Cymorth Y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol i weithwyr gofal cymdeithasol rhyngwladol: hysbysiad preifatrwydd
Sut y byddwn yn storio a phrosesu eich manylion o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, bydd y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol yn prosesu eich data personol i ddarparu cymorth a chefnogaeth i weithwyr gofal cymdeithasol rhyngwladol, sydd wedi cael eu dadleoli neu sydd i fod i gael eu dadleoli o ganlyniad i ddirymu trwydded noddi eu cyflogwr, neu sy'n chwilio am waith arall. Bydd data personol gan gyflogwyr gofal cymdeithasol sydd eisiau defnyddio'r gwasanaeth hefyd yn cael eu prosesu.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd ar gyfer y data personol, a byddwn yn eu prosesu yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ddatblygu a rheoli gwasanaethau cymorth hanfodol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol rhyngwladol:
- sydd â fisa dilys i weithio yn y DU
- sydd wedi cael eu dadleoli neu sydd i fod i gael eu dadleoli o ganlyniad i ddirymu trwydded noddi eu cyflogwr
- sy'n chwilio am waith arall
Ni fydd data personol sy'n ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu rhannu â thrydydd partïon. Byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddarperir gan gyflogwyr, gan gynnwys:
- enw'r cyflogwr/darparwr gofal cymdeithasol
- y math o wasanaeth
- cyfeiriad y gwasanaeth
- manylion cyswllt y swyddog perthnasol
- swyddi gwag presennol â thrydydd partïon gan gynnwys â gweithwyr gofal cymdeithasol a Llywodraeth y DU (Hybiau Cymorth Rhanbarthol yn Lloegr)
Dim ond i gefnogi a chynorthwyo gweithwyr tramor i ddod o hyd i waith arall y bydd data yn cael eu rhannu.
Bydd yr holl ddata personol a ddarperir yn cael eu storio ar weinyddion diogel.
Bydd eich data personol yn cael eu cadw am gyfnod y gwasanaeth cymorth, ac am gyfnod o chwe mis o leiaf ar ôl hynny. Bydd y data yn cael eu dinistrio'n ddiogel unwaith y penderfynir nad oes eu hangen mwyach.
Eich hawliau
O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu inni neu sydd gennym amdanoch chi. Yn benodol, mae gennych yr hawliau canlynol:
- gweld copi o’ch data eich hun
- gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (o dan amgylchiadau penodol)
- i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 725 neu 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a ddarperir, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
