Beth sydd ar gael i'ch cefnogi chi a'ch plentyn i ddefnyddio'r Gymraeg.
Cynnwys
Rhieni a phlant
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghymru chwarae, dysgu a thyfu yn y Gymraeg drwy gynnig grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg a grwpiau cymorth i deuluoedd.
Cymraeg i Bawb
Mae Cymraeg i Bawb yn eich helpu i ddysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r adran Gartref a Gofal Plant yn eich helpu i ddarganfod mwy am sut y gallwch chi a'ch plant ddefnyddio'r Gymraeg gartref.
Rhieni dros Addysg Gymraeg
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn gweithio i gynyddu'r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, ac yn helpu rhieni a gwarcheidwaid i gael mynediad at y ddarpariaeth honno.
Cymraeg i rieni
Mae Cymraeg i rieni yn darparu dolenni at adnoddau Cymraeg sy'n eich helpu i gefnogi'ch plentyn gartref a pharhau â'r gwaith y mae ein hysgolion yn ei wneud i ddatblygu sgiliau dwyieithog eich plentyn.
Darllen Co.
Mae Darllen Co. yn blatfform llyfrau darllen digidol Cymraeg ar gyfer ysgolion a theuluoedd yng Nghymru.
Cymorth gwaith cartref a darllen Cymraeg
Mae Welsh Reading for Parents wedi’i gynllunio gan rieni a'i ddatblygu gydag athrawon i helpu rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddarllen Cymraeg gyda'u plant ifanc gartref.
Darllen: gwybodaeth i rieni a gofalwyr (addysg cyfrwng Cymraeg)
Mae gan yr adnodd Hwb hwn wybodaeth am ddysgu darllen a sut i gefnogi plant.
Tric a Chlic
Mae Tric a Chlic yn rhaglen ffoneg synthetig yn Gymraeg i blant rhwng 3 a 7 oed. Mae'r rhaglen wedi'i hadeiladu o 3 elfen:
- Clywed ac adnabod y synau.
- Cyfuno (adeiladu) synau i'w darllen.
Segmentu (torri) synau i'w sillafu.
Technoleg Gymraeg
Mae tudalen technoleg Gymraeg Helo Blod yn rhoi rhestr o adnoddau Cymraeg a dwyieithog.
Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:
- help gyda rhyngwynebau Cymraeg
- cefnogaeth gyda lleferydd ac ynganu
- gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial (AI), gan gynnwys Chat GPT, a'r Gymraeg
- gwybodaeth am adnoddau Cymraeg sydd ar gael ar-lein
Cyfieithu a chyngor Cymraeg i fusnesau ac elusennau
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a chyngor Cymraeg am ddim. Mae'n helpu busnesau ac elusennau i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Dysgu Cymraeg
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg. Mae hefyd yn cynnig adnoddau defnyddiol.
Mae Berfiadur y Gweiadur yn eich helpu i wybod sut mae berfau’n gweithio mewn gwahanol gyd-destunau. Mae’n dangos sut mae rhedeg dros 4000 o ferfau.
Yn y gymuned
Mae’r Mentrau Iaith yn eich helpu i fyw, dysgu a mwynhau yn Gymraeg. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd i bawb ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd ac yn eu cymunedau drwy glybiau, digwyddiadau, gweithgareddau a llawer mwy.
Darganfyddwch pa wasanaethau sydd gan eich awdurdod lleol i'w cynnig a sut y gallant eich helpu i ddefnyddio'ch Cymraeg.
