Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ddwy wers o fyd natur:

Haelioni

"Un diwrnod, roeddwn i'n casglu mafon blasus, melys eu harogl o'n câns mafon ni, pan ges i fy nharo gan faint o ffrwythau oedd o fy nghwmpas.  Roeddwn i fy hun yn casglu digonedd o fafon coch llachar, ond roedd y mwyeilch a'n hieir ni hefyd yn cael eu rhan o'r cnwd. Sylweddolais i nad yw natur yn penderfynu faint i'w gynhyrchu yn union, ac wedyn cynhyrchu'n union y maint hwnnw. Y gwir yw ei bod yn cynhyrchu cymaint ag y bo modd gyda pha ynni bynnag sydd ganddi!"

Amynedd

"Rwy'n cerdded i'r gwaith bob dydd bron – dwy filltir a hanner pob ffordd, i fyny ac i lawr bryn mawr. Un mis, roedd gwaith yn cael ei wneud i newid y pibelli sy'n mynd o dan y cae ar ben y bryn.  Er mwyn gwneud y gwaith, roedd y bwrdd dŵr wedi rhoi ffens o amgylch yr ardal roedd angen iddyn nhw ei defnyddio, er mwyn atal y ceffylau a'r defaid rhag mynd i mewn. Wrth imi fynd heibio bob dydd, gwnes i sylwi nid yn unig ar y gwaith, ond hefyd ar newid yn yr hyn a oedd yn tyfu o gwmpas y gwaith. Yn y cae lle roedd pori wedi cael ei atal dros dro, roedd golygfa hyfryd o ellesg melyn a thegeirianau pinc wedi ymddangos yn sydyn. Pan ofynnais i gydweithiwr am y peth, dywedodd wrtho’ i ei bod yn bosibl bod yr hadau wedi bod yn aros yn segur am flynyddoedd!"

Sut allwch chi ddefnyddio'r gwersi hyn o fyd natur – amynedd a haelioni – yn eich gwaith bob dydd?

Gweithred i drio fel tîm

  1. Gofynnwch i rywun adrodd ei hanes ei hun am enghraifft o fywyd go iawn lle mae wedi gweld neu wedi gwerthfawrogi rhywbeth ym myd natur ac yn ceisio defnyddio hyn yn ei fywyd bob dydd.  (neu defnyddiwch un o'r storïau uchod
  2. Gofynnir y cwestiwn: Beth rydych chi wedi'i ddysgu o fyd natur? Beth rydych chi wedi'i weld yn natur a allai lywio eich gwaith? (dim angen ateb ar hyn o bryd, ond cymerwch eiliad i fyfyrio...)
  3. Wedyn gofynnir i'r cyfranogwyr weithio mewn pâr gyda rhywun nad ydyn nhw'n ei adnabod cystal neu nad ydyn nhw wedi siarad ag ef/hi heddiw.
  4. Trafodaeth mewn parau: Dywedwch wrth eich gilydd am gyfnod pan wnaethoch chi sylwi ar rywbeth ym myd natur neu ddysgu rhywbeth ohono...
  5. Wedyn symud o barau i grwpiau o bedwar neu wyth, neu i sesiwn gyda phawb. Rhannwch eich syniadau a/neu ddechrau ystyried yr hyn y gallech chi ei wneud yn wahanol, ar ôl ichi gofio’r pethau hyn, neu sylwi arnynt unwaith eto...

Defnyddio dull systemau

Sut allwn ni gefnogi sefydliadau, unigolion, adrannau neu gymunedau orau i gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol?

  • Mae angen i ni roi'r gorau i geisio cynllunio'r ateb ac yn lle hynny cynllunio ar gyfer yr amodau sy'n galluogi llawer o atebion i ddod i’r amlwg.
  • Mae meithrin mwy o gysylltiadau dibynadwy o ansawdd yn allweddol i sicrhau bod yr atebion hynny’n dod i’r amlwg.
  • Ar gyfer catalyddion newid mewn system gymhleth (gan gynnwys y llywodraeth) mae hynny'n golygu dechrau gwerthfawrogi ein perthynas ni ag eraill fel canlyniad allweddol.

Wedi addasu o The new zeitgeist: relationships and emergence gan Bill Bannear.

Beth yw dull systemau?

Defnyddiwch y cwrs byr rhad ac am ddim hwn am y dull systemau.

Defnyddiwch Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr e.e. gyda'r Labordy Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr.

Dewiswch ddulliau o gymryd rhan yn rhagweithiol sy'n:

  • canolbwyntio ar greu rhwydwaith o gysylltiadau NID casgliad o bethau/gweithgareddau/gwasanaethau
  • lleihau dibyniaeth
  • cynyddu brwdfrydedd ac ymdrech gydweithredol
  • ymgorffori’r pum ffordd o weithio
  • dangos hyder mewn bod yn greadigol
  • cryfhau perthynas ag eraill
  • annog cysylltiadau newydd
  • defnyddio'r ymdrech leiaf i sicrhau'r effaith fwyaf posibl
  • darparu gwiail pysgota (neu ddatblygu gwaith cynhyrchu gwiail pysgota yn y gymuned) yn hytrach na darparu pysgod
  • newid prosesau a chysylltiadau rhyngddibynnol NID strwythurau neu allbynnau

Cymhwyso'r tair elfen dysgu allweddol hyn gan Lywodraeth Cymru:

  • Dylid ail-brototeipio neu ail-ddylunio ein cynnig yn barhaus yn seiliedig ar adborth dwfn a chyflym
  • Camu’n ôl; dirprwyo drwy hwyluso hwyluswyr yn hytrach na fesul tasg
  • Sefydlu amrywiaeth o gefnogaeth (i ni ein hunain ac i eraill) fel y gall pobl ddewis sut i ymgysylltu a galluogi newid.

Canolbwyntio eich datblygiad ar y meysydd hyn a nodwyd mewn ymchwil ar y sgiliau allweddol ar gyfer arweinwyr iechyd cyhoeddus:

  1. Gweld y darlun ehangach a dewis dulliau addas
  2. Cydweithio effeithiol a rhychwantu ffiniau
  3. Grymuso eraill i arwain, gan adeiladu ar y cysyniad o arweinyddiaeth wedi’i dosbarthu
  4. Cynnal cymhellion a gwerthoedd sylfaenol cryf, gan gynnwys yr angen am ostyngeiddrwydd a meddylfryd dysgu.

Gweler y manylion llawn yma.

Beth nad yw'n ddull systemau?

  • Meddwl bod gan un person, tîm neu sefydliad yr ateb
  • Meddwl ein bod yn rhan o'r ateb ond nid yn rhan o'r broblem (rydym i gyd yn rhan o'r ddau)
  • Dychmygu ein bod y tu allan i'r system rydym yn ei thrafod
  • Penodi ymgynghorwyr, yn hytrach na chwrdd â phobl yn uniongyrchol ein hunain

Rheoli gwybodaeth mewn byd o ansicrwydd

Yn y cyfnod cynyddol cythryblus, ansicr, newydd ac amwys hwn (acronym TUNA yn Saesneg), mae angen i ni gymryd gofal i beidio ag ailadrodd y camgymeriadau a arweiniodd at y sefyllfa hon.

Dyma rai o’r prif awgrymiadau o safbwynt systemau.

Cymhwyso modelau

Mae pob model yn frasamcan o'r byd go iawn.

Nid oes unrhyw fodel byth yn gyflawn neu'n hollol gywir.

Mae hyn yn cynnwys:

  • y modelau sydd gennym yn ein meddyliau ein hunain o sut mae'r byd yn gweithio
  • y modelau ar y cyd rydyn ni'n eu creu gyda'n gilydd trwy sgwrsio
  • yr holl fodelau cyfrifiadurol rydym erioed wedi'u defnyddio.

Defnyddiwch eich model i wneud y dyfaliad gorau posib ond ceisiwch dystiolaeth byd go iawn bob amser trwy brototeipio'ch ateb i ddarganfod mwy.

Defnyddio data poblogaeth gyfan

Mae data poblogaeth gyfan hefyd yn fodel, felly dim ond brasamcanu'r byd go iawn mae’n ei wneud.

Bydd tebygolrwydd poblogaeth gyfan yn rhoi syniad i chi o’r darlun mawr.

Ni all data poblogaeth ddweud wrthych beth sy'n amhosibl ar lefel leol.

Ni all ddweud wrthych beth i'w wneud mewn man penodol.

Gall ddweud wrthych rai o'r cwestiynau i'w gofyn am y lle hwnnw.

Dim ond yr hyn a allai fod yn debygol neu'n annhebygol y cewch wybod. Bydd ffactorau lleol yn effeithio ar y tebygolrwydd hyn. Bydd yr annhebygol yn parhau i ddigwydd.

Felly byddwch yn effro i bob posibilrwydd.

Ni all data poblogaeth gyfan wneud rhagfynegiadau: ni fydd yn dweud wrthych beth fydd eich profiad mewn gwirionedd.

Ein perthynas â gwybodaeth

Yr hyn sydd heb newid yw bod gennym ddiddordeb o hyd mewn tystiolaeth!

Ond...

Mae'r mathau o dystiolaeth y mae gennym ddiddordeb ynddynt wedi ehangu. Nid yw'n iawn bellach i ddibynnu’n ormodol ar un ffynhonnell dystiolaeth benodol. Mae profiad byw pobl yn arbennig o bwysig. Mae rhai ffynonellau tystiolaeth yn ddefnyddiol mewn llawer o achosion ond gallant hefyd gyfyngu ar ein safbwyntiau e.e. treialon rheoli ar hap yn creu deuoliaeth ffug.

Mae'r ffordd rydym yn dehongli'r data wedi newid. Er enghraifft, yn y gorffennol efallai ein bod wedi dweud 'o, dim ond yr effaith plasebo yw hynny' ond gall effaith plasebo fod yn sylweddol, felly efallai y byddwn yn ymchwilio i sut y gallwn ei ddefnyddio'n foesegol ac yn ddiogel i sicrhau canlyniadau.

Mae ein dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu pan fydd rhywun yn gofyn am fwy o dystiolaeth wedi newid. Mae pob penderfyniad yn seiliedig ar emosiwn. (Ydy, go iawn - allwch chi ddim gwneud penderfyniad heb emosiwn!) Ond weithiau mae ein hemosiynau'n cael y gorau arnom ac rydym yn mynnu prawf ychwanegol i osgoi ein hemosiynau anodd ein hunain neu i oedi cyn gwneud penderfyniad. Cyn hyn, bydden ni wedi derbyn cais o'r fath. Nawr byddem am helpu gyda'r heriau emosiynol gwaelodol, yn ogystal â chynhyrchu data defnyddiol (newydd o bosib) ar y pwnc.

Ein perthynas â'n gilydd

Dylai popeth a wnawn bob amser fod yn seiliedig ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar y cyd.

Gallai cwestiynau i ganolbwyntio ein sylwadau gynnwys:

  • sut rydym yn deall ac yn defnyddio'r pum ffordd o weithio?
  • ydyn ni'n brysio? Beth ydyn ni'n ei osgoi?
  • sut ydyn ni'n asesu risg? Pa risgiau sy'n teimlo'n fawr neu'n fach nawr?
  • ydyn ni'n defnyddio'r pecyn cymorth sylfaenol?
  • sut allwn ni weithio gyda ni ein hunain ac eraill mewn ffyrdd sy'n cynyddu sicrwydd a dealltwriaeth?

Dyluniad y prosiect

Mae llawer o'n hymatebion i'r byd o'n cwmpas yn llawer mwy rhesymol nag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Dylid defnyddio'r model cymdeithasol (nid model meddygol neu therapiwtig yn unig) i'r heriau rydych chi'n eu hwynebu:

Sut mae'r system ei hun yn sâl neu'n ddi-fudd?

Mae pawb yn unigryw ac mae ganddynt eu rhesymeg eu hunain dros eu hymatebion a'u penderfyniadau. Gall rhesymeg pobl eraill fod yn debyg ond anaml y bydd yn union yr un peth â'ch un chi.

Ychydig iawn o bethau sy'n llinol. Bydd y rhan fwyaf o'r systemau rydych chi'n delio â nhw yn weoedd cymhleth. Yn hytrach na meddwl am lwybrau (lle gallwch sianelu nifer o bobl, lleoedd neu weithgareddau ac ati) meddyliwch am y berthynas rhwng yr agweddau neu'r unigolion yn y system neu dychmygwch y cylchoedd neu’r troellau.

  • Allwch chi greu dewislen o opsiynau y gall pobl ddewis ohonynt?
    (Peidiwch ag achosi gormod i straen i bobl; mae tri opsiwn yn ddigon!)
  • Allwch chi gynyddu cyfleoedd i gerdded gyda mi – lle mae rhywun dibynadwy arall yn eich helpu chi tuag at ateb sy'n addas i chi ac yn aros gyda chi nes bod gennych rywun i weithio gyda nhw a rhywbeth ymarferol i roi cynnig arno.

Gwerthuso ac adolygu

Wrth werthuso cynnydd rydych chi am wybod beth ddigwyddodd ond mae eich model meddwl (ein meddwl rhagfynegol) eisoes wedi cyfyngu ar y mathau o ddata a phosibiliadau rydych chi'n debygol o'u gweld.

Allwch chi ddod o hyd i ffyrdd o ryddhau eich hun o'r cyfyng-gyngor hwn?

  • Gofynnwch i bobl wahanol: siaradwch â phobl na fyddech fel arfer yn clywed ganddyn nhw ac archwilio beth sy’n digwydd ar y cyd.
  • Gofynnwch gwestiynau mwy: gofynnwch rai cwestiynau sy'n dyfnhau, gan oedi drostynt am fwy o amser.