Teithio i bawb: gwella mynediad a chynhwysiant ar draws trafnidiaeth yng Nghymru - Egwyddor 4: cynnwys
Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yr hyn sydd ei eisiau arnom
Rydym am i'r bobl sy'n defnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth gael eu cynnwys yn y gwaith o'u cynllunio a'u cyflwyno.
Drwy ddeall profiadau bywyd pobl sy'n defnyddio ein rhwydweithiau, gallwn eu cynllunio i fod yn ddiogel, yn groesawgar ac yn hygyrch o'r dechrau.
Rydym am greu cyfleoedd i bobl gael eu cynnwys yn ein polisïau, seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- dod ag amrywiaeth ehangach o bobl i mewn i'n gwaith, er mwyn iddynt allu llywio'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth.
Sut y byddwn yn gwneud hyn?
Byddwn yn:
- sefydlu Bwrdd Teithio Cynhwysol i roi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. Bydd y bwrdd yn gwneud yn siŵr bod darparwyr trafnidiaeth yn ystyried yr egwyddorion ‘teithio i bawb’. Darllenwch fwy am y Bwrdd Teithio Cynhwysol.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
- sefydlu Panel Teithio Pobl Anabl. Bydd y grwp hwn, o dan arweiniad pobl anabl, yn adeiladu ar gylch gwaith Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru i gynnwys pob rhwydwaith trafnidiaeth. Bydd yn rhoi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â sut i wneud ein rhwydweithiau yn fwy hygyrch a chynhwysol. Darllenwch fwy am y Panel Teithio Pobl Anabl.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
- sefydlu tîm Teithio i Bawb penodol o fewn Trafnidiaeth Cymru a fydd yn gwneud y canlynol:
- cynnig cyngor a chymorth proffesiynol i lunio a chyflwyno cynlluniau hygyrch,
- ceisio arferion gorau o bob cwr o'r byd a'u rhannu
- rhoi cyngor a chymorth ynglŷn â sut i gynnwys pobl ag amrywiaeth eang brofiadau bywyd yn fwy yn ein gwaith.
Bydd y tîm yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer trafnidiaeth ledled Cymru, gan gefnogi awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
