Neidio i'r prif gynnwy

Cynulleidfa

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoli gofal plant o ansawdd uchel i blant bach sy'n cael cymorth Dechrau'n Deg, gan gynnwys athrawon ymgynghorol Dechrau'n Deg a phersonél perthnasol o fewn awdurdodau lleol. 

Dylai holl ymarferwyr Dechrau'n Deg sy'n gweithio mewn lleoliadau sy’n cynnig gofal plant Dechrau’n Deg fod yn gyfarwydd â'r ddogfen hon a dylent ei defnyddio fel sail i'w hymarfer ond dylent gael eu harwain gan ganllawiau eraill fel yr Adnoddau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed yng Nghymru. 

Y canllawiau hyn

Mae'r ddogfen hon yn helpu i gyflwyno darpariaeth pob lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg ac yn amlinellu ethos gofal plant Dechrau'n Deg. Nid fframwaith arolygu yw'r canllawiau hyn a dylid eu darllen ar y cyd â holl ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Dechrau'n Deg.

Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru sydd wedi'i thargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dangoswyd bod pedair elfen graidd y rhaglen wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol i blant bach a'u teuluoedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gofal plant rhan amser o ansawdd wedi'i ariannu ar gyfer plant 2 i  3  oed
  • Gwasanaeth estynedig gan ymwelwyr iechyd
  • Mynediad at gymorth rhianta
  • Cymorth o ran datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu

Dylai gofal plant Dechrau'n Deg ddarparu profiadau gwerthfawr a diddorol fel y gall plant bach ddysgu, datblygu a chymdeithasu â'u cyfoedion mewn amgylchedd effeithiol o ansawdd uchel, gyda chymorth oedolion cymwysedig a gofalgar sy'n eu galluogi i ddysgu. 

Ehangu gofal plant Dechrau'n Deg

Yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2025, ymrwymwyd i fynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn 2 oed cymwys, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.

Dechreuodd cam cyntaf y broses ehangu ym mis Medi 2022, ac roedd yn cynnwys pedair elfen Dechrau'n Deg. Fel rhan o gam 2, canolbwyntiwyd ar ddarparu elfen gofal plant rhan amser o ansawdd uchel Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed yn ystod 2023-24 a 2024-25. Parhaodd cam 3 â'r broses ehangu hon o 2025/26 ymlaen fel y byddai darpariaeth ar gael i bob plentyn 2 oed yng Nghymru yn y pen draw. Blaenoriaethau'r broses ehangu yw:

  • Gwella canlyniadau datblygiad plant i'r eithaf er mwyn helpu i roi'r dechrau gorau iddynt mewn bywyd, yn enwedig ein plant mwyaf difreintiedig
  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a lliniaru rhai o effeithiau amddifadedd
  • Cefnogi a chryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg
  • Llenwi bylchau yn y ddarpariaeth sydd ar gael

Mae wedi bod yn ofyniad hirsefydlog y dylai lleoliadau, lle bo hynny'n bosibl, fod o fewn pellter “gwthio pram” i gartref y plentyn. Am resymau ymarferol, ystyrir mai amser cerdded o tua 10-15 munud yw hyn, a dylid bod wedi dod o hyd i atebion lleol lle nad oedd hynny'n bosibl. Fodd bynnag, wrth i'r rhaglen gael ei hehangu i gymunedau mwy gwledig, cydnabyddir na fydd hyn yn bosibl bob amser. Yn ogystal, efallai y bydd rhai teuluoedd yn defnyddio lleoliadau mewn awdurdod lleol cyffiniol i'w helpu i weithio neu gael hyfforddiant a allai olygu nad ydynt o fewn y pellter a nodwyd yn wreiddiol. Ceir manylion am drefniadau trawsffiniol yn Atodiad 2.

Rhaid i bob lleoliad Dechrau'n Deg gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a chyflawni'r Safonau ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

Rhaid i fodelau darparu gofal plant Dechrau'n Deg, y rhai craidd a'r rhai sy'n rhan o'r broses ehangu, ddiwallu anghenion a nodwyd yn lleol. Mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd a'r disgresiwn i bennu cyfansoddiad eu darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg a allai gynnwys:

  • Lleoliadau cymysg (plant sy'n cael gofal Dechrau'n Deg a phlant nad ydynt yn cael gofal Dechrau'n Deg)
  • Lleoliadau Dechrau'n Deg yn unig
  • Ysgolion a gynhelir
  • Lleoliadau gwirfoddol / cymunedol / annibynnol gan gynnwys meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae cyfrwng Cymraeg a Saesneg, Cylchoedd Meithrin a gwarchodwyr plant
  • Mae angen i awdurdodau lleol ddilyn eu rheolau caffael eu hunain wrth lunio Cytundebau Lefel Gwasanaeth ac mae'n rhaid i'w hadrannau gwasanaethau cyfreithiol eu hunain eu gwirio.

Wrth gynllunio eu darpariaeth o wasanaethau gofal plant Dechrau'n Deg yn lleol, dylai awdurdodau lleol wneud y cysylltiadau angenrheidiol â Chynnig Gofal Plant Cymru, partneriaethau'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (sef Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif gynt) a Chynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg i sicrhau bod darpariaeth leol yn cael ei chynllunio.

Cyd-destun polisi

Mae gwaith Llywodraeth Cymru ar hawliau plant yn seiliedig ar ein hymrwymiad i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae Cymru wedi arwain y ffordd ym maes hawliau plant drwy eu hymgorffori mewn cyfraith drwy 'Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011'. Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i CCUHP wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau.

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a chaiff yr uchelgais hwnnw ei ategu gan hawliau plant. Rydym am gael ‘Cymru i Bob Plentyn’, a Chymru lle mae pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, gan gynnwys gwasanaethau gofal plant a blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel a chymorth o ansawdd uchel i rieni neu ofalwyr.  Beth yw hawliau plant: canllawiau i rieni a gofalwyr | LLYW.CYMRU Hawliau plant yw'r sbardun i raglenni a pholisïau allweddol fel Dechrau'n Deg.

Bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (y Ddeddf) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ei nod yw gwneud i'r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a gyda'i gilydd, ceisio atal problemau yng nghenedlaethau'r dyfodol a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig yn ogystal ag integreiddio canlyniadau a mesurau perfformiad.

Mae darparu gwasanaethau gofal plant o ansawdd uchel Dechrau'n Deg yn cyd-fynd â nodau'r Ddeddf mewn perthynas â ‘Cymru Iachach’ a ‘Cymru fwy cyfartal’. Mae pwyslais Dechrau'n Deg ar ymyrryd yn gynnar yn cyd-fynd â'r gofynion ataliol a hirdymor a geir yn yr ‘Egwyddor Datblygu Cynaliadwy’, sy'n nodwedd o'r Ddeddf.

Mae'r Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru yn rhannu gweledigaeth glir i gydweithio er mwyn cefnogi babanod, plant bach (0-5) a'u teuluoedd ledled Cymru.

Wrth wraidd y cynllun hwn mae datblygiad plant, eu hawliau a phwysigrwydd dysgu drwy chwarae. Drwy rolau hanfodol oedolion sy'n galluogi dysgu, profiadau diddorol ac amgylcheddau effeithiol, mae'r Cynllun yn sicrhau bod pob babi a phlentyn bach yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Mae'r Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru yn dwyn ynghyd yr holl elfennau pwysig ym maes cymorth plentyndod cynnar i greu un dull gweithredu clir a rennir. Mae'n cysylltu'r Cwricwlwm i Gymru, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, ac amrywiaeth eang o adnoddau ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar er mwyn helpu staff i weithio'n gyson ac yn effeithiol er budd pob babi a phlentyn bach yng Nghymru.

Mae'r cynllun hwn yn cefnogi ymarferwyr Dechrau'n Deg, athrawon ymgynghorol Dechrau'n Deg ac arweinwyr o fewn awdurdodau lleol i weithio'n agos gyda'i gilydd; ar draws meysydd gofal plant, chwarae ac addysg feithrin; er mwyn rhoi cymorth di-dor a chydgysylltiedig i deuluoedd. Mae'n sicrhau bod hawliau, datblygiad, llesiant ac addysg plant wrth wraidd popeth a wnawn, o'u geni nes eu bod yn bum oed.

Mae Adnoddau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar Llywodraeth Cymru, yr ydym yn argymell y dylai ymarferwyr eu defnyddio, hefyd yn cynnwys Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar:Trefniadau Asesu ar gyfer Babanod a Phlant Bach 0 i 3 oed yng Nghymru, sy'n ein helpu i ddeall cynnydd unigryw pob babi a phlentyn bach drwy waith arsylwi a myfyrio sensitif parhaus. Mae'r asesiadau hyn yn helpu ymarferwyr i gynllunio fel bod pob babi a phlentyn bach yn cael y cymorth cywir i dyfu a ffynnu. 

Trosolwg

Mae darparu gofal plant rhan amser o ansawdd uchel i blant 2 a 3 oed yn rhan hanfodol o raglen Dechrau'n Deg. Mae gofal plant o ansawdd uchel yn rhoi cyfle i blant bach ddysgu, archwilio a thyfu drwy chwarae. Mae'n eu helpu i feithrin sgiliau, gwneud ffrindiau, datblygu eu gallu i ganolbwyntio a mwynhau profiadau newydd. Mae'r rhain yn hollbwysig, nid yn unig i allu dilynol plentyn i ddatblygu a dysgu, ond hefyd i'w allu i gymryd rhan yn effeithiol mewn grwpiau, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, y farchnad lafur neu yn y gymdeithas.

Mae ymchwil yn awgrymu bod darpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar o ansawdd uchel yn arwain at welliannau yn natblygiad a dysgu plant bach yn ddiweddarach mewn bywyd, fel sgiliau iaith gwell; perfformiad addysgol gwell ym maes mathemateg a darllen; a chynnydd mewn ymddygiad/canlyniadau cadarnhaol. Mae plant bach sy'n mynychu darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel yn fwy annibynnol, yn canolbwyntio ar eu chwarae am gyfnodau hwy a, phan fyddant yn dechrau'r ysgol, maent yn fwy parod i gydweithredu ac mewn sefyllfa well i ymateb i'r heriau y byddant yn eu hwynebu [Effective Provision of Pre-School Education (EPPE) (2003); Schweinhart et al (1993), Love et al (2005)]. 

Mae canfyddiadau'r Prosiect Addysg Cyn-Ysgol, Cynradd ac Uwchradd Effeithiol (EPPSE), a gyhoeddwyd yn 2014, yn pwysleisio ymhellach arwyddocâd profiadau cyn ysgol o ansawdd uchel a'r effeithiau hydredol y gall y profiadau hyn eu cael ar gyrhaeddiad addysgol. Felly dylai ffocws ar ddarpariaeth o ansawdd uchel ategu pob agwedd ar ofal plant Dechrau'n Deg. Mae gwaith ymchwil ers astudiaeth EPPSE yn 2014 wedi parhau i gefnogi'r egwyddor bod darpariaeth gofal plant a blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel yn arwain at ganlyniadau buddiol hirdymor ac mae'r effeithiau hyn hyd yn oed yn fwy yn achos plant bach o gefndiroedd difreintiedig.

Nid yn unig y dylai gofal plant Dechrau'n Deg geisio cyflawni'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant ond dylai hefyd fod o'r safon uchaf bosibl a cheisio bod yn feincnod ar gyfer gofal plant o ansawdd uchel ledled Cymru. Dylai wneud mwy na bodloni gofynion sylfaenol. Dylai greu amgylcheddau cynnes, diddorol a myfyriol lle mae plant bach yn teimlo eu bod yn ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i ffynnu. Wrth wraidd y gofal plant hwn mae dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y plentyn, sy'n sicrhau bod profiadau pob plentyn bach yn cael eu llywio gan ei anghenion, ei ddiddordebau a'i lais. 

Mae tri mesur allweddol o ansawdd uchel mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg llwyddiannus, sy'n gyson ag egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, y Cwricwlwm i Gymru, a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant. (SGC). Rydym wedi cyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol perthnasol sy'n gywir ar ddyddiad yr adolygiad hwn (ond heb eu dyfynnu'n uniongyrchol).

  1. Oedolion sy'n galluogi dysgu – staff medrus a magwrus sy'n cefnogi dysgu a datblygiad pob plentyn (SGC13)
  2. Profiadau diddorol – cyfleoedd chwarae ystyrlon sy'n adlewyrchu diddordebau ac anghenion datblygu plant bach (SGC 7)
  3. Amgylcheddau effeithiol – lleoedd diogel, cynhwysol ac ysgogol sy'n annog plant i archwilio ac yn hybu eu llesiant (SGC 22)
Image
1) Oedolion sy'n galluogi dysgu – staff medrus a magwrus sy'n cefnogi dysgu a datblygiad pob plentyn (SGC13)  (2) Profiadau diddorol – cyfleoedd chwarae ystyrlon sy'n adlewyrchu diddordebau ac anghenion datblygu plant bach (SGC 7)  (3) Amgylcheddau effeithiol – lleoedd diogel, cynhwysol ac ysgogol sy'n annog plant i archwilio ac yn hybu eu llesiant (SGC 22)

Mae oedolion sy'n galluogi dysgu, profiadau diddorol ac amgylcheddau effeithiol i gyd yn helpu i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel ac yn gosod y sylfeini ar gyfer pob datblygiad yn y dyfodol.

Mae pob lleoliad Dechrau'n Deg yn seiliedig ar y disgwyliadau canlynol:

  1. Dylai staff/ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant bach fod wedi cael hyfforddiant a chymwysterau addas, a dylent ddeall sut mae plant bach yn datblygu, yn dysgu ac yn chwarae, a bod yn sensitif ac yn ymatebol i'w hanghenion a'u teimladau. (SGC 13)
  2. Rôl yr oedolyn sy'n galluogi dysgu yn y lleoliad yw cefnogi a chyfoethogi profiadau chwarae a dysgu plant bach yn hytrach na'u harwain. (SGC 7)
  3. Mae angen amgylchedd gofalgar ac ysgogol ar blant bach. Bydd yr amgylchedd dan do ac awyr agored yn gynnes, yn ddeniadol ac yn ddiogel, ond bydd hefyd yn ddigon heriol, lle gall plant bach deimlo'n hapus a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion. (SGC 22). Dylai plant bach ddysgu drwy brofiadau a darganfyddiadau uniongyrchol sy'n seiliedig ar chwarae, lle cânt eu hannog i arbrofi a bod yn annibynnol. (SGC 7)
  4. Dylai diddordebau ac anghenion plant bach fod wrth wraidd eu cyfleoedd dysgu a chwarae; dylent roi cyfleoedd iddynt ffynnu a datblygu eu hyder a'u hunan-barch. Dylai plant bach gael eu cefnogi i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r cysyniadau cynnar sy'n briodol i'w cam datblygu. (SGC 3,4,7)
  5. Dylai profiadau a gaiff eu cynllunio ar gyfer plant bach fod yn sensitif i'w hanghenion unigol a dylent ystyried gwerthoedd a normau diwylliannol. Dylai plant gael y cyfle i ddysgu am ddiwylliannau eraill a phrofiadau pobl eraill a dylai ymarfer a pholisïau lleoliadau gael eu datblygu ar y cyd â phartneriaid ethnig leiafrifol a'u cynllunio drwy lens gwrth-hiliol. (SGC 4,7). Mae Pecyn Cymorth Blynyddoedd Cynnar DARPL yn helpu arweinwyr i ddatblygu diwylliant gwrth-hiliol ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg. 
  6. Dylai'r cyfleoedd a ddarperir adeiladu ar brofiadau blaenorol plant. Dylai fod cysylltiad clir â datblygiad iaith cynnar, chwarae ac addysgeg dysgu sylfaen. (SGC 3,4,7). Mae Cymraeg i Blant hefyd yn darparu datblygiad iaith cynnar.
  7. Bydd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Trefniadau Asesu ar gyfer Babanod a Phlant Bach 0 i 3 oed yng Nghymru yn cefnogi ymarferwyr a'r plant bach ym mhob lleoliad yn sgil hyrwyddo asesu cadarn sy’n canolbwyntio ar y plentyn drwy arsylwi ar weithgareddau dyddiol plant bach. Dylid defnyddio'r arsylwadau hyn i gefnogi cynnydd, dysgu a datblygiad plant. (SGC 3,4)
  8. Pan fo plentyn ifanc yn ymuno â lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg, dylid defnyddio trefniadau asesu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys ystyried datblygiad y plentyn, i sefydlu dealltwriaeth glir o’i anghenion. Dylid defnyddio hyn wedyn fel sail i asesu cynnydd y plentyn yn barhaus, gan alluogi ymarferwyr i fonitro cynnydd dros amser a llywio gwaith cynllunio ar gyfer dysgu a datblygu yn y dyfodol.
  9. Mae’r trefniadau asesu hefyd yn helpu i nodi plant bach a allai fod angen cymorth ychwanegol arnynt yn gynnar. Pan fo’n briodol, dylai ymarferwyr ddefnyddio'r wybodaeth hon i weithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau cymorth amserol sydd wedi’i gydlynu (SGC 3 a 4).
  10. Mae Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Trefniadau Asesu ar gyfer Babanod a Phlant Bach 0 i 3 oed yn cynnig dull seiliedig ar chwarae sy’n canolbwyntio ar y plentyn tuag at arsylwi ac asesu dydd i ddydd, gan helpu ymarferwyr i ddeall datblygiad, cynllunio’n effeithiol ac ymateb i anghenion unigol pob baban a phlentyn bach. Ategir hyn gan Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Llwybrau Datblygu 0 i 3, sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i ddatblygiad plant bach a’r ffordd orau o’u cefnogi i dyfu ac i ffynnu.
  11. Rhaid datblygu partneriaethau ymddiriedus rhwng rhieni/gofalwyr a staff/ymarferwyr. Dylai rhieni/gofalwyr gael eu cynnwys ym mhob trafodaeth am eu plentyn a dylid rhoi arweiniad iddynt ar sut y gallant gefnogi datblygiad eu plentyn y tu allan i'r lleoliad. (SGC 6)
  12. Dylai lleoliadau ddatblygu cysylltiadau agos ag asiantaethau perthnasol a all gefnogi plant bach a'u teuluoedd. Dylai gwybodaeth gael ei rhannu, a dylid gofyn am gymorth neu gyngor gan yr asiantaethau os bydd angen. (SGC 4,6)
  13. Rhaid bod amrywiaeth o strategaethau ar waith i sicrhau proses bontio esmwyth rhwng amgylcheddau gwahanol, yn enwedig wrth bontio o'r cartref i leoliad Dechrau'n Deg ac yna i addysg feithrin. (SGC 4,6)

Amgylcheddau effeithiol (SGC 22, 23,24)

Mae amgylchedd effeithiol o ansawdd uchel yn cefnogi datblygiad, dysgu a llesiant plant bach mewn ffordd gyfannol. Mae ansawdd yr amgylchedd ffisegol ac emosiynol yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd y ddarpariaeth a phrofiadau plant bach.

Mewn lleoliadau Dechrau'n Deg, dylai'r amgylchedd fodloni'r gofynion canlynol:

  • bod yn ddiogel, dan do ac yn yr awyr agored, fel bod plant bach yn teimlo'n hyderus i archwilio
  • bod yn gynnes, yn groesawgar ac yn gyfeillgar i blant bach a'u rhieni/gofalwyr, gan greu ymdeimlad o berthyn o'r cychwyn cyntaf
  • cynnig digon o gyfleoedd i chwarae, gydag adnoddau sy'n adeiladu ar chwilfrydedd naturiol plant bach ac yn annog dysgu gweithredol
  • bod yn gynhwysol a chynrychioli amrywiaeth Cymru, gyda delweddau, llyfrau, deunyddiau chwarae ac arddangosiadau sy'n adlewyrchu amrywiaeth eang o ddiwylliannau, ieithoedd, galluoedd a phrofiadau teuluol – Pecyn Cymorth - CREU DIWYLLIANT GWRTH_HILIOL MEWN LLEOLIADAU

Dylai cynlluniau i adnewyddu/datblygu lleoliadau newydd ystyried rhoi mynediad at amgylcheddau awyr agored o ansawdd. Dylai pob gofod awyr agored gynnwys yr ardaloedd dysgu priodol a dylai ymarferwyr gael eu cefnogi i gael y budd mwyaf o ardaloedd awyr agored, gan fanteisio arnynt i'r eithaf.

Mae angen i blant gael mynediad at ardal awyr agored ddiogel sy'n ddiddorol ac yn hygyrch. Dylai'r gofod awyr agored fod wedi'i gynllunio'n dda a dylai fod yn ddiddorol ac yn ddeniadol, gan gynnwys ardaloedd ar gyfer archwilio, creadigrwydd, symud a myfyrio tawel. Dylai ymarferwyr gael eu cefnogi i wneud defnydd llawn o ardaloedd awyr agored, gan gydnabod bod hynny'n helpu plant bach i hunan-reoleiddio, magu hyder a meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu.

Mae'r awyr agored yn lle delfrydol ar gyfer dysgu gweithredol, gan annog plant bach i gymryd risgiau priodol, dysgu am natur a'r tywydd yn uniongyrchol a lle gellir cynnal gweithgareddau mawr ac anniben. Mae'r gofal a ddangosir wrth reoli'r amgylchedd hefyd yn rhoi negeseuon pwerus i blant bach ac oedolion bod arweinwyr y lleoliad yn eu gwerthfawrogi. Mae llawer o sefydliadau yn darparu gwybodaeth am ddarparu amgylcheddau chwarae ysgogol i blant bach. Mae'r rhain yn cynnwys Chwarae Cymru Learning Through Landscapes.

Rhaid bod digon o le diogel ar gael, dan do ac yn yr awyr agored, i greu ardaloedd chwarae mawr a bach lle gall plant bach ddefnyddio deunyddiau adeiladu bach a mawr, er enghraifft. Rhaid i'r amgylchedd effeithiol roi cyfleoedd i chwarae rôl, archwilio ac ymchwilio, gweithgareddau celf a chrefft a rhannu llyfrau. Dylai fod ardal briodol ar gael hefyd i oedolion weithio gyda phlant bach unigol a grwpiau bach. Dylai fod ardaloedd tawel hefyd lle gall plant bach fyfyrio a gorffwys.

Dylai fod ardal briodol i storio gwaith plant bach. Dylai eu gwaith gael ei storio a'i arddangos yn ofalus i ddangos ei fod yn cael ei werthfawrogi. Lle bo'n bosibl, dylai eu gwaith gael ei arddangos ar lefel uchder plant fel y gallant ei weld yn hawdd ac ymfalchïo ynddo. Dylid darparu ardaloedd storio hygyrch gan fod hynny'n annog plant bach i ddewis deunyddiau a chyfarpar sy'n eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr annibynnol. 

Bydd angen ardaloedd tawel ar staff hefyd lle gallant weithio gyda rhieni/gofalwyr neu gael trafodaethau cyfrinachol lle bo angen.

Oedolion sy'n galluogi dysgu (SGC 13,14,15)

Rhaid i staff/ymarferwyr neu oedolion sy'n galluogi dysgu a gaiff eu penodi i weithio mewn lleoliad gofal plant neu ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg fod yn fedrus a meddu ar y cymwysterau priodol i gyflwyno darpariaeth o ansawdd uchel. Dylent fod yn gynnes, yn ymatebol, yn serchog ac yn hawdd mynd atynt bob amser. Dylent fod yn ymrwymedig i'w gwaith gyda phlant bach ac i'r ethos o ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, sy'n un o gonglfeini rhaglen Dechrau'n Deg. 

Rhaid i ymarferwyr sy’n cyflwyno rhaglen Dechrau'n Deg gael profiad o weithio gyda phlant bach ac, fel yr amlinellir yn y SGC, rhaid bod ganddynt y cymwysterau a amlinellir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio fel arweinydd neu ymarferydd Dechrau'n Deg. 

Mae'r fframwaith yn amlinellu'r cymwysterau cyfredol (a chyfatebol) sydd eu hangen, yn ogystal â hen gymwysterau a dderbynnir. I warchodwyr plant sy'n darparu gwasanaeth Dechrau'n Deg, mae'n nodi pa gymwysterau sydd eu hangen yn dibynnu ar p'un a yw gwarchodwyr plant yn cyflogi cynorthwywyr ai peidio. I arweinwyr Dechrau'n Deg, mae hefyd yn nodi'r cymwysterau y gellir eu derbyn ochr yn ochr â chwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru ar gyfer Rheolwyr.

I'r ymarferwyr hynny sydd heb y cymhwyster gofynnol, rhoddir cyfnod penodol o amser iddynt ennill y cymwysterau angenrheidiol. Mae'r amserlenni wedi'u nodi yn y  Safonau ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir. Rhaid bod cynllun ar gael i ddangos sut ac erbyn pryd y byddant wedi cael eu hyfforddi i'r safon ofynnol. Bydd angen i'r Tîm Cynghori ar Ofal Plant fonitro hyn i sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd yn ôl y disgwyl a'u bod yn cwblhau cymwysterau o fewn y cyfnod y cytunwyd arno. 

Rhaid i holl ymarferwyr gofal plant Dechrau'n Deg ymgymryd ag o leiaf bum diwrnod neu 35 awr y flwyddyn o ddatblygiad proffesiynol parhaus neu ddysgu proffesiynol bob blwyddyn, fel y penderfynir ac y dynodir gan eu Timau Cynghori ar Ofal Plant. Mae'r hyfforddiant hwn yn ychwanegol at unrhyw ofynion hyfforddi a amlinellir yn y SGC. Dylai dysgu proffesiynol ddiwallu anghenion ymarferwyr a sicrhau bod yr holl staff yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau, yr agweddau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar gyfer y gwaith. Dylai cost ôl-lenwi yn ystod hyfforddiant gael ei hystyried fel rhan o gyllideb awdurdodau lleol ar gyfer darparu Dechrau'n Deg. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu  Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) | Gofal Cymdeithasol Cymru a all gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae parhad o ran ymarferwyr yn bwysig. Gall plant bach ddangos arwyddion o lefel uwch o bryder neu ymbellhau cymdeithasol pan fydd eu gofalwyr yn newid yn gyson. Mae oedolion yr ymddiriedir ynddynt yn rhan bwysig o'r cymorth sydd ei angen ar blant bach i brofi iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol ac maent yn rhan allweddol o fframwaith NYTH (Meithrin, Grymuso, Diogel, Y gellir ymddiried ynddo) Llywodraeth Cymru. 

Mae plant bach sy'n dysgu cyfathrebu yn aml yn datblygu eu ffyrdd unigryw eu hunain o fynegi eu hunain. Mae ymarferwyr cyson yn fwy tebygol o ddod yn gyfarwydd â'r dulliau cyfathrebu unigol hyn ac ymateb yn effeithiol iddynt. Gallai ymarferwyr newydd neu anghyfarwydd, ar y llaw arall, gael trafferth dehongli anghenion a bwriadau'r plentyn (Melhuish, 1991). Pan fydd darparwyr gofal yn ymateb yn sensitif i dristwch a loes plentyn ac yn ei helpu i reoleiddio ei emosiynau, mae'n cael dylanwad cadarnhaol ar ddatblygiad niwrolegol, ffisiolegol a seicogymdeithasol y plentyn (Howe, 2011).

O ystyried yr anghenion datblygiadol hyn, ystyrir ei bod yn hollbwysig bod arweinwyr/rheolwyr pob lleoliad Dechrau'n Deg yn gweithredu strategaethau ac arferion gwaith sy'n hyrwyddo parhad staffio o fewn lleoliadau Dechrau'n Deg.

Mae gweithio gyda phlant bach yn cyflwyno heriau emosiynol a chorfforol unigryw, sy'n aml yn arwain at lefelau uchel o straen a blinder ymhlith ymarferwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae astudiaethau dros y blynyddoedd wedi atgyfnerthu pwysigrwydd systemau cymorth strwythuredig, gan gynnwys goruchwylio myfyriol, hyfforddiant wedi'i dargedu a rhwydweithiau cymorth cadarn, i liniaru'r heriau hyn a hybu llesiant proffesiynol. Mae goruchwyliaeth o ansawdd uchel yn lleihau blinder a throsiant staff. Mae rhagor o gymorth ar gael yn Cefnogi eich iechyd a llesiant | Gofal Cymdeithasol Cymru 

Yn achos lleoliadau Dechrau'n Deg, dylai ymarferwyr ychwanegol sy'n gymwysedig ac wedi cael hyfforddiant gael eu cyflogi i gyflenwi er mwyn galluogi'r arweinydd/rheolwr i gyflawni dyletswyddau ychwanegol, fel cyfarfod yn rheolaidd â rhieni/gofalwyr, cynnal ymweliadau cartref a mynd i gyfarfodydd lle bo angen. Dylid defnyddio'r staff cyflenwi hyn yn ystod o leiaf dair sesiwn bob mis pan fo trefniadau staffio'n caniatáu. Mae manylion llawn y cymarebau gofynnol ar gael yn y Safonau ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Mewn cyferbyniad â'r SGC, noder na ellir cyfrif gwirfoddolwyr o fewn y nifer o oedolion fel rhan o'r gymhareb oedolion:plant ofynnol mewn lleoliad Dechrau'n Deg.

Mae rhyngweithio ymatebol rhwng oedolion a phlant yn hollbwysig i gefnogi datblygiad Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu. Mae lleferydd, iaith a chyfathrebu yn un o elfennau craidd Dechrau'n Deg ac, fel y cyfryw, rhaid i bob aelod o staff mewn lleoliadau Dechrau'n Deg ymgymryd â'r lefel datblygiad sgiliau ‘graidd’ a nodir yn llwybr hyfforddi lleferydd, iaith a chyfathrebu Cymru Gyfan. Siarad Gyda Fi: adnodd llwybr hyfforddiant Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Cymru Gyfan | LLYW.CYMRU 

Lleferydd iaith a chyfathrebu a Dechrau’n Deg: canllawiau | LLYW.CYMRU

Gwarchodwyr plant

Mae gwarchodwyr plant yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod gofal plant Dechrau'n Deg yn diwallu anghenion rhieni neu ofalwyr ac yn cynnal y safonau ansawdd a phroffesiynol sy'n nodwedd o ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg.

Mae gwarchodwyr plant yn darparu gofal plant proffesiynol i blant o'u geni hyd at 12 oed o fewn safle domestig nad yw'n gartref y plentyn ei hun. Mae gwarchodwyr plant mewn sefyllfa dda i gefnogi datblygiad cynnar plant bach a gweithio'n agos gyda rhieni a gofalwyr i ddarparu gwasanaethau gofal plant hyblyg ac ymatebol sydd wedi'u teilwra.

Pan fydd gwarchodwyr plant yn darparu gofal plant Dechrau'n Deg, dylai Timau Cynghori ar Ofal Plant weithio gyda nhw, fel y maent yn ei wneud gyda darparwyr Dechrau'n Deg eraill, i gefnogi eu darpariaeth er mwyn sicrhau bod plant bach 2 a 3 oed yn eu gofal yn cael gwasanaethau gofal plant o ansawdd uchel. Mae'n ofynnol i warchodwyr plant sy'n darparu gofal plant Dechrau'n Deg feddu ar gymwysterau ychwanegol at y rhai sydd eu hangen ar warchodwyr plant nad ydynt yn darparu gofal plant Dechrau'n Deg. Gofal Cymdeithasol Cymru | Hafan - Gofal Cymdeithasol Cymru

Profiadau diddorol (SGC 4,6,7,8,22)

Mae plentyndod cynnar yn adeg hollbwysig ar gyfer datblygiad. Os na fydd plentyn yn cael y deiet cywir a chyfleoedd i ddatblygu'n gorfforol ac yn wybyddol, gall hynny gael effeithiau gydol oes ar ei ganlyniadau mewn bywyd. Mae cyfleoedd a phrofiadau chwarae yn hollbwysig i'r ffordd y daw plant yn hunanymwybodol, a'r ffordd y byddant yn dysgu rheolau ymddygiad cymdeithasol. Er mwyn sicrhau'r cyfleoedd dysgu gorau posibl, rhaid i'r amgylchedd emosiynol fod yn ymddiriedus ac yn barchus. 

Mae cyfleoedd chwarae yn hanfodol i ddatblygiad cyffredinol plant bach. Mae'n galluogi plant bach i ddatblygu dyheadau uchel, hunanddelwedd gadarnhaol ac awydd i ddysgu. Bydd plant bach yn datrys problemau'n naturiol wrth chwarae a dylent gael digon o gyfleoedd i gymryd rhan ar lefel ddofn ac ymgymryd â dysgu a chwarae gweithredol di-dor sy'n cyd-fynd â'u cam datblygu. Yn ystod y cyfnodau hyn, dylid neilltuo amser i greu, rhesymu, cwestiynu, dyfalu a myfyrio.

Mae gweithgarwch corfforol yn hanfodol ar gyfer datblygiad cyfannol plant bach, gan ei fod yn cefnogi eu hiechyd corfforol, eu llesiant emosiynol a'u parodrwydd i ddysgu. O archwilio synhwyraidd cynnar i symudiadau sy'n fwy cydgysylltiedig, mae plant bach yn meithrin sgiliau echddygol bras a manwl. Mae oedolion yn chwarae rôl hollbwysig yn hyn o beth drwy greu cyfleoedd chwarae dan do ac awyr agored diddorol sy'n hyrwyddo cryfder, cydbwysedd, cydsymud ac ystwythder.

Mae chwarae actif yn arbennig o bwysig yn ystod plentyndod cynnar. Mae'n gosod y sylfeini ar gyfer cyrff iach ac yn cefnogi sgiliau fel cydsymud rhwng y llygaid a'r dwylo, sy'n gysylltiedig â llythrennedd cynnar. Mae Prif Swyddogion Meddygol y DU yn argymell y dylai plant 1–5 oed wneud o leiaf 3 awr o weithgarwch corfforol bob dydd. Mae hyn yn fwy nag ar gyfer unrhyw grŵp oedran arall; sy'n amlygu'r angen i flaenoriaethu ac adlewyrchu'r gofyniad hwn mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Mae chwarae yn bwerus i helpu plant bach i ymdopi â straen a heriau. 

  • Helpu sgiliau cyfathrebu – yn enwedig pan na all plant bach fynegi teimladau drwy eiriau
  • Cefnogi iechyd emosiynol – drwy ryddhau emosiynau, rheoli ofnau, a meithrin teimladau cadarnhaol
  • Gwella sgiliau cymdeithasol – fel gwneud ffrindiau, ffurfio bondiau, a dangos empathi
  • Datblygu cryfderau personol – fel gwydnwch a hunanreolaeth

Rhaid rhoi pwyslais ar ddyfalbarhau a rhaid annog agwedd gadarnhaol at ddysgu. Dylai ymdrechion, cyflawniad a chynnydd plant bach gael eu cydnabod a'u dathlu.

Bydd angen gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o'r ffordd y mae plant bach yn datblygu a dysgu ar ymarferwyr mewn lleoliadau Dechrau'n Deg. Dylai dealltwriaeth o brofiadau diddorol sy'n briodol o safbwynt datblygiadol fod wrth wraidd profiad plentyn mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg. 

Mae lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ategu pob agwedd ar ddysgu, datblygu a gofal ac mae cyfathrebu effeithiol yn sgìl hanfodol ar gyfer bywyd. Rhaid i leoliadau Dechrau'n Deg gynllunio'n ofalus er mwyn helpu i feithrin sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant bach. Bydd rhyngweithio ymatebol ag oedolion sy'n galluogi dysgu yn ystod profiadau synhwyraidd uniongyrchol a chwarae, fel rhannu llyfrau, canu, chwarae rôl ac archwilio'r amgylchedd awyr agored, yn rhoi profiad dysgu cyfoethog ac ymarferol i blant bach. Mae rhagor o ganllawiau ar gael yn Lleferydd iaith a chyfathrebu a Dechrau'n Deg: canllawiau.

Symud

Symud yw iaith gyntaf plentyn, sy'n ei helpu i ddeall ei amgylchedd a datblygu sgiliau corfforol, synhwyraidd a gwybyddol. Mae bodau dynol wedi'u cynllunio i symud bob dydd, ac i blant dan bump oed, mae symud yn hanfodol ar gyfer eu datblygiad. Yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn, mae'r rhan fwyaf o blant yn symud o brofi'r byd ar y llawr neu ym mreichiau gofalwyr i symud yn annibynnol. Trwy symud, mae eu cyrff yn adeiladu cryfder a chydsymudiad, tra bo'r cysylltiadau rhwng yr ymennydd a'r corff yn datblygu meysydd sy'n hanfodol ar gyfer y cof, dysgu a rheoli emosiynau. Mae symud hefyd yn cefnogi iaith, osgo, cydbwysedd, cydsymudiad ac ymwybyddiaeth ofodol.

Mae angen amrywiaeth eang o symudiadau ar blant, gan gynnwys:

  • Symudiadau trawsochrol (cropian, cerdded, dringo, sgipio a rhedeg)
  • Rholio a chylchdroi
  • Siglo a chydbwyso
  • Archwilio gwahanol gyflymderau a lefelau, gan ddefnyddio'r amgylchedd chwarae

Wrth i blant dyfu, dylai'r mwyafrif allu rhedeg, dringo, neidio, cropian, siglo, rholio, a symud yn hyderus dros arwynebau amrywiol. Dylent ddringo grisiau gan ddefnyddio'r naill droed a'r llall bob yn ail, defnyddio peli, cydbwyso ar un goes, sgwteru neu bedlo, a chodi, cario, gwthio a thynnu.

Heb gyfleoedd rheolaidd i symud, ni all plant fodloni canllawiau gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU. O ran plant ag amariadau symud, mae cydweithio â thimau meddygol yn sicrhau symudiadau diogel a phriodol trwy gydol y dydd.

Cewch ragor o wybodaeth am symudiadau plant yn y dolenni hyn:

Blynyddoedd Cynnar Cymru - cefnogi-gweithwyr-proffesiynol

Blynyddoedd Cynnar Cymru - cefnogi-rhieni

Blynyddoedd Cynnar Cymru - hyrwyddwr-symud

Cadw Fi'n Iach - gwasanaethau-cefnogi-plant/cyflyrau-cyhyrau-cymalau-ac-esgyrn/corff-isaf/newidcyflym/

Minimovers

UWTSD Academi-cymru-ar-gyfer-iechyd-llythrennedd/cyrsiau-hyfforddi

Asesu a phontio

Mae pob plentyn bach yn dechrau mewn sefydliad gyda'i brofiadau personol ei hun mewn bywyd a bydd ar ei gam datblygu unigryw ei hun. Dylid gwneud trefniadau i sicrhau proses bontio esmwyth i'r lleoliad Dechrau'n Deg ar gyfer y plentyn bach a'r rhiant/gofalwr, gan gynnwys y tîm amlasiantaethol ehangach.

Dylai’r Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru, a Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol gael eu defnyddio gyda'i gilydd i gefnogi a galluogi ymarferwyr i gynllunio, asesu a myfyrio ar eu hymarfer. Mae Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Trefniadau Asesu ar gyfer Babanod a Phlant Bach 0 i 3 oed yng Nghymru yn cynnwys adran ddefnyddiol ar ‘Dechrau gyda chi’ y gellir ei defnyddio i gefnogi prosesau pontio effeithiol. Dylid sicrhau mai'r man cychwyn ar gyfer dysgu bob amser yw'r hyn y mae plant bach yn ei wybod, yr hyn y gallant ei wneud, yr hyn sydd o ddiddordeb iddynt a'r hyn sydd ei angen arnynt. Mae'n hanfodol cynnal asesiadau sensitif a thrylwyr o blant bach sy'n dechrau lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg er mwyn nodi unrhyw gymorth ychwanegol ac ymyriadau sydd eu hangen er mwyn helpu i ddiwallu eu hanghenion unigol. Dylid asesu plant bach yn barhaus drwy gydol eu cyfnod yn y lleoliad a dylid dathlu eu cyflawniadau a'r cynnydd y maent yn ei wneud. 

Dylid cadw cofnod arsylwi parhaus i lywio'r camau nesaf yn y broses o ddysgu a datblygu. Bydd hyn yn sicrhau bod gwaith cynllunio yn canolbwyntio ar y plentyn bach unigol ac yn adeiladu ar yr hyn y mae'n ei hoffi, yr hyn sydd o ddiddordeb iddo a'r hyn y gall ei wneud er mwyn diwallu ei anghenion datblygiadol. Bydd hyn hefyd yn helpu i nodi'n gynnar unrhyw anghenion sy'n dod i'r amlwg ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol yn barod ar gyfer y cam pontio i'r Cwricwlwm i Gymru. 

Dylai'r cynlluniau fod yn ddigon hyblyg fel y gall ymarferwyr eu haddasu a'u hailstrwythuro o ganlyniad i waith arsylwi parhaus yn ystod bywyd dyddiol y lleoliad. Y dulliau dysgu mwyaf priodol ar gyfer y grŵp oedran hwn yw fframweithiau addysgegol hyblyg sy'n hyrwyddo chwarae yn yr awyr agored a datrys problemau ac sy'n canolbwyntio ar nodau o ran datblygiad a phrosesau, yn hytrach na deilliannau pwnc. Dylid datblygu profiadau chwareus ac ysgogol, dan do ac yn yr awyr agored, a fydd yn cyffroi, yn difyrru ac yn diddori plant bach ac yn ysgogi ac yn ymestyn eu dysgu ar yr un pryd.

Mae angen amser ar blant bach i setlo mewn amgylchedd newydd, meithrin cydberthnasau ymddiriedus ag ymarferwyr a chyfoedion ac addasu i arferion newydd. 

Mae deall datblygiad unigryw pob plentyn bach yn hanfodol er mwyn meithrin ei brofiadau cynnar.  Drwy arsylwi ar sut mae'n chwarae, yn cyfathrebu, yn symud ac yn rhyngweithio a thrwy ddysgu am ei ddiddordebau, ei arferion a'r hyn sy'n ei helpu i deimlo'n ddiogel; rydym yn meithrin dealltwriaeth ystyrlon o bwy yw'r plentyn bach hwnnw. Mae deunyddiau cyfarwydd a hygyrch y gall plant bach ddychwelyd atynt bob dydd yn eu helpu i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus i archwilio.Mae'r ymagwedd ofalus hon at setlo a phontio yn helpu i sicrhau bod pob plentyn bach yn teimlo'n ddiogel, yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i fod yn barod i ymgysylltu yn ei amgylchedd newydd.

Efallai y bydd angen newid neu addasu'r amgylchedd a'r adnoddau i sicrhau y gall pob plentyn bach gael mynediad at y ddarpariaeth a chymryd rhan yn llawn, p'un a oes ganddo anghenion ychwanegol neu anabledd ai peidio. 

Fel arfer, bydd plant bach yn symud i addysg feithrin ar ddiwedd eu cyfnod mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg. Felly, dylai ymarferwyr gofal plant Dechrau'n Deg adlewyrchu athroniaeth ac addysgeg sy'n debyg i'r hyn a gaiff ei hyrwyddo drwy ddysgu sylfaen yn eu hymarfer. 

Rhaid cynnal asesiad crynodol o gynnydd pob plentyn bach ar ddiwedd eu cyfnod mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg er mwyn llywio trefniadau pontio. Dylai ymarferwyr gofal plant Dechrau'n Deg, ynghyd ag unrhyw bartneriaethau perthnasol eraill, weithio'n agos gyda darparwyr addysg i feithrin cysylltiadau cryf i ymwreiddio'r broses bontio hon.

Iechyd Meddwl a Llesiant

Mae plentyndod cynnar yn adeg hollbwysig ar gyfer datblygiad gwybyddol a chorfforol. Os na fydd plentyn yn cael y deiet cywir a chyfleoedd i ddatblygu'n gorfforol ac yn wybyddol, gall hynny gael effeithiau gydol oes ar ei ganlyniadau mewn bywyd. 

Gall profiadau plentyndod, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar, gael dylanwad sylweddol ar ein hiechyd a'n llesiant drwy gydol ein hoes. Mae astudiaethau'n dangos bod cysylltiad cryf rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel y'u gelwir, a ffynonellau eraill o ofid a thrawma yn ystod plentyndod, a chanlyniadau bywyd gwaeth, gan gynnwys deilliannau addysgol, ffyniant economaidd, ac iechyd meddwl a chorfforol a llesiant. Er mai atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yw'r nod bob amser, un o'r ffyrdd o liniaru effaith profiadau o'r fath, a gwella canlyniadau, yw drwy weithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma. Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi, yn hyrwyddo ac yn annog staff i fabwysiadu ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn unol â'r pum egwyddor ymarfer a'r pedair lefel o ymarfer, a nodir yn Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r broses o ddatblygu amrywiaeth o ddeunyddiau hyfforddiant a chymorth, a all helpu unigolion a sefydliadau ar eu taith i fod yn ystyriol o drawma. Mae hyn yn cynnwys Pecyn Cymorth Sefydliadau Ystyriol o TrACE

Ffactor amddiffynnol pwysig arall yn erbyn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yw gwydnwch. Mae amrywiaeth o ffynonellau meithrin gwydnwch, gan gynnwys meithrin sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, sgiliau cyfathrebu, mynediad at weithgareddau cymdeithasol a hamdden, cyfleoedd i chwarae, ffrindiau a chydberthynas ag oedolyn y gellir ymddiried ynddo. Nid oes angen i'r oedolyn hwn fod yn rhiant/gofalwr a gallai fod yn aelod o dîm y lleoliad gofal plant.

Mae ymarferwyr Dechrau'n Deg, mewn cydweithrediad â gweithwyr amlasiantaethol eraill (fel rhan o ddull tîm o amgylch y teulu), yn hanfodol er mwyn nodi pryderon mewn perthynas â thrawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gynnar a gallant chwarae rôl hollbwysig i liniaru eu heffaith ar blant bach.

Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl a llesiant ar gael i bob babi a phlentyn yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, yn y ffordd gywir. I wneud hyn, rydym wedi cyd-lunio fframwaith NYTH (Meithrin, Grymuso, Diogel, Y gellir ymddiried ynddo) gyda phlant, teuluoedd, staff ac arweinwyr strategol, sy'n helpu sefydliadau i greu dull system gyfan mewn perthynas ag iechyd meddwl a llesiant. 

Mae cymorth ar gael i leoliadau sy'n awyddus i wreiddio egwyddorion fframwaith NYTH er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant y plant sydd yn eu gofal. Mae offeryn hunanasesu NYTH ar gael sy'n cynnig cwestiynau trafod a myfyrio ac yn darparu'r strwythur ar gyfer trafodaethau partneriaeth ochr yn ochr ag offeryn cynllunio gweithredu. Mae hyfforddiant NYTH ar gael i bawb hefyd drwy blatfform dysgu Tŷ Dysgu. Mae llawer o adnoddau sy'n helpu lleoliadau Dechrau'n Deg i feddwl am iechyd meddwl plant ar gael ar dudalennau gwe NYTH

I'r rhan fwyaf o fabanod a phlant bach, mae cymorth iechyd meddwl a llesiant yn cynnwys oedolion y gellir ymddiried ynddynt sy'n darparu gofal ac amgylcheddau magwrus, grymusol a diogel y gellir ymddiried ynddynt. Bydd angen rhagor o gymorth ar rai plant bach i fynd i'r afael â phryderon fel anghenion iechyd meddwl a llesiant, ymddygiad, ymlyniad neu gydberthnasau rhwng y plant a'u rhieni. Mae lleoliadau blynyddoedd cynnar yn chwarae rôl hanfodol wrth nodi pryderon yn gynnar a gweithredu fel oedolion y gellir ymddiried ynddynt i blant a theuluoedd. Dylent weithredu fel rhan o system gysylltiedig lle mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant.

Bwyd a Maeth a Bwyta'n Iach (SGC 12)

Er mwyn i blant bach ddatblygu'n iach, mae'n bwysig creu amgylchedd sy'n hyrwyddo buddiannau bod yn iach a lle caiff agweddau ac ymddygiadau iach eu hannog. Caiff lleoliadau blynyddoedd cynnar eu hannog i weithio, gyda chymorth lleol, tuag at Feini Prawf Gwobr Genedlaethol y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy.  Mae'r Cynllun yn mabwysiadu dull sefydliad cyfan mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion a chaiff ei asesu'n lleol.

Mae deiet cytbwys iach yn ystod y blynyddoedd cynnar yn hanfodol er mwyn i blant bach gael y dechrau gorau mewn bywyd. Yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn, caiff y sylfeini ar gyfer datblygiad plant bach eu gosod, a fydd yn effeithio ar eu hiechyd a'u llesiant gydol oes. Mae lleoliadau Dechrau'n Deg yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi patrymau bwyta da i sicrhau bod plant bach yn tyfu ac yn datblygu'n briodol, amddiffyn eu dannedd a sicrhau eu bod yn cynnal pwysau corff iach. Mae lleoliadau hefyd yn helpu i lywio dewisiadau deietegol plant bach gan eu bod yn fwy tebygol o dderbyn blasau a gweadau newydd os byddant yn cael cynnig amrywiaeth eang o fwydydd o oedran ifanc.

Pydredd dannedd yw un o'r prif achosion dros dderbyn plant bach i'r ysbyty a dangosodd data o Raglen Mesur Plant Cymru  ar gyfer 2023-24 fod tua un o bob pedwar plentyn dosbarth derbyn dros bwysau neu'n ordew gyda'r lefelau uchaf wedi'u cofnodi yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae plant bach sy'n ordew bum gwaith yn fwy tebygol o fod yn ordew fel oedolion. 

Dylai lleoliadau Dechrau'n Deg fod yn gweithio i'r safonau uchaf i gynnig y bwyd a'r diodydd gorau i'r plant bach yn eu gofal drwy weithredu canllawiau:  Bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant: Eu rhoi ar waith | LLYW.CYMRU   Gall deietegwyr iechyd y cyhoedd lleol hefyd roi cyngor i leoliadau ar fentrau lleol fel gwobrau byrbrydau bach, ac ar hyfforddiant achrededig ar faeth yn y blynyddoedd cynnar a ddarperir drwy ‘Sgiliau Maeth am Oes’.

Dylai lleoliadau Dechrau'n Deg fodloni gofynion deietegol diwylliannol a chrefyddol. Dylid cynnig opsiynau bwyd Halal/Kosher/llysieuol a fegan os bydd angen. Dylai lleoliadau Dechrau'n Deg wybod am unrhyw fwydydd nad yw'r plentyn yn eu bwyta am resymau crefyddol, diwylliannol neu unrhyw reswm arall. Gellir trafod hyn pan fydd teulu'n mynegi diddordeb mewn defnyddio lleoliad Dechrau'n Deg.

Cymorth i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel (SGC 18)

Y ffordd orau o gael cymorth i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel yw drwy Dîm Cynghori Gofal Plant. Prif swyddogaeth y Tîm Cynghori ar Ofal Plant yw sicrhau ansawdd lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg a chefnogi staff Dechrau'n Deg yn ei ardal. 

Mae angen i'r swyddogaeth hon gael ei harwain gan athro ymgynghorol proffesiynol ar gyfer y blynyddoedd cynnar sydd â statws athro cymwysedig, neu mae angen iddi gynnwys athro o'r fath. Fodd bynnag, dylid ystyried sgiliau a chymwysterau'r Tîm Cynghori ar Ofal Plant yn eu cyfanrwydd a gellir penderfynu'n lleol ar union gyfansoddiad y timau gan edrych ar gymysgedd sgiliau. Dylai'r cymysgedd sgiliau yn y Tîm Cynghori ar Ofal Plant gynnwys y cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer Dechrau'n Deg, fel yr amlinellir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru, i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru.

Rhaid bod gan y Tîm Cynghori ar Ofal Plant ddealltwriaeth o chwarae ac anghenion a chamau datblygu  gwahanol plant bach, yn enwedig y gwahaniaethau rhwng plentyn 2  oed  a phlentyn 3  oed . Bydd y Tîm Cynghori ar Ofal Plant yn hyrwyddo arfer da ymhlith staff Dechrau'n Deg fel y gall plant bach bontio'n esmwyth i ddysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Mae gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill o fewn yr awdurdod lleol yn hanfodol i gefnogi'r plentyn ifanc a'r lleoliad gofal plant.

Rhaid bod gan y Tîm Cynghori ar Ofal Plant brofiad o weithio yn y sector a rhaid iddo allu datblygu a darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr gofal plant. Bydd y Tîm Cynghori ar Ofal Plant yn ymgysylltu'n rheolaidd â phob lleoliad Dechrau'n Deg i roi cymorth a chyngor i'r ymarferwyr. Bydd y Tîm Cynghori ar Ofal Plant hefyd yn cytuno ar gynllun cyflawni gyda phob lleoliad Dechrau'n Deg.

Dylai fod gan bob lleoliad Dechrau'n Deg system sicrhau ansawdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a gaiff ei monitro gan yr awdurdod lleol gan ddefnyddio adnodd priodol a dylai'r system hon, yn ei thro, lywio Cynllun Gwella'r sefydliad. Mae llawer o sefydliadau wedi defnyddio'r canlynol yn y gorffennol, ond nid ydynt yn orfodol: ITERS 3 (Graddfa Sgorio Amgylchedd Plant Bach), SSTEW (Llesiant Emosiynol a Meddwl ar y Cyd Parhaus), Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy (SPSS), Cynlluniau Sicrhau Ansawdd Cenedlaethol neu adnoddau a gynlluniwyd yn lleol. Argymhellwn y dylai lleoliadau ddefnyddio adnoddau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar. 

Dylai gweithiwr proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant (o'r awdurdod lleol fel arfer) gynnal gwerthusiad annibynnol o ansawdd y lleoliad, gan ddilyn gweithdrefnau clir sy'n hyrwyddo cysondeb, tegwch a gwrthrychedd. Mae llawer o sefydliadau yn y sector gofal plant yn cynnig eu cynlluniau sicrhau ansawdd eu hunain ac yn rhoi arweiniad a chymorth i helpu i'w rhoi ar waith yn effeithiol.

Caiff lleoliadau eu hannog i edrych pa gymorth sydd ar gael drwy fod yn aelod o un o'r prif sefydliadau ambarél gofal plant  yng Nghymru sy'n rhoi cyngor a chymorth proffesiynol ynghyd ag amrywiaeth o fuddiannau eraill. Y sefydliadau hyn yw Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru, Mudiad Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA Cymru) a Coram PACEY Cymru. Cewch ragor o wybodaeth hefyd ar wefan Welcome to Cwlwm | cwlwm

Mae gan Coram PACEY Cymru amrywiaeth o adnoddau i gefnogi gofal plant o safon yn y cartref, er enghraifft Pecyn Cymorth Amgylcheddau Ysbrydoledig.

Dylid annog lleoliadau i rannu arferion gorau drwy fforymau neu rwydweithiau lleol. Dylid annog darparwyr gofal plant i ymweld â lleoliadau eraill yn yr awdurdod lleol a'r tu allan i'r awdurdod lleol er mwyn rhannu ymarfer o ansawdd uchel. Dylid disgwyl i ymarferwyr rannu arsylwadau ac unrhyw beth a ddysgwyd â'r tîm ehangach er mwyn cefnogi datblygiad parhaus yn eu lleoliad eu hunain. Gall gwarchodwyr plant Dechrau'n Deg rannu eu harbenigedd trwy fforymau lleol neu drwy Coram PACEY Cymru.

Nifer a hyd sesiynau

Bydd gofal plant Dechrau'n Deg yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant bach er mwyn eu galluogi i bontio i addysg feithrin ac yn y tymor hwy. Gall plant bach ddefnyddio darpariaeth Dechrau'n Deg o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed, hyd at ddiwedd y tymor pan fyddant yn dathlu eu pen-blwydd yn dair oed. Efallai y gellir dangos rhywfaint o hyblygrwydd os na fydd hyn yn cyd-fynd â threfniadau derbyn meithrinfeydd lleol.Os caiff trefniadau gwahanol eu gwneud yn unol â threfniadau derbyn meithrinfeydd, rhaid hysbysu rhieni am hyn ymlaen llaw.

Mae cynnig gofal plant Dechrau'n Deg ar gael i rieni/gofalwyr pob plentyn 2 i 3 oed  cymwys am 12 awr a hanner yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn, yn unol â thymhorau'r ysgol. Bydd y rhai sy'n byw yn ardaloedd craidd Dechrau'n Deg hefyd yn cael cynnig mynediad at wasanaeth Ymwelwyr Iechyd ychwanegol yn ogystal â chymorth mewn meysydd fel lleferydd ac iaith. Yn ogystal, dylid darparu o leiaf 15 sesiwn o ofal plant a/neu chwarae hyblyg ar gyfer y plentyn neu'r teulu yn ystod gwyliau'r ysgol.

Dylai'r sesiynau hyn fod ar gael am 2 awr a hanner bob dydd, 5 diwrnod yr wythnos, fel bod y plentyn bach yn cael y budd mwyaf o'r rhaglen. Fodd bynnag, mae rhywfaint o hyblygrwydd ar gael i'r lleoliad Dechrau'n Deg benderfynu sut y caiff y 5 sesiwn eu rhannu ar draws yr wythnos, pan fydd rhiant/gofalwr yn gofyn am drefniant arall, fel pan fydd yn mynd ar gwrs hyfforddi neu'n mynd i'r gwaith. Rhaid i'r awdurdod lleol, y lleoliad Dechrau'n Deg a'r teulu gytuno ar y trefniant hwn.

Yn aml, mae angen hyblygrwydd o ran nifer y sesiynau a fynychir er mwyn diwallu anghenion rhieni/gofalwyr neu blant. Er enghraifft, os bydd rhiant/gofalwyr yn penderfynu dod â'r plentyn bach i dair sesiwn yn unig, dylid derbyn hynny. Fodd bynnag, dylai darparwyr annog rhieni/gofalwyr i fanteisio ar yr holl sesiynau sydd ar gael iddynt lle bo hynny'n bosibl.

Dylai cynlluniau Dechrau'n Deg gynnwys trefniadau i reoli lleoedd gofal plant er mwyn sicrhau bod cynifer o leoedd â phosibl yn cael eu defnyddio a sicrhau gwerth am arian o safbwynt ailddyrannu.

Efallai na fydd amser dechrau a gorffen penodol ar gael yn achos plant bach sy'n derbyn sesiynau Dechrau'n Deg mewn lleoliad gofal dydd llawn. Yn lle hynny, dylai'r gofal hwn gael ei integreiddio'n ddi-dor yn y ddarpariaeth ddyddiol gyffredinol. Mae blaenoriaethu anghenion unigol pob plentyn bach yn hanfodol. Fel y cyfryw, gallai plentyn bach dreulio rhan o'i sesiwn Dechrau'n Deg yn gorffwys neu'n cysgu, yn dibynnu ar faint o amser y mae wedi'i dreulio yn y lleoliad yn barod. (Gallai rhai plant bach fod yno mor gynnar â 7:30 neu 8:00 a.m.) Os felly, dylai'r lleoliad amlinellu’n glir sut y bydd y plentyn yn derbyn gweddill ei ddarpariaeth Dechrau'n Deg. Er enghraifft, gellid ei amlinellu yn y Datganiad o Ddiben naill ai fel naratif neu fel amserlen enghreifftiol. 

Dylai pob darparwr Dechrau'n Deg nodi y bwriedir i ofal plant Dechrau'n Deg fod yn ddull i ddatblygu plant. Yn unol â hynny, ni ddylid trefnu gofal plant Dechrau'n Deg yn ystod cyfnodau pan fo plant ifanc fel arfer yn cysgu neu'n cael pryd o fwyd.

Cydraddoldeb, cynhwysiant ac anghenion dysgu ychwanegol (SGC 3,4,6)

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn datgan bod gan bob plentyn yr hawl i gael gofal o ansawdd uchel sy'n gosod sylfeini cadarn ar gyfer gweddill ei fywyd ac yn cynyddu ei allu cynhenid i'r eithaf. Mae'r Confensiwn yn pwysleisio'r angen i barchu hunaniaeth plentyn ochr yn ochr â'i draddodiadau teuluol drwy gydnabod ei ddiwylliant penodol a gwerthfawrogi iaith y cartref.

Rhaid trin pob plentyn bach a'i rieni/gofalwyr yn gyfartal heb ystyried oedran, anabledd, rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol a rhaid i'r plentyn bach a'i rieni/gofalwyr gael eu cynnwys yn llawn ym mywyd a gwaith y lleoliad. Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi cydweithio â DARPL a Cwlwm i lunio Pecyn Cymorth Gwrth-hiliol ar gyfer y sectorau Gofal Plant, Blynyddoedd Cynnar a Chwarae sy'n cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Dylai arweinwyr ddarllen y ddogfen hon a fydd yn eu helpu i ddatblygu diwylliant gwrth-hiliol ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg. 

Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod rhieni/gofalwyr plant bach cymwys yn yr ardal yn cael cynnig y ddarpariaeth Dechrau'n Deg sydd ar gael a'u bod yn cael eu hannog i fanteisio arni. Bydd hyn yn helpu i nodi anghenion yn gynnar a, lle bo angen, sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu mor gynnar â phosibl. 

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae adnabod anghenion yn gynnar, ymyrryd a defnyddio dulliau ataliol yn egwyddorion allweddol sy'n tanseilio'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd nodi anghenion yn amserol a rhoi darpariaeth briodol cyn gynted â phosibl i blentyn neu berson ifanc ag ADY. Os caiff camau eu cymryd yn gynnar, maent yn fwy tebygol o fod yn effeithiol. 

Mae'r  Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru a rheoliadau cysylltiedig, yn gosod y fframwaith cyfreithiol ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed yng Nghymru.

Mae hawliau a dyheadau plant a phobl ifanc wrth wraidd y system ADY, gan sicrhau bod barn, dymuniadau a theimladau plentyn neu berson ifanc a'i deulu yn cael eu clywed pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud am eu dyfodol.

O dan y system mae hawl gan ddysgwyr 0-25 oed ag ADY i gael Cynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n nodi'r cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt ac yn dilyn y dysgwr drwy gydol ei gyfnod yn yr ysgol ac addysg bellach gan gefnogi prosesau pontio a darparu cysondeb, parhad a sicrwydd bod y ddarpariaeth a hawliau'r dysgwr yn cael eu hamddiffyn.

Mae Deddf ADY yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol benodi swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol  blynyddoedd cynnar sy'n gyfrifol am gydlynu swyddogaethau'r awdurdod lleol o dan y Ddeddf mewn perthynas â phlant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir. 

Mae gan y swyddog arweiniol hwn rôl bwysig i'w chwarae yn y gwaith o wella'r broses ar gyfer nodi anghenion lefel is yn gynnar ac atal ADY rhag datblygu; sefydlu llwybrau atgyfeirio a chodi ymwybyddiaeth ymhlith partneriaid amlasiantaethol; a helpu i sicrhau bod gan y gweithlu blynyddoedd cynnar y sgiliau, y systemau a'r adnoddau priodol i atal ADY rhag datblygu a helpu plant bach ag ADY.

Rhaid i awdurdodau lleol roi gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc ag ADY a'u rhieni/gofalwyr. Dylent hefyd eu cyfeirio at adnoddau lleol a chenedlaethol eraill a rhoi gwybod iddynt am y gwasanaethau eirioli sydd ar gael. Mae eiriolaeth yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall a rhannu eu barn ac mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i sicrhau bod pawb yn gwybod am eu hawl i eiriolaeth annibynnol.

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Dylai Dechrau'n Deg gefnogi nod Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein pobl ifanc i gyd yn gadael y system addysg yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob cyd-destun ac yn falch o wneud hynny. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gofal plant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cael ei hyrwyddo a bod llwybrau clir at addysg cyfrwng Cymraeg ar gael. Mae hefyd yn golygu rhoi gwybodaeth glir a defnyddiol i bob rhiant/gofalwr am y cyfleoedd y mae dwyieithrwydd yn eu cynnig a'r opsiynau sydd ar gael iddynt, er mwyn sicrhau y gallant wneud dewis ar sail gwybodaeth am ddatblygiad ieithyddol eu plentyn. Caiff yr ymrwymiad i gefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg ei nodi'n benodol yn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, sef "Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg". 

Diffiniadau o ddarpariaeth iaith:

Cyfrwng Cymraeg: Cymraeg yw iaith y gweithgareddau o ddydd i ddydd. Defnyddir y Gymraeg fel iaith cyfathrebu â'r plant. Mae'r lleoliad yn cyfathrebu â rhieni yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r plant yn ymdrochi'n llwyr yn y Gymraeg. 

Dwyieithog: Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn y gweithgareddau o ddydd i ddydd, ac mae'r plant yn dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Neu 

Dwyieithog: Saesneg yw'r iaith a ddefnyddir yn bennaf yn y gweithgareddau o ddydd i ddydd, a defnyddir y Gymraeg yn achlysurol, er enghraifft ar gyfer lliwiau, rhifau neu ganeuon. Defnyddir Saesneg fel iaith cyfathrebu â phlant a rhieni. Mae'r plant yn dysgu'r Saesneg yn bennaf.

Mae Canllawiau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Dechrau'n Deg  yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fuddiannau dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, gan gynnwys y sail dystiolaeth dros nodi a chefnogi plant dwyieithog ac amlieithog sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'r cynlluniau statudol hyn yn amlinellu sut mae awdurdodau lleol yn bwriadu tyfu addysg cyfrwng Cymraeg dros y deng mlynedd nesaf. Mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i'w targedau uchelgeisiol o gynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i gefnogi nodau ac amcanion Cymraeg 2050. Cafodd Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg eu diwygio yn 2019 i roi pwyslais ar gynllunio darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn ofalus er mwyn helpu i gyflawni canlyniadau'r Cynlluniau. 

Fel y nodir yn Cymraeg 2050, cydnabyddir mai cyflwyno'r Gymraeg yn gynnar drwy ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd orau i'n plant bach ddatblygu sgiliau dwyieithog. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried targedau eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wrth gynllunio darpariaeth Dechrau'n Deg a gallai fod yn fuddiol iddynt ystyried y cymorth sydd ar gael gan y prif sefydliadau ambarél gofal plant yng Nghymru.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynnal asesiadau digonolrwydd gofal plant i ganfod bylchau yn y ddarpariaeth, gan gynnwys bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gofal plant cyfrwng Cymraeg digonol ar gael, gan gynnwys gofal plant Dechrau'n Deg, fel y nodir yn Neddf Gofal Plant 2006.

Gwyddom fod gwasanaethau blynyddoedd cynnar Cymraeg a phrosesau caffael iaith yn gweithio orau pan fydd llwybr clir at addysg gynradd a thu hwnt; fodd bynnag, gwyddom hefyd, drwy sefydlu gwasanaethau Cymraeg mewn ardaloedd lle nad ydynt wedi bod yn gyffredin yn hanesyddol, y gallwn godi ymwybyddiaeth a chreu cyfleoedd newydd i blant gael darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Dylai awdurdodau lleol ystyried hyn wrth gynllunio eu gwasanaethau gofal plant Dechrau'n Deg.

Rhaid i blant mewn ardaloedd Dechrau'n Deg gael yr opsiwn i fynychu lleoliad gofal plant sy'n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg, waeth beth fo'r iaith a siaredir yn y cartref. Gall Mudiad Meithrin  gefnogi lleoliadau i ddatblygu eu darpariaeth Gymraeg. Efallai y bydd angen darparu cymorth ychwanegol i rieni plant sy'n mynychu lleoliadau cyfrwng Cymraeg, os nad Cymraeg yw iaith y cartref. 

Fel rhan o'u gwaith monitro data perfformiad Dechrau'n Deg, rhaid i awdurdodau lleol gofnodi nifer y plant bach y mae eu rhieni/gofalwyr wedi gofyn yn benodol am ofal plant cyfrwng Cymraeg ar eu cyfer. Rhaid cofnodi hefyd faint o'r ceisiadau hyn sy'n arwain at gynnig darpariaeth yn eu dewis iaith.

Cynnwys rhieni a gofalwyr (SGC 2,3,4)

Dylai tîm Dechrau'n Deg gyfeirio rhieni/gofalwyr cymwys at ofal plant Dechrau'n Deg ar yr adeg briodol. Dylai rhieni/gofalwyr gael gwybod yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt a chael eu cynnwys yn y broses o ddewis pa fath o leoliad y bydd eu plentyn yn mynychu.

Pan fydd rhieni yn chwarae rôl yn addysg eu plentyn bach o oedran cynnar, mae hynny'n cael effaith sylweddol ar gyrhaeddiad addysgol a bydd yn parhau i wneud hynny yn ystod ei lencyndod a'i fywyd fel oedolyn (Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, 2008). Felly, dylai ymarferwyr feithrin partneriaethau agos â rhieni/gofalwyr a rhannu gwybodaeth am eu plentyn bach fel eu bod yn cael y budd mwyaf posibl o'r ddarpariaeth. Dylid annog rhieni/gofalwyr i gymryd rhan mewn trefniadau pontio cyn i'w plentyn ddechrau cael gofal plant Dechrau'n Deg. Dylai asiantaethau eraill gyfrannu a rhannu gwybodaeth berthnasol a fydd yn galluogi pob partner i ddarparu ar gyfer pob plentyn bach yn unol â'i anghenion.

Dylai rheolwyr gofal plant ac ymarferwyr fod yn sensitif wrth weithio gyda rhieni/gofalwyr, yn enwedig y teuluoedd mwyaf agored i niwed, fel rhieni/gofalwyr yn eu harddegau, rhieni/gofalwyr unigol, y rhai sy'n byw mewn lloches ac aelwydydd heb waith. Rhaid i ymarferwyr Dechrau'n Deg sicrhau nad yw'r teuluoedd hyn yn teimlo eu bod yn cael eu beirniadu neu'u llethu, fel bod y plentyn bach yn cael y budd mwyaf o'r cynllun.

Wrth weithio gyda rhieni/gofalwyr, os bydd ymarferwyr yn teimlo bod angen mwy o gymorth arnynt yn ychwanegol at y cymorth a ddarperir gan Dechrau'n Deg, gall rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gefnogi rhieni, teuluoedd a phobl ifanc i sicrhau eu bod yn cael y cymorth a'r cyfleoedd gorau fel eu bod yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen eang sy'n hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu systemau amlasiantaethol o gymorth i deuluoedd, gan roi pwyslais ar ymyrryd yn gynnar ac atal. Rhaglen wirfoddol yw Teuluoedd yn Gyntaf y gall un rhiant/gofalwr, neu'r ddau ohonynt, ei defnyddio.

Canfu ymchwil EPPE (2003) fod ansawdd yr amgylchedd dysgu yn y cartref yn cael effaith ar ddatblygiad plant. Mae'r ymchwil yn dangos, er bod cysylltiad rhwng dosbarth cymdeithasol rhieni a lefelau addysg a chanlyniadau plant, fod yr hyn y mae rhieni yn ei wneud gyda'u plant yn fwy pwysig na phwy ydynt.

Nododd yr ymchwil pan fydd rhieni yn gwneud gweithgareddau fel darllen i blant; dysgu caneuon a rhigymau iddynt; peintio a darlunio; chwarae gyda llythrennau a rhifau; a rhoi cyfleoedd iddynt chwarae â'u cyfoedion, fod hynny oll yn helpu i hyrwyddo datblygiad deallusol a chymdeithasol plant. Mae canfyddiadau EPPSE (2014) yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr amgylchedd dysgu yn y cartref yn ystod y blynyddoedd cynnar a'r effaith gadarnhaol y mae'r amgylchedd hwn yn parhau i'w chael ar ddeilliannau academaidd. Felly, dylai ymarferwyr sy’n darparu gofal plant Dechrau’n Deg gymryd camau rhagweithiol i helpu rhieni/gofalwyr i gefnogi datblygiad a dysgu eu plentyn bach yn y cartref.

Dylai swyddogion awdurdodau lleol fynd ati'n rhagweithiol i gysylltu â theuluoedd â phlant bach sy'n gymwys i gael gofal plant Dechrau'n Deg, er mwyn sicrhau cefnogaeth rhieni/gofalwyr a phresenoldeb plant bach yn y lleoliadau. Efallai y bydd angen dangos sensitifrwydd a blaengaredd i ymgysylltu â rhai teuluoedd sy'n anos eu cyrraedd, fel bod eu plant bach yn cael yr holl ofal plant sydd ar gael iddynt. Efallai y gellir llenwi bylchau cyson mewn presenoldeb drwy gyflwyno trefniadau hyblyg neu drefniadau allgymorth. Dylai pob awdurdod lleol roi polisïau ar waith i annog cynifer o rieni/gofalwyr â phosibl i fanteisio ar y ddarpariaeth, fel sesiynau rhagflas sy'n esbonio'r buddiannau i'w plant a nhw eu hunain cyn bod y cyfnod hawlio yn dechrau.

Rhaid i rieni/gofalwyr gael eu cynnwys ym mhob trafodaeth am eu plentyn bach a dylid rhoi arweiniad iddynt ar sut y gallant gefnogi datblygiad eu plentyn bach, yn ogystal â'i lesiant a'i ddatblygiad y tu allan i'r lleoliad. Dylai ymarferwyr groesawu rhieni/gofalwyr i'r lleoliad a dangos iddynt eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel addysgwyr a gofalwyr cyntaf y plant bach.

Gall sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn ymwybodol o nodau'r lleoliad a rhoi cyfle iddynt weld sut mae'r staff yn ymwneud â phlant bach helpu i gynyddu hyder rhieni/gofalwyr ac adfywio eu diddordeb mewn dysgu. Dylid annog rhieni/gofalwyr hefyd i ymgysylltu gymaint â phosibl â bywyd a gwaith y lleoliad. Mae ymgysylltu â rhieni/gofalwyr a datblygu partneriaethau cymunedol yn hollbwysig. Dylai lleoliadau ystyried sut maent yn ymgysylltu â theuluoedd o  gefndiroedd ethnig lleiafrifol a chymunedau Sipsiwn, Roma, Romani a Theithwyr; gallai hyn gynnwys partneriaethau â sefydliadau lleol a chenedlaethol. Gallai hyn helpu i ymgysylltu â theuluoedd a chefnogi darpariaeth sydd â mwy o ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Bydd cynnwys y gymuned yn ysgogi'r gymuned honno i ddefnyddio'r cyfleuster.

Pan fydd plant bach yn dod yn gymwys i gael eu darpariaeth addysg gynnar, gallai rhai plant bach sydd â rhieni/gofalwyr sy'n gweithio fod yn gymwys hefyd i gael oriau ychwanegol o ofal plant a ariennir gan y llywodraeth o dan Gynnig Gofal Plant Cymru. Mae dwy elfen i'r Cynnig Gofal Plant; y ddarpariaeth addysg gynnar bresennol a ddarperir drwy'r Cwricwlwm i Gymru ac oriau ychwanegol o ofal plant a ariennir gan y llywodraeth. Gall rhieni/gofalwyr gael rhagor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant a'u cymhwystra gan eu Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. 

Dylai ymarferwyr Dechrau'n Deg hyrwyddo Cynnig Gofal Plant Cymru, fel y bo'n briodol, a chyfeirio teuluoedd at ffynonellau addas o wybodaeth wrth i blant bach ddod i ddiwedd eu cyfnod mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg.

Cefnogi presenoldeb

Mae cyfraddau presenoldeb da yn hanfodol er mwyn sicrhau bod plant bach yn cael y budd mwyaf o'u hamser mewn amgylcheddau gofal plant Dechrau'n Deg. Mae cyfraddau presenoldeb uchel yn rhoi'r cysondeb a'r parhad sydd eu hangen ar blant bach i ddatblygu sgiliau gwybyddol a chymdeithasol allweddol ac yn rhoi'r sefydlogrwydd sydd ei angen arnynt i feithrin teimlad o berthyn.

Mae mynd i leoliad gofal plant Dechrau'n Deg yn gyfle gwerthfawr i blant bach gael budd o amgylchedd gofal plant proffesiynol o oedran cynnar er mwyn sefydlu arferion sefydlog a helpu i hwyluso proses bontio esmwyth i'r Cwricwlwm i Gymru.

Dylai awdurdodau lleol roi gweithdrefnau cadarn ar waith i reoli presenoldeb mewn lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg a dylai'r rhain gael eu hamlinellu'n glir mewn polisïau rheoli presenoldeb ffurfiol. Dylai polisïau rheoli presenoldeb effeithiol atgyfnerthu rôl lleoliadau gofal plant unigol wrth reoli presenoldeb a dylent roi amlinelliad clir o'r camau i'w cymryd pan na fydd plentyn bach yn bresennol yn ei sesiwn gofal plant Dechrau'n Deg a drefnwyd. Gall awdurdodau lleol ddylunio polisïau a gweithdrefnau addas yn lleol ond dylai'r rhain fodloni'r gofynion sylfaenol a nodir yn Atodiad 1.

Yn ogystal, dylai awdurdodau lleol annog presenoldeb yn rhagweithiol drwy ymgysylltu'n effeithiol â rhieni a theuluoedd a thrwy hyrwyddo negeseuon cadarnhau gan ddefnyddio adnoddau cyfathrebu o'u dewis h.y. taflenni gwybodaeth, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ati.

Mae gosod disgwyliadau clir ar gyfer rhieni/gofalwyr ynghylch pwysigrwydd cynnal lefelau uchel o bresenoldeb yn atgyfnerthu gwerth cymryd rhan lawn yn y rhaglen ac yn helpu i baratoi plant bach i fynd i'r ysgol yn rheolaidd pan fyddant yn hŷn.

Mae pob plentyn a theulu yn unigryw ac efallai y bydd awdurdod lleol, o dan rai amgylchiadau, yn teimlo y byddai'n well i blentyn bach fynychu lleoliad gofal plant y tu allan i'w awdurdod lleol cartref. Mae canllawiau ar egwyddorion trawsffiniol ar gael yn Atodiad 2 o'r ddogfen hon. 

Data a monitro

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod presenoldeb yn cael ei fonitro'n effeithiol ym mhob lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg. Dylai rheolwyr y rhaglen/Timau Cynghori ar Ofal Plant gael adroddiadau rheolaidd ar bresenoldeb gan reolwyr lleoliadau. Dylid defnyddio'r rhain i fonitro presenoldeb a, lle bo hynny'n bosibl, gymryd camau cywiro pan fydd lefelau presenoldeb yn peri pryder.

Targedau presenoldeb

Mae disgwyl i awdurdodau lleol geisio gwella cyfraddau presenoldeb mewn lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg yn barhaus; ond cydnabyddir bod yn rhaid taro cydbwysedd cywir rhwng rheoli presenoldeb yn effeithiol a darparu gwasanaethau hyblyg i blant a theuluoedd.

Er mwyn annog ymrwymiad i wella'n barhaus, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targedau cenedlaethol ar gyfer presenoldeb mewn lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg a gaiff eu pennu ar gyfer awdurdodau lleol ar sail unigol. Mae'r rhain yn seiliedig ar gyfartaleddau cenedlaethol  ac yn darparu cyfres fesul cam o gyfraddau targed i awdurdodau lleol anelu atynt.

Mae'r cyfraddau a bennwyd ar gyfer lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg fel a ganlyn:

75% - Targed sylfaenol

80% - Targed canolig

85% - Targed uwch

Yn y pen draw, bydd yn fuddiol i rieni/gofalwyr a phlant bach ddod i arfer â'r lefelau uwch o bresenoldeb a ddisgwylir gan mai'r gyfradd presenoldeb ysgol sylfaenol a ddisgwylir ar gyfer plant o oedran ysgol statudol yw 95%.

Bydd rheolwyr cyfrif yn trafod cyfraddau presenoldeb lleol mewn lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg gydag awdurdodau lleol yn ystod cyfarfodydd rheoli cyfrif ffurfiol ac ar adegau eraill drwy gydol y flwyddyn os bydd angen.

Lleoedd heb eu dyrannu

Bydd lleoedd heb eu dyrannu yn codi pan fydd lle gofal plant Dechrau'n Deg ar gael ac yn cael ei ariannu ond nad yw wedi cael ei ddyrannu i blentyn bach. Gall nifer o ffactorau arwain at leoedd heb eu dyrannu, gan gynnwys;

  • Lleoedd sydd heb gael eu dyrannu o ganlyniad i gymarebau staffio a ragnodir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol
  • Lleoedd sydd heb gael eu dyrannu am nad oes modd rhagfynegi niferoedd a galw lleol
  • Lleoedd sydd heb gael eu dyrannu o ganlyniad i fodelau comisiynu gofal plant lleol

Er ein bod yn cydnabod y bydd rhywfaint o leoedd heb eu dyrannu yn anochel, dyali awdurdodau lleol wneud pob ymdrech i leihau nifer y lleoedd sydd heb eu dyrannu yn eu lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg.

Dylai awdurdodau lleol gymryd y camau canlynol i sicrhau eu bod yn cadw nifer y lleoedd sydd heb eu dyrannu mor isel â phosibl.

  • Lle bo hynny'n bosibl, dylai staff gofal plant awdurdodau lleol fod yn hyblyg a symud lleoliadau yn unol â'r galw
  • Dylai lleoedd sydd heb gael eu dyrannu am gyfnod hir gael eu cynnig ar sail anghenion drwy broses allgymorth
  • Dylai lleoedd a gomisiynwyd gael eu prynu ar sail anghenion lle bo hynny'n bosibl ac os nad yw hynny'n bosibl, dylai awdurdodau lleol geisio lleihau'n raddol nifer y lleoedd bloc a brynir fel rhan o'u model comisiynu neu geisio eu llenwi drwy elfen allgymorth y rhaglen 

Crynodeb

Mae canlyniadau cadarnhaol i blant bach yn hollbwysig i Dechrau'n Deg. Fel y mae'r ddogfen hon yn esbonio, mae gwaith ymchwil helaeth yn dangos bod gofal plant o ansawdd uchel yn helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Yr agwedd bwysicaf ar gynnig plant a ariennir Dechrau'n Deg i blant 2  i 3  oed  yw bod yn rhaid i'r gofal plant a ddarperir fod o'r ansawdd uchaf posibl. Bydd oedolion sy'n galluogi dysgu sy'n rhoi gofal a chymorth mewn amgylchedd effeithiol ac yn darparu profiadau diddorol yn sicrhau bod plant bach yng Nghymru yn cael gofal plant o ansawdd uchel i'w helpu i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. 

Llyfryddiaeth

Howe, D. (2011). Attachment Across the Lifecourse (Ail argraffiad). 

Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF) (2008), The Impact of Parental Involvement on Children’s Education. 

Love, John M. et al (2005), The Effectiveness of Early Head Start for 3-Year-Old Children and Their Parents: Lessons for Policy and Programs (Developmental Psychology, American Psychological Association 2005, Cyf. 41, Rhif 6)

Melhuish, E. (1991), Research on day care for young children in the United Kingdom’, o Day Care for Young Children: An International Perspective. Routledge.

Sammons, P. et al (2003). The Early Years Transition & Special Educational Needs (EYTSEN) Project. Llundain: Sefydliad Addysg, Prifysgol Llundain / Yr Adran Addysg a Sgiliau 

Sylva, K. et al (2004). The Effective Provision of Pre-School Education (EPPE) Project: Final Report – A Longitudinal Study Funded by the DfES 1997–2004. Llundain: Sefydliad Addysg.

Sylva, K. et al (2014).Students’ educational and developmental outcomes at age 16: Effective Pre-school, Primary and Secondary Education (EPPSE 3-16) Project (Research Report RR354). Llundain: Yr Adran Addysg.

Atodiad 1: Safonau gofynnol ar gyfer rheoli presenoldeb mewn lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg

Dylai pob darparwr gofal plant Dechrau'n Deg sicrhau bod y canlynol ar waith fel rhan o'i bolisi rheoli presenoldeb/prosesau cofrestru gofal plant.

Rhieni/gofalwyr

  • Dylai awdurdodau lleol hyrwyddo'r buddiannau y gellir eu sicrhau os bydd plentyn yn mynychu lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg h.y. Mae plant sy'n cael gofal plant cyn ysgol yn datblygu sgiliau gwybyddol gwell ac maent yn fwy parod i ddysgu pan fyddant yn dechrau addysg gynnar.
  • Dylid pennu disgwyliadau clir o'r dechrau mewn perthynas â phresenoldeb, gan gynnwys canlyniadau cyfraddau presenoldeb isel.
  • Dylid rhoi gwybodaeth i rieni/gofalwyr am y rhesymau dilys dros fod yn absennol.
  • Dylid cynnig gwasanaeth ar raddfa lai i rieni/gofalwyr os bydd hyn yn diwallu eu hanghenion yn well.
  • Dylai gweithdrefnau clir fod ar waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i riant neu ofalwr gysylltu â'r lleoliad gofal plant cyn dechrau'r sesiwn i roi gwybod y bydd plentyn yn absennol.

Gweithlu

  • Dylai prosesau clir fod ar waith ar gyfer pob math o absenoldeb (awdurdodedig a heb awdurdod) gan gynnwys proses ar wahân i ymarferwyr i'w dilyn ar gyfer unrhyw blant â materion diogelu. Rhaid i leoliadau fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau cyfreithiol wrth ymdrin ag unrhyw faterion diogelu.
  • Dylid rhoi cyfarwyddiadau clir i ymarferwyr gofal plant ynghylch pa brosesau y mae angen eu dilyn pan fydd absenoldeb.
  • Dylai fod prosesau ar waith i reoli unrhyw absenoldeb yr ystyrir ei fod yn absenoldeb cyson a dylid rhoi diffiniad o absenoldeb cyson i rieni/gofalwyr pan fyddant yn manteisio ar gynnig gofal plant Dechrau'n Deg neu yn ystod y broses sefydlu mewn lleoliad gofal plant.
  • Dylai fod gan bob lleoliad gofal plant gytundeb presenoldeb. Cytundeb â rhieni/gofalwyr yw hwn sy'n cydnabod pwysigrwydd y lle gofal plant ac yn ymrwymo'r plentyn i fynychu pob sesiwn lle bo hynny'n bosibl. Dylai hefyd amlinellu'r broses uwchgyfeirio a chanlyniadau dilynol os bydd cyfraddau absenoldeb yn isel. Dylid rhoi copi o'r cytundeb i'r rhiant/gofalwr a dylid cadw copi arall yng nghofnod unigol y plentyn yn y lleoliad gofal plant.
  • Dylai lleoliadau gofal plant hyrwyddo gweithgareddau a digwyddiadau a gynhelir ar y safle i ddangos gwerth y gwasanaeth a ddarperir a hyrwyddo'r rhaglen.
  • Dylai fod gan bob awdurdod lleol system ar waith i adolygu data misol o leoliadau goal plant, gan sicrhau bod ymyriadau'n cael eu cynnal i fynd i'r afael â materion sy'n codi.
  • Dylai polisïau a gweithdrefnau gael eu hadolygu'n rheolaidd a'u cyfleu'n glir i ymarferwyr (os yw’n berthnasol) a rhieni/gofalwyr pan fydd newidiadau/diweddariadau'n digwydd.

Atodiad 2: Egwyddorion trawsffiniol

Gofal plant Dechrau'n Deg: Pan fydd rhiant Dechrau'n Deg cymwys yn gwneud cais am ofal plant y tu allan i'r awdurdod lleol cartref. 

Egwyddorion trawsffiniol cyffredinol

Mae'n hollbwysig bod pob penderfyniad yn cael ei wneud er lles pennaf y plentyn.

Lle bo hynny'n bosibl, dylai lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg fod o fewn pellter “gwthio pram” i gartref plentyn. Am resymau ymarferol, ystyrir mai amser cerdded o tua 10-15 munud yw hyn. Fodd bynnag, wrth i raglen Dechrau'n Deg gael ei hehangu i gymunedau mwy gwledig a chefnogi teuluoedd sy'n gweithio ac yn cael hyfforddiant, cydnabyddir na fydd hyn yn bosibl bob amser.

Dylai plant fynychu 5 sesiwn yr wythnos am 2.5 awr bob dydd gan mai dyma sydd orau ar gyfer datblygiad plant. Fodd bynnag, mae Canllawiau Ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg yn amlygu'r gallu i fod yn hyblyg, er mwyn bodloni ceisiadau rhieni am drefniadau gwahanol pan fo ganddynt angen penodol a phan fo lleoliad Dechrau'n Deg yn gallu diwallu'r angen hwnnw a phan fo'r awdurdod lleol yn cytuno. 

Mae pob plentyn a theulu yn unigryw ac efallai y bydd awdurdod lleol, o dan rai amgylchiadau, yn teimlo y byddai'n well i blentyn fynychu lleoliad gofal plant y tu allan i'w awdurdod lleol cartref. Gallai amgylchiadau o'r fath (nad ydynt wedi'u rhestru mewn trefn benodol) gynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • pan fo materion diogelu neu dystiolaeth o ddynameg deuluol gymhleth
  • pan fo plentyn eisoes wedi setlo mewn lleoliad gofal plant
  • pan fydd yn lleihau nifer y camau pontio a newidiadau diangen i drefn arferol plentyn
  • pan fydd lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg arall yn agosach i gartref y teulu na'r lleoliad dynodedig yn awdurdod lleol cartref y teulu
  • trefniadau cyflogaeth/hyfforddiant rhiant
  • trefniadau byw rhannu gofal
  • unrhyw ffactorau eraill y mae'r awdurdod lleol yn asesu eu bod er lles pennaf plentyn

Canllawiau i'w dilyn pan gaiff ceisiadau eu gwneud am ofal plant Dechrau'n Deg y tu allan i'r awdurdod lleol cartref yng Nghymru a Lloegr.

  • Dylid ystyried pob cais gan rieni yn erbyn yr egwyddorion a restrir uchod.
  • Dylai plant sy'n gymwys i gael gofal plant Dechrau'n Deg fynychu lleoliad gofal plant yng Nghymru lle bo hynny'n bosibl. Rhaid bod y lleoliad wedi cael ei gomisiynu gan awdurdod lleol fel darparwr Dechrau'n Deg a rhaid ei fod wedi cytuno i gyrraedd y safonau ansawdd a amlinellir yng nghanllawiau gofal plant Dechrau'n Deg.  Bydd rhaid i'r sefydliad fod wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu Ofsted a dilyn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol sy'n berthnasol i Gymru neu Loegr.
  • Bydd angen i bob awdurdod lleol gael gweithdrefn drawsffiniol sy'n glir, yn deg ac yn dryloyw i rieni, darparwyr gofal plant a thîm ehangach Dechrau'n Deg. Efallai y bydd angen ystyried proses apelio.
  • Yr awdurdod lleol cartref fydd yn penderfynu p'un a all gefnogi plentyn unigol i gael gofal plant y tu allan i'w awdurdod lleol cartref a ph'un a fydd hynny er lles pennaf y plentyn.
  • Bydd angen i'r awdurdod lleol cartref gytuno'n ffurfiol ar y trefniadau ar gyfer y plentyn (o bosibl drwy brotocol neu Gytundeb Lefel  Gwasanaeth) gyda'r awdurdod lleol cyffiniol lle mae'r lleoliad gofal plant wedi'i leoli. Nid yw cytundeb lefel gwasanaeth yn ofynnol yn ôl y gyfraith, ond mae angen cytuno ar drefniadau ffurfiol.
  • Bydd angen i'r lleoliad gofal plant gytuno a bydd rhaid sicrhau bod lle ar gael yn y lleoliad.
  • Dylai cytundebau ffurfiol nodi sut y bydd y lleoliad gofal plant yn cael taliad, pwy fydd yn gyfrifol am fonitro ansawdd y lleoliad a sut y caiff gwybodaeth am ADY a materion diogelu ei rhannu rhwng yr awdurdod lleol cartref, yr awdurdod lleol cyffiniol, unrhyw asiantaeth arall sy'n ymwneud â'r teulu a'r lleoliad gofal plant.
  • Gan fod pob lleoliad Dechrau'n Deg ledled Cymru yn cael cymorth gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys athrawon ymgynghorol, dylid ceisio osgoi ymweliadau dyblyg gan staff o'r awdurdod lleol cartref lle bo hynny'n bosibl.
  • Bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau bod cyfrifoldebau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y cod ADY) yn cael eu dilyn fel rhan o bob trefniant trawsffiniol.  Bydd angen cyfathrebu â'r swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar perthnasol ym mhob awdurdod lleol.
  • dan y cod ADY “os bydd awdurdod lleol yn cynnal Cynllun Datblygu Unigol (CDU), rhaid iddo sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ac unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir ynddo.” Yr awdurdod lleol cartref fyddai'n gyfrifol am benderfynu a oes gan blentyn ADY ac am baratoi a chynnal y CDU. 
  • Wrth rannu gwybodaeth, bydd angen cydymffurfio bob amser â Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a phrotocolau rhannu gwybodaeth unigol awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Canllawiau ychwanegol i'w dilyn pan gaiff ceisiadau eu gwneud am ofal plant Dechrau'n Deg y tu allan i'r awdurdod lleol cartref yn Lloegr.

  • Lle bo hynny'n bosibl, dylai plant sy'n gymwys i gael gofal plant Dechrau'n Deg fynychu lleoliad gofal plant yng Nghymru gan nad oes unrhyw leoliadau gofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd cymaradwy wedi'u comisiynu yn Lloegr. Yn ogystal, ni fydd plant yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau yn Lloegr.
  • Nid yw'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ariannu gofal plant Dechrau'n Deg y tu allan i Gymru. Fodd bynnag, mae'n bosibl weithiau mai mynychu lleoliad yn Lloegr fydd y peth gorau i blentyn unigol a bydd angen gwneud pob penderfyniad ar y sail honno, ynghyd â gallu pob awdurdod lleol i ddatblygu trefniadau protocol addas. Os asesir mai mynchu lleoliad yn Lloegr fyddai orau i'r plentyn, yna mae angen ystyried y pwyntiau isod:
  • Byddai angen i'r lleoliad gofal plant gael ei gomisiynu fel darparwr Dechrau'n Deg i blentyn unigol gan yr awdurdod lleol cartref, bydd angen iddo gytuno i fodloni canllawiau gofal plant o ansawdd Dechrau'n Deg (o fewn amserlen y cytunwyd arni) ac unrhyw ofynion eraill sydd gan yr awdurdod lleol cartref, fel cofrestru ar ei borth. Bydd rhaid i'r sefydliad fod wedi'i gofrestru ag Ofsted hefyd a dilyn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol sy'n berthnasol i Loegr.
  • Mae rhai gwahaniaethau rhwng Safonau Gofynnol Cenedlaethol Cymru a Lloegr sy'n cynnwys cymarebau ynghyd â'u fframwaith cymwysterau. Bydd angen tynnu sylw'r rhiant at hyn.
  • Ni fydd Ofsted yn gwybod bod Dechrau'n Deg yn ariannu plentyn a bydd angen rhoi gwybod iddo er mwyn sicrhau bod unrhyw faterion o ran diogelu neu safonau ansawdd yn cael eu rhannu â'r awdurdod lleol cartref.
  • Mae pob lleoliad Dechrau'n Deg yng Nghymru yn cael cymorth gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gan gynnwys athrawon ymgynghorol. Pan wneir cais am ofal plant yn Lloegr, efallai na fydd modd darparu'r un lefel o ofal ag a geir yng Nghymru, ond mae angen ystyried systemau monitro ansawdd wrth sefydlu trefniadau

Efallai na fydd y ddogfen hon yn gwbl hygyrch.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein datganiad hygyrchedd (https://www.llyw.cymru/datganiad-hygyrchedd-llywcymru).