Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Ystyr Llety Ymwelwyr
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Llety Ymwelwyr
Mae'r Ardoll Ymwelwyr yn daladwy ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yng Nghymru mewn ardaloedd lle mae'r ardoll yn berthnasol. Bras yw’r diffiniad o lety ymwelwyr, ac mae'r canllawiau isod yn trafod y gwahanol fathau o lety ac a ydyn nhw’n cael eu dosbarthu’n llety ymwelwyr neu beidio.
Mae llety ymwelwyr yn cynnwys llety:
- mewn gwesty, tŷ llety, gwely a brecwast neu lety tebyg
- mewn hostel ieuenctid, tŷ bync neu lety tebyg
- mewn parc gwyliau neu gyrchfan wyliau, megis cabanau, chalets a bythynnod
Lleiniau neu Ardaloedd
Mae llety ymwelwyr yn cynnwys lleiniau neu ardal a ddarperir ar gyfer:
- gwersylla
- cartrefi symudol nad ydynt wedi'u lleoli'n barhaol neu'n lled-barhaol mewn un lle
Enghraifft 1
Mae gan Agatha fan wersylla ac mae'n archebu llain mewn parc carafannau am 10 diwrnod. Gan fod Agatha wedi archebu llain ar gyfer ei fan, mae'r llain ei hun yn cael ei ystyried yn llety ymwelwyr, a hynny oherwydd mai dyna'r ardal sy’n cael ei archebu, a chan mai dim ond am gyfnod o 10 diwrnod y bydd ei fan wedi'i lleoli ar y llain.
Enghraifft 2
Mae gan Thomas garafán, mae'n ei pharcio dros nos mewn maes parcio sydd â chaniatâd penodol i ganiatáu i gartrefi symudol barcio yno dros nos, cyn belled â'u bod yn talu ffi am aros dros nos. Gan fod Thomas wedi parcio mewn rhan o'r maes parcio lle caiff ei gartref symudol aros dros nos, mae'r ardal dan sylw yn cael ei dosbarthu fel llety ymwelwyr.
Diffiniad o gartrefi symudol a badau
At ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, diffinnir Cartref Symudol fel a ganlyn unrhyw:
- gerbyd modur sydd wedi'i ddylunio neu ei addasu er mwyn i bobl allu byw ynddo, a
- strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sy’n gallu cael ei symud o’r naill le i’r llall, pa un ai drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd
Nid yw'r term cartref symudol yn cynnwys y canlynol yn benodol:
- pebyll
- cerbydau rheilffordd sy'n rhan o'r system reilffyrdd
- awyrennau
- badau
Ystyr badau yma yw llong, cwch, rafft, neu gyfarpar arall a adeiladwyd neu a addaswyd i arnofio ar ddŵr, ac a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo.
Llety ymwelwyr a gynigir ar sail tymor byr
Mae llety ymwelwyr yn cynnwys rhai mathau o lety a gaiff eu cynnig ar sail tymor byr.
At ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, bydd llety yn cael ei gynnig ar sail tymor byr os yw’r darparwr llety ymwelwyr yn cynnig llety am gyfnodau o 31 diwrnod neu lai. Nid oes ots a yw’r llety ymwelwyr yn cael ei gynnig ar sail tymor byr trwy’r adeg ynteu ond o bryd i’w gilydd.
Does ots a yw'r nosweithiau'n olynol ai peidio, yr agwedd allweddol yw bod arosiadau’n cael eu cynnig am 31 noson neu lai.
Mae’r mathau o lety canlynol yn lety ymwelwyr os ydynt yn cael eu cynnig ar sail tymor byr ac at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol:
- llety mewn cartref symudol, bad neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle
- llety hunanarlwyo
- unrhyw fath arall o lety sydd ddim yn perthyn i un o’r categorïau uchod
Enghraifft 1
Mae Elliot yn archebu gwyliau yng Nghymru ac yn dewis aros mewn carafán statig. Gellir archebu'r garafán am hyd at 25 noson yn unig, ac mae ar gael y rhan fwyaf o'r flwyddyn i ymwelwyr sy'n teithio at ddibenion hamdden neu fusnes. Y garafán statig yw'r llety ymwelwyr yn yr achos hwn. Mae wedi'i leoli'n barhaol mewn un lle a caiff ei chynnig ar sail tymor byr at ddefnydd hamdden neu fusnes.
Enghraifft 2
Mae Ash yn archebu lle i aros ar gwch breswyl sydd wedi'i hangori yn yr un lle’n barhaol. Gellir archebu'r cwch breswyl hon am hyd at 4 wythnos, ac mae ar gael yn ystod y gwanwyn a'r haf i westeion hamdden. Y cwch yw'r llety ymwelwyr yn yr achos hwn, gan ei fod yn yr un lle yn barhaol ac mae'n cael ei gynnig ar sail tymor byr ar gyfer hamddena.
Llety nad yw'n cael ei ystyried yn lety ymwelwyr
Safle Sipsiwn a Theithwyr
Ni fydd llety ar safle Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei ystyried fel llety ymwelwyr at ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr. Mae safle Sipsiwn a Theithwyr yn golygu tir sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i barcio cartrefi symudol sy'n llety ar gyfer:
- pobl sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, a
- unrhyw bobl eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol
Byddai pobl sy’n byw bywydau nomadaidd yn cynnwys:
- pobl sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
- aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcas deithiol, pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio
Cartrefi symudol, badau neu gerbydau eraill
Mae llety mewn cartrefi symudol, badau neu gerbydau eraill yn cael ei ystyried yn lety ymwelwyr dim ond pan fydd wedi'i leoli'n barhaol neu'n lled-barhaol mewn un lle ac yn cael ei gynnig ar sail tymor byr, boed hynny trwy'r amser neu'n achlysurol, ar gyfer busnes, teithio hamdden neu deithiau addysgol.
Bydd llain neu ardal ar gyfer cartref symudol yn cael ei ystyried yn llety ymwelwyr dim ond pan fo’n cael ei ddarparu ar gyfer cartref symudol nad yw wedi'i leoli mewn un lle naill ai yn barhaol neu'n lled-barhaol.
Enghraifft 1
Mae Polly’n byw mewn carafán statig ar barc carafannau preswyl, a dyma ei phrif breswylfa. Mae hi'n talu am ei llain bob mis, ac mae ganddi hawl i fyw yn y garafán trwy gydol y flwyddyn. Nid yw'r garafán yn llety ymwelwyr, gan ei bod y aros yn ei hunfan yn barhaol, nid yw Polly yn ei chynnig i'w rhentu ar gyfer busnes, teithio hamdden neu deithiau addysgol tymor byr, a hynny gan mai dyma ei chartref.
Nid yw'r llain lle mae'r garafán yn llety ymwelwyr ychwaith, gan ei fod yn cael ei ddarparu ar gyfer cartref symudol sydd yn ei unfan yn barhaol.
Enghraifft 2
Gan ddefnyddio'r un enghraifft ag uchod, pe bai Polly’n gosod y garafán i bobl aros dros nos tymor byr, yna byddai'r garafán yn llety ymwelwyr. Ni fyddai'r llain lle mae’r garafán yn llety ymwelwyr.
