Teithio i bawb: gwella mynediad a chynhwysiant ar draws trafnidiaeth yng Nghymru - Egwyddor 5: ymgorffori newid
Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yr hyn sydd ei eisiau arnom
Rydym am i egwyddorion Teithio i Bawb gael eu hystyried ar bob cam o'r broses o gynllunio, datblygu a chyflwyno ein rhwydweithiau trafnidiaeth.
Drwy arweinyddiaeth gref a mwy o gynrychiolaeth, byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein hegwyddorion wrth wraidd trafnidiaeth yng Nghymru a bydd ein camau gweithredu yn cael effaith barhaol.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- Defnyddio ein strwythurau llywodraethu a'n grwpiau rhanddeiliaid i gynnwys pobl ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd yn y broses o gynllunio, datblygu a chyflwyno ein rhwydweithiau trafnidiaeth.
- Parhau i feithrin ein dealltwriaeth o'r canlynol:
- y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth,
- yr effeithiau y mae'r rhwystrau hyn yn eu cael ar bobl a chymdeithas
- ffyrdd effeithiol o fonitro ein gwaith a deall a yw'n cael effaith gadarnhaol.
Sut y byddwn yn gwneud hyn
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- cynnwys pobl ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd yn y gwaith o ddiweddaru Canllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol er mwyn annog mwy o bobl i gerdded, olwynio a beicio yng Nghymru
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
- rhoi cyngor ac arweiniad i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ac Awdurdodau Lleol ar ymgorffori egwyddorion Teithio i Bawb yn eu gwaith, gan gynnwys y gwaith o gyflwyno Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol
Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.
- adolygu ac atgyfnerthu prosesau recriwtio presennol Trafnidiaeth Cymru i ddenu a chadw staff ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
- atgyfnerthu'r data rydym yn eu defnyddio i fesur y cynnydd rydym wedi'i wneud drwy ddefnyddio'r ffynonellau mwyaf perthnasol ac amrywiol o dystiolaeth. Byddwn yn gweithio gyda phobl â phrofiad bywyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn mesur yr hyn sy'n wirioneddol bwysig
Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.
