Polisi a strategaeth
Cynllun cyflawni strategol datgarboneiddio GIG Cymru 2025 i 2030 - Rhan 4: Mentrau a chamau gweithredu arfaethedig
Ein cynllun i leihau effaith amgylcheddol GIG Cymru a chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sero net yn y sector cyhoeddus.
Tudalen bresennol (4 o 12)
Lawrlwytho'r tudalennau hyn fel PDF , maint ffeil 191 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Llywodraethu a gweithredu'r rhaglen
- Targedu cymorth ariannol ar fentrau datgarboneiddio effaith uchel.
- Goruchwylio gweithrediad y cynllun cyflawni strategol a sicrhau perthnasedd parhaus.
- Meithrin gweithlu o staff sy'n hinsawdd-ddeallus, ac sy'n teimlo eu bod wedi'u grymuso i hyrwyddo arferion cynaliadwy a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy eu rolau.
- Sefydlu dull cenedlaethol i gyflymu lledaeniad a graddfa arferion cynaliadwy ar draws GIG Cymru.
Adeiladau a thir
- Bydd defnydd ynni a chyfleustodau adeiladau yn cael ei reoli a'i leihau'n weithredol.
- Nodi cyfleoedd (cyfalaf a chynnal a chadw) yn weithredol i ddatgarboneiddio adeiladau'r GIG.
- Bydd cynlluniau datgarboneiddio asedau yn cael eu gweithredu i ddatgarboneiddio adeiladau'r GIG.
- Bydd y gwaith gwres a phŵer cyfunedig presennol yn cael ei gynnal ar ei effeithlonrwydd mwyaf tan ddiwedd ei oes. Ni fydd unrhyw orsaf gwres a phŵer cyfunedig tanwydd ffosil arall yn cael ei gosod, ond bydd gwres a phŵer cyfunedig adnewyddadwy yn cael ei gefnogi.
- Bydd cyfleoedd ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu i gynyddu gweithgareddau cynhyrchu ynni a sicrhau y bydd tir y GIG yn cael ei ddefnyddio hyd eithaf ei botensial.
- Bydd contractwyr gofal sylfaenol a chymunedol, perchnogion busnesau a landlordiaid yn ceisio gwella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio eu hadeiladau.
- Bydd pob adeilad newydd ac adnewyddiad mawr yn cyd-fynd â'r dehongliad Cymreig newydd o safon adeiladu carbon sero net y GIG.
- Ymgysylltu'n rhagweithiol â landlordiaid a thenantiaid ar draws eiddo ar brydles i ysgogi gweithrediadau adeiladu carbon isel.
Fflyd
- Bydd sefydliadau’r GIG yn rheoli ac yn monitro gweithgareddau teithio yn weithredol o fewn eu sefydliad i nodi a gweithredu cyfleoedd i wneud y defnydd gorau o effeithlonrwydd fflydoedd.
- Bydd sefydliadau'r GIG yn diffinio eu dull o ymdrin â seilwaith gwefru Cerbydau Trydan (EVCI) er mwyn nodi, blaenoriaethu a gosod EVCI
- Bydd pob cerbyd a brynwyd neu brydleswyd gan GIG Cymru yn Gerbydau Di-allyriadau (ZEVs) lle bynnag y bo'n ymarferol bosibl. Os nad yw'n bosibl, bydd cerbydau hybrid a cherbydau allyriadau isel iawn yn cael eu prynu neu brydlesu yn lle.
Teithio gan staff a gweithio gartref
- Nodi a chyfleu arferion gorau i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac arferion gweithio ystwyth gan staff.
- Ymgorffori a hyrwyddo hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy (llwybr newydd, strategaeth trafnidiaeth Cymru 2021) ym mhob agwedd ar gynllunio a pholisïau teithio.
Caffael
- Cryfhau arferion rheoli data ar draws cadwyn gyflenwi GIG Cymru i wella gwelededd i allyriadau cyflenwyr, amlygiad i risg hinsawdd, a strategaethau lliniaru.
- Creu a chymhwyso trefn Cymru gyfan i ddylunio, asesu ac olrhain gweithgareddau caffael sy'n cefnogi darpariaeth carbon isel ac effeithlon o ran adnoddau.
- Gweithio ar y cyd â chontractwyr gofal sylfaenol i ddatgarboneiddio arferion gweithredol, gan gynnwys ystyried defnyddio mecanweithiau contractio.
- Pontio caffael trydan i gyd-fynd â'r egwyddorion ar gyfer caffael trydan adnewyddadwy o ansawdd a nodir gan Gyngor Adeiladau Gwyrdd y DU (UKGBC).
- Optimeiddio rheoli stoc ac ymddygiadau defnydd i wella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff deunyddiau.
Gwasanaethau clinigol
- Integreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol i ddatblygu a monitro canllawiau clinigol.
- Manteisio i’r eithaf ar effaith gynaliadwy atebion digidol a data mewn darpariaeth glinigol drwy werthuso eu manteision amgylcheddol a blaenoriaethu arloesi graddadwy.
Gwastraff
- Lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu gwastraff ar draws GIG Cymru drwy gynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio, meithrin dysgu dan arweiniad cyfoedion a chryfhau systemau gwahanu ac ailgylchu gwastraff.
