Cynllun Cartrefi Clyd Nyth: adroddiad blynyddol 2024 i 2025
Sut mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth wedi gwneud cartrefi yng Nghymru yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran ynni rhwng 2024 a 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y Gweinidog
Dyma'r adroddiad blynyddol cyntaf ar gyfer ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth newydd, a lansiwyd yn dilyn yr ymrwymiadau a nodir yn Natganiad Polisi Cartrefi Clyd 2023. Mae'n adlewyrchu blwyddyn o bontio a gwaith paratoadol sylweddol i gyflwyno cynllun sy'n ymateb i'r galw sy'n mynd i'r afael â heriau deuol tlodi tanwydd a newid hinsawdd.
Roedd y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi yn gyfnod o baratoi i roi'r cynllun ar waith yn bennaf, ochr yn ochr â chwblhau 473 o osodiadau a oedd wedi dechrau cyn diwedd fersiwn blaenorol y cynllun. Roedd y gweithgarwch pontio hwn yn hanfodol i sicrhau parhad cefnogaeth i aelwydydd a throsglwyddiad didrafferth i'r model cyflawni newydd. Cofnodwyd y gosodiadau hyn yng nghynllun Cartrefi Clyd Nyth: adroddiad blynyddol 2023 i 2024.
Yn y cyfnod rhwng 1 Hydref 2024 a 31 Mawrth 2025, cyflwynodd y cynllun welliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi, gan gynnwys systemau gwres canolog, boeleri, inswleiddio, paneli solar, a phympiau gwres o'r aer, i 348 o aelwydydd. Mae'r gwelliannau hyn wedi arwain at ostyngiad blynyddol cyfartalog o £595 mewn biliau ynni cartrefi ac wedi sicrhau arbedion carbon gydol oes o fwy na 107,000 o dunelli.
O ystyried ffocws y cynllun ar ôl-osod mwy trylwyr a cynhwysfawr na fersiynau blaenorol o'r cynllun, rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod y cynllun yn darparu gosodiadau o safon a lefelau uchel o foddhad. Rwy’n falch iawn o adrodd bod 98.4% o’r gosodiadau a archwiliwyd wedi pasio’r tro cyntaf, gyda chwynion gan gwsmeriaid yn cyfateb i ddim ond 1.4% o’r holl osodiadau yn ystod y cyfnod dan sylw.
Ers rhoi'r cynllun ar waith, cyflwynais hefyd lwybr argyfwng newydd i ddarparu cymorth brys i aelwydydd heb wres neu ddŵr poeth sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd Nyth. Mae'r llwybr hwn yn caniatáu atgyweiriadau untro i fynd i'r afael â'r argyfwng penodol dan sylw. Mae hyn yn sicrhau bod ymyriadau brys i'r rhai sydd angen cymorth ar fyrder yn cyd-fynd â'n dull effeithlonrwydd hirdymor.
Ochr yn ochr â gwneud gwelliannau i effeithlonrwydd ynni cartrefi, mae cynnig cyngor yn parhau i fod yn rhan greiddiol o'n dull gweithredu. Rhwng 2024 i 2025, cefnogodd gwasanaeth cynghori Nyth 8,434 o aelwydydd trwy gynnig cyngor arbed ynni wedi'i deilwra. Mae'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn ar gael i bob cartref yng Nghymru. Wrth i ni drosglwyddo i dechnolegau carbon isel, mae sicrhau bod gan bobl mynediad at gyngor annibynnol yn hanfodol i roi'r hyder sydd ei angen ar bobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am uwchraddio eu cartrefi a manteisio ar dechnolegau newydd.
Ni fyddai'r cynnydd hwn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad a chydweithrediad ein partneriaid cyflenwi, awdurdodau lleol, gosodwyr a sefydliadau cymunedol. Rwyf hefyd eisiau cydnabod yr aelwydydd sydd wedi estyn allan i'r cynllun a chymryd camau i wella eu cartrefi, lleihau eu biliau a lleihau eu hôl troed carbon.
Wrth i ni edrych ymlaen, mae mwy i'w wneud i gefnogi'r 25% o aelwydydd yr amcangyfrifir sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gynyddu'r ddarpariaeth, cynnal ansawdd a sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i leihau tlodi tanwydd, gwella safonau byw, a mynd i'r afael ag achosion newid hinsawdd.
Y prif bwyntiau
Y prif lwyddiannau
- Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, rhoddodd Nyth gyngor ynghylch arbed ynni wedi'i deilwra i 8,434 o aelwydydd.
- Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, gosododd Nyth welliannau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi fel systemau gwresogi, boeleri, inswleiddio, paneli solar a phympiau gwres mewn 348 o gartrefi, gan helpu aelwydydd sy'n agored i niwed i leihau costau ynni.
- Sicrhaodd llwybr argyfwng pwrpasol gymorth brys i 222 o'r aelwydydd bregus hyn nad oedd ganddynt wres na dŵr poeth, gan ddarparu ymyriadau cyflym i wneud cartrefi yn gynnes ac yn ddiogel.
- Mae uwchraddiadau ôl-osod ac atgyfeiriadau argyfwng yn lleihau biliau ynni cartrefi tua £570 a £578 y flwyddyn yn y drefn honno, a rhagwelir y byddant yn arbed dros 92,000 a 21,000 tunnell o garbon dros eu hoes, gan ddangos manteision ariannol ac amgylcheddol mawr.
- Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, gosodwyd 348 o becynnau effeithlonrwydd ynni cartref. Roedd y cwynion yn ystod y cyfnod hwn yn cyfrif am 1.4% yn unig o'r holl gwsmeriaid a oedd wedi cael uwchraddiad, gan ddangos lefel uchel iawn o foddhad.
- Roedd y cynllun yn cynnig cymorth i aelwydydd nad oeddent ar y grid, gan fynd i'r afael â'r costau uwch sy'n gysylltiedig â systemau gwresogi trydan, olew neu danwydd solet traddodiadol.
- Roedd y gwasanaeth cynghori annibynnol yn gwarantu arweiniad diduedd a safonau darparu a oedd yn gyson uchel ac ar gael i bawb.
- Cafodd prosesau sicrhau ansawdd ac archwilio cadarn eu hymgorffori drwy gydol y cynllun, gan sicrhau cydymffurfiaeth â safonau technegol, diogelu arian cyhoeddus, ac ysgogi gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
Proffil y 348 o dderbynwyr sy'n wedi cael pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi a gyflwynwyd rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025
- Roedd ychydig dros draean o'r aelwydydd a oedd wedi cael gwelliannau yn hŷn, gyda phennaeth yr aelwyd yn 65 oed neu'n hŷn mewn 34% o achosion, gan gynnwys 19% yn 75 oed a hŷn.
- Roedd y rhan fwyaf o osodiadau mewn cartrefi perchen-feddiannydd, gan gyfrif am 83% o achosion, gyda 13% mewn cartrefi rhent preifat a 4% mewn cartrefi lle nad oedd y math o ddeiliadaeth yn hysbys (naill ai perchen-feddiannydd neu rent preifat).
- Roedd cyfran fach o gartrefi â chymorth nad oeddent ar y grid nwy, gydag 8% o aelwydydd yn dibynnu ar systemau gwresogi trydan, olew neu danwydd solet traddodiadol, sydd fel arfer yn ddrytach eu defnyddio.
- Y mathau o eiddo mwyaf cyffredin oedd cartrefi teras canol a thai pâr, a oedd yn cynrychioli dros 65% o'r holl osodiadau gyda'i gilydd. Mae hyn yn adlewyrchu'n fras \broffil stoc Cymru.
Effaith effeithlonrwydd ynni'r 348 o becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi a osodwyd rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025
- Cyn y gwelliannau, roedd effeithlonrwydd ynni yn isel iawn, gyda 62% o gartrefi â sgôr effeithlonrwydd ynni o F neu G, sy'n dystiolaeth o inswleiddio gwael a chostau gwresogi uchel.
- Ar yr adeg y rhoddwyd y data, roedd sgôr effeithlonrwydd ynni wedi cael ei chofnodi ar gyfer 232 o gartrefi yn dilyn gwneud y gwelliannau. Cyflawnodd dros 66% o'r rhain sgôr effeithlonrwydd ynni o C neu uwch, sy'n dangos gwelliant sylweddol mewn perfformiad ynni.
- Nid oedd unrhyw gartrefi'n parhau i fod â'r sgôr isaf o G ar ôl yr ymyriadau, gan ddangos effaith drawsnewidiol uwchraddiadau Nyth ar effeithlonrwydd ynni cartrefi.
Cyrraedd aelwydydd sy'n agored i niwed
Defnyddiwyd dadansoddiadau cwsmeriaid a gwybodaeth sy'n deillio o ddata, wedi'u datblygu ers i Nyth ddechrau yn 2011, i lywio gwaith ymgysylltu ac allgymorth, er mwyn sicrhau bod cyfathrebu priodol yn cyrraedd y cwsmeriaid sydd eu hangen fwyaf.
Roedd hyn yn cynnwys:
- hyrwyddo gwefan Nyth gyda 56,876 o ddefnyddwyr rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.
- ymgyrch post uniongyrchol a gyrhaeddodd 154,764 o aelwydydd sy'n agored i niwed yng Nghymru.
- cwis cyngor ar-lein a gwblhawyd gan 1,042 o aelwydydd.
- talu am hysbysebion Facebook a Google wedi'u targedu at gwsmeriaid cymwys ledled Cymru.
- cefnogi byrddau iechyd, elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i gyrraedd aelwydydd a allai elwa ar ein cyngor a'n cymorth.
Cyngor a chymorth
Derbyniodd pob cwsmer a ffoniodd linell gymorth Nyth gyngor a chymorth wedi'u teilwra gan y tîm cynghori i sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth mwyaf priodol i gyd-fynd â'u hanghenion penodol. Roedd hyn yn cynnwys cyngor ynghylch arbed ynni ac effeithlonrwydd dŵr, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi am ddim ar gyfer cwsmeriaid cymwys, a chyfeirio ac atgyfeirio at amrediad o wasanaethau cymorth.
Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, cefnogodd Nyth 8,434 o aelwydydd â chyngor a chymorth wedi'u teilwra. Rhondda Cynon Taf oedd â'r nifer uchaf o aelwydydd wedi'u helpu, sef 807, ac wedyn Abertawe gyda 650.
Ffigur 1: nifer yr aelwydydd a gafodd gyngor a chymorth gan Nyth yn ôl awdurdod lleol, fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025
Disgrifiad o ffigur 1: Siart bar sy'n dangos nifer yr aelwydydd a gafodd gyngor a chymorth gan Nyth ym mhob awdurdod lleol.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Cymorth trydydd parti
Atgyfeiriodd Nyth aelwydydd at sefydliadau eraill fel y gallant ddarparu cymorth pellach pan oedd hynny'n briodol. Gall aelwyd dderbyn mwy nag un atgyfeiriad; roedd cyfanswm o 1,028 o atgyfeiriadau.
Ffigur 2: y math o atgyfeiriadau a wnaed at drydydd parti, fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025
Disgrifiad o ffigur 2: Siart gylch yn dangos cyfran pob math o atgyfeiriad a wnaed at drydydd parti, yn seiliedig ar bob un o'r 1,028 o atgyfeiriadau.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Atgyfeiriadau at y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (503 o atgyfeiriadau, 49%)
Roedd bron i hanner yr holl atgyfeiriadau i Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth y Grid Cenedlaethol. Mae'r gwasanaeth hwn yn helpu cwsmeriaid agored i niwed drwy gynnig cymorth ychwanegol gan gyflenwyr ynni a'r grid cenedlaethol, megis rhybuddion ymlaen llaw am doriadau pŵer a chymorth â blaenoriaeth yn ystod argyfyngau.
Gwirio'r Hawl i Fudd-daliadau (451 o atgyfeiriadau, 44%)
Roedd tua 44% o atgyfeiriadau ar gyfer gwirio'r hawl i fudd-daliadau. Mae hyn yn sicrhau bod aelwydydd yn cael yr holl gymorth ariannol y maent yn gymwys ar ei gyfer, gan helpu i wella fforddiadwyedd a lleihau tlodi tanwydd.
Care and Repair (52 o atgyfeiriadau, 5%)
Roedd pump y cant o'r atgyfeiriadau at Care and Repair, sy'n darparu cymorth ymarferol i bobl hŷn neu anabl i gynnal ac addasu eu cartrefi, gan eu cefnogi i fyw'n annibynnol.
Cynllun Peilot Rhwymedigaethau Cwmnïau Ynni (ECO) gyda Chyngor Caerdydd (16 atgyfeiriad, 2%)
Roedd dau y cant o'r atgyfeiriadau at gynllun peilot ECO gyda Chyngor Caerdydd. Mae'r fenter hon yn cynnig gwelliannau effeithlonrwydd ynni i aelwydydd cymwys fel rhan o bartneriaeth leol.
Talebau Banc Tanwydd (6 atgyfeiriad, 1%)
Roedd nifer fach o atgyfeiriadau (1%) ar gyfer talebau Banc Tanwydd Llywodraeth Cymru sy'n darparu credyd brys ar gyfer mesuryddion rhagdalu i helpu aelwydydd mewn argyfwng.
Pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref
Helpodd Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru aelwydydd mewn tlodi tanwydd, gan leihau biliau ynni drwy welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i'w cartrefi.
Aseswyd cwsmeriaid a gysylltodd â Nyth am gyngor a chymorth am eu cymhwysedd i dderbyn pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim.
Y meini prawf ar gyfer gwelliannau i'r cartref oedd:
- Bod aelod o'r aelwyd yn derbyn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd a bod yr eiddo yn eiddo preifat neu'n cael ei rentu â sgôr ynni dangosol o E, F neu G; neu
- Bod aelod o'r aelwyd yn byw gyda chyflwr iechyd (mewn eiddo preifat neu rentu â sgôr D, E, F, G), a bod incwm y cartref islaw trothwyon diffiniedig.
Data meini prawf iechyd
Mae Cynllun Nyth yn cynnwys llwybr ar wahân i bobl â chyflyrau iechyd penodol sydd ar incwm isel. I fod yn gymwys, rhaid i gartref fod â sgôr EPC o D neu is (sgôr SAP 68 neu is), a rhaid i rywun yn yr aelwyd fod â chyflwr iechyd cymwys. Mae cyflyrau iechyd yn cynnwys clefydau anadlol (heintiau anadlol, bronco-gywasgiad mewn asthma, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint), clefyd cylchredol (gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, strociau a thrawiadau ar y galon)\iechyd meddwl (gan gynnwys iselder, gorbryder, seicosis ac anhwylder deubegynol) dementia, anhwylderau deallusol a datblygiadol. Mae rhagor o fanylion ar gael yma meini prawf cymhwysedd Nyth.
Rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025, aseswyd 2,341 o aelwydydd yng Nghymru o dan y llwybr iechyd. O'r rhain, roedd 1,030 yn bodloni'r meini prawf iechyd a chartrefi a chawsant eu hatgyfeirio ar gyfer asesiad incwm. Wedyn, ar ôl pasio'r asesiad incwm, roedd 656 o aelwydydd yn gymwys i gael cymorth.
Roedd y rhan fwyaf o aelwydydd a aseswyd yn cynnwys oedolion hŷn, sef 63%, ag o leiaf un person 60 oed neu'n hŷn. Roedd llawer o gartrefi'n aneffeithlon o ran ynni, gyda 42% â sgôr o E, F neu G. Roedd incwm aelwydydd ar y cyfan yn isel, gyda 61% yn ennill llai nag 80% o'r trothwy incwm.
Ffigur 3: aelwydydd wedi'u hatgyfeirio ar gyfer asesiad incwm o dan y meini prawf iechyd, yn ôl categori o aelwyd agored i niwed, fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o ffigur 3: Siart far sy'n dangos canran yr aelwydydd wedi'u hatgyfeirio o dan y meini prawf iechyd, yn ôl categori o aelwyd agored i niwed.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
[Nodyn 1] Mae meini prawf cymhwysedd Nyth yn darparu dadansoddiad manwl o'r meini prawf iechyd a'r trothwyon incwm
[Nodyn 2] Gall aelwyd sy'n cael ei hatgyfeirio am asesiad incwm o dan y meini prawf iechyd fod o dan fwy nag un categori o aelwyd agored i niwed.
Y broses ar gyfer gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi
Fel rhan o'r gwaith o ddarparu cymorth i denantiaid mewn cartrefi rhent preifat, gweithiodd Nyth mewn partneriaeth gyda Rhentu Doeth Cymru i sicrhau bod landlordiaid preifat wedi'u cofrestru'n swyddogol cyn gwneud gwelliannau yn eu heiddo.
Ar gyfer pob cwsmer a gafodd ei atgyfeirio gan y gwasanaeth cynghori:
- ymwelodd asesydd cymwys â chartref y cwsmer i gynnal asesiad o'r tŷ cyfan;
- nododd yr asesydd y mesurau mwyaf priodol a chost-effeithiol ar gyfer yr eiddo; a
- chadarnhaodd a oedd y cwsmer yn gymwys.
Sicrhaodd tîm Nyth fod yr holl ganiatadau a chydsyniadau a oedd eu hangen (landlordiaid, cynllunio ac ati) ar waith a bod gofynion trydydd parti (cysylltiadau nwy, tynnu asbestos ac ati) wedi cael eu cwblhau cyn cytuno gyda'r cwsmer ar y dyddiadau gosod.
Roedd rhwydwaith o osodwyr yng Nghymru yn darparu'r gwasanaethau gosod o dan reolaeth tîm Nyth. Cafodd y pecyn o welliannau ei archwilio ar ôl iddo gael ei osod, gydag gwaith i unioni unrhyw diffygion a nodwyd yn cael ei wneud mewn modd cyflym ac yn effeithiol.
Cafodd pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref Nyth eu llunio ar gyfer cartrefi unigol, felly nid oedd pecyn safonol o fesurau – ond gallent fod wedi cynnwys boeler newydd, system gwres canolog neu inswleiddio llofft, ac efallai bod rhai wedi cynnwys technolegau mwy newydd fel paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer ac inswleiddio waliau allanol.
Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025 roedd y rhan fwyaf o osodiadau effeithlonrwydd ynni yn systemau gwresogi (ailosod boeleri neu wresogyddion dŵr LPG), gan gyfrif am oddeutu 31% o'r holl fesurau. Roedd mesurau ynni solar ac ynni adnewyddadwy eraill yn cyfrif am 26% o'r gosodiadau. Roedd pympiau gwres ffynhonnell aer a silindrau dŵr poeth cysylltiedig yn llawer llai cyffredin, gan gyfrif am 2% o'r holl osodiadau.
Ffigur 4: Gosodiadau Nyth yn ôl y math o fesur, fis Hydref 2024 i fis Mawrth 2025
Disgrifiad o ffigur 1: Siart gylch yn dangos cyfran y gosodiadau Nyth yn ôl math o fesur.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, gosododd Nest 348 o becynnau gwella effeithlonrwydd ynni. Rhondda Cynon Taf oedd â'r nifer uchaf o osodiadau, sef 48, wedyn Caerdydd gyda 44.
Ffigur 5: pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ôl awdurdod lleol, fis Hydref 2024 i fis Mawrth 2025
Disgrifiad o ffigur 5: Siart far sy'n dangos nifer y pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi wedi'u darparu gan awdurdodau lleol drwy Nyth, yn ôl awdurdod lleol.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Nodweddion aelwydydd y rhai a dderbyniodd becynnau gwella
Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o'r aelwydydd a dderbyniodd becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref Nyth rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, wedi'u rhannu yn ôl nodweddion aelwydydd. Rhoddir gwybodaeth am aelwydydd a dderbyniodd gyngor yn gynharach yn yr adroddiad. Mae delweddau manwl i'w gweld ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol a thablau cyhoeddedig.
Proffil tlodi tanwydd
Nod Nyth yw helpu pobl i drechu tlodi tanwydd. Yn ystod y broses ymgeisio gychwynnol, gofynnwyd i ddeiliaid tai gadarnhau incwm eu cartref. Aseswyd yr wybodaeth hon yn erbyn costau rhedeg wedi'u modelu ar gyfer eu cartref. Roedd hyn yn caniatáu i dîm cynghori Nyth asesu a oedd y cwsmer yn byw mewn tlodi tanwydd.
Cafodd aelwydydd yr aseswyd eu bod yn gwario dros 10% o'u hincwm ar filiau ynni eu hystyried yn rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd, gydag aelwydydd sy'n gwario dros 20% yn cael eu hystyried yn rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd difrifol.
Roedd mwy na thraean o aelwydydd sy'n derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi wedi dweud eu bod o'r farn eu bod yn byw mewn tlodi tanwydd. Dywedodd tua 37% eu bod mewn tlodi tanwydd, a dywedodd 14% eu bod mewn tlodi tanwydd difrifol. Nid oedd y 43% arall yn ystyried eu bod mewn tlodi tanwydd ac nid oedd 6% wedi darparu gwybodaeth.
Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar statws wedi'i hunan-adrodd ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu cymhwysedd ar gyfer y cynllun, sy'n cael ei bennu drwy feini prawf ehangach. Felly, ni ddylid dehongli'r gyfran sy'n dweud nad ydynt mewn tlodi tanwydd yn dystiolaeth o gam-dargedu.
Oedran Person Cyfeirio'r Cartref
Person Cyfeirio'r Cartref yw'r person sy'n berchen ar yr eiddo, neu'r person y mae'r eiddo yn cael ei rentu yn ei enw. Os yw'r eiddo o dan berchnogaeth mwy nag un person neu'n cael ei rentu ar y cyd, y person cyfeirio yw'r person â'r incwm uchaf. Os yw'r incwm yr un peth, dewisir y person hynaf.
Roedd aelwydydd â pherson cyfeirio 65 oed neu'n hŷn yn cyfrif am 34% o aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella ynni cartrefi drwy Raglen Nyth Cartrefi Cynnes. Roedd gan 23% arall o aelwydydd a oedd wedi derbyn gwelliannau berson cyfeirio rhwng 55 a 64 oed. I'r gwrthwyneb, tuag 8% yn unig o aelwydydd a oedd wedi derbyn gwelliannau oedd â pherson cyfeirio rhwng 16 a 34 oed.
Deiliadaeth
Roedd y rhan fwyaf o aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes yn berchen-feddiannydd. Roedd tuag 83% o'r derbynwyr yn berchen ar eu cartrefi, roedd 13% mewn llety rhent preifat, a nododd 4% yn anhysbys (naill ai'n berchen-feddiannydd neu wedi'i rentu preifat). Nid ariannodd cynllun Nest uwchraddio tai cymdeithasol gan fod cynlluniau cyllid Llywodraeth Cymru ar wahân at y diben hwnnw.
Incwm net
Roedd gan aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm isel yn gyffredinol. Dywedodd tua 44% fod ganddynt incwm blynyddol net o dan £15,000, gyda 36% yn ennill rhwng £15,000 a £25,000. Dim ond 20% oedd ag incwm yn uwch na £25,000.
Nodweddion gwarchodedig
Casglwyd gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig fel grŵp ethnig a statws anabledd. Fodd bynnag, roedd gormod o ymatebion anhysbys neu wybodaeth ar goll i ganiatáu dadansoddiad neu adrodd ystyrlon o'r data hyn. Byddwn yn adolygu ac yn atgyfnerthu ein prosesau casglu data yn y blynyddoedd i ddod i wella cyflawnrwydd a chefnogi dadansoddiadau mwy cadarn o ddata ar nodweddion gwarchodedig.
Nodweddion y cartrefi
Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o'r aelwydydd a dderbyniodd becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Nyth rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, wedi'u rhannu yn ôl nodweddion eu cartrefi. Rhoddir gwybodaeth am aelwydydd a dderbyniodd gyngor yn gynharach yn yr adroddiad. Mae delweddau manwl i'w gweld ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol a thablau cyhoeddedig.
Math o eiddo
Mae'r rhan fwyaf o aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn byw mewn tŷ pâr neu ganol teras. Roedd tai pâr yn cyfrif am 35% o'r derbynwyr a chartrefi canol teras am 30%. Roedd tai ar wahân yn cyfrif am 19%, a chartrefi pen teras yn cyfrif am 14%. Fflatiau oedd yn cyfrif am 2% o'r pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref. Mae'r cyfrannau hyn yn adlewyrchu nodweddion y cartrefi a oedd wedi derbyn gwelliannau ac nid ydynt yn adlewyrchu'r cyfrannau yn y stoc dai gyfan.
Nifer yr ystafelloedd gwely
Roedd cartrefi llai yn fwy tebygol o dderbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref. Roedd bron i hanner (49%) y derbynwyr yn byw mewn cartrefi gyda dwy ystafell wely neu lai, a 42% yn byw mewn cartrefi tair ystafell wely. Dim ond 8% a oedd yn byw mewn eiddo â phedair ystafell wely neu fwy. Mae'r patrwm hwn yn adlewyrchu'r ffaith bod aelwydydd incwm is neu incwm sengl, sydd mewn mwy o berygl o dlodi tanwydd, fel arfer yn byw mewn cartrefi llai, rhatach yn hytrach na maint y cartref ei hun yn peri tlodi tanwydd.
Oedran yr eiddo
Roedd cartrefi hŷn yn fwy tebygol o dderbyn uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni. Adeiladwyd tua 36% o'r cartrefi a dderbyniodd gymorth cyn 1930, 13% rhwng 1930 a 1949, a 25% rhwng 1950 a 1966. Adeiladwyd yr 16% arall rhwng 1967 a 1982, gyda dim ond 10% wedi'u hadeiladu ar ôl 1982. Yn aml nid oes gan gartrefi hŷn inswleiddio modern a systemau gwresogi effeithlon, sy'n cynyddu'r angen am welliannau.
Prif system wresogi a math o danwydd
Roedd gan y rhan fwyaf o aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi foeler yn brif system wresogi (97%). Roedd 92% o aelwydydd yn defnyddio nwy prif gyflenwad yn brif fath o danwydd.
Mae systemau gwresogi canolog yn cynnwys: systemau boeler gyda rheiddiaduron, aer cynnes a systemau eraill fel gwres o dan y llawr a systemau cymunol.
Cysylltiad nwy
Roedd y rhan fwyaf o aelwydydd a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi wedi'u cysylltu â nwy prif gyflenwad (92%). Mae cartrefi heb gysylltiad nwy yn aml yn dibynnu ar danwydd amgen, fel olew neu LPG, a all fod yn ddrytach ac yn llai effeithlon.
Math o wal ac insiwleiddio
Roedd gan hanner y cartrefi a oedd wedi derbyn pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi waliau ceudod. Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, roedd gan 50% o gartrefi waliau ceudod, roedd gan 23% waliau solet, a chan21% waliau solet wedi'u hinswleiddio.
Lleoliad: categori trefol neu wledig
Rhoddwyd categori i leoliad cartref a oedd yn derbyn gwelliannau gan ddefnyddio Office for National Statistics (ONS) 2011 Rural - Urban classification. Ystyrir bod ardal yn 'drefol' os yw'n rhan o ardal adeiledig sy'n cynnwys 10,000 o bobl neu fwy. Mae ardaloedd gwledig yn cynnwys trefi a'u hymylon, pentrefi, pentrefannau ac ardaloedd ynysig.
Roedd 90% o'r cartrefi a oedd wedi derbyn gwelliannau mewn ardaloedd trefol, a dim ond 10% oedd mewn ardaloedd gwledig.
Gwella effeithlonrwydd ynni
Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi Nyth, gan gynnwys uwchraddiadau ôl-osod ac atgyfeiriadau argyfwng, wedi arwain at arbedion biliau ynni wedi'u hamcangyfrif o £570 a £578 yn y drefn honno, fesul aelwyd y flwyddyn, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd. .
Effeithlonrwydd ynni: Sgôr SAP a band EPC
Y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP) yw dull Llywodraeth y DU ar gyfer asesu effeithlonrwydd ynni cartrefi. Mae'n cynhyrchu sgôr o 1 i 100, sydd wedyn yn cael ei grwpio yn fandiau Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) A i G, gyda band A yn cynrychioli'r cartrefi mwyaf effeithlon o ran ynni a band G y lleiaf effeithlon o ran ynni. Mae'r Weithdrefn Asesu Safonol Data Llai Manwl (RdSAP) yn fersiwn symlach o'r SAP a ddefnyddiwyd i asesu cartrefi presennol.
Mae Cynllun Nyth yn defnyddio RdSAP i gyfrifo sgôr SAP cartref cyn ac ar ôl gosod mesurau effeithlonrwydd ynni. Mae hyn yn helpu i asesu a fyddai'r mesurau arfaethedig i wella effeithlonrwydd ynni'r cartref yn gost-effeithiol. Mae Nyth fel arfer yn cefnogi cartrefi mewn bandiau EPC is, sef G i D, sy'n cyfateb i sgoriau SAP o 0 i 68 ac yn nodi effeithlonrwydd ynni gwael a chostau rhedeg uchel. Ar ôl gosod gwelliannau, mae'r sgôr SAP yn cael ei diweddaru i adlewyrchu'r mesurau sydd wedi'u gosod mewn gwirionedd, gan y gall pecynnau newid oherwydd materion technegol neu ddewisiadau cwsmeriaid.
Newidiadau ym mand yr EPC cyn ac ar ôl gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi
Cyn gwelliannau, roedd gan y rhan fwyaf o aelwydydd effeithlonrwydd ynni isel iawn. Roedd tua 34% ym mand G yr EPC, 28% ym mand F a 14% ym mand E.
Mae'r newid ym mand yr EPC yn cael ei ysgogi'n bennaf gan y gosodiadau a argymhellwyd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae deiliaid tai yn dewis peidio â derbyn yr holl fesurau wedi'u cynnig, sy'n effeithio ar fand terfynol yr EPC. Ar ôl gwneud y gwelliannau, gwellodd effeithlonrwydd ynni yn sylweddol. Symudodd tua dwy ran o dair (66%) o aelwydydd i fand C a chyrhaeddodd 15% band B. Dim ond 24% a oedd yn parhau i fod ym mand D, 8% ym mand E, 1% ym mand F ac nid oedd yr un yn aros ym mand G.
Ffigur 6: Sgôr effeithlonrwydd ynni cyn ac ar ôl gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 6: Siart far sy'n dangos y sgôr effeithlonrwydd ynni cyn ac ar ôl gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
[Nodyn 1] Mae'r data yn seiliedig ar becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref a osodwyd rhwng Hydref 2024 a Mawrth 2025. O'r 348 o aelwydydd a oedd wedi derbyn cymorth, mae 232 wedi cofnodi sgôr SAP ar ôl gosod y pecynnau. Nid oedd sgoriau SAP ar ôl gosod ar gael ar yr adeg y darparwyd yr wybodaeth ar gyfer 116 o aelwydydd.
Arbedion cartrefi: costau, ynni ac allyriadau carbon deuocsid
Mae data ar arbedion cartrefi wedi cael ei gofnodi ar wahân ar gyfer gwasanaeth safonol Nyth, lle mae'r broses PAS2035 yn cael ei dilyn o'r cychwyn cyntaf, mae asesiad o'r tŷ cyfan yn cael ei gynnal gyntaf ac mae set lawn o argymhellion yn llywio'r pecyn gwella effeithlonrwydd ynni.
Mae angen cymorth ar unwaith ar aelwydydd sy'n cael eu hatgyfeirio drwy'r llwybr argyfwng. O ganlyniad, cymerir camau brys i adfer gwres a dŵr poeth. Wedyn cynigir asesiad i gwsmeriaid ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni pellach ac, os cânt eu derbyn, caiff y rhain eu gosod yn ddiweddarach.
Rhwng Hydref 2024 a Mawrth 2025, amcangyfrifwyd y byddai pecynnau effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy gwasanaeth safonol Nyth safonol yn arbed tua £570 y flwyddyn i aelwydydd ar filiau ynni, sy'n cyfateb i tua 92,390 megajoule o ynni bob blwyddyn. Mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos y gostyngiad disgwyliedig yn ystod oes mewn allyriadau carbon i aelwydydd sydd wedi derbyn gwelliannau, gyda chyfanswm yr allyriadau yn gostwng dros 2,113 tunnell o CO2
| Awdurdod lleol | Arbediad Blynyddol Cyfartalog mewn Costau Tanwydd (£oedd) | Swm yr Arbediad CO2 Gydol Oes (tCO) | Cyfartaledd yr Arbedion Defnydd Ynni (megajoules) |
|---|---|---|---|
| Abertawe | 541 | 180.69 | 101,173 |
| Blaenau Gwent | 518 | 44.60 | 85,511 |
| Bro Morgannwg | 554 | 105.34 | 98,188 |
| Caerdydd | 477 | 255.91 | 93,849 |
| Caerffili | 569 | 160.53 | 97,344 |
| Casnewydd | 545 | 51.89 | 60,944 |
| Castell-nedd Port Talbot | 441 | 47.66 | 58,866 |
| Ceredigion | 1,102 | 27.62 | 39,819 |
| Conwy | 513 | 89.53 | 69,854 |
| Gwynedd | 473 | 71.77 | 74,845 |
| Merthyr Tudful | 508 | 48.29 | 125,194 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 577 | 84.86 | 81,767 |
| Powys | 647 | 69.41 | 78,930 |
| Rhondda Cynon Taf | 565 | 229.94 | 131,899 |
| Sir Benfro | 655 | 78.36 | 139,474 |
| Sir Ddinbych | 549 | 60.99 | 75,570 |
| Sir Fynwy | 822 | 82.54 | 164,612 |
| Sir Gaerfyrddin | 618 | 137.54 | 106,446 |
| Sir y Fflint | 509 | 55.88 | 103,510 |
| Torfaen | 559 | 119.95 | 108,750 |
| Wrecsam | 442 | 18.42 | 42,965 |
| Ynys Môn | 687 | 90.98 | 124,385 |
| Cymru | 570 | 2,112.70 | 92,390 |
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Disgrifiad o Dabl 1: Dadansoddiad o arbedion ynni wedi'u modelu fesul aelwyd sydd wedi derbyn mesurau yn ôl awdurdod lleol, gydag arbediad cyfartalog wedi'i amcangyfrif o £570 y flwyddyn neu 92,390 megajoule (unedau ynni) y flwyddyn.
Rhwng Hydref 2024 a Mawrth 2025, amcangyfrifwyd y byddai pecynnau effeithlonrwydd ynni cartref wedi'u cyflawni drwy atgyfeiriad argyfwng yn arbed tua £578 y flwyddyn ar filiau ynni i aelwydydd, sy'n cyfateb i tua 21,355 megajoules o ynni bob blwyddyn. Mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos y gostyngiad disgwyliedig mewn allyriadau carbon ar gyfer yr aelwydydd hyn sydd wedi derbyn gwelliannau, gyda chyfanswm yr allyriadau yn gostwng dros 5,159 tunnell o CO2.
| Awdurdod lleol | Arbediad Blynyddol Cyfartalog mewn Costau Tanwydd (£oedd) | Swm yr Arbediad CO2 Gydol Oes (tCO) | Cyfartaledd yr Arbedion Defnydd Ynni (megajoules) |
|---|---|---|---|
| Abertawe | 610.49 | 433.36 | 21,494 |
| Blaenau Gwent | 515.56 | 242.34 | 21,318 |
| Bro Morgannwg | 636.22 | 71.42 | 22,330 |
| Caerdydd | 568.17 | 628.14 | 21,170 |
| Caerffili | 610.27 | 453.63 | 21,788 |
| Casnewydd | 524.78 | 314.17 | 21,003 |
| Castell-nedd Port Talbot | 519.89 | 246.23 | 20,714 |
| Ceredigion | 200.42 | 6.71 | 18,804 |
| Conwy | 643.38 | 307.03 | 21,677 |
| Gwynedd | 404.05 | 37.13 | 21,293 |
| Merthyr Tudful | 566.81 | 133.12 | 21,372 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 553.49 | 229.65 | 20,789 |
| Powys | 558.15 | 65.79 | 19,938 |
| Rhondda Cynon Taf | 616.97 | 970.20 | 21,876 |
| Sir Benfro | 584.33 | 118.84 | 21,290 |
| Sir Ddinbych | 623.32 | 124.25 | 21,854 |
| Sir Fynwy | 503.44 | 91.57 | 21,715 |
| Sir Gaerfyrddin | 559.95 | 247.17 | 20,642 |
| Sir y Fflint | 622.23 | 175.51 | 20,823 |
| Torfaen | 562.64 | 146.92 | 20,402 |
| Wrecsam | 395.39 | 12.12 | 19,940 |
| Ynys Môn | 818.90 | 103.25 | 24,787 |
| Cymru | 578.36 | 5,158.55 | 21,355 |
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Disgrifiad o Dabl 2: Dadansoddiad o arbedion ynni (llwybr argyfwng) wedi'u modelu fesul aelwyd sydd wedi derbyn mesurau yn ôl awdurdod lleol, gydag arbediad cyfartalog amcangyfrifedig o £578 y flwyddyn neu 21,355 megajoule (unedau ynni) y flwyddyn.
Buddsoddi gan Lywodraeth Cymru
Rhwng Hydref 2024 a Mawrth 2025, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £6.7 miliwn wrth gyflawni Cynllun Nyth. Er mwyn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus, ac er mwyn sicrhau bod cymorth y cynllun yn gallu cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, mae gan Nyth drothwy o £35k fesul aelwyd. Mae unrhyw brosiect uwchlaw'r trothwy hwn yn gofyn am sicrwydd ychwanegol a chymeradwyaeth cyn bwrw ymlaen. Roedd y gwariant cyfartalog fesul pecyn o fesurau/cartref sy'n derbyn cymorth ar ei uchaf ym Mro Morgannwg, sef £19.7k, ac wedyn Ceredigion ar £17.5k. Gwynedd oedd â'r gwariant cyfartalog isaf, sef £6.1k.
Mae gwahaniaethau mewn gwariant cyfartalog yn debygol o fod oherwydd math a chost y gwaith sydd ei angen ym mhob ardal. Mae'n debyg bod hyn yn adlewyrchu'r mathau o gartrefi mewn gwahanol ardaloedd o Gymru, pa mor wledig yw'r ardal, cysylltiadau â'r grid nwy, oedran y cartref a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd i'w adeiladu.
Ffigur 7: gwariant cyfartalog fesul aelwyd ar welliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ôl awdurdod lleol, mis Hydref 2024 i fis Mawrth 2025
Disgrifiad o ffigur 7: Siart far yn dangos y gwariant cyfartalog fesul aelwyd ar welliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ôl awdurdod lleol. Mae'r gwariant yn uwch mewn rhai awdurdodau lleol oherwydd nifer y cartrefi nad ydynt yn derbyn nwy prif gyflenwad.
Ffynhonnell: Adroddiadau rheoli Nyth
Ansawdd a boddhad deiliaid tŷ
Mae contractwr annibynnol yn cael ei gyflogi i sicrhau ansawdd Cynllun Nyth. Mae'r contractwr yn adolygu gwaith y gwasanaeth ar sail risg, gyda lefel uwch o graffu ar osodiadau mwy cymhleth a risg uwch. Mae gan yr asiant cyflawni darged o 98% o osodiadau yn pasio'r arolygiad y tro cyntaf. Rhagorwyd ar y targed hwn, gyda 98.4% o'r gosodiadau yn pasio'r tro cyntaf.
Rhwng Hydref 2024 a Mawrth 2025, gosodwyd 348 o becynnau effeithlonrwydd ynni cartref. Dim ond 1.4% o'r holl osodiadau oedd y ganran o gwynion gan gwsmeriaid a gafodd eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn, yn erbyn targed i weld dim mwy na 3% o gwynion wedi'u cynnal – sy'n dangos lefel uchel o foddhad.
Ar draws yr holl ddeiliaid tai a dderbyniodd gyngor neu welliannau drwy'r cynllun, anfonwyd 5,490 o arolygon post i gasglu adborth ar foddhad â'r gwasanaeth. Mae'r arolwg yn cael ei anfon fesul aelwyd unigryw a hynny dim ond lle mae tic wedi cael ei roi i dderbyn y Cytundeb Diogelu Data (DPA). Cafodd ymatebion eu monitro drwy gydol pob cam o daith y cwsmer, gyda 595 o ddeiliaid tai yn ateb y cwestiwn am berfformiad cyffredinol y gwasanaeth, a dywedodd 79% ohonynt eu bod yn fodlon. Ar wahân i'r ymarfer hwnnw , mae British Gas yn mesur boddhad cwsmeriaid â'r gosodiadau, a'r gyfradd foddhad ar gyfer y cyfnod Ebrill 2024 i Fawrth 2025 oedd 98%.
Enw cyswllt
Ewch i NYTH i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Nyth, gan gynnwys sut i gysylltu â'r tîm.
