Trechu tlodi tanwydd: diweddariad camau gweithredu â blaenoriaeth
Cynnydd ein cynllun i gefnogi pobl sy'n cael trafferth diwallu cost eu hanghenion ynni domestig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y Gweinidog
Ers cyhoeddi'r Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd yn 2021, rydym wedi gweld cynnydd dramatig yng nghost ynni. Mae hyn wedi cael effaith ar aelwydydd ledled Cymru, waeth beth fo'u lefelau incwm. Ond, wrth gwrs, yr aelwydydd sy'n lleiaf abl i dalu sydd wedi eu taro galetaf, a gwthiwyd mwy o deuluoedd i dlodi tanwydd.
Er bod prisiau ynni wedi gostwng o'r lefelau uchaf erioed a welwyd yn 2022/23, mae eu heffaith yn dal i gael ei deimlo'n eang. Yn erbyn y cefndir hwn rydym wedi cynnal adolygiad o'n Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd.
Mae ein hadolygiad yn adrodd ar gynnydd yn erbyn y deg cam gweithredu tymor byr yn y Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd. Yn dilyn yr adolygiad, rydym wedi gallu cau dau o'r camau gweithredu gwreiddiol a gynhwysir yn y cynllun. Rydym yn ymestyn y camau gweithredu sy'n weddill a byddwn yn adolygu cynnydd y rhain ymhen dwy flynedd. Wrth i amgylchiadau esblygu ers lansio'r cynllun, rydym wedi cyflwyno wyth cam gweithredu newydd y byddwn yn eu monitro dros y blynyddoedd nesaf.
Er mwyn cefnogi ein cynnydd, rydym yn datblygu amcangyfrifon wedi'u diweddaru o dlodi tanwydd, yr ydym yn disgwyl eu cyhoeddi yn yr hydref. Byddwn yn defnyddio'r amcangyfrifon hyn i ddatblygu targedau interim ystyrlon yn seiliedig ar raddfeydd EPC. Bydd fy swyddogion yn gofyn am fewnbwn gan y Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd cyn penderfynu ar y targedau terfynol. Byddwn yn cyhoeddi'r amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig yn yr hydref
Mae mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn parhau i fod yn ymrwymiad allweddol gan y Llywodraeth hon ac rydym yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i leihau lefelau tlodi tanwydd a chefnogi'r rhai sy'n ei brofi.
Ers cyhoeddi'r Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd yn 2021, rydym wedi lansio ein cynllun Cartrefi Cynnes newydd, Nyth. Y cynllun yw ein prif fecanwaith i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith. Bydd aelwydydd cymwys yn cael pecyn pwrpasol o fesurau i inswleiddio a datgarboneiddio eu cartrefi, gan arwain at filiau ynni is, a'u symud allan o dlodi tanwydd.
Rwy'n falch o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a chefnogi teuluoedd sy'n ei brofi. Gyda chostau ynni yn parhau i fod yn sylweddol uwch nag yr oeddent cyn yr argyfwng, mae'n bwysig ein bod yn cydweithio ar y mater pwysig hwn. Trwy ein dull cynhwysfawr o weithredu mewn partneriaeth, rydym yn gwella incwm cartrefi, yn cynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi, ac yn gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu ateb parhaol i dlodi tanwydd. Edrychaf ymlaen at weld y dull hwnnw o weithio mewn partneriaeth yn parhau wrth i ni symud ymlaen gyda cham nesaf ein Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd.
Jane Hutt AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Cyflwyniad
Cyhoeddwyd y Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd (2021 i 2035) ym mis Mawrth 2021.
Mae’r Cynllun yn gosod targedau ar gyfer trechu tlodi tanwydd, ynghyd â deg o gamau gweithredu byr y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cyflawni mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r camau gweithredu ac mae wedi diweddaru’r cynllun yn unol â hynny. Yn dilyn yr adolygiad hwn, rydym wedi cau dau o’r camau gweithredu ac ymrwymiadau gwreiddiol, rydym wedi datblygu ac ymestyn wyth o gamau gweithredu, sy’n dal i fod ar waith, ac rydym wedi ychwanegu chwech o gamau byrdymor newydd.
Rhennir y cynllun yn dair adran, sef camau gweithredu a gwblhawyd, camau gweithredu parhaus a chamau gweithredu newydd, fel y nodir isod.
Camau gweithredu a gwblhawyd
Y Rhaglen Cartrefi Clyd: cam gweithredu 2
Ymgynghori ar drefniadau diwygiedig ar gyfer cyflwyno mesurau i drechu tlodi tanwydd y tu hwnt i fis Mawrth 2023.
Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar Effeithlonrwydd Ynni Cartref, cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad a rhoi ein canfyddiadau ar waith o fis Ebrill 2023.
Nodau Polisi: Blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio.
Diweddariad
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar 14 Mehefin 2023, ynghyd â datganiad polisi a dogfen gwersi a ddysgwyd. Llwyddodd y broses ymgynghori i helpu i lywio dyluniad y polisi ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd.
Aeth Llywodraeth Cymru ati i wahodd tendrau ar gyfer cynllun ‘seiliedig ar alw’ y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd (cynllun Cartrefi Clyd Nyth) i’w roi ar waith o fis Ebrill 2024.
Sicrhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd y byddai aelwydydd yn parhau i gael cymorth trwy aeaf 2023/24 ac y byddai pontio trefnus rhwng cynlluniau trwy ymestyn y contract Nyth i ddiwedd mis Mawrth 2024.
Lansiwyd ein cynllun Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar 1 Ebrill 2024.
Gwasanaethau cyngor a chymorth effeithlonrwydd ynni domestig: cam gweithredu 3a
Gwella gwasanaethau cyngor a chymorth effeithlonrwydd ynni yn y cartref.
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio.
Diweddariad
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod aelwydydd angen cyngor da y gallant ymddiried ynddo er mwyn iddynt allu dilyn eu siwrnai datgarboneiddio ac arbed arian. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gynnig cyngor dwyieithog, diduedd, rhad ac am ddim ynglŷn ag arbedion ynni i holl ddeiliaid cartrefi Cymru.
Cafwyd canlyniad Cynllun Peilot Cyngor ar Wasanaethau Ynni ym mis Mai 2022. Er bod manteision i’r cynllun peilot hwn, y gred oedd bod angen cydbwyso’r costau a’r manteision mewn ffordd wahanol. Gwnaeth y dystiolaeth hon lywio’r cynllun Cartrefi Clyd Nyth newydd.
Mae gwefan a llinell gymorth Nyth yn cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni ac mae’n cysylltu â’n gwefan Gweithredu ar Newid Hinsawdd. Hefyd, mae’n cyfeirio pobl at wasanaethau a chynlluniau ehangach a gynigir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a allai helpu gyda chostau byw.
Lansiwyd ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth newydd ar 1 Ebrill 2024. Er mwyn cynnal hyder, mae’n bwysig i’r cyngor a roddir o dan y cynllun Cartrefi Clyd Nyth newydd fod yn annibynnol ar unrhyw busnesau gosod sy’n gweithio ar y cynllun. O ganlyniad, rydym wedi cryfhau’r annibyniaeth hon trwy wahanu’r contract gwasanaethau cyngor oddi wrth y contract cyflenwi.
Gwasanaethau cyngor a chymorth effeithlonrwydd ynni domestig: cam gweithredu 3b
Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar Wasanaethau Cyngor a Chymorth Ynni Domestig, byddwn yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad ac yn rhoi ein canfyddiadau ar waith o fis Ebrill 2023.
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio.
Diweddariad
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r ymgynghoriad ar 14 Mehefin 2023, ynghyd â datganiad polisi a dogfen gwersi a ddysgwyd. Gwnaeth yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad lywio’r polisi ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd.
Cynhaliwyd ymarfer caffael ar gyfer cyflawni iteriad nesaf y cynllun seiliedig ar alw Cartrefi Clyd, a lansiwyd y cynllun newydd ar 1 Ebrill 2024.
Camau gweithredu parhaus
Y Rhaglen Cartrefi Clyd: cam gweithredu 1
Parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni cartref a chyflawni’r gwelliannau hynny er mwyn helpu aelwydydd sy’n byw mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fyw mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd.
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio.
Diweddariad
2021 i 2022
- Cyfanswm y buddsoddiad yn Nyth – £24.5 miliwn
- Cyfanswm y cartrefi a gafodd eu gwella – 5,127
- Cyngor am ddim ar arbed ynni – 15,777 o aelwydydd
- Arbedion cyfartalog ar filiau a fodelwyd – £300 y flwyddyn
2022 i 2023
- Cyfanswm y buddsoddiad yn Nyth – £26.9 miliwn
- Cyfanswm y cartrefi a gafodd eu gwella – 4,364
- Cyngor am ddim ar arbed ynni – 21,959 o aelwydydd
- Arbedion cyfartalog ar filiau a fodelwyd – £422 y flwyddyn
2023 i 2024
- Cyfanswm y buddsoddiad yn Nyth – £39.3 miliwn
- Cyfanswm y cartrefi a gafodd eu gwella – 4,816
- Cyngor am ddim ar arbed ynni – 12,809 o aelwydydd
- Arbedion cyfartalog ar filiau a fodelwyd – £595 y flwyddyn
2024 i 2025
- Lansiwyd ein Rhaglen Cartrefi Clyd newydd, sef cynllun Nyth, ar 1 Ebrill 2024 a buddsoddwyd mwy na £30 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd manylion llawn am gyflawni’r cynllun newydd yn cael eu cyhoeddi yn adroddiad blynyddol Cynllun Cartrefi Clyd Nyth ar gyfer 2024 i 2025.
2025 i 2026
- Cafodd dyraniad Cynllun Cartrefi Clyd Nyth yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26 ei gynyddu 7%.
- Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £251 miliwn er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi trwy gyfrwng cynllun Cartrefi Clyd Nyth. Mae Nyth wedi helpu mwy nag 82,000 o aelwydydd incwm is trwy osod mesurau yn eu cartrefi. Mae mwy na 210,800 wedi cysylltu â Nyth i gael cyngor am ddim ar effeithlonrwydd ynni.
- Ceir manylion llawn am y cynllun yn ein hadroddiadau blynyddol.
- Mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth yn rhaglen saith mlynedd. Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gynorthwyo rhagor o aelwydydd trwy ddatblygu a gwella’r cynllun a’r rhaglen ehangach yn barhaus.
Gwasanaethau cyngor a chymorth effeithlonrwydd ynni domestig: cam gweithredu 4
Paratoi, cyhoeddi ac adolygu cynllun i wella cydnerthedd yn ystod y gaeaf ar gyfer pobl sy’n ei chael hi’n anodd talu am eu hanghenion tanwydd domestig ac sydd mewn perygl o gael salwch y gellir ei osgoi neu farw’n gynamserol am eu bod yn byw mewn cartref oer.
Nodau Polisi: Pennu, blaenoriaethu ac amddiffyn, datgarboneiddio.
Diweddariad
Cyhoeddwyd y Cynllun Ymdopi â Thywydd Oer ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd – Rhagfyr 2021.
Rhoddwyd traciwr gweithredu ar waith i fonitro cynnydd. Caiff y traciwr hwn ei rannu â’r Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd, sydd â rôl o ran monitro cynnydd a dal Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Byddwn yn gweithio gyda’r Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd i adolygu’r Cynllun Ymdopi â Thywydd Oer cyn y gaeaf nesaf.
Monitro, gwerthuso ac adrodd: cam gweithredu 5
Dylai’r bwrdd cynghori gweinyddol ar dlodi tanwydd fonitro ac adolygu hynt y camau a gymerir i drechu tlodi tanwydd yng Nghymru (CCERA Argymhelliad 4).
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu.
Diweddariad
Cynhaliodd y Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd ei gyfarfod cyntaf ym mis Mehefin 2021 ac mae wedi parhau i gyfarfod bob chwarter.
Monitro, gwerthuso ac adrodd: cam gweithredu 6
Paratoi a chyhoeddi data ar ynni domestig yng Nghymru yn flynyddol er mwyn ein helpu ni a’n partneriaid i ganolbwyntio ar y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o fyw mewn tlodi tanwydd (CCERA – Argymhelliad 8).
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu.
Diweddariad
Cyhoeddwyd y dangosfwrdd rhyngweithiol Tlodi Tanwydd ym mis Mehefin 2023.
Bydd yn cael ei ddiweddaru pan ddaw data addas i law.
Hefyd, cyhoeddwyd dangosfwrdd yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni’r cartref: Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer cartrefi yng Nghymru.
Bydd hwn yn cael ei ddiweddaru fel y bo’n briodol.
Monitro, gwerthuso ac adrodd: cam gweithredu 7
Cyhoeddi adolygiad eilflwydd o berfformiad tuag at gyflawni ein hamcanion ar gyfer 2035, a fydd yn cynnwys cyhoeddi amcangyfrifon o dlodi tanwydd ar gyfer Cymru (CCERA – Argymhelliad 4).
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu.
Diweddariad
Cyhoeddwyd yr erthygl ystadegol, ‘Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu ar gyfer Cymru: ym mis Hydref 2021’, ar 2 Tachwedd 2022.
Roedd y ffigurau a ryddhawyd yn y cyhoeddiad hwnnw yn cynnig dadansoddiad manylach o’r erthygl ystadegol a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022, lle cyflwynwyd amcangyfrifon lefel uchel wedi’u modelu yn ymwneud â thlodi tanwydd fel yr oedd y sefyllfa ym mis Hydref 2021.
Mae’r ffigurau hyn yn amcangyfrif tlodi tanwydd ar gyfer Hydref 2021, pan oedd y cap ar brisiau yn £1,277.
Er nad yw’r adroddiad hwn yn ystyried y cynnydd dilynol yn y cap ar brisiau ynni a welwyd yn ystod 2022, mae’n ein helpu i ddeall rhagor am y bobl a oedd eisoes mewn tlodi tanwydd cyn i’r cynnydd ddod i rym, a bydd yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn canolbwyntio’r cymorth ar yr aelwydydd a’r anheddau sy’n dioddef waethaf.
Rydym wrthi’n datblygu amcangyfrifon wedi’u diweddaru ar gyfer tlodi tanwydd yn ymwneud â mis Hydref 2024. Bydd yr amcangyfrifon hyn yn cael eu pennu trwy ddefnyddio’r tair elfen sy’n ysgogi tlodi tanwydd, sef: effeithlonrwydd ynni’r cartref, incwm yr aelwyd a chostau tanwydd yr aelwyd. Bydd y dangosyddion yn amcangyfrif nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd, y rhai sydd mewn tlodi tanwydd difrifol a’r rhai sydd mewn perygl o ddioddef tlodi tanwydd. Byddwn yn cynhyrchu’r amcangyfrifon ar lefel awdurdodau lleol pan fo modd.
Rhagwelwn y bydd yr amcangyfrifon tlodi tanwydd diweddaraf yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.
Gweithio gyda’n partneriaid: cam gweithredu 8
Annog Llywodraeth y DU, y Rheoleiddiwr Ynni a chyflenwyr ynni i sicrhau bod llai o orddibyniaeth ar osod mesuryddion rhagdalu fel dull o adennill ôl-ddyledion sy’n arwain at hunan-ddogni a hunan-ddatgysylltu.
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu ac amddiffyn, dylanwadu.
Diweddariad
Ym mis Tachwedd 2022, ysgrifennodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ar y pryd at Brif Weithredwyr cyflenwyr ynni i fynegi pryderon ynghylch y ffaith y gallai aelwydydd gael eu cymell i osod mesuryddion rhagdalu, gan fod mwy o aelwydydd yn cael anawsterau i dalu eu biliau ynni. Yn ei llythyr, gofynnodd am roi diwedd ar yr arfer o symud aelwydydd ag ôl-ddyledion i fesuryddion rhagdalu.
Bu’r Gweinidog yn cadeirio nifer o gyfarfodydd gyda chyflenwyr ynni, cyfarfu ag uwch-swyddogion Ofgem ac ysgrifennodd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net ar y pryd i fynegi pryderon bod y system rhagdalu yn methu â diwallu anghenion y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.
Mae’r gwaharddiad dros dro ar osod mesuryddion rhagdalu’n anwirfoddol, a gyflwynwyd yn 2023, ynghyd â Chod Ymarfer newydd Ofgem sy’n gosod meini prawf llym o ran pryd y caniateir gosod mesuryddion, wedi lleihau’r orddibyniaeth ar osod mesuryddion rhagdalu fel dull o adennill ôl-ddyledion.
Ym mis Medi 2023, cadarnhaodd Ofgem y byddai’r Cod Ymarfer ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu’n anwirfoddol yn cael ei ymgorffori mewn Amodau Trwyddedau Cyflenwi, ac ar 8 Tachwedd 2023 daeth yn rhan o’r Amodau Trwyddedau Cyflenwi hynny.
Ers 1 Hydref 2023, mae aelwydydd â mesuryddion rhagdalu wedi bod yn talu taliadau sefydlog is nag aelwydydd sydd ar ddulliau talu eraill – dyma gam cyntaf i’w groesawu.
Rydym yn croesawu ymgynghoriad Ofgem ar wella safonau dyledion yn y farchnad fanwerthu ddomestig. Trwy wella safonau dyledion ar gyfer defnyddwyr ynni, ynghyd â gwella’r llwybr dyledion, dylid lleihau’r angen i gyflenwyr ddefnyddio mesuryddion rhagdalu fel dull o adennill ôl-ddyledion.
Gweithio gyda’n partneriaid: cam gweithredu 9
Cefnogi’r broses o roi fframwaith mesuryddion deallus ar waith erbyn 2024 (CCERA – Argymhelliad 15).
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu.
Diweddariad
Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gyflwyno mesuryddion deallus.
Mae mesuryddion deallus yn adnodd pwysig a all helpu pobl i arbed arian a gweithredu ar newid hinsawdd.
Mae gwefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru yn cynnwys gwybodaeth am y camau y gall deiliaid cartrefi eu cymryd i arbed arian a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’n cynnwys tudalen bwrpasol lle ceir ffeithiau hanfodol ynglŷn â mesuryddion deallus.
Mewn cyfarfodydd gyda chyflenwyr ynni, gofynnodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ar y pryd i’r cyflenwyr osod mesuryddion rhagdalu deallus yn lle mesuryddion rhagdalu traddodiadol. Wedyn, byddai modd i’r cyflenwyr fynd ati’n well i fonitro defnydd ynni deiliaid cartrefi a lleihau’r nifer a oedd yn hunan-ddatgysylltu gan na allent fforddio rhoi arian yn eu mesurydd.
Ar 1 Mai 2024, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol at Ofgem er mwyn nodi ei blaenoriaethau a thynnu sylw at ei diddordeb mewn sicrhau bod y rheolau’n cael eu gweithredu’n effeithiol a bod defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn yn briodol.
Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa a gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid allweddol eraill, fel y bo’n briodol.
Gweithio gyda’n partneriaid: cam gweithredu 10
Cefnogi’r broses o ddatblygu a gweithredu cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni a mentrau eraill Llywodraeth y DU mewn perthynas â Chymru (CCERA – Argymhelliad 14).
Nodau Polisi: Dylanwadu, datgarboneiddio.
Diweddariad
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y manteision a all ddod i ran Cymru yn sgil y cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) a roddir ar waith ledled Prydain Fawr. Rydym wedi rhoi cymorth i awdurdodau lleol ar gyfer datblygu Datganiad o Fwriad ar gyfer ECO Flex trwy gyfrwng Partneriaethau Lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Yn 2023 i 2024, rhoddwyd cyfanswm o £352,000 o gyllid, ochr yn ochr â chymorth technegol, i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i elwa ar gronfeydd y cynllun ECO.
Fe wnaethom ddarparu £500,000 yn ychwaneg i gynorthwyo awdurdodau lleol yn 2024 i 2025.
Mae hyn yn esgor ar y potensial i gynyddu’n fawr faint o aelwydydd y gallwn eu cynorthwyo.
Hefyd, rydym wedi cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i’w hannog i ymgysylltu’n llwyr ag ECO4 Flex a sicrhau bod modd i drigolion eu hardal gael y cymorth sydd ar gael o dan y cynllun.
Mae gan wasanaeth cynghori Nyth – sef gwasanaeth diduedd, rhad ac am ddim – rôl bwysig o ran deall amgylchiadau unigol pob aelwyd a chynorthwyo aelwydydd i gael gafael ar y cynllun sy’n gweddu orau i’w hanghenion, yn cynnwys ECO a Chynllun Inswleiddio Prydain Fawr.
Ym mis Chwefror 2025, cadarnhaodd Ofgem fod mwy nag 11,600 o geisiadau ECO Flex wedi’u gwneud gan awdurdodau lleol Cymru.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynorthwyo awdurdodau lleol, fel y bo’n briodol.
Camau gweithredu newydd
Y Rhaglen Cartrefi Clyd: cam gweithredu 11
Pennu beth yw’r safon gwresogi boddhaol briodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu cyngor i benderfynu a yw’r diffiniad presennol yn briodol er mwyn sicrhau y bydd modd cadw pobl yn gyfforddus ac yn ddiogel, yn enwedig yn sgil y ffaith bod rhai patrymau gweithio wedi newid ers y pandemig.
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a datgarboneiddio.
Diweddariad
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi adroddiad Cartrefi Oer yng Nghymru i Lywodraeth Cymru sy’n cyflwyno nifer o argymhellion, yn cynnwys:
- Dylai’r safon gwresogi boddhaol gynghori bod cartrefi yn cael eu gwresogi i dymheredd sy’n gyfforddus ond i osgoi cael tymereddau mewn ardaloedd byw a ddefnyddir yn aml yn disgyn o dan 18°C pan fydd pobl gartref; efallai y bydd angen isafswm tymheredd uwch ar gyfer grwpiau agored i niwed.
- Dylai’r safon gwresogi boddhaol nodi y dylid gwresogi anheddau fel bo’r angen pan fo pobl ynddynt.
- Dylai’r safon gwresogi boddhaol gyfeirio at ffynonellau dibynadwy, hygyrch, a chynhwysol o wybodaeth a chyngor ar gynhesrwydd fforddiadwy a chadw’n ddiogel gartref.
Byddwn yn ystyried yr argymhellion hyn yn ein hymateb i dlodi tanwydd a’n hymateb i’r modd y gellir ymdopi â thywydd oer, yn cynnwys yn yr adolygiad o’n Cynllun Ymdopi â Thywydd Oer.
Y Rhaglen Cartrefi Clyd: cam gweithredu 12
Cyflawni’r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd a gweithio i ddatblygu elfen sy’n seiliedig ar ardaloedd fel rhan o’r cynllun.
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio.
Diweddariad
Lansiwyd ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth newydd ar 1 Ebrill 2024.
Gan fod y cynllun yn ei ddyddiau cynnar, mae swyddogion wedi bod wrthi’n adolygu ei gynnydd er mwyn sicrhau bod elfen ‘seiliedig ar alw’ y rhaglen yn bodloni ei phrif amcanion o ran trechu tlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar drefniant untro ar gyfer atgyweirio neu adnewyddu boeleri’r holl ddeiliaid cartrefi sy’n gymwys ar gyfer Nyth – hynny yw, y rhai sydd mewn argyfwng uniongyrchol, heb unrhyw wres neu ddŵr peth. Bydd y llwybr argyfwng hwn, a roddir ar waith tan fis Mawrth 2026, yn cael ei hyrwyddo’n eang a bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol.
Byddwn yn llunio adroddiadau blynyddol ar gynnydd y cynllun newydd ac rydym wrthi’n datblygu fframwaith monitro a gwerthuso i olrhain ei effeithiolrwydd.
Rydym yn gweithio i ddatblygu a chyflwyno dull sy’n seiliedig ar ardaloedd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y Rhaglen Cartrefi Clyd.
Byddwn yn anelu at ddatblygu dull integredig ar draws pob deiliadaeth a phob lefel incwm er mwyn ysgogi datgarboneiddio a lleihau tlodi tanwydd.
Y Rhaglen Cartrefi Clyd: cam gweithredu 13
Rhoi cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i aelwydydd agored i niwed.
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio.
Diweddariad
Ar 27 Ionawr 2025, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ddatganiad ysgrifenedig yn ymwneud â Threchu Tlodi Tanwydd, gan nodi’r modd mae ein hymdrechion i roi rhagor o arian ym mhocedi pobl yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Ein prif flaenoriaethau yw cynyddu incwm a meithrin cadernid ariannol. Rydym wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob punt sy’n ddyledus iddynt.
Mae Strategaeth Tlodi Plant newydd Llywodraeth Cymru yn nodi ein hymrwymiad i wella canlyniadau i aelwydydd incwm isel yng Nghymru a mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac anghydraddoldeb yn y tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i leihau costau a chynyddu incwm aelwydydd agored i niwed.
Mae ein hymgyrch i annog pobl i hawlio budd-daliadau yn esgor ar ganlyniadau yng Nghymru.
Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi
Dechreuodd y cam diweddaraf o roi sylw yn y cyfryngau i ‘Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi’, ein hymgyrch genedlaethol ynglŷn â hawlio budd-daliadau, ym mis Ionawr 2025 a bydd yn para tan 31 Mawrth 2025. Bydd negeseuon hygyrch sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth yn cael eu cyflwyno ar holl sianeli’r cyfryngau, yn cynnwys y teledu a’r radio. Mae’r prif Alwad i Weithredu yn cyfeirio pobl at Advicelink Cymru ac yn eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys i gael rhagor o gymorth ariannol. Rydym ni, ochr yn ochr â’n partneriaid, yn helpu ein dinasyddion i hawlio mwy o’r arian sy’n ddyledus iddynt.
Hyd at fis Mawrth 2024, roedd cynghorwyr ‘Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi’ wedi helpu mwy nag 80,600 o bobl i hawlio mwy na £29.1 miliwn o incwm ychwanegol.
Y Gronfa Gynghori Sengl
Hefyd, mae’r Gronfa Gynghori Sengl yn hollbwysig o ran sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth ariannol sy’n ddyledus iddynt.
Rhwng Ionawr 2020 a Rhagfyr 2024, llwyddodd y Gronfa Gynghori Sengl i gynorthwyo mwy na 361,000 o bobl o blith ein cymunedau mwyaf amddifad a’r rhai sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf, gan eu helpu i gael gafael ar £170 miliwn o incwm ychwanegol a dileu gwerth £49.1 miliwn o ddyledion.
Canolfannau Clyd
Mae’r £1.5 miliwn o gyllid ar gyfer Canolfannau Clyd yn 2024-25 wedi cynnig mannau cynnes a diogel yn y gymuned, gan adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol, ac mae ein buddsoddiad parhaus yn 2025-26 yn rhan o’n pecyn cymorth parhaus sy’n cynnwys ein Cronfa Cymorth Dewisol, ein Cronfa Gynghori Sengl a’n Cynllun Talebau Tanwydd. Mae’r canolfannau hyn yn gyfle gwych i bobl yn y gymuned leol gysylltu gyda’i gilydd, aros yn gynnes a chael gafael ar gyngor a gwasanaethau mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
Y Sefydliad Banc Tanwydd
Ers mis Mehefin 2022, rydym wedi dyrannu mwy na £6.3 miliwn er mwyn galluogi’r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun Cronfa Gwres a Thalebau Tanwydd cenedlaethol yng Nghymru.
Y Gronfa Cymorth Dewisol
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn darparu cymorth ariannol i aelwydydd sy'n wynebu argyfwng ariannol annisgwyl. Yn 2024/25 roedd gan y DAF gyllideb o £38.5 miliwn. Mae wedi cynyddu i £39.5 miliwn ar gyfer 2025/26. Mae aelwydydd yn gallu gwneud cais trwy'r DAF am gyfraniad tuag at olew a nwy oddi ar y grid os ydynt mewn argyfwng ariannol ac nad oes unrhyw gymorth arall ar gael iddynt. Ers mis Tachwedd 2024, mae taliadau tanwydd oddi ar y grid wedi cael eu cynyddu i adlewyrchu’r cynnydd mewn prisiau ynni. Gwneir cyfraniad tuag at danc o olew neu nwy oddi ar y grid gwerth £500 neu dri thaliad tuag at boteli nwy sy'n costio £82.50 yr un fesul cyfnod treigl 12 mis.
Pennu’r Cyfeiriad: cam gweithredu 14
Datblygu a chyflwyno targedau sy’n seiliedig ar effeithlonrwydd ynni er mwyn trechu tlodi tanwydd.
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio.
Diweddariad
Rydym wedi ceisio cyngor gan y Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd ynglŷn â chwmpas ac uchelgais bosibl y targedau interim.
Bydd yr amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig, y bwriadwn eu cyhoeddi yn yr hydref, yn cael eu defnyddio i ddatblygu targedau interim ystyrlon ar sail graddfeydd EPC.
Bydd swyddogion yn ceisio mewnbwn gan y Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd cyn cadarnhau’r targedau.
Monitro, gwerthuso ac adrodd: cam gweithredu 15
Asesu’n llawn lefel y buddsoddiad sy’n angenrheidiol i ddatgarboneiddio cartrefi tlawd o ran tanwydd a gwneud cynlluniau hirdymor ar gyfer darparu’r cyllid sy’n angenrheidiol. (Argymhelliad R2023-112 y Pwyllgor Newid Hinsawdd).
Nodau Polisi: Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio.
Diweddariad
Rydym yn hyrwyddo pontio teg trwy gynorthwyo aelwydydd tlawd o ran tanwydd i ddatgarboneiddio’u cartrefi, yn bennaf trwy roi mesurau effeithlonrwydd ynni a systemau gwresogi carbon isel ar waith. Rydym yn asesu’r camau ymarferol sy’n angenrheidiol i esgor ar newid ehangach, ynghyd â chostau cysylltiedig y camau hynny, trwy ddatblygu ein polisïau a’n llwybr datgarboneiddio ar gyfer y sector preswyl ar gyfer Cyllideb Garbon 3 (2026-2030) a’n targedau interim sy’n seiliedig ar effeithlonrwydd ynni.
Gweithio gyda’n partneriaid: cam gweithredu 16
Monitro’r arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn dilyn newidiadau i Amodau Trwyddedau cyflenwyr.
Nodau Polisi: Dylanwadu ac amddiffyn.
Diweddariad
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r rheolau newydd a roddwyd ar waith gan Ofgem mewn perthynas â gosod mesuryddion rhagdalu sydd bellach yn rhan o amodau trwyddedu cyflenwyr. Rydym yn monitro’r sefyllfa’n ofalus er mwyn sicrhau bod y rheolau’n gweithio a bod aelwydydd cymwys yn cael eu hamddiffyn.
Siomedig yw gweld bod nifer o gyflenwyr ynni wedi cael caniatâd i ddechrau gosod mesuryddion rhagdalu dan orfod. Mae’r cyflenwyr hyn wedi rhoi tystiolaeth a sicrwydd eu bod wedi bodloni amodau Ofgem i ailddechrau gosod mesuryddion yn anwirfoddol.
Byddwn yn monitro’r sefyllfa a byddwn yn ymgysylltu ag Ofgem a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau bod cwsmeriaid agored i niwed yn cael eu diogelu ac na fydd mesuryddion rhagdalu yn cael eu gosod yn eu cartrefi yn erbyn eu hewyllys.
Gweithio gyda’n partneriaid: cam gweithredu 17
Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cydweithredu a dylanwadu er mwyn diogelu a chynorthwyo aelwydydd agored i niwed, pan na fo ganddi’r dylanwad i gyflawni’r camau’n uniongyrchol.
Nodau Polisi: Dylanwadu, blaenoriaethu a diogelu.
Diweddariad
Pan oedd yr argyfwng ynni ar ei anterth, fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ar y pryd gyfarfod â chyflenwyr ynni nifer o weithiau, gan ofyn dro ar ôl tro a fyddai modd iddynt sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu mwy ar aelwydydd agored i niwed yn ystod yr argyfwng costau byw.
Rydym wedi galw ar gyflenwyr ynni, Llywodraeth y DU ac Ofgem i sicrhau bod yr holl gwmnïau adennill dyledion a ddefnyddir wedi eu hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi.
Mae’r cyfrifoldeb dros ddatblygu tariff cymdeithasol a pholisïau eraill sy’n amddiffyn cwsmeriaid agored i niwed yn gorwedd gyda Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn gyson i Lywodraeth y DU gyflwyno tariff cymdeithasol i amddiffyn yr aelwydydd mwyaf agored i niwed. Mae hyn yn cyd-fynd â safbwyntiau cyflenwyr ynni, elusennau a sefydliadau ymgyrchu.
Yn dilyn ein galwadau i ddiwygio’r drefn, rydym yn falch mai’r trefniant rhagdalu yw’r ffordd rataf erbyn hyn o dalu am ynni.
Hefyd, rydym wedi gofyn yn gyson i Lywodraeth y DU i weithredu ynglŷn â thaliadau sefydlog. Mae taliadau sefydlog yn anghyfiawnder arbennig i aelwydydd â mesuryddion rhagdalu. Yn dilyn cyfnod o hunan-ddatgysylltu, codir tâl ar ddeiliaid cartrefi am yr holl ddiwrnodau pan nad oedd modd iddynt gael cyflenwad. Ymhellach, yn aml roedd cwsmeriaid ledled Cymru yn wynebu taliadau sefydlog uwch na’r cyfartaledd – sefyllfa annheg ym marn Llywodraeth Cymru. Gwnaethom gyhoeddi ein hymateb i alwad Ofgem am fewnbwn ar daliadau sefydlog.
Byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU ac eraill i wneud rhagor i gynorthwyo ac amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed.
