Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Ystyr darparwr llety ymwelwyr
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Darparwr llety ymwelwyr
Mae'r Ardoll Ymwelwyr yn dreth sy’n cael ei hunanasesu. Cyfrifoldeb y darparwr llety ymwelwyr yw cyfrifo’r ardoll a chydymffurfio â hi.
Bydd person yn ddarparwr llety ymwelwyr, os yw’r person hwnnw, yng nghwrs masnach neu fusnes, yn:
- darparu neu gynnig darparu llety ymwelwyr mewn lleoliad yng Nghymru, a
- yn feddiannydd ar y lleoliad lle y darperir y llety ymwelwyr
Ystyr darparu
Mae person yn darparu llety ymwelwyr os yw’r person hwnnw yn ymrwymo i gontract lle y mae gan un neu ragor o bobl hawl i breswylio yn y llety ymwelwyr am o leiaf un noson, mewn lleoliad yng Nghymru, odano neu o ganlyniad iddo.
Mae'r contract rhwng y darparwr llety ymwelwyr a'r ymwelydd neu'r ymwelwyr yn rhan allweddol o’r Ardoll Ymwelwyr, gan mai’r contract sydd yn pennu faint o ardoll sy'n daladwy ar arhosiad.
Enghraifft
Mae Joan yn rhedeg llety gwely a brecwast o leoliad sy’n eiddo iddi hi. Mae hi'n ymrwymo i gontractau gyda gwesteion sy’n caniatáu iddynt aros dros nos yn ei llety gwely a brecwast, sy’n cael ei ystyried yn llety ymwelwyr. Mae Joan yn ddarparwr llety ymwelwyr.
Ystyr yn cynnig darparu
Mae person yn cynnig darparu llety ymwelwyr os ydynt yn fodlon ymrwymo i gytundebau gyda rhywun a chaniatáu iddynt aros o leiaf un noson yn eu lleoliad yng Nghymru, ac mae'n cynnwys hysbysu eraill bod eu llety ar gael i aros ynddo. Byddai cytundebau yn cynnwys y rhai a wneir trwy farchnadoedd ar-lein, cytundebau llafar ac archebion trwy sianeli eraill.
Os yw person yn marchnata neu'n hysbysebu ei leoliad, boed hynny ar wefan, y cyfryngau cymdeithasol, ar blatfform ar-lein arall, mewn llyfrynnau, ar hysbysfyrddau siop neu unrhyw le arall, a’u bod yn fodlon ymrwymo i gytundebau sy’n caniatáu i eraill aros yn eu lleoliad, byddant yn cynnig darparu llety ymwelwyr.
Os yw person yn fodlon derbyn archebion ar gyfer y dyfodol, maent hefyd yn cynnig darparu llety ymwelwyr.
Enghraifft
Mae Liam yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu ei ystafell sbâr dros gyfnodau gwyliau prysur. Gan ei fod yn hysbysebu ei ystafell sbâr ar y rhyngrwyd, mae'n bodloni’r prawf o gynnig darparu llety ymwelwyr.
Ystyr meddiannydd
Fel arfer, meddiannydd y lleoliad yw’r sawl sy’n rheoli’r lleoliad a’r defnydd a wneir ohono, megis rhedeg busnes llety ymwelwyr. Gallant hefyd fod yn gyfrifol am gydymffurfio â gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â'r lleoliad a'i gadw mewn cyflwr da. Mae'n debygol y bydd meddiannydd hefyd yn elwa o ddarparu llety ymwelwyr yn y lleoliad.
Gallai meddiannydd, er enghraifft, fod yn berchennog cyfreithiol ar y lleoliad, yn denant o dan les, neu yn berson sydd â hawl i feddiannu'r lleoliad o dan drwydded i feddiannu.
Mae asiant neu gwmni rheoli sy'n gweithredu ar ran y darparwr llety ymwelwyr yn annhebygol o fod yn feddiannydd y lleoliad.
Enghraifft 1
Mae Mr Jones yn berchen ar lety gwely a brecwast yn Ne Cymru, ac mae gwesteion yn aros yn ei leoliad yn aml; daw ei incwm o'r busnes hwn. Ef yw meddiannydd y llety gwely a brecwast, mae'n ymrwymo i gontractau gydag ymwelwyr sy'n caniatáu iddynt aros dros nos ac felly mae'n ddarparwr llety ymwelwyr.
Enghraifft 2
Mae Margaret yn rhentu fflat yng Nghaerdydd. Gyda chaniatâd ei landlord, mae hi'n gosod ei hystafell sbâr i bobl aros dros nos ar benwythnosau at ddibenion teithio hamdden. Mae hi'n gwneud hyn i ychwanegu at ei hincwm. Margaret yw meddiannydd y fflat ac mae'n cynnig darparu llety ymwelwyr, felly mae hi'n ddarparwr llety ymwelwyr.
