Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ffurflen werthuso gwerthusiad digwyddiad dysgu a rennir cyfiawnder teuluol cenedlaethol.
Cynnwys
Cefndir
Mae'r tîm Gwella Canlyniadau i Blant yn Llywodraeth Cymru yn hwyluso diwyddiad Cyfiwnder Teuluol Cenedlaethol. Er mwyn gwerthuso llwyddiant y digwyddiad hwn, mae ffurflen we wedi’i paratoi.
Wrth gwblhau’r ffurflen, dim ond os yw’r unigolyn sy’n llenwi’r ffurflen yn dymuno darparu gwybodaeth bersonol ar gyfer cysylltiad yn y dyfodol y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn gwybodaeth bersonol.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr wybodaeth bersonol hon (enw, cyfeiriadau e-bost a’r ymatebion) gan fynychwyr pan fyddant yn dewis rhoi’r wybodaeth hon yn y rhan hon.
Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?
Bydd y wybodaeth bersonol a ddarperwch yn cael ei chadw er mwyn rhannu â chi am grwpiau gweithio yn y dyfodol a chyfleoedd i gydweithio â ni ar ddatblygu polisi sy’n ymwneud â Chyfiawnder Teuluol.
Ni fydd yn bosibl i ddirprwyon eraill weld eich gwybodaeth bersonol ac rydym yn sicrhau bod mesurau ar waith i gadw cyfeiriadau e-bost a gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Llywodraeth Cymru ('ni') fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol rydych chi'n ei ddarparu er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cysylltu â chi ynghylch digwyddiadau yn y dyfodol a chyfleoedd i weithio gyda’n gilydd.
Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt cyfranogwyr am y 12 mis nesaf er mwyn rhannu gwybodaeth am grwpiau gweithio a digwyddiadau yn y dyfodol. Cedwir ymatebion dienw i’r arolwg er mwyn llywio ein dysgu ar gyfer y digwyddiad nesaf.
Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu y tu allan i Lywodraeth Cymru.
Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gafael ar y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi;
- ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu neu gyfyngu ar brosesu
- er mwyn (mewn amgylchiadau penodol) i'ch data gael ei 'ddileu'
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i ddefnydd, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Gwella Canlyniadau i Blant
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: plantsynderbyngofal@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
