Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Pwy sy'n talu'r ardoll
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Er bod yr ardoll yn cael ei chyfrifo ar sail y nifer o nosweithiau y mae gan ymwelydd hawl i breswylio mewn lleoliad o dan gontract, y sawl sy’n darparu’r llety ymwelwyr sydd ag atebolrwydd am dalu’r ardoll.
Felly, os yw prif gyngor yn cyflwyno'r ardoll, y darparwr llety ymwelwyr sy'n gyfrifol am dalu'r ardoll i ACC ar arhosiad dros nos. Gall darparwyr llety ymwelwyr ddewis 'trosglwyddo' costau'r ardoll i’r ymwelwyr, ond nid yw’r ddeddfwriaeth yn gwneud hynny’n ofynnol. Waeth pa ddewis a wneir, rhaid i'r darparwr llety ymwelwyr dalu'r ardoll i ACC am bob arhosiad dros nos perthnasol yn eu lleoliad.
Mae darparwr llety ymwelwyr yn atebol am dalu'r ardoll ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr pan fydd yr arhosiad dros nos wedi digwydd a phan fo’r hawl i aros yn y llety o dan y contract yn dod i ben. Felly, pan fydd darparwr llety ymwelwyr yn ffeilio ei ffurflen Ardoll Ymwelwyr, bydd yn hunanasesu cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu dan sylw. Bydd hyn yn seiliedig ar nifer yr arosiadau dros nos y maent wedi'u cael o dan gontract yn ystod y cyfnod dan sylw.
Gan y bydd ACC yn casglu ac yn rheoli'r Ardoll Ymwelwyr ar ran yr holl brif gynghorau sy'n cyflwyno'r ardoll, bydd angen i ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu ar draws mwy nag un ardal yng Nghymru lle mae'r ardoll yn berthnasol ffeilio ffurflenni Ardoll Ymwelwyr a thalu unrhyw ardoll sy'n ddyledus i ACC.
Er enghraifft, Mae Marie yn aros mewn bwthyn mewn ardal lle mae'r Ardoll Ymwelwyr yn berthnasol. Mae'n aros yno ar ei phen ei hun am wythnos. Mae'r atebolrwydd am yr Ardoll Ymwelwyr o dan y contract ar gyfer wythnos Marie yno yn codi pan fydd hawl Marie i aros yno wedi dod i ben o dan y contract, a elwir yn gyffredinol yn bwynt 'gadael' y lleoliad.
Trosglwyddo costau'r ardoll
Gall darparwyr llety ymwelwyr benderfynu trosglwyddo rhywfaint o gost yr ardoll, neu’r holl gost, i ymwelwyr. Weithiau, gall llwyfannau archebu neu asiantau teithio gasglu’r ardoll ar ran y darparwyr llety ymwelwyr sy'n eu defnyddio.
Gall darparwr llety ymwelwyr sy'n trosglwyddo cost yr ardoll i ymwelwyr benderfynu pryd i'w chasglu gan ymwelwyr. Yn ymarferol, gellir casglu’r swm i dalu’r ardoll:
- pan fo’r llety ymwelwyr yn cael ei archebu
- pan fo’r swm dyledus am y trip yn cael ei dalu
- pan fo’r ymwelwyr yn cyrraedd
- yn ystod arhosiad yr ymwelwyr
- pan fydd yr ymwelwyr yn gadael
Yr arfer gorau i ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n trosglwyddo'r gost i gwsmeriaid yw i fod yn gwbl glir:
- bod y pris y maent yn ei godi yn cynnwys yr ardoll, ac
- mai dyma gyfanswm y pris y bydd y cwsmer yn ei dalu
Er nad oes angen i'r ardoll gael ei nodi fel cost ar wahân bryd hynny, gall gwneud hyn fod yn ddefnyddiol i’r ymwelydd ac i’r darparwyr llety ymwelwyr er tryloywder.
Er mwyn helpu darparwyr llety ymwelwyr i gydymffurfio â'r Ardoll Ymwelwyr, efallai y bydd angen iddynt:
- ddiweddaru eu manylion rhestru
- gwirio’r rheolau prisio presennol, er mwyn i’r ymwelydd wybod cyfanswm y pris y maent yn ei dalu i'r darparwr, a
- diweddaru telerau ac amodau archebion, yn ogystal ag anfonebau a derbynebau i ddangos bod yr ardoll wedi'i chynnwys yng nghyfanswm y pris, os yw'r gost yn cael ei throsglwyddo
Gall darparwyr llety ymwelwyr hefyd fod eisiau diweddaru eu gwefannau, eu hysbysebion a’u deunydd hyrwyddo, a’r sianeli eraill y maent yn eu defnyddio i helpu i drosglwyddo gwybodaeth i ymwelwyr.
Ymwelydd yn gwrthod talu
Pan fo'r darparwr llety ymwelwyr yn penderfynu trosglwyddo rhywfaint o’r gost neu’r gost i gyd i'r ymwelydd, y darparwr llety ymwelwyr sydd yn parhau i fod yn atebol am yr ardoll ar yr arhosiad hwnnw ar ôl iddo ddigwydd, a nhw sy’n gyfrifol am drosglwyddo swm yr ardoll i ACC.
Pe bai ymwelydd yn gwrthod talu'r ardoll, byddai hynny’n fater sifil, a byddai angen i'r darparwr llety ymwelwyr benderfynu a ydynt am ysgwyddo cost yr ardoll eu hunain neu am ganslo'r archeb.
Yr Ardoll Ymwelwyr a TAW
Yn y DU, fel arfer codir TAW ar 20% ar y pris a delir am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau trethadwy, a all gynnwys rhai trethi, ardollau a thaliadau penodol.
Ddim wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW
Os nad ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW a’ch bod yn trosglwyddo rhywfaint neu'r ardoll i gyd i'r ymwelydd trwy godi eich prisiau, bydd yn cyfrif tuag at eich trosiant trethadwy. Dylai darparwyr llety ymwelwyr sydd heb eu cofrestru ar gyfer TAW fod yn ymwybodol o'r trothwy TAW a osodwyd gan Lywodraeth y DU, a gwybod a oes angen iddynt gofrestru ar gyfer TAW gyda CThEF yn y dyfodol.
Siaradwch â chyfrifydd neu â CThEF os oes gennych gwestiynau ynghylch cofrestru at ddibenion TAW neu'r rheolau TAW.
Wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW
O ran yr Ardoll Ymwelwyr, os yw darparwr llety ymwelwyr sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW yn cynnwys yr Ardoll Ymwelwyr o fewn cost y llety dros nos, bydd hyn yn rhan o'r taliad dan gontract ar gyfer cyflenwi llety. Bydd y rhan hon o'r Ardoll Ymwelwyr yn ddarostyngedig i'r un atebolrwydd TAW â'r llety.
Bydd TAW yn ddyledus ar gyfanswm taliad yr ymwelydd i'r darparwr llety ymwelwyr yn gyfnewid am gael aros dros nos.
Os yw'r darparwr llety yn trosglwyddo rhywfaint neu'r cyfan o'r Ardoll Ymwelwyr i'r ymwelydd drwy gynyddu’r pris am yr arhosiad dros nos, bydd TAW yn dal i fod yn daladwy ar y pris uwch, gan ei fod yn rhan o'r taliad cyffredinol gan yr ymwelydd i'r darparwr. Bydd y darparwr llety yn cyfrif am y TAW ar y ffurflen TAW y mae’n ei chyflwyno i CThEF.
Os fydd y darparwr llety yn cadw’i brisiau yn un fath, ac yn hytrach yn dewis talu cost lawn yr ardoll ei hun, nid oes unrhyw atebolrwydd TAW ychwanegol, a hynny am nad yw’r pris a godir ar yr ymwelydd wedi newid. Bydd TAW yn parhau i fod yn berthnasol i’r costau a godir ar yr ymwelydd, yn ôl yr arfer.
Efallai y bydd rhyddhad rhag TAW ar gael ar gyfer mathau penodol o lety ar gyfer arosiadau sy’n para mwy na 28 noswaith yn olynol. Gweler Hysbysiad TAW 709/3 (Saesneg yn unig) neu cysylltwch â CThEF am gyngor.
Treth incwm a threth gorfforaeth
Fel arfer, byddai unigolion neu gwmnïau sy'n defnyddio rheolau cyfrifyddu i gyfrifo eu helw at ddibenion incwm neu dreth gorfforaeth yn eithrio'r Ardoll Ymwelwyr o’r cyfrifiad o elw (yn yr un modd ag y mae TAW wedi'i eithrio o'r cyfrifiad hwnnw). Mae'r driniaeth hon yn dderbyniol ac yn golygu nad yw'r Ardoll Ymwelwyr yn cael unrhyw effaith ar swm yr elw trethadwy.
Gall unigolion sy'n defnyddio'r sail arian parod ddewis cynnwys neu eithrio swm yr Ardoll Ymwelwyr o'u cyfrifiad o elw trethadwy. Os ydynt yn cynnwys yr Ardoll Ymwelwyr yn rhan o’u hincwm, bydd rhaid iddynt gynnwys yr Ardoll Ymwelwyr y maent yn ei dalu i ACC fel cost hefyd. Dylai hyn olygu eu bod yn yr un sefyllfa gyffredinol â'r rhai sy'n eithrio'r Ardoll Ymwelwyr yn gyfan gwbl.
