Cynllun gweithredu adfer natur: 2026
Ein fframwaith ar gyfer sefydlu a sbarduno camau hirdymor i adfer natur yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair y gweinidog
Mae natur yng Nghymru o dan bwysau digynsail ac nid yw ecosystemau yn yr amgylcheddau daearol, dŵr croyw a morol yn gallu gwrthsefyll y pwysau presennol. Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 / Cyfoeth Naturiol Cymru (SoNaRR25) yn dangos bod dirywiad parhaus bioamrywiaeth yn gwanhau ecosystemau Cymru, gyda hynny yn ei dro yn tanseilio llesiant cymunedau, ffyniant economaidd a gwydnwch hirdymor. Mae amgylchedd naturiol iach yn sail i’n heconomi, yn cefnogi ein hunaniaeth ddiwylliannol ac yn darparu’r gwasanaethau ecosystem hanfodol rydym yn ddibynnol arnynt o ddydd i ddydd.
Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru yn darparu ein fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymateb i’r heriau hyn. Mae’n dwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf, yn cydweddu ag ymrwymiadau rhyngwladol fel y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang, ac yn adlewyrchu tirwedd ddeddfwriaethol Cymru, gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), (sydd wedi’i basio gan y Senedd ac sy’n disgwyl Cydsyniad Brenhinol.)
Mae chwe nod strategol wrth wraidd y Cynllun Gweithredu ac maent yn mynd i’r afael â phrif achosion colli bioamrywiaeth, gyda’r bwriad o lywio gweithredu cydlynol gan lywodraeth, cyrff cyhoeddus a chymunedau. Mae’r nodau hyn yn cael eu cefnogi gan gamau gweithredu clir gyda’r nod o gyflymu adferiad natur, cryfhau gwydnwch ecosystemau a sicrhau bod ein penderfyniadau heddiw yn diogelu adnoddau naturiol yfory.
Mae cyflawni’r cynllun hwn yn gofyn am ymdrech gydweithredol. Mae gan bob adran o’r llywodraeth, pob awdurdod cyhoeddus, pob sefydliad a phob dinesydd ran i’w chwarae. Mae’r Cynllun Gweithredu yn darparu’r sylfaen i’r cydweithredu hwnnw, gan egluro ein huchelgais a phennu cyfeiriad clir i sbarduno gweithredu brys ar fyrder.
Mae adfer natur yn fwy na rheidrwydd amgylcheddol – mae’n hanfodol er mwyn creu Cymru decach, wyrddach a mwy cydnerth, gan gefnogi swyddi, datblygu sgiliau, a sicrhau ymgysylltiad cymunedol cryfach ar hyd y daith. Rwy’n croesawu’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur hwn a’r ymrwymiad y mae’n ei gynrychioli i sicrhau dyfodol gwell i natur, ein heconomi, a phobl a chymunedau Cymru.
Cyflwyniad
Bioamrywiaeth yng Nghymru
Mae bioamrywiaeth yn cyfeirio at bethau byw yn eu holl amrywiaeth, gan gynnwys pob rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid, yr amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ac ecosystemau sy’n gartref i’r rhywogaethau hynny, yn ogystal â’r amrywiaeth genetig o fewn rhywogaethau a rhyngddynt. Mae bioamrywiaeth ac ecosystemau iach yn hanfodol ar gyfer ein goroesiad, gan ddarparu aer glân, dŵr, bwyd, meddyginiaethau, tanwydd, ffibr a phren, yn ogystal â chefnogi ein hiechyd a’n llesiant a ffyniant y genedl.
Yng Nghymru, mae bioamrywiaeth yn fwy nag ased amgylcheddol: mae’n rhan annatod o’n diwylliant, ein heconomi a’n hymdeimlad o le – mae’n cynnal bywyd bob dydd a bywoliaeth, ond mae o dan bwysau cynyddol.
Mae bioamrywiaeth fyd-eang wedi dirywio, gyda gostyngiad o 69 y cant yn nhoreithrwydd cymharol poblogaethau bywyd gwyllt sy’n cael eu monitro rhwng 1970 a 2018 (WWF, 2022). Yn y DU, mae toreithrwydd a dosbarthiad rhywogaethau hefyd wedi dirywio ers y 1970au ar gyfartaledd (Hayhow et al., 2019). Cyn y 1970au, roedd dirywiad eisoes wedi bod yn digwydd ers canrifoedd, felly mae’r dirywiad hwn yn seiliedig ar linell sylfaen a oedd eisoes wedi dirywio.
Mae Cymru yn wynebu argyfwng bioamrywiaeth sy’n adlewyrchu patrymau byd-eang o ddirywiad ecolegol, wedi’i sbarduno gan newid defnydd tir hirdymor, llygredd, newid hinsawdd a darnio cynefinoedd.
Mae adroddiad SoNaRR 2025 a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi bod amgylchedd Cymru dan straen digynsail, gyda bron i un o bob pump o rywogaethau mewn perygl o ddifodiant, a bod llygredd, defnydd tir anghynaliadwy a newid hinsawdd yn cymell colledion pellach mewn amgylcheddau daearol, dŵr croyw, arfordirol a morol. Mae Cymru felly’n sefyll ar ymyl y dibyn – nid bygythiadau neu beryglon pell i ffwrdd yw newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd; maent yma eisoes, yn amharu ar fywyd a bywoliaeth yr eiliad hon.
Mae hon yn adeg dyngedfennol i fioamrywiaeth yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth, yr arbenigedd a’r fframwaith polisi a deddfwriaethol angenrheidiol yn eu lle i herio colli natur. Yr hyn sydd ei angen nawr yw’r penderfyniad i weithredu – yn feiddgar, ar fyrder ac ar raddfa eang. Byddwn yn cymryd camau trawsnewidiol nawr i sicrhau Cymru lle mae bioamrywiaeth yn adfer, Cymru lle mae ecosystemau yn wydn, Cymru lle mae cymunedau’n elwa ar natur ffyniannus a Chymru lle bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gwybod i ni ddewis gwneud gwahaniaeth pan oedd gwir angen hynny.
Pam mae angen Cynllun Gweithredu Adfer Natur?
Cynllun Gweinidogion Cymru at ddibenion bodloni adran 6(6) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw’r Cynllun Gweithredu hwn. Mae’n nodi sut mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cydymffurfio â’u dyletswydd i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau wrth arfer eu swyddogaethau, ac mae’n darparu’r fframwaith cenedlaethol i’n tywys ni wrth geisio atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth.
Mae’r Cynllun Gweithredu yn dangos sut mae gwella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau yn cael eu hymgorffori wrth ddatblygu polisïau, gwneud penderfyniadau a chyflawni ar draws y llywodraeth, gan sicrhau bod ein camau gweithredu yn cydweddu ac yn canolbwyntio ar sbarduno adferiad natur ystyrlon a hirdymor yng Nghymru.
Mae Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal, a fabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 2022 yn 15fed Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (COP15) yn nodi llwybr uchelgeisiol i wireddu’r weledigaeth fyd-eang o fyd sy’n byw mewn cytgord â natur erbyn 2050. Roedd yn cadarnhau cenhadaeth fyd-eang i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030, a chyflawni adferiad erbyn 2050, fel y bydd natur yn ffynnu, gan gynnal planed iach a sicrhau buddion sy’n hanfodol i bawb.
Mae’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yn ei gwneud yn ofynnol i bob Parti i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol gynhyrchu Strategaeth Bioamrywiaeth Genedlaethol a Chynllun Gweithredu sy’n nodi’r dull o gyflawni yn erbyn y targedau, y camau gweithredu, trefniadau llywodraethiant, systemau monitro ac integreiddio traws-sector er mwyn gweithredu’r Fframwaith yn effeithiol. Mae gwneud hynny yn darparu’r glasbrint cenedlaethol hanfodol ar gyfer cyflawni nodau bioamrywiaeth byd-eang drwy weithredu cydlynol, mesuradwy a chynhwysol. Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru hefyd yn gwasanaethu fel strategaeth bioamrywiaeth genedlaethol, gyda’r bwriad o gwmpasu’r elfennau hyn ar gyfer Cymru yn y dyfodol.
Yn ôl y 7fed Adroddiad Cenedlaethol i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, er bod cynnydd wedi digwydd tuag at 23 targed y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang, mae cyfradd y cynnydd mewn perthynas â’r rhan fwyaf o dargedau bioamrywiaeth cenedlaethol yn annigonol i gyflawni’r uchelgeisiau y cytunwyd arnynt yn COP15. Mae fframweithiau polisi cryf Cymru, ymrwymiad i 30x30, rhaglenni adfer gweithredol a systemau tystiolaeth cadarn yn darparu sylfaen gref ar gyfer adferiad, ond mae angen gweithredu trawsnewidiol i fynd i’r afael â bylchau cyflawni a chyflymu’r cynnydd tuag at Gymru gydnerth a natur-bositif.
Yn ddiweddar, mae Cymru wedi pasio deddfwriaeth newydd – Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (yn disgwyl Cydsyniad Brenhinol) gyda’r nod cyffredin o gryfhau a gwella ein hymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur yn seiliedig ar lefel uchel o ddiogelu a gwella’r amgylchedd. Mae’r Bil yn cyflwyno fframwaith gosod targedau bioamrywiaeth statudol yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, gyda ffocws ar atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac adfer ecosystemau i lefelau gwydn, sy’n cael ei gefnogi gan ddyletswyddau cynllunio, monitro ac adrodd gwell, gan rymuso Gweinidogion Cymru i osod targedau sy’n rhwymo mewn cyfraith sy’n ysgogi gweithredu i adfer natur.
Mae’r Bil hefyd yn cyflwyno dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth yng Nghymru o bwysigrwydd bioamrywiaeth a’r bygythiadau iddi, gan gydnabod yr angen am weithredu gan gymdeithas gyfan yn ogystal â’r llywodraeth gyfan.
Mae adroddiad SoNaRR 2025 yn tynnu sylw at gyfleoedd i weithredu. Nid yw’r cyfleoedd hyn yn ddewisol. Maent yn hanfodol er mwyn cyflawni Cymru deg, gynaliadwy a ffyniannus
Drwy osod cyfeiriad strategol nawr, rydym yn sicrhau bod y camau i atal colli bioamrywiaeth ac adfer ecosystemau yn parhau i ddigwydd yn gyflym, a bod Cymru mewn sefyllfa dda i gyflawni targedau a dangosyddion yn y dyfodol wrth iddynt ddod i rym.
Ein gweledigaeth
Wrth ddangos ein hymrwymiad i’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang, rydym wedi mabwysiadu gweledigaeth y Fframwaith:
Erbyn 2050, mae bioamrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi, ei gwarchod, ei hadfer a’i defnyddio’n ddoeth, gan ategu gwasanaethau ecosystem, cynnal planed iach a darparu manteision hanfodol i bobl ym mhobman.
Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru yn nodi’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i gyfrannu at wireddu’r weledigaeth hon.
Nodau strategol
Datblygwyd ein chwe nod strategol i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth, tra’n cynnal a gwella bioamrywiaeth a chryfhau gwydnwch ecosystemau, yn unol â’r ddyletswydd yn adran 6(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Maent yn adeiladu ar chwe amcan Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru 2015, yn cydweddu â’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang, ac yn cydnabod bod yn rhaid i weithredu fynd i’r afael â sbardunau ecolegol ac economaidd-gymdeithasol ehangach colli bioamrywiaeth. Mae Atodiad 1 yn mapio chwe nod Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru wrth gysylltu â thargedau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang.
Nod 1: Amddiffyn, adfer a rheoli ecosystemau yn effeithiol i feithrin eu gwydnwch
Mae ecosystemau bioamrywiol sy’n gallu gwrthsefyll pwysau o du pobl yn darparu’r gwasanaethau sy’n sail i’n llesiant a’n ffyniant. Yng Nghymru, mae llawer o’n cynefinoedd wedi cael eu haddasu ond mae ein cynefinoedd lled-naturiol sy’n weddill wedi’u diraddio’n ecolegol, yn dlawd o ran rhywogaethau, yn dameidiog ac yn ddiffygiol o ran cysylltedd, sy’n peryglu eu gwydnwch a’u gallu i gefnogi bioamrywiaeth. Er mwyn gwrthdroi hyn, rhaid i ni gymryd camau i amddiffyn cynefinoedd sy’n weddill, adfer ardaloedd diraddiedig a rheoli ecosystemau yn effeithiol mewn ffyrdd sy’n meithrin gwydnwch i wrthsefyll newid hinsawdd, llygredd a phwysau dynol eraill. Drwy wneud hynny, gallwn atal colli bioamrywiaeth a sicrhau bod ecosystemau’n parhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y mae pobl a natur yn dibynnu arnynt.
Nod 2: Diogelu rhywogaethau a chreu lle i rywogaethau ffynnu
Cynyddu helaethrwydd rhywogaethau a lleihau’r perygl o ddifodiant. Er bod difodiant yn ganlyniad i brosesau naturiol weithiau, gweithredoedd dynol yw’r prif sbardun i ddifodiant rhywogaethau yng Nghymru. Mae’r cynnydd byd-eang mewn difodiant a’r perygl o ddifodiant hefyd yn cyfrannu at ddirywiad amrywiaeth genetig sy’n hanfodol ar gyfer sefydlogrwydd, addasrwydd a gwydnwch hirdymor rhywogaethau, gan gefnogi eu gallu i barhau i gynnig cyfraniadau natur i bobl a bod yn sail i lesiant cymunedau.
Nod 3: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau
Mae arferion rheoli tir anghynaliadwy, megis newid defnydd tir, colli cynefin, llygredd a rhywogaethau estron goresgynnol yn ogystal â newid hinsawdd yn elfennau allweddol sy’n creu pwysau sy’n arwain at ddiraddio ecosystemau a dirywiad bioamrywiaeth mewn amgylcheddau daearol, dŵr croyw a morol. Mae’r pwysau hwn wedi newid ehangder, cysylltedd ac ansawdd cynefinoedd a’r rhywogaethau maent yn gallu eu cynnal, ac felly mae’n hanfodol rhagweld, atal a lliniaru achosion colli bioamrywiaeth yn llygad y ffynnon.
Nod 4: Sefydlu llywodraethiant effeithiol a’r gallu i gyflawni
Mae rhoi natur wrth wraidd penderfyniadau yn hanfodol i fynd i’r afael ag achos sylfaenol colli bioamrywiaeth.
Fel sail i’n gweithredu, mae angen i ni sicrhau bod y strwythurau, y personél a’r swyddogaethau cywir ar waith i lywio, cefnogi a gweithredu adferiad natur ar bob lefel, o’r strategaeth genedlaethol i gyflawni’n lleol.
Mae angen i ni roi adnoddau (dynol ac ariannol) ar waith i gyflawni ein hamcanion adfer natur. Mae angen i ni ddefnyddio ffynonellau cyllido yn greadigol ac yn arloesol a datblygu mecanweithiau newydd. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd gydnabod pwysigrwydd a gwerth bioamrywiaeth ac ymgorffori’r gwerthoedd hyn yn fuan yn y broses o wneud penderfyniadau.
Nod 5: Ymgorffori bioamrywiaeth drwy hybu diddordeb ac ymwybyddiaeth i gefnogi penderfyniadau effeithiol ar bob lefel
Mae angen ymgorffori ystyriaethau bioamrywiaeth wrth wneud penderfyniadau, fel bod gwerth bioamrywiaeth yn cael ei gydnabod, ei ystyried a’i gynnwys yn y cam cynnar. Dylai sefydliadau ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau ym mhopeth y maent yn ei wneud, o ddatblygu polisïau, cynlluniau a phrosiectau i wneud penderfyniadau bob dydd, fel bod natur yn cael ei gwerthfawrogi a’i diogelu’n gyson ym mhob maes gwaith.
Yn sail i hyn, er mwyn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau, mae angen ymdrech fawr i wella dealltwriaeth a hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a gwerth natur a bioamrywiaeth ledled Cymru.
Nod 6: Gwella ein tystiolaeth a’n gwaith monitro
Mae angen i ni gryfhau sylfaen dystiolaeth bioamrywiaeth Cymru drwy wella’r gwaith o gasglu data o ansawdd uchel, hygyrchedd y data hynny a’r defnydd ohonynt i lywio polisi, gwaith cynllunio a phenderfyniadau yn ymwneud â bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys gwella rhaglenni monitro, hyrwyddo gwyddoniaeth dinasyddion a chefnogi cydweithredu ar draws sectorau. Bydd monitro effeithiol hefyd yn sail i wneud penderfyniadau er mwyn galluogi dull rheoli addasol sy’n ofynnol i ddarparu ecosystemau gwydn.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru i gyflawni’r nodau strategol
Mae’r adran hon yn nodi ystod o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr ac yn y dyfodol ar draws meysydd gweithredu, datblygu polisi, caffael, rheoli tir a môr, a phrosesau gwneud penderfyniadau ehangach i sicrhau bod bioamrywiaeth wedi’i hymgorffori o’r cychwyn cyntaf. Er enghraifft, mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn cwmpasu deddfwriaeth, rhaglenni ariannu, partneriaethau, a rheoli ystadau gyda’r nod o sicrhau manteision sylweddol i fioamrywiaeth, yn aml ochr yn ochr â chanlyniadau hinsawdd, llesiant a chymunedol.
Gyda’i gilydd, mae’r camau hyn yn cefnogi dull seiliedig ar dystiolaeth cyson a rhagweithiol o gyflawni ein cyfrifoldebau ac yn ein helpu i gyfrannu at wireddu nodau Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru.
Cydweithredu
Mae mynd i’r afael ag argyfyngau deuol natur a hinsawdd yng Nghymru yn gofyn am gydweithredu ar draws y llywodraeth gyfan a’r gymdeithas gyfan. Mae’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yn gosod cyfeiriad rhyngwladol clir: dim ond pan fydd pob sector, cymuned a sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd tuag at nodau cyffredin y mae gwrthdroi colli bioamrywiaeth yn bosibl.
Mae Cymru wedi atgyfnerthu’r egwyddor hon drwy gyflwyno dyletswydd newydd ym Mil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd bioamrywiaeth a’r bygythiadau y mae’n eu hwynebu – gan gydnabod bod cynnydd ystyrlon yn dibynnu nid yn unig ar ddeddfwriaeth, ond ar ddealltwriaeth, ymgysylltiad a pherchnogaeth eang gan gymdeithas. Mae cyflawni newid ar y raddfa angenrheidiol yn golygu cydweddu polisïau, ysgogi cymunedau, grymuso busnesau a sicrhau bod pawb yn chwarae ei ran. Dim ond drwy ymdrech gyfunol a chydlynol y gall Cymru hybu gweithredu, meithrin gwydnwch, a sicrhau dyfodol lle mae’r hinsawdd a byd natur yn cael eu diogelu ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Dilynwch y dolenni i’r camau gweithredu cyfatebol ar gyfer pob nod:
- Nod 1: Amddiffyn, adfer a rheoli ecosystemau yn effeithiol i feithrin eu gwydnwch
- Nod 2: Diogelu rhywogaethau a chreu lle i rywogaethau ffynnu
- Nod 3: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau
- Nod 4: Sefydlu llywodraethiant effeithiol a’r gallu i gyflawni
- Nod 5: Ymgorffori bioamrywiaeth drwy hybu diddordeb ac ymwybyddiaeth i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau effeithiol ar bob lefel
- Nod 6: Gwella ein tystiolaeth a’n gwaith monitro
Nod 1: Amddiffyn, adfer a rheoli ecosystemau yn effeithiol i feithrin eu gwydnwch
Cydweddu â thargedau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang
- 2 – Adfer 30% o’r holl ecosystemau diraddiedig
- 3 – Gwarchod 30% o diroedd, dyfroedd a moroedd
- 10 – Gwella bioamrywiaeth a chynaliadwyedd amaethyddiaeth, dyframaethu, pysgodfeydd a choedwigaeth
- 11 – Cynnal a gwella cyfraniadau natur ar gyfer pobl, gan gynnwys swyddogaethau a gwasanaethau ecosystemau
- 12 – Gwella mannau gwyrdd a chynllunio trefol ar gyfer llesiant dynol a Bioamrywiaeth
Adfer, diogelu a rheoli ein cynefinoedd yn effeithiol
- byddwn yn trawsnewid ein cyfres o safleoedd gwarchodedig er mwyn i’r gyfres fod yn well, yn fwy, ac wedi ei chysylltu’n fwy effeithiol. Byddwn yn gwneud hyn drwy ehangu a chyflymu ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur er mwyn helpu i wella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd gwarchodedig a’u gwneud yn fwy gwydn i newid hinsawdd
- byddwn yn adolygu’r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) er mwyn llywio rhaglen hysbysu gyflymach, gan sicrhau ei bod yn gydnaws â’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Yn y tymor hwy, byddwn yn cychwyn ar raglen uchelgeisiol o ddynodi safleoedd gwarchodedig gyda phroses hysbysu gyflym i atgyfnerthu rhwydweithiau natur, gan flaenoriaethu’r ardaloedd hynny lle mae’r angen eisoes wedi’i nodi
- byddwn yn cydnabod ardaloedd y tu allan i’r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig sy’n cyfrannu at y targed 30x30 drwy ddyfarnu statws Naturfa iddynt, gan ddathlu a gwobrwyo stiwardiaeth eithriadol o natur gan gymunedau ledled Cymru
- byddwn yn atgyfnerthu ein dull o adfer ecosystemau, gan helpu i gyflawni’r weledigaeth a nodwyd yn ein Fframwaith 30x30 i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cydnabod a chefnogi rhwydwaith o safleoedd ar lwybr adfer tuag at y targed 30x30
- i gefnogi hyn, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddarparu cyfres o adnoddau ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi cyflawni Fframwaith 30x30 Cymru, gan gynnwys datblygu a phrototeipio’n barhaus adnodd asesu Naturfa a sefydlu cymuned ymarfer. Bydd yr adnodd a ddyluniwyd ar y cyd yn helpu tirfeddianwyr, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i ddeall a allai eu safleoedd fod yn addas ar gyfer statws Naturfa neu ar gyfer Llwybr Naturfa, gan dynnu ar wersi o’r Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth ac arferion gorau rhyngwladol
- byddwn yn ehangu ac yn helaethu ar ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella cyflwr, cysylltedd a gwydnwch safleoedd gwarchodedig a’r rhwydweithiau ecolegol blaenoriaeth rhyngddynt – gan gefnogi cyflawni Targedau 2 a 3 y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang
- byddwn yn datblygu a chyhoeddi ein mapiau Rhwydweithiau Natur ymhellach, i ddarparu’r sylfaen dystiolaeth ofodol sydd ei hangen i lywio targedu a chyflawni camau gweithredu sy’n cyfrannu at Dargedau 2 a 3 y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang
Datblygu targedau
- byddwn yn cyflwyno rheoliadau drafft i’w cymeradwyo gan y Senedd sy’n gosod targed tymor byr a hirdymor i gymell gweithredu tuag at reoli ecosystemau yn effeithiol, fel sy’n ofynnol gan Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (a fydd yn dod yn Ddeddf cyn bo hir), ac yn gosod drafft o’r rheoliadau hyn gerbron y Senedd o fewn dwy flynedd ar ôl i’r Ddeddf dderbyn Cydsyniad Brenhinol
Mawndiroedd
- rydym wedi treblu ein targedau adfer mawndiroedd o 600 i 1,800 hectar y flwyddyn a byddwn yn cynyddu capasiti cyflawni’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd fel y bydd y rhaglen erbyn 2030 yn cyflawni ar raddfa sy’n gallu bodloni targed sero net 2050 o 45,000 hectar o fawndir wedi’i adfer
Coetiroedd
- byddwn yn cyflwyno Coedwig Genedlaethol i Gymru sy’n cynnwys ardaloedd newydd o goetiroedd cymunedol mewn ardaloedd trefol a gwledig. Bydd y rhain yn helpu i leihau cysylltiad pobl â llygredd aer
- rydym wedi datblygu strategaeth ddiwydiannol pren a all ddatblygu a chynnal cynhyrchu a phrosesu gwerth uchel i bren Cymru
- byddwn yn annog dylunio coedwigoedd da a rheoli cynaliadwy sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymeriad ac ansawdd y dirwedd, yn gwella gwerth bioamrywiaeth y coedwigoedd ac yn sicrhau manteision ehangach, megis rheoli perygl llifogydd
- Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd – mae’n nodi cynllun a chamau gweithredu cynnydd i’w cymryd gan gynnwys creu coetiroedd yng Nghymru, dyluniad ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru a darparu mwy o ‘seilwaith gwyrdd’ trefol drwy atebion ar sail ar natur
- rydym wedi cytuno ar uchelgais plannu coed o 21,500 hectar erbyn 2030 ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod plannu coed yn digwydd mewn ardaloedd trefol allweddol a lleoliadau allweddol eraill er mwyn cyflawni addasu.
- rydym yn datblygu cynllun rheoli coetiroedd i helpu tirfeddianwyr i wella cyflwr coetiroedd llydanddail, conifferaidd a chymysg presennol a rhoi hwb i’w cyflwr cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol
Rheoli tir
- rydym wedi ymrwymo i sicrhau newid cadarnhaol gwirioneddol drwy gynnig cymorth i dirfeddianwyr drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2026 gyda gofyniad bod o leiaf 10% o bob fferm yn cael ei reoli fel cynefin ynghyd â’r gofyniad i ffermydd sydd â safleoedd dynodedig lunio cynllun rheoli i helpu i wella cyflwr y safleoedd
- byddwn hefyd yn cynnig cyfleoedd safle-benodol sydd wedi’u targedu fwy i adfer a gwella cynefinoedd yn haenau Opsiynol a Chydweithredol y cynllun drwy fentrau fel Ffermio Bro a’r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig
- bydd Ffermio Bro yn parhau i gefnogi adferiad natur ar raddfa tirwedd mewn Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gynt), gan gydweddu â chynlluniau rheoli ac atgyfnerthu rôl tirweddau dynodedig wrth gyflawni 30x30
Priddoedd
- byddwn yn parhau i gydlynu ac ymgorffori arfer orau ar gyfer rheoli ein hadnoddau pridd yn gynaliadwy. Bydd hyn yn cael ei lywio drwy fonitro tueddiadau mewn stoc carbon, gwell dealltwriaeth o’r adnodd pridd, pwysigrwydd swyddogaethol bioamrywiaeth pridd a thueddiadau o ran macrofaethynnau a’r rheolaeth ohonynt
Galluogi cyflawni lleol
- byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein Partneriaethau Natur Lleol i gefnogi dulliau partneriaeth cydweithredol ar lefel leol. Mae Partneriaethau Natur Lleol yn dwyn ynghyd sefydliadau, busnesau a chymunedau i gymryd camau ar y cyd i fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol
- byddwn yn cefnogi cymunedau i greu ‘natur ar garreg eich drws’, gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd trefol ac amdrefol drwy ein Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- byddwn yn cyflawni camau gweithredu a nodwyd yn ein Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio i hyrwyddo, creu a gwella cynefinoedd blodau amrywiol a chysylltiedig yn ein trefi, dinasoedd ac ardaloedd datblygedig
- byddwn yn parhau i gyflwyno’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur sy’n annog ymgysylltu â’r gymuned i helpu i wella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd gwarchodedig
Morol a physgodfeydd
- byddwn yn cyflwyno Fframwaith rheoli rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru a Chynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru i sicrhau cydlyniant ecolegol ar draws y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig
- byddwn yn sicrhau cydlyniant ecolegol ar draws ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig ac yn gweithio i reoli’r rhwydwaith yn well a gwella ei gyflwr. Mae gwella ecosystemau morol, eu cysylltedd a’u gwydnwch, yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor ein moroedd
- byddwn yn parhau i gefnogi adfer cynefinoedd morol allweddol ar hyd ein harfordir
- byddwn yn cwblhau ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig, er mwyn sicrhau bod y diffygion wrth amddiffyn cynefinoedd a nodweddion yn cael eu datrys. Bydd hyn yn golygu bod y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn ecolegol gydlynol a chysylltiedig, gan wella eu gwydnwch a’u cyflwr
- byddwn yn cynnal adolygiad o’r Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig, gan gyflwyno tystiolaeth a data newydd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn adnodd rheoli effeithiol
- byddwn yn parhau i gyhoeddi a gweithredu rhaglen o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd fel y nodwyd yn y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (Y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd a Chynlluniau Rheoli Pysgodfeydd) i gyfrannu at gyflawni’r 8 amcan pysgodfeydd yn Neddf Pysgodfeydd 2020
- byddwn yn defnyddio polisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru i gynnal a gwella gwydnwch ecosystemau morol a’r manteision maent yn eu darparu, gan gynnwys canllawiau cynllunio morol newydd i gefnogi’r gwaith o weithredu polisi’r Cynllun Morol ar ecosystemau morol gwydn a chyfleoedd ar gyfer gwella ac adfer ecosystemau
- byddwn yn archwilio sut y byddai dull budd net morol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i fioamrywiaeth fod mewn cyflwr gwell ar ôl datblygu, yn gallu helpu i amddiffyn a gwella ecosystemau morol
- byddwn yn gweithio gyda CNC ac Ystad y Goron i wella’r ddealltwriaeth o gyfleoedd allweddol ar gyfer gwella ecosystemau er mwyn cefnogi gweithredu polisi cynllunio morol
- byddwn yn darparu cyllid i adfer cynefinoedd arfordirol allweddol fel morfeydd heli a morwellt, er mwyn helpu rhywogaethau morol i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â sicrhau manteision ar gyfer prosesau arfordirol, megis lliniaru tonnau a rheoli erydiad
Nod 2: Diogelu rhywogaethau a chreu lle i rywogaethau ffynnu
Cydweddu â thargedau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang
- 4 – Atal difodiant rhywogaethau, diogelu amrywiaeth genetig a rheoli gwrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt
- 5 – Sicrhau bod rhywogaethau gwyllt yn cael eu cynaeafu a’u masnachu mewn ffordd gynaliadwy, ddiogel a chyfreithlon
- 9 – Rheoli rhywogaethau gwyllt mewn ffordd gynaliadwy er budd pobl
- 12 – Gwella mannau gwyrdd a chynllunio trefol ar gyfer lles dynol a bioamrywiaeth
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru
- o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, bydd Gweinidogion Cymru yn paratoi a chyhoeddi diweddariad i’r rhestr o’r organebau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd, yn eu barn hwy, o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru. Bydd hyn yn disodli’r rhestr adran 7 gyfredol
- byddwn yn parhau i gefnogi mentrau fel partneriaeth Natur am Byth i gyflawni prosiectau sy’n canolbwyntio ar asesiadau adfer rhywogaethau ac adfer poblogaethau y rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf yng Nghymru. Mae partneriaeth Natur am Byth yn targedu adfer rhai o’r rhywogaethau yng Nghymru sy’n wynebu’r perygl mwyaf
- mae Gorchymyn Afancod (Cymru) 2026, sy’n rhoi amddiffyniad cyfreithiol ychwanegol i afancod, wedi atgyfnerthu ein hymrwymiad i ailgyflwyno afancod Ewrasiaidd yng Nghymru mewn ffordd a reolir ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn datblygu Strategaeth Afancod Cymru, wedi’i chefnogi a’i llywio gan Fforwm Afancod Cymru, sydd wedi’i sefydlu i ddarparu cyngor arbenigol ar reoli ac i gydlynu ymgysylltu ystyrlon â rhanddeiliaid
- byddwn yn parhau i asesu cyfleoedd ar gyfer ailgyflwyno neu atgyfnerthu rhywogaethau eraill lle mae’r angen ecolegol, budd y cyhoedd a thystiolaeth wyddonol yn cydweddu
Targedau
- byddwn yn cyflwyno rheoliadau drafft i’w cymeradwyo gan y Senedd sy’n gosod targed tymor byr a hirdymor i gymell camau i leihau’r risg o ddifodiant rhywogaethau brodorol fel sy’n ofynnol gan Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (a fydd yn dod yn Ddeddf cyn bo hir), ac yn gosod drafft o’r rheoliadau hyn gerbron y Senedd o fewn dwy flynedd ar ôl i’r Ddeddf dderbyn Cydsyniad Brenhinol. At hynny, rhaid i’r holl dargedau a fydd yn cael eu gosod gyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth neu adfer bioamrywiaeth i lefelau gwydn, yn enwedig drwy un neu fwy o’r canlynol; cynyddu helaethrwydd rhywogaethau brodorol; gwella gwydnwch ecosystemau, neu gynyddu amrywiaeth genetig
Morol
- byddwn yn cyflawni yn erbyn argymhellion a nodwyd yn Strategaeth Gwarchod Adar Môr Cymru i wella poblogaethau adar môr yng Nghymru gan fynd i’r afael â phwysau a bygythiadau allweddol
- byddwn yn parhau i gefnogi adfer cynefinoedd morol allweddol ar hyd ein harfordir
Pysgodfeydd
- byddwn yn penderfynu’n derfynol ar werthusiad strwythurol o’r modd y gallai offer pysgota ryngweithio â nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Bydd yr asesiadau hyn yn cael eu defnyddio i lywio gweithredu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor
- byddwn yn paratoi ac yn cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, yn unol â’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (mae Atodiad A yn nodi’r rhestr lawn o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd sydd i’w cyhoeddi) Y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd a Chynlluniau Rheoli Pysgodfeydd. Prif ffocws yr holl Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd fydd sicrhau cynaeafu ein stociau mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn y tymor hir. Mae Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn ddogfennau sy’n esbonio sut y bydd llywodraethau yn y DU yn rheoli pysgodfeydd penodol fel eu bod yn parhau neu’n dod yn gynaliadwy. Mae cymysgedd o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd ar waith, rhai unigol a rhai ar y cyd, yn dibynnu ar rywogaethau/ardaloedd môr
Pryfed peillio
- byddwn yn parhau i gefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio sy’n ceisio darparu cynefinoedd amrywiol a chysylltiedig sy’n llawn blodau a hybu ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd a’u rheoli ar gyfer pryfed peillio. Mae Tasglu’r Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio yn gweithio i wireddu’r cynllun hwn. Byddwn yn cefnogi’r Tasglu drwy ddarparu ysgrifenyddiaeth, cyfrannu at is-grwpiau ar gais, a chyflawni’r cynllun Caru Gwenyn.
- byddwn yn cyflawni’r Cynllun Gwenyn Iach 2030 (Gwenyn mêl iach) drwy gryfhau bioddiogelwch, gwella cyfnewid gwybodaeth a chefnogi gwenynwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer poblogaethau gwenyn mêl iach a gwydn yng Nghymru. Byddwn hefyd yn parhau i ariannu’r Uned Wenyn Genedlaethol i hyrwyddo gwell hwsmonaeth a gwella arolygu a rheoli clefydau ledled Cymru.
Nod 3: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau
Cydweddu â thargedau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang
- 6 – Cyflwyno 50% yn llai o rywogaethau estron goresgynnol a lleihau eu heffaith
- 7 – Lleihau llygredd i lefelau nad ydynt yn niweidiol i fioamrywiaeth
- 8 – Lleihau effeithiau newid hinsawdd ar fioamrywiaeth a meithrin gwydnwch
- 16 – Galluogi dewisiadau defnydd cynaliadwy i leihau gwastraff a gorddefnydd
- 17 – Atgyfnerthu bioddiogelwch a rhannu manteision biotechnoleg
Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy
- byddwn yn annog dylunio coedwigoedd da a rheoli cynaliadwy sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymeriad ac ansawdd y dirwedd, yn gwella gwerth bioamrywiaeth y coedwigoedd ac yn sicrhau manteision ehangach, megis rheoli perygl llifogydd
- byddwn yn gwella systemau draenio hynafol ledled Cymru, gyda phwyslais ar systemau draenio cynaliadwy ar sail natur yn ein hardaloedd trefol. Bydd hyn yn cynnwys fframweithiau newydd ar gyfer datblygiadau newydd a chymell ymyriadau naturiol mewn ardaloedd o bwysau gan awdurdodau dŵr, carthffosiaeth a draenio. Bydd hyn yn cynyddu ardaloedd gwyrdd a chynyddu gwydnwch i newidiadau yn ein hinsawdd
- rydym wedi cynnwys dulliau sy’n seiliedig ar ddalgylch ac atebion ar sail natur wrth reoli crynofeydd dŵr drwy ddarparu canllawiau i gwmnïau dŵr
- byddwn yn integreiddio atebion ar sail natur wrth gynllunio a datblygu seilwaith newydd sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth
- byddwn yn hyrwyddo canllawiau ac arferion gorau i awdurdodau lleol a chynllunwyr trefol i wella’r broses o gynllunio plannu coed trefol a rhywogaethau planhigion sy’n helpu i leihau cysylltiad pobl â llygredd aer
Rhywogaethau estron goresgynnol
- byddwn yn lleihau nifer y rhywogaethau estron goresgynnol sy’n ymsefydlu o leiaf 50% erbyn 2030, o’i gymharu â’r lefelau a welwyd yn 2000, yn unol â chamau gweithredu allweddol a nodwyd yn y Strategaeth rhywogaethau estron goresgynnol
- byddwn yn cyflawni’r ymrwymiadau a amlinellwyd yn Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr sy’n ymrwymo Cymru, Lloegr a’r Alban i’r canlynol:
- lleihau nifer y rhywogaethau estron goresgynnol sy’n ymsefydlu o leiaf 50% o’i gymharu â lefelau 2000 (atal)
- gwella ein capasiti canfod a monitro yn sylweddol, gan gynnwys cynyddu arolygiadau ac ymchwiliadau (goruchwylio, canfod cynnar a monitro)
- dileu, rheoli neu ffrwyno rhywogaethau estron goresgynnol – wedi’i flaenoriaethu yn ôl yr effaith fwyaf a’r tebygolrwydd o lwyddiant (dileu)
- cytuno ar ddull o flaenoriaethu rhywogaethau yn seiliedig ar risg a thebygolrwydd o lwyddiant er mwyn sicrhau bod ein hymdrechion yn canolbwyntio ar fannau ble maent yn gallu cyflawni’r budd mwyaf (blaenoriaethu a dadansoddi risg);
- cynyddu ymwybyddiaeth o faterion rhywogaethau estron goresgynnol a hyrwyddo newidiadau priodol mewn ymddygiad neu agweddau ar draws pob sector perthnasol ac ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol
Iechyd planhigion
- byddwn yn gweithredu ac yn cyflawni’r cynllun gweithredu a nodwyd yn Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion Prydain 2023 i 2028 i fynd i’r afael â bioddiogelwch planhigion ein cenhedloedd er mwyn:
- datblygu Cofrestr Risg Iechyd Planhigion y DU ymhellach i wella ein dealltwriaeth o risgiau cymhleth a chronnus lle maent yn berthnasol i rywogaethau goresgynnol
- cadw ac adolygu cynlluniau wrth gefn presennol a datblygu cynlluniau wrth gefn pellach ar gyfer plâu penodol, gan gynnwys rhywogaethau goresgynnol
- datblygu cynllun cyfathrebu cyffredinol ar gyfer achosion o glefyd, a pharhau i gynnal Wythnos Iechyd Planhigion Genedlaethol flynyddol, gan gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol
- atgyfnerthu a gwella’r rhaglenni ymchwil a goruchwylio craidd ar gyfer iechyd planhigion sy’n berthnasol i rywogaethau goresgynnol
Lleihau llygredd
- byddwn yn diweddaru ein Polisi Adnoddau Naturiol sy’n nodi polisïau Llywodraeth Cymru i gyflawni rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Bydd hyn yn cynnwys camau i leihau pwysau fel llygredd sy’n effeithio ar fioamrywiaeth ac ecosystemau
- byddwn yn gweithio gyda’r gymuned ffermio i weithredu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i dargedu gweithgareddau y gwyddys eu bod yn achosi llygredd
- byddwn yn parhau i weithredu’r Cynllun Aer Glân i Gymru (2020) sy’n ceisio lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a’n heconomi
- byddwn yn gweithredu’r mesurau sy’n cael eu nodi yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr i wella ansawdd dŵr a diogelu natur rhag llygredd amaethyddol
- rydym wedi cynnwys dulliau sy’n seiliedig ar ddalgylch ac atebion ar sail natur wrth reoli crynofeydd dŵr drwy ddarparu canllawiau i gwmnïau dŵr
- byddwn yn gwella systemau draenio hynafol ledled Cymru, gyda phwyslais ar systemau draenio cynaliadwy ar sail natur yn ein hardaloedd trefol. Bydd hyn yn cynnwys fframweithiau newydd ar gyfer datblygiadau newydd a chymell ymyriadau naturiol mewn ardaloedd o bwysau gan awdurdodau dŵr, carthffosiaeth a draenio. Bydd hyn yn cynyddu ardaloedd gwyrdd a chynyddu gwydnwch i newidiadau yn ein hinsawdd
Gwella ansawdd aer
- mae’r strategaeth genedlaethol ar ansawdd aer, Cynllun aer glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach | LLYW.CYMRU yn amlinellu ein huchelgais a’r camau byddwn yn eu i wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a’r economi. Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn adeiladu ar ymrwymiadau a wnaed yn y strategaeth i amddiffyn pobl yng Nghymru yn well rhag effeithiau andwyol llygredd aer a sŵn
- byddwn yn hyrwyddo canllawiau ac arfer orau i awdurdodau lleol a chynllunwyr trefol i wella’r broses o gynllunio plannu coed trefol a rhywogaethau planhigion sy’n helpu i leihau cysylltiad pobl â llygredd aer
Targedau
- byddwn yn cyflwyno rheoliadau drafft i’w cymeradwyo gan y Senedd sy’n gosod targed statudol i gymell camau i leihau llygredd, fel sy’n ofynnol gan Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (a fydd yn dod yn Ddeddf cyn bo hir), ac yn gosod drafft o’r rheoliadau hyn gerbron y Senedd o fewn dwy flynedd ar ôl i’r Ddeddf dderbyn Cydsyniad Brenhinol
Lleihau gwastraff
- er mwyn symud tuag at economi gylchol, carbon isel, byddwn yn lleihau faint o wastraff a gynhyrchir gan gartrefi, busnesau a’r sector cyhoeddus
- byddwn yn pennu targedau uchelgeisiol ar gyfer darparu economi gylchol a bydd ‘atal’ yn rhan ganolog ohoni
- byddwn yn adeiladu ar y newid diwylliannol sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru fel bod gwastraff diangen yn cael ei atal, cynhyrchion yn cael eu hailddefnyddio a bod trwsio ac ailweithgynhyrchu yn rhan greiddiol o’n cymdeithas
- byddwn yn ymdrechu i gyflawni’r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd drwy weithio gyda llywodraeth leol, busnesau, mentrau cymdeithasol a chymunedau i gymryd y camau nesaf i ddod yn genedl ailgylchu wirioneddol ddatblygedig
Economi gylchol
- byddwn yn cyflawni ein strategaeth Mwy Nag Ailgylchu sy’n ceisio gwireddu’r economi gylchol yng Nghymru, lleihau defnydd anghynaliadwy, defnyddio adnoddau cyhyd â phosibl, lleihau allyriadau a chefnogi adferiad gwyrdd a theg
Cynllunio
- byddwn yn parhau i weithredu Polisi Cynllunio Cymru mewn perthynas â strategaethau seilwaith gwyrdd awdurdodau lleol a Budd Net ar gyfer Bioamrywiaeth. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cynnwys Pennod 6 ‘Lleoedd Unigryw a Naturiol’, sy’n nodi’r cysylltiad penodol rhwng mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel, llesiant corfforol a meddyliol a bioamrywiaeth ac ecosystemau gwydn. Mae’n nodi Asesiadau Seilwaith Gwyrdd y mae’n rhaid i bob awdurdod cynllunio eu cynnal. Drwy ystyried y rhyngweithio rhwng yr amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol, mae’n bosibl datblygu mewn ffordd sydd nid yn unig yn osgoi niweidio’r amgylchedd ond yn ei wella, a gall hefyd helpu i sicrhau bod manteision sy’n deillio o’r amgylchedd naturiol yn cael eu cyflwyno i’r mannau sydd eu hangen
- byddwn yn cynllunio’r gwaith o ddatblygu seilwaith gwyrdd yng nghanol ein cymunedau i bobl gael lle i ymgymryd â gweithgareddau hamdden, i greu coridorau beicio a cherdded, i helpu cymunedau i wrthsefyll llifogydd a gwres, ac i greu lleoedd pwysig ar gyfer natur
- byddwn yn integreiddio atebion ar sail natur wrth gynllunio a datblygu seilwaith newydd sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth
- byddwn yn sicrhau bod ein cymunedau’n elwa ar amgylcheddau iach, drwy nodi cyfleoedd i gymryd camau sy’n mynd i’r afael â chyflyrau anadlol, anweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu mannau gwyrdd a gorchudd coed a gwella mynediad cyhoeddus at seilwaith gwyrdd. Byddwn yn cefnogi cymunedau i wella’r lleoedd lle maent yn byw ac yn gweithio, a mynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol lleol sy’n effeithio ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol, megis sbwriel a thipio anghyfreithlon.
Hinsawdd
- byddwn yn parhau i weithredu a datblygu Cynllun strategol Sero Net Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU sy’n nodi ein taith i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae’n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru i sero net erbyn 2050 drwy gyfres o gyllidebau carbon
- byddwn yn adolygu dulliau a methodolegau er mwyn ystyried pwysau newid hinsawdd yn ystod y cyfnod cynllunio morol nesaf. Byddwn yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu ein fframwaith cynllunio morol ymhellach ac i’n helpu i ystyried a allai cydweddu cynllunio morol ag egwyddorion clyfar o ran yr hinsawdd ddarparu mwy o gyfeiriad ar gyfer datblygu, ar yr un pryd â chefnogi gwydnwch ecosystemau
- byddwn yn parhau i gefnogi’r Bartneriaeth Effeithiau Newid Hinsawdd ar y Môr er mwyn deall prif effeithiau newid hinsawdd ac adolygu a blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael â nhw
- mae Banc Datblygu Cymru wedi ymrwymo i gefnogi targedau Sero Net a thargedau addasu i’r hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd y Banc sy’n darparu pecyn o gymorth i fusnesau Cymru i’w helpu i leihau allyriadau carbon ac arbed ar filiau ynni yn y dyfodol
- byddwn yn rhoi’r camau gweithredu ar gyfer natur ar waith yn unol â’r diweddariad i Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru 2024
- byddwn yn adfer mawndiroedd ac yn eu galluogi i ddal a storio carbon, yn ogystal â rheoleiddio nwyon tŷ gwydr
Rheoli ystadau
- byddwn yn parhau i ehangu mentrau lleihau gwastraff, gwella arwyddion ac annog cyfranogiad staff i leihau effeithiau amgylcheddol
- byddwn yn parhau i adnewyddu achrediad Checkmark gan Waterwise ar draws ein hystâd. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau parhaus i osodiadau sy’n effeithlon o ran dŵr, canfod gollyngiadau, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth staff, wrinalau heb ddŵr a monitro defnydd dŵr i leihau’r defnydd a’r gwastraff
- byddwn yn parhau i osod a chynnal waliau byw, gwelyau plannu uwch y ddaear, pyllau, a strwythurau bywyd gwyllt (tai draenogod, bocsys adar, gwenynfeydd a bocsys ystlumod) ar draws swyddfeydd Llywodraeth Cymru. Mae’r nodweddion hyn yn darparu cynefin drwy gydol y flwyddyn, yn cynyddu cyfleoedd porthiant i bryfed peillio ac yn gwella cysylltedd ecolegol mewn lleoliadau trefol
- byddwn yn parhau i gwtogi ar gyfundrefnau torri gwair i ganiatáu twf blodau gwyllt, gan gefnogi pryfed peillio ac infertebratau
- byddwn yn defnyddio darparwr Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff sy’n gyfleuster trin awdurdodedig a chymeradwy ar gyfer ailgylchu offer trydanol
- byddwn yn atgyfnerthu canlyniadau bioamrywiaeth drwy gaffael drwy ymgorffori asesiad risg cynaliadwyedd, rheoliadau newydd o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 a chydweddu parhaus â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Nod 4: Sefydlu llywodraethiant effeithiol a’r gallu i gyflawni
Cydweddu â thargedau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang
- 14 – Integreiddio bioamrywiaeth ar bob lefel o’r broses o wneud penderfyniadau
- 15 – Busnesau i asesu, datgelu a lleihau risgiau ac effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth
- 18 – Lleihau cymhellion niweidiol a hybu cymhellion cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth
- 19 –Cynyddu lefel yr adnoddau ariannol o bob ffynhonnell yn sylweddol ac yn raddol
Llywodraethu
- byddwn yn sicrhau bod y mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod llywodraethiant cadarn a phriodol ar waith i oruchwylio cyflawni camau gweithredu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru
Cyllid
- byddwn yn parhau i gefnogi adfer natur drwy gyllido rhaglenni gwaith, gan gynnwys: y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Rhaglen Rhwydweithiau Natur, Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, Natur am Byth, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Ffermio Bro a’r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig
Cyllid cynaliadwy
- rydym yn cydnabod y bydd angen cyllid digonol i gymryd camau effeithiol i fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Byddwn yn cymryd camau i nodi ffynonellau cyllido priodol ac unrhyw ymyriadau angenrheidiol gan y llywodraeth i sicrhau eu bod yn cyflawni er budd Cymru drwy:
- ddatblygu safbwynt polisi clir ar fuddsoddiad preifat mewn adfer natur, gan nodi’r cyfleoedd posibl a rhagweld y risgiau, gan gynnwys cyfleoedd i’w lliniaru drwy ymyriadau priodol gan y llywodraeth i gymell gweithredu a gwneud penderfyniadau yn unol â’r Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy
- sicrhau bod grantiau a chymorthdaliadau’r llywodraeth yn cyd-fynd â’r Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ac egwyddorion buddsoddi cynaliadwy er mwyn sicrhau bod cyllid cyhoeddus o fudd i natur yn hytrach na’i niweidio’n anfwriadol
- cefnogi Cronfa MARINE Cymru i gyflwyno cyllid preifat ar gyfer adfer cynefinoedd yn yr amgylchedd morol ac arfordirol, gan gyfrannu at elfen forol ‘30x30’ ac archwilio rôl ‘budd net morol’
- cefnogi’r gwaith o ddatblygu safonau a chodau’r DU ar gyfer dylunio a gweithredu marchnadoedd natur y DU
- yn y tymor hwy, byddwn yn cynyddu buddsoddiad cyhoeddus mewn adfer natur drwy sicrhau bod yr ymateb i’r argyfwng natur yn cael ei integreiddio ar draws adrannau’r llywodraeth.
- mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl y diwydiant gwasanaethau ariannol wrth gefnogi’r buddsoddiad sydd ei angen i Gymru wneud ei rhan wrth gyflawni targedau sero net y DU a gweithredu ar fioamrywiaeth. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod buddsoddiad yn cefnogi pontio teg yng Nghymru a thrwy hynny’n gweithio mewn partneriaeth i nodi modelau ariannu priodol, cydlynu a chyflawni buddsoddiad ar gyfer Sero Net Cymru a tharged bioamrywiaeth ‘30x30’. Mae rhai camau allweddol sy’n digwydd yn cynnwys:
- cefnogi datgeliadau ariannol a chyfrifyddu yng Nghymru drwy gyflwyno strategaethau digidol ac arloesi
- parhau gwaith Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn hwyluso ariannu prosiectau ar gyfer cynlluniau sector cyhoeddus, ynni cymunedol a datgarboneiddio
- sefydlu cronfeydd a byrddau sector a rhanbarth, gydag enghreifftiau’n cynnwys Cronfa Dyfodol yr Economi, Cronfa’r Economi Gylchol, Bargeinion Dinas-ranbarth, Diwydiant Sero Net Cymru a’r Gweithgor Cyllid Coetiroedd
- cyfrannu at y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang drwy ddatblygu cynllun gweithredu i gyflawni’r targed bioamrywiaeth ‘30x30’, gan gynnwys ystyried targedau bioamrywiaeth statudol, a buddsoddiad preifat moesegol a thryloyw mewn adfer natur
- ymrwymiad Banc Datblygu Cymru i gefnogi targedau Sero Net a thargedau addasu i’r hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd y Banc sy’n darparu pecyn o gymorth i fusnesau Cymru i’w helpu i leihau allyriadau carbon ac arbed ar filiau ynni yn y dyfodol
Gweithio gyda busnesau
- byddwn yn sicrhau bod cynlluniau i ehangu cyllid natur yn cynnwys dull gweithredu graddol sy’n cael ei ddatblygu wrth ymgysylltu â chynrychiolwyr busnes allweddol
- byddwn yn datblygu canllawiau ar farchnadoedd natur, gan asesu risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â natur i fusnesau a’r gofod cyllid natur ehangach er mwyn cefnogi cyfranogiad busnesau mewn marchnad sy’n datblygu
- byddwn yn cefnogi cymuned ymarfer a fforwm rhannu gwybodaeth am gyllid natur ar gyfer rhanddeiliaid, gan gynnwys busnesau, drwy gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb ar gyfer busnesau
- byddwn yn cynorthwyo Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru i gyflwyno camau galluogi er mwyn gwella gwydnwch yr amgylchedd morol:
- strategaeth Llythrennedd Morol i ddatblygu dealltwriaeth o’n heffeithiau ar yr amgylchedd morol a sut y gall pawb gyfrannu at ei wydnwch
- cronfa fuddsoddi glas hirdymor i gefnogi camau gweithredu yn ymwneud â gwydnwch morol
- datblygu gallu yn genedlaethol ac mewn cymunedau lleol i ymgysylltu â chamau gweithredu gwydnwch morol a’u rhoi ar waith
Nod 5: Ymgorffori bioamrywiaeth drwy hybu diddordeb ac ymwybyddiaeth i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau effeithiol ar bob lefel
Cydweddu â thargedau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang
- 14 – Integreiddio bioamrywiaeth ar bob lefel o’r broses o wneud penderfyniadau
- 20 – Atgyfnerthu meithrin capasiti, trosglwyddo technoleg a chydweithredu gwyddonol a thechnegol ar gyfer bioamrywiaeth
- 21 – Sicrhau argaeledd gwybodaeth hygyrch i lywio gweithredu bioamrywiaeth
- 22 – Sicrhau cyfranogiad yn y broses o wneud penderfyniadau a mynediad at gyfiawnder a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth i bawb
- 23 – Sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau a dull ymatebol i rywedd ar gyfer gweithredu bioamrywiaeth
Ymgorffori bioamrywiaeth – Cefnogi awdurdodau cyhoeddus eraill i ymgorffori bioamrywiaeth
- byddwn yn cynhyrchu canllawiau newydd ac yn diweddaru’r canllawiau presennol i ystyried darpariaethau Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
- byddwn yn parhau i hyrwyddo’r ddyletswydd o dan adran 6(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth, a thrwy hynny hyrwyddo gwydnwch ecosystemau, wrth arfer eu swyddogaethau yng Nghymru, ac annog ymgorffori ystyriaethau bioamrywiaeth ar gyfer awdurdodau cyhoeddus wrth arfer eu swyddogaethau
Hybu ymwybyddiaeth
- byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu rhaglen o gamau gweithredu i ategu dyletswydd newydd Gweinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth yng Nghymru a bygythiadau iddi, a fydd yn cael ei chyflwyno drwy Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
- byddwn yn cynnwys camau i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yn y rhaglen gyffredinol ar gyfer newid ymddygiad o ran newid hinsawdd
- byddwn yn gwella addysg ac ymwybyddiaeth o’r argyfyngau natur a hinsawdd a’r camau sydd ar gael i unigolion a sefydliadau
- byddwn yn cynyddu lefel ymwneud a chyfranogiad dinasyddion mewn camau gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, gan adeiladu ar raglen Natur a Ni (a Chynllun y Bobl ar gyfer Natur)
- byddwn yn ymgorffori bioamrywiaeth ymhellach ar draws meysydd polisi drwy asesiadau effaith integredig sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob maes polisi ystyried bioamrywiaeth wrth ddatblygu rhaglenni
Camau galluogi
- byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein Partneriaethau Natur Lleol i gefnogi dulliau partneriaeth cydweithredol ar lefel leol. Mae Partneriaethau Natur Lleol yn dwyn ynghyd sefydliadau, busnesau a chymunedau i gymryd camau ar y cyd i fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol
- byddwn yn parhau i ddiweddaru a defnyddio ein Datganiadau Ardal statudol i arwain camau gweithredu ar sail lle i gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn ein Polisi Adnoddau Naturiol. Yn ogystal, byddwn yn datblygu ein Rhwydweithiau Natur ymhellach a chyhoeddi mapiau sy’n darparu canllawiau gofodol ar gyfer cyflawni targedau 2 a 3 y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang
- byddwn yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio a rhanddeiliaid i dreialu canllawiau strategol ar gyfer Polisi 9 Cymru’r Dyfodol, hyrwyddo rhwydweithiau ecolegol cadarn a seilwaith gwyrdd. Byddwn hefyd yn cyflawni’r dull budd net ar gyfer bioamrywiaeth a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru, gan ddefnyddio Fframwaith DECCA a mesurau gwarchod cryfach ar gyfer SoDdGAu
- byddwn yn cynorthwyo Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru i gyflwyno camau galluogi er mwyn gwella gwydnwch yr amgylchedd morol:
- gweithredu ‘Y Môr a Ni’, Strategaeth Llythrennedd Morol ar gyfer Cymru, i ddatblygu dealltwriaeth o’n heffaith ar yr amgylchedd morol a sut y gall pawb gyfrannu at ei wydnwch.
- datblygu gallu yn genedlaethol ac mewn cymunedau lleol i ymgysylltu â chamau gweithredu gwydnwch morol a’u rhoi ar waith
Gwybodaeth a sgiliau
- byddwn yn ehangu a gwella cynlluniau adeiladu capasiti a gallu i gefnogi’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat i gyflymu’r gwaith o gyflawni ar gyfer adfer natur. Bydd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar gadernid ariannol a pharodrwydd i fuddsoddi
- byddwn yn darparu cwrs Nabod Natur i staff Llywodraeth Cymru, gan eu helpu i ddeall y cysylltiadau rhwng pobl a natur a chamau gweithredu sy’n helpu bioamrywiaeth
- byddwn yn parhau i gefnogi Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru i hyrwyddo a hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth
Nod 6: Gwella ein tystiolaeth a’n gwaith monitro
Cydweddu â thargedau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang
- 1 – Cynllunio a rheoli pob maes i leihau colledion bioamrywiaeth
- 21 – Sicrhau argaeledd gwybodaeth hygyrch i lywio gweithredu bioamrywiaeth
Modelu a senarios
- byddwn yn datblygu senarios i brofi uchelgais targedau ac yna ceisio modelu’r allbynnau i lywio gwaith cyflawni yn y dyfodol
Targedau
- byddwn yn cyflwyno rheoliadau drafft i’w cymeradwyo gan y Senedd sy’n gosod targed statudol i gymell gweithredu ynghylch ansawdd tystiolaeth i lywio penderfyniadau sy’n ymwneud â bioamrywiaeth, a’r gallu i gael gafael ar y dystiolaeth honno a’i defnyddio a’i chymhwyso fel sy’n ofynnol gan Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (a fydd yn dod yn Ddeddf cyn bo hir), ac yn gosod drafft o’r rheoliadau hyn gerbron y Senedd o fewn dwy flynedd ar ôl i’r Ddeddf dderbyn Cydsyniad Brenhinol
Monitro, gwerthuso ac adolygu
- byddwn yn parhau i adrodd yn erbyn cyfres o Gerrig Milltir Cenedlaethol – Dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol i Gymru, gan gynnwys gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050. Ategir hyn gan ddangosydd ar statws rhywogaethau â blaenoriaeth yng Nghymru ac un arall ar hyd a lled ecosystemau iach
- byddwn yn parhau i adolygu ac adrodd ar effeithiau polisïau yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru a’u heffeithiolrwydd wrth sicrhau amcanion y cynllun
- byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar ein cyflawniad yn erbyn y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ac yn adrodd ar yr 8fed Adroddiad Cenedlaethol dilynol, a fydd yn cael ei baratoi ar y cyd â Llywodraeth y DU
- byddwn yn creu fframwaith monitro a gwerthuso yn unol â’r hyn sy’n cael ei nodi yn ein bil newydd, Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), i ategu’r gwaith o ddatblygu a chyflawni’r rhaglenni Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru a’n targedau bioamrywiaeth
- 30x30 – Byddwn yn gweithio gyda’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) i ddatblygu/addasu’r Dangosydd Effeithiolrwydd Rheoli Ardaloedd Gwarchodedig a Chadwraeth (MEPCA) (Dangosydd MEPCA | Cynghorydd i’r Llywodraeth ar Gadwraeth Natur | JNCC ) ar gyfer asesu pa mor effeithiol y mae ardaloedd gwarchodedig a safleoedd Naturfa yn cael eu rheoli yng Nghymru
- byddwn yn parhau i weithio gyda JNCC ar ddatblygu ac adrodd ar Ddangosyddion Bioamrywiaeth y DU
- byddwn yn cynnal gwerthusiad o Ganolfannau Cofnodion yr Amgylchedd Lleol
Mae’r rhestr isod yn dangos sut mae chwe nod Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru yn cyd-fynd â thargedau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang.
Erbyn 2050, mae bioamrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi, ei gwarchod, ei hadfer a’i defnyddio’n ddoeth, gan ategu gwasanaethau ecosystem, cynnal planed iach a darparu buddion hanfodol i bobl ym mhobman
Nod 1: Amddiffyn, adfer a rheoli ecosystemau yn effeithiol i feithrin eu gwydnwch
Kunming Montreal Global Biodiversity Framework: 2030 targets (on Convention on Biological Diversity):
- 2 – Adfer 30% o’r holl ecosystemau diraddiedig
- 3 – Gwarchod 30% o diroedd, dyfroedd a moroedd
- 10 – Gwella bioamrywiaeth a chynaliadwyedd amaethyddiaeth, dyframaethu, pysgodfeydd a choedwigaeth
- 11 – Cynnal a gwella cyfraniadau natur ar gyfer pobl, gan gynnwys swyddogaethau a gwasanaethau ecosystemau
- 12 – Gwella mannau gwyrdd a chynllunio trefol ar gyfer llesiant dynol a bioamrywiaeth
Nod 2: Diogelu rhywogaethau a chreu lle i rywogaethau ffynnu
Kunming Montreal Global Biodiversity Framework: 2030 targets (on Convention on Biological Diversity):
- 4 – Atal difodiant rhywogaethau, diogelu amrywiaeth genetig a rheoli gwrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt
- 5 – Sicrhau bod rhywogaethau gwyllt yn cael eu cynaeafu a’u masnachu mewn ffordd gynaliadwy, ddiogel a chyfreithlon
- 9 – Rheoli rhywogaethau gwyllt mewn ffordd gynaliadwy er budd pobl
- 12 – Gwella mannau gwyrdd a chynllunio trefol ar gyfer llesiant dynol a bioamrywiaeth
Nod 3: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau
Kunming Montreal Global Biodiversity Framework: 2030 targets (on Convention on Biological Diversity):
- 6 – Cyflwyno 50% yn llai o rywogaethau estron goresgynnol a lleihau eu heffaith
- 7 – Lleihau llygredd i lefelau nad ydynt yn niweidiol i fioamrywiaeth
- 8 – Lleihau effeithiau newid hinsawdd ar fioamrywiaeth a meithrin gwydnwch
- 10 – Gwella bioamrywiaeth a chynaliadwyedd amaethyddiaeth, dyframaethu, pysgodfeydd a choedwigaeth
- 16 – Galluogi dewisiadau defnydd cynaliadwy i leihau gwastraff a gorddefnydd
17 – Atgyfnerthu bioddiogelwch a rhannu manteision biotechnoleg
Nod 4: Sefydlu llywodraethiant effeithiol a’r gallu i gyflawni
Kunming Montreal Global Biodiversity Framework: 2030 targets (on Convention on Biological Diversity):
- 14 – Integreiddio bioamrywiaeth mewn penderfyniadau ar bob lefel
- 15 – Busnesau i asesu, datgelu a lleihau risgiau ac effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth
- 18 – Lleihau cymhellion niweidiol a hybu cymhellion cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth
- 19 – Cynyddu lefel yr adnoddau ariannol o bob ffynhonnell yn sylweddol ac yn raddol
Nod 5: Ymgorffori bioamrywiaeth drwy hybu diddordeb ac ymwybyddiaeth i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau effeithiol ar bob lefel
Kunming Montreal Global Biodiversity Framework: 2030 targets (on Convention on Biological Diversity):
- 14 – Integreiddio bioamrywiaeth mewn penderfyniadau ar bob lefel
- 20 – Cryfhau’r gallu i feithrin capasiti, trosglwyddo technoleg, a chydweithredu gwyddonol a thechnegol ar gyfer bioamrywiaeth
- 21 – Sicrhau argaeledd gwybodaeth hygyrch i lywio gweithredu ar fioamrywiaeth
- 22 – Sicrhau cyfranogiad mewn penderfyniadau a mynediad at gyfiawnder a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth i bawb
- 23 – Sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau a dull ymatebol i rywedd ar gyfer gweithredu ar fioamrywiaeth
Nod 6: Gwella ein tystiolaeth a’n gwaith monitro
Kunming Montreal Global Biodiversity Framework: 2030 targets (on Convention on Biological Diversity):
- 1 – Cynllunio a rheoli pob maes i leihau colledion bioamrywiaeth
- 21 – Sicrhau argaeledd gwybodaeth hygyrch i lywio gweithredu ar fioamrywiaeth
