Cod y gweinidogion - Rhagair y Gweinidog
Y safonau ymddygiad cyfansoddiadol a phersonol y disgwylir i weinidogion eu dilyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae Cod y Gweinidogion yn nodi fy nisgwyliad clir ar gyfer fy Llywodraeth o ran y ffordd y byddwn yn gweithio. Mae'n ganllaw ymarferol inni, wrth inni fynd ati i gynnal ein busnes Gweinidogol o ddydd i ddydd. Mae'r Cod hwn yn nodi'r egwyddorion a'r ymddygiadau sy'n ymgorffori'r math o weinyddiaeth rydym am ei harddel - un a ddiffinnir gan broffesiynoldeb, uchelgais, hygrededd ac empathi, a fydd yn llywio'r ffordd y byddwn yn gweithredu bob dydd.
Mae llywodraethu yn ymwneud â'r hyn rydych chi'n ei wneud, ac mae gennym raglen uchelgeisiol ac eang rydym yn ei gweithredu ar fyrder. Ac mae llywodraethu hefyd yn ymwneud â sut rydych chi'n ei wneud. Rwy'n benderfynol y byddwn ni, gyda'n gilydd, yn anelu at y safonau ymddygiad uchaf, ac yn cydymffurfio â'r safonau hyn, wrth inni weithredu'r rhaglen honno - gweithio'n galed bob dydd i wella bywydau pobl Cymru, gydag egni newydd, syniadau newydd ac arweinyddiaeth newydd.
Rhun ap Iorwerth
Prif Weinidog Cymru
