Neidio i'r prif gynnwy

18: Cryfhau arferion rheoli data ar draws cadwyn gyflenwi GIG Cymru i wella gwelededd i allyriadau cyflenwyr, amlygiad i risg hinsawdd, a strategaethau lliniaru

18a: Cyhoeddi map trywydd cyflenwyr net sero GIG Cymru sy'n diffinio data cynaliadwyedd amgylcheddol cyflenwyr presennol a disgwyliedig a gofynion adrodd yn glir

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).

Gweithredu erbyn: Mawrth 2026.

18b: Datblygu rhaglen hyfforddi wedi’i thargedu mewn cydweithrediad â Busnes Cymru (gan gynnwys canllawiau ac offer cysylltiedig) er mwyn helpu cyflenwyr – yn enwedig busnesau bach a chanolig – i ddeall a bodloni'r gofynion a amlinellir ym map trywydd y cyflenwyr; bydd hyn yn cynnwys datblygu canllawiau penodol i'r sector ar gyfer sectorau problemus

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

18c: Mewn ymgynghoriad â gwledydd eraill y DU, gwerthuso opsiynau ar gyfer platfform digidol i symleiddio sut mae gwybodaeth am gyflenwyr yn cael ei chasglu a'i rheoli

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

19: Creu a chymhwyso trefn Cymru gyfan i ddylunio, asesu ac olrhain gweithgareddau caffael sy'n cefnogi darpariaeth carbon isel ac effeithlon o ran adnoddau

19a: Ehangu cod ymarfer caffael cynaliadwy GIG Cymru, i osod a chyhoeddi “amcanion llesiant” caffael, yn unol â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023; bydd amcanion penodol yn mynd i'r afael â chyflawni carbon isel a lleihau gwastraff

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Awst 2026.

19b: Datblygu dull symlach a thryloyw mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol i asesu effeithiolrwydd meini prawf caffael wrth hyrwyddo darpariaeth carbon isel ac effeithlon o ran adnoddau

Perchnogion arfaethedig: NWSSP; pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

19c:Yn unol â gweithredu'r SPPP, ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol ac adrodd drwy gydol cylch oes y caffael

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Mehefin 2027.

19d: Cynnwys cynrychiolydd cynaliadwyedd amgylcheddol sefydliadol mewn unrhyw ymarfer caffael sy'n fwy na £6 miliwn (gan gynnwys TAW)

Perchnogion arfaethedig: Pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

20: Gweithio ar y cyd â chontractwyr gofal sylfaenol i ddadgarboneiddio arferion gweithredol, gan gynnwys ystyried defnyddio mecanweithiau contractio

20a: Ymgysylltu â llofnodwyr tair rhan i archwilio integreiddio cymesur egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol o fewn contractau gofal sylfaenol, gan sicrhau aliniad â blaenoriaethau allweddol eraill megis mynediad a hyfwyedd ariannol

Perchnogion arfaethedig: Llywodraeth Cymru; DPCC (Gyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol).

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

20b: Bydd y grŵp DPCC (Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Chymunedol) gydag SPPC (Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol) yn sefydlu fframwaith ar gyfer cefnogi gofal sylfaenol cynaliadwy drwy drefniadau cynllunio byrddau iechyd a chlystyrau, ac yn ymhelaethu ar ddeunyddiau a gyfeirir atynt drwy gynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru i hyrwyddo negeseuon cyson, blaenoriaethau a rennir, a chamau cydlynol ar draws y system

Perchnogion arfaethedig: DPCC.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

21: Pontio caffael trydan i gyd-fynd â'r egwyddorion ar gyfer caffael trydan adnewyddadwy o ansawdd a nodir gan Gyngor Adeiladau Gwyrdd y DU (UKGBC)

(Egwyddorion ar gyfer caffael trydan adnewyddadwy o ansawdd).

21a: Cwblhau offeryn graddio trydan UKGBC yn flynyddol i fonitro cynnydd a nodi cyfleoedd; fel rhan o'r broses, ymgysylltu â chyflenwyr ynni i ddeall ac annog eu cydymffurfiaeth ag egwyddorion caffael trydan adnewyddadwy o safon

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: blynyddol.

21b: Creu a chynnal cofnod o gyfleoedd Cytundebau Prynu Ynni (PPAs); mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGES), ymgysylltu â grwpiau cymunedol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i ddeall cyfleoedd cyflenwi cynhyrchu lleol

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (pennaeth); pob sefydliad y GIG; WGES.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

22: Optimeiddio rheoli stoc ac ymddygiadau defnydd i wella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff deunyddiau

22a: Datblygu methodoleg meintioli allyriadau ar gyfer stoc dros ben (gan gynnwys warysau canolog a stoc sefydliadol) sy'n arwain at ddileu a gwaredu, gan gynnwys archebion nad ydynt yn rhan o'r catalog, cyfarpar diogelu personol sydd wedi'i or-stocio, a gwastraff bwyd

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (pennaeth) mewn ymgynghoriadâ sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

22b: Adrodd yn chwarterol ar allyriadau stoc dros ben o fewn mecanweithiau adrodd presennol i gefnogi a llywio mentrau sy'n canolbwyntio ar optimeiddio'r defnydd o adnoddau

Perchnogion arfaethedig: NWSSP; byrddau iechyd a Felindre.

Gweithredu erbyn: adroddiadau chwarterol o fis Medi 2026.

22c: Integreiddio adrodd ar effaith amgylcheddol i raglenni rheoli stoc a defnydd – er enghraifft, eich meddyginiaethau eich iechyd, scan4safety, gloves off – i gefnogi eu dyluniad, eu cyfathrebu a'u gweithredu, a sicrhau bod canlyniadau amgylcheddol yn cael eu hystyried ochr yn ochr â blaenoriaethau allweddol eraill

Perchnogion arfaethedig: NWSSP; byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau; Llywodraeth Cymru.

Gweithredu erbyn: yn dibynnu ar 22b.

22d: Penodi arweinydd neu arweinwyr rhaglen Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd (YMYH) ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd i ymgorffori egwyddorion YMYH wrth leihau gwastraff meddyginiaethau a gwella ymlyniad, gyda phresenoldeb rheolaidd yng nghyfarfodydd arweinwyr rhaglen YMYH

Perchnogion arfaethedig: arweinwyr rhaglen YMYH; byrddau iechyd a Felindre.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

22e: Dechrau ymgyrch archebwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig

Perchnogion arfaethedig: byrddau iechyd a Felindre (arweinwyr rhaglen YMYH).

Gweithredu erbyn: Medi 2027.