Cefnogi gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid i atal troseddu: fframwaith atal
Fframwaith i helpu i atal plant rhag mynd i drafferthion gyda'r gyfraith.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y fframwaith hwn yw dod â'r holl wasanaethau sy'n atal troseddwyr ifanc ynghyd mewn un weledigaeth gydgysylltiedig o weithgarwch atal. Mae’n cynorthwyo gwasanaethau a phartneriaid datganoledig i ddeall eu rôl yn y gwaith o atal troseddu ac wrth gefnogi gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid i gyflawni hyn. Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd mabwysiadu ymagwedd Plentyn yn Gyntaf at atal ar draws gwasanaethau Llywodraeth Cymru ac yn diffinio sut beth yw hyn yn ymarferol. Mae’r fframwaith yn adlewyrchu’r dirwedd strategol a gweithredol yng Nghymru a sefyllfa unigryw cyfiawnder ieuenctid a’i orgyffwrdd â systemau a gwasanaethau cyfiawnder sy’n ymwneud â lles, iechyd a llesiant plant.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn nodi plentyn fel unigolyn nad yw eto wedi cyrraedd 18 oed. Yr oedran cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru a Lloegr yw deng mlwydd oed. Mae'r system cyfiawnder ieuenctid yn ymwneud â phlant rhwng 10 ac 17 oed.
Mae gwasanaethau cyfiawnder yng Nghymru yn cynnwys amrywiaeth o asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n cydweithio. Er nad yw cyfiawnder troseddol wedi’i ddatganoli i Gymru o dan y trefniadau cyfansoddiadol presennol, mae rhyngwynebau pwysig rhwng cyfiawnder ieuenctid a chyfrifoldebau datganoledig sy’n chwarae rhan allweddol wrth atal troseddu. Yn benodol, mae gwasanaethau fel addysg, iechyd a gwasanaethau plant yn aelodau statudol o’r gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ac mae eraill yn ddarparwyr.
Mae rhyngwyneb cryf gyda gwasanaethau datganoledig gan fod rhai yn aelodau statudol o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, yn arbennig gwasanaethau plant, addysg ac iechyd, ac mae eraill yn ddarparwyr gwasanaethau y gallai fod angen i blant yn y system cyfiawnder ieuenctid gael mynediad iddynt (e.e. cymorth cynnar, tai ac ati). Mae gweithrediad y system cyfiawnder ieuenctid yn dibynnu ar integreiddio rhwng sefydliadau datganoledig, heb eu datganoli a’r trydydd sector i alluogi gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a’u byrddau rheoli i weithredu ac i gefnogi plant i fyw bywydau hapus, iach, diogel a di-drosedd.
Beth rydym yn ei olygu wrth atal?
Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn gweithio gyda phlant lle mae pryderon ynghylch mynediad i'r system cyfiawnder ieuenctid. Nid yw hyn bob amser yn golygu bod troseddu wedi digwydd, gan y gall gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid hefyd weithio gyda phlant sydd wedi cwblhau gorchymyn llys ond y mae angen cefnogaeth a chymorth ychwanegol arnynt. Mae gwaith ataliol yn wirfoddol ac yn dibynnu ar sgiliau a galluoedd gweithwyr proffesiynol i ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd a'u gofalwyr.
Mae’n bosibl bod plant sy’n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau cyfiawnder ieuenctid (oherwydd eu bod ar drothwy’r system cyfiawnder troseddol) wedi dod i sylw darparwyr addysg, yr heddlu neu’r gwasanaethau plant, yn gyffredinol oherwydd ymddygiadau a allai eu harwain i mewn i’r system cyfiawnder troseddol neu oherwydd pryderon diogelu sy’n gysylltiedig â gweithgarwch troseddol (e.e. gwahanol fathau o gamfanteisio) neu eu hamgylchedd domestig. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn nodi’r prosesau sy’n berthnasol i ddiogelu plant, gan gynnwys y rheini lle mae rhyngwyneb â’r system cyfiawnder troseddol.
Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn didoli atgyfeiriadau i sicrhau mai nhw yw’r asiantaeth fwyaf priodol i weithio gyda’r plentyn a’i deulu, ac i nodi asiantaethau eraill a allai ddarparu cymorth (neu sydd eisoes yn gysylltiedig) ac eirioli dros y cymorth hwnnw. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio plant (a’u teuluoedd) at wasanaethau prif ffrwd, gweithio’n uniongyrchol gyda nhw i nodi problemau a mynd i’r afael â nhw, ac annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol ac addysgiadol. Mae gan wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yr arbenigedd i ymdrin â rhai o'r materion mwy arbenigol a allai godi oherwydd gwahanol fathau o gamfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol. Maent wedi meithrin perthnasoedd ag asiantaethau perthnasol, yn arbennig yr heddlu, ysgolion, gwasanaethau plant, ac asiantaethau eraill sy’n ymwneud â llesiant a lles plant.
Gall gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid hefyd fod yn rhan o waith ataliol ehangach, gan gynnwys:
- gweithio gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth am droseddu a'i ganlyniadau
- gweithio gyda darparwyr gofal preswyl i ddeall goblygiadau troseddoli plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Y system cyfiawnder ieuenctid ac atal
Mae wedi’i hen sefydlu, po fwyaf o gysylltiad y mae plant yn ei gael â’r system cyfiawnder ieuenctid, y mwyaf tebygol y maent o gael eu tynnu i mewn iddi a bod yn agored i droseddu. Mae’r llwybr y dônt i sylw’r heddlu, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid drwyddo yn cael ei bennu gan yr hyn y maent wedi’i wneud a sut yr ymdrinnir â hwy, boed yn seiliedig ar gyfiawnder neu’n cael ei arwain gan bryderon am eu diogelwch a’u llesiant. Gallai hyn fod drwy atal, ymddygiad gwrthgymdeithasol a datrysiadau.
Mae'r diffiniadau canlynol yn seiliedig ar ddiffiniad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid o atal a datrysiadau (sydd hefyd yn rhoi crynodeb o'r opsiynau sydd ar gael y tu allan i'r llys). Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014yn nodi’r prif ddarpariaethau mewn perthynas ag ymatebion i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Atal
Atal yw cymorth ac ymyrraeth gyda phlant (a’u rhieni/gofalwyr) a all fod yn arddangos
ymddygiadau a all nodi anghenion sylfaenol neu fregusrwydd. Yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys ymagwedd haenog o atal cynnar ac wedi’i dargedu.
Y nod yw mynd i’r afael ag anghenion nas diwallwyd, diogelu, hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol, ac atal plant rhag mynd i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid ffurfiol.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Ymddygiad sydd wedi achosi, neu’n debygol o achosi, aflonyddu, dychryn neu ofid i unrhyw unigolyn.Ymddygiad sy’n gallu achosi niwsans neu annifyrrwch i unigolyn mewn perthynas â sut mae’r unigolyn hwnnw yn meddiannu eiddo preswyl.
Ymddygiad sy’n gallu achosi niwsans neu annifyrrwch tai i unrhyw unigolyn.
Datrysiadau
Datrysiadau yw lle mae plant sydd wedi cyflawni trosedd gysylltiedig yn derbyn canlyniad amgen nad yw’n arwain at gofnod troseddol ac sy’n osgoi uwchgyfeiriad i’r system cyfiawnder ieuenctid ffurfiol a’r stigmateiddio cysylltiedig.
Gall hyn gynnwys y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn darparu cymorth/ ymyrraeth a all neu a all beidio â bod yn wirfoddol a/neu’n cyfeirio plant (a rhieni/gofalwyr) i wasanaethau perthnasol. Dylai’r holl gymorth fod yn gymesur, wedi ei anelu at fynd i’r afael ag anghenion nas diwallwyd a chefnogi dewisiadau bywyd sy’n gymdeithasol-fuddiol.
Plentyn yn Gyntaf ar waith
Mae’r dull llesiant a ddefnyddir yng Nghymru wedi’i alinio’n gadarn â Phlentyn yn Gyntaf. Esblygodd Plentyn yn Gyntaf o gyfiawnder ieuenctid ac mae’n ei gwneud yn glir, pan ddaw plant i gysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder troseddol, y dylent gael eu trin yn wahanol i oedolion. Fel y disgrifiwyd yn flaenorol, effeithir ar blant gan yr amgylchedd y maent yn tyfu i fyny ynddo ac a yw'n eu meithrin ai peidio. Efallai na fydd ganddynt y gallu na’r adnoddau personol i ymdrin â’r anawsterau y maent yn dod ar eu traws.
Mae angen i'r holl asiantaethau sy'n bartneriaid ac yn cyfrannu at atal troseddau ieuenctid gydnabod a deall ymagwedd Plentyn yn Gyntaf. Mae Plentyn yn Gyntaf wedi’i ddiffinio gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr fel a ganlyn:
- gweld plant fel plant
- datblygu hunaniaeth gymdeithasol-fuddiol ar gyfer canlyniadau cadarnhaol i blant
- cydweithio gyda phlant
- hyrwyddo datrysiadau
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn darparu sylfaen ar gyfer dealltwriaeth bellach. Yr egwyddorion trosfwaol (a elwir yn erthyglau) sy’n berthnasol i bob plentyn yw rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif ystyriaeth (erthygl tri). Dylid cefnogi plant i ffynnu a datblygu (erthygl chwech) a chael y cyfle i fynegi eu barn ac i’r safbwyntiau hynny gael eu parchu (erthygl 12). Dylai gweithredoedd fod yn anwahaniaethol a hybu cyfle cyfartal, beth bynnag fo sefyllfa’r plentyn, ei nodweddion personol a’i amgylchiadau amgylcheddol (erthygl dau). Mae gan blant hefyd yr hawl i allu adfer o unrhyw fath o esgeulustod, camfanteisio a cham-drin mewn amgylchedd sympathetig (erthygl 39). Dylai trefniadau hefyd fod yn eu lle ar gyfer ymdrin â phlant nad ydynt yn cynnwys troi at achosion barnwrol, gydag amrywiaeth o ddewisiadau eraill sy’n briodol i’w llesiant, eu hamgylchiadau (a’u trosedd) (erthygl 40).
Mae'r erthyglau'n darparu meincnod ar gyfer diwallu anghenion, darparu gwasanaethau a sicrhau bod hawliau ar gael, yn enwedig iechyd, addysg, a bywyd teuluol diogel, sefydlog a chefnogol. Mae amddiffyn yr holl hawliau hyn yn nwylo oedolion. Yr egwyddorion Plentyn yn Gyntaf sy’n gysylltiedig â gweithgarwch atal yw:
- Cydnabod bod plant sy'n agored i droseddu yn blant agored i niwed.
- Eirioli dros a brocera mynediad plant i’w hawliau a’u hawlogaethau cyffredinol.
- Rhoi’r cyfle i blant newid eu hymddygiad a dysgu o’u camgymeriadau heb stigma ac mewn modd anwahaniaethol a chefnogol.
- Diwallu anghenion plant o safbwynt yr hyn sydd wedi digwydd iddynt yn hytrach na’r hyn y maent wedi’i wneud o’i le.
- Nodi cryfderau, potensial a chyfleoedd i gefnogi plant i fyw bywydau hapus, diogel ac iach heb droseddu.
- Helpu plant i wella a chynnal y perthnasoedd y maent yn eu gwerthfawrogi.
- Cydnabod bod plant yn dal i aeddfedu a datblygu a rhai o'r camgymeriadau a wnânt oherwydd anaeddfedrwydd.
- Cydnabod na all plant ddatrys y problemau y maent yn eu profi trwy eu hymdrechion eu hunain a bod angen unigolion y gallant ymddiried ynddynt i'w cefnogi.
- Darparu cymorth wedi’i dargedu ac arbenigol i blant ag anawsterau penodol, boed hynny oherwydd ymddygiad troseddol, sy’n niweidio iechyd neu resymau eraill, gan gydnabod amrywiaeth ac ymateb yn gadarnhaol iddi.
- Cynnwys plant a'u teuluoedd/gofalwyr yn y broses o wneud penderfyniadau. Gwerthfawrogi a pharchu eu barn a deall anghenion a dyheadau o safbwynt y plentyn yn hytrach nag o safbwynt y gweithwyr proffesiynol.
Dylai ymarfer ataliol Plentyn yn Gyntaf anelu at gael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd bywyd plant trwy wneud y canlynol:
- Gwella lles ac iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol.
- Cefnogi adferiad o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
- Meithrin ymlyniad i'r ysgol ac annog cyrhaeddiad addysgol.
- Cryfhau perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol yn y teulu a’r gymuned.
- Datblygu rhwydweithiau a grwpiau cyfoedion cymdeithasol-fuddiol.
- Eu helpu i feithrin sgiliau bywyd a chymdeithasol a mwy o hunanhyder.
- Eu cynorthwyo i ymdopi ag anawsterau a datblygu gwytnwch.
- Gwella ansawdd bywyd teuluol neu'r amgylchiadau y maent yn byw ynddynt, fel bod ganddynt sylfaen sefydlog a diogel.
- Darparu cyngor a chymorth i’w galluogi i ddilyn ffyrdd iach o fyw i fod yn ddiogel ac yn llai agored i ddylanwadau negyddol a niwed.
- Gweld pob plentyn fel unigolyn unigryw gyda’i anghenion ei hun a’i amddiffyn rhag gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.
Gall plant o gefndiroedd ethnig leiafrifol gael eu gorgynrychioli yn y system cyfiawnder troseddol. Mae Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru yn nodi camau gweithredu i ddod â gorgynrychiolaeth i ben, sy'n cynnwys monitro gweithgarwch atal ac ymyrryd yn gynnar. Nod Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru yw lleihau hiliaeth yng Nghymru gyfan.
Dulliau sy’n ystyriol o drawma
Gall trawma ddeillio o ddigwyddiad, cyfres o ddigwyddiadau, neu set o amgylchiadau sy'n cael effaith barhaol. Gall plant brofi trawma datblygiadol, sy'n digwydd ym mlynyddoedd cynnar bywyd ac sy'n deillio o brofiadau negyddol gan ofalwyr a all effeithio ar eu perthynas ag eraill wrth iddynt aeddfedu. Efallai nad yw plant sydd wedi profi trawma wedi datblygu sgiliau gwybyddol sy’n briodol i’w hoedran, eu bod yn cael anhawster yn rheoleiddio eu hemosiynau, nad ydynt wedi datblygu sgiliau bywyd hanfodol, eu bod yn cael trafferth cyfathrebu ag eraill, a’u bod yn ei chael hi’n anodd prosesu a chadw gwybodaeth newydd. Efallai na fyddant yn gallu rhesymu, teimlo empathi neu ystyried bwriadau eraill (oedolion neu weithwyr proffesiynol) yn gadarnhaol. Pan fyddant yn cyrraedd llencyndod, gall yr anawsterau hyn arwain at ymddygiadau sydd weithiau'n arwain at ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol, ac nad ydynt bob amser yn cael eu deall fel symptom o'u profiadau bywyd.
Mae gwasanaethau ac ymatebion sy’n ystyriol o drawma yn agored i’r posibilrwydd bod y plentyn wedi profi trawma a dyma’r rheswm pam ei fod yn ymateb i’r byd yn y ffordd y mae. Gallant helpu plant i ddatblygu perthnasoedd y mae modd ymddiried ynddynt ac sy'n eu cynorthwyo i deimlo'n ddiogel, gwneud dewisiadau da, bod yn gyfranogwyr gweithredol, a theimlo eu bod wedi'u grymuso. Mae gwasanaethau’n sensitif i’r anghenion hynny, nid ydynt yn peri ail drawma nac yn niweidio’r plentyn ymhellach, ac yn dechrau o safbwynt yr hyn sydd wedi digwydd yn hytrach na’r hyn y mae wedi’i wneud. Mewn lleoliadau cyfiawnder troseddol, gall helpu plant i oresgyn eu profiadau eu helpu i ymatal rhag troseddu (ac atal hyn rhag digwydd).
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu dealltwriaeth o effaith trawma. Mae Cymru sy’n Ystyriol o Drawma yn fframwaith sy’n darparu diffiniad o ddull gweithredu sy’n ystyriol o drawma ac mae’n cynnwys pum egwyddor a phedair lefel ymarfer sy’n esbonio sut y gall unigolion a sefydliadau nodi a chefnogi’r rhai sydd wedi profi trawma. Nod Straen Trawmatig Cymru yw gwella iechyd a llesiant pobl o bob oed sy’n byw yng Nghymru sydd mewn perygl o ddatblygu neu brofi anhwylderau straen ôl-drawmatig (cymhleth). Mae’n fenter genedlaethol sy’n gweithio drwy rwydwaith o wasanaethau hygyrch, lleol sy’n canolbwyntio ar y bobl y maent yn ceisio eu helpu, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Rhoddodd y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru flaenoriaeth i ddatblygu dulliau sy’n ystyriol o drawma o fewn cyfiawnder ieuenctid ledled Cymru. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, gwasanaethau iechyd a Gwasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig Pobl Ifanc Cymru Gyfan at ddatblygu Rheoli Achosion Uwch. Dyma ddull o ymarfer sy’n ystyriol o drawma, y gall gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid ei gyrchu ar gyfer unrhyw blentyn y mae ganddynt bryderon yn ei gylch lle gall trawma fod yn amlwg. Mae Rheoli Achosion Uwch yn cael mewnbwn gan wasanaethau seicoleg a ddarperir gan Wasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig Pobl Ifanc Cymru Gyfan.
Y cyd-destun yng Nghymru
Mae Cymru wedi hen gydnabod statws penodol plant mewn cymdeithas, yn arbennig drwy ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) mewn cyfraith ddomestig drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru a phartneriaid ymagwedd Plentyn yn Gyntaf at blant yn y system gyfiawnder, gan eirioli y dylent gael eu trin fel plant yn bennaf ac na ddylid eu diffinio gan eu hymddygiad yn unig. Gwnaeth y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru, sy’n eiddo ar y cyd i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Bwrdd Plismona Cymru, atgyfnerthu hyn yn ei ffocws ar y plentyn, ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a bod yn ystyriol o drawma. At hynny, mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021-2026 yn nodi’r uchelgeisiau wrth weithio i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n wynebu’r heriau mwyaf a’i hymrwymiadau i wneud hyn.
Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Mae hwn yn dod â gweithgarwch sy’n digwydd ar draws Llywodraeth Cymru ynghyd i gefnogi holl blant a phobl ifanc Cymru. Mae hefyd yn manylu ar sut mae'r camau yr ydym yn eu cymryd yn cyfrannu at gyrraedd ein cerrig milltir cenedlaethol.
Mae gan y system cyfiawnder ieuenctid y prif nod o atal troseddu (adran 37 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998). Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn eu hardal y mae angen gofal a chymorth arnynt ac i ddarparu gwasanaethau i annog plant i beidio â chyflawni troseddau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru osod amcanion llesiant, nodi sut y cânt eu cyflawni, a datblygu gwasanaethau i helpu plant i gyflawni eu potensial, beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Yn aml, mae gan blant sydd mewn perygl o gael mynediad i’r system gyfiawnder broblemau a gwendidau acíwt, a fydd, os na chânt sylw, eu gwneud yn agored i droseddu, aildroseddu, mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol i oedolion, a datblygu ffyrdd o fyw a all beri i ymddygiad troseddol rhwng cenedlaethau barhau. Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi pum ffordd gynaliadwy o weithio y gellir eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau ataliol:
- Hirdymor: mae gweithgarwch atal a ddarperir gan wasanaethau cyfiawnder ieuenctid wedi’i integreiddio i’r dirwedd atal yng Nghymru. Mae’n elfen graidd o ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo llesiant plant a phlentyndod nad yw’n dod â nhw i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol. Mae llawer o ffurfiau ar weithgarwch ataliol ac mae'n golygu gallu cael mynediad at yr hawliau a’r hawlogaethau a ddarperir gan wasanaethau prif ffrwd a chyffredinol. Fodd bynnag, mae angen cymorth wedi'i dargedu neu gymorth arbenigol ar rai plant i'w helpu gyda'u problemau.
- Atal: mae tystiolaeth sylweddol bod atal plant rhag mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf yn debygol o leihau’r tebygolrwydd y byddant yn ymwneud ag ymddygiad troseddol. Daw plant i sylw’r system cyfiawnder troseddol oherwydd problemau sydd wedi codi y tu allan iddi. Yr atebion yw darparu ymyrraeth gynnar a chymorth, deall a diwallu eu hanghenion (yn enwedig o ran addysg, iechyd a bywyd teuluol), mynd i'r afael â'u gwendidau (o fewn a thu allan i'w hamgylchedd domestig), ac ymateb yn systematig i'w hatal a'u hamddiffyn (ac eraill) rhag niwed. Mae canlyniadau cadarnhaol yn gysylltiedig â lleihau niwed a gwendidau a darparu ymyriadau effeithiol (cynnar) yn y teulu, yr ysgol a'r gymuned. Nod atal yw gwella ansawdd bywyd a chyfleoedd bywyd.
- Integreiddio: mae atal effeithiol yn gofyn am ddealltwriaeth ar y cyd ei fod yn anelu at wella canlyniadau i blant sy’n wynebu amrywiaeth o heriau. Yn aml, mae gan blant sy’n agored i fynd i drafferth gyda’r gyfraith anghenion heb eu diwallu sy’n eu gwneud yn agored i niwed ac yn debygol o fod yn hysbys i wahanol wasanaethau. Mae gweithgarwch atal yn gofyn am ddull cydgysylltiedig a chydlynol rhwng gwahanol unigolion ac asiantaethau. Dylai gwasanaethau fod yn addas i’r plentyn ac nid y plentyn i'r gwasanaeth.
- Cydweithio: mae atal troseddau ieuenctid yn gofyn am gydweithio rhwng y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid ag unrhyw asiantaeth a all helpu plentyn i arwain ffordd gadarnhaol o fyw a chefnogi ei deulu a’i ofalwyr i feithrin hyn. Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn aml yn gweithredu fel eiriolwyr a broceriaid, gan helpu plant a’u teuluoedd i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt a chynnal ymgysylltiad â nhw. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag ysgolion, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gwaith ieuenctid, Teuluoedd yn Gyntaf, cymorth cynnar a gwasanaethau plant.
- Cynnwys: dylai plant a’u teuluoedd/gofalwyr gael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae angen oedolyn dibynadwy arnynt yn eu bywydau a fydd yn eiriol drostynt ac yn eu cefnogi. Dylai cyfranogiad proffesiynol rymuso plant i deimlo bod ganddynt reolaeth dros eu bywydau a bod ganddynt y gallu i ddilyn yr hyn sy'n bwysig ac yn ystyrlon iddynt. Dylai ymgysylltu â phlant a’u teuluoedd fod yn seiliedig ar gryfderau, canolbwyntio ar botensial a datblygu sgiliau a chyfleoedd, helpu i ddatblygu gwydnwch, ffyrdd iach o fyw a chyrhaeddiad addysgol, a’u cynorthwyo i weld gwerth yn y camau hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithgarwch atal cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru drwy’r grant Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol, sy’n rhan o’r grant Plant a Chymunedau. Mae’r grant Plant a Chymunedau’n galluogi awdurdodau lleol i ystyried sut y gall gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau eraill gefnogi plant sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.
Plentyndod a Datblygiad Unigol
Datblygiad pobl ifanc
Mae angen cymorth penodol ar blant oherwydd eu bod yn dal i aeddfedu i fod yn oedolion ac nid oes ganddynt aeddfedrwydd gwybyddol a/neu emosiynol. Mae hyn oherwydd bod yr ymennydd, wrth iddo datblygu, yn gweithredu mewn ffordd wahanol i'r ymennydd aeddfed a gall profiadau plentyndod effeithio ar ei ddatblygiad. Er y gall profiadau plentyndod cadarnhaol gefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol iach, gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod effeithio ar y ffordd y mae’r corff yn ymateb i straen. Mae ffynonellau posibl niwed a thrawma yn ystod plentyndod yn cynnwys yr hyn a elwir yn brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (gweler isod), sef digwyddiadau neu amgylchiadau o fewn y teulu ac amgylchiadau all-deuluol sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldebau strwythurol neu gymdeithasol, er enghraifft tlodi neu wahaniaethu.
Gall dod i gysylltiad cyson â straen cronig heb ei reoli arwain at ymddygiadau camaddasol, gan gynnwys mabwysiadu ymddygiadau sy’n niweidio iechyd, sy’n cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall y rhai sydd wedi bod yn agored i niwed a thrawma yn ystod plentyndod fod yn fyrbwyll, cymryd risgiau, a phrofi emosiynau cyfnewidiol. Mae cymryd risg ac arbrofi yn rhan o dyfu i fyny a gallant arwain at ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol. I'r rhan fwyaf, y mae hyn yn rhywbeth dros dro. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol ymhlith pobl ifanc yn aml ar lefel isel, yn fyrbwyll, ac o ganlyniad i wneud penderfyniadau gwael a bod yn agored i ddylanwadau cyfoedion a dylanwadau eraill. Nid yw plant bob amser yn gallu gwneud penderfyniadau rhesymegol, rheoli eu hemosiynau, neu feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd. Pan fyddant yn mynd i drafferthion, mae angen ymateb priodol sy’n cefnogi’r broses o ymataliad naturiol, a all ddigwydd naill ai oherwydd aeddfedu a thyfu i fyny neu oherwydd bod cyswllt lefel isel â’r system cyfiawnder troseddol yn ddigon i’w hatal rhag cymryd rhan bellach.
Niwrowahaniaeth
Mae ymwybyddiaeth o niwrowahaniaeth wedi cynyddu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae hyn wedi arwain at atgyfeiriadau cynyddol am asesiad a chymorth, gydag amseroedd aros hir am wasanaethau mewn llawer o ranbarthau. Mae’n bwysig cydnabod y gall fod gan rai plant a phobl ifanc a allai ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid anghenion ychwanegol o ganlyniad i effaith niwrowahaniaeth fel awtistiaeth neu ADHD, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael diagnosis, a bydd angen addasiadau arnynt i ddiwallu eu hanghenion. Drwy’r Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio dull integredig ar gyfer pob oed o gydnabod effaith niwrowahaniaeth, yn enwedig ar gyfer y rhai nad ydynt efallai wedi defnyddio gwasanaethau. Mae gan wefan y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol adnoddau i godi ymwybyddiaeth ac i roi cyngor ac arweiniad. Mae Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Niwrowahaniaeth yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu polisi a chymorth.
Yn yr un modd, gall pobl ifanc ag anabledd dysgu eu cael eu hunain yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol a rhaid cymryd gofal ychwanegol i sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu cydnabod a bod cymorth yn cael ei ddarparu i sicrhau eu bod yn deall yn llawn y sefyllfaoedd y gallent ddod yn rhan ohonynt a’r canlyniadau dilynol. Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu yn 2022, ac mae’n cynnwys ymrwymiadau i wella llesiant unigolion a mynediad at eiriolaeth a hunaneiriolaeth. Mae Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar wella gwasanaethau a chymorth.
Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn diffinio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel digwyddiadau trawmatig sy’n digwydd yn ystod plentyndod ac sy’n cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ddigwydd oherwydd gwahanol fathau o gam-drin a/neu esgeulustod neu fod yn gysylltiedig â’r amgylchedd y mae’r plentyn yn byw ynddo ac yn tyfu i fyny ynddo, ac oherwydd trais domestig, rhieni’n gwahanu, rhieni’n camddefnyddio sylweddau a/neu gamddefnyddio alcohol, a rhieni’n cael eu carcharu. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol a bod yn gysylltiedig ag ymddygiadau sy’n niweidio iechyd, erledigaeth, ac ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol. Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd i awgrymu bod cysylltiadau rhwng trais ieuenctid difrifol a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi y gall gwasanaethau iechyd, addysg, cymdeithasol a chyfiawnder troseddol, ynghyd â gwasanaethau eraill, oll elwa os caiff profiadau niweidiol yn ystod plentyndod eu hatal. Mae hyn yn gofyn am ddealltwriaeth o beth yw profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’u heffaith a helpu plant i feithrin y gwytnwch i fyw bywydau iach. Daw adeiladu gwytnwch o feithrin perthnasoedd gofalgar, sy’n cynnwys ymlyniadau cadarnhaol ag eraill, presenoldeb oedolyn y gellir ymddiried ynddo, a chryfhau perthnasoedd teuluol a pherthnasoedd ehangach. Mae ffactorau eraill yn cynnwys hybu lles corfforol a meddyliol, hunan-barch, a datblygu sgiliau ymdopi cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol a datrys problemau. Gellir cyflawni hyn trwy feithrin cysylltiadau a pherthnasoedd cryf mewn teuluoedd, ysgolion a'r gymuned leol a darparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu gweithredol a dysgu cymdeithasol ac emosiynol.
Sefydlwyd Hyb Ace Cymru i helpu Cymru i ddod yn fwy ymwybodol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac i ddarparu llwyfan ar gyfer rhannu tystiolaeth a dysgu. Mae’r adnoddau’n cynnwys Pecyn Cymorth ar gyfer Sefydliadau sy’n Ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TraCE) sydd wedi’i gynllunio i helpu i ymgorffori ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma a’r profiadau hyn.
Mae Strategaeth Tlodi Plant Cymru yn nodi sut y gellir gwella canlyniadau i blant a'u teuluoedd a sut y gellir cefnogi plant i gyrraedd eu potensial.
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
Yn yr un modd â’r Hyb Ace, mae’r gwaith o ddatblygu polisi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru wedi’i ategu gan ddull sy’n ystyriol o drawma. Mae Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn sicrhau bod ffocws ar draws y sector cyhoeddus ar atal cam-drin a thrais, amddiffyn dioddefwyr, a rhoi cymorth i’r rhai yr effeithir arnynt. Mae’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i baratoi a chyhoeddi strategaethau i roi terfyn ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd y Glasbrint Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn edrych ar anghenion plant a phobl ifanc i sicrhau bod ymatebion gwasanaethau yn briodol, bod niwed yn cael ei atal ac yn cael sylw, a bod eglurder a chydlyniant mewn dulliau cyfochrog ar gyfer diogelu, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r strategaeth yn nodi’r angen am ddull system gyfan i sicrhau ein bod yn atal cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i amddiffyn a chefnogi’r rhai sydd wedi ei brofi. Mae mabwysiadu ymagwedd iechyd cyhoeddus at waith y glasbrint yn sicrhau ffocws ar yr egwyddorion sylfaenol, sef
- herio agweddau’r cyhoedd
- codi ymwybyddiaeth plant
- mwy o atebolrwydd i'r rhai sy'n cyflawni trais a chamdriniaeth
- blaenoriaethu a chanolbwyntio ar atal
- gweithlu hyderus a gwybodus
- darparu gwasanaethau cynhwysol a hygyrch sy’n ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar anghenion
Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn elfen orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru, a nodir yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac yn gyfle i ddysgwyr ddeall a datblygu perthnasoedd iach o bob math. Mae hefyd yn rhan o ymagwedd ysgol gyfan sy’n cynnwys gwrth-fwlio a dysgu am drais yn erbyn menywod a diogelwch ar-lein.
Mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi dysgu gorfodol ar gyfer perthnasoedd iach, diogelwch, a pharch at gamau sy’n briodol i ddatblygiad. Bydd y Glasbrint Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cefnogi gweithrediad y cod.
Cymru Heb Drais
Mae atal trais ymhlith plant a phobl ifanc yn gofyn am weithredu cyfunol a chydlynol. Mae Cymru Heb Drais: fframwaith a rennir ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru yn darparu fframwaith ar gyfer deall yr elfennau allweddol sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal sylfaenol ac ymyrryd yn gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc drwy ddull system gyfan sy’n seiliedig ar iechyd y cyhoedd.
Datblygwyd Cymru Heb Drais gan Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective Cymru, a chafodd ei llywio gan farn dros fil o blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. Y bwriad yw cefnogi ardaloedd lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol yn ogystal ag arwain camau gweithredu ehangach ar atal trais ac ymyrraeth gynnar.
Mae Cymru Heb Drais yn amlinellu naw egwyddor atal trais a ddylai fod yn sail i weithgarwch atal trais ledled Cymru:
- Cydnabod bod modd atal trais: mae trais yn fater iechyd cyhoeddus. Mae hyn yn golygu y gellir ei atal cyn iddo ddigwydd ac y gellir ymateb iddo’n fwy diogel ac effeithiol pan fydd yn digwydd i gyfyngu ar niwed yn y dyfodol.
- Adeiladu partneriaethau ar gyfer atal: mae atal yn fusnes i bawb. Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i greu newid systemig i atal trais ac amddiffyn pobl sy'n agored iddo.
- Cydgynhyrchu'r atebion: mae cydgynhyrchu yn galluogi plant a phobl ifanc i leisio'u barn ar faterion sy'n effeithio arnynt. Mae tystiolaeth hefyd yn dweud wrthym fod ymyriadau a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chymunedau yn llawer mwy effeithiol.
- Cynnal hawliau plant: mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel, na wahaniaethir yn eu herbyn, a bod ganddynt yr hyn sydd ei angen arnynt i oroesi a datblygu, ymhlith mesurau diogelu eraill.
- Defnyddio ymagwedd sy'n ystyriol o drawma: dylai unigolion, teuluoedd, cymunedau, sefydliadau a systemau ystyried yr adfyd a'r trawma a allai effeithio ar rywun. Mae’n ymwneud ag adnabod a chefnogi cryfderau unigolyn i oresgyn ei brofiad.
- Defnyddio lens croestoriadol: mae’n rhaid i waith atal trais fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau lluosog a chroestoriadol sy’n llywio’r cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol y mae’n digwydd ynddo.
- Integreiddio data amlasiantaethol i’r broses o wneud penderfyniadau: mae defnyddio data i ddeall patrymau a thueddiadau mewn trais, wrth sefydlu cytundebau rhannu data cadarn, yn sicrhau bod ymdrechion atal yn cael eu targedu lle mae eu hangen fwyaf.
- Defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth: dylid gwerthuso rhaglenni i ddeall eu proses weithredu a’u heffaith, gan rannu unrhyw ganfyddiadau i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer atal trais.
- Bod yn rhagweithiol wrth gynnwys cymunedau: mae'n bwysig ymgysylltu â phobl lle y maent, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei lywio'n ddiwylliannol gan gyfranogiad cymunedau yn y gwaith o atal trais.
Ymhellach, mae Cymru Heb Drais yn amlinellu naw strategaeth atal trais, sy’n ymestyn o’r blynyddoedd cynnar hyd at oedolaeth gynnar ac yn cynnwys gweithgareddau atal a all gefnogi unigolion a chymunedau cyfan ac arwain at newid systemig. yn gyfle i ddysgwyr ddeall a datblygu perthnasoedd iach o bob math. llawlyfr, lle gallwch hefyd ddod o hyd i ddamcaniaeth newid sy'n dangos y canlyniadau ac effeithiau allweddol a ddisgwylir os caiff pob strategaeth ei gweithredu'n effeithiol.
- Teuluoedd, magu plant a’r blynyddoedd cynnar: mae darparu amgylchedd cartref diogel, sicr a sefydlog yn lleihau’r risg o brofi trais yn ystod plentyndod a llencyndod ac wrth dyfu i fod yn oedolyn.
- Cyflogaeth a hyfforddiant: gall cyflogaeth sicr, a’r hunan-barch uchel a’r iechyd meddwl da sy’n gysylltiedig â hynny, leihau’r risg o ddod yn rhan o drais.
- Adnabod a chymorth cynnar: pan aiff pethau o chwith, rhaid gwrando ar blant a phobl ifanc a’u credu a’u helpu.
- Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt: gall risg plant a phobl ifanc o ddod yn rhan o drais gael ei lliniaru trwy gysylltiadau cryf ag oedolion gofalgar (nad ydynt yn rhieni a gofalwyr).
- Amgylcheddau cymunedol diogel: mae creu amgylcheddau amddiffynnol sy’n caniatáu i blant a phobl ifanc ffynnu a datblygu yn strategaeth bwysig i hybu eu diogelwch corfforol a seicolegol, a’u hiechyd a’u lles.
- Ysgolion ac addysg: mae lleoliadau addysg yn chwarae rhan hanfodol mewn atal trais. Mae'r rhain yn lleoedd lle mae plant a phobl ifanc yn dysgu normau cymdeithasol, yn datblygu ymdeimlad o berthyn, ac yn caffael gwybodaeth, sgiliau a phrofiad.
- Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb: mae lleihau tlodi ac anghydraddoldeb yn flociau adeiladu sylfaenol ar gyfer atal trais a gwella diogelwch.
- Polisi a deddfwriaeth: mae fframwaith deddfwriaethol a pholisi cadarn yn gosod y sylfaen ar gyfer atal trais ac yn darparu strwythur ar gyfer amddiffyn dioddefwyr, tystion a phlant.
- Normau a gwerthoedd cymdeithasol: mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar gryfhau normau a gwerthoedd cymdeithasol sy’n cefnogi perthnasoedd di-drais, parchus, meithringar, cadarnhaol a theg i bob plentyn a pherson ifanc.
Nodweddion plant yn y system cyfiawnder ieuenctid
Ers 2008, mae’r sector cyfiawnder ieuenctid wedi llwyddo i leihau nifer y plant sy’n mynd i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid, a’r rhai sy’n cael gorchymyn llys ac sy’n cael eu rhoi yn y ddalfa. Amcangyfrifodd ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth yn 2019 fod 50% ar gyfartaledd o weithgarwch y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn canolbwyntio ar atal, 35% yn ymwneud â datrysiadau y tu allan i’r llys, a 15% yn ymwneud â phlant ar orchmynion llys. Mae hyn yn dangos bod gweithgarwch sylweddol o ran llywio plant i ffwrdd o gysylltiad â chyfiawnder troseddol.
Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi cyhoeddi data ar anghenion a phryderon plant (yng Nghymru a Lloegr) sy’n cael eu dedfrydu gan lysoedd sy’n dangos ehangder y problemau a gafwyd.
| Mathau o anghenion a phryderon plant | Canran |
|---|---|
| Diogelwch a llesiant | 90 |
| Camddefnyddio sylweddau | 76 |
| Iechyd meddwl | 72 |
| Cyfathrebu lleferydd ac iaith | 71 |
| Dysgu ac addysg | 68 |
| Perthnasoedd arwyddocaol | 65 |
| Ffordd o fyw | 65 |
| Rhianta | 55 |
| Ymddygiad y teulu | 54 |
| Perthynas ag eraill | 54 |
| Llety | 50 |
| Iechyd corfforol | 47 |
| Hanes achos | 46 |
Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn nodi y gall beichiau achosion atal fod â'r un nodweddion â phlant ar orchmynion llys. Gall anghenion godi o ymddygiad niweidiol, gan arwain at bryderon diogelu, plant yn agored i wahanol fathau o gamfanteisio (gan gynnwys cysylltiadau â gangiau a gweithgareddau gyda nhw), ymddygiad rhywioledig, effeithiau negyddol trawma, ymlyniad, diffyg magwraeth a gofal, a chael anawsterau ymddygiadol (wedi’u diagnosio a heb eu diagnosio) (Prifysgol Aberystwyth 2019).
Mae’r dybiaeth mai dim ond y plant sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth yw’r rhai sydd ar orchmynion llys statudol yn anghywir. Mae plant sy’n dod i gysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder yn aml yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle mae tlodi’n ffactor arwyddocaol yn eu bywydau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o fentrau sydd â’r nod o wella ansawdd bywydau plant a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol, drwy greu llwybrau allan o dlodi a chefnogi llesiant plant a’u teuluoedd.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol
Gall plant y mae eu hymddygiad gwrthgymdeithasol yn achosi problemau yn y gymuned gael eu trin gan blismona yn y gymdogaeth neu dimau ymddygiad gwrthgymdeithasol awdurdodau lleol. Dylid cael dull graddoledig o ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n rhoi’r cyfle i blant newid eu hymddygiad i atal ailddigwyddiad a’r posibilrwydd o’i symud i’r system cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys rhoi rhybuddion anffurfiol a siarad â nhw (a'u teuluoedd) am yr hyn y maent yn ei wneud a'i effaith. Bydd gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn cymryd rhan os oes angen Contract Ymddygiad Derbyniol, a all bara am chwe mis. Mae hwn yn gytundeb ysgrifenedig gwirfoddol (nad yw’n gyfreithiol rwymol) lle mae’r plentyn yn cytuno i atal ei ymddygiad ac i dderbyn cymorth (gwirfoddol) gan y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid, yn seiliedig ar asesiad o’i anghenion.
Os nad yw Contract Ymddygiad Derbyniol yn effeithiol o ran atal yr ymddygiad, gall yr asiantaeth sydd â phryderon (yr heddlu, awdurdod lleol, cymdeithas dai) wneud cais am waharddeb sifil. Rhaid ymgynghori â'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn y broses hon, a dylai mesurau anffurfiol fod wedi cael eu harchwilio’n llawn. Bydd y waharddeb yn cynnwys gwaharddiadau, ond hefyd gofynion cadarnhaol i gefnogi'r plentyn i fynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol dros ei ymddygiad. Nid yw gwaharddeb sifil yn arwain at gofnod troseddol, er bod torri'r waharddeb yn drosedd.
Gall yr heddlu neu awdurdod lleol wneud cais am Orchymyn Ymddygiad Troseddol pan fydd plentyn wedi’i ddyfarnu’n euog o drosedd ond hefyd yn cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhaid ymgynghori â'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid i gael eu barn ac, os nad yw hyn wedi digwydd, dylai Gwasanaeth Erlyn y Goron ofyn am yr wybodaeth hon. Bydd y Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn cynnwys gwaharddiadau a gofynion cadarnhaol a gall bara o un i dair blynedd. Mae torri amodau hefyd yn drosedd.
Gellir delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd trwy benderfyniad cymunedol (sef datrysiad y tu allan i'r llys) a gyhoeddir gan yr heddlu.
Defnyddio datrysiadau y tu allan i'r llys
Er mai pwrpas gwasanaethau atal ac ymatebion i ymddygiad gwrthgymdeithasol yw atal troseddu rhag digwydd, mae gwasanaethau dargyfeiriol yn ymwneud yn uniongyrchol â phlant sydd wedi troseddu (fel arfer, trosedd llai difrifol, lefel isel ac weithiau trosedd tro cyntaf). Y bwriad yw osgoi erlyniad a mynd yn syth i'r system cyfiawnder troseddol drwy ddefnyddio datrysiadau y tu allan i'r llys. Mae penderfyniadau ynghylch pa ddatrysiadau a ddylai fod yn berthnasol o dan ba amgylchiadau yn aml yn digwydd mewn paneli gwneud penderfyniadau sy’n cynnwys yr heddlu a’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid. Bydd yn ofynnol i blant sy’n cael datrysiad y tu allan i’r llys ymgysylltu â’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn wirfoddol (oni bai eu bod yn cael rhybuddiad amodol ieuenctid). Mae hyn yn cynnwys nodi eu hanghenion, darparu cyngor a chymorth, eu helpu i ddeall yr hyn y maent wedi'i wneud o'i le a chanlyniadau eu gweithredoedd, a allai gynnwys elfen cyfiawnder adferol, a sicrhau eu bod yn cael unrhyw gymorth a gwasanaethau a nodwyd gan yr asiantaeth briodol.
Gall plant mewn gofal preswyl fod mewn mwy o berygl o’r heddlu’n cael eu cynnwys mewn digwyddiadau nad ydynt yn cael eu goddef yn yr un modd pe na bai’r plentyn wedi bod mewn gofal. O ganlyniad, gall plant gael eu tynnu i mewn i'r system cyfiawnder troseddol am droseddau cymharol fach. Mae Protocol Cymru Gyfan: lleihau nifer y plant a’r oedolion ifanc â phrofiad o fod mewn gofal sy’n cael eu troseddoli yn nodi camau y gall asiantaethau cyfiawnder troseddol, awdurdodau lleol a darparwyr gofal eu cymryd i ymateb i ddigwyddiadau a dargyfeirio plant oddi wrth y system cyfiawnder ieuenctid.
Haenau o Gymorth Ataliol
Mae atal yn gofyn am ddull cydgysylltiedig sy'n cynnwys gwasanaethau cyffredinol, wedi'u targedu ac arbenigol. Mae atal yn cael ei ddeall orau fel dull haenog sy’n dechrau o’r sefyllfa o helpu plant i gael mynediad at eu hawliau cyffredinol a phrif ffrwd ac sy’n symud ymlaen i gymorth mwy targedig ac arbenigol pe bai angen.
Gwasanaethau atal a datrys cychwynnol wedi’u targedu: defnyddio datrysiadau y tu allan i’r llys i'r rhai sydd wedi cyflawni troseddau lefel isel.
Gwasanaethau atal cychwynnol cynnar: cymorth wedi'i dargedu ar gyfer y rhai y nodwyd eu bod yn agored i droseddu oherwydd rhesymau amrywiol neu oherwydd ymwneud og ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gwasanaethau atal cychwynnol cyffredinol: gwasanaethau cyffredinol sydd ar gael i bob plentyn sy’n eu galluogi i ffynnu a datblygu ac sy’n atal problemau eraill rhag codi, gan gynnwys mynediad i'r system cyfiawnder troseddol.
Yng nghyd-destun atal troseddau ieuenctid, mae enghreifftiau o ddulliau sy’n cyd-fynd â’r dull hwn yn cynnwys:
Gwasanaethau atal cychwynnol cyffredinol
- Mae gwasanaethau cyffredinol a phrif ffrwd yn cynorthwyo datblygiad personol a chymdeithasol plant trwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol a mynediad at gymorth iechyd a lles, ac yn darparu cyfleoedd a gweithgareddau chwaraeon, cymdeithasol a hamdden eraill. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys gofal iechyd, addysg, a mynediad at ddarpariaeth chwarae briodol a diogel.
Gwasanaethau atal cychwynnol cynnar
- Gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid: gwasanaethau atal cynnar ac wedi’u targedu a ddarperir gan wasanaethau cyfiawnder ieuenctid i atal plant rhag dod i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid, fel y disgrifiwyd yn flaenorol.
- Stop It Now!Cymru: mae Sefydliad Lucy Faithfull yn darparu ystod o wasanaethau a chymorth i rieni a gweithwyr proffesiynol i godi ymwybyddiaeth o gam-drin plant a chadw plant yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant, sesiynau addysg gyhoeddus, pecyn cymorth i ymarferwyr, a chyngor cyfrinachol.
- Mae StreetGames yn elusen ‘chwaraeon ar gyfer datblygu’ sy’n cefnogi rhwydwaith o sefydliadau cymunedol i greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Fel partner cenedlaethol, mae StreetGames yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, i ddatblygu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Mae Dyfodol Cadarnhaol yn rhaglen cynhwysiant cymdeithasol sy’n seiliedig ar chwaraeon a ddefnyddir i ymgysylltu â phobl ifanc a chefnogi eu datblygiad personol, addysgol a chymdeithasol trwy ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Mae Gwasanaethau Tân ac Achub yn darparu ystod o raglenni i blant a phobl ifanc ar ddiogelwch tân a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn eu helpu i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a galwedigaethol. Mae eu rhaglenni blaenllaw, Ffenics a Myfyrio, yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Gwasanaethau atal cychwynnol wedi'u targedu a datrysiadau
- Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn gweithio gyda’r heddlu, awdurdodau lleol, a sefydliadau statudol a thrydydd sector i ddargyfeirio plant sydd wedi troseddu rhag cael eu herlyn yn y llys trwy ddefnyddio datrysiadau y tu allan i’r llys lle bo’n briodol, fel y disgrifiwyd yn flaenorol.
- Cynllun a ariennir gan Lywodraeth y DU yw Turnaround ac mae’n cael ei ddarparu gan wasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Mae'r rhaglen yn mynd i'r afael â bylchau mewn cymorth ac yn helpu rhai grwpiau o blant na fyddent fel arfer yn cael cymorth gan wasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Plant cymwys yw’r rhai sy’n destun penderfyniad Dim Camau Pellach neu benderfyniad cymunedol, sydd wedi cael rhybuddiad cyntaf, ac sydd wedi’u rhyddhau, eu rhyddfarnu neu eu dirwyo gan lys. Mae hefyd yn cynnwys plant sydd wedi cael eu cyfweld dan rybuddiad ac wedi mynychu cyfweliad gwirfoddol. Mae plant sy'n destun sancsiynau ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn gymwys i gael cymorth Turnaround (atal eilaidd).
Egwyddorion atal trais
Y naw strategaeth yw craidd Fframwaith Cymru Heb Drais, sy’n ymestyn o’r blynyddoedd cynnar i oedolaeth gynnar ac yn cynnwys gweithgarwch atal a all gefnogi unigolion, cymunedau cyfan, a hyd yn oed achosi newid systemig. Gallwch ddarllen mwy am bob strategaeth drwy glicio ar y penawdau isod, ac mae’r ddamcaniaeth newid yn dangos y canlyniadau ac effeithiau allweddol a ddisgwylir os caiff pob strategaeth ei gweithredu’n effeithiol.
Yr amgylchedd strategol
Mae gan wasanaethau cyfiawnder ieuenctid gyfansoddiad statudol o gyfiawnder troseddol (yr heddlu a’r gwasanaeth prawf) a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar lesiant a lles (iechyd, addysg a gofal cymdeithasol plant). Fodd bynnag, mae ehangder y cymorth y gallai fod ei angen ar blant a’u teuluoedd yn llawer ehangach na hyn (gweler isod). Yn ogystal, disgrifir yn gryno isod y prif bartneriaid cyfiawnder troseddol sy’n gweithio’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol:
Partneriaid Atal Troseddau Ieuenctid
- Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr
- Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru
- Y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa a’r ystad ddiogel i bobl ifanc yng Nghymru
- Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
- Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid
- Uned Atal Trais
- Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
- Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru
Ar lefel leol, mae’n rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal awdurdod lleol a chyhoeddi cynllun llesiant gyda nodau (a adolygir yn flynyddol) i fynd i’r afael â’r angen a nodwyd. Gall y dadansoddiad o angen edrych ar gategorïau penodol o unigolion ac, er nad yw anghenion plant yn y system cyfiawnder ieuenctid yn cael eu crybwyll yn benodol, nodir plant agored i niwed a phlant sy'n byw mewn amgylchiadau penodol.
Cymorth gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid atal
- Cam drin domestig a thrais rhywiol
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gwasnaeth ieuenctid
- Digartrefedd
- Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
- Addysg
- Diogelwch cymunedol
- Lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu troseddoli
- Camfanteisio
- Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
- Iechyd a llesiant
- Uned atal trais
- Cymorth i deuluoedd
- Glasbrint Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Ar lefel genedlaethol, mae Cynllun Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru yn nodi’r hyn y mae wedi’i wneud ac y bydd yn ei wneud i gefnogi plant i ffynnu a datblygu. Bwriedir i bob maes polisi sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc gael effaith uniongyrchol ar atal plant rhag troseddu. Mae'r canlynol yn grynodeb o'r gweithgarwch sy'n cael ei wneud (nid yw meysydd polisi a drafodwyd eisoes yn y fframwaith yn cael eu hailadrodd yma).
Ysgol, addysg, dysgu a chyrhaeddiad
Ysgol ac ymlyniad i’r ysgol yw un o’r ffactorau amddiffynnol pwysicaf ym mywydau plant. Mae hyn yn cynnwys cynnal ymgysylltiad ag ysgol/addysg, nodi ac ymateb i anghenion dysgu ychwanegol gyda'r cymorth cywir, datblygu llythrennedd, rhifedd a sgiliau, ac annog plant i ddysgu a chyrraedd a gallu datblygu sgiliau galwedigaethol a chael mynediad at gyflogaeth.
Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: mae’r fframwaith yn ffordd systematig o nodi a chefnogi pobl ifanc 11 i 18 oed sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET), sy’n NEET neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae’n darparu mecanwaith i awdurdodau lleol a’u partneriaid nodi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, darparu cymorth priodol, a monitro ei effaith i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc. Dylai fod gan bob awdurdod lleol Gydgysylltydd Ymgysylltiad a Chynnydd i gydlynu a goruchwylio’r gwaith o gyflawni gweithgarwch atal NEET, a Chydgysylltydd Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc sy’n gweithio yn yr un modd ar atal digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) lwfans o £40 yr wythnos yw’r LCA, a delir yn uniongyrchol i’r dysgwr bob pythefnos, sy’n gysylltiedig â phresenoldeb dysgwr cymwys yn ei ganolfan ddysgu. Rhaid i'r dysgwr gael cytundeb dysgu gyda'i ganolfan ddysgu sy'n nodi ei ofynion presenoldeb a pherfformiad i'w alluogi i gyflawni ei gymwysterau rhaglen ddysgu arfaethedig. Mae’r LCA yn grant prawf modd wedi’i dargedu at deuluoedd incwm isel a gall dysgwyr ddefnyddio eu LCA fel y mae’n gweddu orau i’w hanghenion, er enghraifft, deunyddiau cwrs, bwyd, teithio neu weithgareddau allgyrsiol. Mae'r rhai sy'n gadael gofal a'r rhai yn y system cyfiawnder ieuenctid yn bobl sydd wedi'u heithrio at ddibenion prawf modd; mae'r eithriad hefyd yn gymwys i'r rhai sy'n cael budd-daliadau penodol neu sy'n gyfrifol am eu plentyn eu hunain. Amlygodd adolygiad diweddar o’r Cynllun LCA (a gyhoeddwyd ar 17 Gorffennaf 2024) fod dysgwyr a chanolfannau dysgu yn credu bod cydberthynas rhwng presenoldeb cryf a chyflawniad addysgol, ac mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn awgrymu bod yr LCA yn galluogi dysgwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau, gan annog presenoldeb ymhlith y rhai sy’n ei dderbyn.
Gwaharddiadau ysgol: mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar waharddiadau o’r ysgol yn dechrau o’r safbwynt bod yn rhaid i ysgolion gael polisïau a gweithdrefnau ar waith sy’n hybu ymddygiad da ac yn atal ymddygiad gwael. Dylai’r egwyddorion gynnwys hybu hunanddisgyblaeth a pharch at eraill, a phwysigrwydd gwrando ar bob aelod o gymuned yr ysgol, gan gynnwys y dysgwyr. Dylent fod yn berthnasol i bob aelod o gymuned yr ysgol, gan gynnwys staff a rhieni a gofalwyr.
Dim ond mewn ymateb i achosion difrifol o dorri polisi ymddygiad yr ysgol y dylid gwneud y penderfyniad i wahardd a phe byddai caniatáu i’r dysgwr aros yn yr ysgol yn niweidio addysg neu les y dysgwr neu eraill yn yr ysgol yn ddifrifol. Am ragor o wybodaeth, gweler Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Anghenion dysgu ychwanegol: mae gan blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) anhawster dysgu neu anabledd sy’n galw am gymorth ychwanegol, a elwir yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Gall darpariaeth ddysgu ychwanegol fod ar sawl ffurf a gall gynnwys unrhyw gymorth sy'n digwydd y tu mewn neu'r tu allan i'r ystafell ddosbarth brif ffrwd lle mae'n ychwanegol at yr hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran neu'n wahanol iddo. Rhoddir cynllun datblygu unigol i ddysgwyr ag ADY sy'n disgrifio'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen arnynt ac sy'n nodi pwy sy'n ei darparu.
Sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol: nod y Fframwaith ar Sefydlu Dull Ysgol Gyfan yw mynd i’r afael ag anghenion llesiant emosiynol a meddyliol pob plentyn ac unigolyn ifanc, yn ogystal â staff ysgol, fel rhan o gymuned yr ysgol gyfan. Mae’n cydnabod na all yr ysgol ar ei phen ei hun ddiwallu holl anghenion yr hyn sy’n boblogaeth gymhleth o bobl ifanc y bydd eu hanghenion yn amrywio wrth iddynt symud ymlaen o fabandod i lencyndod ac oedolaeth gynnar. Mae’n ymwneud ag adeiladu gwytnwch ymhlith plant a phobl ifanc, yn ogystal â chymryd camau ataliol a mynd i’r afael ag anghenion. Rydym am sicrhau bod plant yn gallu deall eu hemosiynau eu hunain ac yn gallu rheoli heriau o fewn a thu allan i'r ysgol, a hefyd am feithrin dysgwyr fel eu bod yn profi llesiant emosiynol a meddyliol cadarnhaol.
Mynd i’r afael â bwlio, rhagfarn ac aflonyddu mewn ysgolion: mae gan Lywodraeth Cymru ddull dim goddefgarwch tuag at unrhyw fath o fwlio neu hiliaeth yn system addysg Cymru. Mae ymddygiad sy'n gysylltiedig â rhagfarn a bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn o unrhyw fath yn annerbyniol mewn ysgolion. Lluniodd Llywodraeth Cymru ganllawiau gwrth-fwlio statudol, Hawliau, Parch, Cydraddoldeb, i helpu ysgolion i frwydro yn erbyn bwlio ac aflonyddu a sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ei gefnogi yn yr ysgol. Mae’r canllawiau’n nodi ein disgwyliad bod bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn yn cael ei ystyried yn ofalus o fewn strategaeth atal sy’n ystyried yn benodol anghenion pob dysgwr â nodweddion gwarchodedig.
Ysgolion bro: mae ysgolion bro yn chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ac anfantais economaidd-gymdeithasol ar gyrhaeddiad addysgol. Mae dysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn cael effaith fawr ar ddeilliannau dysgwyr sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol, ond mae amgylchedd y cartref a’r gymuned ehangach hefyd yn ddylanwadau arwyddocaol. Trwy gydweithio ar draws yr ysgol, y cartref a’r gymuned, gallwn gefnogi ein plant a’n pobl ifanc yn fwy effeithiol.
Hyfforddiant a chyflogaeth
Y Warant i Bobl Ifanc: y Warant i Bobl Ifanc yw ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i roi cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed sy’n byw yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant neu help i gael gwaith neu hunangyflogaeth. Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn darparu strwythur ymbarél sy’n eistedd uwchben rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc, gyda’r nod o wneud defnydd llawn o ymyriadau presennol a chreu taith syml i bobl ifanc waeth beth fo’u hamgylchiadau a’u cefndir.
Cymunedau am Waith a Mwy: mae’r rhaglen hon yn darparu cymorth cyflogaetha mentora arbenigol i bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Bydd pob unigolyn ifanc sy'n cofrestru ar y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy yn derbyn mentor cyflogaeth ieuenctid a fydd yn ei helpu i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth ac i gwblhau unrhyw hyfforddiant angenrheidiol cyn symud ymlaen i ddod o hyd i waith. Mae mentoriaid hefyd yn helpu cyfranogwyr gyda sgiliau meddal yn ogystal â materion ehangach y gallent fod yn eu profi, megis materion iechyd neu hyder.
Prentisiaethau: mae’r Datganiad Polisi ar Brentisiaethau yn nodi fframwaith strategol ar gyfer dyfodol y rhaglen brentisiaethau, gyda ffocws ar fynd i’r afael â’r heriau y mae unigolion a chyflogwyr yn eu hwynebu oherwydd effaith COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Mae’n amlinellu sut y gall prentisiaethau gefnogi adferiad a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o fuddsoddiad y llywodraeth, gan sicrhau ein bod yn sicrhau’r buddion cymdeithasol ac economaidd mwyaf posibl.
Mae’r datganiad yn nodi tri amcan a chamau gweithredu cysylltiedig, y mae pob un ohonynt yn cyd-fynd â’n Cenhadaeth Economaidd ar ei newydd wedd ac yn cefnogi ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau.
- Amcan 1: meithrin gwydnwch a chynaliadwyedd
- Amcan 2: mynd i'r afael â phrinder sgiliau a hybu twf
- Amcan 3: prentisiaethau cynhwysol sy’n gwella cyfleoedd bywyd pobl
Mae Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) wedi gweld dros 10,000 o bobl yn cychwyn ar y rhaglen ers iddi ddechrau yn 2022, sy’n dangos bod gwir angen y ddarpariaeth hon. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc hyn yn agored i niwed mewn rhyw ffordd, mewn perygl o ddod yn NEET (gyda’r holl wendidau iechyd a chymdeithasol a ddaw yn sgil hynny) a/neu wynebu llawer o rwystrau i gael mynediad at lwybrau addysg mwy ‘traddodiadol’. Mae TSC+ yn rhoi cymorth wedi'i deilwra'n unigol iddynt i'w helpu i gael hyfforddiant pellach neu waith.
Mae Gyrfa Cymru: yn gorff sy’n darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd proffesiynol, annibynnol a diduedd i bob oed yng Nghymru, wedi'i deilwra i anghenion unigol. Mae cynghorwyr gyrfa yn defnyddio ystod eang o wybodaeth am y farchnad lafur leol a chenedlaethol i helpu i arwain pobl ifanc gyda phenderfyniadau gyrfa ar adegau pontio allweddol.
Cymru’n Gweithio yw dull Llywodraeth Cymru o ddarparu cyfarwyddyd a chymorth cyflogadwyedd a gyrfaoedd am ddim sy’n ddiduedd ac wedi’i deilwra i anghenion ac amgylchiadau unigolyn. Mae’r gwasanaeth, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, ar gael i unigolion 16 oed a throsodd. Mae cynghorwyr gyrfa yn cynnal asesiad ar sail anghenion, sy’n cynnwys rhwystrau i gyflogaeth, ac yn atgyfeirio’r unigolyn i gymorth priodol.
Teithio a thrafnidiaeth
Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn gosod agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, fforddiadwy, ddiogel a dibynadwy sy’n gweithio i’n holl bobl a’n cymunedau, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Mae’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol yn amlinellu’r ystod eang o gamau sy’n cael eu cymryd i wireddu’r weledigaeth hon.
Yn 2022, cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru, gyda chefnogaeth y Comisiynydd Plant, Siarter Plant a Phobl Ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru adeiladu ar y fenter bwysig hon drwy sefydlu Grŵp Cynghori Plant a Phobl Ifanc, a fydd yn ein helpu i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn penderfyniadau am wasanaethau trafnidiaeth yn y dyfodol.
Mae plant a phobl ifanc eisoes yn elwa ar gonsesiynau tocynnau ar wasanaethau trên a bws:
- mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim ar holl wasanaethau National Rail
- gall plant dan 11 oed deithio am ddim ar unrhyw adeg ar wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru
- gall plant dan 16 oed deithio am ddim yn ystod oriau brig yng nghwmni oedolyn sy'n talu am docyn
- mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim ar wasanaethau bws lleol pan fyddant yng nghwmni oedolyn ac maent hefyd yn cael teithio am bris gostyngol tan eu pen-blwydd yn 16 oed
Fyngherdynteithio: gall plant a phobl ifanc rhwng 16 a 21 oed wneud cais am docyn teithio sy’n rhoi prisiau gostyngol ar fysiau (o draean) wrth deithio o fewn Cymru.
Hybu iechyd a llesiant
Gall plant yn y system cyfiawnder ieuenctid gael problemau iechyd am wahanol resymau. Mae hyn yn cynnwys peidio â chofrestru gyda meddyg neu ddeintydd a pheidio â gallu cael mynediad at ofal iechyd pan fydd ei angen arnynt. Gall plant roi eu hunain mewn sefyllfaoedd niweidiol oherwydd eu ffordd o fyw, yn enwedig pan fyddant o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ac yn ymddwyn yn beryglus, e.e. gyrru pan nad ydynt gymwys i wneud hynny. Gall digwyddiadau arwyddocaol yn y gorffennol, amgylchiadau presennol a phryderon am y dyfodol effeithio ar lesiant emosiynol a meddyliol. Er bod angen cymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ar rai plant, efallai y bydd angen mathau eraill o gymorth therapiwtig arbenigol ar eraill sy’n agored i niwed yn emosiynol.
Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn ailgynllunio gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn gwella gwaith atal, mynd i’r afael â stigma, a hyrwyddo dull ‘dim drws anghywir’ ar gyfer cymorth iechyd meddwl.
Rhaglen Plant Iach Cymru
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru a’r rhaglen Dechrau’n Deg yn chwarae rhan hanfodol mewn gwella canlyniadau iechyd a hybu iechyd plant a llesiant plant yng Nghymru.
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn cefnogi pob teulu yng Nghymru drwy gynnig cyffredinol sydd wedi’i deilwra yn ôl yr angen. Darperir y rhaglen yn bennaf gan wasanaethau ymwelwyr iechyd ar gyfer plant dan bump oed a gwasanaethau nyrsio ysgolion ar gyfer plant oed ysgol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi model gweithredu unedig newydd i ategu’r fframweithiau nyrsio presennol ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Bydd y model gweithredu i bob pwrpas yn ymestyn rhaglen bresennol Rhaglen Plant Iach Cymru drwy ymestyn y cynnig iechyd cyhoeddus cyffredinol i bob plentyn oedran ysgol gorfodol, ni waeth ym mha leoliad.
Strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol 2025 i 2035: yn nodi’r blaenoriaethau fel rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant a darparu dull cynaliadwy o sicrhau bod gwasanaethau’n cefnogi datblygiad perthnasoedd iach rhwng rhieni a babanod ac iechyd meddwl babanod. Mae’r strategaeth hefyd yn cydnabod y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar y rhai sydd mewn cysylltiad â’r system gyfiawnder i ddiogelu eu hiechyd meddwl. Disgwylir i’r strategaeth derfynol gael ei chyhoeddi yn gynnar yn 2025.
Strategaeth atal hunanladdiad a hunanniweidio: Cynllun Cyflawni 2025 i 2028: yn nodi nifer o egwyddorion sy'n cadarnhau ffocws ar anghydraddoldebau a grwpiau sy'n wynebu risg, a chydweithio aml-sector gyda'r angen i sicrhau bod gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad bywyd. Disgwylir i’r strategaeth derfynol gael ei chyhoeddi yn gynnar yn 2025.
Mae Fframwaith Nyth wedi'i ddatblygu i gynorthwyo Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru i gynllunio gwasanaethau i sicrhau dull 'system gyfan' ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd meddwl, lles a chymorth i blant a'u teuluoedd.
Mae mentrau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a bod yn ystyriol o drawma wedi’u trafod yn adrannau perthnasol y fframwaith hwn.
Lleferydd, iaith a chyfathrebu
Gwyddom fod datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ddangosydd pwysig o lesiant cyffredinol plant. Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn cael effaith ar ystod eang o ganlyniadau, gan gynnwys ymddygiad ac iechyd meddwl, cyflogadwyedd, a’u tebygolrwydd o fynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol.
Mewn ymateb i hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant gan eu bod yn hanfodol ar gyfer canlyniadau hirdymor cadarnhaol.
Mae’r Siarad Gyda Fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn ceisio ysgogi gwelliant yn y ffordd y caiff plant yng Nghymru eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Datblygwyd Siarad Gyda Fi mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith. Mae hyn wedi ein helpu i nodi'r camau y mae angen inni eu cymryd dros y blynyddoedd i ddod.
Mae ymgyrch Siarad Gyda Fi yn canolbwyntio ar ddeg neges allweddol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu, i gyd yn seiliedig ar ryngweithio ymatebol rhwng oedolion a phlant. Rydym yn buddsoddi mewn datblygu ymyriadau dwyieithog sy’n seiliedig ar dystiolaeth i alluogi ymarferwyr blynyddoedd cynnar i ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Mae plant sy'n profi anfantais economaidd neu gartref yn wynebu risg uwch o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, ac mae cefnogi teuluoedd i ddatblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eu plant trwy ryngweithio ymatebol yn ffordd allweddol o ddiwallu’r angen hwn.
Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn dilyn graddiant cymdeithasol, gyda phlant sy'n byw mewn tlodi mewn mwy o berygl o fod ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Drwy nodi a chefnogi’r plant hyn cyn gynted â phosibl, gallwn helpu i gau’r bwlch anfantais.
Un o lawer o adnoddau y gall timau gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid eu defnyddio i wella eu darpariaeth lleferydd, iaith a chyfathrebu, heb fod angen darpariaeth therapi lleferydd ac iaith lawn, yw hyfforddiant ‘The Box’ Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, ynghyd ag adnoddau sydd wedi’u cynllunio i roi’r gallu i weithwyr proffesiynol yn y system gyfiawnder adnabod problemau cyfathrebu a’r sgiliau i weithio’n llwyddiannus gydag unigolion sydd â phroblemau o’r fath. Rydym yn annog timau i wneud defnydd llawn o'r adnoddau hyn i gefnogi eu gwaith a diwallu anghenion y plant y maent yn gweithio gyda nhw. Gallai adnoddau ‘The Box’ hefyd helpu i sefydlu lefel y galw am therapyddion lleferydd ac iaith o fewn y system cyfiawnder ieuenctid a chefnogi gwaith mwy ystyriol yn y maes hwn dros y tymor hwy.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob gwasanaeth Dechrau’n Deg yng Nghymru, ac mae hynny’n gyson ym mhob gwasanaeth Dechrau’n Deg. Yn sgil ehangiad Dechrau'n Deg, mae mynediad cynyddol at gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu ar gyfer y plant, pobl ifanc a theuluoedd hynny wedi dechrau. Ein nod yw nodi a chefnogi plant a phobl ifanc yn gynt ac yn fwy effeithiol, oherwydd gall nodi’r anghenion cyfathrebu lleferydd ac iaith hynny’n gynnar leihau’r risg.
Addysg a chymorth camddefnyddio sylweddau
Mae defnydd sylweddau ymhlith plant yn gyffredinol yn gysylltiedig ag alcohol, tybaco a chanabis. Mae'n ddefnydd adloniadol yn aml ond gall fod yn broblemus hefyd. Gall troseddu fod yn gysylltiedig â meddu ar sylweddau anghyfreithlon, troseddu dan ddylanwad, a throseddau meddiangar. Gall plant hefyd gael eu hecsbloetio trwy linellau cyffuriau, sy'n golygu cael eu gorfodi i storio cyffuriau a/neu eu cludo i ardaloedd eraill.
Mae Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru 2019 i 2022 yn nodi polisïau ar gyfer codi ymwybyddiaeth o niwed camddefnyddio sylweddau, camau gweithredu i wella llesiant corfforol a meddyliol, a ffyrdd o sicrhau mynediad amserol at wasanaethau effeithiol o ansawdd da. Mae’n canolbwyntio ar atal niwed, adnabod yn gynnar, ac ymyrraeth i ddargyfeirio plant sy’n dechrau camddefnyddio sylweddau ac i gefnogi’r rhai sy’n gwneud defnydd mwy difrifol. Trwy ein Cronfa Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau, mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo arian ar gyfer plant a phobl ifanc o fewn yr arian a ddyrennir i Fyrddau Cynllunio Ardal. Gan gydnabod y cynnydd yn y galw am gymorth, mae’r dyraniad wedi’i glustnodi wedi cynyddu £1.5 miliwn yn 2023 i 2024, gan ddod â’r cyfanswm i £5.25 miliwn, ac wedi cynyddu £1 miliwn pellach i £6.25 miliwn yn 2024 i 2025.
Mae’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau yn cydnabod y rôl y mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn ei chwarae wrth asesu anghenion plant mewn perthynas â defnyddio sylweddau ac ymateb iddynt. Mae'r fframwaith yn pwysleisio rôl adnabod yn gynnar a gwaith atal a darparu dulliau ac ymyriadau lleihau niwed. Ymhellach, cyfeirir hefyd at ymwneud plant â llinellau cyffuriau a phryderon a all ddeillio o gamfanteisio.
Mae Canllawiau ar gyfer Addysg Camddefnyddio Sylweddau yn rhoi cyngor i ysgolion ar ddatblygu polisi camddefnyddio sylweddau, darparu addysg camddefnyddio sylweddau, a beth i'w wneud os bydd problem yn yr ysgol yn codi.
Digartrefedd
Mae angen trefniadau byw sefydlog ac addas ar blant. Gall ansawdd llety effeithio ar sut maent yn byw eu bywydau ac a oes ganddynt sylfaen sefydlog a chefnogaeth deuluol ddigonol (ariannol ac emosiynol) neu a ydynt wedi profi symud tŷ sawl gwaith a digartrefedd. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu deddfwriaeth sy’n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynt ac atal digartrefedd. Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn helpu i ffurfioli a chefnogi'r gwaith atal da sydd eisoes ar y gweill mewn perthynas â digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Mae Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn nodi’r camau gweithredu lefel uchel y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â digartrefedd a’i atal. Mae'n nodi'r weledigaeth i ddigartrefedd fod yn brin, yn fyr ac yn ddi-ail. Mae’r cynllun yn cynnwys camau gweithredu tai a chymorth sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc.
Mae'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid y cyfeirir ato ar dudalen 15 yn cynnwys atal digartrefedd ymysg pobl ifanc. Mae gan awdurdodau lleol Gydgysylltydd Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc wedi'i leoli yn y gwasanaeth ieuenctid, sy'n gweithio gyda’i gydweithwyr tai, addysg a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod y rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd yn cael eu nodi'n gynnar a'u cefnogi.
Mae Atal Digartrefedd a Hyrwyddo Annibyniaeth yn fframwaith hyblyg i awdurdodau lleol a’u partneriaid ei ddefnyddio i ddarparu dull cynlluniedig o atal digartrefedd a darparu opsiynau tai i bobl ifanc.
Mae’r Fframwaith Llety a Chymorth i’r Rhai sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn darparu canllawiau i wella pontio o ofal i fyw’n annibynnol. Mae’r fframwaith wedi’i gynllunio i sicrhau bod y rhai sy’n gadael gofal yn cael y cymorth hyblyg sydd ei angen arnynt fel nad oes unrhyw unigolyn â phrofiad o fod mewn gofal yn cael ei anghofio. Mae angen ar unigolion ifanc sy’n gadael gofal gefnogaeth gan eu rhieni corfforaethol trwy gydol y cyfnod pontio hwn a thu hwnt.
Nod y Gronfa Arloesi ar gyfer Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc yw cynyddu'r opsiynau tai a chymorth sydd ar gael i bobl ifanc. Mae'r prosiectau'n benodol i bobl ifanc 16-25 oed sy'n agored i niwed ac sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref neu'n ddigartref ar hyn o bryd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhai sy'n gadael gofal, pobl ifanc anabl, a'r rhai sydd wedi bod yn y system cyfiawnder ieuenctid yn flaenorol. Mae'r gwerthusiad o'r Gronfa Arloesi ar gyfer Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc yn cynnwys enghreifftiau o astudiaethau achos.
Mae’r Grant Cymorth Tai yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol i gomisiynu gwasanaethau i atal digartrefedd a chefnogi pobl i gael y gallu, annibyniaeth, sgiliau a hyder i gael a/neu gynnal cartref sefydlog ac addas, gan gynnwys ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref neu’n ddigartref ar hyn o bryd, a gwaith cyn-denantiaeth gydag unigolion o dan 16 oed.
Cymorth i deuluoedd
Mae gan deuluoedd rôl hynod ddylanwadol wrth fagu plant a’u cefnogi i fyw bywydau pwrpasol a boddhaus a sicrhau eu bod yn derbyn gofal anogol o ansawdd da. Gellir cysylltu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ag ansawdd y gofal a dderbynnir ac a yw cartref yn fan diogel.
Mae’n bosibl y bydd angen ymyrraeth gynnar gyffredinol neu gymorth rhianta wedi’i dargedu ar rieni i ddiwallu anghenion plant, rheoli ymddygiad heriol a datblygu sgiliau rhianta effeithiol. Gall y gwasanaethau cymdeithasol hefyd fod yn gysylltiedig os oes pryderon diogelu neu amddiffyn plant.
Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi’i chynllunio i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gyda phwyslais ar gymorth cynnar, atal, a darparu cymorth i’r teulu cyfan. Elfen allweddol o Teuluoedd yn Gyntaf yw
Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu yn dod ag ystod o weithwyr proffesiynol ynghyd i helpu teulu i fynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu. Mae'r rhaglen yn gweithio gydag ystod o bartneriaid, gan gynnwys darparwyr gwaith ieuenctid, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, timau troseddwyr ifanc a gwasanaethau adsefydlu cymunedol. Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn cefnogi teuluoedd i feithrin gwytnwch, gan roi'r sgiliau iddynt reoli unrhyw anawsterau a all ddod yn sgil bywyd yn y dyfodol.
Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd drws blaen yr awdurdod ar gyfer rhieni a theuluoedd sy'n chwilio am gyngor, gwybodaeth a chyfeirio ar ystod o wasanaethau sydd ar gael yn eu hardal leol.
Cysylltiadau teuluol ar gyfer plant sydd â rhieni yn y system gyfiawnder: o dan y Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod a gyhoeddwyd yn 2019, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gwasanaeth Ymweld â Mam ar y cyd ag HMPPS yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT) yn weithredol yng Ngharchar y Parc Eastwood a Charchar Styal ac mae'n cefnogi menywod o Gymru sy'n bwrw eu tymor yn y carchar. Mae Ymweld â Mam yn nodi menywod sydd mewn perygl o golli cysylltiad â’u plant ac yn cynnig cymorth arbenigol i gadw a chryfhau cysylltiadau teuluol. Gwahoddir mamau i gymryd rhan mewn rhaglenni magu plant a pherthnasoedd ac i gael cymorth gan y tîm, a all gynnwys cymorth i ymgysylltu â gweithwyr cymdeithasol a gwasanaethau eraill.
Mae cynnal perthnasoedd cyfarwydd cadarnhaol rhwng mamau yn y carchar a’u plant yn hollbwysig i’r fam a’r plentyn. Mae’r perthnasoedd hyn yn helpu i gynorthwyo adsefydlu menywod, lleihau pryder yn y carchar, lleihau hunan-niweidio, a chyfrannu at drefn a disgyblaeth dda yn y carchar. Mae’r perthnasoedd hyn hefyd yn cael effaith sylweddol ar lesiant emosiynol y plant, eu cyrhaeddiad yn yr ysgol, a’r risg y byddant yn mynd ymlaen i fod yn droseddwyr eu hunain. Mae hanner y menywod yn y carchar yn famau, gan adael plant yn ddioddefwyr cudd gwahanu, y teulu'n chwalu a cholli cartref y teulu. Cafodd y gwasanaeth Ymweld â Mam ei rhedeg drwy’r pandemig ac mae’n dal i ddarparu cymorth arbenigol i fenywod o Gymru sy’n bwrw eu tymor yn y carchar. Yn ystod COVID-19, cyflwynwyd ‘ymweliadau porffor’ digidol yn lle ymweliadau ‘wyneb yn wyneb’. Roedd hyn yn sicrhau bod cyswllt parhaus ac o bell rhwng mamau yn y system cyfiawnder troseddol a’u plentyn/plant yn dal i allu digwydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadeirio Grŵp Cyswllt Teulu Cymru ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru. Mae’r grŵp yn dwyn ynghyd arweinwyr o bob rhan o’r system gyfiawnder i drafod a gwella’r cymorth sydd ar gael i blant pobl yn y system gyfiawnder.
Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arbenigol cadarnhaol ar fagu plant i rieni â phlant 0 i 18 oed ar bob agwedd ar fagu plant. Yn fwy penodol, mae’n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i’r plentyn hŷn, gan gynnwys ‘Tips defnyddiol i rieni pobl ifanc yn eu harddegau’ a ‘Tips defnyddiol ar gyfer magu plant cadarnhaol’, ac, o dan yr adran Eich Cefnogi Chi, adnoddau i gefnogi’r rhiant a’r gofalwr, gan gynnwys ‘Gwnewch amser i ofalu am eich hunan a rheoli straen’ a ‘Gofalu amdanoch chi a’ch teulu’ ar gyfer rhieni a neiniau a theidiau sy’n delio ag amgylchiadau anodd.
Darpariaeth ranbarthol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ag anghenion cymhleth: mae Rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar natur newidiol lleoliadau i blant â’r anghenion mwyaf cymhleth, gan gynnwys lleoliadau mewn llety diogel. Mae nifer o linynnau i hyn, gan gynnwys datblygu dewisiadau amgen i lety diogel, a gweithio gyda darparwyr gofal preswyl a maeth, yr heddlu a CAMHS ar ddulliau o reoli ymddygiad anodd a allai fod yn niweidiol.
Fel rhan o’r ddyletswydd gyffredinol i sicrhau darpariaeth ddigonol i ddiwallu anghenion plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, rhaid i awdurdodau lleol ystyried yr angen am lety diogel a dewisiadau eraill yn lle llety diogel. O ystyried natur arbenigol y lleoliadau hyn, a’r newid yn y boblogaeth mewn cartrefi plant diogel, disgwylir i awdurdodau lleol ddatblygu dulliau rhanbarthol o ymdrin â hyn. Mae’r cod ymarfer ar gyfer awdurdodau lleol yn ei gwneud yn glir mai dim ond pan fo’n gwbl angenrheidiol y dylid darparu lleoliadau diogel, a lle mae dewisiadau eraill wedi’u hystyried. Rhaid iddo fod yn ymyriad cadarnhaol a chael ei wneud ar y sail mai dyma'r opsiwn gorau i ddiwallu anghenion penodol y plentyn hwnnw.
Bwriad darpariaeth ranbarthol ar gyfer plant ag anghenion cymhleth yw atal pethau rhag gwaethygu a hwyluso’r broses o lacio cyfyngiadau darpariaeth llety diogel ac iechyd meddwl Haen 4 i gleifion mewnol. Yn y cyd-destun hwn, diffinnir ‘anghenion cymhleth’ fel anghenion emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl dwys neu ddifrifol sy’n gofyn am ofal a chymorth arbenigol, amlasiantaethol mewn lleoliad cartref a gomisiynir ar y cyd gan bartneriaid statudol y rhanbarth. Yn ogystal, mae plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth yn aml ar gyrion lleoliadau cyfiawnder neu'n hysbys i'r heddlu. Felly, dylai gwasanaethau plant hefyd fod yn ceisio cefnogi’r plant hyn gyda lleoliadau amgen i liniaru eu hymddygiad ac atal mynediad i’r system gyfiawnder.
Gwaith ieuenctid
Mae angen i bobl ifanc allu cymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol yn eu hardal leol a chael cyfleoedd ar gyfer dysgu ac addysg anffurfiol. Mae arnynt angen lleoedd y gallant gael mynediad iddynt yn wirfoddol, lle byddant yn cael cymorth a chefnogaeth anffurfiol. Mae gweithwyr ieuenctid yn darparu cyngor ac arweiniad amhrisiadwy, yn darparu gwasanaethau allgymorth i ddod i adnabod y plant yn eu hardal leol, a'u hannog i ymgysylltu â'r gwasanaeth. Mae nifer o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru wedi’u cydleoli â gwasanaethau gwaith ieuenctid o fewn awdurdodau lleol, sy’n galluogi pobl ifanc i gael mynediad at y ddarpariaeth brif ffrwd hon. Mae newidiadau i ofynion cofrestru’r gweithlu a gyflwynwyd yn 2023 yn amodi bod yn rhaid i bob gweithiwr ieuenctid cyflogedig, cymwysedig a gweithiwr cymorth ieuenctid, waeth beth fo’r lleoliad, gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Strategaeth Genedlaethol Gwaith Ieuenctid Cymru 2019 yn nodi’r weledigaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Ei nod yw bod pobl ifanc yn cael eu cynorthwyo i ffynnu; bod gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol; bod staff gwirfoddol a phroffesiynol yn cael eu cefnogi i wella eu harfer; bod gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall; a bod yna fodel cyflawni cynaliadwy.
Mae gwaith ar y gweill, o dan gyngor gan Fwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid, i ddatblygu’r argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn ei adroddiad ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’, gyda’r nod o gyflawni model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys camau i gefnogi a chryfhau partneriaethau rhwng rhanddeiliaid i wella cynllunio a chyflwyno gwaith ieuenctid.
Diogelwch cymunedol
Mae diogelwch cymunedol yn ddull partneriaeth i leihau trosedd ac anhrefn mewn cymunedau lleol. Roedd Adroddiad Morgan yn cyflwyno’r syniad o ‘ddiogelwch cymunedol’ drwy gymryd agwedd leol ‘gyfannol’ at leihau ac atal troseddau. Ymhelaethwyd ar hyn yn Crime and Disorder Act 1998, gan roi dyletswydd gyfreithiol ar asiantaethau allweddol i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â throseddau a gwella diogelwch y cyhoedd yn hytrach na'r heddlu yn unig.
Mae’r termau ‘diogelwch cymunedol’ a ‘chymunedau mwy diogel’ yn aml yn cael eu defnyddio’n gyfnewidiol; fodd bynnag, mae'r olaf yn gyffredinol yn adlewyrchu'r uchelgeisiau ehangach ar gyfer dinasyddion Cymru. Mae llawer o waith diweddar ‘cymunedau mwy diogel’ yng Nghymru wedi’i ysgogi gan Adolygiad Gweithio gyda’n Gilydd i greu Cymunedau mwy Diogel 2017 Llywodraeth Cymru. Creodd yr adolygiad weledigaeth y bydd cymunedau mwy diogel yn bodoli yng Nghymru lle mae ‘pob cymuned yn gryf, yn ddiogel ac yn hyderus mewn modd sy’n darparu cyfle cyfartal, cyfiawnder cymdeithasol, gwytnwch a chynaliadwyedd i bawb’.
O ganlyniad i’r adroddiad, crëwyd Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru fel y llais strategol i bawb sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol ledled Cymru. Sefydlwyd y rhwydwaith drwy ddull gweithredu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, CLlLC a Phlismona yng Nghymru i feithrin cymunedau mwy diogel drwy hyrwyddo ac annog gweithio mewn partneriaeth ac mae’n cydlynu gwaith ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Cynlluniwyd Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru i gydlynu gwaith ar ddiogelwch cymunedol ledled Cymru gan hyrwyddo pwysigrwydd diogelwch cymunedol a chydlynu gwaith ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n cynnal y rhwydwaith.
Atodiad 1: Partneriaid Atal Troseddau Ieuenctid
Mae diwylliant cryf o weithio mewn partneriaeth yng Nghymru sy’n cwmpasu asiantaethau cyfiawnder troseddol, gwasanaethau statudol a sefydliadau trydydd sector. Mae partneriaid a phartneriaethau cyfiawnder allweddol yng Nghymru fel a ganlyn:
Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr
Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn gorff cyhoeddus anadrannol sy’n gyfrifol am oruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cael ei noddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae ganddo sawl swyddogaeth statudol, sy’n cynnwys cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, y rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a sefydliadau eraill ynghylch pa mor dda y mae’r system yn gweithredu drwy fonitro gweithgarwch gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Un o'i flaenoriaethau yw gwireddu gweledigaeth ar gyfer system cyfiawnder ieuenctid Plentyn yn Gyntaf. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.
Gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid
Mae 17 o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru (sy’n cwmpasu’r 22 awdurdod lleol) ac maent yn gweithio gyda phlant sydd ar fin dod i mewn i’r system, y rhai sy’n destun datrysiadau y tu allan i’r llys, y rhai sydd â gorchmynion llys statudol, y rhai sydd yn y ddalfa neu sy’n adsefydlu ar ôl bod yn y ddalfa, a’r rhai sydd wrthi’n trosglwyddo i wasanaethau oedolion (yn enwedig y Gwasanaeth Prawf). Mae'n ofynnol i wasanaethau cyfiawnder ieuenctid gynhyrchu cynllun cyfiawnder ieuenctid blynyddol a gweithio o fewn fframwaith strategol a gweithredol Safonau ar gyfer Plant yn y System Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'r cynllun a'r safonau’n mynnu bod strategaethau a threfniadau partneriaeth lleol i atal plant rhag dod yn rhan o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Llywodraeth Cymru Youth justice services: Wales.
Y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa a’r ystad ddiogel i bobl ifanc yng Nghymru
Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa yn rhan o Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS). Mae ganddo gyfrifoldeb gweithredol am yr ystad ddiogel i bobl ifanc yng Nghymru a Lloegr, sy'n lletya plant a phobl ifanc 18 oed ac iau. Mae dau sefydliad diogel yng Nghymru: Cartref Plant Diogel Hillside, sy’n cael ei redeg gan awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot, a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Carchar y Parc (ym Mhen-y-bont ar Ogwr), sy’n lletya bechgyn 15 i 17 oed ac sy’n cael ei redeg gan G4S.
Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru
Mae Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn fforwm cenedlaethol sy’n dod ag arweinwyr strategol ynghyd sydd â diddordeb cyffredin mewn cyfiawnder ieuenctid. Mae’n cael ei gynnull ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, HMPPS, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF), Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Comisiynydd Plant Cymru, SOLACE, a Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru.
Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am sicrhau bod yr heddlu yn eu hardal yn diwallu anghenion y gymuned leol. Rhaid i gomisiynwyr ymgynghori ar gynllun heddlu a throseddu, a’i lunio, sy’n amlinellu eu blaenoriaethau a sut yr eir i’r afael â nhw mewn partneriaeth ag eraill. Mae cynlluniau heddlu a throseddu ar gyfer pob un o’r pedwar heddlu yng Nghymru yn dangos ymrwymiad i gefnogi, amddiffyn a dargyfeirio plant rhag troseddu, i fod yn ystyriol o drawma, ac i ddatblygu plismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
Uned Atal Trais
Mae Uned Atal Trais Cymru yn cynnwys aelodau o heddluoedd, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, HMPPS, adran mewnfudo’r Swyddfa Gartref a’r sector gwirfoddol. Mae’n defnyddio dull iechyd y cyhoedd o atal trais, drwy ddeall ei achosion yn seiliedig ar dystiolaeth a datblygu ymyriadau i fynd i’r afael ag ef yn seiliedig ar yr wybodaeth hon Youth Violence, Violence Prevention Unit.
Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn dod â phartneriaid cyfiawnder troseddol ynghyd, gan gynnwys HMPPS, GLlTEF, y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol, gwasanaethau heddlu yng Nghymru, Prif Gwnstabliaid Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cyrff y sector gwirfoddol, y Comisiynydd Dioddefwyr, a Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru. Ei ddiben yw lleihau trosedd a gwneud cymunedau’n fwy diogel drwy gyflawni canlyniadau a phrofiadau gwell i’r rhai sy’n dod ar draws y system cyfiawnder troseddol, boed fel dioddefwyr, tystion neu droseddwyr.
