Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Cyflwyno, newid a diddymu'r ardoll
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyno'r ardoll
Pan fydd prif gyngor wedi cynnal eu hymgynghoriad ac wedi penderfynu cyflwyno'r ardoll yn eu hardal, bydd angen iddynt gyhoeddi hysbysiad i ddatgan eu penderfyniad.
Bydd angen gwneud yr hysbysiad ar wefan y prif gyngor, ac ar unrhyw gyfryngau eraill y mae'r prif gyngor yn eu hystyried yn briodol. Rhaid i'r hysbysiad ddatgan:
- y penderfyniad i gyflwyno'r ardoll yn eu hardal
- y dyddiad y bydd yr ardoll yn cael ei chyflwyno yn eu hardal, a all fod ar 1 Ebrill neu 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn ariannol
- cyfraddau'r ardoll
- unrhyw wybodaeth arall y mae'r cyngor yn credu ei bod yn briodol i'w chynnwys yn yr hysbysiad
Yn ogystal â'r uchod, rhaid i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi o leiaf 12 mis cyn i'r ardoll gael ei chyflwyno yn ardal y cyngor. Mae hyn yn golygu mai'r dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad fydd:
- 31 Mawrth, i gyflwyno'r ardoll ar 1 Ebrill y flwyddyn ganlynol
- 30 Medi, i gyflwyno'r ardoll ar 1 Hydref y flwyddyn ganlynol
Trwy eithriad, gall prif gyngor ddod i gytundeb ag ACC ar gyfnod sy'n fyrrach na 12 mis.
Bydd darparwyr llety ymwelwyr yn gallu dod o hyd i wybodaeth am brif gynghorau sydd wedi ymgynghori neu sydd yn ymgynghori ar hyn, yn ogystal â'u penderfyniadau. Gallwch edrych i weld a yw cyngor lleol yn codi Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru.
Pan fydd prif gyngor yn penderfynu cyflwyno'r ardoll, bydd angen i ddarparwr llety ymwelwyr ymgyfarwyddo â'r rheolau ar gyfer yr ardoll, ac efallai y bydd angen iddynt addasu rhai arferion busnes neu gadw cofnodion i sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio â'r ardoll.
Bydd darparwyr llety ymwelwyr hefyd yn gallu gofyn am wybodaeth gan y prif gyngor, pan fyddant wedi penderfynu cyflwyno'r ardoll.
Enghraifft
Mae prif gyngor wedi cynnal ymgynghoriad ac wedi penderfynu cyflwyno'r ardoll yn eu hardal. Ar 10 Medi 2026, mae'r cyngor yn cyhoeddi eu hysbysiad ar ei wefan ac yn cynnwys gwybodaeth am:
- eu penderfyniad i gyflwyno'r ardoll
- y ffaith y bydd yr ardoll yn cael ei chyflwyno ar 1 Hydref 2027
- cyfraddau'r ardoll
Prif gynghorau a fforymau partneriaeth
Pan fydd prif gyngor yn cyflwyno’r Ardoll Ymwelwyr yn ei ardal leol, rhaid iddynt sefydlu fforwm partneriaeth ardoll. Bydd y fforwm hwn yn trafod cyfleoedd a materion sy'n ymwneud â’r ardoll yn ardal eu cyngor, yn ogystal â rhoi gwybodaeth a chyngor i'r prif gyngor ar sut y gellid defnyddio'r elw’r ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn yr ardal leol.
Y prif gyngor sydd â chyfrifoldeb dros wneud y penderfynu terfynol ar sut y dylid gwario enillion yr ardoll i reoli a gwella cyrchfannau yn eu hardal. Fodd bynnag, maent hefyd yn gyfrifol am ystyried unrhyw wybodaeth neu gyngor y mae'r fforwm partneriaeth ardoll yn ei ddarparu mewn perthynas â defnyddio enillion yr ardoll neu newidiadau posibl i'r ardoll.
Dylai'r fforwm partneriaeth ardoll gynrychioli ystod o safbwyntiau ar draws y diwydiant twristiaeth a llety ymwelwyr yn ardal y cyngor, a bydd yn rhaid i'r prif gyngor gymryd camau i sicrhau bod y fforwm yn cyflawni hyn. Gall darparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu mewn ardal lle mae'r ardoll yn cael ei chyflwyno, neu lle mae hi eisoes wedi'i chyflwyno, ofyn am ragor o wybodaeth am y fforymau partneriaeth gan eu prif gyngor.
Prif gynghorau ac ymgynghoriadau
I gael gwybodaeth am y rheolau sy'n ymwneud â phrif gynghorau a'r ymgynghoriadau y mae'n rhaid iddynt eu cynnal cyn penderfynu cyflwyno, newid neu ddiddymu'r ardoll, darllenwch y canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
Newidiadau i'r ardoll
Bydd y prif gyngor ond yn gallu gwneud newidiadau i'r ardoll os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau sy'n eu galluogi i wneud hynny. Er enghraifft, trwy ychwanegu swm at gyfraddau'r ardoll.
Os yw’r rheoliadau wedi'u gwneud, ac os yw prif gyngor yn dymuno gwneud newidiadau i'r ardoll, bydd angen iddynt gynnal ymgynghoriad cyn gwneud penderfyniad. Bydd angen i'r penderfyniad hwn gael ei nodi a'i gyhoeddi mewn hysbysiad ar wefan y cyngor, a thrwy unrhyw sianeli eraill y maent yn eu hystyried yn briodol.
Bydd yr hysbysiad yn nodi:
- y penderfyniad a wnaed mewn perthynas â newid yr ardoll
- y dyddiad y bydd yr ardoll yn newid, a all fod ar 1 Ebrill neu 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn ariannol
- beth fydd cyfraddau'r ardoll
- unrhyw wybodaeth arall y mae'r cyngor yn credu ei bod yn briodol i'w chynnwys yn yr hysbysiad
Rhaid i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi o leiaf 6 mis cyn i'r newid gael ei gyflwyno yn ardal y cyngor.
Yn amodol ar reoliadau a wneir yn y dyfodol, ni fydd prif gynghorau yn gallu cymryd camau i newid yr ardoll o fewn y 12 mis cyntaf o’i chyflwyniad mewn ardal.
Os bydd prif gyngor yn penderfynu newid cyfradd ardoll yn eu hardal yn dilyn unrhyw reoliadau yn y dyfodol, bydd darparwyr llety ymwelwyr yn gallu ymateb i ymgynghoriadau a dylid cyhoeddi hysbysiadau i’w hysbysu o unrhyw newidiadau arfaethedig. Bydd ACC hefyd yn darparu gwybodaeth i ddarparwyr llety ymwelwyr cofrestredig yn yr ardal Ardoll Ymwelwyr berthnasol os bydd unrhyw newidiadau.
Diddymu'r ardoll
Gan fod yr Ardoll Ymwelwyr yn dreth leol, gall prif gynghorau sydd wedi cyflwyno'r ardoll benderfynu diddymu'r ardoll yn y dyfodol. I wneud hynny, bydd angen i brif gynghorau gynnal ymgynghoriad, sicrhau eu bod yn bodloni eu rhwymedigaethau ac yna gwneud penderfyniad. Bydd angen i'r penderfyniad hwn gael ei nodi a'i gyhoeddi mewn hysbysiad ar wefan y cyngor, a thrwy unrhyw sianeli eraill y maent yn eu hystyried yn briodol.
Bydd yr hysbysiad yn nodi:
- y penderfyniad i ddiddymu'r ardoll
- y dyddiad y bydd yr ardoll yn cael ei diddymu yn yr ardal honno, a all fod ar 1 Ebrill neu 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn ariannol
- unrhyw wybodaeth arall y mae'r cyngor yn credu ei bod yn briodol i'w chynnwys yn yr hysbysiad
Yn ogystal â'r uchod, rhaid i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi o leiaf 12 mis cyn y bwriedir i'r ardoll gael ei diddymu yn ardal y cyngor. Trwy eithriad, gall prif gyngor ddod i gytundeb ag ACC ar gyfnod sy'n fyrrach na 12 mis.
