Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon aelwydydd: canol 2024

Ar 28 Ionawr 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr amcangyfrifon diweddaraf o aelwydydd ar gyfer canol 2024. Roedd hyn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer canol 2024, yn ogystal ag amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer canol 2022 a chanol 2023.

Mae amcangyfrifon aelwydydd yn darparu amcangyfrif nifer yr aelwydydd gan ddefnyddio cyfraddau aelodaeth aelwydydd o'r cyfrifiadau diweddaraf sydd ar gael a'u cymhwyso i amcangyfrifon poblogaeth cyfredol. Mae'r amcangyfrifon diweddaraf o aelwydydd yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) ar gyfer canol 2024 (y SYG), a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2025.

Prif bwyntiau

  • Rhwng canol 2023 a chanol 2024, cynyddodd amcangyfrif nifer yr aelwydydd tua 10,200 (0.7%) i 1.39 miliwn, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn aelwydydd un person a dau berson heb blant.
  • Ers canol 2014, mae amcangyfrif nifer yr aelwydydd wedi cynyddu 5.4%.
  • Cynyddodd amcangyfrif nifer yr aelwydydd ym mhob awdurdod lleol rhwng canol 2023 a chanol 2024.
  • Cynyddodd amcangyfrif nifer y bobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, hynny yw, y boblogaeth nad ydynt yn byw mewn sefydliadau cymunedol, tua 18,900 (0.6%) i 3.13 miliwn rhwng canol 2023 a chanol 2024.
  • Yng nghanol 2024, amcangyfrifir mai maint cyfartalog aelwydydd Cymru oedd 2.25 o bobl fesul aelwyd, o gymharu â 2.52 o bobl yng nghanol 1991.

Mae'r data wedi eu cyhoeddi ar wefan newydd StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrifon aelwydydd yn ôl awdurdod lleol a math o aelwyd (StatsCymru) yn ogystal ag amcangyfrifon aelwydydd un person yn ôl awdurdod lleol, blwyddyn, oedran a rhyw (StatsCymru).

Amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2022

Diweddariad chwarterol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ystadegau poblogaeth a mudo: Mawrth 2026

Ar 4 Mawrth, cyhoeddodd y SYG ddiweddariad ar ystadegau poblogaeth a mudo (y SYG). Mae hyn yn amlinellu eu gwaith ar welliannau i'r ffordd y maent yn amcangyfrif poblogaeth a mudo, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau a chynnydd y SYG.

Diweddariad ar amcangyfrifon poblogaeth

Yn dilyn adolygiad o'r amcangyfrifon, bydd y SYG yn parhau i gyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth blynyddol swyddogol gan ddefnyddio dulliau sefydledig, gan eu gwella'n raddol wrth iddynt brofi a dilysu'r dulliau hynny. Ni fydd amcangyfrifon poblogaeth sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol (ABPEs) yn cael eu cyhoeddi. Gwneir diwygiadau i amcangyfrifon poblogaeth canol 2022, canol 2023 a chanol 2024 i ymgorffori gwelliannau i amcangyfrifon mudo rhyngwladol tymor hir.

Amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol: astudiaethau achos awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, canol 2024

Ar 4 Mawrth, cyhoeddodd y SYG Amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol: astudiaethau achos awdurdodau lleol, Cymru a Lloegr, canol 2024 (y SYG). Mae'r ymchwil hwn yn dangos canlyniadau cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol a'r amcangyfrifon poblogaeth swyddogol canol blwyddyn ar gyfer nifer fach o awdurdodau lleol, gan gynnwys Ceredigion.

Amcangyfrifon aelwydydd sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr: 2021

Ar 8 Rhagfyr 2025, cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon aelwydydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr: 2021. Mae'r ymchwil hon yn darparu amcangyfrifon newydd ar gyfer 2021 o nifer yr aelwydydd sy'n deillio o ffynonellau data gweinyddol ac yn eu cymharu â Chyfrifiad 2021 ac ystadegau swyddogol eraill.

Rheswm dros fudo rhyngwladol, diweddariad myfyrwyr rhyngwladol: Chwefror 2026

Ar 27 Chwefror, cyhoeddodd y SYG Reason for international migration, international students update: February 2026 (y SYG). Edrychodd yr erthygl ar statws mewnfudo myfyrwyr rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig dros amser gan ddefnyddio amcangyfrifon a ddarparwyd yn y bwletin mudo rhyngwladol tymor hir.

Cyfrifiad 2031

Ar 4 Mawrth, cyhoeddodd y SYG gynlluniau ar gyfer Prawf Cyfrifiad yn 2027, gyda Chaerdydd a Sir Fynwy wedi'u dewis fel ardaloedd prawf yng Nghymru. Cyhoeddodd y SYG ei strategaeth Cyfrifiad 2031 (y SYG) hefyd, gan roi darlun clir o bwrpas a chwmpas y cyfrifiad.

Ystadegau'r Gymraeg

Manylion cyswllt

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099