn gallu gweithio ac eisiau gweithio. […] Mae yna bob amser syndod – 'o, rydych chi’n anabl, ac mae gennych chi swydd'". - sefydliad llywodraeth leol

Trafodwyd cyfleoedd i uwchsgilio unigolion a sefydliadau gan rai, ac roedd cyfranogwyr yn teimlo y gallai hyn hefyd helpu i ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys hyfforddi dinasyddion anabl i gynnal archwiliadau mynediad, a chynnig rhaglenni mentora yn y gweithle.

Trwy gydol y gweithdy, archwiliodd llawer o grwpiau rôl bwysig gwirfoddolwyr, yn enwedig o fewn sefydliadau pobl anabl a grwpiau amhariad. Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod y gall swyddi gwirfoddol mewn sefydliadau trydydd sector fod yn ffordd i ddinasyddion anabl roi eu barn, sydd wedyn yn cael ei chynrychioli'n ehangach mewn sgyrsiau ar lefel genedlaethol trwy'r sefydliad. Ystyriwyd bod gwirfoddolwyr hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaethau trwy sefydliadau'r trydydd sector, ond roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod dibynnu ar swyddi gwirfoddol yn hytrach na swyddi cyflogedig yn peri risg i gynaliadwyedd. Er mwyn sicrhau y gellir darparu gwasanaethau yn gyson, roedd y cyfranogwyr yn teimlo y byddai swyddi cyflogedig yn sylfaenol i lwyddiant NCFIL.

"Mae dibyniaeth ar wirfoddolwyr ar hyn o bryd. […] Mae cyfle yma am un cysondeb arall trwy gynnig gwaith parhaol i bobl anabl, ond hefyd y dylai pobl gael eu talu’n deg am eu llafur' – crynodeb o adborth grŵp trafod.

Cydnabuwyd hefyd bod swyddi gwirfoddol yn cyflawni rôl bwysig wrth ganiatáu i unigolion ymgysylltu, cyn belled nad oes dibyniaeth arnynt yn hytrach na gweithwyr cyflogedig.

Roedd llawer o gyfranogwyr yn rhannu pryderon ynghylch disgwyliadau cymdeithas bod pobl anabl yn darparu llafur ac arbenigedd profiad bywyd am ddim. Nododd un grŵp y gallai baich mawr gael ei roi ar gynrychiolwyr gwirfoddol unigol i weithredu fel llefarwyr ar ran pob person anabl mewn rhai achosion. Roedd y grŵp hwn yn teimlo y gallai NCFIL ddarparu arweinyddiaeth arfer gorau ar ymgysylltu â gwirfoddolwyr. Byddai hyn yn anelu at wella canlyniadau i bobl anabl, trwy annog sefydliadau i ymgysylltu â mwy o amrywiaeth o leisiau. Byddai hyn hefyd yn anelu at leihau'r baich ar unigolion. Nododd un cyfranogwr ffyrdd y gellid bod wedi gwella eu profiadau cynnar fel cynrychiolydd.

"Rwy'n cofio'n glir y tro cyntaf [...]. Eistedd yno a meddwl, beth yn y byd ydw i'n ei wneud yn yr ystafell hon a beth alla i ei gynnig, oherwydd doeddwn i'n gwybod dim byd. […] Gallwn fod wedi cael llawer o help yn y dyddiau cynnar. […] Rhywun yn dysgu i mi beth oedd angen i mi ei wybod, byddai wedi cael gwared ar lawer o'r straen hwnnw." - sefydliad pobl anabl

Awgrymwyd y gallai NCFIL ddarparu hyfforddiant a datblygiad i ddinasyddion i'w grymuso i fanteisio ar gyfleoedd i gynrychioli pobl anabl. Ystyriwyd y gallai hyn gynnwys ymgyngoriadau o ran polisi a darparu gwasanaethau, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, neu fod yn llysgenhadon cymunedol.

Awgrymwyd rhai mecanweithiau ar gyfer rhannu arfer gorau ar gefnogi a hyrwyddo Byw'n Annibynnol ac ymgorffori profiad bywyd fel swyddogaeth bosibl i NCFIL, yn seiliedig yn bennaf ar weithio gyda pherthnasoedd a rhwydweithiau presennol. Nododd un grŵp fod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn strwythur posibl ledled Cymru i gyrraedd grwpiau rhanddeiliaid.

Cyfathrebu ac ymwybyddiaeth y cyhoedd

Roedd llawer o gyfranogwyr o’r farn mai un o swyddogaethau NCFIL fyddai cyflwyno llais cryf ac unedig i sbarduno newid.

Teimlwyd y byddai sicrhau bod profiad bywyd yn cael ei gynrychioli, hefyd yn helpu i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o faterion sy'n wynebu pobl anabl. Nodwyd:

"Efallai fod potensial i [NCFIL] redeg a hyrwyddo ymgyrchoedd cyhoeddus sy'n hyrwyddo annibyniaeth. […] Cael llais cryf, unedig [...] a fyddai’n dylanwadu ac a ddylai ddylanwadu ar ddeddfwriaeth i amddiffyn a gwella hawliau pobl anabl yn well" - swyddog Llywodraeth Cymru

Fel y nodwyd yn Adran 1 Diffinio Byw'n Annibynnol, nododd llawer o gyfranogwyr fod cytuno ar yr hyn sy'n cael ei olygu gan 'Fyw'n Annibynnol' yn dasg gynnar bwysig i NCFIL, gyda gwaith cysylltiedig i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd.

"Y ffaith ein bod ym mhob disgrifiad o fyw'n annibynnol yn gorfod dweud, 'nid yw'n golygu gwneud pethau eich hun', felly rydyn ni'n gyson yn gorfod diffinio Byw'n Annibynnol yn ôl yr hyn nad ydyw yn ogystal â'r hyn ydyw." - Cyfranogwr unigol

Teimlwyd y byddai'n bosibl gwella dealltwriaeth y cyhoedd am Fyw'n Annibynnol gyda dealltwriaeth glir, gyffredin o'r hyn y byddai NCFIL yn anelu at ei gyflawni, a chyfathrebu rhagweithiol.

"Os yw'r weledigaeth yn glir a'r genhadaeth yn glir, yna mae'n dod yn llai o drafodaeth ynghylch yr hyn y mae 'annibynnol' yn ei olygu neu 'canolfan', ac yn hytrach yn ddealltwriaeth ehangach o'r genhadaeth." - sefydliad llywodraeth leol

Nododd un grŵp y gallai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fod yn llwybr lledaenu gwybodaeth posibl, mewn sefyllfa dda ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Cydnabuwyd bod Anabledd Cymru, a sefydliadau eraill, eisoes yn ymgyrchu am hawliau i bobl anabl.

Datblygu ac adolygu polisi a gwasanaethau

Roedd llawer o gyfranogwyr yn cytuno bod dod o hyd i ffordd o ddylanwadu ar bolisi'n lleol ac yn genedlaethol yn swyddogaeth bwysig i NCFIL. Cytunwyd y byddai hyn yn anelu at roi trosolwg o sut mae gwahanol feysydd polisi yn effeithio ar allu pobl anabl i fyw'n dda. Soniodd y cyfranogwyr yn neilltuol am Dai, Trafnidiaeth, Gofal Iechyd a hamdden. Nododd rhai fod angen gweithio ar lefel drawsbleidiol.

"Rwy'n credu y gallai [NCFIL] sbarduno newid polisi ar lefel leol a chenedlaethol. Byddai'n hanfodol gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod hynny o bosibl yn golygu lobïo am fwy o gyllid, ar gyfer tai, trafnidiaeth, gwasanaethau gofal iechyd hygyrch, y mathau hynny o bethau" – swyddog Llywodraeth Cymru

Awgrymodd sawl cyfranogwr y gellid cefnogi Byw'n Annibynnol yn well gyda gwell defnydd o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, wrth ddylunio gwasanaethau a pholisïau. Roedd llawer yn teimlo nad oedd ffordd o wneud iawn os nad yw asesiadau yn cael eu gwneud, ac awgrymwyd y gallai NCFIL gefnogi o ran hyrwyddo’r angen am well atebolrwydd. Awgrymodd rhai y dylai fod panel neu gorff i bobl anabl gyfeirio ato gyda phroblemau.

Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo y gallai dilyn dull cenedlaethol trwy gael NCFIL helpu i fynd i'r afael ag amrywiadau rhanbarthol mewn cefnogaeth i bobl anabl. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys yr NCFIL yn datblygu strategaeth Cymru gyfan ar gyfer Taliadau Uniongyrchol a datblygu marchnad ar gyfer Cynorthwywyr Personol. Awgrymodd un grŵp y gellid archwilio cyllid canolog i wella mynediad at wasanaethau cymorth. Awgrymodd sawl un y gallai NCFIL hyrwyddo gwell cydweithredu trwy gefnogi rhwydweithiau a darparu arweiniad.

"Dylai [NCFIL] wirioneddol gynhyrchiol ganolbwyntio ar oresgyn natur dameidiog pethau ar draws pob gwasanaeth a gofod." - sefydliad pobl anabl

Tystiolaeth a data

Trafododd llawer o gyfranogwyr yr angen i allu monitro a gwerthuso Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Dywedodd rhai cyfranogwyr nad oes digon o ddata ar anghydraddoldebau a brofir gan bobl anabl. Mae'r nifer gymharol fach o bobl anabl yng Nghymru yn golygu ei bod hi'n anoddach cael data manylach ar gyfer dadansoddi anghydraddoldebau. Roedd ychydig o gyfranogwyr yn teimlo y gallai cael gwell data monitro ar ganlyniadau i bobl anabl, megis cyfraddau cyflogaeth, a chymwysterau, fod yn ffordd o ddeall lle nad oedd polisïau i helpu pobl anabl yn gweithio'n gywir. Ystyriwyd bod hyn hefyd yn helpu gyda'r problemau canfyddedig ynghylch atebolrwydd am gefnogi Byw'n Annibynnol trwy wasanaethau sy'n anelu at gefnogi pobl anabl. Awgrymwyd hefyd bod angen data ar effeithiau gwasanaethau a pholisïau ar ddinasyddion, yn hytrach na monitro allbynnau yn unig, megis nifer y bobl sy'n cael eu cefnogi neu sy'n cael gofal. Soniwyd am asesiadau effaith fel ffyrdd defnyddiol o wirio nad yw'r hyn sy'n cael ei wneud yn wahaniaethol. Fodd bynnag, credwyd nad oeddent yn cael eu defnyddio'n eang nac yn systematig.

Awgrymodd cyfranogwyr y gallai NCFIL gyfrannu tystiolaeth at wneud penderfyniadau polisi trwy gael ymchwil sy'n cynnwys profiad bywyd. Ystyriwyd bod hyn yn gwella ansawdd y gwaith o lunio polisïau ac yn dangos y gwahaniaeth y gall profiad bywyd ei wneud. Fel y disgrifiodd un cyfranogwr, gallai NCFIL: "[G]asglu straeon a data gan ddinasyddion i dynnu sylw at faterion systemig wrth drafod polisi". – sefydliad pobl anabl

Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gellid cydweithio â'r diwydiant technoleg. Gallai hyn gefnogi datblygiad technolegau cynorthwyol newydd trwy gysylltu dinasyddion ag arbenigwyr i wneud arloesiadau trawsbynciol.

Tra bod cyfranogwyr yn archwilio rôl tystiolaeth a data, awgrymodd llawer y gallai fod gwerth mewn creu canolfan academaidd bwrpasol ar gyfer astudiaethau anabledd yng Nghymru. Roedd cefnogaeth eang ymhlith cyfranogwyr i allu "byw, astudio a gweithio yng Nghymru" – crynodeb o adborth grŵp trafod. Awgrymodd eraill y gallai canolfan Astudiaethau Anabledd helpu sefydliadau'r trydydd sector i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gynhyrchu incwm, megis darparu hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghori i eraill. Archwilir opsiynau ar gyfer lleoli NCFIL o fewn sefydliad academaidd neu fel partner i sefydliad academaidd ymhellach yn nhrydedd adran y bennod hon.

Cefnogi rhanddeiliaid

Nododd cyfranogwyr bod cydweithrediad effeithiol yn angenrheidiol er mwyn i Fyw'n Annibynnol weithio'n dda. Rhannwyd sawl rhwystr a methiant o ran cydweithio – gweler yr adran ar Rwystrau i Fyw'n Annibynnol.

Roedd llawer yn gweld prif swyddogaeth NCFIL fel ei gwneud hi'n haws i sefydliadau presennol fel sefydliadau pobl anabl barhau i ddarparu gwasanaethau. Credwyd y gellid cyflawni hyn trwy gymorth ymarferol yn ogystal â dod â phobl at ei gilydd i rannu syniadau, ac i chwyddo lleisiau pobl anabl yn genedlaethol.

"Rwy'n credu y byddwn i'n gweld canolfan genedlaethol o'r natur hon yn rhywbeth sy’n galluogi. Galluogi'r hyn sydd allan yna eisoes yn well, helpu'r sefydliadau presennol i dyfu'r hyn maen nhw'n ei wneud a chyflawni eu cynaliadwyedd eu hunain a sicrhau eu gwytnwch." - sefydliad pobl anabl

Archwiliodd rhai y syniad o NCFIL fel canolfan gydlynu ar gyfer sefydliadau lleol, gan ddarparu un pwynt cyswllt gydag arbenigedd a gwybodaeth i unigolion a sefydliadau eraill.

Trafodwyd cryfhau gwasanaethau lleol, gan gynnwys gwasanaethau trydydd sector ac awdurdodau lleol, yn eang ar draws y grwpiau trafod. Roedd llawer yn teimlo'n gryf y dylai NCFIL adeiladu ar yr hyn sy'n bodoli eisoes, gan gysylltu'r lleol â'r cenedlaethol. Ystyriwyd mai dim ond pe bai gwasanaethau lleol a chymunedol yn gweithio'n dda, i ddarparu cymorth uniongyrchol i unigolion, y byddai canolfan genedlaethol yn llwyddiannus.

Er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau a amlinellir yng Nghanfyddiadau Adran 1, awgrymodd cyfranogwyr y gallai NCFIL chwarae rôl wrth ddarparu cymorth busnes ymarferol. Gallai hyn helpu cynaliadwyedd sefydliadau pobl anabl, grwpiau amhariad a sefydliadau cymorth. Awgrymwyd nad oes gan y sefydliadau hyn yr adnoddau yn aml i gyflogi gwasanaethau proffesiynol fel Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Digidol, Cyfrifyddiaeth ac ati.

"Mae angen cymorth ar sefydliadau pobl anabl a chanolfannau lleol Byw'n Annibynnol o ran ochr fusnes pethau. Maent yn aml yn cael eu sefydlu fel sefydliadau ar lawr gwlad [...] heb ddisgwyl gorfod dod yn gyflogwyr" – crynodeb o adborth grŵp trafod.

Rhannodd un cyfranogwr brofiad o gael trafferth dod o hyd i gefnogaeth fusnes hygyrch i'w sefydliad a gallai rhwydweithiau cymheiriaid helpu.

"Nid yw peth o'r cymorth sydd allan yna, er enghraifft, gyda datblygu busnes, yn hygyrch ac nid yw'n ystyried anghenion a heriau penodol pobl anabl a sefydliadau pobl anabl." - sefydliad pobl anabl

Nododd llawer o gyfranogwyr bod rhannu gwybodaeth yn ffordd o gefnogi, yn enwedig sefydliadau llai. Gellid rhannu astudiaethau achos o brosiectau sy'n cefnogi Byw'n Annibynnol gyda sefydliadau eraill ac yn ehangach y tu allan i Gymru.

"Rydyn ni'n gweld modelau ysbrydoledig, eithriadol o Fyw'n Annibynnol. Rhan o'r broblem yw nad ydym yn rhannu'r wybodaeth honno yn ddigon eang ac nad ydym yn cefnogi pobl i edrych ar y dulliau hynny o ddatblygu modelau gwahanol iawn o Fyw'n Annibynnol." – sefydliad sector cyhoeddus

Nodwyd bod darparu hyfforddiant i fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau ac arbenigedd i sefydliadau'r trydydd sector yn ffordd arall o helpu sefydliadau i dyfu a gweithredu'n gynaliadwy.

Awgrymwyd canllawiau ar weithio gyda gwirfoddolwyr hefyd. Nodwyd, er bod llawer o sefydliadau pobl anabl llai yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gyflawni gwaith a gomisiynwyd, mae’n bosibl na fydd y cyllid prosiect sydd ar gael yn ystyried costau ychwanegol gwneud gweithle yn hygyrch.

"Craidd sefydliad pobl anabl yw ei fod yn cael ei redeg gan bobl anabl eu hunain. […] Nid oes gennym yr arian i ddod â gwirfoddolwyr i mewn, oherwydd ni allwn wneud y gweithle yn hygyrch iddyn nhw oherwydd ni allwn fforddio prynu'r offer." - sefydliad pobl anabl

Awgrymodd cyfranogwyr hefyd y gallai'r NCFIL chwarae rôl wrth oresgyn rhwystrau sy'n wynebu sefydliadau cyflenwi mewn perthynas â chontractau a phrosesau caffael y llywodraeth. Dywedwyd bod sefydliadau pobl anabl mewn sefyllfa unigryw i fwydo gwybodaeth a syniadau gan ddinasyddion â phrofiad bywyd i sefydliadau ar lefel genedlaethol. Ystyriwyd bod y swyddogaeth hon mewn perygl pe na bai sefydliadau pobl anabl yn cael eu cefnogi.

Cytunodd cyfranogwyr ar fanteision sefydlu rhwydweithiau, i gyflwyno llais unedig ar bolisi yn genedlaethol yn well. Nodwyd effeithiau llai diriaethol ar lesiant fel manteision cyngor a chymorth gan eraill mewn rolau tebyg hefyd.

"Rwy'n credu y byddai [NCFIL] o bosibl yn meithrin y partneriaethau hynny gyda sefydliadau presennol, [...] Trwy gydweithio, gyda darparwyr gofal iechyd, gofal cymdeithasol, sefydliadau addysg, rwy'n credu y gallai'r grŵp greu system wirioneddol gynhwysfawr [...] a allai fynd i'r afael â gwahanol agweddau ar Fyw'n Annibynnol." - Swyddog Llywodraeth Cymru

Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn glir eu barn y dylai unrhyw endid newydd alinio â sefydliadau presennol gan gynnwys Anabledd Cymru, a’u hategu. Wrth ystyried sut i osgoi dyblygu neu wthio sefydliadau presennol o’r neilltu, roedd llawer yn cydnabod gorgyffwrdd posibl â chylch gwaith Anabledd Cymru, yn enwedig o ran ymgyrchu.  Roedd cyfranogwyr yn awyddus bod NCFIL yn canolbwyntio ar weithgareddau nad oeddent yn dyblygu unrhyw rannau o'r gwaith hwn.

Lleisiodd rhai bryderon y gallai sefydlu NCFIL fod yn risg i sefydliadau eraill:

"Ydyn ni mewn perygl o wanhau'r effaith os bydd gennym yn y pen draw Anabledd Cymru, Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sefydliadau pobl anabl. A fyddwn ni'n taenu adnoddau prin yn rhy denau" – sefydliad y trydydd sector

Ystyriaethau ymarferol

Gofynnwyd i'r cyfranogwyr ystyried agweddau ymarferol ar ddylunio ar gyfer NCFIL llwyddiannus yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys ystyried mathau o fodel, rolau rhanddeiliaid a sefydliadau, yn ogystal â rhwystrau posibl.

Roedd Gweledigaeth y tîm cydgynhyrchu yn awgrymu y dylai NCFIL:

  • gael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl
  • defnyddio strwythur sefydliadol arloesol ac arweinyddiaeth addasadwy
  • bod yn gynaliadwy
  • cydnabod y Model Cymdeithasol o Anabledd ac alinio â CCUHPA
  • defnyddio cydgynhyrchu a phaneli arbenigol gyda phobl anabl yn weithredol ar bob lefel
  • dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i annog cefnogaeth a chydweithrediad gan gymheiriaid
  • gwella a chefnogi cymunedau a sefydliadau lleol
  • cynnwys monitro a gwerthuso cadarn ar ei gweithgareddau ei hun

Ffigur 3: Egwyddorion sylfaenol ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol a gymerwyd o Weledigaeth y tîm cydgynhyrchu

Image

Nododd y tîm cydgynhyrchu yr ystyriaethau ymarferol canlynol i gyfranogwyr eu trafod.

  • A allai fod â phresenoldeb ffisegol?
  • A allai weithredu'n rhithwir?
  • A allai sefydliad trydydd sector ei darparu?
  • A allai fod wedi'i lleoli o fewn y llywodraeth?
  • A allai gael ei darparu gan neu mewn partneriaeth â sefydliad academaidd?
  • A allai ddefnyddio model partneriaeth, consortiwm, neu rwydwaith?

Ffigur 4: Ystyriaethau ymarferol ar gyfer dylunio Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol a gymerwyd o Weledigaeth y tîm cydgynhyrchu

Image

Cyflwynir canfyddiadau ar flaenoriaethau cyffredinol rhanddeiliaid ar gyfer NCFIL yn rhan gyntaf yr adran hon. Mae'r ail ran yn mynd i'r afael â manteision a risgiau yr oedd y cyfranogwyr yn eu cysylltu â phob un o'r tri model arfaethedig yn eu tro: modelau sector cyhoeddus, modelau trydydd sector, a modelau seiliedig ar brifysgolion.

Ystyriaethau ymarferol cyffredinol

Cynrychiolaeth ar bob lefel

Cytunodd y cyfranogwyr yn eang y byddai angen i NCFIL gael ei harwain, ei rheoli, a'i staffio gan bobl anabl ar bob lefel i fod yn llwyddiannus. Roedd hyn yn gyson â'r Weledigaeth ar gyfer NCFIL a gynigiwyd gan y tîm cydgynhyrchu. Mae manteision y dull hwn yn cael eu harchwilio yng Nghanfyddiadau Adran 2. Trwy gydol y gweithdy, roedd y cyfranogwyr yn cytuno bod yn rhaid i brofiad byw fod yn rhan annatod o wneud penderfyniadau ar gyfer NCFIL.

"Mae’r bobl sy'n gwneud y penderfyniadau [...] yn aml iawn heb brofiad bywyd o anabledd. Felly rydych chi'n ymladd yn erbyn y system honno ar hyn o bryd." - sefydliad pobl anabl

Roedd y sgyrsiau yn archwilio pa mor dda y gallai'r gwahanol fodelau sefydliadol gefnogi hyn i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynrychioli'n effeithiol. Roedd y cyfranogwyr yn tueddu i gytuno y dylai hyn fod yn ystyriaeth sylfaenol wrth ddewis dull cyflawni.

"Sicrhau bod y ganolfan nid yn unig ar gyfer y bobl, ond hefyd yn cael ei chreu gyda'r bobl y mae'n eu gwasanaethu" – sefydliad pobl anabl

Gweithio gyda sefydliadau rhanddeiliaid presennol

Bu’r cyfranogwyr yn archwilio sut y gellid dylunio NCFIL i weithio gyda sefydliadau a grwpiau rhanddeiliaid presennol i gyflawni'r gweithgareddau a gynigir yn y Weledigaeth ar gyfer NCFIL. Er enghraifft, awgrymwyd y gallai Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth Llywodraeth Cymru gefnogi trwy rannu arfer gorau. Gallai ymgysylltu â grwpiau lleol a grwpiau ar lawr gwlad gefnogi trwy gysylltu'r safbwyntiau lleol a chymunedol â'r trosolwg cenedlaethol, a byddai'n flaenoriaeth pe bai NCFIL yn dilyn model 'prif ganolfan a lloerennau'. Awgrym arall oedd y gallai undebau llafur ddefnyddio eu dealltwriaeth o safonau a strwythurau i gefnogi sefydlu a rheoli strwythurau llywodraethu. Nodwyd bod gan undebau llafur gysylltiadau cryf â sefydliadau a fyddai'n ymwneud â darparu gwasanaethau i gefnogi Byw'n Annibynnol.

Roedd llawer o drafodaethau grŵp yn tynnu sylw at yr angen i ategu a gweithio ochr yn ochr â sefydliadau sydd eisoes yn cefnogi Byw'n Annibynnol. Nododd sawl cyfranogwr fod sefydliadau ar lawr gwlad, canolfannau byw’n annibynnol a sefydliadau pobl anabl gan gynnwys Anabledd Cymru, eisoes yn darparu gwasanaethau i gefnogi Byw'n Annibynnol. Roedden nhw'n teimlo na ddylai NCFIL ddyblygu neu danseilio unrhyw rannau o'r gwaith hwn.

"Beth bynnag y mae [NCFIL] yn ei wneud, mae angen ei chefnogi a'i chryfhau i ategu rôl Anabledd Cymru" - crynodeb o adborth grŵp trafod

Dywedodd llawer o gyfranogwyr fod gorgyffwrdd posibl rhwng gweithgareddau arfaethedig NCFIL a'r gwaith a wneir ar hyn o bryd gan Anabledd Cymru, gan gynnwys ymgyrchu. Awgrymodd un grŵp trafod y gellid contractio Anabledd Cymru neu sefydliad presennol arall i redeg NCFIL.

Ymgysylltu â dinasyddion

Roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod yn rhaid i bobl anabl, gan gynnwys dinasyddion, fod yn rhan o gynllunio sut y byddai NCFIL yn gweithio.

Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo y dylid cydgynhyrchu elfennau o NCFIL gyda phobl anabl, gan gynnwys rhaglen waith yr NCFIL. Awgrymwyd y gallai gwneud hyn sicrhau bod ei blaenoriaethau yn cyd-fynd â phrofiadau ac anghenion pobl anabl. Awgrymiadau eraill oedd cynnwys dinasyddion ar y bwrdd ac ar baneli arbenigwyr drwy brofiad. Dywedodd un cyfranogwr ei bod yn bwysig meithrin perthynas â sefydliadau y mae dinasyddion yn ymddiried ynddynt i gefnogi ymgysylltiad rhwng NCFIL ac unigolion anabl.

Gwaith teg i bawb

Roedd cytundeb cyffredinol bod angen i NCFIL fod â digon o gyllid wrth law er mwyn iddi allu cyflawni ei swyddogaethau craidd. Cytunwyd hefyd na ddylai fod yn ddibynnol ar ffynonellau cyllido ansicr, cystadleuol, tymor byr neu wirfoddolwyr.

"Os ydym yn nodi bwlch fel yr hyn rydyn ni'n ei nodi heddiw, yna rwy'n credu mai rôl gwasanaethau y wladwriaeth yw llenwi'r bwlch hwnnw. Nid wyf yn credu y dylai gael ei lenwi gan wirfoddolwyr yn y trydydd sector yn unig." – Cyfranogwr unigol

Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo bod goblygiadau i hyn o ran dewis ffynonellau cyllido a modelau sefydliadol.

"Mae yna gyfyngiadau rwy'n credu i'r model hwnnw [...] ac rydych chi i mewn i fyd cydnabyddiaeth ariannol am ddulliau cydgynhyrchu ar sail wirfoddol yn hytrach nag adnodd pwrpasol [..] sydd â ffocws go iawn ac sy'n gallu gyrru pethau ymlaen". – Sefydliad llywodraeth leol

Roedd y cyfranogwyr yn cytuno ei bod yn hanfodol cydnabod gwerth amser ac arbenigedd pobl anabl trwy swyddi â thâl. Roedd hyn yn cynnwys talu gweithwyr yn ogystal â chydnabyddiaeth ariannol deg am gydgynhyrchu neu gyfranogiad arall. Awgrymodd rhai cyfranogwyr y dylid ystyried model menter gymdeithasol fel ffordd o gefnogi swyddi gweithwyr cyflogedig.

"Os yw'n cyflogi pobl, dylai fod yn gyflogaeth â thâl. Mae hynny'n bwysig iawn." – Sefydliad llywodraeth leol

Cydnabuwyd bod rôl bwysig swyddi gwirfoddol priodol yn galluogi ymgysylltu ehangach.

Hygyrchedd a lleoliad

Roedd y cyfranogwyr yn teimlo ei bod yn hanfodol bod NCFIL yn cynnig ffyrdd hyblyg a hygyrch o ymgysylltu'n effeithiol â grwpiau rhanddeiliaid a chymunedau. Dylai hyn ddangos arfer gorau a sicrhau bod ymgysylltu’n digwydd ledled Cymru.

Roedd y cyfranogwyr yn cytuno y dylai NCFIL weithredu'n rhithwir. Byddai hyn yn cefnogi gweithio effeithiol gydag ystod eang o randdeiliaid sydd â gwahanol fathau o anghenion mynediad ac sydd wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol. Dywedon nhw hefyd ei bod yn hanfodol cynnig mynediad annigidol er mwyn osgoi eithrio rhanddeiliaid nad ydynt yn ymgysylltu. Awgrymodd llawer o gyfranogwyr y gallai sefydliadau neu rwydweithiau lleol helpu. Er enghraifft, gallai rhanddeiliaid ymuno â chyfarfodydd cenedlaethol o swyddfeydd rhanbarthol neu gynnal rhai yno.

"Os bydd popeth yn dod yn ddigidol, mae'n eithrio'n awtomatig y rhai nad ydynt yn gallu neu’r rhai nad ydynt eisiau" – sefydliad sector cyhoeddus

Nododd sawl cyfranogwr bod risgiau o sefydlu canolfan mewn un lleoliad ffisegol. Roedd y rhain yn cynnwys rhwystrau hygyrchedd, ffafriaeth ranbarthol, effeithiau amgylcheddol rhanddeiliaid yn teithio, a thynnu’r ffocws oddi wrth gyflawni.

"Dydw i ddim yn meddwl y dylai fod yn bresenoldeb ffisegol oherwydd unwaith y byddwch chi'n ei roi mewn adeilad mae pawb yn meddwl bod [yr NCFIL] yn perthyn i'r lle hwnnw ac mae pawb yn canolbwyntio ar yr adeilad yn hytrach na'r gwasanaethau" – sefydliad llywodraeth leol

Nodwyd risgiau allgáu rhanbarthol. Roedd llawer o gyfranogwyr yn rhannu pryderon, pe bai canolfan ffisegol yn cael ei sefydlu, y byddai'n cael ei lleoli yng Nghaerdydd neu Dde-ddwyrain Cymru. Byddai hyn yn "golygu bod perygl parhau â'r anghydraddoldebau ychwanegol sy'n cael eu gosod ar bobl mewn rhannau eraill o Gymru" – sefydliad pobl anabl.

Soniwyd hefyd am brofiadau ac anghenion amrywiol o ran cymorth i bobl anabl ledled Cymru.

"Mae gennych ardaloedd gwledig lle mae'r anghenion yn wahanol iawn i bobl anabl. […] O leiaf trwy ei gael yn rhanbarthol, rydych chi'n mynd i weld amrywiadau gwahanol." - sefydliad pobl anabl

Roedd y trafodaethau yn archwilio ffyrdd o gefnogi ymgysylltu Cymru gyfan gan ganolbwyntio'n bennaf ar dri dull a nodwyd. Roedd y rhain yn cynnwys: gweithio gyda sefydliadau sydd eisoes yn gweithredu'n lleol neu'n rhanbarthol; sefydlu canghennau NCFIL yn lleol neu ranbarthol; a chynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb ledled Cymru.

"Gallech fod yn cefnogi a chyflwyno cynigion wyneb yn wyneb o hyd, gan gynnwys cefnogi'r canolfannau Byw'n Annibynnol lleol hynny a sicrhau bod mwy ohonynt ledled Cymru" – sefydliad pobl anabl

Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo y gellid cyflawni ymgysylltu rhanbarthol yn effeithiol trwy rwydwaith o sefydliadau. Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys canolfannau byw’n annibynnol, sefydliadau pobl anabl, prifysgolion neu Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Trafododd un grŵp y syniad o NCFIL yn defnyddio swyddfeydd llywodraeth leol neu fannau gweithio trydydd sector ledled Cymru. Wrth ystyried cysylltiadau rhwng sefydliadau ar lawr gwlad a'r darlun cenedlaethol, nodwyd hefyd “nad oes rhaid i gymuned fod yn ddaearyddol” - sefydliad pobl anabl. Nodwyd bod grwpiau cymorth yn aml yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a dinasyddion ledled Cymru.

Awgrymwyd hefyd y dylai nodau NCFIL a'r gwaith y byddai'n ei wneud lywio’r ystyriaeth o leoliadau ffisegol a ffyrdd o weithio.

"Mae angen i ni benderfynu beth yw rôl a swyddogaeth [NCFIL] cyn y gallwn benderfynu beth yw'r cydbwysedd rhwng ffisegol a rhithwir. Mae angen i chi wybod a fydd angen gofod ffisegol, er enghraifft, er mwyn gallu darparu gwasanaethau penodol" – crynodeb o adborth grŵp trafod

Strategaeth a gwerthuso

Arweiniodd trafodaethau ar sut y gallai NCFIL osod ei nodau a'i amcanion at sawl syniad. Roedd y prif ystyriaethau yn cynnwys: sut i gynnwys persbectif cenedlaethol, ffyrdd i ddinasyddion ddylanwadu, a sut i alinio â sefydliadau rhanddeiliaid.

Fel yr archwiliwyd yn Adran 2, nodwyd bod cysylltu dinasyddion a'u hanghenion â sefydliadau cenedlaethol a gwneuthurwyr penderfyniadau yn bwysig gan lawer. Cynigiodd rhai cyfranogwyr fodelau prif ganolfan a lloerennau, neu gysylltu â rhwydweithiau lleol a rhanbarthol presennol. Gan adeiladu ar hyn, archwiliodd cyfranogwyr ffyrdd y gellid casglu gwybodaeth yn lleol, ei choladu a'i defnyddio i lywio blaenoriaethau a gosod strategaeth ar lefel genedlaethol. Rhannwyd enghreifftiau yn y gweithdy o sefydliadau ymbarél yn ymgysylltu â phartneriaid neu ganghennau lleol i ddeall materion ar lawr gwlad.

Crynhowyd gwerth cynnwys lleisiau pobl sydd â phrofiad bywyd wrth osod strategaeth genedlaethol gan un cyfranogwr, mewn perthynas ag awgrym o gynrychiolaeth dinasyddion ar fwrdd NCFIL:

"Mae hwyluso sgyrsiau anodd a’u chwyddo yn dod yn fwy effeithiol pan fydd dinasyddion yn arwain y deialogau hyn, gan ddod â dilysrwydd a brys i drafodaethau polisi" – sefydliad pobl anabl

Fel yr archwiliwyd yn adran Arwain arfer gorau trwy gyflogaeth ac ymgysylltiad, awgrymwyd y gallai NCFIL gynnig hyfforddi dinasyddion, a allai arwain at gynrychiolaeth o fewn penderfyniadau strategol gan ystod fwy amrywiol o leisiau.

Archwiliodd un grŵp sut y gallai NCFIL gyfrannu at fframwaith gwerthuso sy'n anelu at ddeall yr anghenion am gymorth i bobl anabl ymhlith y boblogaeth. Gellid cydgynhyrchu hyn gyda phobl anabl er mwyn "ein bod yn cael pobl anabl i nodi'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt" - sefydliad pobl anabl.

Awgrymodd grŵp arall y dylai strategaeth a gwerthusiad ar gyfer NCFIL gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae gan y Ddeddf gylch gwaith trawsbynciol a allai alluogi NCFIL 'i ganolbwyntio ar ganlyniadau llesiant y Llywodraeth eisoes' - sefydliad pobl anabl. Ystyriwyd croestoriadedd gan eraill a awgrymodd y dylai strategaeth NCFIL ystyried ac integreiddio â chynlluniau gweithredu cydraddoldeb eraill. Er enghraifft, Cynllun Gweithredu LHDTC+ CymruChynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Cytunwyd yn eang y dylid monitro a gwerthuso gwaith NCFIL i sicrhau bod gweithgareddau yn cael eu cynnal i safon y cytunwyd arni.

"Mae angen mwy o ddannedd arnom. Oherwydd yn amlwg ar hyn o bryd mae gennym y Ddeddf Cydraddoldeb ac ni [...] chedwir at honno felly [NCFIL], beth fyddai'r nod ac a fyddai'n cael yr effaith y dylai ei chael" – sefydliad pobl anabl

Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo y byddai'n bwysig asesu effaith gweithgareddau NCFIL ar brofiadau pobl yn hytrach na monitro allbynnau yn unig. Archwiliodd un grŵp sut y gallai’r dystiolaeth a gesglir gynnwys: 'canlyniadau bywyd go iawn yn hytrach na dangosyddion perfformiad allweddol yn unig' - sefydliad pobl anabl.

Awgrymwyd y gallai gynnwys cyfweliadau â rhanddeiliaid ac astudiaethau achos, i ddeall pa mor llwyddiannus y mae NCFIL wedi bod wrth wella canlyniadau i bobl anabl.

Cyllido

Roedd y cyfranogwyr yn cytuno y dylid ystyried cyllid cynaliadwy yn ofalus pe byddai NCFIL yn cael ei sefydlu, ond nid oedd consensws ar sut y gellid cyflawni hyn orau. Oherwydd y risgiau sy'n ymwneud â dibynnu ar grantiau tymor byr gan sefydliadau'r trydydd sector, roedd rhai yn teimlo y byddai angen ymrwymiad i gyllid gwarantedig i alluogi cyflawni'r gweithgareddau craidd.

"Os [...] ystyrir bod gan NCFIL [...] arwyddocâd strategol i Gymru, i Lywodraeth Cymru, yna mae angen ariannu ei gweithrediad craidd" - sefydliad pobl anabl

Roedd llawer o gyfranogwyr hefyd yn cysylltu cael cyllid craidd â'r gallu i gyflogi staff cyflogedig, yn hytrach na dibynnu ar wirfoddolwyr.

"Fy mhryder bob amser yw hyn: pan ydyn ni'n siarad am rywbeth sy'n cael ei redeg gan bobl anabl ar gyfer pobl anabl, bod disgwyliad, oherwydd mai pobl anabl sy’n gwneud hynny drostynt eu hunain [...], y byddant yn gwneud y cyfan am ddim. […]. Mae'n rhaid iddi gael adnoddau priodol a chynaliadwy gyda phobl anabl yn cael eu gwerthfawrogi'n briodol a'u galluogi i chwarae pa bynnag rôl y gallant ei chwarae o fewn llywodraethu a rhedeg beth bynnag y gallai'r ganolfan hon fod." - sefydliad pobl anabl

Roedd eraill o'r farn bod dibynnu ar gyllid allanol yn peri risg ac yn teimlo y dylai NCFIL anelu at gynhyrchu refeniw i sicrhau cynaliadwyedd a gwytnwch. Awgrymodd rhai y dylid ystyried menter gymdeithasol neu fodel cyllid cymdeithasol. Roedd eraill yn pryderu, pe bai NCFIL yn dibynnu ar gyllid y llywodraeth, na fyddai'n gallu herio’n effeithiol.

"Mae yna bob amser ofn y gallech chi golli eich cyllid os ydych chi'n rhy heriol." Cyfranogwr unigol

Llywodraethu

Gofynnwyd i gyfranogwyr archwilio sut y gallai NCFIL gael ei lleoli a'i llywodraethu i roi’r gefnogaeth orau i gyflawni'r gweithgareddau a gynigir yng Ngweledigaeth y tîm cydgynhyrchu.

Tynnodd llawer o gyfranogwyr sylw dwys at yr angen i sicrhau bod NCFIL yn gweithredu gyda lefel o wahaniad oddi wrth y llywodraeth. Cynigiodd y cyfranogwyr y byddai hyn yn caniatáu i NCFIL reoli ei strategaeth sefydliadol. Roedden nhw hefyd yn meddwl y byddai'n golygu, pan fydd angen i'r NCFIL herio rhanddeiliaid sy'n cefnogi polisi neu gyflenwi Byw'n Annibynnol, y byddai’r heriau yn fwy effeithiol a diduedd.

"Mae angen iddi fod yn annibynnol ynddi'i hun neu fel arall bydd yn dod yn y pen draw neu bydd perygl y bydd [...] y llunwyr polisi yn meddwl, 'o, rhywbeth sy’n eiddo i ni yw hwn, a ni sy’n gallu gwneud rhywbeth ag ef'" – Sefydliad llywodraeth leol

Awgrymodd un grŵp strwythur partneriaeth gymdeithasol a allai gynnwys rhanddeiliaid y llywodraeth a'r sector preifat wrth wneud penderfyniadau.

Opsiynau model sefydliadol

Archwiliodd y grwpiau trafod gryfderau a gwendidau'r tri model a gynigiwyd yng Ngweledigaeth y tîm cydgynhyrchu. Fe wnaethant ystyried sut y gallai partneriaethau neu fodelau ar y cyd ddod ag elfennau gorau pob un at ei gilydd. Trafododd pob grŵp fodel lle mae NCFIL yn cael ei chyflwyno gan fwy nag un sefydliad. Gallai hyn fod naill ai mewn partneriaeth, neu fel canolfan ganolog sy'n gweithio gyda sefydliadau lleol a rhanbarthol. Fodd bynnag, roedd llawer yn teimlo y dylai'r cyfrifoldeb am gyflawni orwedd gydag un sefydliad arweiniol. Nodwyd manteision dull ar y cyd, ac roedd hynny’n cynnwys dod â gwahanol safbwyntiau at ei gilydd a galluogi ymgysylltu rhanbarthol.

Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo y gallai o leiaf rai o weithgareddau NCFIL gael eu cyflawni gan sefydliadau sydd eisoes yng Nghymru, gyda rhai yn sôn am Anabledd Cymru.

Roedd un grŵp yn meddwl y gallai yna fod Gomisiynydd Anabledd neu Gomisiwn Anabledd yn cynnwys pobl anabl. Gallai sefydliad academaidd gydlynu hyn.

Model sector cyhoeddus

Trafododd y cyfranogwyr leoli NCFIL o fewn y llywodraeth. Nodwyd y gallai'r manteision gynnwys mynediad at adnoddau gan gynnwys cyllid canolog wedi'i glustnodi. Fe wnaethant hefyd fynegi pryder y gallai hyn gyfyngu ar ei heffeithiolrwydd a gallu'r NCFIL i herio.

"Pe baech chi'n dweud [...] mae ei seilwaith yn cael ei gefnogi o fewn Llywodraeth Cymru, yn anochel wedyn bydd gennych gwestiynau fel, wel, pa mor annibynnol yw'r ganolfan? Pa mor abl yw hi i gyflwyno heriau?" Sefydliad pobl anabl

Awgrymodd rhai y gallai corff hyd braich, annibynnol o'r llywodraeth ond gyda mandad clir liniaru'r risg hon. Rhoddwyd Gofal Cymdeithasol Cymru a Llais fel enghreifftiau o fodelau sefydliad statudol i'w hystyried. Cytunodd un grŵp y byddai "angen iddi gael ei rhyddid ei hun".

Archwiliodd llawer o gyfranogwyr y posibilrwydd o NCFIL yn cael ei chyflwyno gan awdurdodau lleol. Er bod tystiolaeth bod cael swydd swyddog mynediad yn Sir Benfro yn gweithio'n dda, tynnwyd sylw at nifer o risgiau yn sgil cymryd agwedd leol at Fyw'n Annibynnol. Roedd rhai o'r farn bod bwlch yn atebolrwydd a phrosesau gwerthuso effaith gwasanaethau awdurdodau lleol sy'n cael eu darparu i bobl anabl. Roedd rhai yn teimlo, er mwyn cyflawni ei nodau, y byddai angen i NCFIL gael trosolwg cenedlaethol.

"Er mwyn iddi gael yr effaith fwyaf, rwy’n credu y dylai fod yn seiliedig ar lefel genedlaethol. Dydw i ddim yn gweld sut mae bod yn gysylltiedig ag awdurdodau lleol neu lywodraeth leol yn mynd i weithio mewn gwirionedd. Rwy'n credu y gallai fod hyd yn oed mwy o duedd wrth wneud hynny." - Sefydliad sector cyhoeddus

Awgrymodd eraill y gellid rheoli cyllid ar gyfer Byw'n Annibynnol trwy gyllideb ganolog a allai ariannu gweithgareddau fel ymchwil yn ogystal â chymorth i unigolion. Awgrymwyd y gallai hyn osgoi cymhlethu cyllidebau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol ymhellach.

Cafwyd cefnogaeth i'r awgrym o sefydlu swyddogion mynediad ac eiriolaeth yn ehangach mewn Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Nododd rhai cyfranogwyr y byddai hyn yn osgoi gorgyffwrdd â gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud, yn enwedig gan y trydydd sector.

Trafododd un grŵp ffyrdd y gellid defnyddio strwythurau Byrddau Iechyd Lleol y GIG neu Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Teimlwyd y gallai model prif ganolfan a lloerennau gefnogi nodau a gweithgareddau NCFIL yn effeithiol a galluogi ymgysylltiad ledled Cymru gyfan. Awgrymwyd y byddai angen iddi ddefnyddio mecanweithiau presennol i ddylanwadu a rhannu arfer gorau, ochr yn ochr â chysylltiadau rhwng sefydliadau lleol a chenedlaethol. Credwyd y gallai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill gan gynnwys y trydydd sector a phrifysgolion. Ystyriwyd eu bod mewn sefyllfa dda i gynnal gwerthusiad i fwydo gwaith datblygu polisi a chael dealltwriaeth o anghenion eu poblogaeth. Roedd rhai yn teimlo, er mwyn cefnogi Byw'n Annibynnol yn effeithiol, y byddai angen i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol gryfhau cynrychiolaeth profiad bywyd. Awgrymwyd y gallai hyn ddigwydd o bosibl trwy sefydlu grwpiau ymgysylltu o dan bob bwrdd i nodi a gwerthuso anghenion.

"Rwy'n credu bod angen cynnwys mwy o brofiad bywyd ar y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol oherwydd mae hyn yn gyfyngedig iawn" - sefydliad pobl anabl

Model trydydd sector

Trafododd y cyfranogwyr werth gwaith trydydd sector sydd eisoes yn digwydd i gefnogi Byw'n Annibynnol. Roedden nhw'n teimlo i raddau helaeth bod llawer o fanteision i fodel trydydd sector ar gyfer NCFIL, gan gynnwys y gallu i gysylltu'n agos â rhanddeiliaid a dinasyddion.

"Os yw'n sefydliad trydydd sector, y fantais yw ei fod yn fwy tebygol o fod wedi’i wreiddio’n well yn y gymuned" – sefydliad pobl anabl

Nodwyd bod sefydliadau presennol y trydydd sector wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol a gallai rhwydwaith o sefydliadau pobl anabl ymgysylltu â chymunedau lleol ledled Cymru. Roedden nhw'n meddwl y byddai hyn yn cynnig dealltwriaeth dda o'r gwahaniaethau rhanbarthol yn y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen ar bobl anabl. Pwynt arall a godwyd oedd bod sefydliadau pobl anabl yn aml yn anelu at gyflogi cyfran sylweddol o staff anabl. Felly byddai unrhyw fodel sy'n cynnwys sefydliadau pobl anabl yn cefnogi egwyddor NCFIL o gael ei harwain a'i rhedeg gan bobl anabl.

Fodd bynnag, nodwyd rhai risgiau ynghylch adnoddau a chapasiti i gyflawni'r gwaith. Er enghraifft, dibyniaeth ar wirfoddolwyr, ac ansicrwydd ynghylch cyllid. Roedd y mwyafrif o'r farn y byddai angen i ddull cynaliadwy o gael NCFIL yn y trydydd sector gynnwys partneriaid ychwanegol. Er enghraifft, gellid archwilio partneriaeth gyda CGGC, neu eraill gyda swyddfeydd rhanbarthol. Awgrym arall oedd cael 'prif ganolfan' prifysgol yn arwain rhwydwaith o sefydliadau trydydd sector lleol.

Archwiliodd un grŵp fodel a fyddai'n cynnwys canolfan leol ar gyfer Byw'n Annibynnol ym mhob awdurdod lleol neu ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Gallai hyn gefnogi sefydliadau ar lawr gwlad, lleihau rhwystrau daearyddol a "dod â'r prif ganolfannau yn agosach at y gymuned" – sefydliad pobl anabl. Awgrymwyd y gallai hyn gael ei gydlynu gan ganolfan rithwir yn y canol ac y byddai'r model hwn yn cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol trwy leihau'r angen i deithio.

Model Prifysgol

Nododd y cyfranogwyr ddau gryfder mewn model ar gyfer NCFIL wedi'i lleoli mewn sefydliad academaidd. Yn gyntaf, gallai fod yn annibynnol o'r llywodraeth felly byddai'n caniatáu rhyddid i osod strategaeth ymchwil. Fodd bynnag, cydnabuwyd y gallai grantiau sydd â chyfyngiadau neu ddisgwyliadau ynghlwm, a meysydd diddordeb academyddion unigol eu hunain, hefyd ddylanwadu ar strategaeth. Roedd y grŵp hefyd yn teimlo y byddai'r model hwn yn caniatáu gwell mynediad at gyllid ac adnoddau eraill i gyflawni'r gwaith, yn enwedig o’i gymharu â model trydydd sector, er bod un grŵp wedi archwilio'r syniad y gallai prifysgol arwain NCFIL a fyddai’n dod â sefydliadau pobl anabl a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd.

Un anfantais a nodwyd gan lawer o’r cyfranogwyr gyda'r model hwn oedd y byddai ganddo gysylltiadau gwannach â chymunedau, partneriaid cyflenwi a rhanddeiliaid eraill.

"Y risg o fod wedi’i lleoli mewn prifysgolion yn unig, gellid ei weld fel rhywbeth anghysbell, math o 'dŵr ifori', felly byddai angen i'r strwythur llywodraethu fod yn bwysig." - sefydliad pobl anabl

Roedd llawer o gyfranogwyr o'r farn y gallai rhedeg NCFIL o grŵp o brifysgolion ledled Cymru gefnogi ymgysylltiad daearyddol ehangach, ond rhannwyd pryderon ynghylch a fyddai hyn yn llwyddiannus.

"Mae yna risg, cyn gynted ag y byddwch chi'n gwneud yn glir ei bod yn cael ei chefnogi mewn gofod daearyddol penodol neu brifysgol benodol, oni bai, eto, eich bod chi'n glir iawn am y genhadaeth a'r cynnig a'r dull cenedlaethol, y bydd pobl yn teimlo ar unwaith eu bod wedi'u heithrio, er nad yw hynny'n fwriadol." - sefydliad pobl anabl

Casgliadau

Nod cyffredinol yr ymchwil oedd creu prototeip cydgynhyrchu ac archwilio un o argymhellion Gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, i:

Sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol, sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, gyda'r nod o: 

  • gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth am yr hawl i Fyw'n Annibynnol
  • cynyddu gwybodaeth a sgiliau ynghylch arfer da wrth gefnogi a chyflawni Byw'n Annibynnol
  • dyfeisio strategaethau i ehangu mynediad i Daliadau Uniongyrchol ac i fanteisio arnynt, gan gynnwys datblygu'r farchnad ar gyfer Cynorthwywyr Personol
  • gwneud y mwyaf o rôl Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol trwy ddarparu cymorth a mynediad at adnoddau.

Datblygodd y tîm cydgynhyrchu Weledigaeth ar gyfer NCFIL yn seiliedig ar argymhelliad y Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Roedd hyn yn nodi sut y gallai NCFIL helpu i gefnogi Byw'n Annibynnol. 

Yna defnyddiodd yr ymchwil drafodaeth gweithdy trafod i archwilio Gweledigaeth y tîm cydgynhyrchu. Cymerodd gwahanol randdeiliaid ran, gan gynnwys pobl â phrofiad bywyd o fod yn anabl.

Edrychodd y gweithdy ar y pynciau ymchwil canlynol.

  • Beth mae Byw'n Annibynnol yn ei olygu yn ymarferol?
  • Pa weithgareddau y gallai NCFIL eu gwneud i wella Byw'n Annibynnol i bobl anabl yng Nghymru?
  • Beth fyddai'r ystyriaethau ymarferol ar gyfer dylunio NCFIL?

Defnyddiodd yr ymchwil hon ddull ansoddol. Roedd nifer y cyfranogwyr yn gyfyngedig ond roedd gan bob un brofiad perthnasol a/neu arbenigedd polisi. Nid yw'n honni ei fod yn archwiliad cyflawn o'r hyn sydd ei angen i gefnogi hawl pobl anabl i Fyw'n Annibynnol. Gwnaed ymdrechion sylweddol i ganfod ac ymgysylltu â’r prif grwpiau rhanddeiliaid. Mae Byw'n Annibynnol yn cefnogi llawer o agweddau ar fywyd bob dydd, ac mae llawer o wahanol feysydd polisi a rhanddeiliaid yn gysylltiedig. Mae hyn yn golygu y gallai rhai safbwyntiau fod wedi cael eu colli.

Nod yr ymchwil hon oedd creu prototeip o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). Gweithiodd y cydgynhyrchwyr gyda'i gilydd ym mhob rhan o'r ymchwil. O gwmpasu’r prosiect, cynllunio a chasglu data i ddadansoddi, nodi themâu, a datblygu strwythur naratif a chynnwys yr adroddiad hwn. Cafodd adroddiadau eu llunio a sicrhawyd eu hansawdd gan ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac fe'u hanfonwyd i'r holl gydgynhyrchwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr. Bydd gwerthusiad ar wahân yn archwilio i ba raddau y cyflawnwyd y nodau cydgynhyrchu.

Roedd y tîm cydgynhyrchu’n cynnwys Cadeiryddion Gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl. 

Thema arwyddocaol a welwyd trwy gydol y trafodaethau oedd yr 'edefyn euraidd' o ymgorffori profiad bywyd ar bob lefel o NCFIL. 

Teimlwyd y gallai cryfhau cynrychiolaeth pobl anabl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt ac mewn swyddi arweinyddiaeth mewn perthynas â Byw'n Annibynnol wella’r gwaith o lunio polisïau a helpu i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd. Roedd ymdeimlad eang o rwystredigaeth gan randdeiliaid sydd wedi ymgysylltu â llunwyr polisi a dylunwyr gwasanaethau o'r blaen, ynghylch peidio â gwybod a yw eu mewnbwn yn cael effaith. Mae Sefydliadau Pobl Anabl yn helpu i hwyluso ymgysylltu rhwng dinasyddion a llunwyr polisi, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau'r llywodraeth. Fodd bynnag, maent yn adrodd bod ganddynt amgylchedd anodd i weithio ynddo a chyllid cyfyngedig ar gyfer costau rhedeg craidd. Awgrymwyd bod hyn yn ei gwneud hi'n anoddach iddynt wneud eu gwaith. Codwyd y ffaith bod canolfannau Byw'n Annibynnol yn gyffredinol yn gallu darparu gwasanaethau fel eiriolaeth a chymorth cyflogres. Fodd bynnag, ystyriwyd ei bod yn anodd cefnogi ymgysylltu â dinasyddion, ymgyrchu, a darpariaeth heblaw am wasanaethau heb gyllid craidd. 

Roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod cytuno ar ddiffiniad o 'Fyw'n Annibynnol' a rhannu hwn gyda rhanddeiliaid yn gam cyntaf pwysig. Yn seiliedig ar y canfyddiadau, rhaid i Fyw'n Annibynnol gynnwys mwy na gofal cymdeithasol yn unig, er bod hyn yn rhan bwysig. Ni ddylai olygu gwneud popeth drosoch chi'ch hun neu fyw ar eich pen eich hun. Dylai fod yn seiliedig ar yr hawl i fyw bywyd boddhaus ar sail gyfartal ag eraill. 

Roedd llawer o gyfranogwyr yn gweld bwlch rhwng yr hyn yr oedd angen iddo fod ar gael i gefnogi Byw'n Annibynnol a'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol. Soniodd rhai am brofiad personol o sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. Tynnodd eraill sylw at ddiffyg canllawiau i gefnogi sefydliadau i ddilyn argymhellion CCUHPA. Mae'r rhain wedi'u cynnwys yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddfwriaeth y DU) (SSWBA).

Trafododd y cyfranogwyr beth fyddai'n gwneud Byw'n Annibynnol yn llwyddiannus. Y thema fwyaf cyffredin oedd cael cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y person a gallu dewis o blith ystod o opsiynau cymorth. Mae'r canfyddiadau'n dangos bod gofal personol o ansawdd da yn gwella meysydd eraill o fywyd, fel gwaith a pherthnasoedd personol. Rhannodd llawer o gyfranogwyr enghreifftiau o ble roedd opsiynau gofal personol yn annigonol. Roedd y rhain yn cynnwys: opsiynau yn gyfyngedig, heb eu cynnig, ar gael ond heb eu cyfleu, neu ddim yn briodol. Enghraifft o ddewis cyfyngedig oedd y trefniadau 'porthgadw' canfyddedig sy'n atal mynediad at Daliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal personol. Mae hyn yn mynd yn groes i egwyddor ‘Llais a Rheolaeth’ Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) o 'roi’r unigolyn a’i anghenion wrth wraidd eu gofal'.

Mae canfyddiadau o’r gweithdy hefyd yn dangos bod cymorth yn cael ei ystyried yn 'dameidiog'. Mae cydweithio aneffeithiol rhwng gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau gofal iechyd ac amrywiadau o ran ymagwedd awdurdodau lleol wedi arwain at anghydraddoldeb o ran mynediad at wasanaethau.

Roedd y cyfranogwyr yn gyffredinol yn cytuno bod gweithgareddau yn y Weledigaeth arfaethedig ar gyfer NCFIL yn cyd-fynd â'u disgwyliadau.

Mae canfyddiadau trafodaethau grwpiau trafod yn dangos mai un nodwedd bwysig NCFIL fyddai ei bod yn cael ei harwain gan bobl anabl, gyda phobl anabl yn cael eu cynrychioli ar bob lefel o fewn y sefydliad. Manteision hyn yw:

  • dangos arfer gorau o ran gweithio hygyrch
  • mynd i'r afael â chamsyniadau'r cyhoedd am rwystrau i ddarparu addasiadau yn y gweithle
  • rhoi pobl anabl mewn swyddi arweinyddiaeth dylanwadol
  • cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl
  • cefnogi datblygiad proffesiynol

Nodwyd hefyd bod angen ymestyn cynrychiolaeth profiad bywyd ar baneli a mathau eraill o ymgysylltu â phobl anabl megis trwy rolau gwirfoddoli. Gallai hyn osgoi beichiau gwaith trwm ar rai unigolion. Dylid rhoi cydnabyddiaeth ariannol deg (taliad) am yr ymgysylltiad hwn. Hefyd, dylai hyfforddiant fod ar gael i annog dinasyddion i weithredu fel cynrychiolwyr. Gallai hyfforddi anelu at wella hyder, sgiliau siarad cyhoeddus, ac arfogi dinasyddion i deimlo eu bod yn gallu cynrychioli eu hunain gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Dylai hyn arwain at weld gwell amrywiaeth o leisiau mewn sgyrsiau cenedlaethol. 

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod angen 'llais cryf' i gymryd trosolwg cenedlaethol o Fyw'n Annibynnol. Teimlwyd y byddai hyn yn arwain at newid trawsbynciol ac yn mynd i'r afael â’r natur dameidiog a welir o fewn strwythurau mewn cymdeithas a gwasanaethau ymarferol. Gallai gwaith cyfathrebu i ddiffinio a hyrwyddo Byw'n Annibynnol gefnogi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac amlinellu’r arfer gorau ar gyfer cyflenwi. Gallai adeiladu rhwydweithiau ac arweinyddiaeth arfer gorau ganolbwyntio ar amrywiadau rhanbarthol, seilwaith a materion cydweithredu. Gallai NCFIL gynhyrchu tystiolaeth a data a allai gefnogi monitro Byw'n Annibynnol yng Nghymru, effaith polisïau a nodi rhwystrau. Gallai hefyd ddarparu gwasanaethau sy'n darparu hyfforddiant i unigolion a sefydliadau pobl anabl, yn ogystal â sefydlu Canolfan Astudiaethau Anabledd o bosibl. 

Nodwyd bod cefnogi rhanddeiliaid presennol yn weithgaredd pwysig. Gallai hyn olygu cefnogi ac o bosibl dod â rhanddeiliaid sydd eisoes yn darparu gwasanaethau at ei gilydd, i ategu a chyd-fynd â'r hyn sy'n gweithio'n dda. Mae’r rhanddeiliaid yn cynnwys canolfannau byw’n annibynnol, sefydliadau pobl anabl ac Anabledd Cymru, a swyddogion Awdurdodau Lleol sy'n gweithio i gefnogi hygyrchedd. Mae darparu cyswllt rhwng grwpiau lleol a llawr gwlad a phrosesau gwneud penderfyniadau yn genedlaethol yn bwysig. Gallai fod yn ffordd o gefnogi llais cryf, unedig ar bolisi. Gwelwyd bod sefydliadau pobl anabl yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol i ddinasyddion a’u bod mewn sefyllfa dda i ddeall materion ar lawr gwlad. Roedd cyfranogwyr yn teimlo y dylid darparu cefnogaeth i wella gwytnwch sefydliadau pobl anabl. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant, cymorth gwasanaethau proffesiynol, a rhwydweithiau cymheiriaid. Byddai rhannu arfer gorau yn arbennig o werthfawr i sefydliadau llai. Gallai hyn gynnwys canllawiau ar weithio gyda gwirfoddolwyr, gweithio hygyrch, a chyfleu beth mae Byw'n Annibynnol yn ei olygu yn ymarferol. Awgrymodd y cyfranogwyr y gallai rhwydweithiau rhanbarthol sefydledig fel Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth sydd newydd gael ei sefydlu rannu arfer gorau.

Gallai gweithgareddau cynhyrchu refeniw fynd i'r afael â bylchau yn y farchnad. Gallai'r rhain gynnwys hyfforddiant i sefydliadau ac unigolion, fel archwiliadau hygyrchedd. Cafwyd trafodaethau ehangach yn y gweithdy ynghylch modelau sefydliadol mentrau cymdeithasol. Mae'r rhain yn cael eu harchwilio yn adran olaf y bennod hon. 

Roedd cefnogaeth gref i ddylunio NCFIL i gynrychioli profiad bywyd, hygyrchedd i bawb, ac ategu gweithgarwch rhanddeiliaid presennol. Trafodwyd dulliau o ymdrin ag agweddau eraill fel cynaliadwyedd cyllid, gosod strategaethau, a model cyflawni, a rhannwyd ystod o safbwyntiau ar sut i wneud hyn orau. 

Mae’r canfyddiadau'n awgrymu bod yn rhaid i brofiad bywyd fod wrth wraidd gwneud penderfyniadau. Mae hyn ar bob lefel o sefydliad NCFIL, gan gynnwys arweinyddiaeth a thrwy gynnwys lleisiau dinasyddion gan ddefnyddio cydgynhyrchu. Dylid cefnogi hyn trwy: 

  • greu amgylcheddau gwaith hygyrch
  • sicrhau tâl teg i weithwyr
  • sicrhau cydnabyddiaeth deg i wirfoddolwyr
  • cael digon o rolau â thâl
  • lleoli Canolfan mewn man lle y gall hyrwyddo ymgysylltu ehangach effeithiol, yn enwedig gyda sefydliadau ar lawr gwlad

Fel y dywedwyd yng Nghanfyddiadau Adran 2, dylai NCFIL allu rhoi llais unedig ar faterion trawsbynciol sy'n effeithio ar Fyw'n Annibynnol yn genedlaethol. Roedd llawer o'r farn y byddai cael NCFIL yn y trydydd sector neu wedi'i chyflwyno trwy rwydwaith o sefydliadau pobl anabl yn cefnogi'r nod o gael pobl anabl mewn arweinyddiaeth ac ar bob lefel.

Credwyd bod gweithio gyda sefydliadau rhanddeiliaid sydd eisoes yn cefnogi Byw'n Annibynnol, a’ hategu, yn hanfodol. Byddai hyn yn sicrhau nad yw NCFIL yn gwthio o’r neilltu nac yn dyblygu gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud, yn enwedig gan Anabledd Cymru a chanolfannau byw’n annibynnol lleol. Gellid contractio sefydliad presennol i sefydlu NCFIL. Awgrymodd eraill y gallai creu swyddi mynediad ac eiriolaeth mewn awdurdodau lleol gefnogi rhai o'r gweithgareddau a nodwyd.

Mae mynediad i randdeiliaid yn brif ystyriaeth arall. Mae hyn yn bwysig ar gyfer cyflwyno gweithgareddau NCFIL ac mewn termau daearyddol. Dylai rhanddeiliaid allu cymryd rhan mewn ffordd sy'n hygyrch iddynt. Dywedodd cyfranogwyr y byddai cael ffyrdd digidol ac wyneb yn wyneb o ymgysylltu yn cefnogi hygyrchedd i ystod eang o sefydliadau a dinasyddion. 

Gallai fod risgiau ynghylch cael NCFIL mewn un lle neu brif le ffisegol. Roedd rhai yn teimlo y gallai ei chael yn Ne-ddwyrain Cymru wneud anghydraddoldebau rhanbarthol yn waeth a dieithrio rhanddeiliaid mewn rhanbarthau eraill. Roedd gan rai bryderon y byddai’r adeilad yn dod yn ffocws ar draul gweithgareddau NCFIL. Byddai cynnal presenoldeb wyneb yn wyneb ledled Cymru yn hanfodol. Rhaid ystyried amrywiadau rhanbarthol o ran anghenion mynediad a chymorth. Roedd y syniadau i gefnogi hyn yn cynnwys adeiladu rhwydweithiau o sefydliadau trydydd sector lleol, gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a chysylltu'r gwaith â nifer o brifysgolion ledled y wlad.

Nid oedd y cyfranogwyr yn cytuno ar ddull ariannu a ffefrir. Roedd yr ystyriaethau pwysig yn cynnwys cynaliadwyedd a gwaith teg i weithwyr a gwirfoddolwyr. Dywedwyd bod dibynnu ar wirfoddolwyr a'r trydydd sector i gyflawni'r gwaith hwn yn annerbyniol. Cefnogwyd cyllid ar gyfer gweithgareddau craidd gan lawer o gyfranogwyr. Roedd eraill yn teimlo y byddai datblygu incwm annibynnol trwy weithgareddau sy'n cynhyrchu refeniw, neu fodel menter gymdeithasol, yn fwy cynaliadwy i NCFIL. Dywedodd cyfranogwyr y byddai ei chael mewn sefydliad academaidd yn rhoi mwy o fynediad iddi at gyllid ac adnoddau ar gyfer cyflawni'r gweithgareddau arfaethedig.

Byddai’r man lle mae NCFIL wedi'i lleoli yn hanfodol i'w llwyddiant. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo y byddai angen i NCFIL gael rheolaeth dros ei chyfeiriad strategol ei hun. Byddai'n gallu cael golwg ddiduedd ar weithgareddau sefydliadau rhanddeiliaid eraill sy'n gweithio tuag at Fyw'n Annibynnol. Teimlwyd y byddai hyn yn anodd ei gyflawni pe bai'n cael ei lleoli o fewn y llywodraeth. Roedd cefnogaeth i gorff hyd braich posibl gyda mandad clir. Gallai'r cyfeiriad strategol ddod o weithio gyda sefydliadau ar lawr gwlad i ddeall beth maen nhw'n teimlo y dylid ei flaenoriaethu. Gallai NCFIL ystyried y blaenoriaethau hyn yng nghyd-destun yr agenda genedlaethol.

Atodiadau

Atodiad A: ‘Gweledigaeth’ y tîm cydgynhyrchu ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol, a ddatblygwyd o argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl

Argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl oedd sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru, sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, gyda'r nod o gwmpasu: ymwybyddiaeth o'r hawl i Fyw'n Annibynnol, mynediad at Daliadau Uniongyrchol, arfer da ar gyfer Byw'n Annibynnol, a chefnogi cyflenwi lleol. 

Datblygodd y tîm cydgynhyrchu Weledigaeth yn seiliedig ar argymhelliad y gweithgor:

  1. Yn hytrach na darparu cymorth uniongyrchol i ddinasyddion, roedd y Weledigaeth yn dychmygu sefydliad a fyddai’n anelu at gefnogi a gweithio gyda sefydliadau sydd â rôl i'w chwarae o ran galluogi Byw'n Annibynnol.
     
  2. Nododd y tîm cydgynhyrchu elfennau craidd Byw Annibynnol 'da': 
     
    1. Eiriolaeth a chymorth uniongyrchol
    2. Cymorth personol a gofal cymdeithasol
    3. Gofal iechyd
    4. Trafnidiaeth
    5. Cyfranogiad yn y gymuned
    6. Addysg a sgiliau
    7. Hamdden
       
  3. Nododd y tîm cydgynhyrchu yr hyn fyddai’n ‘galluogi’ Byw’n Annibynnol. Mae'r galluogwyr yn fathau o sefydliadau a gweithgareddau sydd, pan fyddant yn gweithio'n dda ac yn gweithio gyda'i gilydd, yn cefnogi Byw Annibynnol da:
     
    1. Y trydydd sector, Sefydliadau Pobl Anabl a Chanolfannau Byw'n Annibynnol rhanbarthol
    2. Ymgysylltu â dinasyddion anabl a chydgynhyrchu
    3. Tystiolaeth a data
    4. Ymgyrchu ac ymwybyddiaeth y cyhoedd
    5. Llunio polisïau
    6. Darparu gwasanaethau
    7. Rheoleiddio a monitro
       
  4. Cynigiodd y tîm cydgynhyrchu y gweithgareddau canlynol y gallai NCFIL eu gwneud i gefnogi Byw'n Annibynnol:
     
    1. Datblygu polisi: eirioli dros gyfranogiad pobl anabl yn y gwaith o lunio polisïau yng Nghymru i gefnogi Byw'n Annibynnol
    2. Cynhyrchu tystiolaeth a data: ar Fyw'n Annibynnol a lledaenu’r canfyddiadau i lywio polisi
    3. Ymwybyddiaeth y cyhoedd: ymgyrchu, gweithgareddau addysgol i newid agweddau cymdeithas
    4. Meithrin Capasiti a Rhwydweithiau: cefnogi Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol a sefydliadau eraill sy'n cefnogi pobl anabl
    5. Arweinyddiaeth arfer gorau: datblygu arweiniad ac arfer gorau, cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio i gefnogi sefydliadau
    6. Y potensial ar gyfer gweithgareddau cynhyrchu refeniw: gan gynnwys gwasanaethau ymgynghori, hyfforddiant a datblygu cynnyrch
    7. Gwerthuso i fonitro gweithgareddau'r Ganolfan yn erbyn meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt
       
  5. Awgrymodd y tîm cydgynhyrchu'r egwyddorion sylfaenol canlynol ar gyfer dylunio NCFIL. Roedd y tîm yn meddwl y dylai:
     
    1. gael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl
    2. defnyddio strwythur sefydliadol arloesol ac arweinyddiaeth addasadwy
    3. bod yn gynaliadwy
    4. cydnabod y Model Cymdeithasol o Anabledd ac alinio â CCUHPA
    5. defnyddio cydgynhyrchu a phaneli arbenigol gyda phobl anabl yn weithredol ar bob lefel
    6. dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i annog cefnogaeth a chydweithrediad gan gymheiriaid
    7. gwella a chefnogi cymunedau a sefydliadau lleol
    8. galluogi monitro a gwerthuso cadarn
       
  6. Nododd y tîm cydgynhyrchu y cwestiynau ymarferol canlynol i’w hystyried ar gyfer dylunio NCFIL:
     
    1. A allai fod â phresenoldeb ffisegol?
    2. A allai weithredu'n rhithwir?
    3. A allai sefydliad trydydd sector ei darparu?
    4. A allai fod wedi'i lleoli o fewn y llywodraeth?
    5. A allai gael ei darparu gan neu mewn partneriaeth â sefydliad academaidd?
    6. A allai ddefnyddio model partneriaeth, consortiwm, neu rwydwaith

Atodiad B: awgrymiadau trafod i grwpiau trafod y gweithdy

Awgrymiadau i hwyluswyr Trafodaeth Grŵp 1: Sut olwg sydd ar ragoriaeth mewn perthynas â Byw'n Annibynnol?

  1. Beth yw’r enghraifft orau o fyw'n annibynnol y gallwch chi feddwl amdani neu ei dychmygu?
  2. Beth wnaeth y profiad hwnnw'n dda?
  3. Hwyluswyr: rhowch adborth ar y 3 nodwedd uchaf a oedd yn gyffredin i'r profiadau a rannwyd yn eich grwpiau

Awgrymiadau i hwyluswyr Trafodaeth Grŵp 2: Beth allai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru ei wneud i gefnogi’r gwaith o oresgyn y bwlch gweithredu?

  1. Ydych chi'n meddwl y gallai'r gweithgareddau hyn helpu i gau'r bwlch gweithredu? Beth arall y gellid ei wneud?
  2. Pwy sydd eisoes yn cyflawni hyn? (a oes angen cefnogaeth arnyn nhw, sut gallwn ni adeiladu ar hyn?)
  3. Beth yw'r pethau bach sydd angen eu newid / nodau hawdd eu cyflawni, a beth yw'r newidiadau tymor hwy? (hwyluswyr i adrodd yn ôl ar y 3 uchaf o bob un)

Awgrymiadau i hwyluswyr Trafodaeth Grŵp 3: Beth sydd ei angen er mwyn i Ganolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru fod yn llwyddiannus?

  1. Sut y gallai pob un o'r 3 model gwahanol weithio i sicrhau diddordeb parhaus yr holl grwpiau rhanddeiliaid (a chysylltu'r lleol â'r cenedlaethol)? A oes model amgen, gwell?
  2. A ddylai’r ganolfan fod â phresenoldeb ffisegol neu fod yn rhithwir yn unig?
  3. Beth yw'r rolau ar gyfer gwahanol randdeiliaid?
  4. A oes unrhyw rwystrau posibl?

Atodiad C: sefydliadau a gynrychiolwyd yn y gweithdy trafod

Atodiad D: agenda a chanllawiau’r gweithdy trafod Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol

Briff

Fel un o ganlyniadau’r Gweithgor ar Fyw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol, mae’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi argymell sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru, sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl.

Nod y gweithdy yw trafod yr argymhelliad hwn ymhellach ac archwilio'r ystyriaethau ymarferol ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru.

Bydd y gweithdy yn seiliedig ar drafodaeth a bydd yn annog trafodaethau cyfranogol, fel grŵp ac o fewn sesiynau grŵp llai.

Bydd hwyluswyr o'r grŵp cydgynhyrchwyr, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr sefydliadau eraill, yn cydlynu'r sesiynau ac yn sicrhau bod yr holl safbwyntiau yn cael eu casglu.

Agenda

AmserDigwyddiad
10:00amCroeso gan y Cadeiryddion a'r Hwyluswyr
10:15amCyflwyniad i'r cefndir ymchwil a pholisi gan y Cadeiryddion a phennaeth y Tasglu Hawliau Pobl Anabl
10:35amCyflwyniad i Fyw'n Annibynnol 
11:10amEgwyl (10 munud)
11:20amTrafodaeth 1: Beth allai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol fod: mabwysiadu agwedd genedlaethol at Fyw'n Annibynnol yng Nghymru
11:30amGrwpiau trafod i drafod sut olwg sydd ar ragoriaeth ar gyfer Byw'n Annibynnol, a beth yw nodweddion cyffredin profiadau da
12:10pmAmser cinio (1 awr)
13:10pmTrafodaeth 2: Beth allai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru ei wneud i gefnogi’r gwaith o oresgyn y bwlch gweithredu?
13:15pmGrwpiau trafod i drafod beth allai Canolfan Genedlaethol ei wneud a sut y gallai gwahanol weithgareddau helpu
13:55pmEgwyl (10 munud)
14:05pmTrafodaeth 3: Beth sydd ei angen er mwyn i Ganolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru fod yn llwyddiannus?
14:10pmGrwpiau trafod i drafod sut y gallai gwahanol fodelau weithio i gyflawni nodau Canolfan Genedlaethol
14:50pmDiolchiadau a sylwadau i gloi gan y Cadeiryddion a Phennaeth Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd Llywodraeth Cymru

Canllawiau’r gweithdy

Cyfarwyddiadau ymuno

Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal yn rhithwir gan ddefnyddio Zoom, y gallwch gael mynediad iddo trwy'r ddolen ganlynol:

  • Dolen i ymuno â’r cyfarfod Zoom

Nid oes angen i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i gyfrif i ymuno â'r cyfarfod fel cyfranogwr. Gellir gweld rhagor o wybodaeth gan ddefnyddio'r dolenni canlynol:

  1. Canllawiau Zoom - Dechrau arni i ddefnyddwyr newydd
  2. Canllawiau Zoom - Ymuno â chyfarfod Zoom heb gyfrif

Pan fyddwch chi'n ymuno â'r cyfarfod, nodwch enw i’w ddangos Rydym yn argymell defnyddio'ch enw cyntaf yn unig, neu enw eich sefydliad, at ddibenion diogelu data.

Hygyrchedd

Mae trefniadau wedi'u gwneud i ddarparu ar gyfer yr holl addasiadau hygyrchedd y gofynnir amdanynt ar hyn o bryd gan gyfranogwyr y gweithdy. Bydd hyn yn cynnwys palanteipydd i gynhyrchu trawsgrifiad amser real o'r sgwrs trwy we-ddolen a rennir ar ddechrau'r gweithdy.

Os oes gennych ofyniad nad ydym yn ymwybodol ohono eto, neu os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'r gweithdy, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir ar ddiwedd y ddogfen.

Cofnodi a chasglu data

Bydd pob grŵp trafod yn cael ei gefnogi gan hwylusydd a fydd yn cymryd nodiadau o'r drafodaeth ac yn bwydo'n ôl i'r grŵp llawn, yn ôl yr angen.

Rydym yn bwriadu cadw'r trawsgrifiad o'r gweithdy a'r grwpiau trafod am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r sesiwn ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio fel hyn.

Os bydd sesiynau'n cael eu recordio fel hyn, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau.

Gweler yr hysbysiad preifatrwydd sydd ynghlwm wrth yr e-bost gwahoddiad am fanylion llawn am sut rydym yn trin eich data.

Yn ogystal â chyfrannu ar lafar, gall cynrychiolwyr gymryd rhan yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r swyddogaeth sgwrsio trwy gydol y sesiwn. Bydd sylwadau yn y bar sgwrsio yn cael eu monitro gan hwyluswyr a'u codi ar ran y cyfranogwr.

Fel arall, gallwch rannu meddyliau pellach ar ôl y gweithdy gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a ddarperir isod.

Cysylltu â ni

Ar gyfer unrhyw gwestiynau neu geisiadau, cysylltwch â [ni] trwy:

  1. [e-bost] neu
  2. [dros y ffôn]

Atodiad E: Y Ganolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol: gwybodaeth gefndir a darllen pellach ar gyfer y gweithdy trafod

Nod y gweithdy trafod

Archwilio un o argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl gyda rhanddeiliaid. Argymhellodd aelodau Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ar Fyw’n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol y dylid sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru, i'w rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, gyda’r nod o:

  • gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth am yr hawl i Fyw'n Annibynnol
  • cynyddu gwybodaeth a sgiliau ynghylch arfer da wrth gefnogi a chyflawni Byw'n Annibynnol
  • dyfeisio strategaethau i ehangu mynediad i Daliadau Uniongyrchol ac i fanteisio arnynt, gan gynnwys datblygu'r farchnad ar gyfer Cynorthwywyr Personol
  • gwneud y mwyaf o rôl Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol trwy ddarparu cymorth a mynediad at adnoddau

Bydd allbynnau’r gweithdy yn cael eu defnyddio i gynhyrchu:

  • gweledigaeth ar gyfer dull cenedlaethol o ymdrin â Byw'n Annibynnol yng Nghymru, gan weithio gyda rhanddeiliaid presennol a dod â nhw at ei gilydd
  • dealltwriaeth o'r ystyriaethau ymarferol ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl i archwilio gweithgareddau, perthnasoedd a strwythurau sefydliadol allweddol a fyddai'n ei chefnogi orau i gyflawni ei nodau

Gwybodaeth gefndir

Y Tasglu Hawliau Pobl Anabl (DRTF)

Mae Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru (ERDEU) yn gweithio gyda chydgynhyrchwyr i archwilio dau o argymhellion Gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl

Sefydlwyd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl gan Lywodraeth Cymru i ymateb i'r adroddiad Drws ar Glo, a daflodd oleuni ar yr anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu profi yn eu bywydau bob dydd ac a waethygodd yn ystod pandemig COVID-19. Mae deg gweithgor, dan gadeiryddiaeth pobl anabl, bellach wedi dod i ben ac wedi cyflwyno eu hargymhellion i Ysgrifenyddion Cabinet Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn sydd ei angen i gyflawni gwelliannau i blant ac oedolion anabl yng Nghymru

Mae ymchwil ar y gweill i archwilio ymhellach ddau o'r argymhellion mwyaf uchelgeisiol. Mae ymchwil desg a phrofiad bywyd a rannwyd yn y Gweithgor Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn tynnu sylw at dystiolaeth o rwystrau parhaus i Fyw'n Annibynnol, yn aml gyda mynediad gwael at ofal cymdeithasol yn sail iddynt, yn ogystal â chyfyngiadau ar fynediad at wasanaethau y gall eraill eu cymryd yn ganiataol fel tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth.

Mae'r grŵp ymchwil yn cynnwys cydgynhyrchwyr sy'n cynrychioli Sefydliadau Pobl Anabl a'r rhai sydd â phrofiad bywyd. Mae'r ffordd hon o weithio yn sicrhau bod gan bobl anabl rolau blaenllaw wrth gyfarwyddo'r ymchwil ac mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn cael ei gymhwyso trwy'r amser. Am ragor o wybodaeth gweler crynodeb Anabledd Cymru Y Model Cymdeithasol - Anabledd Cymru, ac animeiddiad Llywodraeth Cymru Animeiddiad ymgyrch Dewch i Drafod Parch Llywodraeth Cymru: Beth am Godi’r To – Model Cymdeithasol o Anabledd.

Darllen pellach

Byw'n Annibynnol yng Nghymru

'Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei olygu wrth "Byw'n Annibynnol"? 

Ystyr byw'n annibynnol yw bod gan bob person anabl yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill gartref, yn y gwaith, mewn addysg ac yn y gymuned. Nid yw'n golygu gorfod byw ar eich pen eich hun na gwneud popeth  
drosoch chi eich hun. Mae'n golygu hawliau i gymorth a chefnogaeth ymarferol er mwyn cymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar yr un sail ag eraill, a'r hawl i fynegi dewis a rheolaeth dros y ffordd y caiff y cymorth a'r gefnogaeth eu darparu. Mae'n ymwneud â sicrhau y gall pobl o bob oedran ac o bob cymuned barhau i fyw'n annibynnol, mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pan fydd ei angen arnynt ac yn y ffordd briodol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) Erthygl 19. Mae gwaith cwmpasu yn mynd rhagddo o fewn Llywodraeth Cymru ar sut i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.

Data llesiant

Gofal Cymdeithasol

  • Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyhoeddi ymchwil a data gan gynnwys arolygon o'u gweithlu cofrestredig: Arolwg o'r gweithlu gofal cymdeithasol 2023 | Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • O fis Ebrill 2024 daeth y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn weithredol ac mae'n gweithio i'r datganiad gwerthoedd craidd: "Darparu cymorth arweiniol canolog i'r sector drwy ysgogi gwelliannau yn y ddarpariaeth genedlaethol o ofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn sicrhau cydweithio; a chanlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i ddefnyddwyr gwasanaethau.”

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 56/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-856-0

GSR logo