Ymchwil ynghylch y posibilrwydd o sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru - Gweithgareddau
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r opsiynau ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sut y gallai weithrdu. Roeddem am brofi sut oeddem yn cyd greu ymchwil i gefnogi pobl anabl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gweithgareddau arfaethedig
Archwiliodd y cyfranogwyr pa weithgareddau y gallai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol (NCFIL) ymgymryd â nhw i gefnogi pobl anabl yng Nghymru. Roedd y drafodaeth yn seiliedig ar weithgareddau a gynigiwyd gan y tîm cydgynhyrchu, sydd wedi'u rhestru isod. Yn gyffredinol, roedd y gweithgareddau a awgrymwyd yn cyfateb i'r hyn yr oedd cyfranogwyr wedi disgwyl y gallai NCFIL ei wneud. Daeth un grŵp trafod i gasgliad yn gyflym wrth ateb y cwestiwn ynghylch a allai'r gweithgareddau helpu i fynd i'r afael â'r bwlch gweithredu trwy sicrhau bod polisïau sy'n anelu at gefnogi pobl anabl yn gweithio'n iawn yn ymarferol gan ddweud ‘Gallant, heb os’. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar sut y gallai'r gwahanol fathau o weithgareddau weithio i gefnogi Byw'n Annibynnol. Archwiliodd cyfranogwyr hefyd ystyriaethau ymarferol fel pa adnoddau fyddai eu hangen, pwy fyddai'n rhan o'r cyflenwi a sut y gellid ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Y saith categori o weithgareddau
- Datblygu polisi: eirioli dros gyfranogiad pobl anabl yn y gwaith o lunio polisïau yng Nghymru i gefnogi Byw'n Annibynnol.
- Cynhyrchu tystiolaeth a data: ar Fyw'n Annibynnol a lledaenu canfyddiadau i lywio polisi.
- Ymwybyddiaeth y cyhoedd: ymgyrchu, gweithgareddau addysgol i newid agweddau cymdeithasol.
- Meithrin Capasiti a Rhwydweithiau: cefnogi Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol a sefydliadau eraill sy'n cefnogi pobl anabl.
- Arweinyddiaeth arfer gorau: datblygu canllawiau ac arfer gorau, cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio i gefnogi sefydliadau.
- Potensial ar gyfer gweithgareddau cynhyrchu refeniw: gan gynnwys gwasanaethau ymgynghori, hyfforddiant a datblygu cynnyrch.
- Gwerthuso i fonitro gweithgareddau'r Ganolfan yn erbyn meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt.*
*Trafodir gwerthusiad o weithgareddau NCFIL yn rhan olaf yr adran hon.
Ffigur 2: Gweithgareddau a awgrymwyd ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol a gymerwyd o Weledigaeth y tîm cydgynhyrchu
Arwain arfer gorau trwy gyflogaeth ac ymgysylltiad
Mae "Dim byd amdanom ni, hebom ni" yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y mudiad ymgyrchu dros hawliau pobl anabl. Cyfeiriodd rhai cyfranogwyr at y term hwn yn ystod y gweithdy. Mae'n disgrifio'r angen i'r rhai sydd â phrofiad bywyd gael dweud eu dweud mewn polisïau sy'n effeithio arnynt. Nodwyd bod cael pobl anabl mewn swyddi arweinyddiaeth, lle gallant fod yn rhan o benderfyniadau polisi, dylunio gwasanaethau a gwerthuso, a dylanwadu ar hynny, yn sylfaenol i Fyw'n Annibynnol sy’n llwyddiannus a’i bod yn hanfodol ystyried hyn wrth greu NCFIL.
"Mae'r rhain yn bethau y gallai [NCFIL] wir helpu gyda nhw. Casglu arfer gorau. […] Casglu profiad pobl anabl a chanolbwyntio go iawn ar brofiad bywyd, a sicrhau ei bod yn cael ei rhedeg a’i rheoli gan bobl anabl. Felly bod syniadau ac awgrymiadau polisi i gyd wedi'u gwreiddio yn y profiad priodol hwnnw." – cyfranogwr unigol
Roedd sawl cyfranogwr yn teimlo bod lleisiau pobl anabl yn cael eu tangynrychioli wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru, yn genedlaethol ac o fewn cymunedau. Archwiliodd llawer o gyfranogwyr y syniad y gallai NCFIL hwyluso ymgysylltiad ystyrlon rhwng pobl anabl a'r cyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar y gofal a'r cymorth y maent yn eu cael.
Roedd cyfranogwyr yn teimlo'n gryf y byddai NCFIL dan arweiniad pobl anabl yn dangos bod profiad bywyd yn cael ei werthfawrogi ac y byddai'n arddangos arfer gorau mewn gweithio hygyrch.
"Dylai cynrychiolaeth fod ar bob lefel, dylid ei hannog ar lefel leol, lefel ranbarthol a chenedlaethol. A dylai'r cyfle hwnnw fod ar gael, ond hefyd sgiliau a datblygiad i'r bobl hynny sy'n manteisio ar y cyfleoedd hynny' - sefydliad pobl anabl
Awgrymodd un grŵp y byddai cael pobl anabl mewn arweinyddiaeth yn wahaniaeth pwysig rhwng y ganolfan a sefydliadau eraill, a byddai'n helpu i wneud NCFIL yn effeithiol wrth gefnogi Byw'n Annibynnol. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod yna bobl anabl yn gweithio mewn llywodraeth ganolog a lleol, a sefydliadau rhanddeiliaid eraill yn ogystal â sefydliadau pobl anabl a grwpiau amhariad.
"Tybir na all pobl anabl wneud rolau arwain ond maen nhw'n gallu gwneud hynny, y broblem yw nad ydyn nhw byth yn cael y cyfle i wneud hynny. A dylent fod yn gwneud hynny pan mae'n ymwneud â'u bywydau eu hunain." - Cyfranogwr unigol
Nododd llawer o gyfranogwyr bod gwneud yn siŵr bod cyflogaeth yn gwbl hygyrch i unigolion anabl yn rhan annatod o gefnogi nodau NCFIL.
"Cynnig y cyfleoedd hynny ar gyfer cyflogaeth, ond hefyd defnyddio hynny fel ffordd o rannu arfer gorau trwy [...] ddylunio'r rolau hyn o amgylch pobl anabl a dweud, wrth gwrs y gellir gwneud hyn. Dylai pobl eraill fod yn ei wneud hefyd." – crynodeb o adborth grŵp trafod
Awgrymwyd y gallai dangos pobl anabl yn ffynnu mewn cyflogaeth hefyd helpu i fynd i'r afael â chamsyniadau ymhlith y cyhoedd am allu pobl anabl i weithio. Fe wnaeth un cyfranogwr grynhoi eu profiad eu hunain:
"Mae'n dangos i gyflogwyr eraill wedyn bod pobl anabl yn gallu gweithio ac eisiau gweithio. […] Mae yna bob amser syndod – 'o, rydych chi’n anabl, ac mae gennych chi swydd'". - sefydliad llywodraeth leol
Trafodwyd cyfleoedd i uwchsgilio unigolion a sefydliadau gan rai, ac roedd cyfranogwyr yn teimlo y gallai hyn hefyd helpu i ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys hyfforddi dinasyddion anabl i gynnal archwiliadau mynediad, a chynnig rhaglenni mentora yn y gweithle.
Trwy gydol y gweithdy, archwiliodd llawer o grwpiau rôl bwysig gwirfoddolwyr, yn enwedig o fewn sefydliadau pobl anabl a grwpiau amhariad. Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod y gall swyddi gwirfoddol mewn sefydliadau trydydd sector fod yn ffordd i ddinasyddion anabl roi eu barn, sydd wedyn yn cael ei chynrychioli'n ehangach mewn sgyrsiau ar lefel genedlaethol trwy'r sefydliad. Ystyriwyd bod gwirfoddolwyr hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaethau trwy sefydliadau'r trydydd sector, ond roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod dibynnu ar swyddi gwirfoddol yn hytrach na swyddi cyflogedig yn peri risg i gynaliadwyedd. Er mwyn sicrhau y gellir darparu gwasanaethau yn gyson, roedd y cyfranogwyr yn teimlo y byddai swyddi cyflogedig yn sylfaenol i lwyddiant NCFIL.
"Mae dibyniaeth ar wirfoddolwyr ar hyn o bryd. […] Mae cyfle yma am un cysondeb arall trwy gynnig gwaith parhaol i bobl anabl, ond hefyd y dylai pobl gael eu talu’n deg am eu llafur' – crynodeb o adborth grŵp trafod.
Cydnabuwyd hefyd bod swyddi gwirfoddol yn cyflawni rôl bwysig wrth ganiatáu i unigolion ymgysylltu, cyn belled nad oes dibyniaeth arnynt yn hytrach na gweithwyr cyflogedig.
Roedd llawer o gyfranogwyr yn rhannu pryderon ynghylch disgwyliadau cymdeithas bod pobl anabl yn darparu llafur ac arbenigedd profiad bywyd am ddim. Nododd un grŵp y gallai baich mawr gael ei roi ar gynrychiolwyr gwirfoddol unigol i weithredu fel llefarwyr ar ran pob person anabl mewn rhai achosion. Roedd y grŵp hwn yn teimlo y gallai NCFIL ddarparu arweinyddiaeth arfer gorau ar ymgysylltu â gwirfoddolwyr. Byddai hyn yn anelu at wella canlyniadau i bobl anabl, trwy annog sefydliadau i ymgysylltu â mwy o amrywiaeth o leisiau. Byddai hyn hefyd yn anelu at leihau'r baich ar unigolion. Nododd un cyfranogwr ffyrdd y gellid bod wedi gwella eu profiadau cynnar fel cynrychiolydd.
"Rwy'n cofio'n glir y tro cyntaf [...]. Eistedd yno a meddwl, beth yn y byd ydw i'n ei wneud yn yr ystafell hon a beth alla i ei gynnig, oherwydd doeddwn i'n gwybod dim byd. […] Gallwn fod wedi cael llawer o help yn y dyddiau cynnar. […] Rhywun yn dysgu i mi beth oedd angen i mi ei wybod, byddai wedi cael gwared ar lawer o'r straen hwnnw." - sefydliad pobl anabl
Awgrymwyd y gallai NCFIL ddarparu hyfforddiant a datblygiad i ddinasyddion i'w grymuso i fanteisio ar gyfleoedd i gynrychioli pobl anabl. Ystyriwyd y gallai hyn gynnwys ymgyngoriadau o ran polisi a darparu gwasanaethau, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, neu fod yn llysgenhadon cymunedol.
Awgrymwyd rhai mecanweithiau ar gyfer rhannu arfer gorau ar gefnogi a hyrwyddo Byw'n Annibynnol ac ymgorffori profiad bywyd fel swyddogaeth bosibl i NCFIL, yn seiliedig yn bennaf ar weithio gyda pherthnasoedd a rhwydweithiau presennol. Nododd un grŵp fod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn strwythur posibl ledled Cymru i gyrraedd grwpiau rhanddeiliaid.
Cyfathrebu ac ymwybyddiaeth y cyhoedd
Roedd llawer o gyfranogwyr o’r farn mai un o swyddogaethau NCFIL fyddai cyflwyno llais cryf ac unedig i sbarduno newid.
Teimlwyd y byddai sicrhau bod profiad bywyd yn cael ei gynrychioli, hefyd yn helpu i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o faterion sy'n wynebu pobl anabl. Nodwyd:
"Efallai fod potensial i [NCFIL] redeg a hyrwyddo ymgyrchoedd cyhoeddus sy'n hyrwyddo annibyniaeth. […] Cael llais cryf, unedig [...] a fyddai’n dylanwadu ac a ddylai ddylanwadu ar ddeddfwriaeth i amddiffyn a gwella hawliau pobl anabl yn well" - swyddog Llywodraeth Cymru
Fel y nodwyd yn Adran 1 Diffinio Byw'n Annibynnol, nododd llawer o gyfranogwyr fod cytuno ar yr hyn sy'n cael ei olygu gan 'Fyw'n Annibynnol' yn dasg gynnar bwysig i NCFIL, gyda gwaith cysylltiedig i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd.
"Y ffaith ein bod ym mhob disgrifiad o fyw'n annibynnol yn gorfod dweud, 'nid yw'n golygu gwneud pethau eich hun', felly rydyn ni'n gyson yn gorfod diffinio Byw'n Annibynnol yn ôl yr hyn nad ydyw yn ogystal â'r hyn ydyw." - Cyfranogwr unigol
Teimlwyd y byddai'n bosibl gwella dealltwriaeth y cyhoedd am Fyw'n Annibynnol gyda dealltwriaeth glir, gyffredin o'r hyn y byddai NCFIL yn anelu at ei gyflawni, a chyfathrebu rhagweithiol.
"Os yw'r weledigaeth yn glir a'r genhadaeth yn glir, yna mae'n dod yn llai o drafodaeth ynghylch yr hyn y mae 'annibynnol' yn ei olygu neu 'canolfan', ac yn hytrach yn ddealltwriaeth ehangach o'r genhadaeth." - sefydliad llywodraeth leol
Nododd un grŵp y gallai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fod yn llwybr lledaenu gwybodaeth posibl, mewn sefyllfa dda ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Cydnabuwyd bod Anabledd Cymru, a sefydliadau eraill, eisoes yn ymgyrchu am hawliau i bobl anabl.
Datblygu ac adolygu polisi a gwasanaethau
Roedd llawer o gyfranogwyr yn cytuno bod dod o hyd i ffordd o ddylanwadu ar bolisi'n lleol ac yn genedlaethol yn swyddogaeth bwysig i NCFIL. Cytunwyd y byddai hyn yn anelu at roi trosolwg o sut mae gwahanol feysydd polisi yn effeithio ar allu pobl anabl i fyw'n dda. Soniodd y cyfranogwyr yn neilltuol am Dai, Trafnidiaeth, Gofal Iechyd a hamdden. Nododd rhai fod angen gweithio ar lefel drawsbleidiol.
"Rwy'n credu y gallai [NCFIL] sbarduno newid polisi ar lefel leol a chenedlaethol. Byddai'n hanfodol gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod hynny o bosibl yn golygu lobïo am fwy o gyllid, ar gyfer tai, trafnidiaeth, gwasanaethau gofal iechyd hygyrch, y mathau hynny o bethau" – swyddog Llywodraeth Cymru
Awgrymodd sawl cyfranogwr y gellid cefnogi Byw'n Annibynnol yn well gyda gwell defnydd o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, wrth ddylunio gwasanaethau a pholisïau. Roedd llawer yn teimlo nad oedd ffordd o wneud iawn os nad yw asesiadau yn cael eu gwneud, ac awgrymwyd y gallai NCFIL gefnogi o ran hyrwyddo’r angen am well atebolrwydd. Awgrymodd rhai y dylai fod panel neu gorff i bobl anabl gyfeirio ato gyda phroblemau.
Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo y gallai dilyn dull cenedlaethol trwy gael NCFIL helpu i fynd i'r afael ag amrywiadau rhanbarthol mewn cefnogaeth i bobl anabl. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys yr NCFIL yn datblygu strategaeth Cymru gyfan ar gyfer Taliadau Uniongyrchol a datblygu marchnad ar gyfer Cynorthwywyr Personol. Awgrymodd un grŵp y gellid archwilio cyllid canolog i wella mynediad at wasanaethau cymorth. Awgrymodd sawl un y gallai NCFIL hyrwyddo gwell cydweithredu trwy gefnogi rhwydweithiau a darparu arweiniad.
"Dylai [NCFIL] wirioneddol gynhyrchiol ganolbwyntio ar oresgyn natur dameidiog pethau ar draws pob gwasanaeth a gofod." - sefydliad pobl anabl
Tystiolaeth a data
Trafododd llawer o gyfranogwyr yr angen i allu monitro a gwerthuso Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Dywedodd rhai cyfranogwyr nad oes digon o ddata ar anghydraddoldebau a brofir gan bobl anabl. Mae'r nifer gymharol fach o bobl anabl yng Nghymru yn golygu ei bod hi'n anoddach cael data manylach ar gyfer dadansoddi anghydraddoldebau. Roedd ychydig o gyfranogwyr yn teimlo y gallai cael gwell data monitro ar ganlyniadau i bobl anabl, megis cyfraddau cyflogaeth, a chymwysterau, fod yn ffordd o ddeall lle nad oedd polisïau i helpu pobl anabl yn gweithio'n gywir. Ystyriwyd bod hyn hefyd yn helpu gyda'r problemau canfyddedig ynghylch atebolrwydd am gefnogi Byw'n Annibynnol trwy wasanaethau sy'n anelu at gefnogi pobl anabl. Awgrymwyd hefyd bod angen data ar effeithiau gwasanaethau a pholisïau ar ddinasyddion, yn hytrach na monitro allbynnau yn unig, megis nifer y bobl sy'n cael eu cefnogi neu sy'n cael gofal. Soniwyd am asesiadau effaith fel ffyrdd defnyddiol o wirio nad yw'r hyn sy'n cael ei wneud yn wahaniaethol. Fodd bynnag, credwyd nad oeddent yn cael eu defnyddio'n eang nac yn systematig.
Awgrymodd cyfranogwyr y gallai NCFIL gyfrannu tystiolaeth at wneud penderfyniadau polisi trwy gael ymchwil sy'n cynnwys profiad bywyd. Ystyriwyd bod hyn yn gwella ansawdd y gwaith o lunio polisïau ac yn dangos y gwahaniaeth y gall profiad bywyd ei wneud. Fel y disgrifiodd un cyfranogwr, gallai NCFIL: "[G]asglu straeon a data gan ddinasyddion i dynnu sylw at faterion systemig wrth drafod polisi". – sefydliad pobl anabl
Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gellid cydweithio â'r diwydiant technoleg. Gallai hyn gefnogi datblygiad technolegau cynorthwyol newydd trwy gysylltu dinasyddion ag arbenigwyr i wneud arloesiadau trawsbynciol.
Tra bod cyfranogwyr yn archwilio rôl tystiolaeth a data, awgrymodd llawer y gallai fod gwerth mewn creu canolfan academaidd bwrpasol ar gyfer astudiaethau anabledd yng Nghymru. Roedd cefnogaeth eang ymhlith cyfranogwyr i allu "byw, astudio a gweithio yng Nghymru" – crynodeb o adborth grŵp trafod. Awgrymodd eraill y gallai canolfan Astudiaethau Anabledd helpu sefydliadau'r trydydd sector i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gynhyrchu incwm, megis darparu hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghori i eraill. Archwilir opsiynau ar gyfer lleoli NCFIL o fewn sefydliad academaidd neu fel partner i sefydliad academaidd ymhellach yn nhrydedd adran y bennod hon.
Cefnogi rhanddeiliaid
Nododd cyfranogwyr bod cydweithrediad effeithiol yn angenrheidiol er mwyn i Fyw'n Annibynnol weithio'n dda. Rhannwyd sawl rhwystr a methiant o ran cydweithio – gweler yr adran ar Rwystrau i Fyw'n Annibynnol.
Roedd llawer yn gweld prif swyddogaeth NCFIL fel ei gwneud hi'n haws i sefydliadau presennol fel sefydliadau pobl anabl barhau i ddarparu gwasanaethau. Credwyd y gellid cyflawni hyn trwy gymorth ymarferol yn ogystal â dod â phobl at ei gilydd i rannu syniadau, ac i chwyddo lleisiau pobl anabl yn genedlaethol.
"Rwy'n credu y byddwn i'n gweld canolfan genedlaethol o'r natur hon yn rhywbeth sy’n galluogi. Galluogi'r hyn sydd allan yna eisoes yn well, helpu'r sefydliadau presennol i dyfu'r hyn maen nhw'n ei wneud a chyflawni eu cynaliadwyedd eu hunain a sicrhau eu gwytnwch." - sefydliad pobl anabl
Archwiliodd rhai y syniad o NCFIL fel canolfan gydlynu ar gyfer sefydliadau lleol, gan ddarparu un pwynt cyswllt gydag arbenigedd a gwybodaeth i unigolion a sefydliadau eraill.
Trafodwyd cryfhau gwasanaethau lleol, gan gynnwys gwasanaethau trydydd sector ac awdurdodau lleol, yn eang ar draws y grwpiau trafod. Roedd llawer yn teimlo'n gryf y dylai NCFIL adeiladu ar yr hyn sy'n bodoli eisoes, gan gysylltu'r lleol â'r cenedlaethol. Ystyriwyd mai dim ond pe bai gwasanaethau lleol a chymunedol yn gweithio'n dda, i ddarparu cymorth uniongyrchol i unigolion, y byddai canolfan genedlaethol yn llwyddiannus.
Er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau a amlinellir yng Nghanfyddiadau Adran 1, awgrymodd cyfranogwyr y gallai NCFIL chwarae rôl wrth ddarparu cymorth busnes ymarferol. Gallai hyn helpu cynaliadwyedd sefydliadau pobl anabl, grwpiau amhariad a sefydliadau cymorth. Awgrymwyd nad oes gan y sefydliadau hyn yr adnoddau yn aml i gyflogi gwasanaethau proffesiynol fel Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Digidol, Cyfrifyddiaeth ac ati.
"Mae angen cymorth ar sefydliadau pobl anabl a chanolfannau lleol Byw'n Annibynnol o ran ochr fusnes pethau. Maent yn aml yn cael eu sefydlu fel sefydliadau ar lawr gwlad [...] heb ddisgwyl gorfod dod yn gyflogwyr" – crynodeb o adborth grŵp trafod.
Rhannodd un cyfranogwr brofiad o gael trafferth dod o hyd i gefnogaeth fusnes hygyrch i'w sefydliad a gallai rhwydweithiau cymheiriaid helpu.
"Nid yw peth o'r cymorth sydd allan yna, er enghraifft, gyda datblygu busnes, yn hygyrch ac nid yw'n ystyried anghenion a heriau penodol pobl anabl a sefydliadau pobl anabl." - sefydliad pobl anabl
Nododd llawer o gyfranogwyr bod rhannu gwybodaeth yn ffordd o gefnogi, yn enwedig sefydliadau llai. Gellid rhannu astudiaethau achos o brosiectau sy'n cefnogi Byw'n Annibynnol gyda sefydliadau eraill ac yn ehangach y tu allan i Gymru.
"Rydyn ni'n gweld modelau ysbrydoledig, eithriadol o Fyw'n Annibynnol. Rhan o'r broblem yw nad ydym yn rhannu'r wybodaeth honno yn ddigon eang ac nad ydym yn cefnogi pobl i edrych ar y dulliau hynny o ddatblygu modelau gwahanol iawn o Fyw'n Annibynnol." – sefydliad sector cyhoeddus
Nodwyd bod darparu hyfforddiant i fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau ac arbenigedd i sefydliadau'r trydydd sector yn ffordd arall o helpu sefydliadau i dyfu a gweithredu'n gynaliadwy.
Awgrymwyd canllawiau ar weithio gyda gwirfoddolwyr hefyd. Nodwyd, er bod llawer o sefydliadau pobl anabl llai yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gyflawni gwaith a gomisiynwyd, mae’n bosibl na fydd y cyllid prosiect sydd ar gael yn ystyried costau ychwanegol gwneud gweithle yn hygyrch.
"Craidd sefydliad pobl anabl yw ei fod yn cael ei redeg gan bobl anabl eu hunain. […] Nid oes gennym yr arian i ddod â gwirfoddolwyr i mewn, oherwydd ni allwn wneud y gweithle yn hygyrch iddyn nhw oherwydd ni allwn fforddio prynu'r offer." - sefydliad pobl anabl
Awgrymodd cyfranogwyr hefyd y gallai'r NCFIL chwarae rôl wrth oresgyn rhwystrau sy'n wynebu sefydliadau cyflenwi mewn perthynas â chontractau a phrosesau caffael y llywodraeth. Dywedwyd bod sefydliadau pobl anabl mewn sefyllfa unigryw i fwydo gwybodaeth a syniadau gan ddinasyddion â phrofiad bywyd i sefydliadau ar lefel genedlaethol. Ystyriwyd bod y swyddogaeth hon mewn perygl pe na bai sefydliadau pobl anabl yn cael eu cefnogi.
Cytunodd cyfranogwyr ar fanteision sefydlu rhwydweithiau, i gyflwyno llais unedig ar bolisi yn genedlaethol yn well. Nodwyd effeithiau llai diriaethol ar lesiant fel manteision cyngor a chymorth gan eraill mewn rolau tebyg hefyd.
"Rwy'n credu y byddai [NCFIL] o bosibl yn meithrin y partneriaethau hynny gyda sefydliadau presennol, [...] Trwy gydweithio, gyda darparwyr gofal iechyd, gofal cymdeithasol, sefydliadau addysg, rwy'n credu y gallai'r grŵp greu system wirioneddol gynhwysfawr [...] a allai fynd i'r afael â gwahanol agweddau ar Fyw'n Annibynnol." - Swyddog Llywodraeth Cymru
Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn glir eu barn y dylai unrhyw endid newydd alinio â sefydliadau presennol gan gynnwys Anabledd Cymru, a’u hategu. Wrth ystyried sut i osgoi dyblygu neu wthio sefydliadau presennol o’r neilltu, roedd llawer yn cydnabod gorgyffwrdd posibl â chylch gwaith Anabledd Cymru, yn enwedig o ran ymgyrchu. Roedd cyfranogwyr yn awyddus bod NCFIL yn canolbwyntio ar weithgareddau nad oeddent yn dyblygu unrhyw rannau o'r gwaith hwn.
Lleisiodd rhai bryderon y gallai sefydlu NCFIL fod yn risg i sefydliadau eraill:
"Ydyn ni mewn perygl o wanhau'r effaith os bydd gennym yn y pen draw Anabledd Cymru, Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sefydliadau pobl anabl. A fyddwn ni'n taenu adnoddau prin yn rhy denau" – sefydliad y trydydd sector
