Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar 27 Tachwedd, cyhoeddais fod y gwaith o gyhoeddi data rhwng atgyfeirio a thriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’i atal, hyd nes y byddai canlyniad ymchwiliad allanol i ansawdd a llywodraethiant data wedi’i gadarnhau.
Canfu’r adolygiad fod y mater wedi deillio o ymdrin â chod data penodol, a arweiniodd at fethu â chyfrif yr holl lwybrau cleifion wrth adrodd ar y data. Mater sy’n ymwneud â rheoli data, nid mater sy’n ymwneud â’r driniaeth i gleifion oedd hwn. Ailddechreuwyd ar y gwaith o gyhoeddi data coll rhwng atgyfeirio a thriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefyllfa Cymru gyfan ar 13 Ionawr 2026. Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad terfynol y tîm adolygu, sy'n nodi argymhellion ar gyfer y bwrdd iechyd a GIG Cymru.
Yn ddiweddar, mae llawer o drafodaethau wedi’u cynnal yn y Senedd ynglŷn â sut y caiff amseroedd aros y GIG eu casglu a’u cyflwyno. Mae’r Prif Ystadegydd wedi adolygu’r datganiadau ystadegol ac wedi nodi cyfleoedd i’w gwneud yn glir – yn yr adroddiad ystadegol misol ac yn y setiau data cysylltiedig – y cesglir ac yr adroddir ar brif ffigurau rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar sail darparwr. Bydd y newidiadau hyn i'w gweld yn nata'r byrddau iechyd a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 19 Mawrth.
