Polisi a strategaeth
Teithio i bawb: gwella mynediad a chynhwysiant ar draws trafnidiaeth yng Nghymru - Llywodraethu
Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Tudalen bresennol (8 o 8)
Lawrlwytho'r tudalennau hyn fel PDF , maint ffeil 115 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Bwrdd Teithio Cynhwysol
Bydd aelodau'r Bwrdd Teithio Cynhwysol yn cynnwys:
- cynrychiolwyr pobl â nodweddion gwarchodedig a meysydd croestoriadedd pwysig (er enghraifft pobl ifanc anabl)
- cynrychiolwyr pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is
- aelodau o gymunedau'r lluoedd arfog
- partneriaid cymdeithasol gan gynnwys cynrychiolwyr Undebau Llafur
- cynrychiolwyr o bob dull teithio
- arbenigwyr ym maes cynllunio a chyflwyno hygyrch a chynhwysol
- unrhyw brofiad bywyd neu faes arbenigedd perthnasol arall yr hoffai'r Bwrdd ei weld yn cael ei gynrychioli.
Bydd y Bwrdd yn:
- rhoi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud i gyflawni holl gamau gweithredu Teithio i Bawb.
- gwneud yn siŵr bod yr effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig yn cael ei hystyried wrth ddatblygu polisi, gwasanaethau a seilwaith.
- edrych ar y ffordd y mae pobl yn defnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth o ddrws i ddrws, a lle y gallai rhwystrau effeithio ar sawl math o ddull teithio (er enghraifft cerdded ac olwyno i ddal bws).
Panel Teithio Pobl Anabl
Caiff y Panel Teithio Pobl Anabl ei arwain gan bobl anabl a bydd ei aelodau yn cynnwys:
- pobl anabl ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd ac amhariadau
- aelodau o Banel Hygyrchedd a Chynhwysiant presennol Trafnidiaeth Cymru
- unrhyw brofiad bywyd neu faes arbenigedd perthnasol arall yr hoffai'r Panel ei weld yn cael ei gynrychioli.
Bydd y Panel Arbenigwyr yn:
- cyflawni cylch gwaith ehangach i roi cyngor a sicrwydd ynglŷn â phob dull teithio
- gwneud yn siŵr bod rhaglenni a phrosiectau sy'n cael eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn cyd-fynd ag egwyddorion Teithio i Bawb.
- gwneud yn siŵr bod yr effaith ar bobl anabl yn cael ei hystyried wrth ddatblygu polisi, gwasanaethau a seilwaith.
- edrych ar y ffordd y mae pobl anabl yn defnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth o ddrws i ddrws, a lle y gallai rhwystrau effeithio ar sawl math o ddull teithio (er enghraifft cerdded ac olwyno i ddal bws).
Trefniadau llywodraethu
- Mae'r Bwrdd Teithio Cynhwysol yn rhoi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.
- Bydd y Panel Teithio Pobl Anabl yn adrodd yn uniongyrchol i'r Bwrdd Teithio Cynhwysol.
- Bydd Is-grŵp Teithio Cynhwysol presennol y Bwrdd Teithio Llesol hefyd yn cyfrannu at waith y Bwrdd Teithio Cynhwysol.
- Caiff cymorth ar gyfer y Bwrdd Teithio Cynhwysol a'r Panel Teithio Pobl Anabl ei ddarparu gan Trafnidiaeth Cymru.
