Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn  ar ganllawiau cynllunio drafft ar gyfer Gwastadeddau Gwent: Canllawiau Cynllunio Strategol Drafft ar gyfer Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Gwastadeddau Gwent (Polisi 9 Cymru'r Dyfodol) (y cyfeirir atynt fel ‘Y Canllawiau’).

Nod y canllawiau hyn yw rhoi eglurder ynglŷn â sut y dylid ystyried tirwedd unigryw a phwysig Gwastadeddau Gwent yn y system gynllunio. Mae'n ategu Polisi 9 y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol – Cymru'r Dyfodol – sy'n nodi bod Gwastadeddau Gwent yn ‘Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol’ oherwydd eu harwyddocâd a'u pwysigrwydd ecolegol a diwylliannol ar gyfer bioamrywiaeth, hamdden, lleihau llifogydd, storio carbon a chynhyrchu bwyd. 

Mae'r Canllawiau yn nodi atebion ymarferol y gall cynllunwyr a rhanddeiliaid eraill eu cymhwyso drwy'r system gynllunio er mwyn sicrhau bod gwaith datblygu yn cyfrannu at wella'r dirwedd hon a'i nodweddion pwysig.

1. Cyflwyniad

Mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd hanesyddol ac ecolegol unigryw–yn wastadedd arfordirol helaeth a adferwyd sy'n ymestyn o Gaerdydd i Gas-gwent ar hyd Aber Afon Hafren. Diffinnir y Gwastadeddau Gwent, sydd wedi'u ffurfio gan ddwy fil o flynyddoedd o ymyrraeth ddynol, gan eu system ddraenio wedi'i pheiriannu o 'reens', ffosydd a 'grips', sy'n galluogi amaethyddiaeth gynhyrchiol gan gynnal bioamrywiaeth gyfoethog ar yr un pryd. Diffinnir ardal, sy'n cynnwys Gwastadeddau Gwynllŵg a Chil-y-coed, gan forgloddiau ac fe'i cydnabyddir am ei gwarth naturiol a diwylliannol eithriadol drwy rwydwaith o SoDdGAau a dynodiadau rhyngwladol sydd wedi'u cysylltu ag Aber Afon Hafren, yn ogystal â'i statws fel Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

Er gwaethaf y dynodiadau, mae Gwastadeddau Gwent yn parhau i fod yn agored i dresmasu gan waith datblygu oherwydd eu lleoliad a'u topograffeg. At hynny, mae prosesau eraill megis diffyg mesurau rheoli tir priodol a llygredd dŵr, gyda'i gilydd, yn arwain at ddiraddio a darnio'r Gwastadeddau, gyda phob un ohonynt yn bygwth cyflwr cyffredinol eu dynodiadau gan gynnwys y SoDdGAau. 

Mae Gwastadeddau Gwent wedi cael statws cynllunio cenedlaethol drwy gael eu nodi'n ‘Ardal Adnoddau Naturiol ’ ym Mholisi 9 y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol – Cymru'r Dyfodol. Nodwyd ei bod yn ardal o'r fath oherwydd ei harwyddocâd a'i phwysigrwydd ecolegol a diwylliannol ar gyfer bioamrywiaeth, hamdden, lleihau llifogydd, storio carbon a chynhyrchu bwyd. O ganlyniad, mae angen llunio Canllawiau Cynllunio Strategol  ar gyfer y Gwastadeddau sy'n ategu'r polisi hwnnw. 

Mae'r Canllawiau wedi deillio o weithgarwch ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid ac ymarfer casglu tystiolaeth cynhwysfawr ynglŷn â sut y dylid ystyried y dirwedd unigryw a phwysig hon yn y system gynllunio. Mae tystiolaeth a goladwyd i lywio'r Canllawiau wedi nodi atebion ymarferol y gall cynllunwyr a rhanddeiliaid eraill eu cymhwyso drwy'r system gynllunio er mwyn sicrhau bod gwaith datblygu yn cyfrannu at wella'r dirwedd hon a'i nodweddion pwysig, yn hytrach nag amharu arni. 

Mae'r Canllawiau wedi'u llunio er mwyn galluogi cynllunwyr awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i roi Polisi 9 ar waith mewn perthynas â Gwastadeddau Gwent. Mae'n gwneud hyn drwy nodi cyfres o Egwyddorion Strategol a Chamau Gweithredu (gweler Adran 7 o'r Canllawiau) sy'n canolbwyntio ar yr hyn y dylai cynigion defnydd tir yn y dyfodol fod yn ei ystyried mewn perthynas â diogelu a gwella agweddau ecolegol ar Wastadeddau Gwent a pha gamau cydweithredol y dylai awdurdodau lleol ac eraill eu cymryd er mwyn cyflawni'r nodau hynny. At hynny, mae'r Canllawiau yn darparu gwybodaeth am sut y gall rhanddeiliaid ddefnyddio'r mapiau o Rwydweithiau Ecolegol Gwydn, a luniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru  (gweler Adran 6 o'r Canllawiau) at ddibenion gwneud penderfyniadau cynllunio. 

Fodd bynnag, dylid nodi bod rhan helaeth o Wastadeddau Gwent yn cael ei chwmpasu gan wahanol ddynodiadau statudol, gan gynnwys SoDdGAau. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi rhagdybiaeth yn erbyn gwaith datblygu mewn ardaloedd dynodedig o'r fath ac, felly, bydd gwaith datblygu yn yr ardaloedd penodol hynny yn gyfyngedig iawn.

2. Cyd-destun y canllawiau

Mae Adrannau 1-4 yn rhoi gwybodaeth gyd-destunol sy'n disgrifio pam a sut mae'r Canllawiau wedi'u datblygu. 

Mae Adran 1 (Diben, Cwmpas a Statws Y Canllawiau) yn nodi pam mae angen Y Canllawiau, y problemau y mae'n ceisio eu datrys a maint eu cwmpas. Mae hefyd yn cadarnhau statws Y Canllawiau. I grynhoi, mae'r gofynion ar gyfer Y Canllawiau wedi codi am fod y Gwastadeddau wedi'u dynodi'n Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol gan Bolisi 9 Cymru'r Dyfodol. Mae'r Polisi yn ei gwneud yn ofynnol i randdeiliaid gydweithio i nodi rhwydweithiau ecolegol gwydn, diogelu bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau a chynyddu hyd yr eithaf ar gyfleoedd ar gyfer seilwaith gwyrdd. Felly, mae'r Canllawiau yn ymdrin â'r materion hyn yn benodol yng nghyd-destun Gwastadeddau Gwent. Mae'r Canllawiau yn rhoi eglurder ynglŷn â sut y dylid cymhwyso dynodiad yr Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol mewn perthynas â Gwastadeddau Gwent a sut y dylid penderfynu ar unrhyw gynigion datblygu. Cadarnheir statws y Canllawiau o dan Adran 3 fel Canllawiau Cynllunio Strategol, sy'n ategu'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol – Cymru'r Dyfodol. Mae Polisi 9 Cymru'r Dyfodol yn cadarnhau bod Gwastadeddau Gwent yn un o naw Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol ledled Cymru.

Mae Adran 2 (Datblygu'r Canllawiau) yn rhoi trosolwg o'r sail dystiolaeth sydd wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r Canllawiau, gan gynnwys llunio'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig. 

Mae Adran 3 (Cyd-destun Cynlluniau Datblygu a Pholisi) yn rhoi trosolwg o gwmpas y fframwaith polisi y dylid ei ystyried ochr yn ochr â'r Canllawiau. Mae'n rhoi rhagor o wybodaeth am roi polisïau a dogfennaeth gysylltiedig gan gynnwys Polisi 9 Cymru'r Dyfodol, Pennod 6 o Bolisi Cynllunio Cymru a Datganiadau Ardal ar waith ac am ddefnyddio Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn gan gynnwys mapiau cysylltiedig.

Mae Adran 4 (Gwastadeddau Gwent – tirwedd unigryw yng Nghymru) yn rhoi cyd-destun manwl Gwastadeddau Gwent, gan gynnwys eu hanes a rhagor o wybodaeth am eu nodweddion a'u dynodiadau. Mae hefyd yn cyfeirio at ddogfennau allweddol sy'n rhoi rhagor o wybodaeth ddefnyddiol am Wastadeddau Gwent, gan gynnwys asesiadau perthnasol o dirwedd. 

Cwestiwn 1: 

A yw Adrannau 1-4 yn rhoi digon o wybodaeth am gyd-destun Canllawiau Cynllunio Gwastadeddau Gwent? Os nad ydynt, sut y dylid diweddaru Adrannau 1-4?

3. Problemau a heriau presennol ar gyfer Gwastadeddau Gwent

Mae Adran 5 yn nodi'r prif faterion, problemau a bygythiadau sy'n effeithio ar Wastadeddau Gwent ar hyn o bryd. Mae'n rhestru'r dogfennau sail dystiolaeth sydd wedi llywio'r broses o nodi'r problemau a'r heriau hyn ac, yna, aiff ymlaen i'w disgrifio'n fanylach. Mae'r problemau a'r heriau hynny a nodir yn Y Canllawiau fel a ganlyn: 

  • Darnio dynodiadau presennol a safleoedd a chynefinoedd gwarchodedig a risgiau i wydnwch ecosystemau ehangach.
  • Risgiau i gyflwr ffafriol nodweddion cynefinoedd sydd wedi'u cysylltu'n swyddogaethol. 
  • Rhywogaethau yn agored i golledion sylweddol.
  • Problemau sy'n gysylltiedig â chyfanrwydd y rhwydwaith dŵr gan gynnwys capasiti storio a bod yn agored i lifogydd. 
  • Effeithiau ar gymeriad tirwedd gan gynnwys y dirwedd hanesyddol a phroblemau sy'n gysylltiedig â llygredd golau. 
  • Dirywiad systemau traddodiadol ar gyfer cynhyrchu bwyd. 
  • Risgiau i lefel ac ansawdd systemau storfeydd carbon. 
  • Effeithiau ar ansawdd aer. 
  • Problemau yn ymwneud â hygyrchedd ac amwynderau a wynebir gan gymunedau lleol. 
  • Taflu ysbwriel a thipio anghyfreithlon. 
  • Problemau yn ymwneud â chynllunio a nodwyd o ganlyniad i'r ffordd y penderfynwyd ar gynigion rheoli a datblygu tir ar gyfer Gwastadeddau Gwent. 

Cwestiwn 2: 

A yw Adran 5 yn rhoi digon o wybodaeth am y problemau a'r heriau presennol sy'n effeithio ar Wastadeddau Gwent? Os nad ydyw, nodwch ffynhonnell y dystiolaeth a rhowch ddisgrifiad o sut y dylid diweddaru Adran 5.

4. Mapiau o Rwydweithiau Ecolegol Gwydn Gwastadeddau Gwent

Mae Adran 6 yn nodi, oherwydd eu gwerth fel adnodd ecolegol a naturiol eithriadol, fod Polisi 9 Cymru'r Dyfodol wedi dynodi Gwastadeddau Gwent yn Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llunio mapiau o Rwydweithiau Ecolegol Gwydn ar gyfer Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Gwastadeddau Gwent yn unol â gofynion Polisi 9. Mae'r mapiau hyn wedi'u mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Canllawiau. Yn ogystal â datblygu'r Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol, nodwyd dau barth yn yr ardal honno, sef: y Parth Craidd a'r Parth Adfer (Cyfleoedd).

Mae'r Canllawiau yn nodi'r wybodaeth gefndir am sut y penderfynodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar y Parthau hyn drwy'r mapiau o Rwydweithiau Ecolegol Gwydn. I grynhoi, bwriedir i'r Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol fod yn ddigon mawr i gwmpasu'r holl gynefinoedd craidd ac mae'n cynnig cyfleoedd ar gyfer gwydnwch ehangach ar Wastadeddau Gwent. Mae'r Parth Craidd yn amlinellu ardaloedd bioamrywiol a natur-gyfoethog y Gwastadeddau, sy'n cynnwys cynefinoedd lled-naturiol o ansawdd uchel sy'n bodoli eisoes a rhywogaethau a all ledaenu i'r dirwedd ehangach os bydd yr amodau yn caniatáu hynny. Bwriedir i'r Parth Adfer (Cyfleoedd) atgyfnerthu'r Craidd am fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi ei gyfleoedd i adfer, creu a rheoli'r tir a'r dŵr cyfagos er mwyn helpu swyddogaeth y Craidd yn fwy effeithiol a'i ddiogelu rhag pwysau allanol.

Mae Adran 6 yn nodi y dylai awdurdodau lleol barhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid perthnasol eraill i ddiweddaru a chynnal y mapiau o Rwydweithiau Ecolegol Gwydn ar gyfer yr Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol. Dylai cynigion defnydd tir wneud defnydd effeithiol o'r mapiau o Rwydweithiau Ecolegol Gwydn i wella a gwarchod y Gwastadeddau.

Cwestiwn 3: 

A yw Adran 6 yn rhoi digon o eglurder ynglŷn â sut y dylid defnyddio'r Mapiau o Rwydweithiau Ecolegol Gwydn ochr yn ochr â'r Canllawiau mewn prosesau gwneud penderfyniadau cynllunio ar Wastadeddau Gwent? Os nad ydyw, sut y dylid egluro Adran 6?

5. Egwyddorion strategol a chamau gweithredu Gwastadeddau Gwent

Mae Adran 7 yn nodi'r Egwyddorion Strategol a'r Camau Gweithredu sydd i'w rhoi ar waith ar Wastadeddau Gwent drwy'r Canllawiau. Maent wedi'u rhannu'n dair Egwyddor – un ar gyfer pob un o ardaloedd gofodol Gwastadeddau Gwent, sef yr Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol, y Parth Craidd a'r Parth Adfer (Cyfleoedd) – a 14 o Gamau Gweithredu sy'n dod oddi tanynt. Mae'r Canllawiau yn nodi sut mae'r Egwyddorion Strategol yn adlewyrchu dynodiad Gwastadeddau Gwent fel Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol o dan Bolisi 9 Cymru'r Dyfodol ac yn adeiladu arno, gan nodi'r gofynion ar gyfer pob ardal ofodol.

I grynhoi, mae'r Egwyddorion a'r Camau Gweithredu hyn wedi'u datblygu er mwyn nodi gofynion Polisi 9 ar Wastadeddau Gwent yn gliriach er mwyn atgyfnerthu a diogelu eu buddion o ran cynefinoedd, bioamrywiaeth a thirwedd. Er bod Polisi 9 yn nodi bod angen diffinio cwmpas gofodol yr Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol ymhellach, mae'r Parth Craidd a'r Parth Adfer (Cyfleoedd) wedi'u datblygu gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r tair ardal ofodol wedi'u mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Canllawiau er mwyn helpu i leihau pwysau datblygu ar yr ardaloedd mwyaf gwerthfawr yn ecolegol ar y Gwastadeddau. 

Mae'r Egwyddorion a'r Camau Gweithredu yn pwysleisio bod angen i gynigion defnydd tir fod yn gynaliadwy, drwy ystyried sut maent yn cyfrannu at Fudd Net i Fioamrywiaeth a Seilwaith Gwyrdd ac ystyried eu heffeithiau ar rwydweithiau ecolegol a chynefinoedd a rhywogaethau allweddol. Bwriedir iddynt gyfeirio gwaith datblygu i ffwrdd o'r Parth Craidd ecolegol werthfawr (yn unol â PCC) ac i'r Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol ehangach. At hynny, maent yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i effeithiau gwaith datblygu ar Wastadeddau Gwent a allai effeithio ar y cysylltiadau rhwng y Parth Craidd a'r Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol ehangach drwy'r Parth Adfer (Cyfleoedd).

Cwestiwn 4: 

A ydych yn cytuno â'r tair Egwyddor Strategol sydd i'w rhoi ar waith ar gyfer Gwastadeddau Gwent fel y'u nodir o dan Adran 7? Os nad ydych, nodwch, yn eu tro, pa Egwyddorion Strategol rydych yn anghytuno â nhw a pham.

Cwestiwn 5: 

A ydych yn cytuno â'r 14 o Gamau Gweithredu sydd i'w rhoi ar waith ar gyfer Gwastadeddau Gwent fel y'u nodir o dan Adran 7? Os nad ydych, nodwch, yn eu tro, pa Gamau Gweithredu rydych yn anghytuno â nhw a pham.

Cwestiwn 6: 

A oes gennych unrhyw enghreifftiau o arferion da y dylai'r Canllawiau gyfeirio atynt, yn eich barn chi, a allai helpu i gyflawni'r Egwyddorion Strategol a'r Camau Gweithredu? 

6. Gweithredu, monitro a gwybodaeth bellach

Gweithredu a fonitro

Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r ffordd y caiff y Canllawiau eu rhoi ar waith. Unwaith y bydd fframwaith cynllunio rhanbarthol ar gyfer ardaloedd Gwastadeddau Gwent ar waith, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau lleol fwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu ac adolygu'r Canllawiau drwy eu proses llunio Cynllun Datblygu Strategol (CDS). 

Cwestiwn 7: 

A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer rhoi'r Canllawiau ar waith neu eu monitro y dylid rhoi sylw iddynt yn Y Canllawiau, yn eich barn chi?

Gwella'r canllawiau

Yn ogystal â'r cwestiynau a nodwyd uchod, hoffem glywed eich barn ar unrhyw awgrymiadau eraill a allai fod gennych ar gyfer gwella'r Canllawiau. 

Cwestiwn 8: 

A oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill ar gyfer gwella'r Canllawiau?

Iaith Gymraeg

O ran effeithiau ar y defnydd o'r Gymraeg, ystyrir na fyddai'r Canllawiau yn debygol o gael unrhyw effaith fyrdymor na hirdymor, oherwydd ymdrinnir â hynny gan fecanweithiau eraill, gan gynnwys Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20: Cynllunio a'r Gymraeg mewn perthynas â'r system gynllunio. Fodd bynnag, byddem yn gofyn ichi ystyried unrhyw effeithiau y byddai'r Canllawiau yn eu cael ar y defnydd o'r Gymraeg yn eich ymatebion.  

Cwestiwn 9: 

Hoffem gael eich barn ar unrhyw effeithiau y byddai'r Canllawiau yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 10: 

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r Canllawiau gael eu llunio neu eu newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig a'r Adroddiad Amgylcheddol Drafft

Ochr yn ochr â'r Canllawiau, mae gwybodaeth a thystiolaeth bellach wedi llywio'r gwaith o'u drafftio gan gynnwys Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig. Cyfeirir at yr arfarniad hwn fel yr Adroddiad Amgylcheddol Drafft. Mae'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn ddull o asesu effeithiau ehangach canlyniadau'r Canllawiau a'r Egwyddorion Strategol a'r Camau Gweithredu, ac yn ddull o sicrhau eu bod yn cyfrannu at uchelgeisiau diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Llywodraeth Cymru. 

Cwestiwn 11: 

A oes gennych unrhyw sylwadau ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig; yr Adroddiad Amgylcheddol Drafft, sy'n ategu'r Canllawiau? Yn benodol, a oes gennych unrhyw ddangosyddion monitro a fyddai'n atgyfnerthu'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig, yn eich barn chi? 

Ymgynghoriad cwestiynau

Cwestiwn 1: 

A yw Adrannau 1 i 4 yn rhoi digon o wybodaeth am gyd-destun Canllawiau Cynllunio Gwastadeddau Gwent? Os nad ydynt, sut y dylid diweddaru Adrannau 1 i 4?

Cwestiwn 2: 

A yw Adran 5 yn rhoi digon o wybodaeth am y problemau a'r heriau presennol sy'n effeithio ar Wastadeddau Gwent? Os nad ydyw, nodwch ffynhonnell y dystiolaeth a rhowch ddisgrifiad o sut y dylid diweddaru Adran 5.

Cwestiwn 3: 

A yw Adran 6 yn rhoi digon o eglurder ynglŷn â sut y dylid defnyddio'r Mapiau o Rwydweithiau Ecolegol Gwydn ochr yn ochr â'r Canllawiau mewn prosesau gwneud penderfyniadau cynllunio ar Wastadeddau Gwent? Os nad ydyw, sut y dylid egluro Adran 6?

Cwestiwn 4: 

A ydych yn cytuno â'r tair Egwyddor Strategol sydd i'w rhoi ar waith ar gyfer Gwastadeddau Gwent fel y'u nodir o dan Adran 7? Os nad ydych, nodwch, yn eu tro, pa Egwyddorion Strategol rydych yn anghytuno â nhw a pham.

Cwestiwn 5: 

A ydych yn cytuno â'r 14 o Gamau Gweithredu sydd i'w rhoi ar waith ar gyfer Gwastadeddau Gwent fel y'u nodir o dan Adran 7? Os nad ydych, nodwch, yn eu tro, pa Gamau Gweithredu rydych yn anghytuno â nhw a pham.

Cwestiwn 6: 

A oes gennych unrhyw enghreifftiau o arferion da y dylai'r Canllawiau gyfeirio atynt, yn eich barn chi, a allai helpu i gyflawni'r Egwyddorion Strategol a'r Camau Gweithredu?  

Cwestiwn 7: 

A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer rhoi'r Canllawiau ar waith neu eu monitro y dylid rhoi sylw iddynt yn Y Canllawiau, yn eich barn chi?

Cwestiwn 8: 

A oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill ar gyfer gwella'r Canllawiau?

Cwestiwn 9: 

Hoffem gael eich barn ar unrhyw effeithiau y byddai'r Canllawiau yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 10: 

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r Canllawiau gael eu llunio neu eu newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 11: 

A oes gennych unrhyw sylwadau ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig; yr Adroddiad Amgylcheddol Drafft, sy'n ategu'r Canllawiau? Yn benodol, a oes gennych unrhyw ddangosyddion monitro a fyddai'n atgyfnerthu'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig, yn eich barn chi? 

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 31 Mawrth 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Canllawiau Cynllunio Strategol ar gyfer Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Gwastadeddau Gwent
Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Caiff ymatebion eu cyhoeddi'n ddienw os na nodwch yn wahanol. Os ydych am i'ch enw neu eich cyfeiriad gael ei gyhoeddi gyda'ch ymateb, dywedwch wrthym yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb a byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth a nodwyd gennych.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG53882

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.

Dogfennau cysylltiedig