Teithio i bawb: gwella mynediad a chynhwysiant ar draws trafnidiaeth yng Nghymru - Egwyddor 3: hygyrchedd
Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yr hyn sydd ei eisiau arnom
Rydyn ni eisiau i bobl deimlo'n hyderus ynglŷn â chael mynediad i'n trafnidiaeth.
Rydyn ni eisiau cael gwared ar rwystrau, i wneud teithio yn haws.
Gall rhwystrau gynnwys pethau fel:
- grisiau ac arwynebau anwastad
- diffyg cyfleusterau, fel toiledau neu seddi
- goleuadau gwael
- dim digon o gefnogaeth bersonol
- arwyddion a chyfarwyddiadau cymhleth
- bod gwybodaeth ar gael ar-lein yn unig, neu dim ond rhai ieithoedd
- costau uchel
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- asesu ein seilwaith trafnidiaeth er mwyn deall y gwelliannau sydd eu hangen i sicrhau bod ein rhwydweithiau yn hygyrch
- gwneud yn siŵr bod hygyrchedd yn ofyniad craidd ar gyfer bysiau newydd
- nodi a deall amrywiaeth o ddata y gellir eu defnyddio i helpu i ddileu rhwystrau i hygyrchedd ym mhob un o'n rhwydweithiau trafnidiaeth.
Sut y byddwn yn gwneud hyn?
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- Dadansoddi data hygyrchedd drwy archwiliad o orsafoedd trenau yng Nghymru er mwyn deall y materion
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
- Gan weithio gyda Llywodraeth y DU i gynllunio gwelliannau hygyrchedd ym mhob un o'n gorsafoedd trenau
Amserlen: o gwanwyn 2026 ymlaen.
- Adolygu ein safleoedd bysiau, ein gorsafoedd a'n cyfnewidfeydd er mwyn deall ble mae angen gwelliannau.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.
- Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu canllawiau newydd ar hygyrchedd ar gyfer seilwaith bysiau. Bydd hyn yn helpu darparwyr trafnidiaeth wrth gynnal gwaith uwchraddio, a bydd yn creu dyluniadau hygyrch cyson sy'n diwallu anghenion teithwyr bysiau.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.
- Gweithio gyda phobl sydd wedi wynebu problemau o ran hygyrchedd bysiau er mwyn llunio gofynion clir ar gyfer prynu bysiau newydd.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.
- Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar ffyrdd o helpu teithwyr i ystyried nodweddion hygyrchedd yn ein rhwydweithiau trafnidiaeth. Bydd hyn yn helpu teithwyr gynllunio eu siwrneiau yn hyderus.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.
- Ymgysylltu ag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a defnyddwyr gwasanaethau er mwyn deall y rhwystrau a wynebir wrth wneud cais neu gais newydd am Fathodyn Glas, gan ystyried yr adroddiad, ‘Adolygiad o Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru’.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
