Canllawiau technegol ar yr Ardoll Ymwelwyr ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr - Trefniadau trydydd parti a’r Ardoll Ymwelwyr
Canllawiau manwl ar yr Ardoll Ymwelwyr ar gyfer darparwyr llety i ymwelwyr yng Nghymru.
Er bod darparwr llety ymwelwyr yn parhau i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â'r Ardoll Ymwelwyr a'u rhwymedigaethau treth, gallant wneud trefniadau gyda thrydydd parti i’w helpu i gyflawni’r rhwymedigaethau hynny.
Yn benodol, gall darparwr llety ymwelwyr ymrwymo i drefniadau gydag un neu fwy o drydydd partïon ar gyfer:
- casglu symiau i dalu’r ardoll mewn perthynas ag arosiadau dros nos yn eu llety ymwelwyr
- llenwi ffurflenni’r ardoll neu dalu’r ardoll i ACC
- cyhoeddi ad-daliadau symiau a gasglwyd ar gyfer talu’r ardoll
Gall trydydd partïon gynnwys asiantau teithio ar-lein, llwyfannau archebu neu bartïon eraill sy'n ymwneud â rhedeg busnes neu fasnach y darparwr llety ymwelwyr. Mewn rhai achosion, gall y partïon hyn gasglu swm i dalu'r ardoll ar ran y darparwr llety ymwelwyr cyn ei drosglwyddo i'r darparwr ynghyd â thaliadau eraill mewn perthynas ag unrhyw archebion a wneir trwy eu platfform.
Ni all darparwyr llety ymwelwyr ddibynnu’n llwyr ar drydydd partïon i gyflawni eu rhwymedigaethau o ran yr ardoll, y darparwr sydd yn dal i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am gydymffurfio â'r ardoll.
