Neidio i'r prif gynnwy

Cod Ymddygiad y Gweinidogion

1.1 Wrth ichi arfer eich dyletswyddau, disgwylir ymddygiad cyfansoddiadol a phersonol o’r safon uchaf oddi wrth y gweinidogion. Disgwylir ichi barchu Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus ac egwyddorion Ymddygiad Gweinidogion.

1.2 Mae Cod y Gweinidogion, a ddyroddir gan y Prif Weinidog, yn rhoi arweiniad i'r gweinidogion ar sut y dylent weithredu a threfnu eu busnes er mwyn cynnal y safonau hyn. Mae'n gymwys i'r holl Weinidogion, y Cwnsler Cyffredinol a'r Dirprwy Weinidogion. Mae'n ofynnol ichi gytuno'n ffurfiol i gydymffurfio â'r Cod wrth ymgymryd â swydd yn y Cabinet a bydd eich cytundeb i wneud hynny yn cael ei gyhoeddi.

1.3 Mae Rhan 1 o'r Cod yn rhoi arweiniad ar y foeseg sy'n sail i gyfrifoldebau, cydberthnasau a buddiannau'r Gweinidogion, tra mae Rhan 2 yn darparu arweiniad gweithdrefnol ar wahanol agweddau ar rôl y Gweinidogion. Felly, gellir ystyried Cod y Gweinidogion yn fath o arweinlyfr i Weinidogion ar gyflawni dyletswyddau swyddogol. Dylid ei ddarllen ar y cyd â Chod Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru sy'n nodi'r ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth staff y Gwasanaeth Sifil sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru. Mae Cod y Gwasanaeth Sifil i’w weld yma.

1.4 Mae'r fersiwn ddiweddaraf o God y Gweinidogion ar gael yma.

1.5 Rydych chi'n gyfrifol yn bersonol am benderfynu sut i weithredu ac ymddwyn yng ngoleuni'r cod. Nid mater i'r Ysgrifennydd Parhaol na swyddogion eraill yw gorfodi’r cod. Fodd bynnag, gallwch ddisgwyl i’r gweision sifil sy’n eich cynghori fod yn ymwybodol o’r cod hwn a gwneud pob ymdrech i dynnu'ch sylw at unrhyw wrthdaro posibl y maent wedi sylwi arno. Yn ogystal, mae swyddogion eich swyddfa breifat neu swyddogion eraill ar gael i'ch cynghori os oes pryderon ynghylch sut y gallai'r cod fod yn berthnasol o dan amgylchiadau penodol. Mae'r Ysgrifennydd Parhaol yn gyfrifol am eich cefnogi o ran rheoli'ch buddiannau preifat tra byddwch yn y swydd, fel y nodir yn adran 5 o'r cod.

Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol

1.6 Mae'r Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol yn cynorthwyo'r Prif Weinidog mewn perthynas â Chod y Gweinidogion, gan gynnwys wrth ymchwilio i gwynion bod y Cod wedi'i dorri. Pan gynhelir ymchwiliad, bydd yn cael ei gynnal yn annibynnol ar y llywodraeth a chaiff adroddiad ei ddarparu i'r Prif Weinidog. Bydd y Cylch Gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad, yn ogystal â'r adroddiad ac unrhyw benderfyniad gan y Prif Weinidog ar gamau i'w cymryd, yn cael eu cyhoeddi.

1.7 Gall y Cynghorydd Annibynnol hefyd, ar gais y Prif Weinidog, roi sylwadau a chyngor ar y datganiadau o fuddiant a wneir gan weinidogion ac mae'n gyfrifol am ddarparu cyngor mewn perthynas â'r Rheolau Penodiadau Busnes sy'n gymwys pan fydd gweinidogion yn gadael eu swydd.

Gwydnwch a llesiant personol

1.8 Mae bod yn Weinidog yn gyffrous ac yn werth chweil mewn sawl ffordd. Fodd bynnag, mae swyddi Gweinidogion yn gymhleth ac mae cyfrifoldebau pwysig ynghlwm wrthynt. Er y bydd swyddogion eich swyddfa bob amser yn gwneud eu gorau i'ch helpu i drefnu'ch dyletswyddau'n effeithlon, mae'n anochel y bydd pwysau'n cystadlu â'i gilydd, o dro i dro. Mae rhythm bywyd gwleidyddol yn golygu y gall y cynlluniau gorau weithiau gael eu drysu ar fyr rybudd, a gall hyn, wrth gwrs, fod yn rhwystredig.

1.9 Anogir y Gweinidogion i roi sylw a blaenoriaeth i'w llesiant. Dylech weithio gyda'ch swyddfa i sicrhau cydbwysedd rhesymol rhwng gwaith a bywyd y tu allan i'r gwaith. Mae amser i ffwrdd yr un mor bwysig â gwaith caled, a dylech geisio ei ddiogelu pan allwch chi. Mae treulio amser gyda theulu a ffrindiau yn bwysig ar gyfer llesiant.

1.10 Mae'n bwysig eich bod yn neilltuo digon o amser i baratoi ar gyfer eich ymrwymiadau yn y Senedd a chyfarfodydd allweddol a dylid cynnwys hyn yn eich amserlen ddyddiol. Dylech gytuno ar eich dyddiadur ymlaen llaw â'ch swyddfa a cheisio cadw at eich amserlen ble bynnag y bo modd; gall amserlen sy'n llithro waethygu teimladau o golli rheolaeth. Yn yr un modd, bydd angen ichi fod yn hyblyg – mae'n anodd rhag-weld pethau ym mywyd Gweinidog a bydd methu â chydnabod hynny hefyd yn arwain at rwystredigaeth.

1.11 Gall straen a salwch meddwl daro unrhyw un, pwy bynnag ydyw, ar unrhyw adeg. Os ydych chi'n poeni neu'n teimlo unrhyw beth sy'n achosi pryder ichi, mae'n bwysig eich bod yn gofyn am gymorth. Yn ogystal â siarad ag ymarferwyr meddygol, teulu a ffrindiau, mae cymorth amrywiol ar gael i'r Gweinidogion drwy adnoddau Comisiwn y Senedd a Llywodraeth Cymru.