Os yw contract presennol yn cael ei amrywio 6 mis ar ôl y dyddiad pan benderfynodd y cyngor gyflwyno'r ardoll, ac yna bod arhosiad dros nos yn digwydd pan fo:
- un neu fwy o bobl yn cael eu hychwanegu at yr archeb ac yn cael hawl i aros dros nos yn y llety ymwelwyr
- un neu fwy o nosweithiau yn cael eu hychwanegu at yr archeb
Dim ond ar arosiadau dros nos y personau ychwanegol neu’r nosweithiau ychwanegol o dan y contract y bydd yr Ardoll Ymwelwyr yn cael ei chyfrifo.
Pan fo dyddiadau arhosiad yn cael eu symud, wythnos neu fis yn ddiweddarach er enghraifft, bydd yr amrywiad i’r contract ar gyfer yr arhosiad yn dod o fewn cwmpas yr ardoll. Pan fo dyddiadau'n cael eu symud ond bod rhai dyddiadau cyffredin rhwng yr archeb wreiddiol a'r trefniant newydd, dim ond y nosweithiau newydd fydd o fewn cwmpas yr ardoll.
Enghraifft o ychwanegu mwy o westeion at gontract
Ar 31 Mawrth 2026, mae cyngor lleol yn cyhoeddi hysbysiad yn dweud y byddant yn cyflwyno’r ardoll ar 1 Ebrill 2027. Bydd angen i ddarparwr llety ymwelwyr sydd â llety ymwelwyr yn yr ardal dan sylw ddechrau paratoi a chadw cofnodion o 1 Hydref 2026 ymlaen ar gyfer arosiadau dros nos sy'n digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2027.
Mae Mary a John yn archebu lle mewn bwthyn yn yr ardal honno ar gyfer Medi 2027 gan ddarparwr llety ymwelwyr. Maent yn archebu ym mis Chwefror 2026. Gan eu bod wedi archebu eu harhosiad cyn i'r prif gyngor gyhoeddi hysbysiad i gyflwyno'r ardoll, nid yw’r ardoll yn berthnasol i’r arosiadau dros nos, er y bydd Mary a John yn aros yn y bwthyn ar ôl i'r ardoll gael ei chyflwyno.
Yn ddiweddarach, mae Mary a John yn penderfynu gwahodd eu merch, Alison, i aros gyda nhw. Maent yn ei hychwanegu at yr archeb ar 1 Rhagfyr 2026. Gan eu bod wedi amrywio'r contract ar ôl 1 Hydref 2026 ac wedi ychwanegu Alison at yr archeb fwy na chwe mis ar ôl i'r cyngor benderfynu cyflwyno'r ardoll, bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr dalu ardoll am ran Alison o'r arhosiad ar ôl iddo ddigwydd. Ni fydd ardoll yn daladwy am arosiadau Mary a John.
Enghraifft o ychwanegu mwy o nosweithiau at gontract
Yn yr un ardal, mae Clyde yn archebu lle i aros mewn gwesty am 2 noson ym mis Awst 2027. Mae'n archebu ym mis Mai 2026. Mae hyn ar ôl y dyddiad y penderfynodd y cyngor gyflwyno'r ardoll, ond o fewn 6 mis i ddyddiad eu cyhoeddiad.
Mae hyn yn golygu na fyddai unrhyw arhosiad dros nos yn digwydd at ddibenion yr ardoll. Ym mis Mawrth 2027, mae Clyde yn ychwanegu 3 noson arall at ei archeb. Gan fod Clyde wedi amrywio'r contract ar ôl 1 Hydref 2026 ac wedi ychwanegu nosweithiau at yr archeb, a hynny dros chwe mis ar ôl i'r cyngor benderfynu cyflwyno'r ardoll, ar ôl i’r arhosiad ddigwydd bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr dalu’r ardoll ar y 3 noson y mae Clyde wedi'u hychwanegu. Ni fydd ardoll yn daladwy ar y 2 noson wreiddiol.
Enghraifft o symud pob diwrnod a archebwyd
Yn yr un ardal, mae Reid yn archebu 4 noson mewn gwesty ym mis Rhagfyr 2027, gan ddechrau ar 1 Rhagfyr 2027. Mae'n archebu ei daith ym mis Mehefin 2026. Mae hyn ar ôl y dyddiad y penderfynodd y cyngor gyflwyno'r ardoll arno, ond o fewn 6 mis o ddyddiad eu cyhoeddiad, felly ni fyddai’r ardoll yn berthnasol i unrhyw un o’r nosweithiau.
Ym mis Ionawr 2027, mae Reid yn cysylltu â'r gwesty ac yn newid dyddiadau’r arhosiad i ddechrau ar 12 Rhagfyr 2027. Gan fod Reid wedi amrywio ei gontract trwy newid y dyddiadau i fod ar ôl 1 Hydref 2026, a chwe mis neu fwy wedi i'r cyngor benderfynu cyflwyno'r ardoll, bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr dalu’r ardoll ar y 4 noson ar ôl i Reid aros yn y gwesty.
Enghraifft o symud rhai o ddyddiau archeb
Yn yr un ardal, mae Lorna yn archebu 4 noson mewn gwesty ym mis Rhagfyr 2027, gan gyrraedd ddydd Llun 6 Rhagfyr a gadael ddydd Gwener 10 Rhagfyr. Mae hi'n archebu ei thaith ym mis Gorffennaf 2026. Mae hyn ar ôl y dyddiad y penderfynodd y cyngor gyflwyno'r ardoll arno, ond o fewn 6 mis o ddyddiad eu cyhoeddiad, felly ni fyddai’r ardoll yn berthnasol i unrhyw un o’r nosweithiau.
Ym mis Ionawr 2027, mae Lorna yn cysylltu â'r gwesty ac yn symud dyddiadau ei harhosiad i ddechrau ddydd Mawrth 7 Rhagfyr, ac i adael y gwesty ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr. Mae'r contract wedi cael ei amrywio gan fod dyddiadau'r arhosiad wedi’u newid.
Gan fod Lorna wedi amrywio ei chontract trwy symud y dyddiad y bydd yn cyrraedd i ddydd Mawrth 7 Rhagfyr, a’i bod hi wedi gwneud hynny ar ôl 1 Hydref 2026 a mwy na chwe mis ar ôl i'r cyngor benderfynu cyflwyno'r ardoll, bydd angen i'r darparwr llety i ymwelwyr gyfrifo’r ardoll ar gyfer yr archeb.
Yn yr achos hwn, dim ond 1 noson sydd o fewn cwmpas yr ardoll; yn wreiddiol roedd Lorna yn mynd i aros ar nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau, ond nid nos Wener. Gan y bydd hi nawr yn aros ar y nos Wener hefyd, bydd y noswaith honno o fewn cwmpas yr ardoll.