Neidio i'r prif gynnwy

Geiriaduron Cymraeg i'ch helpu i ganfod geiriau Cymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Geiriadur yr Academi

Geiriadur Saesneg i Gymraeg ar-lein yw Geiriadur yr Academi.

Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio

Gallwch ei ddefnyddio i ganfod:

  • gair Cymraeg sy’n cyfateb i air Saesneg
  • ffurf luosog gair Cymraeg
  • enghreifftiau o sut y gellir cyfieithu geiriau Saesneg mewn gwahanol gyd-destunau
  • ymadroddion Cymraeg sy'n cynnwys y gair rydych chi wedi chwilio amdano 

Cynulleidfaoedd

  • Rhieni a gofalwyr.
  • Myfyrwyr.
  • Athrawon a thiwtoriaid.
  • Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
  • Busnesau.
  • Pobl sy’n drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
  • Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
  • Academyddion.
  • Cyfieithwyr.

Geiriadur Bangor

Mae Geiriadur Bangor ar gael ar-lein ac i'w lawrlwytho fel ap. Chwiliwch am Ap Geiriaduron ar gyfer iOS neu Android. 

Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio

Gallwch ei ddefnyddio i:

  • chwilio am air Saesneg i ddod o hyd i'r gair Cymraeg cyfatebol
  • chwilio am air Cymraeg i ddod o hyd i'r gair Saesneg cyfatebol
  • canfod ffurf lluosog gair

Cynulleidfaoedd 

  • Rhieni a gofalwyr.
  • Plant.
  • Myfyrwyr.
  • Athrawon a thiwtoriaid.
  • Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
  • Busnesau.
  • Pobl yn drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
  • Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
  • Academyddion.
  • Cyfieithwyr.

Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC)

Geiriadur Prifysgol Cymru yw'r geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol. Mae'n debyg i'r Oxford English Dictionary ond ar gyfer y Gymraeg. Mae ar gael ar-lein ac fel ap ar eich ffôn neu lechen.

Mae GPC yn eiriadur arbenigol ac academaidd i bobl sydd am dyrchu'n ddyfnach i eiriau Cymraeg a'u datblygiad dros amser.

Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio

Gallwch ei ddefnyddio i:

  • weld diffiniadau o eiriau yn Gymraeg a’u hystyr yn Saesneg
  • gweld sut caiff gair ei sillafu, beth yw ei genedl a’i ffurfiau lluosog
  • darganfod sut mae geiriau ac ymadroddion wedi newid dros amser, cael gwybodaeth a chefndir manylach o'i gymharu â'r hyn gewch chi mewn geiriaduron eraill

Cynulleidfaoedd 

  • Myfyrwyr.
  • Athrawon a thiwtoriaid.
  • Academyddion.
  • Darllenwyr ac awduron.
  • Cyfieithwyr.

Geiriadur Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn eiriadur ar-lein hawdd ei chwilio.

Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio

Gallwch ei ddefnyddio i:

  • ganfod geiriau ac ymadroddion yn yr iaith arall
  • clywed recordiadau ynganu ar gyfer rhai geiriau

Cynulleidfaoedd 

  • Rhieni a gofalwyr.
  • Plant.
  • Myfyrwyr.
  • Athrawon a thiwtoriaid.
  • Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
  • Busnesau.
  • Pobl yn drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
  • Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
  • Academyddion.
  • Cyfieithwyr.

Y Gweiadur

Mae Y Gweiadur yn cynnwys geiriadur Cymraeg i Saesneg a Saesneg i Gymraeg, sy'n rhoi diffiniadau yn ogystal â chlipiau sain i helpu gydag ynganu geiriau.

Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio

Gallwch ei ddefnyddio i ganfod:

  • geiriau Cymraeg a Saesneg cyfatebol
  • canfod ystyron geiriau sydd wedi’u treiglo, ffurfiau lluosog neu ferfau sydd wedi’u rhedeg
  • gweld porth geiriadur sy'n eich galluogi i chwilio mewn sawl adnodd o un lle

Cynulleidfaoedd 

  • Rhieni a gofalwyr.
  • Plant.
  • Myfyrwyr.
  • Athrawon a thiwtoriaid.
  • Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
  • Busnesau.
  • Pobl yn drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
  • Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
  • Academyddion.
  • Cyfieithwyr.

Thesawrws

Mae thesawrws yn adnodd sy’n rhestru geiriau ag ystyron tebyg. Gelwir y rhain yn gyfystyron (er enghraifft mae ‘hapus’ yn gyfystyr â ‘llawen’). Caiff ei ddefnyddio hefyd i ddod o hyd i eiriau i fynegi syniadau yn fwy manwl gywir neu i osgoi ailadrodd yr un gair. 

Mae’r Gweiadur yn cynnwys thesawrws Cymraeg yn unig (sy'n rhoi cyfystyron Cymraeg i eiriau Cymraeg) a thesawrws Saesneg i Gymraeg (sy'n rhoi cyfystyron Cymraeg i eiriau Saesneg). 

Cynulleidfaoedd

  • Rhieni a gofalwyr.
  • Plant.
  • Myfyrwyr.
  • Athrawon a thiwtoriaid.
  • Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
  • Busnesau.
  • Pobl yn drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
  • Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
  • Academyddion.
  • Cyfieithwyr.