Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Ystyr arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae ystyr arhosiad dros nos yn allweddol wrth bennu cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy.
Mae arhosiad dros nos yn digwydd:
- os oes gan un neu ragor o bobl hawl, o dan gontract, i breswylio am un neu ragor o nosweithiau mewn llety ymwelwyr mewn ardal sydd wedi cyflwyno’r ardoll,
- os darperir y llety i’r bobl hynny yng nghwrs masnach neu fusnes a gynhelir gan y darparwr llety ymwelwyr
- nad yw’r llety yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa unrhyw un neu ragor o’r bobl hynny, ac
- os yw unrhyw un neu ragor o’r bobl hynny yn mynd i mewn i’r llety yn unol â’r contract
At ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, ystyr "noson" yw cyfnod sy’n dechrau ar un diwrnod ac sy’n dod i ben ar y diwrnod nesaf.
Mewn perthynas ag aros dros nos mewn llety ymwelwyr, y darparwr llety ymwelwyr yw’r darparwr llety ymwelwyr:
- sy’n darparu’r llety y mae’r arhosiad yn digwydd ynddo, a
- sy’n feddiannydd ar y lleoliad lle darperir y llety hwnnw.
Contractau a hawliau
Rhan allweddol o'r Ardoll Ymwelwyr, a’r contractau rhwng ymwelwyr a darparwyr llety ymwelwyr, yw'r hawl y mae'n ei greu i ymwelydd breswylio mewn llety ymwelwyr.
Rhaid i'r contract roi hawl i un neu fwy o bobl aros am un neu fwy o nosweithiau yn y llety ymwelwyr.
Fel arfer, bydd contractau’n cael eu ffurfio pan fo’r archeb yn cael ei gadarnhau, boed hynny trwy blatfform archebu, dros y ffôn, ar-lein neu trwy gysylltu â’r darparwr yn uniongyrchol.
Gall contractau, a sut yr ymrwymir iddynt, amrywio’n fawr. O ran yr Ardoll Ymwelwyr, nid fformat y contract sy’n bwysig, ond yn hytrach y ffaith ei fod yn bodoli. Mae gofynion busnes a chadw cofnodion yn golygu bod rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr gadw cofnodion, megis copïau o gontractau, cadarnhad o archebion neu unrhyw ddogfennau ategol eraill, a fydd yn eu helpu i benderfynu ar gyfanswm yr ardoll sy'n daladwy o dan y contract, ac i ddangos bod y dreth gywir wedi'i thalu i ACC.
Contractau nad ydynt yn cael eu cynnwys
At ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, nid yw "contract" yn cynnwys:
- contract gwasanaeth,
- contract prentisiaeth, na
- contractau am wasanaethau y mae person sydd â hawl i breswylio yn y llety ymwelwyr yn darparu gwasanaethau odano i’r darparwr llety ymwelwyr
Enghraifft contract ar gyfer gwasanaethau
Mae Dafydd yn gosod bwthyn mewn ardal lle cyflwynwyd yr ardoll, ac mae angen rhywfaint o waith atgyweirio arno. Mae Dafydd yn cael adeiladwr i wneud y gwaith, ac mae'r adeiladwr yn aros yn y lleoliad tra bydd yn gwneud y gwaith atgyweirio. Mae'r contract gwasanaeth gyda'r adeiladwr yn caniatáu iddo aros yn y llety tra bydd yn gwneud y gwaith atgyweirio. Felly, ni fyddai'r contract hwn yn cyfrif fel contract ac nid oes ardoll ar yr arhosiad.
Enghraifft contract gwasanaeth neu brentisiaeth
Pan fo person sy’n cael ei gyflogi gan y darparwr llety ymwelwyr, neu brentis i'r darparwr llety ymwelwyr, yn aros dros nos yn llety ymwelwyr y darparwr llety ymwelwyr, ac yn gwneud hynny o dan ei gontract cyflogaeth neu brentisiaeth gyda'r darparwr llety ymwelwyr, ni fydd yr arhosiad hwnnw'n cyfrif fel arhosiad dros nos at ddibenion yr ardoll.
Mae Amy yn brentis lletygarwch, ac mae'n aros yn lleoliad darparwr llety ymwelwyr at ddibenion gwaith sy’n ymwneud â'i phrentisiaeth. O dan ei chontract prentisiaeth gyda'r darparwr llety ymwelwyr, caniateir i Amy aros dros nos yn y llety ymwelwyr, sy'n golygu nad yw contract prentisiaeth Amy yn cyfrif fel contract at ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, ac nid oes ardoll yn codi ar ei harhosiad dros nos.
Athrawon sy'n hebrwng myfyrwyr
Pan fydd athro yn hebrwng myfyrwyr ac yn aros mewn llety ymwelwyr nad yw'n eiddo i'r ysgol, byddai'r contract sy'n rhoi hawl iddynt aros dros nos yn y llety ar gyfer y daith o fewn cwmpas yr ardoll.
Enghraifft
Mae ysgol yn archebu taith sy’n defnyddio lleoliad llety ymwelwyr, ac mae'r darparwr llety ymwelwyr yn caniatáu i’r athrawon sy'n hebrwng y myfyrwyr aros yno am ddim. Mae'r contract gyda’r ysgol ar gyfer yr arhosiad dros nos yn cynnwys yr holl fyfyrwyr ac athrawon. Does ots bod yr athrawon yn cael aros am ddim, mae'r arosiadau dros nos gan yr athrawon yn cyfrif wrth bennu cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy am y daith ysgol. Y rheswm am hyn yw bod y contract yn rhoi hawl i athrawon aros dros nos yn y llety ymwelwyr.
Mynd i mewn i'r llety
Pan fo gan fwy nag un person hawl o dan gontract i breswylio mewn llety ymwelwyr, gall yr arhosiad dros nos ddigwydd hyd yn oed os mai dim ond un o’r rhai sydd â hawl o dan y contract sy'n defnyddio'r llety.
Er enghraifft, mae Jordan a Fred yn archebu lle i aros mewn yurt mewn ardal lle mae'r ardoll yn berthnasol, ac mae'r contract a ffurfiwyd gyda'r darparwr llety ymwelwyr yn rhoi hawl iddynt aros yn y lleoliad dros nos. Ar y funud olaf, mae Jordan yn cael ei alw i’r gwaith yn annisgwyl ac nid yw’n gallu ymuno â Fred. Nid yw’r contract wedi newid, felly pan fydd Fred yn cyrraedd y llety ymwelwyr, yn mynd i mewn i'r yurt ac yn aros yno, mae'r arhosiad dros nos yn digwydd gan ei fod wedi arfer yr hawl o dan y contract.
Pan na fydd arhosiad dros nos yn digwydd
Mae nifer o resymau dros beidio â dosbarthu arhosiad fel arhosiad dros nos at ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, ac ni fydd unrhyw atebolrwydd yn codi ar y mathau hyn o arhosiad.
Pan na fydd arhosiad dros nos yn digwydd
Mae nifer o resymau dros beidio â dosbarthu arhosiad fel arhosiad dros nos at ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, ac ni fydd unrhyw atebolrwydd yn codi ar y mathau hyn o arhosiad.
Unigolyn yn aros am fwy na 31 noson
Nid yw arhosiad dros nos yn digwydd mewn llety ymwelwyr os:
- yw’r contract yn rhoi hawl i un neu fwy o unigolion penodol aros mewn llety ymwelwyr, boed yng nghwmni unrhyw berson arall ai peidio
- mae gan bob unigolyn penodol hawl o dan y contract i aros yno am fwy na 31 noson, boed y nosweithiau hynny'n olynol ai peidio, a
- mae gan bob unigolyn penodol hawl o dan y contract i aros yno bob noson y mae'r contract yn darparu ar ei chyfer
Nid oes rhaid i’r 32 arhosiad dros nos ddigwydd o fewn unrhyw gyfnod penodol, ac nid oes angen i'r nosweithiau fod yn olynol. Fodd bynnag, mae'r gofyniad am un contract sengl ar gyfer yr unigolyn neu'r unigolyn penodol yn dal i fod yn berthnasol.
Enghraifft 1
Mae Kari yn archebu ystafell mewn gwesty am 40 noson, mae'r contract sy'n rhoi'r hawl iddi aros yn y gwesty yn rhoi hawl iddi aros yn y gwesty bob nos. Gan fod Kari wedi archebu mwy na 31 noson, mae'r daith hon y tu allan i gwmpas yr ardoll ac nid yw'r 40 noson yn cyfrif fel arosiadau dros nos.
Enghraifft 2
Mae Lloyd yn aml yn teithio gyda’i waith, ac mae’n archebu llety ar gyfer 12 taith dros y 18 mis nesaf yn uniongyrchol gyda darparwr hunanarlwyo, pob un yn 5 noson o hyd. Mae'n ymrwymo i un contract gyda'r darparwr llety ymwelwyr, ac mae'r contract yn rhoi hawl iddo aros yn y llety bob nos am 5 noson ar bob un o'r 12 taith. Gan fod Lloyd wedi archebu cyfanswm o 60 noson, sy'n fwy na 31 noson, a chan fod y teithiau hyn yn cael eu llywodraethu gan un contract, maent y tu allan i gwmpas yr ardoll ac nid yw'r 60 noson yn cyfrif fel arosiadau dros nos.
Ni fydd arhosiad dros nos yn digwydd pan fo'r llety:
- yn cael ei drefnu ar gyfer person gan brif gyngor, neu’r llety yn cael ei ddarparu ar ran y cyngor, o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy'n ymwneud â digartrefedd
- yn cael ei ddarparu o dan adran 4 neu Ran 6 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- yn cael ei ddarparu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan adran 3(6) o Ddeddf Mechnïaeth 1976
- yn cael ei ddarparu o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 at ddibenion cyfnod prawf
- yn ymwneud â chyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 i Ddeddf Mewnfudo 2016 er mwyn rhoi llety i berson mewn cyfeiriad a bennir mewn amodau mechnïaeth mewnfudo
Fel rhan o'r gofynion cadw cofnodion, dylai darparwyr llety ymwelwyr gadw cofnodion sy'n ymwneud ag arosiadau hyd yn oed pan nad yw'r ardoll yn berthnasol. Bydd hyn yn eu helpu i ddangos bod cyfanswm yr ardoll y maent yn ei dalu i ACC yn gywir, a bod eu ffurflen Ardoll Ymwelwyr yn gywir.
Bydd ACC yn cynhyrchu canllawiau pellach ar y mathau hyn o arosiadau.
