Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol: sail-2022
Mae'r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2022 yn rhoi amcangyfrifon o faint poblogaeth yn y dyfodol ac yn seiliedig ar ragdybiaethau am enedigaethau, marwolaethau a mudo.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r amcanestyniadau poblogaeth sy’n seiliedig ar 2022 yn darparu ystadegau ynglŷn â maint a strwythur oedran posibl poblogaeth awdurdodau lleol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r amcanestyniadau hyn yn disodli'r amcanestyniadau blaenorol a oedd yn seiliedig ar 2018.
Ochr yn ochr â’r amcanestyniadau hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2022 ar gyfer Cymru.
Mae amcanestyniadau poblogaeth yn destun ansicrwydd ac yn seiliedig ar ragdybiaethau am dueddiadau yn y dyfodol o ran ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo. Nid rhagolygon yw’r amcanestyniadau hyn. Nid ydynt yn ceisio rhag-weld yr effaith y gallai polisïau’r llywodraeth yn y dyfodol, newid mewn amgylchiadau economaidd, na chwaith ffactorau eraill fel newidiadau tymor byr posibl mewn mudo rhyngwladol, ei chael ar ymddygiad demograffig. Gall newid poblogaeth ar y lefel leol gael ei ddylanwadu gan dwf economaidd a pholisïau tai, nad ydynt yn cael eu hystyried yn yr amcanestyniadau hyn.
Mae’r ‘prif’ amcanestyniad yn seiliedig ar ragdybiaethau sydd yn adlewyrchu’r tueddiadau demograffig gorau ar y pryd ynghylch ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo yn y dyfodol. Gellir ei ystyried yn amcanestyniad ‘canolog’. Mae’r mwyafrif o’r dadansoddiadau isod yn seiliedig ar y prif amcanestyniadau oni nodir fel arall.
Mae amcanestyniadau eraill, neu amcanestyniadau ‘amrywiadol’, hefyd ar gael ochr yn ochr â’r prif amcanestyniad. Maent yn seiliedig ar senarios amgen yn y dyfodol o ran ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo o’u cymharu â’r prif amcanestyniad. Mae’r rhain yn rhoi awgrym o ansicrwydd, ond nid ydynt yn cynrychioli terfynau uchaf nac isaf ymddygiad demograffig yn y dyfodol.
Mae amcanestyniadau ar gael ar gyfer y cyfnod o 25 mlynedd, sef rhwng canol 2022 a chanol 2047. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar 10 mlynedd gyntaf cyfnod yr amcanestyniad gan fod amcanestyniadau yn tueddu i ddod yn fwyfwy ansicr yn y tymor hwy, gan y gall llawer newid yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer dadansoddiadau manwl yn ôl oedran a rhyw.
Nid yw'r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol hyn wedi'u cyfyngu i amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG). Yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw nad yw swm amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn cyfateb i'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Dylai pobl sydd â diddordeb mewn amcanestyniadau poblogaeth ar lefel Cymru ddefnyddio amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol y SYG.
Gall amcanestyniadau poblogaeth fod yn wahanol i amcangyfrifon poblogaeth sydd eisoes wedi eu cyhoeddi nawr ac yn y dyfodol agos. Rydym yn argymell defnyddio'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf ar gyfer pob blwyddyn lle maent ar gael.
Rydym wedi gwneud newidiadau i rai o’r dulliau ar gyfer cyfrifo’r amcanestyniadau hyn. Rydym wedi cyhoeddi blog sy’n manylu ar rai o’r newidiadau rhwng yr amcanestyniadau hyn a’r rhai blaenorol. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Prif bwyntiau
Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032:
- amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol
- yr awdurdodau lleol yr amcanestynnir y bydd y cynnydd mwyaf yn eu poblogaeth yw Caerdydd (cynnydd o 10.5%), Casnewydd (cynnydd o 10.2%) a Bro Morgannwg (cynnydd o 9.9%)
- mae hyn yn cymharu â chynnydd a amcanestynnir o 5.9% yn y boblogaeth ar gyfer Cymru yn amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol y SYG yn seiliedig ar 2022 (y SYG)
- yr awdurdodau lleol yr amcanestynnir y bydd y cynnydd lleiaf yn eu poblogaeth yw Merthyr Tudful (cynnydd o 1.0%), Caerffili (cynnydd o 1.2%) a Wrecsam (cynnydd o 1.3%)
- amcanestynnir y bydd pob awdurdod lleol, ac eithrio Casnewydd, yn gweld gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng 0 a 15 oed
- amcanestynnir y bydd y boblogaeth 65 oed neu’n hŷn yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol
- ar gyfer pob awdurdod lleol, mae’r cynnydd yn y boblogaeth a amcanestynnir yn cael ei yrru'n bennaf gan fudo net positif
Amcanestyniadau poblogaeth yn ôl awdurdod lleol
Ffigur 1: newid canrannol yn yr amcanestyniadau poblogaeth yn ôl awdurdod lleol, rhwng canol 2022 a chanol 2032
Disgrifiad o ffigur 1: siart far sy’n dangos yr amcanestynnir y bydd pob awdurdod lleol yn gweld cynnydd yn eu poblogaeth rhwng canol 2022 a chanol 2032. Mae’r awdurdodau lleol yr amcanestynnir y byddant yn gweld y cynnydd mwyaf yn eu poblogaeth yn ne-ddwyrain Cymru, tra bod yr awdurdodau lleol gyda'r cynnydd lleiaf a amcanestynnir yn y gogledd a Chymoedd y de.
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol. Mae hyn yn wahanol i'r amcanestyniadau blaenorol yn seiliedig ar 2018, a oedd yn amcanestyn y byddai'r boblogaeth yn lleihau mewn pedwar awdurdod lleol yn ystod 10 mlynedd cyntaf yr amcanestyniadau.
Mae’r tueddiadau a amcanestynnir yma yn adlewyrchu’n fras tueddiadau diweddaraf amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y SYG (y SYG). Cyhoeddir amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yn flynyddol ac maent yn darparu amcangyfrif o'r boblogaeth gyfredol. Yr awdurdodau lleol sydd wedi gweld y cynnydd canrannol mwyaf yn eu hamcangyfrifon poblogaeth rhwng canol 2018 a chanol 2022 yw Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg. I’r gwrthwyneb, mae Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chaerffili wedi gweld gostyngiadau yn eu hamcangyfrifon poblogaeth yn ystod yr un cyfnod.
Ffigur 2: amcanestyniadau poblogaeth yn ôl awdurdod lleol, canol 2032
Disgrifiad o ffigur 2: siart far sy’n dangos y poblogaethau a amcanestynnir ar gyfer pob awdurdod lleol erbyn canol 2032. Amcanestynnir y bydd y boblogaeth fwyaf yn parhau i fod yng Nghaerdydd, ac yna Abertawe a Rhondda Cynon Taf. Amcanestynnir y bydd y boblogaeth leiaf yn parhau i fod ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent ac ar Ynys Môn.
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.
Amcanestynnir y bydd poblogaeth Caerdydd bron i 409,000 o bobl erbyn canol 2032. Mae hyn dros 150,000 yn fwy o bobl na’r ail awdurdod lleol mwyaf, sef Abertawe, a mwy na dwywaith yn fwy na’r awdurdodau lleol eraill, ac eithrio Abertawe a Rhondda Cynon Taf. Amcanestynnir y bydd poblogaeth Caerdydd yn cyfrif am dros 12% o boblogaeth Cymru erbyn canol 2032.
Amcanestynnir y bydd gan y mwyafrif o awdurdodau lleol boblogaeth o rhwng 100,000 a 200,000 erbyn canol 2032.
Amcanestyniadau poblogaeth yn ôl oedran
Ffigur 3: newid yn yr amcanestyniadau poblogaeth yn ôl awdurdod lleol ac oedran, rhwng canol 2022 a chanol 2032 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: siart far wedi’i phentyrru sy’n dangos yr amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn parhau i heneiddio ym mhob awdurdod lleol rhwng canol 2022 a chanol 2032, gyda chynnydd yn nifer y bobl 65 oed neu’n hŷn, a 75 oed neu’n hŷn. Casnewydd yw’r unig awdurdod lleol yr amcanestynnir y bydd cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng 0 a 15 oed.
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.
[Nodyn 1] mae’r data ar gyfer pobl 75 oed neu’n hŷn a ddangosir ar y siart wedi eu cynnwys o fewn y data ar gyfer pobl 65 oed neu’n hŷn.
Amcanestynnir y bydd pob awdurdod lleol, ac eithrio Casnewydd (cynnydd o 0.7%), yn gweld gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng 0 a 15 oed rhwng canol 2022 a chanol 2032. Amcanestynnir mai’r awdurdodau lleol a fydd yn gweld y gostyngiadau canrannol mwyaf yn y boblogaeth rhwng 0 a 15 oed yw Ynys Môn (gostyngiad o 16.6%), Wrecsam (gostyngiad o 14.5%) a Chaerffili (gostyngiad o 13.4%).
Amcanestynnir mai’r awdurdodau lleol a fydd yn gweld y cynnydd canrannol mwyaf yn y boblogaeth oedran gweithio rhwng 16 a 64 oed yn y cyfnod canol 2022 i ganol 2032 yw’r awdurdodau lleol hynny sy’n drefol i raddau helaeth ar hyd coridor yr M4 yn y de (sef Caerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Abertawe, Torfaen, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr), a Gwynedd.
Amcanestynnir mai’r awdurdodau lleol a fydd yn gweld y gostyngiadau canrannol mwyaf yn y boblogaeth oedran gweithio yn ystod yr un cyfnod yw’r awdurdodau lleol hynny sy’n wledig i raddau helaeth, sef Conwy (gostyngiad o 1.7%), Powys (gostyngiad o 1.2%), Ynys Môn (gostyngiad o 0.8%) a Merthyr Tudful (gostyngiad o 0.5%).
Amcanestynnir y bydd y boblogaeth 65 oed neu’n hŷn yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol rhwng canol 2022 a chanol 2032, gyda’r cynnydd canrannol mwyaf yn Sir Benfro (cynnydd o 24.6%), Bro Morgannwg (cynnydd o 23.2%) a Phen-y-bont ar Ogwr (cynnydd o 23.1%).
Erbyn canol 2032, amcanestynnir y bydd dros 30% o’r boblogaeth yn 65 oed neu’n hŷn ym Mhowys (32.6%), Conwy (32.4%), Ynys Môn (31.3%) a Sir Benfro (30.9%). Amcanestynnir mai yng Nghaerdydd fydd y ganran isaf o'r boblogaeth 65 oed neu’n hŷn (15.8%) erbyn canol 2032.
Amcanestynnir y bydd y boblogaeth 75 oed neu’n hŷn yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol yn ystod yr un cyfnod, gyda’r cynnydd canrannol mwyaf ym Mro Morgannwg (cynnydd o 28.5%), Sir Benfro (cynnydd o 27.4%) a Sir Fynwy (cynnydd o 27.1%).
Cydrannau newid poblogaeth
Mae’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn cynnwys y cydrannau a ganlyn o ran newid poblogaeth: genedigaethau, marwolaethau, mudo mewnol, sef symud rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig (DU), a mudo rhyngwladol, sef symud rhwng Cymru a gwledydd y tu hwnt i’r DU.
Newid naturiol yw’r gwahaniaeth rhwng nifer y genedigaethau a marwolaethau. Mae’r newid naturiol yn negyddol pan fydd mwy o farwolaethau na genedigaethau, sy’n arwain yn naturiol at boblogaeth sy’n lleihau. Mae’r newid naturiol yn bositif pan fydd mwy o enedigaethau na marwolaethau, gan arwain yn naturiol at gynnydd yn y boblogaeth.
Mudo net yw’r gwahaniaeth rhwng nifer y bobl sy’n symud i ardal ac sy’n symud o ardal. Mae’n negyddol pan fydd mwy o bobl yn symud o ardal nag yn symud i ardal. Mae’n bositif pan fydd mwy o bobl yn symud i ardal nag yn symud o ardal.
Yn yr amcanestyniadau hyn, amcanestynnir y bydd mudo yn ychwanegu at faint y boblogaeth ar gyfer pob awdurdod lleol rhwng canol 2022 a chanol 2032. Fodd bynnag, amcanestynnir hefyd y bydd y mwyafrif o awdurdodau lleol yn gweld newid naturiol negyddol yn ystod yr un cyfnod, sef mwy o farwolaethau na genedigaethau. Amcanestynnir y bydd mudo net positif yn uwch na’r newid naturiol negyddol, gan arwain at gynnydd cyffredinol yn y boblogaeth.
Ffigur 4: newid yn yr amcanestyniadau poblogaeth yn ôl awdurdod lleol a chydran newid, rhwng canol 2022 a chanol 2032 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 4: siart far sy’n dangos, ar gyfer pob awdurdod lleol, fod cynnydd yn y boblogaeth erbyn canol 2032 yn cael ei yrru’n bennaf gan fudo net positif, hynny yw, mwy o bobl yn symud i’r ardal nag yn symud allan.
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.
[Nodyn 1] Newid naturiol yw’r gwahaniaeth rhwng nifer y genedigaethau a marwolaethau. Mudo net yw’r gwahaniaeth rhwng mudo i mewn ac allan.
Caerdydd a Chasnewydd yw’r unig ddau awdurdod lleol yr amcanestynnir y bydd newid naturiol positif yn ogystal â mudo net positif rhwng canol 2022 a chanol 2032.
Yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd nifer y genedigaethau yn gostwng yn y mwyafrif o awdurdodau lleol, gyda’r gostyngiad canrannol mwyaf a amcanestynnir ym Merthyr Tudful (gostyngiad o 9.0%). Amcanestynnir y bydd nifer y genedigaethau yn cynyddu mewn tri awdurdod lleol, sef Caerdydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.
Amcanestynnir y bydd nifer y marwolaethau yn cynyddu yn y mwyafrif o awdurdodau lleol, gyda’r cynnydd canrannol mwyaf a amcanestynnir yn Sir Fynwy (cynnydd o 9.6%), Sir Benfro (cynnydd o 9.3%) a Bro Morgannwg (cynnydd o 8.0%).
Amcanestynnir y bydd nifer y marwolaethau yn gostwng ychydig mewn tri awdurdod lleol, sef Blaenau Gwent, Merthyr Tudful ac Abertawe.
Mae hyn yn golygu yr amcanestynnir y bydd newid naturiol, hynny yw, y gwahaniaeth rhwng nifer y genedigaethau a nifer y marwolaethau, yn fwyfwy negyddol ym mhob awdurdod lleol.
Gellir gweld mai yng Nghaerdydd, Abertawe, Gwynedd a Chasnewydd y mae’r lefelau uchaf o fudo rhyngwladol mewnol ac allanol a amcanestynnir rhwng canol 2022 a chanol 2032. Amcanestynnir y bydd mudo rhyngwladol net yn is ar gyfer pob awdurdod lleol erbyn canol 2032 o gymharu â chanol 2022. O ran mudo mewnol, amcanestynnir y bydd mudo mewnol ac allanol yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol yn ystod y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032. Amcanestynnir y bydd mudo mewnol net yn cynyddu ar gyfer y mwyafrif o awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod hwn.
Amcanestyniadau amrywiadol
Yn ogystal â’r prif amcanestyniadau a ddadansoddwyd uchod, rydym hefyd wedi cyhoeddi set lawn o amcanestyniadau amrywiadol. Mae hyn yn cynnwys ystod o amcanestyniadau yn seiliedig ar wahanol ragdybiaethau sy’n gysylltiedig â ffrwythlondeb, disgwyliad oes, mudo a strwythur oedran. Mae’r rhain yn awgrymu ansicrwydd, ond nid ydynt yn cynrychioli terfynau uchaf nac isaf o ran ymddygiad demograffig yn y dyfodol. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am yr amcanestyniadau amrywiadol hyn yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg isod.
Ffigur 5: amcanestyniadau amrywiadol o ran y boblogaeth, rhwng canol 2022 a chanol 2032 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 5: siart linell sy’n dangos y gwahaniaethau yn yr amcanestyniad poblogaeth ar lefel Cymru rhwng y prif amcanestyniad a’r pum amcanestyniad amrywiadol arall ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032. Mae’r amcanestyniadau amrywiadol yn cynnwys amcanestyniadau amrywiadol sy’n seiliedig ar ddim mudo, amrywiolyn mudo cyfartalog 10 mlynedd, amrywiolyn mudo cyfartalog 15 mlynedd, amrywiolyn poblogaeth uchel ac amrywiolyn poblogaeth isel. Yr amrywiolyn poblogaeth uchel sydd â’r boblogaeth uchaf a amcanestynnir ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, tra bod yr amrywiolyn sy’n seiliedig ar ddim mudo yn dangos gostyngiad yn y boblogaeth a amcanestynnir dros y cyfnod.
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y ar y siart hon yn dechrau ar sero.
Rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu 5.6% yn y prif amcanestyniad. Ar gyfer yr amrywiolyn poblogaeth uchel a’r amrywiolyn poblogaeth isel, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu 6.2% a 4.8% yn y drefn honno yn ystod yr un cyfnod. O dan yr amrywiolyn sy’n seiliedig ar ddim mudo, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn gostwng 2.7%, tra bod yr amrywiolyn mudo cyfartalog 10 mlynedd a’r amrywiolyn mudo cyfartalog 15 mlynedd yn amcanestyn y bydd y boblogaeth yn cynyddu 3.5% a 3.0%, yn y drefn honno.
O dan yr amcanestyniad poblogaeth uchel, ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol. Mae twf y boblogaeth a amcanestynnir yn amrywio rhwng 11.1% yng Nghaerdydd ac 1.6% ym Merthyr Tudful. Mae twf y boblogaeth a amcanestynnir tua 0.6 pwynt canran yn uwch na’r prif amcanestyniad ar gyfer pob awdurdod lleol.
O dan yr amcanestyniad poblogaeth isel, ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol. Mae twf y boblogaeth a amcanestynnir yn amrywio rhwng 9.5% yng Nghaerdydd a 0.1% ym Merthyr Tudful. Mae twf y boblogaeth a amcanestynnir tua 1.0 pwynt canran yn is na’r prif amcanestyniad ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdod lleol.
O dan yr amcanestyniad sy’n seiliedig ar ddim mudo, ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn lleihau yn 20 o’r 22 o awdurdodau lleol. Amcanestynnir y bydd poblogaeth Caerdydd a Chasnewydd yn cynyddu 3.1% ac 1.0% yn y drefn honno. Amcanestynnir mai Conwy ac Ynys Môn a fydd yn gweld y gostyngiadau mwyaf erbyn canol 2032, sef gostyngiad o 6.8% a 6.2% yn y drefn honno.
O dan yr amcanestyniad mudo cyfartalog 10 mlynedd, ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu mewn 21 o’r 22 o awdurdodau lleol. Ynys Môn yw’r unig awdurdod lleol yr amcanestynnir y bydd ei phoblogaeth yn gostwng ychydig dros y cyfnod, sef gostyngiad o 0.1%. Amcanestynnir mai Bro Morgannwg a Chasnewydd yw’r awdurdodau lleol a fydd yn gweld y cynnydd mwyaf erbyn canol 2032, sef cynnydd o 6.9% a 6.4% yn y drefn honno.
O dan yr amcanestyniad mudo cyfartalog 15 mlynedd, ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, ac eithrio Ynys Môn, yr amcanestynnir y bydd ei phoblogaeth yn gostwng ychydig iawn, gostyngiad o 0.03%. Amcanestynnir mai Caerdydd a Bro Morgannwg yw’r awdurdodau lleol a fydd yn gweld y cynnydd mwyaf erbyn canol 2032, sef cynnydd o 6.0% a 5.2% yn y drefn honno.
Cymariaethau ag amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon poblogaeth Cymru a Lloegr ar gyfer canol 2024 ar 30 Gorffennaf. Mae’n bosibl felly cymharu’r amcangyfrif canol-blwyddyn ar gyfer canol 2024 â’r boblogaeth a amcanestynnir ar gyfer canol 2024 ar gyfer pob awdurdod lleol.
Ffigur 6: gwahaniaeth canrannol rhwng amcangyfrif poblogaeth canol 2024 ac amcanestyniad canol 2024 o amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2022, yn ôl awdurdod lleol
Disgrifiad o ffigur 6: siart far sy’n dangos bod amcanestyniad poblogaeth canol 2024 yn yr amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2022 ychydig yn uwch nag amcangyfrif canol-blwyddyn 2024 ar gyfer y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol. Roedd yr amcanestyniad ar gyfer canol 2024 yn is na’r amcangyfrif ar gyfer canol 2024 yn Wrecsam, Blaenau Gwent, Caerffili a Sir Ddinbych.
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.
Mae amcanestyniad poblogaeth cenedlaethol Cymru ar gyfer canol 2024 yn 0.2% yn uwch na’r amcangyfrif canol-blwyddyn cyfatebol o’r boblogaeth ar gyfer yr un flwyddyn, neu tua 5,400 yn uwch. Mae cyfanswm amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol ar gyfer canol 2024 yn 0.3% yn uwch na’r amcangyfrif canol-blwyddyn cyfatebol, tua 10,700 yn uwch.
Rydym wedi cyfyngu ar fudo rhyngwladol yn ein hamcanestyniadau ar gyfer y cyfnod 2022-23 a 2023-24 i gyd-fynd â’r amcangyfrifon a gyhoeddwyd ar fudo rhyngwladol yn yr amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth. Felly, mae’r gwahaniaethau a welir yma rhwng yr amcangyfrifon canol-blwyddyn a’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol i raddau helaeth oherwydd mudo mewnol. Amcangyfrifir bod mudo mewnol net yn 2023-2024 yn is na’r hyn a amcanestynnwyd ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdodau lleol.
Ar lefel Cymru, roedd mudo mewnol net yn is rhwng canol 2023 a chanol 2024 nag yr oedd ar gyfer y cyfnod o bum mlynedd y mae’r amcanestyniadau hyn yn seiliedig arno, sef rhwng canol 2017 a chanol 2022. Mae hyn yn egluro, yn rhannol, rai o’r gwahaniaethau a welir rhwng yr amcangyfrifon canol-blwyddyn a’r amcanestyniadau ar ddechrau’r cyfnod amcanestyniadau.
Cymariaethau ag amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2018
Yn dilyn Cyfrifiad 2021, cymharwyd amcangyfrifon canol-blwyddyn 2021 yn seiliedig ar y Cyfrifiad ag amcangyfrifon canol-blwyddyn 2021 a symudwyd ymlaen o Gyfrifiad 2011. Drwy gysoni’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn â Chyfrifiad 2021, gwelwyd bod amcangyfrifon canol-blwyddyn Cymru a symudwyd ymlaen o Gyfrifiad 2011 tua 66,600 yn uwch na’r rhai a oedd yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021. Ar 9 Ebrill 2024, cyhoeddom erthygl, Dadansoddiad o'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn wedi'u hail-seilio yn dilyn Cyfrifiad 2021, sy'n rhoi rhywfaint o ddadansoddiad pellach o hyn ar lefel Cymru.
O ganlyniad, gwnaeth ail-seilio’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yn dilyn Cyfrifiad 2021 addasu’r amcangyfrifon canol blwyddyn i gyd-fynd â Chyfrifiad 2021, gan adolygu’r cydrannau newid ar gyfer yr amcangyfrifon canol-blwyddyn.
Roedd ein set ddiwethaf o amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth hyd at ganol 2018. Roedd y rhain felly yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn a symudwyd ymlaen o Gyfrifiad 2011, tra mai amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2022 yw’r cyntaf i gael eu seilio ar amcangyfrifon yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021. Felly, mae rhai o’r gwahaniaethau rhwng ein hamcanestyniadau blaenorol a’r amcanestyniadau newydd hyn yn sgil ailsylfaenu amcangyfrifon canol blwyddyn gan y SYG.
O ganlyniad, mae’r gwahaniaethau rhwng amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018 a’r rhai sy’n seiliedig ar 2022 yn adlewyrchu, nid yn unig y newid mewn tueddiadau demograffig a welwyd yn ystod y cyfnod hwn, ond hefyd y newid yn y dulliau rhwng y ddwy set o amcanestyniadau, yn ogystal â’r newid ym mlwyddyn sail yr amcanestyniad.
Gwelwyd rhai newidiadau demograffig sylfaenol i’w nodi yn ystod y cyfnod rhwng canol 2018 a chanol 2022. Ar lefel Cymru, mae’r gyfradd genedigaethau wedi parhau i ostwng, gyda chyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb yn gostwng o 1.63 yn 2018 i 1.46 yn 2022. Mae gwelliannau mewn disgwyliad oes wedi arafu, tra bod patrymau mudo wedi amrywio’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae patrymau mudo rhyngwladol wedi newid. Amcangyfrifir bod mudo rhyngwladol net wedi parhau i gynyddu’n fras yng Nghymru hyd at ganol 2016, ac ar ôl hynny gostyngodd yn gyffredinol am sawl blwyddyn, gan ostwng i’w lefel isaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf erbyn canol 2020 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Fodd bynnag, cynyddodd mudo rhyngwladol net yn sylweddol rhwng canol 2021 a chanol 2024. Arweiniodd y newidiadau hyn at amcangyfrif o 3.13 miliwn ar gyfer poblogaeth Cymru yng nghanol 2022, sef 35,900 (1.1%) yn is nag a amcanestynnwyd ar gyfer canol 2022 yn yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018.
Ffigur 7: gwahaniaeth canrannol rhwng amcanestyniadau poblogaeth canol 2032 gan ddefnyddio amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2018 a’r rhai sy’n seiliedig ar 2022, yn ôl awdurdod lleol
Disgrifiad o ffigur 7: siart far sy’n dangos bod yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer canol 2032 yn uwch yn yr amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2022 nag yn y rhai sy’n seiliedig ar 2018 ar gyfer 14 o’r 22 awdurdod lleol.
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol Cymru yn seiliedig ar 2022 gan Lywodraeth Cymru.
Ceredigion a Chaerdydd yw’r awdurdodau lleol sydd â’r gwahaniaeth positif mwyaf rhwng amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2018 a’r rhai sy’n seiliedig ar 2022 erbyn canol 2032.
Merthyr Tudful a Chonwy yw’r awdurdodau lleol sydd â’r gwahaniaethau negyddol mwyaf rhwng amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2018 a’r rhai sy’n seiliedig ar 2022 erbyn canol 2032.
Amcanestynnir y bydd pob awdurdod lleol yr amcanestynnwyd y bydd eu poblogaethau yn is yng nghanol 2032 wrth gymharu amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2022 â’r rhai sy’n seiliedig ar 2018 yn parhau i weld cynnydd yn eu poblogaeth rhwng canol 2022 a chanol 2032.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae’r holl amcanestyniadau yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin yn y flwyddyn gyfeirio.
Mae yna eisoes ffin cyfeiliornad yn y data mewnbwn sylfaenol a ddefnyddir yn yr amcanestyniadau, er enghraifft, amcangyfrifon o'r boblogaeth bresennol a phatrymau mudo yn y gorffennol. Yn ogystal, ni all ein rhagdybiaethau am y dyfodol fod yn sicr, gan fod patrymau genedigaethau, marwolaethau a mudo bob amser yn dueddol o newid a gallant gael eu dylanwadu gan lawer o ffactorau. O ganlyniad i hyn, gall maint gwirioneddol y boblogaeth yn y dyfodol wyro oddi wrth yr hyn a amcanestynnir.
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2022, Cymru
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol set lawn o amcanestyniadau ar gyfer y DU (y SYG). Mae hyn yn cynnwys prif amcanestyniadau ac amcanestyniadau amrywiadol ar gyfer y DU, Prydain Fawr, Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gwnaethom hefyd gyhoeddi bwletin sy’n canolbwyntio’n benodol ar Gymru.
Amcanestyniadau amrywiadol ar gyfer Cymru
Mae’r amcanestyniadau amrywiadol yn cynnwys amrywiolyn ‘poblogaeth uchel’, sy’n seiliedig ar ffrwythlondeb uchel a disgwyliad oes uchel. Mae’r rhagdybiaethau mudo yr un fath â’r prif amcanestyniad.
Mae’r amrywiolyn ‘poblogaeth isel’ yn seiliedig ar ffrwythlondeb isel a disgwyliad oes isel. Mae’r rhagdybiaethau mudo yr un fath â’r prif amcanestyniad.
Mae’r amrywiolyn ‘dim mudo’, sy’n seiliedig ar newid naturiol yn unig, yn dangos poblogaeth a amcanestynnir pob awdurdod lleol pe na bai unrhyw fudo i mewn nac allan yn y dyfodol.
Mae’r amrywiolyn ‘mudo cyfartalog 10 mlynedd’ yn defnyddio 10 mlynedd o ddata ar gyfer mudo rhyngwladol a mudo mewnol, yn hytrach na 5 mlynedd o ddata a ddefnyddir yn y prif amcanestyniad. Mae hyn yn unioni cyfnod 5 mlynedd a allai fod yn annodweddiadol. Fodd bynnag, mae risg hefyd y bydd yn lleihau effaith newidiadau mwy systemig sydd wedi digwydd dros y cyfnod o 10 mlynedd.
Mae’r amrywiolyn ‘mudo cyfartalog 15 mlynedd’, sy’n defnyddio 15 mlynedd o ddata ar gyfer mudo rhyngwladol a mudo mewnol, yn hytrach na 5 mlynedd o ddata a ddefnyddir yn y prif amcanestyniad. Yn yr un modd, mae hyn yn unioni cyfnod o 5 mlynedd a allai fod yn annodweddiadol. Fodd bynnag, mae risg hefyd y bydd yn lleihau effaith newidiadau mwy systemig sydd wedi digwydd dros y cyfnod o 15 mlynedd.
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Mae’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2024 (SYG) a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf.
Rydym yn argymell y dylid parhau i ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y blynyddoedd hyd at, ac yn cynnwys, canol 2024 ar gyfer Cymru ac awdurdodau lleol.
Adroddiad technegol
I gyd-fynd â’r data yn y cyhoeddiad hwn, byddwn yn diweddaru ein hadroddiad technegol ar gyfer amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd i ddod. Bydd gwybodaeth fanylach am ansawdd a dulliau’r amcanestyniadau, gan gynnwys y rhagdybiaethau sylfaenol, ar gael yma.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau y DU).
Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu’n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Ionawr 2020. Maent yn cydymffurfio â’r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a’i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.
Caiff ystadegau swyddogol achrededig eu galw’n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Caiff ein hymarfer ystadegol ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth i’r cyhoedd yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Mae amcanestyniadau poblogaeth yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, ar 30 Mehefin bob blwyddyn. Caiff amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn ar gyfer Cymru a Lloegr eu cynhyrchu gan y SYG. Er mwyn cynhyrchu amcanestyniadau awdurdodau lleol, caiff yr amcangyfrifon poblogaeth eu cyfuno â rhagdybiaethau ynghylch genedigaethau, marwolaethau a mudo. Mae’r rhagdybiaethau hyn yn seiliedig ar dueddiadau blaenorol.
O ran mudo, defnyddir diffiniad y Cenhedloedd Unedig o fudwr rhyngwladol, hynny yw, y rhai sy’n newid eu gwlad breswyl am gyfnod o 12 mis o leiaf. Nid yw mudwyr tymor byr, er enghraifft, gweithwyr mudol tymhorol, yn cael eu cyfrif yn yr amcangyfrifon poblogaeth.
Mae’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon canol-blwyddyn o’r boblogaeth ar gyfer canol 2022 ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae’r data sylfaenol a ddefnyddir i wneud y cyfrifiadau yn cael ei gynhyrchu gan y SYG ar gyfer y cyfnod amcanestyniadau i gyd, sef 25 mlynedd fel arfer. Er mwyn cynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth, mae angen ffurfio rhagdybiaethau er mwyn amcanu lefelau ffrwythlondeb, marwolaeth a mudo yn y dyfodol ar gyfer pob awdurdod lleol.
Caiff amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol eu cynhyrchu gan ddefnyddio dull demograffig sefydledig, sef y dull cydran carfan. Yn benodol, cyfrifir yr amcanestyniadau poblogaeth hyn gan ddefnyddio’r dulliau a ganlyn:
- cymryd amcangyfrif poblogaeth y flwyddyn ddiweddaraf
- tynnu grwpiau poblogaeth arbennig o’r amcangyfrif
- heneiddio pob unigolyn un flwyddyn
- ychwanegu genedigaethau a thynnu marwolaethau
- caniatáu ar gyfer mudo mewnol a mudo allanol
- ychwanegu yn ôl yn y grwpiau poblogaeth arbennig
Yn gyffredinol, mae’r rhagdybiaethau yn seiliedig ar dueddiadau yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae’r amcanestyniadau yn dangos beth allai ddigwydd pe bai’r tueddiadau hyn yn parhau.
Mae grwpiau poblogaeth arbennig yn cynnwys nifer y carcharorion a’r lluoedd arfog ym mhob awdurdod lleol. O ganol 2011 ymlaen, ystyrid bod carcharorion yn preswylio fel arfer mewn sefydliad os oeddent yn bwrw dedfryd o garchar o chwe mis neu fwy.
Ansawdd
Caiff y ffigurau hyn a gyhoeddir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol drwy ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael a thrwy gymhwyso dulliau gan arfer eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. Mae’r ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu elfen Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau y DU) ac egwyddorion y System Ystadegol Ewropeaidd o ran ansawdd allbynnau ystadegol.
Caiff gwiriadau dilysu eu cynnal gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru. Yna, caiff y datganiad ystadegol ei ddrafftio, ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr a’i gyhoeddi yn unol â’r datganiad ar gyfrinachedd a gweld data sy’n seiliedig ar yr elfen dibynadwyedd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau y DU).
Ar 30 Gorffennaf, cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon canol blwyddyn poblogaeth Cymru a Lloegr ar gyfer canol 2024. Diwygiodd y SYG amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 a chanol 2023 er mwyn ymgorffori gwell data ar fudo rhyngwladol a mudo mewnol. Rydym wedi ymgorffori’r amcangyfrifon diwygiedig yn yr amcanestyniadau hyn.
Datblygwyd y dulliau ar gyfer cyfrifo’r amcanestyniadau poblogaeth hyn mewn cydweithrediad agos â grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP), sy’n cynnwys swyddogion awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r grŵp hwn yn fforwm ar gyfer cynnal trafodaeth dechnegol ar y dulliau ac i gytuno ar y rhagdybiaethau a’r data sylfaen i’w defnyddio. Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr sydd â gwybodaeth a/neu brofiad o ddata demograffig ac amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd.
Yn rhan o’r gwaith datblygu o ran yr amcanestyniadau poblogaeth hyn, cytunodd y grŵp â’r newidiadau canlynol i’r rhagdybiaethau mudo rhyngwladol.
Er mwyn ystyried y newidiadau diweddar sydd wedi’u gwneud i’r amcangyfrifon mudo rhyngwladol hirdymor, penderfynwyd addasu’r rhagdybiaethau mudo rhyngwladol ar gyfer yr amcanestyniadau hyn. Mae data mudo rhyngwladol sydd wedi’u cynnwys yn yr amcanestyniadau hyn wedi’u cyfyngu ar gyfer pob awdurdod lleol, mudo rhyngwladol mewnol ac allanol, y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2023, a chanol 2023 i ganol 2024, a hynny i gyd-fynd â’r amcangyfrif mudo rhyngwladol a gyhoeddwyd yn yr amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn diwygiedig ym mis Gorffennaf. Nid yw’r dull wedi newid ar gyfer pob blwyddyn arall yng nghyfnod yr amcanestyniad, o ganol 2025 ymlaen.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad technegol.
Gwerth
Diben y datganiad ystadegol yw darparu tystiolaeth ar gyfer cynllunio ac amcangyfrif anghenion sy’n seiliedig ar y boblogaeth yn y dyfodol ar lefel genedlaethol a lleol, llywio’r gwaith o ddyrannu adnoddau, ategu asesiadau llesiant ac o anghenion y boblogaeth, a chyfrifo ystadegau pellach, er enghraifft, amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol, ac wrth bwysoli arolygon.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i’w wefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi’r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r rhai a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol yn ogystal â chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran eu hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegau Poblogaeth a Mudo
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 103/2025
