Canllaw i’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
Mae'r canllawiau hyn yn anstatudol. Maen nhw'n amlinellu egwyddorion a disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (PDGCLA).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Diben
Mae'r canllawiau hyn yn anstatudol. Maen nhw'n amlinellu egwyddorion a disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (PDG-CLA). Nod y grant yw gwella deilliannau addysgol plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal (3 i 15 oed). Fe'i defnyddir i leihau’r rhwystrau sy’n wynebu’r dysgwyr hyn o ran cyflawni eu llawn botensial.
2. Ar gyfer pwy mae’r canllawiau
Mae'r ddogfen hon wedi'i bwriadu ar gyfer y rhai sy’n gysylltiedig â rheoli’r modd y defnyddir y grant. Maen nhw’n cynnwys:
- unigolion mewn awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gydgysylltu addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal, er enghraifft, cydgysylltwyr addysg plant sy’n derbyn gofal (LACE), penaethiaid ysgolion rhithwir (VSHs) ac athrawon cynghori
- staff mewn ysgolion neu leoliadau, yn enwedig penaethiaid ac uwch-arweinwyr, personau dynodedig ac arweinwyr clystyrau
- rhieni, gofalwyr, mentoriaid a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n cynorthwyo plant â phrofiad o fod mewn gofal
Lluniwyd y canllaw gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen PDG-CLA, sef un o is-grwpiau’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid sy’n hyrwyddo ac ategu deilliannau addysgol plant â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru.
Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â dysgwyr oedran ysgol uwchradd, yn cynnwys pobl ifanc digwmni sy’n ceisio lloches, er mwyn gweld sut fath o gymorth mae dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal ei angen, yn eu tyb nhw, i hyrwyddo deilliannau addysgol cadarnhaol. Caiff eu safbwyntiau eu hadlewyrchu drwy gydol y canllaw.
Mae ‘plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal’ yn cyfeirio at blant a phobl ifanc sydd mewn gofal ar hyn o bryd a’r rhai a fu yng ngofal yr awdurdod lleol yn y gorffennol.
Mae ‘plant sy’n derbyn gofal’ yn cyfeirio at blant sydd yng ngofal yr awdurdod lleol ar hyn o bryd. Mae plant wedi dweud wrth Gomisiynydd Plant Cymru bod yn well ganddynt y term hwn.
Yng nghyd-destun y canllaw hwn, mae ‘plant sy’n derbyn gofal’ a ‘phlant â phrofiad o fod mewn gofal’ yn cyfeirio at blant a phobl ifanc.
3. Y cyd-destun
Rhywbeth sydd wrth galon a chraidd Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb gan Lywodraeth Cymru yw’r ymrwymiad i sicrhau safonau uchel o ran ategu llwyddiant a llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno i bob plentyn:
- gymryd rhan mewn dysgu a mwynhau dysgu
- cael yr addysg orau bosibl er mwyn iddynt allu camu ymlaen ac ymestyn eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad
Bydd hyn yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn:
- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Hefyd, mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys 8 ymrwymiad sydd, gyda’i gilydd, yn disgrifio gweledigaeth newydd ar gyfer trawsnewid gwasanaethau plant. Un o’r ymrwymiadau hyn yw ‘cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel rhiant corfforaethol'. Mae a wnelo hyn â’n huchelgais i sicrhau bod plant â phrofiad o fod mewn gofal yn cael yr un cyfleoedd â phob plentyn arall.
Mae’r Siarter Rhianta Corfforaethol – Addewid Cymru yn pennu’r egwyddorion cyffredin a’r addewidion y dylai’r holl gyrff, a’u dysgwyr, eu dilyn wrth ddarparu gwasanaethau (yn cynnwys addysg) i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’n cynnwys yr egwyddor a ganlyn:
‘Addysg dda – Byddwn yn darparu cyfleoedd a chymorth i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal i ddysgu a datblygu, a byddwn yn ei helpu i fod yr hyn maent am fod.’
Mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn adnodd hollbwysig ar gyfer gwireddu’r uchelgeisiau hyn. Mae’r cyllid craidd, ynghyd â’r maes Blynyddoedd Cynnar a’r maes Addysg Heblaw yn yr Ysgol, yn anelu at wella cyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy’n byw ar aelwydydd incwm isel trwy leihau’r rhwystrau sy’n eu hwynebu o ran cyflawni eu llawn botensial. Er mwyn cydnabod yr heriau sy’n wynebu plant â phrofiad o fod mewn gofal, ceir maes PDG-CLA dynodedig.
4. Amodau a thelerau
Bwriad y PDG-CLA yw ategu anghenion cymdeithasol, emosiynol ac academaidd y canlynol:
- plant sy’n derbyn gofal
- plant sydd wedi’u mabwysiadu
- plant a adawodd ofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig
Ni ddylid defnyddio’r arian i ôl-lenwi cyllideb gyffredinol yr ysgol.
Dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru
Rhoddir £1,150 fesul plentyn ar sail blwyddyn ariannol i awdurdodau lleol drwy Grant Addysg Awdurdod Lleol (LAEG). Caiff y dyraniad ei seilio ar nifer y plant a’r bobl ifanc gymwys 3 i 15 oed sydd yng ngofal yr awdurdod lleol ar sail cyfrifiad y flwyddyn flaenorol o blant sy’n derbyn gofal. Cyflwynir y data hwn ar lefel yr awdurdod lleol yn hytrach nag ar lefel yr ysgol neu leoliad, ac mae dyraniadau ar gael ar-lein ar: Dyraniadau Grant Datblygu Disgyblion 2025 i 2026. Cynhwysir cyllid y PDG-CLA ym maes Tegwch yr LAEG.
Mae cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail nifer y plant sy’n derbyn gofal yn unig. Fodd bynnag, nid yw’n cael ei glustnodi a’r bwriad yw y bydd o fudd i bob plentyn â phrofiad o fod mewn gofal yn yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cydnabod bod plant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu sydd mewn trefniant Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig, fel plant mewn gofal, wedi dioddef:
- trawma
- camdriniaeth
- esgeulustod
- colled
Gallai unrhyw un o’r rhain effeithio ar eu gallu i ffynnu mewn amgylchedd ysgol.
Dyraniadau cyllid yn ôl awdurdod lleol
Ar sail anghenion lleol, gall awdurdodau lleol ddewis cadw rhywfaint o’r cyllid, neu’r holl gyllid, ar gyfer gweithgareddau a fydd o fudd i’r canlynol:
- plant unigol
- grwpiau o blant ag anghenion tebyg
- holl blant a phobl ifanc yr awdurdod sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac sydd ag anghenion tebyg
Fel arall, gall awdurdodau lleol drosglwyddo rhywfaint o’r cyllid, neu’r holl gyllid, i’r canlynol:
- ysgolion neu leoliadau unigol (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion)
- clystyrau o ysgolion neu leoliadau (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion)
Ar gyfer dysgwyr sydd wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad, bydd y grant yn cael ei dalu i’r ysgol neu’r lleoliad a gofrestrir fel y prif ddarparwr. Ni fydd cyllid yn cael ei drosglwyddo yn ystod y flwyddyn.
Hefyd, gallai awdurdodau lleol gadw rhywfaint o’r cyllid i gyflogi cydgysylltwyr PDG-CLA ar lefel awdurdod lleol neu ranbarthol. Mae hyn yn cyd-fynd â disgwyliad Llywodraeth Cymru y gellir defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion i dalu am y costau sy’n gysylltiedig â gwaith cydgysylltu a goruchwylio strategol y grant, boed hynny yn yr awdurdod lleol neu ar ffurf trefniadau rhanbarthol presennol.
Ceir rhagor o wybodaeth am opsiynau dyrannu cyllid ac arferion gorau yn adran 5.
5. Sicrhau bod y cyllid o fudd i'r plant y mae wedi'i fwriadu ar eu cyfer
Dylid defnyddio cyllid y PDG-CLA i wella deilliannau addysgol ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio’r PDG-CLA, dylai awdurdodau lleol ac ysgolion ystyried anghenion penodol plant â phrofiad o fod mewn gofal. Mae hyn yn cynnwys eu nodau a’u dyheadau.
Efallai y bydd y dull a’r cymorth sy’n angenrheidiol ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal yn wahanol i blant sy’n gymwys i gael y Grant Datblygu Disgyblion gan eu bod yn dod o aelwydydd incwm isel. Yn aml, bydd plant â phrofiad o fod mewn gofal wedi dioddef trawma a cholled yn eu bywydau. O ganlyniad, efallai y byddant yn cael anhawster gyda’r canlynol:
- cydberthnasau ymlyniad gydag oedolion
- sgiliau cymdeithasol a chydberthnasau gyda’u cyfoedion
- rheoli eu teimladau a’u hymddygiad
- ymdopi â phontio
Ar sail y cyd-destun lleol ac anghenion plant â phrofiad o fod mewn gofal yn yr ardal, gellid defnyddio’r cyllid ar gyfer:
- cymorth academaidd wedi’i integreiddio gyda’r cwricwlwm (er enghraifft cymorth un-i-un neu gymorth mewn grwpiau bach, ymyriadau a gyflwynir gan gynorthwywyr addysgu, a chymorth ar gyfer datblygu iaith, llythrennedd a rhifedd); dylai ysgolion gynllunio unrhyw weithgarwch er mwyn sicrhau na fydd dysgwyr sy’n cael cymorth penodol yn colli cyfle i gael mynediad at y cwricwlwm
- hyfforddiant penodol i staff er mwyn iddynt allu cynorthwyo plant sydd wedi dioddef trawma a cholled, er enghraifft hyfforddiant yn ymwneud ag ymlyniad a’r effaith a gaiff trawma cynnar ar ddysgu
- gweithgareddau allgyrsiol a gweithgareddau hamdden a fydd o fudd i ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal neu a fydd yn eu helpu i ymhél â’u haddysg
- cymorth ar gyfer addysgu o’r radd flaenaf trwy gyfrwng datblygiad proffesiynol parhaus
- mynd i’r afael â rhwystrau sy’n atal dysgu, er enghraifft trwy ategu llesiant emosiynol a sgiliau cymdeithasol a thrwy hyrwyddo ffyrdd o reoli emosiynau
- cynorthwyo dysgwyr i bontio i’r cam nesaf yn eu dysgu neu i leoliad dysgu newydd
- cymorth pwrpasol (er enghraifft gan seicolegydd addysgol, therapydd chwarae neu therapydd lleferydd) er mwyn helpu’r dysgwyr i oresgyn rhwystrau rhag addysg
Ni ellir defnyddio’r grant i ddisodli, cynnal neu ddatblygu gwasanaethau neu hawliau presennol o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn cynnwys bwrw ymlaen â phenderfyniad ADY neu ddarparu darpariaeth ddysgu ychwanegol.
Trefniadau o ran dyrannu cyllid
Dylai awdurdodau lleol ac ysgolion sicrhau eu bod yn llunio cynlluniau strategol ar gyfer y dyfodol ymhell cyn i’r flwyddyn ariannol flaenorol ddod i ben. Ni ddylent aros i’r union ddyraniadau a’r llythyrau grant gael eu cyhoeddi.
Mae’r dulliau gwahanol canlynol yn amlinellu sut y gallai awdurdodau lleol ac ysgolion ddewis dyrannu cyllid (gweler hefyd Y modd y gellir dyrannu cyllid y PDG-CLA – manteision ac anfanteision y gwahanol opsiynau).
Cronni’r cyllid ar lefel awdurdod lleol
Os bydd awdurdodau lleol yn dewis cronni’r cyllid ar lefel awdurdod lleol:
- ni ddylid defnyddio’r cyllid ar gyfer gwasanaethau mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am eu hariannu, megis cymorth i ofalwyr maeth, neu gludiant i’r ysgol
- bydd yn rhaid iddynt barhau i ddangos yr effaith a gaiff y cyllid ar y plant y bwriedir iddynt elwa ar y grant
- dylent ystyried neilltuo rhywfaint o arian ar gyfer cynorthwyo anghenion unigol dysgwyr a bennir ar lefel yr ysgol
Rhoi cyllid i glystyrau ysgolion
Os bydd y cyllid yn cael ei drosglwyddo i glystyrau ysgolion:
- dylid cydgynhyrchu cynllun y clwstwr ar gyfer defnyddio’r cyllid a dylid cytuno ar y cynllun hwnnw gyda holl benaethiaid y clwstwr (dylai'r arweinwyr dynodedig chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod anghenion penodol dysgwyr â phrofiad o ofal yn eu hysgolion yn cael eu hadlewyrchu a'u diwallu wrth gynllunio a gweithredu'r PDG-CLA)
- dylai cynllun y clwstwr nodi’r canlynol yn glir:
- sut y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo plant â phrofiad o fod mewn gofal yn yr ysgolion hynny
- dangos dealltwriaeth o’r effaith y dymunir ei chael ar ddeilliannau dysgu a’r modd y cafodd llais ac anghenion y dysgwyr eu hystyried
- dylai’r awdurdod lleol ystyried a fydd cynllun y clwstwr yn diwallu anghenion dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal yn ardal y clwstwr
- dylai’r holl ysgolion yn ardal y clwstwr wneud y canlynol:
- eirioli dros y dysgwyr hynny sydd â phrofiad o fod mewn gofal o fewn eu hardal er mwyn sicrhau eu bod yn elwa ar yr hyn a ddarperir
- gwerthuso effaith y dull cydweithredol ar ddeilliannau eu dysgwyr
Cyllid ar gyfer grwpiau o ddysgwyr
Os yw'r cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer grŵp o ddysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal dylid deall yn glir beth yw’r effaith y dymunir ei chael ar ddeilliannau’r dysgwyr. Ni ddylid cael dull cyffredinol yn y gobaith y bydd yn gwella deilliannau i’r plant o dan sylw.
Cymorth i blant sy’n derbyn gofal
Yn achos ymyriadau neu ddulliau y bydd plant sy’n derbyn gofal yn cael mynediad atynt yn unigol neu fel rhan o grŵp, dylent gysylltu â chynllun addysg personol (CAP) y dysgwr.
Trefniadau trawsffiniol
Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud ar gyfer addysg neu hyfforddiant plant sy’n derbyn gofal, cyn gwneud unrhyw leoliad. Rhaid i’r trefniadau hyn ddiwallu anghenion y plant a rhaid iddynt gyd-fynd â’u CAP.
Mae'r cyllid PDG-CLA yn seiliedig ar nifer y plant sy'n derbyn gofal yn unig. Fodd bynnag, bwriedir iddo fod o fudd i bob plentyn sydd â phrofiad o ofal, gan gynnwys plant mabwysiedig a'r rhai ar Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig. Oni cheir amgylchiadau hynod eithriadol, dylai pob awdurdod lleol gadw’i ddyraniad gwreiddiol o’r cyllid PDG-CLA yn hytrach na throsglwyddo symiau bach o arian mewn ymateb i symudiadau unigol dysgwyr.
Rhaid i’r 22 awdurdod lleol sicrhau bod ganddynt drefniadau cilyddol ar waith fel rhan o’u cynllunio strategol. Dylai'r trefniadau hyn alluogi pob awdurdod lleol i gefnogi pob plentyn â phrofiad o ofal sy'n cael ei addysgu yn eu hardal, waeth ai nhw yw’r rhiant corfforaethol ai peidio. Er enghraifft, lle mae cyllid yn cael ei ddyrannu ar lefel awdurdod lleol neu glwstwr i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus i staff neu i hwyluso ymyriadau grŵp, efallai y bydd yn briodol i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod gwahanol hefyd elwa ar y cymorth a ddarperir gan yr awdurdod lle maent wedi'u lleoli ac yn derbyn eu haddysg.
Pan symudir y plentyn o awdurdod lleol yng Nghymru i leoliad yn Lloegr, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol fydd dod i gytundeb ynglŷn â throsglwyddo cyllid y Grant Datblygu Disgyblion. Ar hyn o bryd, ni cheir unrhyw drefniant ffurfiol rhwng yr Adran Addysg yn Lloegr ac Adran Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru o ran pasbortio’r Grant Datblygu Disgyblion neu’r Premiwm Disgybl (grant ar gyfer disgyblion dan anfantais mewn ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yn Lloegr). O dan drefniadau o’r fath, ni ddisgwylir y bydd cyfraniad Cymru yn cyfateb i gyfradd y Premiwm Disgybl.
Pan symudir y plentyn o awdurdod lleol yn Lloegr i ysgol yng Nghymru, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol fydd dod i gytundeb ynglŷn â throsglwyddo cyllid y Premiwm Disgybl. Ar hyn o bryd, ni cheir unrhyw drefniant ffurfiol rhwng yr Adran Addysg yn Lloegr a Chyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru o ran pasbortio’r PDG-CLA neu’r Premiwm Disgybl.
Atebolrwydd
Dylai’r awdurdod lleol a’r ysgol fod â strwythurau llywodraethu ar waith er mwyn:
- darparu trosolwg strategol o wariant grantiau
- sicrhau’r effaith a’r gwerth mwyaf mewn perthynas â’r cyllid
Dylai’r penaethiaid ysgolion rhithwir a’r cydgysylltwyr addysg plant sy’n derbyn gofal (LACE) gyflawni swyddogaeth allweddol.
Fel rhan o’u trefniadau ehangach o ran monitro’r Grant Datblygu Disgyblion, dylai awdurdodau lleol wneud y canlynol:
- sicrhau bod ganddynt weithdrefnau effeithiol ar waith ar gyfer gweithio gydag ysgolion i bennu anghenion dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal yn eu hawdurdod lleol er mwyn sicrhau y defnyddir y cyllid yn y ffordd fwyaf effeithiol i wella’r deilliannau ar gyfer y dysgwyr hynny
- cyflwyno cynllun cymorth yn pennu sut y maent yn bwriadu gwario dyraniad y PDG-CLA ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal (yn cynnwys rhai sydd wedi’u mabwysiadu a rhai mewn trefniadau Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig) ym mhob blwyddyn ariannol, ar sail anghenion y dysgwyr hynny
- pennu sut y byddant yn sicrhau y bydd y rhai sy’n gwario’r arian yn gwneud defnydd effeithiol o gyllid y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer gwella deilliannau i blant â phrofiad o fod mewn gofal
- cyfathrebu gydag ysgolion yn ardal eu hawdurdod lleol ynglŷn â’r modd y bwriadant ddyrannu’r cyllid a’r modd y bwriadant wario’r PDG-CLA ar lefel yr awdurdod lleol
- rhoi adroddiadau cynnydd i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’u gwariant a’u gweithgareddau gan ddefnyddio adroddiadau ar y prif bwyntiau mewn perthynas â’r Grant Datblygu Disgyblion
- sicrhau bod systemau ar waith ar gyfer cynllunio, dyrannu ac olrhain gwariant, ac ar gyfer monitro defnydd a buddiolwyr y grant
- sicrhau bod mesurau ar waith ar gyfer asesu’n rheolaidd ‘werth am arian’ y deilliannau a gaiff eu cyflawni
- cyflwyno adroddiad gwerthuso ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a fydd yn cynnwys dadansoddiad o’r modd mae’r gwariant wedi effeithio ar ddeilliannau addysgol
Dylai ysgolion wneud y canlynol:
- pennu anghenion y plant yn eu hysgol sydd â phrofiad o fod mewn gofal (yn achos plant sy’n derbyn gofal, dylid gwneud hyn trwy gyfrwng eu CAP)
- ystyried sut y mae’r cynllun datblygu ysgol yn cysylltu â chynlluniau’r PDG-CLA (edrych ar gyllid y PDG-CLA mewn modd cyfannol mewn perthynas â holl weithgareddau’r ysgol)
- mynd ati’n rheolaidd i werthuso dulliau, trwy edrych ar y gwahaniaeth maen nhw’n eu gwneud i ddeilliannau plant â phrofiad o fod mewn gofal
- ystyried effaith yr ymyriadau a gaiff eu hariannu gan y PDG-CLA ar gyfer plant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd, lle mae'r ysgol yn cadw tystiolaeth o'r effaith, a hefyd ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yn ddiweddar
- ceisio adborth gan blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal (gweler adran 7 i gael rhagor o gyngor ynglŷn â chyfleu llais y dysgwr) er mwyn gwella’r deilliannau a’r ddarpariaeth ar eu cyfer
- coladu a rhannu gwybodaeth am ddefnydd ac effaith y PDG-CLA gyda'r awdurdod lleol ar gyfer y cyfnod dyrannu
6. Egwyddorion sy’n sail i ddefnyddio’r PDG-CLA
Dylid defnyddio cyllid y PDG-CLA mewn ffordd sy’n cydnabod y canlynol mewn perthynas â’r holl blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal:
- maent yn unigryw, ac mae ganddynt gryfderau ac anghenion unigol
- dylai eu llais gael ei glywed
- maent yn gwbl ganolog i’r cynllunio a roddir ar waith ar eu cyfer
- dylent gael cyfle a chymorth i ryngweithio’n gymdeithasol a chreu cydberthnasau diogel a chadarnhaol gydag oedolion a’u cyfoedion
- mae ganddynt hawl i gael addysg mewn amgylchedd diogel a chynhwysol lle ceir diwylliant sy’n rhoi pwys ar ddyheadau addysgol uchel
- gallant ffynnu gyda’r sgiliau a’r cymorth iawn
Barn pobl ifanc ar yr hyn a ddylai lunio eu haddysg
Wrth rannu eu barn gyda Llywodraeth Cymru, dywedodd pobl ifanc mor bwysig oedd yr egwyddorion hyn o ran y gefnogaeth y maent yn dymuno ei chael gyda'u haddysg:
“Dwi eisiau cael fy nhrin fel gweddill y myfyrwyr yn y dosbarth, yn hytrach na chael fy nhrin yn wahanol. Ond dwi eisiau i’r athro gydnabod fy amgylchiadau.” Person ifanc
“Oes modd gwneud yn siŵr bod pawb sy’n gweithio yn y byd addysg yn deall sut i’n helpu i deimlo’n ddiogel a theimlo ein bod yn cael cefnogaeth. Ac rydyn ni’n golygu pawb. I rai ohonon ni, mae pobl fel staff glanhau a staff amser cinio yn bwysig iawn. Mae angen i bawb ddeall beth yw ystyr ‘gweithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma’ a sut i roi hynny ar waith yn ymarferol yn eu rolau.” Pobl ifanc
“Nhw [yr ysgol] sydd wedi fy helpu fwyaf. Maen nhw wedi fy helpu i fagu hyder a dangos nad yw’r ffaith fy mod i wedi bod mewn gofal yn fy nghyfyngu, fy mod i’n unigolyn yn fy rhinwedd fy hun, bod gen i fy llais fy hun, fy mod i’n ddigon deallus i wneud unrhyw beth dwi’n penderfynu ei wneud.” Person ifanc
Creu amgylcheddau dysgu cefnogol ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Ni fydd unrhyw ymyriad neu ddull a ariennir trwy gyfrwng y PDG-CLA yn effeithiol os na cheir dull dysgu ac amgylchedd dysgu priodol i ategu cynnydd dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Wrth ddarparu cymorth a dulliau a ariennir gan y PDG-CLA, dylai athrawon a staff cymorth sy’n gweithio gyda phlant â phrofiad o fod mewn gofal gynnig cymorth sy’n briodol yn ddatblygiadol ac yn addysgegol:
- parchu a hyrwyddo hawliau’r plentyn fel y’u pennir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
- dathlu a thrysori amrywiaeth ac arddangos cynhwysiant
- darparu amgylcheddau sy’n ddiogel yn emosiynol ac sy’n cynorthwyo’r dysgwyr i fynegi a rheoli eu teimladau a’u hymddygiadau mewn ffyrdd cadarnhaol
- bod yn gyson o ran eu gofal, a modelu tosturi a charedigrwydd
- galluogi’r dysgwyr i ymdopi ag ansicrwydd a newid, gan eu paratoi i reoli newidiadau ac ati yn eu trefn feunyddiol
- galluogi’r dysgwyr i ddatblygu cydberthnasau ac ymlyniadau diogel, er mwyn iddynt allu teimlo’n hyderus ynddynt eu hunain a chymryd rhan gadarnhaol mewn gweithgareddau beunyddiol
- ymgysylltu â’r system ehangach o amgylch y plentyn, yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr, cymorth therapiwtig, gweithwyr ieuenctid neu oedolion dibynadwy eraill, er mwyn sicrhau bod modd integreiddio’r gofal a’r cymorth
Mae canllaw y Cwricwlwm i Gymru Galluogi dysgu yn cynnwys rhagor o wybodaeth am egwyddorion hollbwysig yn ymwneud â dysgu cyfannol ac ystyrlon. Dylai hyn ddarparu fframwaith ar gyfer gwariant y PDG-CLA.
Hefyd, dylai awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau addysg sylwi ar y dyletswyddau sy’n ddisgwyliedig ohonynt mewn perthynas ag addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal.
Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008
Mae Adran 20 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 yn nodi bod yn rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir fynd ati i bennu aelod staff (‘y person dynodedig’) i ysgwyddo cyfrifoldeb dros hyrwyddo cyrhaeddiad addysg plant sy’n derbyn gofal ac sy’n mynychu’r ysgol. Dylai’r arweinydd dynodedig ysgwyddo rôl hollbwysig o ran sicrhau bod y PDG-CLA o fudd i ddysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal sy’n mynychu’r ysgol.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyrhaeddiad addysg plant sy’n derbyn gofal.
Mae canllaw statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) yn cynnig cyngor ynglŷn â dyletswyddau awdurdodau lleol o ran cynllunio gofal a chymorth mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth, yn cynnwys iechyd ac addysg. Mae darpariaethau Rhan 6 o’r Ddeddf hefyd yn berthnasol i blant sy’n ceisio lloches. Mae ganddynt yr un hawliau â phlant sy’n derbyn gofal a anwyd yng Nghymru a’r DU.
7. Rhoi llais i’r plentyn
Wrth rannu eu barn gyda Llywodraeth Cymru, dywedodd pobl ifanc mor bwysig oedd sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed:
“Gall gweithwyr proffesiynol gefnogi plant trwy wrando ar eu syniadau. Gall gweithwyr proffesiynol gymryd camau trwy ystyried syniadau pobl ifanc o ddifrif. Mae angen i weithwyr proffesiynol ddeall diwylliant pobl ifanc pan fyddan nhw’n eu cefnogi.” Person ifanc
Dylai’r holl benderfyniadau a wneir ynglŷn â pha ddulliau i’w defnyddio mewn perthynas â’r PDG-CLA gael eu gwreiddio mewn dealltwriaeth o anghenion pob plentyn. Yn ôl eu hoedran a’u dealltwriaeth, dylid ceisio ac ystyried safbwyntiau plant a phobl ifanc wrth:
- bennu eu hanghenion addysgol
- penderfynu ar gamau ar lefel yr ysgol neu ar lefel yr unigolyn
Dylai staff yr ysgol, sydd â chydberthynas dda â’r dysgwr, ei gynorthwyo i
- fynegi ei safbwyntiau
- pennu ei gryfderau, ei nodau a’i ddyheadau
Fel arall, gellid defnyddio eiriolwr annibynnol i gynorthwyo’r dysgwr i rannu ei safbwyntiau (er enghraifft Tros Gynnal Plant neu’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol).
Dylai gweithgareddau llais y dysgwyr (er enghraifft cyngor yr ysgol):
- fod yn hygyrch ac yn gynhwysol a dylent gydnabod y gallai dysgwyr fod wedi cael profiadau a allai effeithio ar y modd y dymunant ymgysylltu
- fod yn llawn pwrpas ac effaith, gan gydnabod bod plant â phrofiad o fod mewn gofal yn cymryd rhan mewn nifer fawr o gyfarfodydd gyda llu o weithwyr proffesiynol sy’n gofyn cwestiynau iddynt a allai fod yn llethol
Gellir dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â’r maes hwn yn y mannau canlynol:
- Estyn Arweiniad atodol: gwrando ar ddysgwyr mewn arolygiad – Medi 2021
- Comisiynydd Plant Cymru canllawiau ar gyfranogi
- Yr NSPCC Hearing the voice of the child: evidence snapshot
- Llywodraeth Cymru safonau cyfranogiad cenedlaethol
- Fideos Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), lle mae plant sy’n derbyn gofal yn rhannu eu profiadau
- Fideo’r Rhwydwaith Maethu Fostering Wellbeing – Team Around The Child (gydag isdeitlau Cymraeg) ynglŷn â’r hyn y mae dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal yn dymuno’i gael gan y gweithwyr proffesiynol sy’n eu cynorthwyo
Proffiliau Amdana i
Mae’r Proffiliau Amdana i (proffiliau un dudalen) yn grynodeb syml o’r hyn sy’n bwysig i blant neu bobl ifanc, a’r modd y dymunant gael eu cynorthwyo. Mae proffil Amdana i yn cyfleu gwybodaeth gadarnhaol am y plentyn ar un ddalen o bapur, gan helpu i hyrwyddo llais y disgybl ac ategu penderfyniadau ynglŷn â chyllid y PDG-CLA. Gallai proffil o’r fath gynnwys:
- yr hyn mae pobl yn ei hoffi ac yn ei edmygu amdanaf
- yr hyn sy’n bwysig i mi
- y ffordd orau o’m cynorthwyo yn yr ysgol
Dylid cynnwys y plentyn neu’r person ifanc i’r graddau mwyaf posibl wrth ddatblygu’r proffil un dudalen trwy ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylid adolygu’r proffil yn rheolaidd, a hefyd cyn pontio, er mwyn i’r ysgol newydd gael darlun clir a chywir o’r plentyn neu’r person ifanc.
Diben y proffil Amdana i yw:
- cynorthwyo’r person ifanc i fynegi ei safbwyntiau a’r hyn sy’n bwysig iddo
- helpu i hyrwyddo dealltwriaeth o’r person ifanc
- pennu’r ffordd orau o gynorthwyo’r person ifanc a sicrhau bod darpariaeth y PDG-CLA yn cyd-fynd ag anghenion y person ifanc
- hwyluso i gynllunio ar gyfer pontio
Mae adnoddau defnyddiol yn cynnwys:
- canllaw Llywodraeth Cymru Ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolion mewn addysg: canllaw ar gyfer blynyddoedd cynnar, ysgolion a cholegau yng Nghymru
- templed Adoption UK ar gyfer proffiliau un dudalen Breaking the barriers to attendance at school
8. Ymarfer a gaiff ei lywio gan ymholi a thystiolaeth
Wrth ddefnyddio’r PDG-CLA i gynorthwyo dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal, dylid gwneud hynny yng nghyd-destun ymarfer effeithiol a gaiff ei lywio gan ymholi a thystiolaeth. Gan gyd-fynd â’r defnydd a wneir o’r Grant Datblygu Disgyblion ehangach, dylai ysgolion ddefnyddio dull gweithredu 4 cam cylchol (sef deall, tystiolaeth, gweithredu, monitro a gwerthuso). Bydd hyn yn sicrhau bod eu gwaith:
- yn cael ei lywio gan dystiolaeth gref
- yn ategu cynnydd plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal
Deall
Dylid adeiladu dealltwriaeth gyffredin o gryfderau ac anghenion dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Fel arweinydd, dylech ystyried amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud â chynnydd plant trwy:
- arsylwi
- ryngweithio gyda’u teuluoedd
- ymgysylltu â’ch tîm
Tystiolaeth
Defnyddiwch yr wybodaeth a gafwyd yng ngham un i bennu eich blaenoriaethau, ac yna ystyriwch y dystiolaeth ar gyfer dulliau neu ymyriadau posibl a allai fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hynny.
Gweithredu
Ar ôl pennu blaenoriaethau a dewis dull, dylech ymgysylltu â’ch tîm i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin. Dylech fyfyrio gyda’ch gilydd ar y rhwystrau a’r galluogwyr posibl o ran rhoi’r dull ar waith yn eich lleoliad.
Monitro a gwerthuso
Neilltuwch amser i arsylwi ar y dull newydd yn ymarferol. Dylech sylwi, dadansoddi ac ymateb er mwyn sicrhau y rhoddir y dull ar waith fel y bwriadwyd. Defnyddiwch arsylwadau i fonitro’r modd mae’r plant yn ymateb dros amser. Fel tîm, ystyriwch a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol neu a oes angen cyflwyno newidiadau i’r cynllun er mwyn sicrhau y bydd yn esgor ar yr effaith a chwenychir.
Mae hyn yn cyd-fynd â dull Llywodraeth Cymru ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio datblygiad ysgolion (gweler Canllawiau gwella ysgolion) ac asesu cynnydd dysgwyr yn y Cwricwlwm i Gymru (gweler Adnodd gwerthuso a gwella: trosolwg). Mae hefyd yn adlewyrchu’r dulliau o ymdrin ag ymholi proffesiynol gan athrawon yn y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol. Mae Canllaw i’r Premiwm Disgybl (Ebrill 2024), Y Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF) yn gallu helpu i ddatblygu’r dull gweithredu 4 cam.
Hefyd, gweler y canllaw i’r Grant Datblygu Disgyblion i gael rhagor o wybodaeth.
Dylai awdurdodau lleol neu ysgolion ystyried a fyddai ymyriad neu ddull yn diwallu anghenion plant â phrofiad o fod mewn gofal ac unrhyw rwystrau sy’n eu hwynebu, cyn rhoi’r ymyriad neu’r dull ar waith.
9. Ffynonellau cymorth
Sefydliadau
Efallai y bydd modd i’r sefydliadau canlynol gynnig cymorth o ran deall anghenion dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal a dulliau llwyddiannus o’u cynorthwyo:
Adoption UK Cymru
Mae Adoption UK Cymru yn cynnig cymorth a gwasanaethau ledled Cymru ac mae’n gweithio ar y cyd â’i bartneriaid yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae gan Adoption UK wybodaeth i ysgolion yn ymwneud â chynorthwyo plant a arferai dderbyn gofal i ffynnu yn yr ysgol. Mae’n archwilio pam y gall yr ysgol fod yn anodd ac mae’n cynnig strategaethau ar gyfer helpu.
e-bost: wales@adoptionuk.org.uk
Llinell gymorth: 0300 666 0006 (Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 10am a 2.30pm)
Gwefan: Adoption UK (Cymru)
Rhwydwaith Maethu Cymru
Mae Rhwydwaith Maethu Cymru yn sefydliad aelodaeth sy’n cynorthwyo gofalwyr maeth a gwasanaethau maethu. Mae wedi ymrwymo i rymuso, cyfoethogi a chynorthwyo’r cydberthnasau sydd wrth galon y gymuned faethu.
e-bost: wales@fostering.net
Llinell cyngor: 0800 316 7664 (Dydd Llun i Ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), 9.30am i 12.30pm)
Gwefan: www.thefosteringnetwork.org.uk
Voices from Care Cymru
Sefydliad cenedlaethol yw Voices from Care Cymru sydd wedi ymrwymo i gynnal hawliau a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
e-bost: admin@vfcc.org.uk
Rhif ffôn: 029 2045 1431
Gwefan: Voices From Care Cymru
TGP Cymru
Elusen blant yw TGP Cymru sy’n gweithio gyda rhai o’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf ac sy’n fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
e-bost: admin@tgpcymru.org.uk
Rhif ffôn: 029 2039 6974
Gwefan: TGP Cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
e-bost: post@childcomwales.org.uk
Rhif ffôn: 01792 765600
Rhadffôn: 0808 801 1000 (Dydd Llun i Ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), 9am i 5pm)
Gwefan: Tîm Cyngor a Chymorth Hawliau Plant, Comisiynydd Plant Cymru
Cymorth i’r Rhai sy’n Gadael Gofal a Myfyrwyr (CLASS) Cymru
Mae gan safle CLASS Cymru awgrymiadau ar gyfer pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal (neu unrhyw un sy’n cynorthwyo’r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal), gan eu cyfeirio at adnoddau defnyddiol a all eu helpu i ddilyn addysg bellach ac uwch.
Gwefan: CLASS Cymru
Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn helpu pobl ifanc i wneud y canlynol:
- cynllunio eu gyrfa
- paratoi ar gyfer dod o hyd i swydd
- canfod prentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant ac ymgeisio amdanynt
Cyswllt: Cysylltu â ni, Gyrfa Cymru
Rhif ffôn: 0800 028 4844 (Dydd Llun i Ddydd Iau, 9am i 5pm; dydd Gwener, 9am i 4:30pm)
Gwefan: Gyrfa Cymru
Ffynonellau cymorth yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant
- Mae Hyb ACE Cymru yn cynnig gwybodaeth, adnoddau a hyfforddiant yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a rhoi dull sy’n ystyriol o drawma ar waith mewn perthynas â pholisïau ac ymarfer.
- Nod Straen Trawmatig Cymru yw gwella iechyd a llesiant pobl sydd eisoes yn dioddef anhwylder straen ôl-drawmatig neu anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth, neu sydd mewn perygl o ddatblygu anhwylderau o’r fath.
- Adnoddau Cymru sy’n Ystyriol o Drawma
- Fframwaith NYTH ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant i fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
- Canllawiau NICE (2015) ar gyfer cynorthwyo plant â phrofiad o fod mewn gofal a chanddynt anawsterau ymlyniad.
- Adnoddau gan Beacon House sy’n helpu pobl i ddeall trawma datblygiadol, a sut i’w wella.
- Mae’r adroddiad Gwella Dysgu Cymdeithasol ac Emosiynol mewn Ysgolion Cynradd a luniwyd gan y Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF) yn adolygu’r ymchwil orau sydd ar gael er mwyn cynnig 6 argymhelliad ymarferol i arweinwyr ysgolion i ategu dysgu cymdeithasol ac emosiynol i bob plentyn.
- Mae ‘Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol’ (Llywodraeth Cymru) yn darparu canllaw cenedlaethol i ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion arbennig, awdurdodau lleol a lleoliadau addysg eraill yn ymwneud ag ategu llesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr. Disgwylir i dimau uwch-arweinwyr ysgolion ystyried dysgwyr sy’n fwy agored i niwed (yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal) wrth iddynt ddatblygu eu cynllun llesiant fel rhan o broses ehangach ar gyfer gwella’r ysgol, er mwyn sicrhau y bydd y cynllun yn darparu ar gyfer anghenion eu dysgwyr.
- Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru adnoddau sy’n cefnogi’r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol.
- Mae dangosfwrdd rhyngweithiol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno canlyniadau arolygon yn ymwneud ag iechyd a llesiant plant oedran ysgol uwchradd yng Nghymru.
Cymorth ar gyfer anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu
Mae gan nifer o blant â phrofiad o fod mewn gofal anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu anhysbys. Mae datblygu sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu plant â phrofiad o fod mewn gofal yn helpu i wneud y canlynol:
- adeiladu cydberthnasau
- cyrhaeddiad addysgol
- cyfleoedd bywyd yn y dyfodol
Mae’r daflen ffeithiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal a phlant â phrofiad o fod mewn gofal yn darparu cyngor ar sail tystiolaeth ar gyfer sut i gynorthwyo plant â phrofiad o fod mewn gofal gyda sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu yng Nghymru.
Canllawiau a ffynonellau cymorth perthnasol eraill gan Lywodraeth Cymru
- Mae Protocol Cymru Gyfan: Lleihau troseddoli o ran plant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn nodi disgwyliadau ar gyfer ymarfer ledled asiantaethau er mwyn lleihau’r arfer o droseddoli plant (hyd at 18 oed) ac oedolion ifanc (hyd at 25 oed) sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Mae Lleihau Troseddoli Plant a Phobl Ifanc sydd wedi Profi Gofal yng Nghymru: Pecyn Cymorth Ymarferol i Weithwyr Proffesiynol yn troi egwyddorion y Protocol Cymru Gyfan yn ymarfer.
- Lluniwyd y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid er mwyn gallu adnabod yn gynnar y bobl ifanc 11 i 18 oed sydd mewn perygl o fod yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu’n ddigartref.
- Mae Canllaw i’r Grant Datblygu Disgyblion yn egluro natur y Grant Datblygu Disgyblion a sut i’w ddefnyddio i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.
- Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) yn darparu cyngor ynglŷn â dyletswyddau gofal a chymorth awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth, yn cynnwys iechyd ac addysg.
- Mae Gwneud gwahaniaeth: Canllaw i’r person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion yn adnodd ymarferol ar gyfer cynorthwyo’r person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion.
- Mae Canllaw ar Ysgolion Bro yn darparu cyngor ynglŷn â’r modd y gall ysgolion ymgysylltu â theuluoedd, cymunedau ac amryfal asiantaethau i ategu anghenion eu dysgwyr a’u teuluoedd ac esgor ar fanteision i’r gymuned ehangach.
- Datblygwyd Datblygu trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol mewn Ysgolion Bro er mwyn cynorthwyo ysgolion a rhanddeiliaid hollbwysig eraill i ddatblygu eu trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol fel rhan o ddull Ysgolion Bro.
- Mae Canllaw ar y Cwricwlwm i Gymru (ar Hwb) yn cynnwys canllaw ar lunio eich cwricwlwm, trefniadau asesu a meysydd dysgu a phrofiad.
- Mae Grant Hanfodion Ysgol: help gyda chostau ysgol yn egluro manteision y Grant Hanfodion Ysgol a phwy sy’n gymwys amdano.
Y modd y gellir dyrannu cyllid y PDG-CLA: manteision ac anfanteision y gwahanol opsiynau
Trosglwyddo’r holl gyllid i ysgolion neu leoliadau unigol neu i glystyrau o ysgolion neu leoliadau
Trosglwyddo'r holl gyllid trwy un o'r opsiynau canlynol:
- ysgolion neu leoliadau unigol a chlystyrau o ysgolion neu leoliadau
- ysgolion neu leoliadau unigol, neu i glystyrau o ysgolion neu leoliadau
Manteision
Rhoi cyllid yn uniongyrchol i ysgolion
- Efallai y ceir ymyriad penodol a fyddai’n cynorthwyo’r dysgwr. Os na roddir y cyllid yn uniongyrchol i’r ysgol, efallai na fydd gan yr ysgol ddigon o gyllid i roi’r cymorth hwnnw ar waith.
- Mae ysgolion yn deall anghenion y plentyn unigol a pha ymyriad a fyddai’n debygol o gael effaith gadarnhaol arno.
Rhoi cyllid i glystyrau o ysgolion neu leoliadau
- Bydd mwy o arian ar gael ar gyfer cyflogi staff arbenigol. Er enghraifft, gallai mentor yn yr ysgol uwchradd gynorthwyo dysgwyr yr ysgol uwchradd a’u helpu i bontio o ysgolion cynradd yn ardal y clwstwr. Gallai hynny fod o fudd i blant sy’n derbyn gofal yn ardal y clwstwr.
- Bydd modd rhoi dull strategol ar waith, gan arwain at feithrin gallu a hyrwyddo ysgolion i weithio gyda’i gilydd.
- Yn achos ysgolion unigol a gaiff blentyn sy’n derbyn gofal yn annisgwyl yng nghanol y tymor, neu ysgolion y mae eu niferoedd wedi cynyddu ers i’r PDG-CLA gael ei ddyrannu, efallai y byddant ar eu hennill yn sgil y cymorth a roddir ar waith ar lefel y clwstwr.
Anfanteision
Rhoi cyllid yn uniongyrchol i ysgolion
- Efallai mai un dysgwr sy’n derbyn gofal a geir yn yr ysgol. Efallai na fydd £1,150 yn ddigon i ddiwallu anghenion y dysgwr pe bai angen cyflogi staff cymorth neu dalu am ymyriadau drytach.
- Efallai y bydd y plentyn yn newid ysgol ar ganol y tymor gan y bydd ei leoliad yn newid.
- Efallai y bydd yn fwy heriol i'r ysgol ddefnyddio'r PDG-CLA i gefnogi dysgwyr mabwysiedig a'r rhai sy’n rhan o drefniadau Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig na phe bai'r cyllid yn cael ei gyfuno a'i ddefnyddio'n strategol ar lefel awdurdod lleol neu glwstwr o ysgolion.
Rhoi cyllid i glystyrau o ysgolion neu leoliadau
- Efallai y bydd llwyddiant y trefniant yn ddibynnol ar gryfder y clwstwr, a pha un a gaiff cynllun PDG-CLA y clwstwr ei lunio trwy ymgynghori’n llwyr â’r ysgolion cynradd perthnasol.
- Efallai y bydd yn anodd gweld effaith y grant ar ddysgwyr unigol pan gaiff y cyllid ei ddefnyddio ar lefel y clwstwr.
Pethau eraill i’w hystyried
- Pwy fydd yn cydgysylltu ac yn monitro cynllun y clwstwr? A fyddai hyn yn cael ei wneud gan yr awdurdod lleol ynteu a fydd y cyfrifoldeb yn syrthio ar yr ysgol?
- A fydd gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer galluogi ysgolion i gytuno ar gynlluniau clwstwr, eu monitro, a gwerthuso’u heffaith ar blant â phrofiad o fod mewn gofal mewn ysgolion unigol?
- Mewn rhai awdurdodau lleol, bydd y cydgysylltydd addysg plant sy’n derbyn gofal (LACE) neu’r penaethiaid ysgolion rhithwir (neu rôl gyfwerth) yn ystyried a yw cynllun y PDG-CLA wedi’i seilio ar dystiolaeth ac a yw’r hyn a gynlluniwyd yn gyfystyr â defnydd priodol o’r cyllid.
- Efallai y bydd angen i’r awdurdod lleol gadw rhywfaint o’r cyllid i gyflogi unigolyn ar gyfer gwerthuso cynlluniau, sicrhau ansawdd a chadw golwg ar wariant.
Cadw rhywfaint o’r cyllid ar gyfer gweithgareddau a fydd o fudd i holl blant a phobl ifanc yr awdurdod sydd â phrofiad o fod mewn gofal, neu grŵp o blant a phobl ifanc o’r fath
Manteision
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i’r awdurdod lleol gadw’r holl gyllid, neu gyfran ohono, ar gyfer ei ddefnyddio’n strategol yn y ffyrdd canlynol.
Fel cronfa ddewisol
Er enghraifft, galli hyn gynnwys defnyddio’r cyllid i wneud y canlynol:
- cynorthwyo plentyn sy’n newydd i’r ardal
- cynorthwyo plentyn a addysgwyd y tu allan i Gymru
- darparu cyllid penodol ar gyfer tiwtora
Gall fod yn fanteisiol cadw rhywfaint o gyllid ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac sydd mewn gwir angen, neu ar gyfer amgylchiadau arbennig.
Hyfforddiant ar gyfer ysgolion ledled yr awdurdod lleol
Er enghraifft, gallai hyn gynnwys ddefnyddio’r cyllid i roi dull sy’n ystyriol o drawma ar waith. Bydd hyn yn esgor ar waddol, oherwydd bydd athrawon yr ysgolion yn fwy abl i gynorthwyo dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal yn eu hysgolion. Bydd hyn hefyd o fudd i ddysgwyr eraill agored i niwed. Pan fo athrawon wedi’u hyfforddi, gellir sicrhau bod ysgolion yn barod os neu pan gânt ddysgwr â phrofiad o fod mewn gofal ar fyr rybudd.
Anfanteision
Mae ysgolion yn nes at anghenion y plant. Efallai eu bod yn deall yn well nag awdurdodau lleol pa ymyriadau neu ddulliau y dylid eu rhoi ar waith.
Pethau eraill i’w hystyried
A oes gan yr awdurdod lleol weithdrefnau effeithiol ar waith i weithio gydag ysgolion er mwyn:
- pennu anghenion dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal yn eu hardal?
- sicrhau y defnyddir y cyllid yn y ffordd fwyaf effeithiol i wella deilliannau ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn eu hardal?
Cadw rhannau o’r cyllid ar gyfer cyflogi cydgysylltwyr PDG-CLA mewn awdurdodau lleol
Manteision
Byddai’r rôl hon yn adnodd gwerthfawr i awdurdodau lleol mewn perthynas â’r canlynol:
- ystyried a yw cynllun y PDG-CLA wedi’i seilio ar dystiolaeth ac a yw’r hyn a gynlluniwyd yn gyfystyr â defnydd priodol o’r cyllid
- cydgysylltu’r gwariant a chadw golwg arno, ynghyd â chysylltu â Llywodraeth Cymru
- gwerthuso a yw’r PDG-CLA wedi ategu deilliannau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal a darparu tystiolaeth ar eu cyfer
Anfanteision
Bydd llai o gyllid y PDG-CLA ar gael i’w ddosbarthu i ysgolion neu glystyrau o ysgolion.
