Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Trosolwg o’r Ardoll Ymwelwyr
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae’r Ardoll Ymwelwyr yn dreth ar archebion am lety dros nos o fewn yr ardaloedd yng Nghymru lle mae’r prif gyngor wedi cyflwyno’r ardoll. Caiff y dreth ei hunanasesu gan y rhai sy’n darparu llety ymwelwyr.
Ystyr prif gyngor yw cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.
Cyn y gallant gyflwyno ardoll, rhaid i brif gyngor ymgynghori ar y mater gyda’r sefydliadau a’r bobl sy'n cynrychioli twristiaeth a busnesau lleol. Yna, os byddant yn penderfynu ei chyflwyno, rhaid iddynt gyhoeddi hysbysiad cyflwyno a fydd yn datgan ar ba ddyddiad y bydd yr Ardoll Ymwelwyr yn dechrau yn eu hardal.
Yng Nghymru, dim ond ar 1 Ebrill neu 1 Hydref, gan ddechrau o 1 Ebrill 2027, y caiff prif gynghorau gyflwyno'r Ardoll Ymwelwyr.
Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli'r ardoll ar ran y prif gynghorau, ac yna’n trosglwyddo elw’r ardoll yn ôl i’r prif gynghorau er mwyn iddynt ei wario ar ddatblygu twristiaeth gynaliadwy.
Bydd canllawiau pellach ar yr ardoll yn cael eu darparu maes o law, a byddant yn ymwneud â sawl maes, gan gynnwys apeliadau ac adolygiadau, cosbau, cwblhau'r Ffurflen Ardoll Ymwelwyr, a systemau.
