Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau - Canlyniadau'r maes iechyd
Diben MALlC yw nodi’r ardaloedd bach yng Nghymru sydd fwyaf difreintiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y maes hwn yw mesur diffyg iechyd da ymhlith yr holl bobl, a chasglu gwybodaeth am ragfynegyddion iechyd yn y dyfodol yn seiliedig ar amddifadedd a brofwyd yn ystod plentyndod. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 15% yn y mynegai cyffredinol.
Dangosyddion
Ffigur 4.1: dangosyddion maes iechyd, MALlC 2025
Disgrifiad o ffigur 4.1: diagram yn dangos bod gan y maes iechyd saith dangosydd, pob un yn safle yn y boblogaeth berthnasol, a'r ganran a ddengys nesaf at bob dangosydd yw'r swm y mae'n cyfrannu at y maes cyffredinol.
O'r dangosyddion, mae 2 yn ymwneud â phlant:
- pwysau geni isel (genedigaethau byw unigol sy'n llai na 2.5kg), 2015 i 2024 (4.3%)
- plant 4 i 5 oed sy'n ordew, 5 mlynedd wedi'u cyfuno: 2016/17, 2017/18, 2018/19, 2022/23 a 2023/24 (3.6%)
O'r dangosyddion, mae 3 yn casglu gwybodaeth am gyflyrau penodol sydd wedi'u diagnosio:
- cyflyrau cronig wedi'u diagnosio gan feddygon teulu, Gorffennaf 2025 (19.6%)
- cyflyrau iechyd meddwl wedi'u diagnosio gan feddygon teulu, Gorffennaf 2025 (8.1%)
- achosion o ganser, pob malaenedd ac eithrio canser y croen nad yw'n felanoma, 2012 i 2021 (4.7%)
O'r dangosyddion, mae 2 yn casglu gwybodaeth am statws iechyd y boblogaeth ehangach:
- marwolaethau cynamserol: marwolaeth o dan 75 oed, 2015 i 2024 (27.9%)
- salwch hirdymor cyfyngus a hunanadroddwyd, 2021 (31.7%)
Mae rhai dangosyddion wedi'u safoni yn ôl oedran a rhyw er mwyn cyfrif am wahaniaethau yn y boblogaeth rhwng ardaloedd bach. Yn y maes iechyd, defnyddir dadansoddi ffactorau i gadarnhau'r pwysau
Mae manylion llawn am y dangosyddion ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.
Prif bwyntiau
Ffigur 4.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd Iechyd, MALlC 2025
© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.
Disgrifiad o ffigur 4.2: Mae'r map yn dangos ym maes iechyd MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd iechyd uchel yng nghymoedd y de a'r dinasoedd mawr, ac mewn rhai trefi ar yr arfordir yn y gogledd.
- O ran y maes iechyd, yr ardal fach fwyaf difreintiedig oedd Gorllewin y Rhyl 2 wedi'i ddilyn gan Orllewin y Rhyl 1 (yn Sir Ddinbych) yna Bracla 3 (ym Mhen-y-bont ar Ogwr).
- Cafodd y rhain gosod yn ail, pedwerydd a phumed mwyaf difreintiedig yn y drefn honno ym MALlC 2019.
- Mae patrymau cyffredinol amddifadedd iechyd ym MALlC 2025 yn eithaf tebyg i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.
- Yr awdurdodau lleol â'r crynodiadau uchaf o ardaloedd yn y 10% o ardaloedd bach mwyaf difreintiedig oedd Merthyr Tudful (28%), yna Castell-nedd Port Talbot (19%) a Chaerdydd (16%).
- Nid oedd gan Geredigion unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig, ac roedd gan Wynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy a Phowys un yr un.
Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025
Bu rhai newidiadau methodolegol bach i'r maes iechyd rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025, ond maent yn parhau i fod yn gymharol yn fras. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler adroddiad technegol MALlC 2025.
| Grŵp amddifadedd MALlC | 10% mwyaf difreintiedig 2025 | 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2025 | 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2025 | 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2025 | 50% lleiaf difreintiedig 2025 |
|---|---|---|---|---|---|
| 10% mwyaf difreintiedig 2019 | 76% | 20% | 4% | 0% | 0% |
| 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2019 | 20% | 52% | 21% | 7% | 0% |
| 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2019 | 4% | 22% | 38% | 35% | 2% |
| 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2019 | 0% | 3% | 16% | 62% | 19% |
| 50% lleiaf difreintiedig 2019 | 0% | 0% | 1% | 7% | 92% |
Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.
Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.
Mae'r tabl yn dangos:
- ac eithrio'r grŵp 20% i 30% mwyaf difreintiedig, bod y rhan fwyaf o ACEHIau wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025
- yr oedd 76% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
- yr oedd 92% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
Dim ond un ardal symudodd fwy na 2 grŵp amddifadedd iechyd, Llanisien 11 yng Nghaerdydd, a symudodd o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 i'r 10% i'r 20% mwyaf difreintiedig yn 2025 (noder nad yw hyn yn ymddangos yn y tabl uchod yn sgil talgrynnu).
Isod rydym yn canolbwyntio ar ardaloedd eraill sydd wedi symud fwyaf i mewn neu allan o'r grwpiau mwy difreintiedig.
Yn gymharol fwy difreintiedig
Symudodd 7 ardal o grŵp yr 20% i 30% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025, wedi'i ddosbarthu ar draws 7 awdurdod lleol gwahanol.
Cymharol lai difreintiedig
Symudodd 7 ardal o'r grŵp 10% mwyaf difreintiedig i'r grŵp 20% i 30% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025, ond roedd 2 o'r rheini wedi newid ffin AGEHI rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025.
Dadansoddiad awdurdodau lleol
Ffigur 4.3: plot blychau o safleoedd maes iechyd MALlC 2019, yn ôl awdurdod lleol
Disgrifiad o ffigur 4.3: dengys y siart isod ddosbarthiad safleoedd y maes iechyd ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tua ochr chwith gwaelod y plot).
Mae'r siart yn dangos bod dosbarthiad y safleoedd maes iechyd ar ei fwyaf yng Nghaerdydd, Abertawe a Bro Morgannwg ac ar ei fwyaf cul yn Ynys Môn, Ceredigion a Gwynedd. Powys sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r isaf (mwyaf difreintiedig).
Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran iechyd ym MALlC 2019, yn ôl awdurdod lleol
Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd gyfartalog.
Mae canlyniadau maes iechyd MALlC 2025 yn dangos y canlynol:
- yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Merthyr Tudful (28%, neu 10 ardal), yna Castell-nedd Port Talbot (19% neu 17 o ardaloedd), yna Caerdydd (16% neu 34 o ardaloedd)
- nid oedd gan Geredigion unrhyw ardaloedd bach yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac roedd gan Wynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy a Phowys, un ardal fach yn y 10% mwyaf difreintiedig
- gan Bowys roedd y crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, ar 20%
- Blaenau Gwent a oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig, ar 83%
Ffynonellau perthnasol eraill
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
Rydym yn cyhoeddi set gynhwysfawr o wybodaeth am iechyd, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r ystadegau hyn yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys gweithgareddau sylfaenol a chymunedol y GIG, amseroedd aros a staff y GIG.
Iechyd deintyddol
Rydym wedi cyhoeddi data newydd ar asesiadau iechyd y geg a gynhelir yn ystod cysylltiadau deintyddol y GIG. Gwnaethom sôn am gynlluniau i edrych ar hyn fel dangosydd MALlC posibl yn ein hadroddiad cynigion a chrynodeb dilynol o adborth gan ddefnyddwyr. Fodd bynnag, gwelsom fod yr ymdriniaeth o'r data (cyfrannau o bobl sydd â chysylltiadau deintyddol diweddar y GIG) yn amrywiol gan AGEHI, sy'n golygu na allwn asesu iechyd deintyddol yn gyson ac yn hyderus ledled Cymru ar hyn o bryd, sy'n angenrheidiol ar gyfer dangosydd MALlC.
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gofyn cwestiynau am iechyd a'r defnydd o wasanaethau iechyd. Mae hyn yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau sy'n amrywio yn ôl blwyddyn yr arolwg, a gellir gweld y canlyniadau ar dudalennau pynciau'r Arolwg ar gyfer Iechyd y Boblogaeth a'r GIG a Gofal Cymdeithasol.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu gwybodaeth am iechyd y cyhoedd i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r cyhoedd. Fel rhan o hyn, mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn casglu gwybodaeth am ganlyniadau iechyd i bobl Cymru.
Brechiadau ymhlith plant
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiadau ar y nifer sy'n derbyn brechiadau yn ystod plentyndod yn seiliedig ar y bas data iechyd plant cymunedol cenedlaethol (a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru). Gwnaethom sôn am gynlluniau i edrych ar hyn fel dangosydd MALlC posibl yn ein hadroddiad cynigion a chrynodeb dilynol o adborth gan ddefnyddwyr. Gwnaethom edrych ar werth 6 blynedd o ddata a gwelsom fod y data yn cynnwys gradd uchel iawn o amrywioldeb ar gyfer ACEHIau o gymharu â dangosyddion eraill yn y maes. Byddwn yn adolygu yn y dyfodol gyda set o ddata hwy, ar ôl y pandemig.
Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru
Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yw Cofrestrfa Canser Genedlaethol Cymru a'i phrif rôl yw cofnodi, storio ac adrodd ar bob achos o ganser ar gyfer poblogaeth breswyl Cymru ble bynnag y cânt eu trin.
Mapiau Iechyd Cymru
Mae Mapiau Iechyd Cymru yn cynnwys ystod eang o ddata iechyd am breswylwyr Cymru, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty, marwolaethau ac iechyd anifeiliaid.
Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys data disgwyliad oes a marwolaethau, a gesglir o gofrestriadau ac arolygon.
Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion
Mae'r arolwg iechyd a llesiant myfyrwyr ysgolion uwchradd a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, yn darparu ystod o ddata gan gynnwys mesurau llesiant meddyliol a gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed.
