Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Darpariaethau trosiannol yr Ardoll Ymwelwyr
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae darpariaethau trosiannol yn berthnasol pan fo prif gyngor wedi cyflwyno ardoll neu mae'r ardoll yn cael ei newid, er enghraifft newid cyfradd yr ardoll.
Cyflwyno'r ardoll
Bydd prif gyngor yn cyhoeddi hysbysiad pan fyddant yn cyflwyno'r ardoll yn eu hardal, gan gynnwys pryd y bydd yr ardoll yn cael ei chyflwyno. Ni fydd unrhyw gontractau a wneir rhwng ymwelwyr a darparwyr llety ymwelwyr ar gyfer arosiadau sy'n digwydd ar, neu ar ôl, cyflwyno'r ardoll yn cyfrif fel arosiadau dros nos at ddibenion yr ardoll os byddant yn eu gwneud:
- cyn i'r prif gyngor gyhoeddi eu hysbysiad, neu
- o fewn 6 mis i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad
Mae’r rhain 'y tu hwnt i gwmpas' yr ardoll at ddibenion yr adran hon o ganllawiau.
Chwe mis ar ôl i’r prif gyngor gyhoeddi eu hysbysiad, bydd archebion sy'n cael eu gwneud mewn llety ymwelwyr ar gyfer arosiadau a fydd yn digwydd ar ôl cyflwyno’r ardoll yn cael eu hystyried o fewn cwmpas yr ardoll.
Enghraifft
Ar 31 Mawrth 2026, mae cyngor lleol yn cyhoeddi hysbysiad yn dweud y byddant yn cyflwyno’r ardoll ar 1 Ebrill 2027. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ddarparwyr llety ymwelwyr gyfrif am yr ardoll ar unrhyw arosiadau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2027, ond dim ond os ydynt wedi cael eu harchebu, neu os cafodd y contract ei amrywio, ar neu ar ôl 1 Hydref 2026.
Mae hyn yn golygu, ar gyfer arhosiad rhwng 10 Mai a 17 Mai 2027:
- na fyddwch yn talu'r ardoll os cafodd yr arhosiad ei archebu ar 30 Medi 2026 neu'n gynharach, ac os nad yw wedi cael ei newid, ond
- rhaid i chi dalu'r ardoll os cafodd yr arhosiad ei archebu ar 1 Hydref 2026 neu'n ddiweddarach
Amrywio contractau
Os yw contract presennol yn cael ei amrywio 6 mis ar ôl y dyddiad pan benderfynodd y cyngor gyflwyno'r ardoll, ac yna bod arhosiad dros nos yn digwydd pan fo:
- un neu fwy o bobl yn cael eu hychwanegu at yr archeb ac yn cael hawl i aros dros nos yn y llety ymwelwyr
- un neu fwy o nosweithiau yn cael eu hychwanegu at yr archeb
Dim ond ar arosiadau dros nos y personau ychwanegol neu’r nosweithiau ychwanegol o dan y contract y bydd yr Ardoll Ymwelwyr yn cael ei chyfrifo.
Enghraifft 1
Ar 31 Mawrth 2026, mae cyngor lleol yn cyhoeddi hysbysiad yn dweud y byddant yn cyflwyno’r ardoll ar 1 Ebrill 2027. Bydd angen i ddarparwr llety ymwelwyr sydd â llety ymwelwyr yn yr ardal dan sylw ddechrau paratoi a chadw cofnodion o 1 Hydref 2026 ymlaen ar gyfer arosiadau dros nos sy'n digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2027.
Mae Mary a John yn archebu lle mewn bwthyn yn yr ardal honno ar gyfer Medi 2027 gan ddarparwr llety ymwelwyr. Maent yn archebu ym mis Chwefror 2026. Gan eu bod wedi archebu eu harhosiad cyn i'r prif gyngor gyhoeddi hysbysiad i gyflwyno'r ardoll, nid yw’r ardoll yn berthnasol i’r arosiadau dros nos, er y bydd Mary a John yn aros yn y bwthyn ar ôl i'r ardoll gael ei chyflwyno.
Yn ddiweddarach, mae Mary a John yn penderfynu gwahodd eu merch, Alison, i aros gyda nhw. Maent yn ei hychwanegu at yr archeb ar 1 Rhagfyr 2026. Gan eu bod wedi amrywio'r contract ar ôl 1 Hydref 2026 ac wedi ychwanegu Alison at yr archeb fwy na chwe mis ar ôl i'r cyngor benderfynu cyflwyno'r ardoll, bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr dalu ardoll am ran Alison o'r arhosiad ar ôl iddo ddigwydd. Ni fydd ardoll yn daladwy am arosiadau Mary a John.
Enghraifft 2
Yn yr un ardal, mae Clyde yn archebu lle i aros mewn gwesty am 2 noson ym mis Awst 2027. Mae'n archebu ym mis Mai 2026. Mae hyn ar ôl y dyddiad y penderfynodd y cyngor gyflwyno'r ardoll, ond o fewn 6 mis i ddyddiad eu cyhoeddiad.
Mae hyn yn golygu na fyddai unrhyw arhosiad dros nos yn digwydd at ddibenion yr ardoll. Ym mis Mawrth 2027, mae Clyde yn ychwanegu 3 noson arall at ei archeb. Gan fod Clyde wedi amrywio'r contract ar ôl 1 Hydref 2026 ac wedi ychwanegu nosweithiau at yr archeb, a hynny dros chwe mis ar ôl i'r cyngor benderfynu cyflwyno'r ardoll, ar ôl i’r arhosiad ddigwydd bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr dalu’r ardoll ar y 3 noson y mae Clyde wedi'u hychwanegu. Ni fydd ardoll yn daladwy ar y 2 noson wreiddiol.
Newidiadau i'r ardoll
Pan fo'r prif gyngor yn gwneud newid i'r ardoll, megis ychwanegu swm at gyfradd is neu uwch yr ardoll, nid yw'r newid hwnnw'n berthnasol i arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr os gwnaed y contract cyn i'r prif gyngor benderfynu newid yr ardoll.
Dim ond os bydd Gweinidogion Cymru yn cyflwyno rheoliadau ychwanegol y bydd prif gynghorau yn gallu gwneud newidiadau i'r ardoll.
