Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o ymchwil ansoddol sy'n archwilio barnau a phrofiadau arweinwyr uwch ac ymarferwyr o ran cynllunio cwricwlwm ac asesu, ac addysgeg.

Mae'r gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm i Gymru yn mabwysiadu dulliau cymysg gan gynnwys arolygon o uwch arweinwyr ac ymarferwyr, arolygon o rieni/gofalwyr a dysgwyr, astudiaethau achos hydredol i ddeall teithiau gwireddu cwricwlwm ysgolion, a sawl astudiaeth ansoddol seiliedig ar bynciau sy'n archwilio elfennau penodol o Gwricwlwm i Gymru. Ei nod yw darparu darlun ansoddol a meintiol eang o sut mae'r diwygiadau'n gweithio, sut mae arfer yn newid a sut mae ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd yn profi'r newidiadau hyn.

Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau un o’r astudiaethau ansoddol seiliedig ar bwnc y gwerthusiad. Roedd yr ymchwil yn cynnwys gwaith maes gyda 9 ysgol ac 1 Uned Cyfeirio Disgyblion (5 ysgol gynradd, 3 ysgol uwchradd, 1 ysgol arbennig ac 1 Uned Cyfeirio Disgyblion), a gynhaliwyd rhwng Mehefin a Hydref 2024. Fe'i harweiniwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a'i gefnogi gan Ymchwil Arad.

Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar:

  • newidiadau i brofiadau plentyn neu berson ifanc o ddysgu drwy Gwricwlwm i Gymru
  • adolygu dysgu cwricwlwm a phrofiadau a gynigir
  • nodi anghenion unigol a darparu cefnogaeth briodol
  • capasiti system i gefnogi tegwch a chynwysoldeb
  • amrywiaeth ymarfer

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried canfyddiadau’r adroddiad ac wedi cyhoeddi ymateb.

Adroddiadau

Cyswllt

Anna Allen Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.