Adeiladu diwylliant ar gyfer cyd-gynhyrchu - Pennod 10. Arweinyddiaeth a theori newid
Llawlyfr y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cydsyniadau
Mae arweinyddiaeth yn digwydd ar bobl lefel ac ym mhob man. Mae arweinwyr da’n annog arweinyddiaeth sy’n gwneud y canlynol:
- Dod â phobl ynghyd i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau
- Creu lle i bobl wneud penderfyniadau gwybodus gyda’i gilydd
- Defnyddio’r dealltwriaeth sydd gennym am gyfyngiadau ffisegol, amgylcheddol ac ariannol
- Defnyddio dychymyg i adnabod cyfleodd
- Sicrhau camau integredig ac arloesol sy’n cael eu mesur, eu monitro neu eu gwerthuso’n wyddonol
- Cynyddu egni a brwdfrydedd pobl i ofalu am ei gilydd, yr amgylchedd adeiledig a naturiol a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae gennym ddamcaniaeth newid syml y gellir ei chrynhoi fel newid trwy ymarfer.
Mae ymarfer yn golygu rhoi cynnig ar bethau newydd, myfyrio ar yr hyn sy’n digwydd a bod yn barod i ddysgu.
Mae rhoi cynnig ar ymddygiadau newydd yn newid ein defodau.
Mae newid ein defodau yn newid ein perthynas ag eraill.
Mae newid ein perthynas ag eraill yn newid ein diwylliant.
Mae dysgu drwy ymarfer yn broses barhaus.
Beth yw’r proffesiynoldeb newydd?
Bydd edrych ar bron unrhyw agwedd ar gyflwr y byd yn ddigon (does bosib?) i ddangos bod angen newid, nid yn unig o ran beth rydym yn ei wneud ond sut rydym yn gwneud hynny. Felly, mae galw am ‘broffesiynoldeb newydd’, sy’n addas ar gyfer ein hoes ni.
Beth yw agweddau allweddol y proffesiynoldeb newydd?
- Bod yn garedig i’n hunain ac i eraill
- Cydnabod ein bod yn rhan o natur, nid rhywbeth ar wahân iddo
- Bod yn ofalgar a cheisio gwneud gwahaniaeth ymarferol (ar unrhyw raddfa)
- Gwybod nad oes modd i ni wybod popeth a bod yn frwdfrydig i ddysgu
- Rhoi sylw i adborth; adborth personol, adborth gan eraill, neu adborth gan y byd o’n cwmpas a gan bobl nad ydym fel arfer yn cwrdd â nhw...
(Yn seiliedig ar waith Etienne a Beverly Wenger-Trayner)
Beth yw cymwyseddau allweddol y proffesiynoldeb newydd?
Y cymwyseddau allweddol yw:
- Cymryd seibiant
- Gwrando
- Gofyn cwestiwn da
- Dysgu gweithredu ar y cyd
Caiff y cymwyseddau eu disgrifio’n fanylach yn y fframwaith cymwyseddau sylfaenol.
Beth ddysgon ni am y proffesiynoldeb newydd yn ystod Covid?
Yn ystod pandemig Covid rydym wedi bod yn dysgu bod ymyriadau’n bwysig.
Pan gânt eu croesawu mae cymryd seibiant, rhoi sylw i rywbeth arall a chymryd amser i ffwrdd o’r dasg neu’r sgrin yn gallu ein helpu i deimlo’n well a meddwl yn fwy clir.
Mae ymarfer proffesiynoldeb newydd yn golygu rhoi sylw i ymyriadau, gan wneud beth bynnag sydd angen ei wneud yn y foment honno a dychwelyd i’r cyfarfod â meddwl clir.
| Felly, os bydd plant yn tarfu ar ein cyfarfod | Mae’r byd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cenedlaethau’r dyfodol | Pan fyddwn yn dychwelyd at waith y cyfarfod, byddwn yn gofyn i’n hunain; Sut ydyn ni’n cynnwys cenedlaethau’r dyfodol yn y gwaith hwn? |
| Neu, os bydd anifeiliaid anwes, pryfed neu greaduriaid eraill yn tarfu ar ein cyfarfod | Mae’r byd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd byd natur | Pan fyddwn yn dychwelyd at waith y cyfarfod, byddwn yn gofyn i’n hunain; Sut bydd y gwaith hwn yn cynnal ac yn gwella natur? |
| Ac os bydd perthnasau hŷn yn tarfu ar ein cyfarfod | Mae'r byd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y genhedlaeth hŷn | Pan fyddwn yn dychwelyd at waith y cyfarfod, byddwn yn gofyn i’n hunain; Ydyn ni'n dod yn hynafiaid da i bawb? |
Sut allwn ni berfformio ar ein gorau?
Gweler Am I working too hard?, Where shall we start? neu’r graff isod:
Wedi'i addasu o Williams (1994) Pressure Performance Curve, atgynhyrchir y diagram hwn gyda chaniatâd GSK Training o Resilience for Change Management Reuters Events.
Sut allwn ni ymateb i’r her arweinyddiaeth?
Ymgysylltu mwy drwy eich gwaith bob dydd
Diolch Pan fydd rhywun yn diolch ichi, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud hynny wrth y bobl eraill oedd yn rhan o’r gwaith.
Memo Pan fyddwch yn derbyn gohebiaeth ysgrifenedig, cofiwch wneud mwy na’i darllen a/neu ei hanfon drwy’r e-bost; treuliwch amser yn trafod y prif agweddau gyda’ch tîm gan roi adborth ar rai pwyntiau allweddol.
Adborth Ar ddiwedd y diwrnod, y digwyddiad neu’r cyfarfod; cofiwch ofyn am adborth byr am yr hyn a wnaethoch chi. Gofynnwch am un peth a wnaethoch oedd o help ac un nad oedd mor ddefnyddiol; derbyniwch yr adborth a gewch yn gwrtais a threuliwch amser yn ystyried sut i wella.
Rheoli newid
Sefyllfa: cyn gynted â phosibl, dewch â phobl at ei gilydd sy’n debygol o fod yn rhan o’r penderfyniad, ac/neu y bydd y penderfyniad yn cael effaith arnynt; dywedwch wrthynt yn onest beth yw hyd a lled pethau; gofynnwch am syniadau; ceisiwch ddatrys eich problemau chi a’u rhai hwythau, gyda’ch gilydd.
Opsiynau: cyn gynted â bod gennych syniad bras o sut yr hoffech fynd i’r afael â phethau, trefnwch i gyfarfod eto i drafod eich opsiynau drafft; gofynnwch am effaith bosibl pob un ohonynt; gofynnwch pa newidiadau fyddai’n lliniaru’r agweddau negyddol ac yn cynyddu agweddau positif pob opsiwn.
Penderfyniad: cyfarfod eto i egluro'r hyn a benderfynwyd gennych a beth fydd yn digwydd nesaf; parhewch i siarad, ystyried a gwella’r cynllun wrth fynd ymlaen.
Gwella ein ymarferion cynnwys
Yn ystod 2021/2022 gwnaeth is-grŵp ‘Cynnwys’ Fforwm Rhanddeiliad Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gwrdd i feddwl am ein harferion presennol. Ystyriwyd sut gallwn ni gryfhau a gwella‘r ffordd rydyn ni’n deall ac yn defnyddio ‘cynnwys’ o fewn y pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dyma beth rydym yn dechrau ei ddysgu…
Rydym yn cydnabod bod ein hen ffyrdd yn echdynnol (extractive).
Roeddem arfer ceisio cwmpasu neu berchnogi popeth, e.e. cynlluniau peilot a chyflwyno rhaglenni. Erbyn hyn rydym yn dysgu sut i roi ein hamser, cyfeillgarwch a pharch i bobl a lleoedd. Rydym yn defnyddio dulliau prototeipio, cynllunio eginol neu ysbrydol ac yn gweithio mewn ffyrdd penodol sy’n addas ar gyfer lleoedd a phobl benodol.
Wrth roi’r Ddeddf ar waith, rydym yn argymell defnyddio dull creadigol, caredig ac ymarferol sy’n cynnwys yr elfennau allweddol canlynol:
- Dechreuwch gyda ‘cynnwys’. Gofynnwch i bobl beth sy’n bwysig iddynt. Defnyddiwch ‘cynnwys’ fel man dechrau i ystyried a chymhwyso’r pum ffordd o weithio.
- Yn bennaf, mae angen i ni wybod a yw pobl yn iawn ac y byddant yn gofyn am gymorth os bydd ei angen arnynt. Mae hefyd angen i ni ofyn y cwestiynau hyn. Beth sy’n bwysig i ni? Beth sydd eu hangen arnom i weithredu ar ein gorau? Bydd hyn yn ein helpu i greu lle i eraill weithredu ar eu gorau.
- Gweithio gyda rhywun. Peidio â gweithio ar ran rhywun. Byddwch yn wyliadwrus o feddylfryd y model gwasanaeth! Nid oes angen i chi wybod beth sydd orau i eraill ac ni ddylech drefnu rhywbeth ar eu cyfer. Meddyliwch yn hytrach am y model cymdeithasol. Sut gallwch weithio gydag eraill ac nid ar eu rhan? Animeiddiad y Model Cymdeithasol yn Gymraeg, Social Model animation in English
- Chwiliwch am yr hyn sy’n gryf, nid yr hyn sydd o’i le. Peidiwch â cheisio trwsio pobl. Chwiliwch am yr hyn sy'n gryf mewn unigolion ac mewn cymunedau. Dylem fynd i'r afael â'r cwestiwn 'beth sydd o'i le?' ar lefel y system. Bydd hyn yn effeithio ar unigolion a chymunedau.
- Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn gofyn i ni wrando a dysgu, p'un a ydym yn Gydgysylltwyr Ardaloedd Lleol, yn Swyddogion Llywodraeth Cymru neu’n unrhyw un arall.
- Mae'n bwysig dechrau pob sgwrs yn hyderus bod gan bawb sy'n cymryd rhan gryfderau. Nid oes angen i ni wybod cryfderau pawb cyn i ni ddechrau ond byddwch yn chwilfrydig ac ewch ati i annog unigolion i ddefnyddio a rhannu'r cryfderau hyn pan fydd eu hangen.
- Cofiwch ystyried diffiniad diweddaraf cysondeb
- Ceisiwch gynnwys sgiliau meithrin perthynas ym mhob gweithgaredd. Caniatewch gyfle i drafod teimladau gan fod system y corff a'r ymennydd yn gweithio orau pan fyddwch yn gweithio ac yn teimlo ar yr un pryd. Mae hwn yn waith sydd angen medr – gofynnwch am gymorth os byddai ei angen arnoch!
- Cwrdd, gwrando, cysylltu, nid mapio! Peidiwch â nodi, mapio na rhestru pobl, adnoddau, anghenion na chryfderau. Mae'r gweithgareddau hyn yn atgyfnerthu'r anghydbwysedd pŵer presennol. Ceisiwch gyfeirio pobl neu gysylltu â nhw yn lle hynny.
- Dangoswch werthfawrogiad; cofiwch ddweud 'diolch' am bethau penodol. Sut roedd hynny o gymorth i chi? Weithiau y tro cyntaf rydym yn sylwi ar ein cryfder yw pan mae rhywun arall yn dweud wrthym amdano...
- Peidiwch â gwneud pethau ychwanegol. Newidiwch, cymysgwch, cysylltwch ac ail-brototeipiwch yr hyn sy'n bodoli eisoes.
- Defnyddiwch yr ystum diogelwch (llaw ar y galon) nid yr ystum amddiffyn (breichiau wedi'u croesi)
Arwain ymyriadau strategol llwyddiannus yn lleol
Tri awgrym gwych
- Gofynnwch beth sydd wir yn bwysig i’r ardal leol ac ymateb
- Defnyddiwch asedau’r ardal leol gyfan
- Cyfathrebu, cyfathrebu, cyfathrebu – eich arweinyddiaeth fydd yn allweddol i lwyddiant
Egwyddorion sylfaenol
- Byddwch yn agored, yn onest ac yn ymatebol a gwrandewch yn astud!
- Darparwch o’r ‘brig’ ddim mwy na’r canlynol: ychydig o egwyddorion lefel uchel, tystiolaeth ddeniadol/hygyrch/fras, eich amser, rhai adnoddau ariannol NEU ddatganiad clir nad yw’r rhain gennych chi.
- Ymrwymwch i gydweithio â phobl am gyfnod estynedig
- Dechreuwch o safbwynt sy’n seiliedig ar asedau
- Gweithiwch gyda phobl i nodi’r camau gweithredu yr ydych yn awyddus i’w cymryd gyda’ch gilydd
- Cytunwch ar drefn ar y cyd ar gyfer monitro a gwerthuso canlyniadau deilliadol
- Sefydlwch y dull llywodraethu symlaf posibl
- Ewch ati i gydweithio wrth barhau i drafod elfennau mwyaf anodd eich perthynas/sefyllfa
- Gwerthuswch gan ddefnyddio methodoleg sy’n caniatáu ichi asesu cyflawniadau tuag at uchelgeisiau lleol yn ogystal â thargedau cenedlaethol
Fframwaith cymhwysedd sylfaenol ar gyfer arweinyddiaeth
Ymholi yw ymarfer arweinyddiaeth. Nid tybio yw ein gwaith ond bod yn barod i ddysgu. Gofyn beth sydd ei angen i ffynnu ac i alluogi pobl eraill i ffynnu.
Charlotte Von Bullow (Sylfaenydd Crossfields Institute) 2019
Sgiliau trawsnewid allweddol
Mae hi wedi cymryd dipyn o amser i ddod i wraidd y mater, ond o’r diwedd rydym wedi llunio fframwaith cymhwysedd a allai fod yn sail i bob un arall. Rydym wedi nodi pedair sgìl i’w datblygu:
- Cymryd Saib (hir, byr, gydag eraill, ar eich pen eich hun, myfyriol, wrth symud, yn yr awyr agored, wrth aros i bethau ddod i’r fei)
- Gwrando (arnaf fy hun, ar eraill, ar natur, i ddeall, i helpu rhywun arall i ddeall, mewn sgyrsiau cynhyrchiol)
- Gofyn cwestiwn da! Yna gwrando eto, gofyn eto, cymryd saib eto
- Dysgu gweithredu ar y cyd (cydgynhyrchu, dysgu drwy wneud; arbrofi, treialu, rhoi cynnig arni)
Arbrofwch gydag i ba raddau rydych chi angen pob un o’r elfennau hyn: rhowch gynnig ar wneud mwy o 1 a 2 (yn enwedig i dorri patrwm blaenorol; peidiwch â neidio i weithredu heb gymryd saib a gwrando), sut gallwch chi gydbwyso cymryd saib/gwrando/cwestiynau gyda gweithredu? Beth sy’n digwydd mewn argyfwng?
Mae ein bwriad yn elfen allweddol – ceisiwch ddeall pethau’n well hy ni ein hunain, pobl eraill, bodau dynol, natur, y sefydliad, y dirwedd wleidyddol, ac ati. Drwy ddealltwriaeth gallwn ddefnyddio ein sylw i wneud penderfyniadau gwell a chymryd camau mwy gweithredol.
Talu sylw i'n sylw - cynllun tri phwynt
Datblygwyd o: Bülow, C. v. (2019) The Practice of Attention in the Workplace – Phenomenological Accounts of Lived Experience.
Beth yw'r broblem?
Rydyn ni’n amharod i roi sylw i sylw - ac o fewn yr economi sylw sy’n bodoli, mae hyn yn arwain at gamreoli’r hunan.
Mae angen sicrhau bod y gweithle yn amgylchedd sy'n rhoi amser a lle ar gyfer gwaith mewnol, profiadau llif, datblygu meistrolaeth a chymdeithasu hwyliog, h.y. sicrhau nad yw ein bodolaeth foesol a chymdeithasol byth yn cael ei rhannu rhwng ein meddyliau a'n teimladau, ein meddwl a'n corff.
Mae rhaniadau meddyliol o’r fath yn arwain at salwch. Mae teimladau melancolaidd, straen ac iselder yn chwarae rhan bwysig yn sut rydym yn cyfranogi yn y realiti economaidd-gymdeithasol modern. Ac eto, o ystyried pwysau sydd arnom, yr ymosodiad digidol dyddiol a’r frwydr rydym yn ei cholli yn erbyn y dyfeisiau digidol sy'n tynnu ein sylw, mae perygl iddo ddod yn gyflwr o normalrwydd i ni.
Yn fyd-eang, mae’r diffyg parch at ymarfer rheoli fel celfyddyd a chrefft sy'n gofyn am feistrolaeth, a'r diffyg doethineb ymarferol o ganlyniad mewn ymddygiad ymarferwyr rheoli, wedi cyfrannu at rai o'r digwyddiadau mwyaf trychinebus yn ein hanes amgylcheddol, gwleidyddol ac ariannol diweddar.
Efallai bod ein amharodrwydd i fynd i'r afael â'r broblem hon, neu ddatblygu arferion sylw bwriadol, wedi ei achosi gan y diffyg arweiniad ar sut i ddechrau'r daith honno.
Beth yw’r her?
Rydym yn ceisio dechrau sgwrs ymhlith cydweithwyr a gwahodd datblygiad cymunedau ymarfer. Rydym yn tybio y gall yr ymarfer bwriadol o roi sylw yn y gweithle ddeillio o fenter un person, un tîm, grŵp ffocws neu ymchwiliad cydweithredol, sgyrsiau rhwng cydweithwyr, cadw dyddiadur, neu roi cynnig arni a bod yn agored ynglŷn â hynny.
Rydym yn gwahodd pob unigolyn i gymryd cyfrifoldeb am ei lwybr hunanddatblygiad ei hun, yn ogystal â’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall pob unigolyn sy'n batrwm ymddwyn dewr ac ymwybodol ei wneud yn y gweithle. Nid yw sefyll i fyny ac eirioli am arferion sylw bwriadol yn y gweithle cyffredin yn beth hawdd i'w wneud ond mae'n hanfodol dilyn y trywydd hwn beth bynnag ar hyn o bryd.
Lle allwn ni ddechrau?
Mae'r tri phwynt allweddol a restrir isod yn cysylltu sylw â thair elfen sy'n gofyn am ymwybyddiaeth gyson, craffu parhaus ac ymroddiad parhaus. Os ydym am fod yn batrymau ymddwyn ymwybodol ac yn arweinwyr llwyddiannus wrth drawsnewid gweithle heddiw, gallem ddechrau yma:
- Sylw a Moeseg
- Sylw a Bwriad
- Sylw a Hunan-wybodaeth
Gellir deall arweinyddiaeth, yn y cyd-destun hwn, fel ymarfer:
- parodrwydd i fod yn ddilys
- parodrwydd i drawsnewid
- dewrder i gymryd cyfrifoldeb dros eich hun ac eraill
- ymddiried yn noethineb pob eiliad
- cariad at y gwaith
Sylw a moeseg
Mae'r holl bethau sy'n dal ein sylw (e-bost, cyfryngau cymdeithasol, terfynau amser ac ati) mewn perygl o danseilio ein gallu naturiol i ddirnad a rheoli sut rydym yn cymryd rhan mewn bywyd bob dydd. Mae'n ddyletswydd moesol arnom i ystyried effaith ein hymddygiad wrth dalu sylw. Mae angen i ni ddatblygu agwedd foesegol o gydsyniad yn ein hymarfer o roi sylw ac mae hyn yn gofyn i ni greu gofodau yn ystod y dydd i ofyn - pwy allwn i fod yn eu brifo neu eu helpu drwy roi sylw yn y ffordd hwn neu yn y ffordd arall? Mae'r pŵer sydd gennym trwy fod â'r gallu i roi sylw ac ymwybyddiaeth ar yr un pryd yn aruthrol - mae'n dod gyda dyletswydd i ddwyn ein hunain i gyfrif ym mhob sefyllfa.
Sylw a bwriad
Os oes angen ymrwymiad i hunanddatblygiad mewn ymarfer rheoli, yna mae gennym waith i'w wneud i greu amgylcheddau lle nad yw arfer o'r fath yn cael ei danseilio'n gyson. Mae angen i ni neilltuo amser gwirioneddol i archwilio ein hunain yn fewnol ac mae angen i ni greu amgylchedd lle gallwn ni ddiosg haenau yn ddiogel. Heb graffu ar ein bwriadau fel hyn, allwn ni ddim bod yn siŵr bod cyfiawnhad moesol i'n penderfyniadau a'n gweithredoedd.
Sylw a hunan-wybodaeth
Os nad ydym yn ymgymryd â hunan-archwiliad parhaus a thrylwyr, rydym mewn perygl o adael i ofnau ac arferion meddwl anymwybodol ddal ein sylw. Os yw ein hymddygiad yn wir yn “atgyrchau – arferol a greddfol” yna byddai arferion sylw bwriadol yn dod â phatrymau arferol o'r fath i'r amlwg dros amser ac yn cyfrannu at ymwybyddiaeth uwch o’r hyn sydd yn ei hanfod yn archif fewnol o ymatebion cymdeithasol rhagdybiedig sy'n dylanwadu ar fywyd sefydliadol ac yn ei reoli. Mae angen i ni nodi a chydnabod ofnau cudd a rhoi sylw i'r naratifau sy'n llywio rhagfarn a rhagdybiaethau fel y gallwn eu herio a'u trawsnewid. Mae hyn yn golygu ymrwymiad dwfn i ymarfer hunanfyfyriol ac atgyrchol parhaus – dyma'r llwybr at hunan-wybodaeth.
Casgliad
Trwy wahodd cydweithwyr ar daith drwy ganolbwyntio ar y pethau allweddol hyn, gobeithiwn gymryd cam tuag at greu diwylliant o uniondeb moesol ac ymarfer sylw moesegol yn ein gweithle.
Sut allwch chi wneud lle yn eich patrymau gwaith ar gyfer y tri ymarfer hwn?
Holi am lesiant
Mae modd defnyddio’r sgiliau uchod yn ymarferol drwy ymestyn ein sesiynau trosglwyddo a chyfarfodydd tîm arferol i gynnwys tair elfen allweddol (yn hytrach nag un?):
Llesiant cydweithiwr, claf neu gwsmer (prosiect neu le), gofynnwch: Sut wyt ti?
Ein llesiant fel tîm o unigolion: Sut ydyn ni?
Llesiant ein sefydliad (neu’r system ehangach): Sut ydyn ni?
Oes angen i ni ddarparu unrhyw adborth a sut byddwn yn cyfleu hyn?
Ymateb i’n hemosiynau
Mae pob un ohonom fel unigolion, pob grŵp dynol a system naturiol yn ddeinamig. Rydym yn newid ac yn datblygu’n gyson, yn yr un modd â’r amgylchedd o’n cwmpas.
Mae emosiynau’n chwarae rhan bwysig yn ein gallu i wneud penderfyniadau, rheoli ein hegni mewnol a chreu cysylltiadau dyfnach â phobl eraill; pobl a natur.
Mae o leiaf dair ffordd wahanol i ni ymateb i’n hemosiynau mewnol ein hunain pan fyddant yn digwydd:
- Dangos yr emosiynau mewn ffurf amrwd – mae angen gwneud hyn weithiau ond mae’n gallu peri risg o niwed i chi’ch hun neu i bobl eraill
- Atal yr emosiynau drwy eu dal i mewn – sydd hefyd yn gallu niweidio ein hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl ond efallai fod angen gwneud hyn dros dro.
- Mynegi yr emosiynau – drwy ddisgrifio sut rydym yn teimlo i ni ein hunain neu i bobl eraill, gan ganiatáu i ni fod yn bresennol gyda’r teimladau, gan ganiatáu iddyn nhw addasu a newid
Gall bob un o’r 3 ffordd o ymateb i emosiwn fod yn briodol mewn amgylchiadau gwahanol.
Yn nes ymlaen byddwn yn edrych ar beth ddigwyddodd a’n teimladau. Gallwn gymryd saib i ystyried y teimladau newydd sy’n codi yn awr. Mae hyn yn gallu ein helpu i ddeall yn well beth ddigwyddodd mewn gwirionedd a sut roedd ein hemosiynau ac emosiynau pobl eraill wedi chwarae rhan yn hynny.
Cwestiynau allweddol i sefydliadau
Beth yw’r amodau lle rydym yn teimlo’n ddiogel i fynegi ein hemosiynau a sut mae modd hybu’r amodau hyn?
Sut allwn ni ddysgu sut i fynegi ein hemosiynau’n gliriach?
Sut allwn ni greu mwy o ofod/gofod gwell i fyfyrio ac i hunanfyfyrio?
Adborth hyd yma...
Dwi wir yn hoffi’r Sgiliau allweddol a’r Holi am Lesiant. Y bwriad sydd y tu ôl iddyn nhw sy’n allweddol – deall ein hunain, pobl eraill, y sefydliad, y dirwedd wleidyddol ac ati yn well. Drwy ddeall, gallwn ni wneud penderfyniadau gwell.
Mae’n ymddangos mor syml ond, ar yr un pryd, mae hi mor bwysig rhoi gwybod i bobl bod ein teimladau a’r hyn rydym yn ei feddwl yn cyfrannu at bopeth a wnawn.
Rwy’n amau bod sut rydym yn ymateb yn dibynnu mwy ar ba mor ‘ddiogel’ rydyn ni’n teimlo a'r mwyaf diogel rydyn ni’n teimlo y mwyaf tebygol ydyn ni o fynegi, hy os ydyn ni gyda rhywun sy’n gwrando’n dda, rydyn ni’n fwy tebygol o fynegi’r emosiwn na'i atal neu ei ddangos.
Cwestiynau allweddol ar gyfer sefydliadau
Sut allwn ni greu mwy o amser wrth drosglwyddo, wrth holi am lesiant ac mewn cyfarfodydd tîm er mwyn gallu cynnal y sgyrsiau ehangach a dyfnach hyn?
Sut allwn ni wahodd pobl i fanteisio ar y cyfle i roi cynnig arni/dysgu drwy wneud?
Hyfforddiant sylfaenol
Mae llawer o hyn yn ymwneud â dysgu drwy wneud ond dyma dri maes y gallem fod eisiau eu hystyried drwy hyfforddiant ffurfiol:
- Cymryd saib a bod yn bresennol – ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrio, theori U, synhwyro presenoldeb, ac ati.
- Gwybodaeth am ymddygiad a gwyddoniaeth ymddygiadol – amrywiol gyrsiau sy’n ymdrin ag elfennau o’r wyddoniaeth ddiweddaraf. I gael trosolwg diweddar, edrychwch ar yr adroddiad hwn.
- Myfyrdod perthynol – data cynnes, ymchwiliad gwerthfawrogol, dysgu gweithredol, ymchwil gweithredu, coetsio tîm...
Mae ymchwil arloesol yn dechrau dangos bod y tri maes arbenigedd hyn, drwy eu defnyddio gyda'i gilydd, yn gallu gwella ein cynhyrchiant a’n heffeithiolrwydd mewn amgylcheddau cymhleth a heriol.
Gweler hefyd cyfleon dysgu rhagor isod.
Ymgorffori, myfyrio a synhwyro presenoldeb
Ymarfer myfyrio parhaus ‘eistedd’, mae’n ein galluogi i ddatgelu sefyllfa o lonyddwch, mae’n gwella ein hymwybyddiaeth; mae’n gwella ein gallu i sylwi ar syniadau, emosiynau, teimladau fel ffenomena sy’n pasio heb fachu arnynt. Wrth ymarfer ‘eistedd’ gyda theimlad o garedigrwydd cariadus tuag atom ein hunain, mae’n gallu ein galluogi i ‘fod’ gyda’n hunain, fel unigolion a’r sefyllfa ehangach rydym ynddi – heb feirniadaeth. Mae’n ein hangori mewn cyflwr dyfnach o dawelwch a allai ganiatáu i ni wneud penderfyniadau gwell. Mae’n gallu gwneud i ni deimlo cysylltiad dyfnach â’r byd ehangach neu deimlo’n dawel ar wahân i bryderon bydol.
Pan fyddwn yn profi ‘eistedd’ rydym yn dysgu profi cyflwr myfyriol o sylw effro, derbyngarwch, gonestrwydd anfeirniadol tuag yr hyn sy’n digwydd, yma, nawr.
Troi am i mewn: mae myfyrdod yn rhoi cyfle i ddatgelu’r gofod ymwybyddiaeth ac arsylwi ar ein cyflyrau mewnol (corfforol, meddyliol, emosiynol) a sut mae'r rhain yn newid o funud i funud.
Mae ymgorffori a synhwyro presenoldeb yn fyfyrio-ar-waith. Mae’n cyfeirio at ein gallu i fod yn gwbl bresennol gyda rhywun, pobl neu sefyllfa: ‘bod gyda’, dod â’n hymwybyddiaeth lawn i fod yn bresennol yn y foment hon a chydnabod y cysylltiadau amhersonol dwfn rhyngom.
Mae’n golygu ein bod yn rhoi sylw i’r person arall (neu bobl neu natur) mewn ffyrdd sy’n cydnabod ac yn creu cyfleoedd ar gyfer gwella ar y cyd. Mae ‘bod gyda’ yn ein galluogi i gyrraedd cyflwr dyfnach o ymwybyddiaeth lle gallwn ddod yn fwy ymwybodol o’n teimladau ein hunain a theimladau pobl eraill; gallwn sylwi sut mae pethau’n newid a chymryd rhan mewn sgyrsiau cynhyrchiol lle rydym yn cefnogi ein gilydd.
Troi am allan: mae ymgorffori a synhwyro presenoldeb yn cynnig y cyfle i adeiladu cysylltiad dyfnach gyda phobl eraill.
Mae ‘eistedd’ a ‘bod gyda’ yn ein gwahodd i sylwi gyda thosturi. Wrth i ni ddysgu i ddefnyddio’r sgiliau hyn mewn bywyd bob dydd, gallwn ddechrau trawsnewid perthnasoedd.
Efallai mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy ddefnyddio cymysgedd o arferion myfyrio byr a hir ar y cyd â dysgu am wybodaeth ymddygiadol a chymryd rhan mewn arferion cydfyfyrio neu ymchwiliad gwerthfawrogol.
P’un ai a ydym yn ymarfer myfyrdod eistedd ai peidio, gallwn ddefnyddio myfyrio-ar-waith drwy ymgorffori cyfnodau byr o ymwybyddiaeth ofalgar ynghyd â datblygu ymwybyddiaeth o sut rydym yn defnyddio ein sylw wrth weithio gyda phobl eraill.
Sut allwn ni ddatblygu’r sgiliau hyn gyda’n gilydd a chynyddu ein synnwyr o lif?
Dim ateb perffaith
Weithiau mae sefyllfaoedd ein bywyd neu ffactorau allanol o’n cwmpas yn gallu effeithio arnom yn fawr. Gallwn deimlo ein hunain:
- Yn colli cysylltiad – yn gwrthod teimlo emosiynau pobl eraill ac o bosibl yn atal ein hemosiynau ein hunain, ac efallai ni fyddwn hyd yn oed yn ymwybodol bod hyn yn digwydd
neu
- Yn cynhyrfu – yn teimlo ein hemosiynau ein hunain ond (yng ngwres y foment) ddim yn sylwi arnynt, ac yn y pen draw byddwn yn teimlo dan straen neu’n cael ein llethu.
Pan fydd y patrymau hyn yn dod i’r amlwg, y ffordd ymlaen yw dod yn fwy presennol ond yn raddol. Yn gyntaf, mae angen i ni sylwi. (Efallai bydd pobl eraill yn rhoi adborth i ni os na fyddwn yn sylwi ein hunain?) Ar ôl i ni sylwi, mae angen i ni fod yn dosturiol â ni’n hunain, peidio â neidio i fyfyrdod enfawr, ond cymryd camau bach i fod yn bresennol gan fod yn dosturiol â ni’n hunain, derbyn ein hemosiynau anodd, ac adfywio ein hunain yn dyner drwy anadlu, bod yn bresennol, mynd am dro ym myd natur, gwrando ar gerddoriaeth... efallai dod o hyd i ffrind i fynegi iddynt... cysgu! Rhoi cynnig arall arni mewn ffordd wahanol.
Rydym yn ddeinamig. Bydd pethau bob amser yn mynd i fyny ac i lawr, i mewn ac allan. Wrth i ni ddysgu sylwi a derbyn y rhain yn gyflymach, wrth iddynt godi, bydd siâp y newidiadau hyn a pha mor aml maent yn digwydd yn newid hefyd.
Cymerwch gamau bach ac ymarfer bod yn bresennol, yn sylwgar, eistedd. Mae’r holl weithgareddau hyn yn trawsnewid drwy ymarfer, gan ganiatáu i ni weithredu a bod gydag eraill ac yn ein sefydliadau mewn ffyrdd sy’n caniatáu i ni ffynnu.
Sut allwn ni annog ein hunain ac eraill i sylwi ar ein cyflyrau o fod yn rhagweithiol a’u rheoli?
Sut allwn ni ddysgu am ein hanes ar y cyd er mwyn i hyn fod yn sail i’n gweithredu?
Gweithredu
Fe’ch gwahoddir i roi cynnig ar yr arferion sydd o ddiddordeb i chi – defnyddiwch nhw mewn gwahanol sefyllfaoedd, myfyriwch ar yr hyn fydd yn digwydd a dysgwch ragor. Mae’n bwysig eich bod yn dewis yr arferion sy’n teimlo’n iawn i chi. Rydym yn argymell y dylech weithio ar un i dair arfer ar unrhyw adeg. Dewiswch arferion o’r canllaw hon neu lefydd eraill a rhowch gynnig arnynt, myfyriwch gyda ffrind neu goetsiwr (neu mewn cymuned ymarfer) cyn addasu ac ailadrodd. Os oes gennych gwestiynau neu adborth ynglŷn â’r arferion, cysylltwch â Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru
