Neidio i'r prif gynnwy

Rhif y ddogfen ganllawiau: 296/2025
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2025
ISBN Digidol 978-1-83715-601-6 WG52053

Trosolwg

Mae'r ddogfen hon yn rhoi arweiniad i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol. Maent yn nodi'r cyd-destun i awdurdodau lleol ar gyfer cyflawni eu dyletswydd statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i sicrhau bod gan bob plentyn sy'n derbyn gofal gynllun addysg personol o ansawdd uchel nes y bydd yn gorffen addysg statudol.

Cynulleidfa

Mae'r canllawiau hyn i bawb sy'n gyfrifol am gynlluniau addysg personol yn eu hysgol neu eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys personau dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal mewn ysgolion, penaethiaid, llywodraethwyr, swyddogion awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am blant sy'n derbyn gofal (gan gynnwys Cydgysylltwyr Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal a Phenaethiaid Ysgolion Rhithwir), staff gwasanaethau cymdeithasol, Swyddogion Adolygu Annibynnol, ac unedau cyfeirio disgyblion, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch. Caiff staff mewn sefydliadau trydydd sector y mae eu gwaith yn helpu i gefnogi plant sy'n derbyn gofal ddarllen y canllawiau hyn hefyd.

1. Cyflwyniad

Datblygu'r canllawiau hyn

  1. Bu Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol i lywio'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau hyn. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynlluniau Addysg Personol o blith unigolion o awdurdodau lleol sydd â rôl strategol i hyrwyddo addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Roedd y grŵp gorchwyl a gorffen yn un o is-grwpiau'r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid allanol sy'n gweithio i hyrwyddo a chefnogi deilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.
  2. Bu i Lywodraeth Cymru hefyd ymgysylltu â dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn canfod beth sy'n bwysig iddynt yn eu haddysg a beth y dylid ei gynnwys yn y canllawiau hyn. Adlewyrchir eu safbwyntiau drwy'r canllawiau cyfan. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r bobl ifanc am rannu eu safbwyntiau.

Cefndir a Chyd-destun

Ymrwymiad Llywodraeth Cymru

  1. Drwy Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb, rydym wedi ymrwymo i sicrhau safonau uchel a llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru am i bob plentyn fwynhau dysgu a chael yr addysg orau bosibl er mwyn datblygu ac ehangu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u profiad. Bydd hyn yn eu helpu i fod:
    • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
    • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
    • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
    • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
  2. Mae'r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn cynnwys wyth ymrwymiad sydd, gyda'i gilydd, yn disgrifio gweledigaeth newydd i drawsnewid Gwasanaethau Plant yn sylweddol. Un ymrwymiad yw “cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel ‘rhiant corfforaethol”. Mae'n ymwneud â'n huchelgais i sicrhau bod plant â phrofiad o fod mewn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phob plentyn arall.
  3. Mae ‘Siarter Rhianta Corfforaethol: Addewid Cymru’ yn nodi'r egwyddorion cyffredin y dylai pob corff a'i arweinwyr eu dilyn wrth ddarparu gwasanaethau (gan gynnwys addysg) i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Mae hyn yn cynnwys yr egwyddorion canlynol:

Addysg Dda: Byddwn yn darparu cyfleoedd a chymorth dysgu a datblygu i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal, a byddwn yn ei helpu i fod yr hyn mae am fod. 

  1. Nid yw plant sy'n derbyn gofal yn grŵp unffurf ond maent yn fwy tebygol o fod wedi wynebu trawma yn ystod eu bywyd, gan gynnwys camdriniaeth, esgeulustod neu golled. Gall fod angen cymorth arnynt i oresgyn anawsterau ymlyniad a all effeithio ar y ffordd y maent yn cymryd rhan yn yr ysgol, gan gynnwys eu hymddygiad a'u gallu i ganolbwyntio. Bydd rhoi'r cymorth cywir i blant a phobl ifanc yn eu helpu i wireddu eu potensial a symud ymlaen i gamau nesaf eu bywyd.
  2. Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar y ddealltwriaeth ganlynol:
    • bod pob plentyn sy'n derbyn gofal yn unigryw gyda'i gryfderau a'i anghenion ei hun
    • y dylai llais pob plentyn sy'n derbyn gofal gael ei glywed
    • bod pob plentyn sy'n derbyn gofal wrth wraidd y cynlluniau a roddir ar waith ar ei gyfer
    • y dylai pob plentyn sy'n derbyn gofal gael y cyfle a'r cymorth i feithrin cydberthnasau cadarnhaol a diogel ag oedolion a'u cyfoedion a rhyngweithio'n gymdeithasol â nhw
    • bod gan bob plentyn sy'n derbyn gofal yr hawl i gael addysg mewn amgylchedd diogel a chynhwysol sy'n galluogi, lle mae diwylliant o ddyheadau addysgol uchel
    • bod pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gallu ffynnu gyda'r sgiliau a'r cymorth cywir
  3. Dylai oedolion sy'n galluogi dysgu sy'n gweithio gyda phlant sy'n derbyn gofal gynnig cymorth sy'n briodol o ran datblygiad ac addysgeg, gan wneud y canlynol:
    • parchu a hyrwyddo hawliau'r plentyn a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (gweler paragraff Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn)
    • dathlu a gwerthfawrogi amrywiaeth a dangos cynhwysiant
    • darparu amgylcheddau emosiynol ddiogel sy'n helpu dysgwyr i fynegi a rheoli eu teimladau a'u hymddygiadau mewn ffyrdd cadarnhaol
    • cynnig gofal cyson, a dangos tosturi a charedigrwydd
    • paratoi dysgwyr ar gyfer cyfnodau pontio a newidiadau mewn arferion dyddiol, er mwyn eu helpu i ymdopi ag ansicrwydd a newid
    • rhoi cyfleoedd i ddysgwyr feithrin ymlyniadau a chydberthnasau diogel, er mwyn iddynt fagu hunanhyder a gallu cymryd rhan yn gadarnhaol mewn gweithgareddau pob dydd
    • ymgysylltu â'r system ehangach o amgylch y plentyn, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr, cymorth therapiwtig, gweithwyr ieuenctid neu oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt, er mwyn integreiddio gofal a chymorth
  4. Mae canllawiau Galluogi Dysgu y Cwricwlwm i Gymru yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion sy'n allweddol i sicrhau bod pob dysgwr yn dysgu mewn ffordd gyfannol ac ystyrlon.

Cefnogi gwydnwch

  1. Mae ymchwil ym maes gwydnwch yn tynnu sylw at y ffactorau sy'n golygu bod plant yn wynebu mwy o risg o ddeilliannau gwael yn ogystal â'r rhai sy'n lliniaru effeithiau ffactorau risg o'r fath ac yn hybu gwydnwch. Mae ffactorau risg yn cynnwys Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, incwm isel, esgeulustod, disgyblaeth lem ac anghyson gan rieni, a gwrthdaro neu trais. Mae ffactorau amddiffynnol yn cynnwys teulu gofalgar, gofal sensitif, cydberthnasau agos, sicrwydd emosiynol, ymdeimlad o berthyn, sgiliau datrys problemau, sgiliau gweithrediad goruchwyliol, sgiliau hunanreoleiddio, sgiliau rheoli emosiynau, hunan-effeithiolrwydd, hunaniaeth neu hunanganfyddiad cadarnhaol, arferion a defodau, mynychu ysgol sy'n gweithio'n dda a chysylltiadau â chymunedau sy'n gweithio'n dda.
  2. Mae plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal wedi nodi bod athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion yn allweddol i'w cynnydd addysgol. Mae gan athrawon ac aelodau eraill o staff rôl hanfodol i'w chwarae fel ‘oedolion y gellir ymddiried ynddynt’ ac mae eu cefnogaeth yn sicrhau buddiannau fel mwy o hunan-hyder, llai o bryderon, mwy o ddiddordeb yn yr ysgol a chyflawniad gwell.
  3. Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym:

“Hoffwn gael mwy o le i ymlacio, neu i siarad yn breifat ag athrawon sy'n fy neall.” Person Ifanc

“Mae angen i ysgolion gadw rhestr o blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, er mwyn i ni allu cael mwy o gymorth ac i'n helpu i wneud mwy o ffrindiau sydd â phrofiadau tebyg.” Person Ifanc

“Mae angen i staff gael hyfforddiant ar sut i gefnogi pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Bydden nhw'n ein deall yn well a byddech chi'n gallu trafod sut rydych yn teimlo. Dylai fod person hŷn sydd wedi bod mewn gofal sy'n ein deall ac yn eirioli drosom.” Person Ifanc

“I rai ohonom ni, yn enwedig pan fyddwn ni'n iau, yr ysgol yw ein man diogel. Ond os byddwch chi'n tynnu sylw at fân bethau drwy'r amser, pethau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni, er enghraifft os nad oes gennym ni'r wisg gywir neu'r holl lyfrau cywir, gall hynny wneud i ni deimlo'n anniogel mewn rhywle a ddylai fod yn fan diogel i ni. Ceisiwch ddangos dealltwriaeth. Gallai fod yn fwy anodd i ni gadw at y rheolau drwy'r amser.” Person Ifanc

2. Dyletswyddau mewn perthynas ag addysg plant sy'n derbyn gofal

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

  1. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn amlinellu hawliau sylfaenol pob plentyn, ni waeth beth fo'i hil, crefydd neu alluoedd. Yn fwyaf perthnasol i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, mae'r CCUHP yn nodi'r canlynol:
    • mae gan bob plentyn hawliau, heb wahaniaethau o unrhyw fath (Erthygl 2)
    • dylai lles pennaf y plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a gweithred sy'n effeithio ar blant (Erthygl 3)
    • mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i fynegi ei safbwyntiau, ei deimladau a'i ddymuniadau ym mhob mater sy'n effeithio arno, ac i'w safbwyntiau gael eu hystyried a'u cymryd o ddifrif (Erthygl 12)
    • rhaid i blant na allant dderbyn gofal gan eu teulu eu hunain dderbyn gofal yn briodol gan bobl sy'n parchu eu crefydd, eu diwylliant a'u hiaith (Erthygl 20)
    • pan gaiff plant eu mabwysiadu, rhaid i'r hyn sydd orau iddynt fod yn brif ystyriaeth (Erthygl 21)
    • dylai plant sy’n dod i wlad fel ffoaduriaid gael yr un hawliau â phlant a anwyd yn y wlad honno (Erthygl 22)
    • mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i addysg, ni waeth beth fo'u hil, rhywedd, anabledd, statws cadw, neu statws ffoadur (Erthygl 28)
    • dylai addysg ddatblygu personoliaeth a doniau pob plentyn yn gyflawn (Erthygl 29). 

Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008

  1. Mae Adran 20 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 yn nodi bod yn rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ddynodi aelod o staff (“y person dynodedig”) yn gyfrifol am hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal yn yr ysgol. Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol p'un oes plant sy'n derbyn gofal ar gofrestr yr ysgol ai peidio. Mae angen i ysgolion fod yn barod i ymateb yn gyflym i anghenion plant sy'n derbyn gofal a all ymuno â'r ysgol ar fyr rybudd.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

  1. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal. Mae Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi cyngor ar ddyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth, gan gynnwys iechyd ac addysg.
  2. Cynllun ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yw cynllun gofal a chymorth Rhan 6, sy'n dwyn ynghyd yr holl wybodaeth allweddol o'r asesiad o anghenion datblygiadol y plentyn ac unrhyw asesiadau eraill o'r plentyn a'i deulu. Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i baratoi cynllun iechyd, Cynllun Addysg Personol (CAP), a chynllun lleoli ar gyfer y plentyn. Dylai'r rhain fod yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn.
  3. Mae'r darpariaethau o dan Ran 6 o'r Ddeddf hefyd yn gymwys i blant digwmni sy'n ceisio lloches, sydd â'r un hawliau a hawliadau â phlant sy'n derbyn gofal a anwyd yng Nghymru a'r DU.
  4. Mae’r canllawiau hyn yn darparu cyngor pellach ar arferion da mewn perthynas â chynlluniau addysg personol, sy’n ategu’r dyletswyddau a amlygir yma.

3. Cynllun addysg personol: diben

  1. Er mwyn cael effaith, dylai’r CAP wneud y canlynol:
    • cefnogi a diwallu anghenion addysgol ac emosiynol y plentyn, gan ei alluogi i ffynnu yn ei leoliad addysg a gwireddu ei botensial yn llawn
    • bod yn gynllun effeithiol a phersonol o ansawdd uchel, y mae gan y plentyn berchnogaeth drosto
    • bod yn ddogfen fyw sy'n esblygu sy'n dangos sut mae gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio (ac yn bwriadu gweithio) gyda'r plentyn yn cefnogi ei gynnydd
    • cefnogi cyfathrebu a gwaith partneriaeth effeithiol rhwng pawb sy'n gyfrifol am y CAP (er enghraifft, y darparwr addysg, swyddogion awdurdodau lleol, y plentyn a'i ofalwyr) 

4. Gofynion sylfaenol CAP

  1. Mae’r Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi canlynol:
  • Yr wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn y CAP.
  • Amserlenni ar gyfer cychwyn y CAP.
  • Trefniadau pontio.
  • Trefniadau trawsffiniol.

Darllenwch y Cod ei hun i gael rhagor o wybodaeth.

5. Rhoi llais i'r plentyn

Ystyried safbwyntiau'r plentyn

“Gwrandewch arnom ni. Gwnewch fwy na dim ond darllen ein ffeiliau, neu wrando ar athrawon neu weithwyr proffesiynol eraill. Wrth gwrs, maen nhw'n gwybod rhai pethau, ond dydyn nhw ddim yn gwybod popeth. Rydyn ni'n llawer mwy na'r hyn sy'n cael ei ysgrifennu amdanom. Ac efallai fod llawer o'r pethau hynny wedi'u hysgrifennu dipyn yn ôl. Gofynnwch i ni beth fyddai'n ein helpu i ddysgu, gwrandewch ar yr hyn rydyn ni'n ei ddweud a gweithredwch arno. Ac os na allwch chi wneud yr hyn rydyn ni'n ei ofyn i chi, esboniwch pam.” Person Ifanc

  1. Y person pwysicaf ym mhroses y CAP yw'r plentyn sy'n derbyn gofal. Mae gwrando ar ei lais yn hanfodol er mwyn deall ei anghenion a'u diwallu, a dylai hynny fod yn amlwg yn ei CAP. Yn ôl ei oedran a'i ddealltwriaeth, dylid ystyried ei safbwyntiau wrth nodi ei anghenion addysgol a phenderfynu ar gamau gweithredu ar lefel yr ysgol neu lefel unigol.
  2. Gall y cyfranogiad hwn amrywio yn dibynnu ar y canlynol:
    • i ba raddau y mae'r plentyn yn dymuno cymryd rhan neu'n cael ei gefnogi i wneud hynny
    • natur y materion a drafodir yn y cyfarfod CAP
    • yr hyn sydd orau i'r plentyn ym marn y rhai sy'n ei adnabod orau
  3. Dylai aelod o staff yr ysgol sydd â chydberthynas dda â'r dysgwr ei gefnogi i fynegi ei safbwyntiau a nodi ei gryfderau, ei nodau a'i ddyheadau ei hun. Fel arall, mae'n bosibl y caiff ei gefnogi i rannu ei safbwyntiau gan eiriolwr (er enghraifft drwy Tros Gynnal Plant, Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol).
  4. Mae'n bosibl y bydd y plentyn neu person ifanc yn dymuno gwneud y canlynol:
    • aros am ran o'r cyfarfod CAP neu'r cyfarfod cyfan
    • rhannu ei safbwyntiau ei hun
    • dewis oedolyn i rannu ei safbwyntiau yn y cyfarfod
  5. Bydd cefnogi dysgwyr a'u gofalwyr i gymryd rhan ystyrlon ym mhroses y CAP yn eu helpu i wneud y canlynol:
    • teimlo'n hyderus y gwrandewir ar eu safbwyntiau ac y cânt eu gwerthfawrogi
    • bod yn ymwybodol o'u hawliau ac o'r cymorth sydd ar gael iddynt
    • meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb am eu dysgu a rheolaeth drosto
  6. Mae'r dyfyniadau hyn gan ddysgwyr sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn awgrymu nad yw pobl ifanc bob amser yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhroses y CAP:
    • Dydw i erioed wedi gweld yr un o'r rhain, a ddylwn i fod wedi?
    • Os yw'r pethau hyn i fod i gael eu gwneud gyda ni, dydyn nhw ddim. Dydw i ddim yn siŵr a fyddai hyd yn oed yn ddefnyddiol gan fod y rhan fwyaf o'r problemau rwy'n eu hwynebu yn yr ysgol yn ymwneud â llesiant emosiynol neu leoliad. Rwy'n gallu gwneud y gwaith ysgol os oes gennyf y meddylfryd cywir. Dydw i ddim yn dwp, rwy'n glyfar iawn.
    • Rydw i wedi gweld y ddalen hon gyda'r bylchau arni o'r blaen, ac wedi ei llenwi. Ond doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd hi na beth roedd yn ei olygu.

Ffyrdd o gasglu safbwyntiau plentyn neu person ifanc

  1. Dylid rhoi gwybodaeth briodol i'r plentyn/person ifanc er mwyn iddo ddeall proses y CAP a chymryd rhan ystyrlon ynddi. Gellid casglu ei safbwyntiau drwy sgwrs, holiadur neu gynrychioliadau darluniadol. Mae'r ffordd y caiff safbwyntiau eu casglu yn dibynnu ar ei oedran, ei gam datblygu ac unrhyw anghenion ychwanegol a all fod ganddo.

Adnoddau Defnyddiol

Astudiaeth Achos: defnyddio holiadur sy'n ystyriol o drawma i gasglu safbwyntiau dysgwyr

Ym Mhowys, mae tîm yr Ysgol Rithwir yn defnyddio holiadur sy'n ystyriol o drawma i gasglu safbwyntiau dysgwyr a deall a oes angen cymorth arnynt yn yr ysgol. Caiff hyn ei wneud cyn i'r CAP gael ei gwblhau ac mae’n cyfrannu at broses y CAP. Y bwriad yw defnyddio'r holiadur fel ffordd ragweithiol o nodi unrhyw faterion y gallai'r dysgwr eu hwynebu fel bod modd nodi'r cymorth cywir. Er enghraifft, os yw'n fater sy'n ymwneud â phresenoldeb, bydd tîm yr Ysgol Rithwir yn ceisio cyfeirio'r dysgwr at gymorth (e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc) neu'n gweithio gyda'r ysgol yn uniongyrchol. Mae hyn wedi dechrau cynyddu cyfranogiad ysgolion ym mhroses y CAP ac wedi eu helpu i ddeall diben y cynllun, fel y mae'r astudiaeth hon yn ei ddangos:

Sefyllfa

Mae plentyn K yn blentyn sy'n derbyn gofal o'r tu allan i'r sir sydd ar leoliad gyda chytundeb y rhieni i'w helpu i ailuno dros gyfnod o 12 mis. Bu'r plentyn mewn gofal maeth hirdymor cyn hynny. O ganlyniad i anghenion ymlyniad, bu'r cyfnod o bontio i'r ysgol uwchradd yn anodd ac arweiniodd at nifer o waharddiadau cyfnod penodol am ymddygiad afreolus ac ymosodiad geiriol a chorfforol.

Holiadur CAP

Nid oedd y plentyn yn bresennol yng nghyfarfod CAP tymor yr hydref oherwydd salwch, ond cofnododd yr ysgol ei safbwyntiau ac roedd popeth yn ymddangos yn iawn, heb unrhyw bryderon. Fodd bynnag, cwblhawyd holiadur llesiant ar ôl i'r plentyn ddychwelyd i'r ysgol a gododd bryderon yn ymwneud â llesiant y plentyn a'r ffaith nad oedd yn teimlo'n ddiogel ar y bws ysgol.

Ymyrryd

Er mwyn sicrhau bod y plentyn yn teimlo'n ddiogel yn yr ysgol, darparwyd oedolyn a oedd ar gael yn emosiynol, a wrandawodd ar bryderon y plentyn. Helpodd yr oedolyn hwn y plentyn i osgoi mewnoli ei deimladau, a allai fod wedi gwneud iddo ymddwyn yn afreolus unwaith eto a chynyddu'r risg y byddai'n cael ei wahardd. Sicrhaodd yr ysgol hefyd fod y plentyn yn ymwybodol o sawl aelod o'r staff y gallai siarad â nhw yn yr ysgol pe bai'n teimlo'n anhapus neu pe bai ganddo bryderon. Bydd hyn yn sicrhau ymateb mwy amserol i unrhyw bryderon yn y dyfodol yn hytrach nag aros am y cyfarfod CAP. Aethpwyd i'r afael â'r materion ar y bws ysgol yn briodol, gan gynnwys cynyddu presenoldeb oedolion ar y bws.

Camau dilynol

Gofynnwyd am hyn yn ystod cyfarfod CAP tymor y gwanwyn er mwyn ceisio barn K cyn ac yn ystod y CAP a chwblhawyd yr holiadur eto.

Proffil un dudalen

  1. Gall proffiliau un dudalen fod yn ddefnyddiol fel man cychwyn ar gyfer cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Maent yn grynodeb syml o'r hyn sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc a'r ffordd y mae am gael ei gefnogi.
  2. Mae proffil un dudalen yn nodi gwybodaeth gadarnhaol am y plentyn ar un ddalen o bapur. Gallai gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
    • Beth mae pobl yn ei hoffi a'i edmygu amdanaf
    • Beth sy'n bwysig i mi
    • Y ffordd orau o fy nghefnogi
  3. Dylid cynnwys y plentyn neu'r person ifanc cymaint â phosibl wrth ddatblygu'r proffil un dudalen gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylid ei adolygu'n rheolaidd a chyn symud fel bod gan yr ysgol newydd ddarlun clir a chywir o'r plentyn neu'r person ifanc.

Adnoddau defnyddiol

Astudiaeth Achos: Defnyddio Porth cynlluniau addysg personol electronig

Mae Bro Morgannwg wedi creu ysgol rithwir sy'n defnyddio porth Cynlluniau Addysg Personol ar-lein. Mae tîm addysg yr ysgol rithwir yn cadw'r cynlluniau addysg personol mewn lleoliad canolog ac yn darparu hyfforddiant i athrawon, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol a swyddogion adolygu annibynnol ar sut i ddefnyddio'r porth. Pan fydd yr holl wybodaeth wedi'i chyflwyno, bydd y porth yn hysbysu'r Gwasanaethau Cymdeithasol a bydd yn anfon neges atgoffa bob chwe mis pan fydd angen diweddaru'r CAP. Mae'r porth proffesiynol i boblogi'r CAP yn ddiogel am fod y tîm addysg yn dilysu defnyddwyr yn uniongyrchol.

Mae'r porth cynlluniau addysg personol ar-lein yn cynnig y manteision canlynol:

  • Mae'n haws sicrhau mai dim ond y copi meistr sy'n cael ei ddiweddaru ac nad oes sawl fersiwn wahanol o'r CAP yn bodoli.
  • Mae'n hawdd ei ddefnyddio a sicrhau ei ansawdd.
  • Mae'n defnyddio system goleuadau traffig i ddangos pan fo angen diweddaru CAP a phan fo CAP wedi'i gwblhau.
  • Anfonir hysbysiadau at ysgolion pan fydd newidiadau i'r CAP, fel newid i statws cyfreithiol neu gyfeiriad.
  • Mae mynediad diogel yn golygu bod mwy o dryloywder.
  • Gall tîm yr ysgol rithwir rannu'r cynlluniau addysg personol ag ysgolion yn gyflym.
  • Mae'r camau ar gyfer mewnbynnu gwybodaeth yn glir i'w dilyn.
  • Gall mwy nag un gweithiwr proffesiynol weld y CAP ar yr un pryd.
  • Mae'r porth proffesiynol i gwblhau'r CAP yn hygyrch i ysgolion, o fewn y sir a'r tu allan iddi.
  • Mae'r CAP yn ddiogel ar y porth fel bod gofalwyr yn gallu bod yn rhan o'r broses. Mae hyn yn hanfodol gan nad yw system negeseuon e-bost yr Asiantaeth Faethu Annibynnol yn ddiogel. 

Mae tîm addysg Bro Morgannwg yn sicrhau ansawdd y CAP yn rheolaidd ac mae'n disgwyl y canlynol:

  • bod y CAP yn canolbwyntio ar yr unigolyn
  • bod gwybodaeth am addysg yn cael ei diweddaru'n rheolaidd a chan y rhai sy'n adnabod y plentyn orau
  • bod safbwyntiau'r plentyn yn glir i bob gweithiwr proffesiynol eu gweld
  • bod gwybodaeth hanesyddol briodol yn cael ei chofnodi a'i rhannu
  • bod data ar ddeilliannau ac adroddiadau perthnasol yn cael eu cofnodi

Llesiant emosiynol a meddyliol

“Mae'r hyn sydd wedi digwydd i ni yn llunio pwy ni ydyn a'r ffordd rydyn ni'n ymateb i sefyllfaoedd penodol. Mae pob plentyn sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi wynebu trawma. Mae cael eich derbyn i ofal yn drawma ynddo'i hun. Mae hynny'n golygu ei bod hi'n bosibl y byddwn ni'n ymateb i rai sefyllfaoedd mewn ffordd wahanol i rywun arall. Gwnewch yn siŵr bod pawb sy'n gweithio ym maes addysg yn deall hyn fel eu bod yn deall sut y gallwn ni ymateb i bethau a sut i'n helpu i deimlo'n ddiogel a'n bod yn cael ein cefnogi.” Person Ifanc

  1. Mae gan lesiant emosiynol ddylanwad cryf ar sgiliau gwybyddol fel talu sylw, cofio, gweithrediad goruchwyliol, cymhelliant i ddysgu, datrys problemau a rheoleiddio. Fel y cyfryw, mae llesiant emosiynol a meddyliol yn chwarae rôl annatod wrth gefnogi dysgu ac addysgu. Felly, mae angen iddo fod wrth wraidd proses y CAP a chael ei ymgorffori yn y broses addysgu ac ym mhob agwedd arall ar fywyd ysgol.
  2. Yn ôl y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth diweddaraf, gwnaeth 50% o'r holl blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth yng Nghymru ar 31 Mawrth 2023 ddechrau gwneud hynny am eu bod yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu'n wynebu risg o hynny. Roedd y gyfran yn uwch (65%) ar gyfer plant a oedd yn derbyn gofal o gymharu â phlant nad oeddent yn derbyn gofal neu ar y gofrestr amddiffyn plant (33%). Mae'r profiadau niweidiol hyn yn ystod plentyndod yn cynyddu'r risg y bydd unigolyn yn wynebu heriau iechyd meddwl yn ystod ei blentyndod neu fel oedolyn. Gall problemau iechyd meddwl ddwysáu anawsterau ym maes addysg ymhellach.
  3. Mae cefnogi llesiant emosiynol plentyn/person ifanc yn ei alluogi i ffynnu a gwireddu ei botensial yn llawn. Felly, mae'n hanfodol bod iechyd a llesiant y plentyn yn cael eu hystyried fel rhan o broses y CAP.
  4. Mae ‘Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad i ysgolion a lleoliadau addysg ar sut i gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol da. Caiff hyn ei gyflawni drwy hyrwyddo amgylchedd diwylliannol cadarnhaol mewn ysgolion, lle mae plant a phobl ifanc yn meithrin cydberthnasau cadarnhaol â staff a dysgwyr eraill, a lle mae cydberthnasau yn cael eu hatgyfnerthu.
  5. Disgwylir i uwch-dimau arwain ysgolion ystyried eu dysgwyr sy'n fwy agored i niwed (gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal) wrth ddatblygu eu cynllun llesiant. Dylai hyn fod yn rhan o broses wella ehangach yr ysgol, er mwyn sicrhau ei bod yn diwallu eu hanghenion. Mae'r fframwaith yn cynnwys canllawiau i ysgolion ar gasglu amrywiaeth o ddata a gwybodaeth y gellir eu defnyddio i lywio llesiant dysgwyr a staff yr ysgol a'i ddeall.
  6. Er mwyn cefnogi llesiant emosiynol a meddyliol plant sy'n derbyn gofal, mae'n fuddiol i ysgolion weithio gyda system gymorth ehangach y person ifanc. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr, gweithwyr cymorth therapiwtig, gweithwyr ieuenctid neu oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt. Lle mae plant sy'n derbyn gofal yn cael cymorth iechyd meddwl, dylai staff addysg fod yn ymwybodol o'r ymyriad a deall y dull a ddefnyddir ac unrhyw ymddygiad afreolus neu newid ymddygiadol a all ddeillio ohono.

“Rwy'n croesawu gair tawel gan yr athro i ofyn ydw i'n iawn os yw'n gwneud hynny heb dynnu sylw'r myfyrwyr eraill. Mae gennyf i ac un athro ein cod unigryw ein hunain. Bydd y ddau ohonon ni'n edrych ar ein gilydd a bydda i'n nodio fy mhen yn gyflym er mwyn dangos fy mod i'n iawn.” Person Ifanc

“Mae'r cymorth rydw i wedi ei gael yn yr ysgol wedi bod yn wych. Mae gennyf gydberthynas arbennig â phob athro, p'un a yw wedi fy addysgu ai peidio.” Person Ifanc

Adnoddau defnyddiol

6. Proses y Cynllun Addysg Personol

Cylch o ymgynghori, cynllunio ac adolygu yw proses y CAP a ddylai sicrhau bod y plentyn neu person ifanc yn gallu gwireddu ei botensial yn llawn. Mae'r diagram canlynol yn nodi proses y CAP:

Image
Map o broses y Cynllun Addysg Personol (CAP)

7. Llunio, datblygu ac adolygu'r CAP

“Pan fyddwn ni'n cael ein derbyn i ofal, gweithiwch gyda'n gweithwyr cymdeithasol a phwy bynnag arall er mwyn ein helpu i aros yn ein hysgol ein hunain, os yw'n ddiogel i ni wneud hynny. Llwyddais i aros yn fy ysgol, a gwnaeth hynny wahaniaeth gwirioneddol i mi. Roedd yr athrawon yn fy adnabod yn barod, roedden nhw'n fy nghefnogi yn barod.” Person Ifanc

Cyfarfod CAP

  1. Pwyntiau allweddol:
  • Mae pob plentyn neu person ifanc yn unigryw. Bydd y rhai sy'n bresennol yn y cyfarfod yn dibynnu ar anghenion pob dysgwr a'r bobl sy'n ymwneud â'r broses o'i gefnogi. Dim ond gweithwyr proffesiynol ac oedolion y mae angen iddynt fod yn rhan o'r cyfarfod ddylai fod yno, fel bod y plentyn neu person ifanc yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn cymryd rhan yn y cyfarfod.
  • Ystyrir ei bod yn arfer dda cynnal yr adolygiad o'r CAP ar wahân i'r adolygiad o'r plentyn sy'n derbyn gofal fel bod modd cynnal adolygiad trylwyr. Pan fydd y cyfarfod CAP yn rhan o'r adolygiad ehangach o'r plentyn sy'n derbyn gofal, gall gynnwys trafod materion sy'n ysgogi ymateb emosiynol gan y person ifanc, gan liwio'r drafodaeth am y CAP. Dywedodd plant sy'n derbyn gofal y canlynol: 

“Dim ond yn gyflym y mae ein haddysg yn cael ei thrafod yn yr adolygiad ehangach o ofal. Yr unig beth wnaethon nhw ei ofyn i ni oedd a oedden ni'n ‘gwneud yn dda’ yn yr ysgol. Ni ofynnodd neb i ni am ein barn ac ni chafodd y cynllun ar gyfer ein haddysg na'r camau nesaf eu trafod yn fanwl. Does dim digon o amser yn yr adolygiad o'r plentyn sy'n derbyn gofal i gael trafodaeth iawn am ein haddysg a dyw gwasanaethau cymdeithasol ddim yn rhoi digon o ffocws ar hynny. Ni ofynnodd neb i ni beth hoffem ni ei drafod.” Pobl ifanc

  • Dywedodd plant sy'n derbyn gofal nad ydynt am orfod gadael eu gwersi ar gyfer cyfarfod CAP neu gyfarfod adolygu gofal. Felly, lle bo modd, dylid cynnal cyfarfodydd y tu allan i amseroedd gwersi. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid darparu ystafell briodol er mwyn sicrhau preifatrwydd ar gyfer y cyfarfod.
  • Dylid rhoi digon o rybudd i'r plentyn/person ifanc er mwyn paratoi ar gyfer y cyfarfod (er enghraifft, ystyried yr hyn y mae am ei ddweud neu a yw am i rywun fod yn bresennol yn y cyfarfod gydag ef).
  • Dylid defnyddio iaith sensitif ac empathetig i gofnodi gwybodaeth am y person ifanc yn y CAP. Dylid cofio y gall y person ifanc ddarllen yr hyn a ysgrifennir amdano. Gall y ffeithlun hwn (sy'n defnyddio canfyddiadau o Brosiect Innovate a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) fod yn ddefnyddiol (theinnovateproject.co.uk) (Saesneg yn unig).
  1. Dylid gwneud pob ymdrech i ystyried a bodloni dewisiadau'r person ifanc o ran y canlynol:
    • p'un a ddylid cynnal y cyfarfod wyneb yn wyneb neu'n rhithwir
    • p'un a yw am fod yn bresennol yn y cyfarfod neu a fyddai'n well ganddo i oedolyn y gellir ymddiried ynddo rannu ei safbwyntiau
    • pwy yr hoffai ei gefnogi yn y cyfarfod
    • pa amser o'r dydd y dylid cynnal y cyfarfod
  2. Rhoddodd pobl ifanc yr adborth canlynol am eu cyfarfod CAP:
    • Os byddaf yn teimlo y byddaf yn cael fy meirniadu, ni fyddaf yn dweud dim.
    • Os mai dim ond newydd gyfarfod â ni ydych chi, rhowch amser i ni ymgyfarwyddo.
    • Gofynnir i mi a wyf am fod yn rhan o'r cyfarfod.
    • Nid wyf yn hoffi mynd i gyfarfodydd. Mae syr yn dweud yr hyn rwyf am ei ddweud ar fy rhan yn y cyfarfod.
    • Rwy'n hoffi mynd i gyfarfodydd a dweud yr hyn rwy'n ei hoffi ac nad wyf yn ei hoffi.
    • Mae'n well gennyf [gyfarfodydd CAP] ar-lein gan fod hyn yn llai lletchwith. Weithiau gall fod pum person o amgylch y bwrdd felly gall fod yn frawychus.

Sicrhau ansawdd y CAP

  1. Mae'r awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn neu person ifanc a'r ysgol neu lleoliad addysg yn gyfrifol ar y cyd am ansawdd y CAP.

Ni ddylid trin y CAP fel ymarfer ‘blwch ticio’

  1. Wrth weithio gydag ysgolion neu lleoliadau addysg, dylai fod gan yr awdurdod lleol broses sicrhau ansawdd ar waith sy’n sicrhau’r canlynol:
    • bod safbwyntiau a dyheadau'r plentyn neu person ifanc wedi'u cofnodi
    • bod yr holl wybodaeth statudol a nodir yng Nghod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi'i chasglu (gweler Adran 6)
    • bod rhwystrau'r plentyn neu person ifanc i wneud cynnydd neu cyflawni wedi'u dadansoddi a bod cynllun priodol i ymdrin â'r rhain
    • bod cynlluniau i gefnogi'r plentyn neu person ifanc wrth symud rhwng dosbarthiadau yn yr ysgol, rhwng lleoliadau, ysgolion a darparwyr addysg bellach neu hyfforddiant, a phan fydd yn symud ysgol o ganlyniad i newid mewn lleoliad
    • bod y camau sy'n cael eu rhoi ar waith i gefnogi'r plentyn neu person ifanc yn ymarferol a bod cysylltiad clir rhyngddynt â'r dadansoddiad o anghenion a chryfderau
    • bod pawb yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am gefnogi'r plentyn neu person ifanc mewn perthynas â rhoi'r CAP ar waith
    • bod ymdeimlad clir o gynnydd a sut mae cynnydd o ran deilliannau'r plentyn yn cael ei fesur, neu sut y bydd yn cael ei fesur
    • bod llwybr clir ar gyfer sicrhau darpariaeth addysg o ansawdd uchel lle nad yw plentyn neu person ifanc mewn ysgol neu leoliad addysg arall. Dylai hwn nodi sut y caiff y plentyn neu person ifanc a'i ofalwyr eu cefnogi fel bod modd iddo gael ei ailintegreiddio i leoliad addysgol priodol
  2. Bydd rhai templedi archwilio CAP ar gael pan fydd y ddogfen ganllaw derfynol yn cael ei chyhoeddi, a all roi syniadau i awdurdodau lleol eraill sy'n datblygu rhywbeth tebyg. 

Adolygu'r CAP

  1. Dylid trin y CAP fel ‘dogfen fyw’ sy'n helpu i feithrin dealltwriaeth a rennir o ran sut y gall pawb gefnogi'r plentyn neu person ifanc i lwyddo.
  2. Argymhellir ei bod yn arfer dda adolygu’r CAP:
    • o leiaf bob chwe mis er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yng nghyfarfod adolygu'r plentyn sy'n derbyn gofal
    • pan fydd y plentyn yn wynebu unrhyw newid sylweddol yn ei fywyd (er enghraifft, newid lleoliad, newid ysgol, asesiad ADY, troi'n 16 oed)
  3. Dylai'r adolygiad o'r CAP fod yn gyfle i sicrhau:
    • bod y targedau presennol yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddigon heriol
    • bod y dulliau a roddwyd ar waith i gefnogi cynnydd y plentyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau'r plentyn, yn ôl y bwriad

Trefniadau pontio

  1. Mae’r Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi’r trefniadau y dylid eu gwneud pan fo plentyn yn newid ysgol o ganlyniad i newid mewn lleoliad. 

Pontio i addysg ôl-16

“Rydw i am fod yn farbwr, Rwy'n credu bod angen talent naturiol arnoch chi a llygad at fanylder er mwyn gwneud hyn. Dydw i ddim am weithio i rywun arall, bydd gennyf fy stiwdio fy hun. Dydw i erioed wedi dysgu sut i sefydlu busnes fel hyn yn yr ysgol.” Person Ifanc

“Mae gennyf anabledd, dyslecsia a dyspracsia. Oherwydd fy anawsterau cydsymud, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd eistedd a gwrando mewn gwersi, ond hefyd ymdopi â'r agwedd ymarferol ar fywyd pob dydd. Doeddwn i ddim yn gallu ennill yn yr ysgol, a nawr rwyf wedi gadael yr ysgol a does gen i ddim swydd. Rwy'n mynd i Inspire ond bydd hynny'n dod i ben yn fuan, a dydw i ddim yn gwybod beth fydda i'n ei wneud.” Person Ifanc

  1. Mae’r Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi gofynion mewn perthynas â phroses bontio'r plentyn i addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth. Dylid ystyried hyn ar y cyfle cyntaf posibl. [Nodyn: Dywedodd pobl ifanc a oedd yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd Profiad o Ofal ym mis Mawrth 2024 fod angen i drafodaethau am lwybrau yn y dyfodol/addysg ôl-16 ddechrau'n gynt ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Roeddent yn teimlo bod llawer o newidiadau'n cael eu gwneud pan fydd plentyn yn 16 oed a bod hynny'n rhy hwyr i ddechrau trafodaethau am opsiynau addysg uwch.]
  2. Dylai’r awdurdod lleol weithio'n agos gyda'r Cydgysylltydd Ymgysylltiad a Chynnydd a'r Cydgysylltydd Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal sy'n wynebu risg o ymddieithrio yn cael eu cefnogi a bod ganddynt gynllun pontio i leoliad ôl-16 priodol. Mae gan awdurdodau lleol staff dynodedig i gyflawni rôl y Cydgysylltydd Ymgysylltiad a Chynnydd a'r Cydgysylltydd Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc, ac mae'r rhain yn chwarae rôl hanfodol wrth roi'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid ar waith. Mae rôl y Cydgysylltydd Ymgysylltiad a Chynnydd yn ymwneud ag atal pobl ifanc rhag ymddieithrio o ddysgu a chefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae rôl y Cydgysylltydd Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc yn canolbwyntio ar atal pobl ifanc rhag dod yn ddigartref. 

8. Rolau a chyfrifoldebau

  1. Mae canllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer y person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion yn nodi rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol allweddol mewn perthynas ag addysg plant sy’n derbyn gofal:

Person dynodedig mewn ysgol a gynhelir

  1. Disgwylir y bydd y person dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn sicrhau'r canlynol:
    • bod yr ysgol yn rhannu ac yn cefnogi disgwyliadau uchel ar gyfer y plentyn sy'n derbyn gofal
    • y caiff llesiant y plentyn neu person ifanc ei fonitro'n effeithiol ac y caiff ei anghenion lles eu diwallu
    • bod gwybodaeth gyfredol a chywir ar gael am y plentyn neu person ifanc ar y gofrestr
    • y caiff gwybodaeth am addysg ei rhannu'n gyflym rhwng asiantaethau ac unigolion
    • y cynhelir deialog reolaidd â'r plentyn neu person ifanc er mwyn rhoi cymorth yn amgylchedd yr ysgol a sicrhau bod ei safbwyntiau'n cael eu hadlewyrchu yn y CAP
    • y caiff anghenion addysgol y plentyn neu person ifanc eu nodi, yr eir i'r afael â nhw ac y cynllunnir ar eu cyfer drwy bennu targedau priodol
    • y caiff CAP ei lunio mewn partneriaeth â'r plentyn neu person ifanc, rhiant a (neu) aelod perthnasol o'r teulu, gofalwr, gweithiwr cymdeithasol ac unrhyw berson perthnasol arall
    • y caiff digon o amser ei neilltuo i'r ysgol gael ei chynrychioli yn yr adolygiad o'r plentyn sy'n derbyn gofal
    • y cedwir mewn cysylltiad rheolaidd â'r Swyddog Lles Addysg i drafod materion, gan gynnwys presenoldeb gwael
    • y caiff plant ag anawsterau dysgu neu ymddygiadol eu hasesu er mwyn nodi eu hanghenion cymorth a darparu ar eu cyfer
    • y caiff atgyfeiriadau eu gwneud at wasanaethau cymorth, e.e. gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol

“Mae angen rhywun arnon ni sydd ar gael i siarad bob amser. Rhowch fwy o amser i'r athro dynodedig fel mai ei unig swydd yw cefnogi pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn yr ysgol yn hytrach na bod hynny'n rhan o'i swydd arall”. Person Ifanc

Gweithiwr cymdeithasol

  1. Dylai'r gweithiwr cymdeithasol wneud y canlynol:
    • ystyried anghenion addysgol y plentyn neu person ifanc ac argaeledd ysgolion a gwasanaethau priodol wrth wneud trefniadau lleoli
    • mynd i gyfarfod CAP gyda'r ysgol, y plentyn sy'n derbyn gofal, a Phennaeth yr Ysgol Rithwir/Cydgysylltydd Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal. Lle bo modd, dylid gwahodd y Swyddog Adolygu Annibynnol. Bydd hyn yn digwydd cyn yr adolygiad o'r plentyn sy'n derbyn gofal. Efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser, ond dylid ei fabwysiadu fel arfer orau
    • sicrhau y caiff cynlluniau gofal a chynlluniau addysg personol eu llunio a'u hadolygu yn unol ag amserlenni statudol. Lle na fydd hyn yn digwydd, dylai'r gweithiwr cymdeithasol roi gwybod i'r rheolwr dynodedig yn yr adran

“[Dylem] gael yr un gweithiwr cymdeithasol am gyfnod hirach. Rwyf wedi cael pump neu chwe gweithiwr cymdeithasol ac rwyf wedi gorfod ailadrodd fy stori wrth bob un newydd. Dydyn nhw ddim yn fy adnabod. ” Person Ifanc

Swyddog Adolygu Annibynnol

  1. Dylai natur annibynnol y Swyddog Adolygu Annibynnol gefnogi'r cyfle i fonitro gweithgareddau'r awdurdod lleol fel rhiant corfforaethol, asesu ansawdd gwasanaethau a herio gweithgareddau lle bo angen.
  2. Dylid anfon copi o'r CAP ac unrhyw fersiynau diwygiedig at y Swyddog Adolygu Annibynnol er mwyn iddo gyflawni'r rôl hon. 

Y Cydgysylltydd Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal, Pennaeth yr Ysgol Rithwir neu rôl gydgysylltu gyfatebol

  1. Disgwylir i'r Cydgysylltydd Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal/Pennaeth yr Ysgol Rithwir (neu rôl gyfatebol yn yr awdurdod lleol) wneud y canlynol:
    • sicrhau bod cynlluniau addysg personol o ansawdd uchel ar waith ar gyfer pob plentyn a rhoi canllawiau i ysgolion ar y broses o'u rhoi ar waith
    • gweithio gydag ysgolion a chydweithwyr yn yr awdurdod lleol i sicrhau bod gwariant drwy'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn cael ei ddefnyddio'n briodol i gefnogi dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal
    • mynd i adolygiadau plant sy'n derbyn gofal fel y bo'n briodol

Gofalwyr maeth, gofalwyr a staff preswyl

  1. Dylai gofalwyr maeth, gofalwyr a staff preswyl wneud y canlynol:
    • annog a chefnogi pob plentyn neu person ifanc i gyflawni amcanion a thargedau eu CAP (a berchnogir gan y plentyn neu person ifanc a'i ofalwyr)
    • darparu amgylchedd cartref a chyfarpar priodol sy'n galluogi plentyn neu person ifanc i ddysgu, astudio a gwneud gwaith cartref
    • sicrhau bod y plentyn neu person ifanc yn mynychu'r ysgol neu leoliad cyfatebol yn unol â'r cynllun gofal
    • cyfrannu at CAP a chynlluniau gofal y plentyn neu person ifanc

Dylai'r person dynodedig gyfarfod â gofalwyr i lunio neu adolygu'r CAP yn rheolaidd.

Cynghorydd personol

  1. Mae Adran 106 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol drefnu cynghorydd personol ar gyfer person ifanc sy'n dod o dan y diffiniad o berson ifanc categori 1, 2, 3 neu 4. Bydd yr unigolyn hwn yn gweithredu fel mentor wrth i'r person ifanc bontio i fywyd oedolyn. Bydd y cynghorydd personol a'r gweithiwr cymdeithasol yn defnyddio'r CAP fel sail i lunio Cynllun Llwybr sy'n adeiladu ar y Cynllun Gofal.
  2. Bydd y cynghorydd personol yn gwneud y canlynol:
    • sicrhau bod y Cynllun Llwybr yn realistig
    • trefnu cyfarfodydd adolygu
    • cymryd cyfrifoldeb am rannu'r deilliannau ag asiantaethau ac unigolion eraill fel y bo angen, gan gynnwys ysgolion a darparwyr ôl-16
  3. Mae'n hanfodol bod y Cynllun Llwybr yn nodi bwriadau'r person ifanc i symud ymlaen i ddysgu ôl-16, er mwyn sicrhau ei fod yn cael y cymorth a'r cyllid sydd eu hangen.

“Roedd fy Nghynghorydd Personol yn help mawr i sicrhau bod gennyf bopeth roedd ei angen arnaf i wneud fy nghwrs ffotograffiaeth ddigidol ar ôl gadael yr ysgol. Roedd angen llawer o gyfarpar arnaf a dywedodd wrtha i am y grantiau a oedd ar gael”. Person Ifanc

I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau ehangach pob rôl mewn perthynas ag addysg plant sy'n derbyn gofal, gweler ‘Gwneud gwahaniaeth: Canllaw i’r person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion’.

9. Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

  1. O dan y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gosodir dyletswyddau ar yr awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn i nodi ADY a pharatoi a chynnal cynllun datblygu unigol (CDU) ar gyfer y plentyn sy'n derbyn gofal.
  2. Mae'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn nodi bod yn rhaid i CDU ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal gael ei ymgorffori yn CAP y plentyn. Diben hyn yw cefnogi dull cyfannol a sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal a'r ddarpariaeth addysgol ehangach a wneir ar ei gyfer yn ategu ei gilydd.
  3. Caiff cynlluniau datblygu unigol eu hadolygu bob blwyddyn o leiaf. Lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol, gall y CDU gael ei baratoi, ei ddiwygio a'i adolygu ar yr un pryd â'r CAP.
  4. I gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â phenderfyniadau am ADY, paratoi a chynnal cynlluniau datblygu unigol, a sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd wedi'i chynnwys mewn CDU ar gael ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, gweler Pennod 14 o'r Cod ADY.

10. Trefniadau trawsffiniol

  1. Mae Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi’r trefniadau y dylid eu gwneud ar gyfer addysg neu hyfforddiant plentyn neu person ifanc cyn i unrhyw leoliad gael ei wneud. Dylai’r rhain fod yn gyson â'r CAP.
  2. Rhaid i unrhyw benderfyniadau am dderbyniadau hefyd fod yn gyson â Chod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

11. Cynlluniau addysg personol enghreifftiol

  1. Bydd enghreifftiau o gynlluniau addysg personol a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar gael pan fydd y ddogfen ganllaw derfynol yn cael ei chyhoeddi.

12. Rhagor o wybodaeth a ffynonellau cymorth

Ffynonellau cymorth

Adoption UK Cymru

Mae elusen Adoption UK Cymru yn darparu cymorth a gwasanaethau ledled Cymru ac yn cydweithio â'i phartneriaid yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. 

Manylion cyswllt: E-bost: wales@adoptionuk.org.uk. Llinell gymorth: 0300 666 0006. Mae'r llinell gymorth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 2.30pm

Gwefan: Cymru | Hafan | Elusen Adoption UK

Rhwydwaith Maethu Cymru

Mae Rhwydwaith Maethu Cymru yn gweithio'n uniongyrchol gyda'i aelodau ledled Cymru. Mae'n cefnogi gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill drwy ddarparu gwasanaethau dysgu a datblygu, ymchwil a gwybodaeth.

Manylion cyswllt: E-bost: wales@fostering.net. Ffôn: 029 20 440940.

Gwefan: Ein gwaith yng Nghymru | Y Rhwydwaith Maethu

Voices From Care Cymru 

Mae Voices From Care Cymru yn sefydliad annibynnol cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n ymrwymedig i gynnal hawliau a lles plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.

Manylion cyswllt: E-bost: admin@vfcc.org.uk. Ffôn: 029 2045 1431

Gwefan: Voices From Care Cymru

Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru

Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru yw un o'r prif elusennau plant annibynnol yng Nghymru sy'n gweithio gyda rhai o'r plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf agored i niwed ac wedi'u hymyleiddio yng Nghymru. 

Manylion cyswllt: E-bost: admin@tgpcymru.org.uk. Ffôn: 029 2039 6974

Gwefan: Pwy ydym ni: TGP Cymru

Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol

Mae'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn elusen sy'n cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion mewn sefyllfaoedd bregus yng Nghymru a Lloegr. Mae'n cynnig eiriolaeth, cymorth eiriolaeth iechyd meddwl, monitro, diogelu, a gwasanaethau cyfreithiol.

Manylion cyswllt: E-bost: help@nyas.net. Llinell gymorth am ddim: 0808 808 1001 (sydd ar gael rhwng 9am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10am a 4pm ar ddydd Sadwrn).

Gwefan: Suuprting People in Wales | Children’s Rights in Wales | NYAS Cymru

Plant yng Nghymru

Plant yng Nghymru yw'r corff ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru.

Manylion cyswllt: E-bost: info@childreninwales.org.uk. Ffôn: 029 2034 2434

Gwefan: Amdanom Ni | Plant yng Nghymru

Gyrfa Cymru

Mae Gyrfa Cymru yn helpu pobl ifanc i gynllunio eu gyrfa, paratoi i gael swydd, a dod o hyd i'r prentisiaethau, y cyrsiau a'r hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanynt.

Manylion cyswllt: Cysylltu â Ni | Gyrfa Cymru

Ffôn: 0800 028 4844 (Rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener) 

Gwefan Gyrfa Cymru | Gyrfa Cymru

Gweithgareddau i Bobl sy'n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr (CLASS Cymru)

Mae gwefan CLASS Cymru wedi'i dylunio i roi cynghorion sy'n berthnasol i berson â phrofiad o fod mewn gofal (neu rywun sy'n cefnogi'r rhai â phrofiad o fod mewn gofal) a'i gyfeirio at adnoddau defnyddiol i'w helpu i fanteisio ar addysg bellach ac addysg uwch.

Gwefan: CLASS Cymru

Y Grant Hanfodion Ysgol

Mae pob plentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol. Gall teuluoedd â phlant yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 11 wneud cais am y canlynol: 

  • £125 fesul dysgwr a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol
  • £200 i ddysgwyr sy'n dechrau ym mlwyddyn 7 (er mwyn helpu gyda'r costau cynyddol sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd) a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol

Gall rhieni a gofalwyr hawlio unwaith fesul plentyn ym mhob blwyddyn ysgol. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Rhagor o Wybodaeth

Adnoddau ar-lein

Llyfrau

  • Inside I’m hurting: Practical strategies for supporting children with attachment difficulties in schools, Louise Michelle Bombèr.
  • Know me to teach me: Differentiated discipline for those recovering from Adverse Childhood Experiences, Louise Michelle Bombèr.
  • The trauma and attachment aware classroom, Rebecca Brooks.
  • The A to Z of trauma informed teaching, Sarah Naish, Anne Oakley, Hannah O'Brien, Sair Penna a Daniel Thrower.
  • When the adults change everything changes: Seismic shifts in school behaviour, Paul Dix.

Atodiad A: Terminoleg

Plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal

Yw'r rhai sydd: 

  • wedi derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn flaenorol (er enghraifft, plant sydd wedi'u mabwysiadu, sy'n destun Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig neu sydd wedi dychwelyd at eu teulu biolegol ar ôl cyfnod mewn gofal) neu
  • sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys plant mewn gofal maeth, gofal preswyl, gofal gan berthynas (trefniant maethu gan berthynas), hostelau, neu blant sy'n byw'n annibynnol o dan oruchwyliaeth gweithwyr cymdeithasol

Dim ond ar gyfer plant sydd yng ngofal yr awdurdod lleol ar hyn o bryd y mae dyletswydd i ddatblygu CAP. 

Plentyn sy'n Derbyn Gofal

Mae Adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio plentyn sy'n derbyn gofal (plentyn mewn gofal). Mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol os yw llys wedi cyflwyno gorchymyn gofal i osod plentyn mewn gofal, neu os yw'r plentyn wedi bod yng ngofal adran gwasanaethau plant cyngor am fwy na 24 awr. Mae plant wedi dweud eu bod yn ffafrio'r term ‘Plant sy'n derbyn gofal’ felly dyma'r derminoleg a ddefnyddir yn y canllawiau hyn. Yng nghyd-destun y canllawiau hyn, mae ‘plant sy'n derbyn gofal’ yn cyfeirio at blant a phobl ifanc mewn gofal.

Cynllun Addysg Personol (CAP)

Dylai plant mewn gofal, nad ydynt dros oedran ysgol gorfodol, gael CAP. Defnyddir y CAP i rannu gwybodaeth a chynllunio ar gyfer addysg y plentyn. Dylid hefyd ei ddefnyddio i adolygu cynnydd a phennu strategaethau i gefnogi'r plentyn, ac mae'n gofnod o addysg a hyfforddiant y plentyn. Dylai ddisgrifio'r hyn y mae angen iddo ddigwydd er mwyn ei helpu i wireddu ei botensial yn llawn. Nid oes cyfrifoldeb statudol ar awdurdod lleol i ddatblygu a chynnal CAP ar gyfer plant sy'n derbyn gofal nad ydynt yng ngofal awdurdod lleol ar hyn o bryd.

Ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhoi'r plentyn, ei rieni, neu'r person ifanc wrth wraidd penderfyniadau. Mae amrywiaeth o adnoddau i helpu ymarferwyr i ddefnyddio dulliau ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gael ar-lein. (llyw.cymru).